Datganiad i'r wasg

Alun Cairns yn cyhoeddi ymweliad masnach â Qatar i gryfhau cysylltiadau’r DU â diwydiant y Dwyrain Canol

“Hediadau rhwng Cymru a Qatar yn dangos bod ein gwlad yn agored i fusnes”

Bydd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn bwriadu cryfhau’r bartneriaeth ddeinamig rhwng y DU a’r Dwyrain Canol pan fydd yn ymweld â Qatar yn ddiweddarach y mis hwn.

Bydd Mr Cairns yn cwrdd ag uwch swyddogion gweithredol o Qatar Airways ynghyd â darpar fuddsoddwyr eraill i feithrin mwy o gyfleoedd busnes rhwng Cymru a Qatar.

Caiff y cyhoeddiad hwn ei wneud yr un diwrnod ag y cadarnhawyd y bydd y gwasanaeth newydd o Gaerdydd i Doha ar Qatar Airways yn cael ei lansio ar 1 Mai 2018, gyda’r tocynnau’n mynd ar werth o heddiw ymlaen.

Dywedodd Mr Cairns, a gafodd sgyrsiau rheolaidd ag uwch reolwyr yn Qatar Airways i gyflwyno’r achos dros gael gwasanaeth o Gymru:

Mae enw da Qatar fel cwmni awyrennau yn rhagorol ac mae economi agored Prydain sy’n canolbwyntio ar fusnes yn amlwg wedi llywio penderfyniad y cwmni i lansio gwasanaeth o Gymru.

Bydd y llwybr newydd hwn yn cyfleu neges gadarnhaol am Gymru sy’n edrych allan ac yn datblygu masnach ryngwladol a chysylltiadau twristiaeth â gweddill y byd. Rydw i’n edrych ymlaen at weld yr awyrennau’n hedfan o faes awyr ein prifddinas y gwanwyn nesaf.

Mae Qatar eisoes yn un o dair marchnad allforio fwyaf y DU yn y Dwyrain Canol ac mae hefyd yn gyfrifol am £35 biliwn o fuddsoddiad presennol yn y DU. Mae’r fasnach rhwng y ddwy wlad yn werth dros £5 biliwn y flwyddyn ac mae’r berthynas rhwng y gwledydd hyn yn parhau i fynd o nerth i nerth.

Ymunodd Mr Cairns â Liam Fox, yr Ysgrifennydd Masnach Ryngwladol yn y sioe fasnach fwyaf erioed i gael ei chynnal ym Mhrydain rhwng Qatar a’r DU, a gynhaliwyd yn Birmingham yn gynharach eleni, lle pwysleisiodd y pethau unigryw sydd gan Gymru i’w cynnig i ddarpar fewnfuddsoddwyr o’r Dwyrain Canol.

Dywedodd Mr Cairns gan siarad cyn ei ymweliad â’r Dwyrain Canol yn ddiweddarch y mis hwn:

Qatar yw un o bartneriaid masnachol pwysicaf y DU. Mae’r cysylltiadau sydd rhyngom eisoes yn rhai cryf iawn ond mae’n siŵr y bydd yr ymweliad hwn yn rhoi’r cyfle i ni feithrin ac adeiladu ar y perthnasau hynny.

Mae gan fusnesau yng Nghymru gymaint i’w gynnig i’r Dwyrain Canol - ac i’r gwrthwyneb. Mae’n hanfodol ein bod yn parhau i weithio gyda’n gilydd i feithrin y cysylltiadau hyn, yn y gobaith y caiff cysylltiadau busnes, addysg a diwylliannau pellach eu creu er bydd y DU gyfan.

Cyhoeddwyd ar 13 September 2017