Stori newyddion

Mae mynediad i Borth y Llywodraeth yn newid i bobl sy'n defnyddio technoleg hŷn

Yr hyn sydd angen i chi ei wybod os ydych yn defnyddio Porth y Llywodraeth ar Windows XP, Windows Vista neu borwyr hŷn megis Internet Explorer 6 neu 7 o 1 Ebrill 2020.

Newidiadau o 1 Ebrill 2020

Caiff Porth y Llywodraeth ei uwchraddio yn fuan i gadw eich data yn ddiogel a diweddaru ein technoleg. Ni fydd pob system weithredu gyfrifiadurol na phob porwr y rhyngrwyd hŷn yn gweithio gyda’r mesurau diogelwch newydd sy’n rhan o’r gwaith uwchraddio.

O 1 Ebrill 2020, ni fyddwch yn gallu cael mynediad at eich cyfrif ar Borth y Llywodraeth yn Windows XP, Windows Vista nac Internet Explorer 6/7 mwyach. Mae’n bosibl y bydd hyn yn effeithio ar systemau gweithredu a phorwyr hŷn eraill hefyd.

Gallwch fewngofnodi i wasanaethau drwy Borth y Llywodraeth o hyd gan ddefnyddio systemau gweithredu a phorwyr mwy modern.

Y gwasanaethau yr effeithir arnynt:

  • Defra SignOn & SignOn Admin
  • CARA IAM
  • AMLS2
  • eDomero
  • ESP Seedcert
  • eHMI/PEACH
  • WIISOL
  • GLA LAWS
  • Yr Arolygiaeth Dŵr Yfed (DWI)
  • SPIRE (mynediad i elfennau o’r Porth ac WMS)
  • System Olrhain Gwartheg (SOG) Ar-lein
  • System Dyrannu Tagiau Clust Defaid a Geifr
  • Merman NMMD
  • SAM/iSAM
  • ALVS
  • SPIRIT WAG

Yr hyn y dylech ei wneud

Er mwyn parhau i gael mynediad i system Porth y Llywodraeth, bydd angen i chi gadarnhau beth yw System Weithredu a fersiwn Internet Explorer eich cyfrifiadur.

Gallwch wneud hyn drwy ddilyn y canllawiau isod:

Cadarnhau fersiwn eich Internet Explorer

  • agorwch Internet Explorer
  • gwasgwch Alt+H a dewiswch ‘About Internet Explorer’ o’r gwymplen. Bydd hyn yn dangos blwch sy’n nodi pa fersiwn rydych yn ei defnyddio

Cadarnhau fersiwn eich System Weithredu

  • cliciwch y botwm ‘Start’ yn y gornel ar waelod yr ochr chwith
  • teipiwch ‘Winver’ yn y blwch ‘Run/Search’ a chliciwch ‘Enter’. Bydd hyn yn dangos blwch sy’n nodi pa fersiwn rydych yn ei defnyddio.

Cydweddoldeb

Mae angen i’ch cyfrifiadur gydweddu â meddalwedd diogelwch TLS 1.2 er mwyn iddo weithio gyda gwasanaeth newydd Porth y Llywodraeth.

Gweler isod fanylion cydweddoldeb fersiynau o Internet Explorer a System Weithredu Windows gyda TLS 1.2:

  • os ydych yn defnyddio fersiwn 11 Internet Explorer mae eich cyfrifiadur yn cydweddu â gwasanaeth newydd Porth y Llywodraeth
  • os ydych yn defnyddio fersiynau 8, 9 neu 10 Internet Explorer efallai y bydd angen i chi edrych ar eich ffurfweddiad – gweler isod gyfarwyddiadau i brofi ar gyfer cydweddoldeb TLS 1.2
  • os ydych yn defnyddio fersiwn 7 Internet Explorer neu fersiwn is nid yw eich cyfrifiadur yn cydweddu â gwasanaeth newydd Porth y Llywodraeth a bydd angen i chi uwchraddio i barhau i’w ddefnyddio
  • os ydych yn defnyddio Windows XP neu Windows Vista nid yw eich cyfrifiadur yn cydweddu â gwasanaeth newydd Porth y Llywodraeth a bydd angen i chi uwchraddio i barhau i’w ddefnyddio

Cydweddoldeb fersiynau 8, 9 a 10 Internet Explorer

Mae’r fersiynau hyn o Internet Explorer yn cefnogi TLS 1.2 ond efallai na fyddant wedi eu galluogi yn ddiofyn. Er mwyn cadarnhau a yw wedi’i alluogi:

  • agorwch Internet Explorer
  • o’r gwymplen, cliciwch Tools > Internet Options > Advanced tab
  • sgroliwch i lawr i gategori ‘Security’, sicrhewch fod y blychau ‘Use TLS 1.1’ ac ‘Use TLS 1.2’ wedi’u ticio
  • cliciwch OK
  • caewch eich porwr ac ailgychwynnwch Internet Explorer

Gallwch gadarnhau bod eich porwr yn cydweddu â TLS 1.2 drwy ddefnyddio’r wefan hon browserleaks.com

Os caiff TLS 1.2 ei gefnogi, bydd yn dangos tic gwyrdd wrth ymyl TLS 1.2. Os na fydd tic wrth ymyl TLS 1.2 yna dilynwch y cyfarwyddiadau uchod i’w alluogi yn Internet Explorer.

Dylech gynnal y gwiriadau hyn cyn gynted â phosibl fel eich bod yn gwybod a fydd eich cyfrifiadur yn cydweddu â gwasanaeth newydd Porth y Llywodraeth.

Cyhoeddwyd ar 12 February 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 27 February 2020 + show all updates
  1. Added a Welsh translation and tagged the news story to Natural England, Animal and Plant Health Agency and Rural Payments Agency.

  2. First published.