Datganiad i'r wasg

Ffatri adenydd Airbus newydd yn ‘cadarnhau enw da Cymru fel gwlad arloesi o’r radd flaenaf’, meddai Cheryl Gillan

Heddiw [13 Hydref 2011] roedd Cheryl Gillan yng nghwmni’n Prif Weinidog pan agorodd y ffatri adenydd Airbus yn Broughton yn swyddogol. Bydd…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw [13 Hydref 2011] roedd Cheryl Gillan yng nghwmni’n Prif Weinidog pan agorodd y ffatri adenydd Airbus yn Broughton yn swyddogol.

Bydd y ffatri newydd amgylcheddol gyfeillgar yn cynhyrchu adenydd ffibr carbon ar gyfer ystod o awyrennau pellter hir.

Hefyd yn y seremoni oedd Tom Enders; Prif Weithredwr Airbus, yn ogystal a’r Gweinidog Busnes a Menter Mark Prisk, i weld yr uwch-dechnolegau a’r dyluniadau aerodeinamig diweddaraf.

Meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru Cheryl Gillan: “Mae yma gyfleusterau penigamp a fydd yn helpu i gynnal a chadw miloedd o swyddi ar draws y DU. Rwyf wedi bod yn ymwelydd cyson ag Airbus ac yn ffyddiog y bydd hyn yn tra chadarnhau enw da cynyddol Cymru fel gwlad sydd ar y blaen o ran arloesi ac arwain yn y sector Aerofod a chadwyn gyflenwi. Mae’r ffatri A350 XWB yn newyddion gwych i economi Gogledd Cymru ac yn esiampl glir o’r math o dwf sector preifat y mae’r Llywodraeth yn ceisio ei greu.

“Mae’r Llywodraeth yn sicrhau bod gan Gymru’r seilwaith iawn fel bod busnesau’n gallu gweithredu a thyfu tra’n denu buddsoddiad newydd. Mae’r ffatri yma’n dangos bod gan Gymru agwedd o fedru. Fel y dywedodd y Prif Weinidog yn ddiweddar, rydym yn ymrwymedig i greu economi siarp sydd a’i llygad ar lwyddo a rwyf am weld mwy o enghreifftiau o fuddsoddwyr Byd-Eang fel Airbus yn dod i Gymru i wneud busnes”.

Meddai’r Prif Weinidog David Cameron: “Mae’r Llywodraeth yn ymrwymedig i greu economi fwy cytbwys gyda gweithgynhyrchu, allforio a buddsoddi preifat cryfach, tra’n creu gwaith a chyfleoedd ar draws y DU. Rwyf yn croesawu agor y ffatri arloesol newydd sbon hon gan Airbus a fydd yn cyfrannu at hyn tra’n cefnogi ein rhaglen o greu twf economaidd cynaliadwy. Mae buddsoddiad Airbus yma hefyd yn brawf o’i ffydd yn arbenigedd ei gweithlu ym Mhrydain ac yn y DU fel lleoliad gweithgynhyrchu.”

Nodiadau i’r golygyddion:

  • Mae safle 700 acer Airbus yn Broughton ar hyn o bryd yn cyflogi 6,000 o bobl.
  • Mae Airbus yn y DU ynghyd a’i gadwyn gyflenwi’n cyfrannu gwerth bron i £1.5 biliwn o wasanaethau a chyflenwadau at economi’r DU pob blwyddyn. 
  • Mae 10,000 o bobl yn gweithio i Airbus yn y DU ac mae cadwyn gyflenwi ehangach y cwmni hefyd yn cefnogi 100,000 o swyddi.
Cyhoeddwyd ar 13 October 2011