Stori newyddion

‘Cyfnod newydd yng Nghymru o ran darlledu ym Mhrydain’: Ysgrifennydd Cymru yn croesawu agoriad Porth y Rhath

Heddiw [12 Mawrth] mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan wedi mynegi ei chefnogaeth i Borth y Rhath, ar ei agoriad swyddogol. Bydd …

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw [12 Mawrth] mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan wedi mynegi ei chefnogaeth i Borth y Rhath, ar ei agoriad swyddogol.

Bydd y safle stiwdio 170,000 troedfedd sgwar (15,800 metr sgwar) yn gartref i rai o brif gynyrchiadau’r rhwydwaith gan gynnwys Doctor Who, Casualty ac Upstairs Downstairs.  

Roedd Ysgrifennydd Cymru, a ymwelodd a safle’r pentref drama pan oedd yn cael ei adeiladu, yn croesawu cyfraniad y BBC i ddiwydiannau creadigol Cymru yn ogystal a’i rol yn hyrwyddo Cymru dramor.  Mae’r pentref drama yn ganolbwynt i’r prosiect Porth Teigr, a rhywbryd eto bydd tai a chanolfannau gwerthu yn cael eu datblygu ar y safle.  

Dywedodd Mrs Gillan: “Mae’r diwydiannau creadigol yn sector allweddol i economi Cymru, gan gyfrannu tua £750m a chyflogi tua 24,000 o bobl.  Hyd yma mae Cymru wedi bod mewn sefyllfa wych i elwa ar drosglwyddo proses gynhyrchu mwy o raglenni drama a rhaglenni ffeithiol allan o Lundain, ac mae hyn wedi denu buddsoddiad o’r tu allan ac wedi helpu i symbylu twf drwy greu swyddi.  

“Mae’r BBC yn gwneud cyfraniad pwysig i fywyd diwylliannol Cymru yn ogystal a’r economi.  Mae llwyddiant anhygoel rhaglenni rhwydwaith fel Gavin and Stacey, Dr Who, Torchwood a Coalhouse wedi rhoi enw da i BBC Cymru Wales am ragoriaeth ac mae Cymru nawr yn cael ei chlodfori am ei sector darlledu bywiog.  Mae hwn yn gyfnod newydd i ddarlledu ym Mhrydain, ac rwy’n edrych ymlaen at lawer mwy o flynyddoedd o raglenni o safon fyd-eang sydd wedi eu ‘Cynhyrchu yng Nghymru’.”

Cyhoeddwyd ar 12 March 2012