Datganiad i'r wasg

Gweinidog Swyddfa Cymru, Alun Cairns, yn cyhoeddi estyniad i ganolfan dechnoleg Caerdydd i roi hwb i gwmnïau digidol newydd yng Nghymru

Alun Cairns: "Dyma'r amser i roi sylw i'r clwstwr technoleg cyffrous hwn sy'n gweddnewid economi ddigidol Cymru."

Mae Alun Cairns, Gweinidog Swyddfa Cymru, yn ne Cymru heddiw (2 Gorffennaf) er mwyn ymweld â chwmnïau technoleg llwyddiannus sy’n helpu i sbarduno’r economi ddigidol yng Nghymru.

Bydd Alun Cairns yn ymweld â rhai o’r cymunedau arloesi a chwmnïau technoleg newydd mwyaf blaenllaw yng Nghaerdydd, gan gynnwys Method4 i gyhoeddi cynlluniau i ymestyn eu swyddfeydd 7,000 o droedfeddi sgwâr er mwyn annog mwy o ddarpar entrepreneuriaid a chwmnïau technoleg newydd i ymuno â nhw.

De Cymru yw un o’r clystyrau technoleg sy’n datblygu gyflymaf yn y DU – gyda 60% o’r cwmnïau a holwyd ar gyfer adroddiad Tech Nation yn dweud eu bod yn rhan o glwstwr digidol.

Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, Alun Cairns:

Mae’r sector digidol yng Nghymru yn datblygu’n gyflym – mae’n creu swyddi, yn rhoi hwb i dwf yr economi ac yn cadarnhau ein safle fel canolfan ragoriaeth ym maes technoleg.

Mae cwmnïau newydd arloesol ym maes technoleg yn rhan ganolog o’r twf hwn, ac mae’r rhan fwyaf o’r rhain yn deillio o gymunedau cydweithredol o entrepreneuriaid fel Canolfan Arloesi Menter Cymru a Method4 yma yn ne Cymru.

Dyma’r amser i roi sylw i’r clwstwr technoleg cyffrous hwn sy’n gweddnewid economi ddigidol Cymru.

Bydd Mr Cairns yn dechrau’r diwrnod yng Nghanolfan Arloesi Menter Cymru (ICE) – man gweithio cymunedol sy’n gatalydd i gwmnïau newydd a mentrau bach ac yn dod â busnesau a phobl fusnes at ei gilydd.

Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Canolfan Arloesi Menter Cymru, Gareth Jones:

Rydym yn falch iawn bod adroddiad Tech Nation wedi cydnabod ein bod yn gwneud cyfraniad pwysig at ddatblygu’r cyfle cyffrous hwn i gwmnïau newydd yn y DU. Mae dros 75 o fusnesau yn gweithio yng Nghanolfan Arloesi Menter Cymru ar hyn o bryd, ac mae dros 250 o swyddi wedi cael eu creu mewn rhan hyfryd o’r byd.

Mae’n braf cael croesawu Gweinidog Swyddfa Cymru i’r ganolfan i gwrdd â rhai o’r busnesau, ac i gael cyfle i ddeall rhai o’r heriau a’r cyfleoedd mae microfusnesau yng Nghymru yn eu hwynebu. Mae’n gyfnod cyffrous i weithio ar yr ochr hon i’r ffin, ac mae’n hollbwysig bod popeth posib yn cael ei wneud i sicrhau ein bod yn achub ar y cyfle ac yn dangos bod rhanbarth y brifddinas yn un o’r prif ganolfannau arloesi ledled Ewrop a’r byd.

Mae sylw a diddordeb y Gweinidog yn galonogol iawn, ac yn dangos bod Llywodraeth y DU yn gweld y cymunedau hyn yn bwysig dros ben.

Yna bydd yn ymweld â chanolfan dechnoleg sydd wedi cael ei chreu gan Method4 – cwmni o Gaerdydd sy’n cynnig atebion ar gyfer meddalwedd i amrywiaeth eang o sefydliadau. Mae swyddfeydd Method4 yn Imperial House yng Nghaerdydd, a rhoddodd wahoddiad i IndyCube a DevOpsGuys ddod i weithio yn yr adeilad er mwyn creu canolfan ar gyfer rhagoriaeth dechnolegol ac arbenigedd digidol a fyddai o fudd i gwmnïau digidol hen a newydd.

Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Method4, Christian Coates:

Mae’n bleser gennyf groesawu’r Gweinidog i Method4 heddiw i gyhoeddi cynlluniau i ddatblygu swyddfeydd newydd, 7,000 o droedfeddi sgwâr, yn Imperial House yn Trade Street.

Bydd y lle newydd hwn yn cael ei ddefnyddio gan Method4, DevOpsGuys ac IndyCube – sy’n rhai o denantiaid presennol Imperial House – a byddwn hefyd yn estyn croeso i fwy o fusnesau technoleg ac entrepreneuraidd ddod i ymuno â’r gymuned hon mewn lleoliad sydd wedi bod yn gartref i Method4 ers 2005.

Bydd wedyn yn ymweld ag IndyCube – man gweithio cydweithredol sy’n cynnig lle i ficrofusnesau a chwmnïau newydd rwydweithio, i ddysgu gan gydweithwyr ac i ddatblygu eu busnes am bris isel. Mae IndyCube yn Gwmni Buddiannau Cymunedol, ac mae ei holl arian yn cael ei ailfuddsoddi i ddatblygu’r gymuned gydweithredol. Mae 43 o ddarpar entrepreneuriaid yn gweithio yn IndyCube ar hyn o bryd, ac mae’r nifer hwn yn siŵr o gynyddu yn sgil yr estyniad newydd.

Dywedodd sylfaenydd IndyCube, Mark Hooper:

Mae ein safle yn Trade Street yn prysur ddod yn un o’n lleoliadau mwyaf poblogaidd. Mae hynny’n ddealladwy wrth ystyried ei fod yn agos at ganol Caerdydd ac at orsaf Caerdydd Canolog.

Mae llawer o fusnesau sy’n edrych tua’r dyfodol gerllaw hefyd, ac mae hynny’n gyfuniad prin sy’n galluogi unigolion a busnesau i ffynnu.

Ar ôl hynny bydd y Gweinidog yn ymweld â DevOpsGuys, cwmni sy’n ei gwneud yn hawdd i fusnesau ar-lein reoli eu rhaglenni yn y cwmwl. Mae’r cwmni yn cynnig gwasanaeth cynllunio, codio, creu a phrofi personol, ynghyd â chefnogaeth 24 awr y dydd.

Dywedodd cyd-sylfaenydd DevOpsGuys, James Smith:

Rydym wedi sefydlu DevOpsGuys yng Nghaerdydd er mwyn bod yn rhan o’r datblygiad hwn. Roeddem am gynnig cyfleoedd i bobl yng Nghymru – mae cymaint o sgiliau yma. Hefyd rydym yn gweithio gyda chwmnïau rhyngwladol ac yn ffurfio partneriaethau â chewri’r diwydiant ar draws y byd.

Mae hwn yn gyfle gwych i rannu rhai o’r talentau sydd wedi’u meithrin yng Nghymru, i greu cyfleoedd gyrfa unigryw a llawn boddhad ac i wneud cysylltiadau ar hyd a lled y byd. Mae’n gyfnod cyffrous iawn.

Cyhoeddwyd ar 2 July 2015