Stori newyddion

Pwerau ychwanegol i Gymru – beth sy’n digwydd nesaf?

Mae llywodraeth y DU wedi cyhoeddi cytundeb Dydd Gŵyl Dewi sy’n darparu glasbrint ar gyfer creu setliad datganoli mwy sefydlog, cliriach a pharhaus i Gymru.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government
The Senedd building

Beth ddigwyddodd?

  • Ar 17 Tachwedd 2014, cyhoeddodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Crabb, Raglen Datganoli Cymru, gydag ymrwymiad i gyhoeddi canlyniadau’r rhaglen erbyn Dydd Gŵyl Dewi 2015.
  • Ar 27ain Chwefror, cyhoeddodd Mr Crabb ganlyniadau proses Dydd Gwyl Dewi, sy’n cynrychioli glasbrint ar gyfer symud datganoli yng Nghymru yn ei flaen yn y Senedd nesaf.

Beth yw’r pwerau newydd arfaethedig?

  • Mae cytundeb Dydd Gŵyl Dewi yn datgan pecyn cadarn o bwerau ychwanegol ar gyfer y Cynulliad Cenedlaethol, yn seiliedig ar gonsensws gwleidyddol, ac mae’n gweithredu nifer o’r argymhellion a wnaed gan Gomisiwn Silk yn ei ail adroddiad.
  • Maent yn cynnwys pwerau ychwanegol mewn meysydd fel trafnidiaeth, ynni, yr amgylchedd ac etholiadau i’r Cynullid Cenedlaethol ac etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru.

Y Model Datganoli ar gyfer Cymru:

  • Dylai Cymru symud at “fodel o bwerau cadw” gyda’r gyfraith yn datgan yn glir pa gyfrifoldebau sydd wedi’u datganoli i Gymru a pha rai sy’n aros yn San Steffan.
  • Mae Llywodraeth y DU wedi dechrau gweithio eisoes ar fodel pwerau cadw. Ar ôl cwblhau’r gwaith hwn, byddwn yn trafod y model arfaethedig gyda phartïon sydd â diddordeb, gan gynnwys Llywodraeth Cymru a Chomisiwn y Cynulliad.

Materion Cyfansoddiadol:

  • Dylid datganoli trefniadau strwythurol a sefydliadol y Cynulliad, gan gynnwys etholiadau i’r Cynulliad ac i lywodraeth leol. *Hefyd dylai’r Cynulliad allu gostwng yr oedran pleidleisio yn etholiadau’r Cynulliad i 16 oed os yw’n dymuno.
  • Gyda’i gilydd, mae hyn yn golygu y bydd y Cynulliad yn gyfrifol am bob agwedd bron ar ei fusnes, o benderfynu sut mae Aelodau Cynulliad yn cael eu hethol i benderfynu sut mae ei Bwyllgorau’n cael eu trefnu.

Cyfoeth Naturiol:

  • Dylai Llywodraeth Cymru benderfynu ar brosiectau ynni hyd at 350 megawat. Byddai hyn yn sicrhau trefn ganiatáu sy’n llawer cliriach ac yn rhoi adnoddau newydd pwysig i Lywodraeth Cymru i helpu gyda rhoi ei pholisi ynni ar waith, a’r newid at economi carbon isel.

Trafnidiaeth:

  • Dylid datganoli cyfyngiadau cyflymder, datblygiad porthladdoedd a rheoliadau ar gyfer bysus a thacsis i’r Cynulliad Cenedlaethol. Byddai hyn yn ategu’r pwerau sydd gan y Cynulliad eisoes dros drafnidiaeth.
  • Mae Llywodraeth y DU eisoes yn datganoli rhyddfraint rheilffordd Cymru a’r Gororau.

Lechyd:

  • Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i barhau â’i dull cydweithredol o weithio, sy’n sicrhau bod y GIG yng Nghymru a’r GIG yn Lloegr yn gallu cydweithio ar fentrau cenedlaethol penodol neu’n fwy lleol.
  • Mae’r Adran Iechyd, y GIG yn Lloegr a Llywodraeth Cymru yn adolygu’r protocol ar ofal iechyd ar draws y ffin ar hyn o bryd, er mwyn sicrhau bod y trefniadau yn y dyfodol yn diwallu anghenion pobl a gwasanaethau iechyd y naill ochr i’r ffin.

Cyflogaeth a sgiliau:

  • Mae cyflogaeth a hyfforddiant yn faes hanfodol bwysig ble mae’n rhaid rheoli’r ffin rhwng gwasanaethau wedi’u datganoli a gwasanaethau heb eu datganoli’n effeithiol.
  • Mae Llywodraeth y DU yn aros yn eiddgar i glywed argymhellion terfynol y Gweithgor Mynediad at Gyflogaeth rhynglywodraethol sydd wedi bod yn gweithio yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ar gydlynu rhaglenni cyflogaeth yng Nghymru yn effeithiol.

Darlledu:

  • Dylai Gweinidogion Cymru gael pŵer i benodi un aelod o fwrdd Ofcom sy’n gallu cynrychioli buddiannau Cymru.
  • Dylai’r BBC ac S4C ymrwymo i anfon eu hadroddiadau a’u cyfrifon blynyddol i’w cyflwyno ger bron y Cynulliad.
  • Dylid parhau i reoleiddio darlledu ar lefel y DU, o ystyried y rôl bwysig y mae darlledwyr yn ei chwarae ym mywyd diwylliannol y DU a’r raddfa y mae’r sector yn gweithredu arni yn yr oes ddigidol.

Yr Iaith Gymraeg:

  • Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo’n llawn i’r iaith Gymraeg ac i geisio cyfleoedd i godi proffil yr iaith Gymraeg ar draws y llywodraeth.
  • Ar hyn o bryd mae Swyddfa Cymru yn cynnal adolygiad o’r gwasanaethau y mae llywodraeth y DU yn eu darparu yn y Gymraeg er mwyn penderfynu sut gallant ddiwallu anghenion siaradwyr Cymraeg yn well.

Comisiwn Smith:

  • Bydd Llywodraeth y DU yn edrych ar argymhellion anghyllidol Smith sy’n berthnasol i Gymru. Bydd hyn yn galluogi’r llywodraeth newydd i wneud penderfyniadau’n fuan yn y Senedd nesaf ynghylch a ddylid rhoi rhagor o argymhellion Smith ar waith ar gyfer Cymru.
  • Dylid datganoli’r gwaith o drwyddedu echdynnu olew a nwy ar y tir yng Nghymru (ffracio).

Cyllid:

  • Bydd Llywodraeth y DU yn cyflwyno “cyllid gwaelodol” i warchod cyllid perthnasol Cymru ac i roi sicrwydd i Lywodraeth Cymru gynllunio ar gyfer y dyfodol a datblygu’r economi.
  • Cytunir ar union lefel y cyllid gwaelodol, a’r cyfrwng ar gyfer ei gyflwyno, ochr yn ochr â’r Adolygiad nesaf o Wariant.
  • Gwneir hyn gan fod disgwyl i Lywodraeth Cymru alw refferendwm ar bwerau treth incwm yn y Senedd nesaf.

Toll Teithwyr Awyr:

  • Bydd Llywodraeth y DU yn ystyried yr achos a’r opsiynau ar gyfer datganoli rhagor o bwerau i’r Cynulliad Cenedlaethol dros Doll Teithwyr Awyr.
 " "

Beth sy’n digwydd nawr?

  • Mae canlyniadau proses Dydd Gŵyl Dewi yn darparu glasbrint ar gyfer setliad datganoli cliriach a mwy sefydlog ar gyfer Cymru.
  • Mae Llywodraeth y DU yn gobeithio y bydd eu gweithredu’n rhoi terfyn ar y drafodaeth barhaus yng Nghymru ar ddosbarthu pwerau, ac yn galluogi’r sefydliadau datganoledig i ganolbwyntio eu hymdrechion ar greu twf economaidd, swyddi a gwasanaethau cyhoeddus mwy effeithlon.
  • Mae’r consensws gwleidyddol hwn yn darparu sylfaen gadarn ar gyfer Bil Cymru newydd yn gynnar yn y Senedd nesaf, i ddeddfu dros setliad datganoli newydd ar gyfer Cymru.

Darllenwch Ddogfen Dydd Gŵyl Dewi yn llawn yma

Cyhoeddwyd ar 27 February 2015