Datganiad i'r wasg

‘Un o drysorau Shakespeare – gyda naws Gymreig’

Heddiw [15fed Chwefror] dangosodd David Jones, Gweinidog Swyddfa Cymru, ei gefnogaeth i Clwyd Theatr Cymru, ar ol gwylio cynhyrchiad y cwmni…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw [15fed Chwefror] dangosodd David Jones, Gweinidog Swyddfa Cymru, ei gefnogaeth i Clwyd Theatr Cymru, ar ol gwylio cynhyrchiad y cwmni o ‘As You Like It’ yn yr Wyddgrug neithiwr. 

Mae’r sioe, sy’n cael ei chyfarwyddo gan Terry Hands, yn cael ei chydnabod yn un o ddarnau comedi mwyaf poblogaidd Shakespeare. Un seren sy’n ymddangos yn y cynhyrchiad yw Kai Owen - sydd wedi actio ar Torchwood a The Syndicate - ac ef sy’n chwarae rhan ‘Charles’ y reslwr.   

Dywedodd y Gweinidog, a oedd wedi cael gwahoddiad fel gwestai arbennig:** **

“Roedd yn bleser pur cael mynd i weld y sioe neithiwr, a chael blas ar un o weithiau mwyaf gwerthfawr Shakespeare - gyda naws Gymreig.  Mae Theatr Clwyd wedi bod yn gyfrifol am nifer o gynyrchiadau o safon sy’n procio’r meddwl. Mae’r cynhyrchiad diweddaraf hwn wedi rhoi llwyfan i gasgliad arall o artistiaid brodorol talentog.    

“Mae Clwyd Theatr Cymru yn buddsoddi’n helaeth mewn pobl ifanc gyda’i adran ‘Theatr ar gyfer pobl ifanc’, sy’n rhoi cyfle i actorion ifanc fod yn rhan o gynyrchiadau prif ffrwd y cwmni. Maent yn helpu i roi theatr Cymru ar y map, drwy fynd a’u gwaith ar daith er mwyn i eraill fwynhau’r hud y maent wedi’i greu.   

Mae Cymru’n enwog am ei rhagoriaeth yn y byd artistig ac am ei chelfyddydau perfformio sydd ymhlith y gorau yn y byd. Gall Cymru gyfan fod yn falch tu hwnt o Clwyd Theatr Cymru.”

Nodiadau i olygyddion:

  • Bydd cynhyrchiad Theatr Clwyd o ‘As You Like It’ yn cael ei ddangos hyd at 10fed Mawrth.
Cyhoeddwyd ar 15 February 2012