Stori newyddion

6 peth y mae angen i chi wybod am ein perfformiad

Uchafbwyntiau o'n hadroddiad blynyddol a'n cyfrifon ar gyfer 2017 i 2018, gan gynnwys yr hyn yr ydym wedi'i wneud i wella ein gwasanaethau digidol ac ansawdd y data ar ein cofrestr.

Graphics from our 2017 to 2018 annual report.

1. Fe wnaethom ni brosesu mwy o ffeiliau nag erioed

Ymgorfforwyd 620,285 o gwmnïau newydd eleni a chyfanswm maint y gofrestr ar 31 Mawrth 2018 oedd 4,033,355.

Gwnaeth ein staff brosesu mwy o ffeiliau nag erioed o’r blaen. Derbyniwyd dros 11 miliwn o drafodion a chafwyd ddata ei gyrchu ar y gofrestr mwy na 2 biliwn o weithiau.

2. Cynyddom ni nifer y cyfrifon y gallwch eu ffeilio

Eleni, gwnaethom ni gwblhau gwaith ar ein systemau digidol i ganiatáu i 99% o fathau o gyfrifon (yn ôl cyfaint) gael eu ffeilio’n ddigidol. Mae hyn yn cynnwys system sy’n caniatáu i gwmnïau ffeilio’r cyfrifon talfyredig newydd.

Mae hyn yn gynnydd pwysig i ni.
Mae’n ei gwneud yn haws i gwmnïau ffeilio’u cyfrifon a’u gwneud yn fwy hygyrch i bobl sy’n penderfynu a ddylid gwneud busnes gyda chwmni.

3. Cyflwynwyd ni ein swyddogaeth ‘report it now’ i wella ansawdd data

Fe lansiwyd report it now’ ar Companies House Service (CHS). Mae’r swyddogaeth newydd hon yn caniatáu i gwsmeriaid ddweud wrthym am unrhyw beth sy’n anghywir â’r wybodaeth ar y gofrestr.

Bu hyn yn llwyddiant enfawr, gyda 58,352 o adroddiadau rhwng ei lansio ym mis Gorffennaf 2017 a 31 Mawrth 2018. Rydym yn defnyddio’r adborth hwn gan gwsmeriaid i helpu ni i wella ansawdd ein data, gan weithio gyda chwmnïau i sicrhau eu bod yn ffeilio’r wybodaeth gywir a’i fod yn aros yn gywir ac yn gyfoes.

4. Cynyddom ni wybodaeth PRhA ar y gofrestr

Ein cofrestr gyhoeddus o bobl â rheolaeth arwyddocal (PRhA) yw’r cyntaf o’i fath ledled y byd, a chafwyd mynediad at wybodaeth PRhA dros 5 miliwn o weithiau llynedd. Mae’r data yn dangos pwy sy’n rheoli cwmnïau’r DU ac yn cefnogi ymrwymiad y llywodraeth i wella tryloywder corfforaethol.

Eleni, datblygwyd ein systemau i ganiatáu mwy o fathau o fusnesau ffeilio eu gwybodaeth PRhA. Er enghraifft, mae gennym niwybodaeth PRhA bellach ar gyfer partneriaethau cyfyngedig yn yr Alban (SLP). Mae hyn wedi gwneud SLPau yn fwy tryloyw, gan helpu gorfodi’r gyfraith yn eu hymladd yn erbyn troseddau economaidd.

5. Cadwasiad ein gwobr Rhagoriaeth Gwasanaeth Cwsmeriaid

Rydym wrth ein bodd o gadw’r safon Rhagoriaeth Gwasanaeth Cwsmeriaid eleni. Mae’r safon yn canolbwyntio ar feysydd blaenoriaeth i’n cwsmeriaid, megis prydlondeb gwasanaeth, proffesiynoldeb, agwedd staff a defnyddio mewnwelediad cwsmeriaid i yrru gwelliannau i’r gwasanaeth. Buom yn sgorio’n uchel ar draws yr holl feysydd hyn.

Fe wnaethon ni hefyd ennill ein hail wobr aur yn olynol Buddsoddwyr mewn Pobl, gan ddangos ein hymrwymiad i logi gweithlu amrywiol sy’n adlewyrchu’r cwsmeriaid a’r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu.

6. Rydyn ni wedi rhagori ar ein targed effeithlonrwydd

Ein targed effeithlonrwydd oedd lleihau costau ein gweithgareddau gwaelodlin o 3.5%. Rydyn ni wedi rhagori ar y targed hwn a chyflawnwyd gwerth effeithlonrwydd terfynol o 5%.

Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i ddarparu gwasanaethau cyflym ac effeithlon, ac mae ein cynllun busnes ar gyfer 2018 hyd 2019 yn esbonio nodau ein rhaglen drawsnewid newydd. Bydd y rhaglen hon yn arwain at bobl wych, gan ddarparu gwasanaethau gwych, trwy systemau gwych.

Cyhoeddwyd ar 1 August 2018
Diweddarwyd ddiwethaf ar 15 August 2018 + show all updates
  1. Welsh translation added

  2. First published.