Datganiad i'r wasg

Mae bron i 430,000 o bobl ifanc yn cael eu hannog i hawlio’u harian

Gallai cannoedd ar filoedd o bobl ifanc fod â £2,000, ar gyfartaledd, yn aros i gael ei hawlio o’u cyfrifon Cronfa Ymddiriedolaeth Plant.

Fel rhan o Wythnos Cynilion y DU (sy’n rhedeg o 18 i 24 Medi 2023), mae Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn annog bron i 430,000 o bobl ifanc, rhwng 18 a 21 oed, sydd heb hawlio’r arian yn eu Cronfa Ymddiriedolaeth Plant i wneud hynny. Mae bob cronfa werth tua £2000 ar gyfartaledd.

Mae Cronfeydd Ymddiriedolaeth Plant yn gyfrifon cynilo hirdymor sy’n rhydd o dreth. Sefydlwyd y cronfeydd hyn ar gyfer pob plentyn a aned rhwng 1 Medi 2002 a 2 Ionawr 2011, gyda’r llywodraeth yn cyfrannu taliad cychwynnol gwerth o leiaf £250. Gall arian gael ei gymryd o’r cyfrif unwaith iddi aeddfedu, a bydd hynny’n digwydd pan fydd y plentyn yn troi’n 18 oed.

Mewn arolwg diweddar gan UCAS, gofynnwyd cwestiynau ynghylch y cynllun Cronfa Ymddiriedolaeth Plant i fyfyrwyr a oedd yn eu blwyddyn gyntaf neu eu hail flwyddyn o brifysgol. Dangosodd y canlyniadau bod (43%) o ymatebwyr am wybod faint o arian oedd yn eu cyfrifon, a (32%) am wybod sut i’w hawlio. Roedd yr arolwg hefyd yn dangos bod 60% o fyfyrwyr wedi cael eu gwybodaeth am Gronfeydd Ymddiriedolaeth Plant oddi wrth eu rhieni.

Gall pobl ifanc a rhieni chwilio GOV.UK i ddod o hyd i’w cyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant.

Dywedodd Angela MacDonald, Dirprwy Brif Weithredwr ac Ail Ysgrifennydd Parhaol CThEF:

Mae nifer o bobl ifanc rhwng 18 a 21 mlwydd oed yn dechrau mewn swydd neu brentisiaeth am y tro cyntaf, neu’n dechrau yn y brifysgol, neu’n symud i’w tŷ cyntaf eu hunain – ac mae’r Gronfa Ymddiriedolaeth Plant fel swmp o arian yn aros amdanynt. Byddaf yn annog pobl ifanc i ddefnyddio’r offeryn ar-lein i ddod o hyd i’w cronfa, neu’n annog rhieni i sôn am y cronfeydd hyn er mwyn sicrhau bod eu plant yn ymwybodol ohonynt. Gall hyn wneud gwahaniaeth go iawn i’w cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Ar hyn o bryd, mae 5.3 miliwn o gyfrifon Cronfa Ymddiriedolaeth Plant ar agor. Gall person ifanc sy’n 16 oed neu’n hŷn gymryd rheolaeth dros ei Gronfa Ymddiriedolaeth Plant ei hun, ond bydd yn rhaid iddo aros i droi’n 18 oed cyn cael at yr arian. Mae dros 500,000 o gyfrifon Cronfa Ymddiriedolaeth Plant sydd wedi’u haeddfedu eisoes wedi cael eu hawlio, neu wedi cael eu trosglwyddo i ISA, ers i blant hynaf y cynllun droi’n 18 oed ym mis Medi 2020.

Gall teuluoedd barhau i dalu hyd at £9,000 yn rhydd o dreth i mewn i gyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant pob blwyddyn, hyd nes i’r cyfrif aeddfedu. Mae’r arian yn aros yn y cyfrif tan fod y plentyn yn cymryd yr arian allan, neu’n ei ail-fuddsoddi mewn cyfrif arall.

Roedd 74% o ymatebwyr i arolwg UCAS yn ymwybodol o’r cynllun Cronfa Ymddiriedolaeth Plant.

Dyma rhai o ganlyniadau eraill yr arolwg:

  • roedd 75% o’r dynion a ymatebodd yn ymwybodol o Gronfeydd Ymddiriedolaeth Plant, o’i gymharu â 73% o’r menywod a ymatebodd
  • roedd 78% o bobl ifanc 19 oed yn ymwybodol o Gronfeydd Ymddiriedolaeth Plant, o’i gymharu â 71% o bobl ifanc rhwng 20 a 21 mlwydd oed
  • roedd 76% o’r rheiny nad ydynt wedi hawlio’u Cronfa Ymddiriedolaeth Plant eto yn debygol o gymryd camau i ddysgu rhagor am sut i gael at yr arian hwn.

Dywedodd Sharon Davies, Prif Swyddog Gweithredol Menter yr Ifanc:

Byddwn yn annog pob person ifanc i ymchwilio i weld a oes unrhyw arian yn eistedd mewn Cronfa Ymddiriedolaeth Plant, yn aros i gael ei hawlio – ac, os oes arian ar gael, i’w wario mewn ffordd ddoeth. Mae swm anghymesur o’r arian sydd heb gael ei hawlio yn eistedd mewn cyfrifon pobl ifanc o gefndiroedd difreintiedig – yr union bobl a fyddai’n elwa fwyaf o’r arian hwn. Gall yr arian hwn gael ei drosglwyddo i ISA, neu gall fynd tuag at dalu am addysg, gwersi gyrru, neu ddechrau busnes.

Mae’r arian sydd ar gael mewn Cronfa Ymddiriedolaeth Plant â’r potensial i allu newid bywyd y person ifanc sy’n ei hawlio. Mae’r diffyg gwybodaeth o gwmpas y cynllun hwn yn dangos y pwysigrwydd o addysgu plant ifanc o ran arian a sut yw’r reoli.

Mae’r llywodraeth yn cynnig help i gartrefi. Trowch at GOV.UK i gael gwybod pa gymorth gyda chostau byw y gallech fod yn gymwys ar ei gyfer.

Rhagor o wybodaeth

Trowch at GOV.UK i ddysgu rhagor am Gronfeydd Ymddiriedolaeth Plant a sut i gael at yr arian.

Cyhoeddwyd y ffigurau diweddaraf ar gyfer Cronfeydd Ymddiriedolaeth Plant ar 22 Mehefin 2023, ac maent yn cynnwys ffigurau hyd at fis Ebrill 2022.

Daeth y cynllun Cronfa Ymddiriedolaeth Plant i ben ym mis Ionawr 2011, a chafodd ei ddisodli gan y Cyfrif Cynilo Unigol Iau.

Os nad oedd modd i riant neu warcheidwad drefnu cyfrif ar gyfer ei blentyn, gwnaeth y llywodraeth agor cyfrif cynilo ar ei ran.

Gall person ifanc, neu riant a gwarcheidwad sy’n gwybod pwy yw ei darparwr Cronfa Ymddiriedolaeth Plant, gysylltu ag ef yn uniongyrchol. Gall y darparwr hwn fod yn fanc, cymdeithas adeiladu, neu ddarparwr cynilo arall.

Gwnaeth 1,130 o fyfyrwyr y DU a oedd yn eu blwyddyn gyntaf neu eu hail flwyddyn o brifysgol gymryd rhan mewn arolwg UCAS rhwng 6 a 20 Gorffennaf 2023. Cynhaliwyd yr arolwg ar ran CThEF.

Mae Menter yr Ifanc (Young Enterprise) yn elusen genedlaethol sy’n arbenigo mewn addysg ariannol ac addysg o ran menter. Mae’r elusen hon yn ddarparwr dibynadwy a gwerthfawr o wybodaeth, adnoddau a hyfforddiant i unrhyw un sy’n dysgu pobl ifanc sut i reoli arian. Gyda chymorth partneriaid corfforaethol, mae Menter yr Ifanc yn gweithio’n uniongyrchol â phobl ifanc, athrawon a gwirfoddolwyr i adeiladu dyfodol llwyddiannus a chynaliadwy ar gyfer pob person ifanc.

Nod Menter yr Ifanc yw sicrhau bod pob person ifanc yn cael y cyfle i ddysgu’r sgiliau angenrheidiol i allu ennill eu harian eu hunain ac i reoli’r arian hwnnw. Mae unrhyw beth sy’n cael ei roi ar waith i wella sut mae pobl ifanc yn deall arian nid yn unig yn gwneud lles iddyn nhw, ond i’w teuluoedd, eu cymunedau ac i’r gymdeithas ehangach hefyd.

Mae Menter yr Ifanc yn gweithio ar y cyd â Wealthify i lansio offer rhad ac am ddim ar gyfer athrawon. Dyluniwyd yr offer hwn yn benodol i helpu pobl ifanc ddeall Cronfeydd Ymddiriedolaeth Plant, a sut i wneud y gorau ohonynt ar gyfer y dyfodol.

Cyhoeddwyd ar 18 September 2023