Datganiad i'r wasg

£64 miliwn ar gyfer hwb gwynt ar y môr Port Talbot yn y Môr Celtaidd

Hyd at £64 miliwn i gefnogi’r gwaith o ddatblygu Port Talbot i fod y porthladd cyntaf yn y Môr Celtaidd i gael ei ddatblygu’n benodol i gefnogi ffermydd gwynt arnofiol ar y môr.

  • Hyd at £64 miliwn i gefnogi’r gwaith o ddatblygu Port Talbot i fod y porthladd cyntaf yn y Môr Celtaidd i gael ei ddatblygu’n benodol i gefnogi ffermydd gwynt arnofiol ar y môr - cam pwysig o ran cyflawni’r genhadaeth ynni glân
  • Bydd y porthladd newydd yn helpu i ddatgloi o leiaf 4.5 GW o ffermydd gwynt arnofiol ar y môr yn y Môr Celtaidd - gan helpu i gyflenwi trydan glân a lleol, diogelu aelwydydd rhag marchnadoedd tanwydd ffosil ansefydlog a chreu hyd at 5,000 o swyddi newydd
  • Mae’n adeiladu ar waith llywodraeth y DU yn cefnogi’r diwydiant dur ym Mhort Talbot, a dyrannu’r cyfan o’r cyllid gwerth £122 miliwn i ddarparu hyfforddiant i weithwyr Tata Steel a busnesau i adfywio’r

Bydd Port Talbot ar flaen y gad gyda diwydiant ynni glân newydd arloesol, a fydd yn cefnogi miloedd o swyddi da ac yn sbarduno twf ledled de Cymru, diolch i grant o £64 miliwn gan lywodraeth y DU.

Bydd y cyllid yn galluogi Cymdeithas Porthladdoedd Prydain (ABP) i gwblhau’r gwaith dylunio a pheirianneg hanfodol sydd ei angen i adeiladu un o’r porthladdoedd ffermydd gwynt arnofiol ar y môr cyntaf yn y DU ym Mhort Talbot. 

Mae rhai o’r amodau gorau ar gyfer ffermydd gwynt arnofiol ar y môr yn Ewrop yn y Môr Celtaidd. Yn wahanol i ffermydd gwynt ar y môr traddodiadol, mae tyrbinau arnofiol yn cael eu lleoli mewn dyfroedd dyfnach, lle byddant yn gallu harneisio gwyntoedd cryfach a mwy cyson.   

Bydd y porthladd newydd yn datgloi prosiectau ffermydd gwynt arnofiol ar y môr 4.5 GW i ddechrau yn y Môr Celtaidd - digon i bweru 6.5 miliwn o gartrefi - ar ôl rownd brydlesu gwely’r môr lwyddiannus gan Ystad y Goron y llynedd. 

Mae ABP yn disgwyl y bydd y porthladd newydd yn cefnogi miloedd o swyddi ac yn datgloi dros £500 miliwn mewn buddsoddiad i Bort Talbot, unwaith y bydd wedi’i gwblhau. 

Mae’r gwrthdaro yn y Dwyrain Canol unwaith eto wedi tynnu sylw at y ffaith y bydd teuluoedd a busnesau yn parhau i dalu’r pris os bydd y DU yn parhau i ddibynnu ar farchnadoedd tanwydd ffosil nad ydym yn eu rheoli. 

Yr unig ffordd o allu rheoli ynni Prydain a gostwng prisiau biliau am byth yw gyda phŵer glân a lleol. Mae’r cyllid hwn i Bort Talbot yn enghraifft arall o ddysgu’r gwersi iawn o’r gwrthdaro, gan ddod â swyddi a diwydiannau’r dyfodol i dde Cymru.    

Dywedodd Ed Miliband, yr Ysgrifennydd Ynni: 

O ffermydd gwynt arnofiol ar y môr ym Mhort Talbot i genhedlaeth newydd o adweithyddion modiwlar bychan yn Wylfa - mae’r llywodraeth hon yn rhoi Cymru wrth galon ein cenhadaeth archbŵer ynni glân.  

Gyda’i dyfroedd dyfnion a’i gwyntoedd cryfion, rydyn ni’n cefnogi Cymru i fwrw ymlaen gyda’r ffermydd gwynt arnofiol ar y môr - diwydiant arloesol a fydd yn cefnogi miloedd o swyddi da, yn ysgogi twf ledled y wlad ac yn datgloi’r genhedlaeth nesaf o bŵer glân a lleol.

Dywedodd Henrik L. Pedersen, Prif Swyddog Gweithredol ABP:

Mae’r ymweliad heddiw yn nodi cynnydd go iawn yn yr uchelgais y mae ABP a llywodraeth y DU yn ei rhannu i sicrhau’r seilwaith sydd ei angen i gyflawni ffermydd gwynt arnofiol ar y môr ar raddfa fawr. Mae cytuno ar delerau cymorth y llywodraeth yn gam pwysig tuag at ragor o fuddsoddiad gan ABP ym Mhort Talbot a sefydlu’r porthladd fel conglfaen i’r diwydiant ffermydd gwynt arnofiol ar y Môr Celtaidd. Byddai’r datblygiad hwn yn ysgogi adfywio diwydiannol, yn cefnogi miloedd o swyddi medrus ac yn sicrhau bod Cymru a’r DU yn manteisio i’r eithaf ar fudd economaidd llawn y sector hwn sy’n dod i’r amlwg.

Dywedodd Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru: 

Dyma foment arwyddocaol i Bort Talbot a cham pwysig ymlaen i’r diwydiant ynni glân, sy’n tyfu, yng Nghymru. Bydd y buddsoddiad hwn yn cadarnhau safle Port Talbot fel hwb i ddiwydiannau’r dyfodol, ac mae’n arwydd o’r bennod nesaf o ran swyddi, a buddsoddiad yn yr ardal. 

Mae llywodraeth y DU wedi cefnogi gweithwyr dur a’r gymuned ym Mhort Talbot gyda £100 miliwn o gymorth uniongyrchol, a £500 miliwn i adeiladu Ffwrnais Arc Drydan newydd, gan sicrhau y bydd y dref yn gweithgynhyrchu dur glân yn y dyfodol.   

Diolch i’n buddsoddiad, gwaith undebau llafur a busnesau lleol, ac ymroddiad ac ysbryd y bobl leol - mae dyfodol disglair iawn i Bort Talbot a’r rhanbarth cyfan.

Mae ABP wedi cytuno ar delerau grant, a bydd y cyllid yn dibynnu ar ganlyniad atgyfeiriad gorfodol yr Uned Cyngor ar Gymorthdaliadau a chymeradwyaethau terfynol y llywodraeth.  

Y cyllid hwn yw’r cam gweithredu pendant diweddaraf gan lywodraeth y DU i sicrhau dyfodol diwydiannol Port Talbot, gan gynnwys cefnogi Tata Steel gyda £500 miliwn i ddarparu Ffwrnais Arc Drydan o’r radd flaenaf, gan sicrhau y bydd Port Talbot yn parhau i fod yn dref sy’n cynhyrchu dur. 

Daw hyn hefyd wythnos ar ôl lansio Strategaeth Ddur y llywodraeth, a fydd (gyda chymorth o hyd at £2.5 biliwn) yn helpu i gyrraedd y targed o gyflenwi 50% o’r galw domestig am ddur ac yn diogelu rôl y diwydiant yn cefnogi sectorau hanfodol yn y DU, fel seilwaith, amddiffyn ac ynni glân. 

Ochr yn ochr â hyn, mae Llywodraeth y DU wedi dyrannu’r cyfan o’r £122 miliwn o gyllid Bwrdd Pontio Port Talbot llywodraeth y DU i gefnogi miloedd o weithwyr, busnesau a chymunedau y mae’r newidiadau yn Tata Steel wedi effeithio arnynt, gan helpu i adfywio’r dref a chefnogi cyfleoedd economaidd newydd.  

Yn ogystal â diogelu dyfodol cynhyrchu dur, mae llywodraeth y DU hefyd wedi gwneud Port Talbot yn gartref i’r Porthladd Rhydd Celtaidd, a fydd yn denu miloedd o swyddi newydd. 

Mae creu dur glân, datblygu’r Porthladd Rhydd Celtaidd ac ehangu’r ffermydd gwynt arnofiol ar y môr yn golygu bod Port Talbot yn gadarn wrth galon economi ynni glân de Cymru, economi sy’n tyfu, gan gefnogi miloedd o swyddi newydd, o ansawdd uchel a helpu i gyflawni cenhadaeth ynni glân Prydain.

DIWEDD

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 26 Mawrth 2026
Diweddarwyd ddiwethaf ar 31 Mawrth 2026 show all updates
  1. Added translation

  2. First published.