Croeso cynnes Cymru’n ddiguro
Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi llongyfarch perchnogion y Bridge End Inn yn Wrecsam am gipio teitl ‘Tafarn y Flwyddyn CAMRA’ ar ol agor …

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi llongyfarch perchnogion y Bridge End Inn yn Wrecsam am gipio teitl ‘Tafarn y Flwyddyn CAMRA’ ar ol agor ei drysau ddwy flynedd a hanner yn unig yn ol .
Mae’r Bridge End Inn yn Rhiwabon yng ngofal y Landlord Peter McGivern a’i fab Matthew, sy’n bragu’r cwrw ym micro-fragdy’r dafarn. Cawsant ddyfarniad ‘eithriadol’ mewn nifer o gategoriau allweddol: awyrgylch, addurn, gwasanaeth, gwerth, cymysgedd y cwsmeriaid, croeso cynnes, a chwrw rhagorol. Mae’r dafarn, sef y dafarn gyntaf yng Nghymru i ennill y teitl, yn derbyn y plac am ddod yn fuddugol gan CAMRA heddiw.
Cafodd sefydliadau eraill yng Nghymru gydnabyddiaeth hefyd yng ngwobrau 50 Uchaf Tafarndai Budweiser Budvar 2012, gan gynnwys yr Hardwick ger Y Fenni a’r Felin Fach Griffin ger Aberhonddu. Ddydd Mercher, cyfeiriodd sawl AS o Gymru at bwysigrwydd rol bwyd a diod yn eu hetholaethau yn yr Uwch-Bwyllgor Cymreig ar Amaethyddiaeth gyda’r Gweinidog, Jim Paice.
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru: “Mae’r gwobrau niferus hyn i sefydliadau bwyd a diod o safon uchel yn profi bod croeso cynnes Cymru’n un diguro. Mae gennym ni fwytai, tafarndai ac atyniadau twristaidd o safon byd yng Nghymru, ac maent yn llawn haeddu’r sylw cynyddol maent yn ei gael yma yn y DU ac yn rhyngwladol.
“Hoffwn longyfarch Peter a Matthew McGivern yn fawr iawn, a hefyd y Felin Fach a’r Hardwick, sy’n rhoi Cymru ar y map i’r rhai sy’n hoff o fwyd a diod - hir y parhaed hynny!’