Parthau Twf Deallusrwydd Artiffisial i greu miloedd o swyddi a datgloi gwerth hyd at £100 biliwn mewn buddsoddiad wrth i safle newydd gael ei gadarnhau yng Ngogledd Cymru
Mae’n debyg y bydd dros 3,400 o swyddi newydd yn dod i ogledd Cymru diolch i gyhoeddiad newydd am Barth Twf Deallusrwydd Artiffisial, wrth i’r Prif Weinidog a’r Ysgrifennydd Technoleg amlinellu cynlluniau i sicrhau bod safleoedd yn cyflawni i bobl sy’n gweithio.
AI Growth Zones to create thousands of jobs.
- Mae’n debyg y bydd dros 3,400 o swyddi newydd yn dod i ogledd Cymru diolch i gyhoeddiad newydd am Barth Twf Deallusrwydd Artiffisial, wrth i’r Prif Weinidog a’r Ysgrifennydd Technoleg amlinellu cynlluniau i sicrhau bod safleoedd yn cyflawni i bobl sy’n gweithio.
- Parth Twf Deallusrwydd Artiffisial mewn sefyllfa unigryw i ddylanwadu ar adweithydd modiwlaidd bach cyntaf y DU yn Wylfa - gan ddod â thechnolegau’r dyfodol at ei gilydd yng ngogledd Cymru.
- Diwygiadau cynllunio a mynediad at ynni yn cyflymu datblygiadau i ddatgloi hyd at £100 biliwn o fuddsoddiad ychwanegol, gan greu miloedd o swyddi ledled y wlad
Bydd Parthau Twf Deallusrwydd Artiffisial yn ganolog i adnewyddu cymunedau lleol a chyflwyno cyfleoedd newydd ledled y wlad - o dan gynlluniau newydd a amlinellwyd gan y Prif Weinidog a’r Ysgrifennydd Technoleg heddiw, wrth iddynt gadarnhau safle newydd yng ngogledd Cymru.
Cyhoeddodd y Prif Weinidog Barthau Twf Deallusrwydd Artiffisial am y tro cyntaf ym mis Ionawr, a’u diben yw bod yn ganolfannau i ddatblygu deallusrwydd artiffisial. Drwy ddod â blociau adeiladu allweddol deallusrwydd artiffisial at ei gilydd, fel pŵer prosesu i arbenigedd ymchwil, byddant yn datgloi cyfleoedd arloesi di-rif a fydd yn trawsnewid bywydau pobl ar hyd a lled y wlad - o ffyrdd newydd i drin a goresgyn clefydau i wneud diwydiant yn lanach ac yn wyrddach.
Bydd diwygiadau newydd a gyhoeddwyd heddiw ar gyfer cynllunio, mynediad at ynni, a chymorth arbenigol gan y llywodraeth yn helpu i gyflymu’r broses o ddatblygu Parthau Twf Deallusrwydd Artiffisial, gan gyflawni’r ymrwymiadau yn y Cynllun Gweithredu Cyfleoedd Deallusrwydd Artiffisial.
Er mwyn sicrhau bod y safleoedd yn cynnig cyfleoedd i bobl sy’n gweithio, bydd cymorth gwerth £5 miliwn yn cael ei neilltuo i bob Parth Twf Deallusrwydd Artiffisial yn lleol at ddibenion sgiliau a busnesau. Bydd yr arian yn cael ei roi i ranbarthau i helpu i gyflymu twf economaidd, rhoi hwb i ymchwil lleol ac ymdrechion datblygu, a chefnogi cwmnïau deallusrwydd artiffisial rhanbarthol sy’n cychwyn ac sy’n tyfu. Gyda’i gilydd, bydd yr ymyriadau hyn yn datgloi hyd at £100 biliwn mewn buddsoddiad ychwanegol i’r rhaglen Parthau Twf Deallusrwydd Artiffisial, gan greu miloedd o swyddi a helpu i drosglwyddo’r sgiliau deallusrwydd artiffisial sydd eu hangen ar bobl i weithio.
Daw hyn ar ôl i’r llywodraeth gyhoeddi heddiw y bydd dau brosiect seilwaith mawr yn dod i ogledd Cymru – gyda Pharth Twf Deallusrwydd Artiffisial diweddaraf y DU yn ymuno â’r prosiect adweithydd modiwlaidd bach cyntaf yn Wylfa. Yn dibynnu ar y contract, bydd y prosiect cychwynnol ar gyfer tri adweithydd modiwlaidd bach, ond ar ôl i Great British Energy-Nuclear asesu’r safle, gallai o bosibl gynnwys hyd at wyth adweithydd mini. Yr uchelgais yw y bydd adweithyddion modiwlaidd bach Wylfa yn cyflenwi pŵer i’r grid o ganol 2030 ymlaen.
Mae’r cyhoeddiad heddiw yn tynnu sylw at sut mae Strategaeth Ddiwydiannol Fodern y llywodraeth yn cael ei rhoi ar waith i sbarduno cymunedau i adfywio ar lefel genedlaethol, gan ddefnyddio adnoddau sydd wedi cael eu hadeiladu a’u datblygu yma ym Mhrydain.
Mae cyfanswm o 3,450 o swyddi nawr ar fin dod ar-lein yng ngogledd Cymru o ganlyniad uniongyrchol i’r Parth Twf Deallusrwydd Artiffisial newydd, a hynny o swyddi dros dro ac adeiladu, i yrfaoedd sy’n talu’n dda mewn ymchwil a datblygu deallusrwydd artiffisial. Daw hyn â chyfanswm nifer y swyddi a gyhoeddwyd ar gyfer yr ardal heddiw i bron i 6,500.
Dywedodd Keir Starmer, y Prif Weinidog:
Fe wnaethon ni ddweud y bydden ni’n gwneud i ddeallusrwydd artiffisial weithio i Brydain - a nawr rydyn ni’n rhoi arian ar ein gair.
Dydy’r Parthau Twf hyn ddim yn syniad haniaethol; maen nhw’n golygu creu miloedd o swyddi, buddsoddiad go iawn, a newid i gymunedau sydd heb weld hynny’n digwydd ers rhy hir.
Yng ngogledd Cymru, mae hynny’n golygu miloedd o swyddi newydd a £5 miliwn i roi hwb i sgiliau a helpu busnesau lleol i ddechrau defnyddio deallusrwydd artiffisial. Rydyn ni’n cyflawni ac yn mynd amdani - ac mae’n digwydd nawr.
Dywedodd Liz Kendall, Ysgrifennydd Gwladol Gwyddoniaeth, Arloesedd a Thechnoleg:
Bydd Parthau Twf Deallusrwydd Artiffisial yn newid mawr i gymunedau a byddant yn arwain at filoedd o swyddi newydd a buddsoddiad o filiynau o bunnoedd yn y lleoedd sydd ei angen fwyaf.
Byddwn yn gwneud yn siŵr bod gan bobl y sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw i wireddu’r cyfleoedd a ddaw yn sgil deallusrwydd artiffisial - gan helpu i feithrin arweinwyr technegol y dyfodol a chefnogi ein heconomi â chronfa wych o dalent.
Bydd deallusrwydd artiffisial yn ein helpu i dyfu, i ffynnu ac i adnewyddu wrth i ni ddatblygu dyfodol sy’n gweithio i bawb. Buddsoddiad yn ein dyfodol yw hyn - diolch i’n cymunedau, busnesau a thalent o’r radd flaenaf ym maes technoleg - i sicrhau bod Prydain yn arweinydd byd-eang ym maes deallusrwydd artiffisial.”
Dywedodd Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae yma ddiwydiant technoleg sy’n ffynnu ac yn tyfu yng ngogledd Cymru yn barod, a bydd y cyhoeddiad hwn yn rhoi hwb ychwanegol i’r sector, gan arwain at dros 3,000 o swyddi da a miliynau mewn buddsoddiad.
Mae hwn yn gam arwyddocaol ymlaen yn ein cenhadaeth ganolog i hybu twf economaidd, creu swyddi sy’n talu’n dda a datgloi cyfleoedd yn niwydiannau’r dyfodol.
Mae’r Parth Twf Deallusrwydd Artiffisial yn cynnwys y Fenai, gyda safle yn Prosperity Parc ar Ynys Môn ac un arall yn Nhrawsfynydd, Gwynedd.
Mae gwaith eisoes ar y gweill i sicrhau partner buddsoddi i helpu i gyflawni safle Parth Twf Deallusrwydd Artiffisial, a bydd y gwaith adeiladu wedyn yn dechrau ar ôl i gytundeb gael ei gadarnhau. Disgwylir y bydd hyn yn digwydd yn y misoedd nesaf.
Mae diwygiadau eraill a gyhoeddwyd heddiw yn ymwneud ag ynni a chynllunio yn cynnwys:
-
Mesurau newydd i gyflymu’r gwaith o gael Parthau Twf Deallusrwydd Artiffisial yn Lloegr, drwy gwtogi’r cyfnod cymeradwyo o flynyddoedd i fisoedd. Bydd parthau ledled Prydain Fawr hefyd yn cael blaenoriaeth i gael mynediad at y capasiti sydd ar gael ar y grid ynni er mwyn iddynt allu arloesi ar unwaith
-
Bydd tîm cynllunio deallusrwydd artiffisial yn cael cymorth gwerth £4.5 miliwn i gefnogi cynghorau lleol ledled y DU, drwy gynnig cyllid a chyngor arbenigol, a’i gwneud hi’n haws iddynt gynllunio a chymeradwyo seilwaith deallusrwydd artiffisial newydd
-
Bydd canolfannau data mewn Parthau Twf Deallusrwydd Artiffisial yn cael disgownt mawr ar eu biliau trydan, os ydynt mewn ardaloedd a allai helpu i leddfu’r pwysau ar y rhwydwaith ynni
-
Gallai datblygwyr gael cymorth i gysylltu eu ceblau foltedd uchel a’u his-orsafoedd eu hunain i roi pŵer i’w canolfannau data - yn hytrach nag aros i weithredwyr rhwydwaith wneud hynny - gan arbed costau a chyflymu cynnydd
Yn y tymor hwy, bydd Parthau Twf Deallusrwydd Artiffisial hefyd yn cefnogi’r broses o greu canolfannau mabwysiadu rhanbarthol - gan gyfeirio arian i ddefnyddio a rhoi deallusrwydd artiffisial ar waith yn y gwasanaethau cyhoeddus y mae’r cyhoedd yn dibynnu arnynt bob dydd.
Mae’n hanfodol dechrau ar y gwaith cyn gynted â phosibl er mwyn cyflawni’r newidiadau hyn i gymunedau lleol. Mae canllawiau cynllunio wedi cael eu diweddaru heddiw i roi blaenoriaeth i brosiectau seilwaith deallusrwydd artiffisial. Bydd hyn yn cwtogi’r amseroedd aros o dros bedair blynedd i gyn lleied â dwy flynedd, gyda thîm pwrpasol o arbenigwyr cynllunio deallusrwydd artiffisial hefyd yn cael eu sefydlu i symleiddio’r broses gymeradwyo.
Rhoddir blaenoriaeth i Barthau Twf Deallusrwydd Artiffisial wrth iddynt gysylltu â’r grid, gan sicrhau bod gan y safleoedd y pŵer sydd ei angen arnynt i arloesi a thyfu. Bydd buddsoddwyr mewn safleoedd hefyd yn cael y rhyddid i ddatblygu eu hatebion eu hunain i roi hwb i gapasiti pŵer ar leoliad, gyda phrosiectau sy’n helpu i ostwng y costau cyffredinol ar gyfer y rhwydwaith ynni ehangach wedi cael cymorth penodol â phrisio.
Mae tri safle eisoes wedi’i gyhoeddi yn yr un ar ddeg mis ers lansio’r Cynllun Gweithredu Cyfleoedd Deallusrwydd Artiffisial, ac mae disgwyl i ragor gael eu cyhoeddi yn y misoedd nesaf.
ENDS
DSIT media enquiries
E-bost press@dsit.gov.uk
Monday to Friday, 8:30am to 6pm 020 7215 3000