Stori newyddion

Blwyddyn ym mywyd Ysgrifennydd Gwladol Cymru

Alun Cairns yn ysgrifennu yn y Wales on Sunday

Alun Cairns

Yn ystod y 12 mis diwethaf rwyf wedi cael cyfle i brofi pethau gorau un y wlad hon, gan wneud cysylltiadau ym mhob cwr o Gymru, blasu ei diwylliant a’i hanes a chwrdd â’i phobl.

Cefais brofi gorfoledd ymgyrch anhygoel Cymru ym Mhencampwriaeth Ewro 2016 a gweld y wlad i gyd yn dod at ei gilydd i ddathlu. Cefais hefyd brofi dwyster y cofio wrth ymweld â safle Coedwig Mametz lle bu miloedd o filwyr o Gymru yn ymladd ym mrwydr waedlyd y Somme gan mlynedd yn ôl.

Rwyf wedi ymweld â llawer o gwmnïau – bach a mawr – ac rwyf wedi gweld drosof fy hun eu bod yn gwneud mwy na dim ond goroesi. Maen nhw hefyd yn ffynnu.

O ffermio wystrys ar afon Menai, i helpu bragdy AB InBev yn Sir Fynwy i gynhyrchu 264,000 o beintiau o gwrw, rwyf wedi cael y fraint o weld brwdfrydedd ac agwedd benderfynol y gweithlu Cymreig sy’n helpu i greu sylfaen gadarn ar gyfer twf economaidd yng Nghymru.

Pan ddechreuais ar fy swydd fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru 365 o ddiwrnodau yn ôl, fy ngweledigaeth oedd meithrin cenedl Gymreig a fyddai’n fwy uchelgeisiol, hyderus ac allblyg nag erioed.

Flwyddyn yn ddiweddarach, mae Cymru mewn safle gwirioneddol gryf a gall wireddu’r weledigaeth.

Rydym yn gweld y twf cyflymaf y tu allan i Lundain, ac yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae’r gyfradd gyflogaeth wedi tyfu’n gyflymach yng Nghymru nag yn unrhyw ranbarth arall yn y Deyrnas Unedig.

Mae economi Cymru eisoes wedi sefydlu enw da iawn iddi ei hun yn rhyngwladol. Ond er bod llawer o bobl, lleoedd a busnesau yn ffynnu, mae cyfleoedd a thwf yn dal wedi eu gwasgaru’n anghyfartal drwy’r wlad. Dyna pam y lansiwyd ein strategaeth ddiwydiannol fodern newydd, a dyna pam y bûm yn croesawu pawb i Uwchgynhadledd Allforio Busnes Cymru yng Nghaerdydd yn gynharach y mis hwn. Rwyf eisiau sicrhau bod pob rhan o Gymru’n gallu manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd sydd i ddod.

O ran her datganoli, rwyf wedi bod yn mynd ymhellach fyth, gan oruchwylio newidiadau hanesyddol i’r ffordd y mae Cymru’n cael ei llywodraethu.

Ysgrifennwyd pennod newydd yng nghyfansoddiad Cymru ym mis Ionawr pan roddwyd Cydsyniad Brenhinol i Fil Cymru. Mae’n setliad a fydd yn dal ei dir ac a fydd yn cyflawni’r hyn rwyf wedi bod eisiau ei weld erioed – setliad datganoli cliriach, cryfach a thecach i Gymru, yn seiliedig ar fodel cadw pwerau.

Gwelsom hefyd fargen ariannu hanesyddol, yn seiliedig ar anghenion, rhwng y llywodraeth ym Mae Caerdydd a’r llywodraeth yn San Steffan, a fydd yn gwarantu sicrwydd ariannol hirdymor i Gymru.

Mae arwyddo Bargen Caerdydd y llynedd wedi bod yn sbarduno rhanbarthau eraill Cymru i gyflwyno eu dyheadau ar gyfer twf. Fy mlaenoriaethau nesaf yw sicrhau Bargen Ddinesig Rhanbarth Bae Abertawe, yn ogystal â bargen dwf ar gyfer Gogledd Cymru a fydd yn gysylltiedig â Phwerdy Gogledd Lloegr.

Mae seilwaith hefyd yn allweddol i’n gallu i lwyddo. O ran yr her o foderneiddio ein seilwaith, rwyf wedi herio’r prif gwmnïau ffonau symudol i leihau nifer yr ardaloedd di-gyswllt yng Nghymru â bargen a fydd yn gwarantu darpariaeth llais a thestun ym mhob man. Mae gan Gymru fodern hawl i seilwaith modern ac rwy’n benderfynol o wneud i hyn ddigwydd.

Roeddwn yn falch iawn o groesawu’r Ysgrifennydd dros Drafnidiaeth i Gymru ddechrau’r flwyddyn i gyhoeddi’r gostyngiad yn nhollau pont Hafren. Mae pont Hafren yn hanfodol ar gyfer buddsoddiad yng Nghymru ac mae ein hymrwymiad i ostwng y tollau yn dangos yn glir unwaith eto bod Cymru ar agor i fusnes.

Mae’r llwyddiannau hyn gyda’i gilydd yn mynd â ni gam yn nes tuag at gyflawni gweledigaeth y Llywodraeth hon o greu gwlad sy’n gweithio i bawb.

Ond ni fyddai’r llwyddiannau hyn wedi bod yn bosibl oni bai am y berthynas gadarnhaol sy’n aeddfedu rhwng gweinidogion llywodraeth y Deyrnas Unedig a gweinidogion Llywodraeth Cymru.

Ac ar yr adeg dyngedfennol hon, mae’n bwysicach nag erioed ein bod yn wynebu’r dyfodol gyda’n gilydd fel Teyrnas Unedig gref. Mae’r Undeb gwych hwn wedi bod yn gonglfaen i ffyniant Cymru yn y gorffennol, ac elfen ganolog o waith y Llywodraeth hon fydd cadw’r Undeb hwn.

Heb os nac oni bai, rydym yn byw mewn cyfnod pwysig yn hanes ein gwlad.

Ond rwyf am symud ymlaen â’r gwaith heb wastraffu dim amser – rhoi arweiniad i wneud yn siŵr bod Cymru yn y safle cryfaf posibl i ffynnu pan fyddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, cefnogi swyddi a thwf a gwneud yn siŵr bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dal i gyflawni ar gyfer pobl Cymru.

Cyhoeddwyd ar 22 March 2017