Datganiad i'r wasg

Yn barod i fynd: y trenau Intercity Express newydd fydd yn trawsnewid teithiau ledled De Cymru

Bydd teithwyr ledled De a Gorllewin Cymru yn cael teithio ar drenau cyflymach a mwy modern o heddiw ymlaen.

Hitachi IEP Train

Hitachi IEP train

Roedd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns, ar y platfform yng ngorsaf Paddington yn Llundain y bore yma (16 Hydref) i groesawu’r trên cyntaf o blith y fflyd o drenau newydd Intercity Express gwerth £5.7 biliwn ar rwydwaith rheilffordd y Great Western.

Dechreuodd y trên Intercity Express Class 800 gan Hitachi ar ei wasanaeth y bore yma, gyda threnau 800005 ac 800006 yn creu’r gwasanaeth 10 cerbyd 0600 o orsaf Temple Meads ym Mryste i Paddington yn Llundain, ac mae’r trenau newydd hyn yn cynnig rhagor o seddau, gwasanaeth mwy rheolaidd a theithiau cyflymach a mwy cyfforddus.

Mae gan y trenau newydd dros 24% yn rhagor o seddau na’r trên cyflymder uchel y’u cyflwynwyd yn ei le, yn ogystal â mwy o le i’r coesau ac i fagiau, a mwy o fyrddau. Bydd amserlen newydd yn cael ei chyflwyno pan fydd rhaglen drydaneiddio Network Rail wedi’i chwblhau yn gynnar yn 2019, gan ychwanegu 40% yn rhagor o seddau na heddiw a chynnig teithiau cyflymach a mwy rheolaidd.

Disgwylir i’r trên newydd Class 800 10 cerbyd, a adeiladwyd ym Mhrydain gan Hitachi, deithio 803 o filltiroedd ar ei ddiwrnod cyntaf, gyda dau drên pum cerbyd arall (800008 ac 800009) yn rhedeg fel ail wasanaeth 10 cerbyd. Ynghyd, bydd y ddau drên yn teithio dros 1,550 o filltiroedd ar eu diwrnod cyntaf o wasanaeth, a bydd ganddynt y potensial i gludo dros 6,500 o deithwyr.

Bydd y trenau yn elwa yn sgil rhaglen moderneiddio llwybrau Network Rail, â’r trydaneiddio eisoes wedi’i gyflwyno hyd at Maidenhead; mesurau uwchraddio’r rheilffyrdd i osgoi tagfeydd, megis y trac sy’n plymio dan y ddaear yn Acton i fynd â thraffig nwyddau oddi ar y brif linell; gwell gorsafoedd gyda phlatfformau hwy a thrawsnewid signalau a’r traciau i helpu i wella teithiau i deithwyr.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns:

Rwyf yn falch o weld gwasanaeth teithwyr cyntaf y trenau Hitachi yn cael ei gyflwyno ar rwydwaith rheilffordd y Great Western. O heddiw ymlaen, gall teithwyr ledled De a Gorllewin Cymru fwynhau buddiannau teithio ar drenau cyflymach, modern sy’n cynnig mwy o gapasiti, sy’n fwy cyfforddus ac sy’n cynnig gwell cysylltedd.

Mae Llywodraeth y DU yn buddsoddi’n helaeth i adeiladu rheilffyrdd gwell ac ehangach i Gymru, gan gynnig gwell teithiau i deithwyr ar y trenau newydd diweddaraf.

Mae teithwyr yn disgwyl ac yn haeddu cael gwasanaethau rheilffordd o ansawdd uchel. Rydym wedi ymrwymo i ddefnyddio’r dechnoleg orau sydd ar gael ar gyfer pob rhan o’r rhwydwaith, gan gynnig buddiannau sylweddol i’r bobl hynny sy’n defnyddio ein rheilffyrdd.

Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr GWR, Mark Hopwood:

Heddiw, rydym ni yn GWR yn creu hanes unwaith eto, wrth inni lansio trên Intercity Express newydd am y tro cyntaf mewn cenhedlaeth, gan barhau i drawsnewid gwasanaethau rheilffordd ledled y rhanbarth.

Wedi llawer o waith caled ledled y diwydiant rheilffyrdd, rwyf yn falch fod ein trên Intercity Express cyntaf wedi cwblhau ei daith gyntaf yn cludo teithwyr yn llwyddiannus. Yn ystod y flwyddyn nesaf byddwn yn parhau i ehangu gweithrediad y trenau newydd hyn ledled De Orllewin Lloegr a Chymru cyn belled ag Abertawe, gan gynnwys cyflwyno fflyd arall o drenau Intercity Express yn benodol ar gyfer Dyfnaint a Chernyw y flwyddyn nesaf.

Bydd y trenau newydd, ynghyd â’n fflyd Electrostar newydd ar gyfer Llundain a Dyffryn Tafwys, yn creu newid sylweddol mewn cludiant i deithwyr, gan ddarparu rhagor o seddau a’n galluogi i gynnig gwasanaethau mwy rheolaidd a chyflymach.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth, Chris Grayling:

Mae’n bleser gennyf weld y trenau cyntaf o blith y fflyd newydd o drenau Intercity Express yn dechrau ar eu gwasanaeth er mwyn cynnig trenau cyflymach a mwy cyfforddus i deithwyr Great Western, yn ogystal â gwell teithiau.

Mae’r ffaith ein bod yn cyflwyno’r trenau newydd hyn ar brif linell y Great Western ac ar linell Arfordir y Dwyrain yn dangos ein hymrwymiad i roi teithwyr wrth graidd popeth a wnawn.

Bydd y fflyd hon o’r trenau diweddaraf, gwerth £5.7 biliwn, yn gwasanaethu teithwyr o Aberdeen i Abertawe ac o Gaerefrog i Lundain. Mae hyn yn rhan o fuddsoddiad gwerth £40 biliwn – sy’n record ynddo’i hun – i drawsnewid ein rheilffyrdd a chynnig gwell teithiau i deithwyr.

Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Hitachi Rail Europe, Karen Boswell:

Rydym yn hynod o falch ein bod wedi adeiladu trenau yn y DU, wedi’u dylunio gan ddefnyddio technoleg trenau bwled Siapan, a’u bod yn gwella teithiau i deithwyr ar lwybr y Great Western.

Cafwyd naw mlynedd o waith caled i wireddu hyn heddiw, o greu ffatri a gweithlu newydd sbon i sefydlu cyfleusterau cynnal a chadw modern o Abertawe i Lundain. Rydym wedi darparu trenau newydd arloesol ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain i deithwyr eu mwynhau, ac wedi sbarduno dadeni gweithgynhyrchu yng Ngogledd Ddwyrain Lloegr.

Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Llwybr Network Rail yn y Gorllewin, Mark Langman:

Mae’n bleser gennyf groesawu trenau newydd gwych GWR. Mae hwn yn gam sylweddol arall ymlaen yn y trawsnewidiad mwyaf erioed ar brif linell y Great Western wrth inni ddarparu rhagor o drenau, rhagor o seddau a gwell teithiau i gymunedau ar hyd a lled y llwybr.

Bu’n waith tîm go iawn, gyda staff Network Rail a GWR yn gweithio’n ddiflino i gyrraedd y cam hwn. Mae’n enghraifft o’r traciau a’r trenau yn gweithio gyda’i gilydd er budd y teithwyr, ac mae’n gychwyn ar gyfnod cyffrous i’r rheilffyrdd.

Nid dyma ddiwedd y gwaith caled, gan fod llawer iawn i’w wneud o hyd ledled y llwybr. Fodd bynnag, mae hynny’n golygu bod yna ragor o ddyddiau cyffrous i ddod, gyda rhagor o wasanaethau yn Nyfnaint a Chernyw, trydaneiddio hyd at Gaerdydd a Chippenham a chyflwyno’r gwasanaethau Electrostar newydd rhwng Didcot a Paddington yn Llundain.

Gadawodd y trên o orsaf Temple Meads ym Mryste y bore yma i gyfeiliant tân gwyllt, a mân-oleuadau gwyrdd GWR yn goleuo’r awyr. Fe’i gyrrwyd gan Colin Franklin, sydd wedi bod yn gyrru trenau GWR ers 19 mlynedd.

Ar y cychwyn, bydd y trenau newydd yn gweithredu rhwng De Cymru a Paddington yn Llundain, a rhwng Temple Meads ym Mryste a Paddington. Wrth i ragor o’r trenau gael eu cyflwyno, bydd y trenau newydd yn cyrraedd hyd at Taunton, a Hereford trwy Rydychen erbyn mis Rhagfyr, ac i Cheltenham erbyn yr haf nesaf.

Mae’r trenau yn cael eu hadeiladu yn ffatri bwrpasol Hitachi, gwerth £82 miliwn, yn Newton Aycliffe, Swydd Durham, gan weithlu o dros 1,000 a recriwtiwyd yn arbennig.

Y flwyddyn nesaf bydd GWR yn ehangu’r fflyd i wasanaethu Dyfnaint a Chernyw. Mae 36 yn rhagor o drenau Intercity Express (a elwir yn Class 802s) wedi cael eu harchebu gan Hitachi er mwyn gwella gwasanaethau rhwng Paddington yn Llundain a Chaerwysg, Plymouth a Penzance. Mae’r trenau hyn yn cael eu hadeiladu er mwyn gallu ymdopi â daearyddiaeth fwy heriol Dyfnaint a Chernyw a disgwylir y byddant yn barod i gludo teithwyr yr haf nesaf.

Bydd Hitachi’n darparu cyfanswm o 36 x trên Class 800 5 cerbyd a 21 x trên Class 800 9 cerbyd, a 22 x trên Class 802 5 cerbyd ac 14 x trên Class 802 9 cerbyd, a disgwylir i’r fflyd lawn fod mewn gwasanaeth erbyn Rhagfyr 2018. Bydd newid sylweddol i’r amserlen ym mis Ionawr 2019 yn gwireddu holl fuddiannau’r trenau newydd o ran capasiti ac amlder, gan dorri hyd at 17 munud oddi ar hyd teithiau o Fryste a hyd at 14 munud oddi ar hyd teithiau o Abertawe.

Mae’r trenau Intercity Express yn gweithredu gan ddefnyddio technoleg ddeufodd, sy’n galluogi’r trenau i ddefnyddio pŵer diesel a thrydan, a hynny sy’n caniatáu i deithwyr elwa o’r trenau newydd o heddiw ymlaen.

Bu i’r rhaglen Intercity Express, dan arweiniad y Llywodraeth a dan nawdd Agility Trains, ddwyn ynghyd Hitachi Rail, GWR, VTEC a Network Rail i gynllunio, datblygu ac adeiladu’r math newydd o drenau modern diweddaraf a chefnogi seilwaith depos ar lwybrau’r Great Western ac Arfordir y Dwyrain.

Cyhoeddwyd ar 16 October 2017