Stori newyddion

Bydd buddsoddiad Band Eang gwerth £56.9m yn darparu seilwaith ar gyfer twf i Gymru, meddai Cheryl Gillan

Heddiw, croesawodd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, y buddsoddiad o £56.9m i Gymru a fydd yn helpu i gyflenwi pawb a band eang a 90…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw, croesawodd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, y buddsoddiad o £56.9m i Gymru a fydd yn helpu i gyflenwi pawb a band eang a 90 y cant o dai a busnesau yn y wlad a band eang cyflym iawn.

Cyhoeddwyd cyfran Cymru o gronfa fuddsoddi mewn band eang y Llywodraeth, sydd werth £530 miliwn, gan yr Ysgrifennydd Diwylliant, Jeremy Hunt, pan gyfarfu’r Cabinet yn Ne Cymru.

Drwy ddarparu arian cyfatebol, bydd Llywodraeth Cymru yn gallu rhoi mynediad at fand eang cyflym iawn i 90 y cant o safleoedd a mynediad at o leiaf 2Mbps i bawb. Bydd Llywodraeth Cymru yn penderfynu sut i ddefnyddio’r arian hwn i gefnogi cyflwyno band eang ledled y wlad.

Wrth groesawu’r buddsoddiad sylweddol, dywedodd Mrs Gillan:  “Rydw i yn falch iawn o’r cyhoeddiad hwn sydd, gyda’r arian newydd rydym yn ei ddarparu ar gyfer trydaneiddio’r rheilffordd i dde Cymru, yn dangos ein hymrwymiad i sicrhau y sefydlir y seilwaith y mae Cymru ei angen i dyfu.  

“Rhoi hwb i dwf economaidd Cymru yw fy mlaenoriaeth bennaf.  Byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth a Llywodraeth Cymru i gyflwyno band eang cyflym iawn ledled Cymru.

“Yr wythnos diwethaf, amlygodd adroddiad Ofcom ar y ddarpariaeth band eang yr her rydym yn ei hwynebu yng Nghymru i sicrhau ein bod yn gwella’r ddarpariaeth ar gyfer defnyddwyr busnes a defnyddwyr domestig.  Bydd cyhoeddiad heddiw yn sicrhau bod y nifer sy’n defnyddio band eang a chyflymder band eang yn gwella’n sylweddol, gan ddod a budd i unigolion a busnesau.” 

Dywedodd Mr Hunt:  “Mae band eang cyflym iawn yn hanfodol os yw busnesau i dyfu a chreu swyddi newydd. Mae’n fwyfwy pwysig o ran y ffordd rydym yn darparu gwasanaethau cyhoeddus ac i’n bywydau bob dydd.

“Ond mae rhai ardaloedd yn y DU yn cael eu gadael ar ol.  Nid yw nifer o gymunedau cefn gwlad ac anodd eu cyrraedd yn gallu cael mynediad boddhaol at fand eang.  Rhaid i ni wneud yn siŵr fod yr holl wlad yn gallu bod yn rhan o’r oes ddigidol.

“Rydym yn buddsoddi £56.9 miliwn i helpu gyda’r gwaith o gyflwyno band eang ym mhob rhan o Gymru.  Os bydd Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid sy’n cyfateb i’n buddsoddiad ni, bydd 90 y cant o gartrefi a busnesau’r wlad yn gallu cael mynediad at fand eang cyflym iawn.

“Os ydych chi’n dioddef y rhwystredigaeth o gyswllt rhyngrwyd araf, yna dywedwch wrth eich Aelod Cynulliad perthnasol bod arnoch angen band eang.    Anogwch nhw i wneud y buddsoddiad hwn a sicrhau nad yw Cymru’n cael ei gadael ar ol.”

Nodiadau** **

  • Mae Ofcom yn diffinio ‘band eang cyflym iawn’ fel band eang a chyflymder uwch na 24 Mbps.
  • Ym mis Chwefror, cyhoeddodd George Osborne, Canghellor y Trysorlys, gyllid o £10 miliwn ar gyfer band eang ym Mhwllheli ac ardaloedd cyfagos yng Ngogledd Cymru fel rhan o gynllun cyflwyno cenedlaethol Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer Cymru gyfan.
  • Lansiwyd cynlluniau peilot i ddod a band eang i Ogledd Swydd Efrog, Ucheldir ac Ynysoedd yr Alban, Cymbria a ffiniau Swydd Henffordd ym mis Hydref y llynedd.    Dilynwyd y rhain gan ail don o brosiectau oedd yn cynnwys Wiltshire, Norfolk a Gwlad yr Haf a Dyfnaint, a chyhoeddwyd y rhain ym mis Mai.
Cyhoeddwyd ar 12 July 2011