Deallusrwydd Artiffisial (AI) i bweru adnewyddu cenedlaethol wrth i'r llywodraeth gyhoeddi gwerth biliynau mewn buddsoddia ychwanegol a chynlluniau newydd i hybu busnesau, swyddi ac arloesi yn y DU
Bydd pecyn mawr o ddiwygiadau a buddsoddiadau newydd yn rhoi AI wrth galon cenhadaeth y llywodraeth i sbarduno twf, creu swyddi a lledaenu ffyniant ledled y wlad.
AI to power national renewal with jobs, growth and investment.
- Miloedd o swyddi newydd a biliynau o bunnoedd o fuddsoddiad mewn deallusrwydd artiffisial wedi’u cyhoeddi ledled y DU fel sbardun i dwf – gan gynnwys yng Nghymru, Bryste a Llundain.
- Bydd Ardal Twf Deallusrwydd Artiffisial newydd yn Ne Cymru yn creu dros 5,000 o swyddi newydd i gymunedau lleol dros y degawd nesaf, gan gynnwys yn y cyn Ffatri Injans Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
- Cyfleoedd newydd i gwmnïau deallusrwydd artiffisial Prydeinig dyfu ac i arloesedd deallusrwydd artiffisial ffynnu, gan ehangu mynediad am ddim at gyfrifiadura i ymchwilwyr a gwyddonwyr Prydeinig
- Gwyddonwyr disglair hefyd yn cael eu cefnogi i ddefnyddio deallusrwydd artiffisial, gyda hyd at £137m i sbarduno datblygiadau arloesol a datblygu cyffuriau, iachâd a thriniaethau newydd.
Cyn y Gyllideb yr wythnos nesaf, bydd y cynlluniau hyn yn sicrhau bod buddsoddiad newydd yn rhoi hwb i swyddi a thwf - gan roi cyfle i fusnesau Prydain dyfu a chystadlu’n rhyngwladol fel rhan o’n Strategaeth Ddiwydiannol Fodern. Mae cwmnïau rhyngwladol hefyd â chanolfannau newydd yn y DU ac mae cwmnïau Prydeinig yn cynyddu eu buddsoddiad - gyda £24.25 biliwn mewn buddsoddiad preifat wedi’i ymrwymo yn y mis diwethaf yn unig.
Mae cwmnïau megis Vantage Data Centers a Microsoft hefyd yn ymuno â’r Llywodraeth i ddarparu Ardal Twf Deallusrwydd Artiffisial arall. Wedi’i leoli yn Ne Cymru, bydd buddsoddiad gwerth £10 biliwn yn galluogi o leiaf 5,000 o swyddi, gan gynnwys rhai mewn cadarnleoedd diwydiannol megis yr hen Ffatri Injans Ford Pen-y-bont ar Ogwr.
Bydd Ardaloedd Twf Deallusrwydd Artiffisial yn helpu i drawsnewid economïau lleol a sicrhau nad oes unrhyw gymuned yn cael ei gadael ar ôl, gyda £5 miliwn o gyllid gan y llywodraeth ar gyfer pob Ardal Twf i hybu mabwysiadu gan fusnesau a buddsoddiad mewn sgiliau gweithwyr lleol.
Er mwyn sicrhau bod busnesau ac ymchwilwyr ym Mhrydain yn parhau i fod ar flaen y gad o ran deallusrwydd artiffisial, bydd cynlluniau newydd yn cefnogi cwmnïau a gwyddonwyr gyda’r adnoddau cywir i lwyddo ac i fanteisio ar y cyfle ar gyfer gweithwyr a thwf ym Mhrydain.
- Bydd y Llywodraeth yn gweithredu fel ‘cwsmer cyntaf’ ar gyfer busnesau newydd addawol yn y DU sy’n adeiladu cynnyrch caledwedd deallusrwydd artiffisial o ansawdd uchel ond sydd ar hyn o bryd yn ei chael hi’n anodd cychwyn arni heb fuddsoddiad. Mae’r “ymrwymiad ymlaen llaw yn y farchnad” newydd yn cael ei gefnogi gan hyd at £100 miliwn o gymorth gan y llywodraeth i roi cyfle i fusnesau newydd ym Mhrydain gael mantais gystadleuol ac ennill cwsmeriaid mewn marchnad fyd-eang gwerth biliynau o bunnoedd. Bydd canolfannau data Ardal Twf Deallusrwydd Artiffisial yn gartref i galedwedd sydd werth biliynau o bunnoedd. Ein nod yw gweld sglodion cyfrifiadurol o Brydain yn cael eu defnyddio ochr yn ochr â gwerthwyr sefydledig.
- Ochr yn ochr â hyn, bydd y cyfalafydd menter James Wise yn cadeirio Uned Deallusrwydd Artiffisial Sofran, gyda buddsoddiad o bron i £500m tu ôl iddo i helpu i adeiladu a thyfu galluoedd deallusrwydd artiffisial ar lannau Prydain. Bydd yr uned yn dod â llywodraeth, diwydiant a buddsoddwyr at ei gilydd, i fod yn ffynhonnell ar gyfer busnesau yn y DU sy’n newydd a rhai sy’n tyfu, sydd â llawer o botensial.
- Bydd Llysgenhadon Deallusrwydd Artiffisial newydd yn helpu i gynyddu manteision deallusrwydd artiffisial i Brydain. Bydd Simon Johnson, economegydd MIT Prydeinig, sy’n enillydd gwobr Nobel ac yn gyn Brif Economegydd yr IMF, yn gweithredu fel arweinydd y maes gyda gwasanaethau cyhoeddus a busnesau i’w helpu i ddefnyddio’r dechnoleg wych hon i hybu cynhyrchiant. Bydd Tom Blomfield, Cyd-sylfaenydd Monzo a phartner cyffredinol Y Combinator, yn hyrwyddo busnesau newydd ym Mhrydain i dyfu ac i ddenu talent a buddsoddiad. A bydd Raia Hadsell, Is-lywydd Ymchwil Google DeepMind, yn hyrwyddo lle’r DU ar flaen y gad o ran arloesedd a diogelwch deallusrwydd artiffisial.
- Bydd y Llywodraeth yn cynnig mwy o gyfrifiadura am ddim i ymchwilwyr o Brydain a busnesau newydd ym Mhrydain er mwyn iddynt allu hyfforddi modelau AI newydd a chyflawni datblygiadau gwyddonol newydd. Mae’r broses o wario hyd at £250m ar gyfrifiadura yn cael ei lansio heddiw.
Mae strategaeth newydd hefyd yn cael ei datgelu i wneud yn siŵr bod deallusrwydd artiffisial yn cynyddu darganfyddiadau gwyddonol gyda chefnogaeth hyd at £137 miliwn o gyllid gan y llywodraeth. Bydd ei ymgyrch gyntaf yn canolbwyntio ar harneisio deallusrwydd artiffisial i gyflymu’r gwaith o ymchwilio i gyffuriau a thriniaethau newydd – gan roi bywyd newydd i gleifion ynghyd â’r gobaith y gellir rheoli eu cyflyrau’n well.
Dywedodd Liz Kendall, Ysgrifennydd Gwladol dros Wyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg:
Rydym yn uchelgeisiol dros ein gwlad ac yn credu bod dyddiau gorau Prydain o’n blaenau. Heddiw, rydym yn cyhoeddi pecyn o fesurau sy’n sicrhau ein bod yn manteisio ar y cyfleoedd i gael swyddi a thwf ym mhob rhan o’r wlad.
Mae’r gefnogaeth gan fuddsoddwyr rhyngwladol heddiw yn bleidlais o hyder yn y DU ac rydym yn benderfynol o wneud mwy fyth i sicrhau ein bod yn cefnogi busnesau, gweithwyr ac ymchwilwyr Prydain i elwa o’r cyfleoedd a ddaw yn sgil deallusrwydd artiffisial. Mae hyn yn ymwneud â dod â swyddi, cyfleoedd a gobaith i’r bobl a’r lleoedd sydd ei angen fwyaf, gan gyflawni ein haddewid o newid.
Dywedodd Rachel Reeves, Canghellor y Trysorlys:
Mae’r llywodraeth hon wedi addo datgloi twf a dyna’n union rydyn ni’n ei wneud.
Mae cadarnhad heddiw o’n pedwaredd Ardal Twf Deallusrwydd Artiffisial yn dangos ein Cynllun ar gyfer Newid ar waith - gan greu miloedd o swyddi a datgloi buddsoddiad newydd i gymunedau lleol yn niwydiannau’r dyfodol, gan gadarnhau ein safle fel prif sector technoleg Ewrop.
Dywedodd Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Bydd gan Gymru bellach ddwy Ardal Twf Deallusrwydd Artiffisial newydd sbon a fydd yn dod â miloedd o swyddi i Ogledd a De Cymru ac yn sbarduno twf economaidd ledled y wlad.
Mae de Cymru eisoes yn gartref i ddiwydiant technoleg sy’n tyfu a bydd y buddsoddiad mawr hwn yn y rhanbarth yn helpu i gadarnhau lle’r DU fel arweinydd byd-eang ym maes deallusrwydd artiffisial.
Bydd sawl safle’n creu’r Ardal Twf Deallusrwydd Artiffisial newydd yn Ne Cymru. Bydd yr ardaloedd penodol hyn o ddatblygiad deallusrwydd artiffisial yn ymestyn ar hyd coridor yr M4 o Gasnewydd i Ben-y-bont ar Ogwr, ac mae’r potensial yno i harneisio dros 1GW erbyn dechrau’r 2030au.
Bydd o leiaf 5,000 o swyddi’n cael eu creu o ganlyniad i hyn. Bydd y swyddi yn amrywio o rai fydd nawr yn codi o ganlyniad i waith adeiladu, i yrfaoedd tymor hir ym maes ymchwil a datblygu deallusrwydd artiffisial. Bydd De Cymru hefyd yn elwa diolch i hyd at £5 miliwn o gymorth gan y llywodraeth mewn Ardaloedd Twf deallusrwydd artiffisial i hybu mabwysiadu gan fusnesau ac i hybu sgiliau, ac mae cwmnïau technoleg y tu ôl i’r safle, megis Vantage Data Centers, yn ymrwymo heddiw i weithio gyda phrifysgolion ledled De Cymru i roi hwb i sgiliau deallusrwydd artiffisial. Bydd hyn yn datblygu’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr deallusrwydd artiffisial yn y ffynhonnell ac yn troi’r tapiau fydd yn darparu llif o dalent am flynyddoedd i ddod.