Datganiad i'r wasg

Alun Cairns yn galw ar ysgolion Cymru i gofrestru ar gyfer rhaglen newydd sy’n cael cymorth y DU i gysylltu ysgolion â dosbarthiadau yn Affrica, Asia a’r Dwyrain Canol

Bydd Ysgrifennydd Cymru yn ymweld ag Ysgol Heronsbridge ym Mhen-y-bont ar Ogwr i lansio’r rhaglen Connecting Classrooms through Global Learning yng Nghymru

Bydd Alun Cairns, Ysgrifennydd Cymru, yn ymweld ag Ysgol Heronsbridge ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn nes ymlaen heddiw (dydd Llun, 12 Tachwedd), i annog rhagor o ysgolion yng Nghymru i gofrestru ar gyfer y rhaglen Connecting Classrooms through Global Learning, sy’n cael cymorth gan y DU ac a lansiwyd yn Lloegr ym mis Medi.

Mae’r cynllun yn cael ei gyllido ar y cyd gan yr Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol a’r British Council, ac mae’n uno disgyblion yn y DU â phlant ysgol ar draws y byd er mwyn meithrin cyfeillgarwch a gwella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o faterion byd-eang.

Nod y rhaglen yw cysylltu dros dair miliwn o ddisgyblion ysgolion cynradd ac uwchradd yn y DU ag ysgolion mewn gwledydd ledled Affrica, Asia a’r Dwyrain Canol. Bydd hefyd yn hyfforddi 60,000 o athrawon ac arweinwyr ysgolion yn y DU a gwledydd datblygol i roi gwybodaeth a sgiliau i’r disgyblion allu byw a gweithio yn yr economi fyd-eang.

Mae Heronsbridge yn un o’r nifer cynyddol o ysgolion yng Nghymru sydd eisoes yn cymryd rhan yn y rhaglen, ac mae ganddi gysylltiadau ag ysgolion yn Tanzania yn barod. Mae athrawon a disgyblion yn cymryd rhan mewn cynlluniau cyfnewid yn rheolaidd ac yn rhannu gwaith ar bynciau fel diwylliant, hawliau a chyfrifoldebau a’r amgylchedd.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae rhaglen Llywodraeth y DU - Connecting Classrooms through Global Learning - yn ffordd werthfawr i blant yma yng Nghymru gael golwg ehangach ar y byd yn ifanc iawn, gan ddysgu mwy am y materion sy’n effeithio ar wledydd ledled y byd. Mae hefyd yn gyfle i ysgolion ar draws y byd elwa ar gymorth a gwybodaeth athrawon ym Mhrydain.

Rwy’n annog ysgolion cynradd ac uwchradd ledled Cymru i gofrestru i gymryd rhan mewn cynllun mor ystyrlon sy’n gweithredu ar draws rhwydwaith byd-eang helaeth.

Mae Connecting Classrooms through Global Learning yn rhan o gynllun sy’n cyflwyno 17 Nod Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig i fyfyrwyr ac athrawon yn y DU ac ar draws y byd. Bwriad y Nodau yw arwain at ddyfodol mwy cynaliadwy i bawb, ac maent yn cynnwys mynd i’r afael â newyn, darparu dŵr glân ac ynni glân fforddiadwy. Mae ymchwil wedi dangos y gall ‘cysylltu ysgolion’ wella ansawdd yr addysgu a’r dysgu yn yr ysgolion dan sylw, gan wella ymgysylltiad y disgyblion a chymhelliant yr athrawon.

Dywedodd Penny Mordaunt, yr Ysgrifennydd dros Ddatblygu Rhyngwladol:

Mae Connecting Classrooms through Global Learning o fudd i’r DU ac o fudd i’r gwledydd datblygol.

Bydd y rhaglen yn meithrin partneriaethau dwfn ac ystyrlon rhwng ysgolion a chymunedau yn y DU a gwledydd ar draws y byd.

Rwyf wedi clywed straeon hyfryd yn barod am sut mae’r plant sy’n cymryd rhan wedi sylweddoli faint sydd ganddynt yn gyffredin, a faint maen nhw wedi’i ddysgu gan y naill a’r llall, ac wedi meithrin cyfeillgarwch am oes.

Dywedodd Jenny Scott, Cyfarwyddwr British Council Cymru:

Mae Connecting Classrooms through Global Learning yn rhoi cyfle i bobl ifanc ddatblygu’r wybodaeth, y sgiliau a’r ddealltwriaeth sydd eu hangen arnyn nhw i ffynnu mewn cymdeithas sy’n fwyfwy byd-eang. Mae’r bartneriaeth rhwng Ysgol Heronsbridge ac ysgolion yn Affrica yn dangos cymaint o effaith y gall y cysylltiadau hyn ei chael ar ddisgyblion, athrawon a’r gymuned leol. Gobeithio y bydd ysgolion o bob cwr o Gymru yn cofrestru i gymryd rhan.

Cyhoeddwyd ar 12 November 2018