Datganiad i'r wasg

Alun Cairns yn rhoi sylwadau ar y ffigurau diweddaraf ar gyfer swyddi

Cyfraddau cyflogaeth wedi cynyddu yng Nghymru.

Mae lefelau cyflogaeth sy’n cynyddu yn arwydd clir bod Cymru ar agor i fusnes, yn ôl Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru heddiw (13 Rhagfyr).

Dengys ffigurau a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) fod y gyfradd cyflogaeth yng Nghymru wedi cynyddu 0.5% yn ystod y chwarter.

Mae’r ystadegau’n dangos y canlynol: * Mae lefel diweithdra wedi cynyddu 6,000 (0.4 pwynt canran) dros y chwarter. Mae’r gyfradd yng Nghymru bellach yn 4.7%, sy’n uwch na chyfartaledd y DU, sef 4.3% * Mae’r lefel cyflogaeth yng Nghymru wedi cynyddu 2,000 (0.5 pwynt canran) dros y chwarter. Mae’r gyfradd cyflogaeth bellach yn 72.8%, sy’n dal yn is na chyfartaledd y DU (75.1%) * Mae cyfanswm cyflogaeth y DU 56,000 yn is (0.2 pwynt canran) dros y chwarter ond yn 325,000 yn uwch (0.7 pwynt canran) dros y flwyddyn. Mae’r gyfradd cyflogaeth bellach yn 75.1% * Mae cyfanswm diweithdra’r DU 26,000 yn is (0.1 pwynt canran) dros y chwarter a 182,000 yn is (0.6 pwynt canran) dros y flwyddyn. Mae’r gyfradd cyflogaeth bellach yn 4.3% sydd ymysg yr isaf ers 1975.

Dywedodd Alun Cairns, yr Ysgrifennydd Gwladol:

Er mai gwych o beth yw gweld bod lefelau cyflogaeth wedi cynyddu, mae angen gwneud mwy o hyd i sicrhau bod lefelau cyflogaeth yn gynaliadwy.

Mae Llywodraeth y DU yn gweithio’n galed i greu’r amodau priodol ar gyfer twf economaidd, buddsoddi a swyddi yng Nghymru, drwy roi polisïau penodol ar waith – fel cael gwared ar dollau Pontydd Hafren. Byddwn yn dal i wneud mwy i ddangos cryfder economi Cymru i fusnesau.

Rwy’n bendant y bydd allforio mwy i farchnadoedd newydd yn tyfu economi Cymru ac yn creu swyddi ar draws Cymru. Rwy’n gwneud popeth yn fy ngallu gyda chefnogaeth fy nghyd-Weinidogion yn y Cabinet i helpu cwmnïau yng Nghymru i gynyddu eu potensial allforio.

Cyhoeddwyd ar 13 December 2017