Stori newyddion

‘Bargen deg i Gymru’, meddai Ysgrifennydd Cymru

This news article was published under the 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw, mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi arbedion y mae angen eu gwneud yng Nghymru er mwyn helpu i leihau’r diffyg anferthol cenedlaethol. …

Heddiw, mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi arbedion y mae angen eu gwneud yng Nghymru er mwyn helpu i leihau’r diffyg anferthol cenedlaethol.

Mae Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, a fu mewn trafodaethau a Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys, David Laws, yr wythnos diwethaf, wedi dweud wrth Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, y bydd angen i Gymru sicrhau arbedion effeithlonrwydd a fydd gyfwerth a 1.2 y cant o gyllideb y Cynulliad. Bydd angen i’r Cynulliad gyfrannu £187 miliwn at y cynlluniau i leihau’r diffyg, sy’n £6.243 biliwn.  

Meddai Mrs Gillan: “Mae’r penderfyniadau hyn wedi bod yn rhai anodd, ond mae’n briodol ac yn deg bod Cymru’n gwneud ei rhan i gynorthwyo i leihau’r diffyg ariannol anferthol y mae’r Llywodraeth hon wedi’i hetifeddu gan y Llywodraeth flaenorol.

“Rwy’n falch ein bod wedi gallu cyfyngu’r arbedion y mae angen i Gymru eu gwneud i 1.2 y cant - mae hynny gryn dipyn yn llai na’r hyn y mae nifer o adrannau’r Llywodraeth yn gorfod ei sicrhau. Mae hon yn fargen deg a chymesur i Gymru.

“Fel y dywedodd y Prif Weinidog wrth Brif Weinidog Cymru yn ystod ei ymweliad a Chaerdydd ddydd Llun diwethaf, os dymunant, gall y gweinyddiaethau datganoledig ohirio’r arbedion hyn tan 2011-2012. Fodd bynnag, bydd angen i’r arbedion hyn gael eu gwneud naill ai eleni neu’r flwyddyn nesaf.

“Wrth gwrs, Llywodraeth Cynulliad Cymru sydd i benderfynu a yw’n dymuno gohirio’r arbedion ai peidio a sut y bydd yr arbedion yn cael eu dosbarthu ar draws y rhaglenni datganoledig. Felly nid ydym yn credu bod angen cwtogi ar wasanaethau rheng flaen hanfodol yng Nghymru - nac yn unrhyw ran o’r DU - o ganlyniad i’r arbedion hyn.

“Yn ogystal, drwy gyfrwng symiau canlyniadol Barnett, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cael cynnydd o £24 miliwn. Mae hynny’n adlewyrchu, er enghraifft, yr arbedion a ddefnyddir gan adrannau’r Llywodraeth ar fesurau penodol i sicrhau cynnydd o ran tai cymdeithasol, addysg bellach, prentisiaethau ac ardrethi busnes.  

“Bu’r rhain yn benderfyniadau anodd, ond mae’n hanfodol ein bod yn lleihau’r diffyg er mwyn sicrhau adferiad economaidd. Ar hyn o bryd, rydym yn gorfod benthyca £1 am bob £4 y bydd y Llywodraeth yn ei gwario ar draws y DU. Mae hyn yn gwbl anghynaliadwy.

“Mae ein gweithredu di-oed yn dangos pa mor benderfynol yw’r Llywodraeth hon o sicrhau bod mynd i’r afael a’r diffyg hwn yn flaenoriaeth. Mae’r neges yn glir - mae ein dyledion cyhoeddus llethol yn bygwth ein sefydlogrwydd ariannol. Os na fyddwn yn rhoi sylw i’r mater, bydd yn tarfu ar ein hadferiad economaidd.

“Mae’r Llywodraeth wedi ymrwymo i weithio gyda’r Cynulliad a’r holl sefydliadau datganoledig mewn ffordd adeiladol er mwyn lleihau’r diffyg gyda’n gilydd, gan rannu agweddau a phrofiadau er mwyn sicrhau arbedion yn y ffordd fwyaf effeithiol bosib.  Wedi’r cyfan, mae hyn yn effeithio ar bob un ohonom.”