2,800 o swyddi medrus yng Nghymru a Gogledd Orllewin Lloegr wrth i’r diwydiant CCUS dyfu
Mwy o swyddi da yn cael eu datgloi i weithwyr ar draws Gogledd Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr wrth i ddiwydiant dal carbon Prydain fynd o nerth i nerth.

- Safle dal carbon mawr yn cynnwys Gogledd Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr yn derbyn hwb drwy negodi gyda 2 brosiect newydd, gan sicrhau 800 o swyddi medrus ychwanegol i bobl leol.
- bydd prosiectau yn sbarduno adnewyddu diwydiannol Prydain a gallai ddarparu trydan ar gyfer hyd at 900,000 o gartrefi gydag ynni glân a gynhyrchwyd yn lleol - tra’n datgloi twf ar draws y rhanbarth fel rhan o’r Cynllun ar gyfer Newid
- gall y rhwydwaith HyNet storio hyd at 4.5 miliwn tunnell o CO2 yn flynyddol - sy’n cyfateb i dynnu 2 filiwn o geir oddi ar y ffyrdd - gan gefnogi cenhadaeth y llywodraeth i wneud Prydain yn un o gewri’r maes ynni glân
Ar ôl derbyn y golau gwyrdd gan y Prif Weinidog i ddechrau adeiladu rhwydwaith Cludiant a Storio Bae Lerpwl ym mis Ebrill, mae’r clwstwr dal ynni HyNet heddiw (dydd Mawrth, 5 Awst) yn derbyn hwb arall, wrth i brosiectau newydd gael eu trafod gyda’r llywodraeth a’r diwydiant i ymuno â’r safle sy’n arwain y byd.
Bydd hyn yn cefnogi cyfanswm o 2,800 o swyddi medrus, uniongyrchol - fel peirianwyr a gweithwyr adeiladu - a datgloi twf a buddsoddiad ar draws y rhwydwaith HyNet, sy’n rhychwantu Sir Gaer a Sir y Fflint.
Bydd cyfleusterau gweithgynhyrchu a phiblinellau newydd yn cael eu hadeiladu a bydd gorsafoedd pŵer presennol yn cael eu hailbwrpasu i ddal allyriadau carbon a’u storio’n ddiogel o dan wely’r môr, gan leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.
Mae dal a storio carbon yn ffurfio rhan o Strategaeth Ddiwydiannol fodern y llywodraeth a bydd yn helpu i bweru diwydiannau trwm gydag ynni lân yn y dyfodol. Disgwylir y bydd yn cefnogi hyd at 50,000 o swyddi da wrth i’r diwydiant ddatblygu i’r 2030au, gan aildanio cadarnleoedd diwydiannol y DU a chyflawni Cynllun ar gyfer Newid y llywodraeth.
Dywedodd Sarah Jones, Gweinidog dros Ddiwydiant:
Rydym yn sicrhau swyddi’r dyfodol, y trydan ar gyfer ein cartrefi ac yn gwarchod ein planed drwy ddod yn arweinwyr y byd ar ddal a storio carbon.
Bydd y prosiectau newydd hyn yn adnewyddu diwydiant, yn datgloi twf a sicrhau 800 yn ychwanegol o swyddi medrus, da i bobl leol ar draws Gogledd Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr - gan fynd â’r cyfanswm a gefnogir gan HyNet i 2,800 – a’r cyfan yn rhan o’n Cynllun ar gyfer Newid.
Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens:
Dyma foment arwyddocaol arall i’r diwydiant ynni glân sy’n tyfu yng Nghymru. Rydym yn gwneud y DU yn un o gewri’r maes ynni glân ac yn y broses rydym yn darparu swyddi medrus iawn, gyda chyflog da ar gyfer y dyfodol.
Mae’n wych gweld Gogledd Cymru ar flaen y gad y diwydiant dal ynni a bydd y cannoedd o swyddi newydd sy’n cael eu creu gan y prosiect HyNet yn helpu i sbarduno twf rhanbarthol yn ogystal â chyflymu ein hymdrech i leihau biliau a diogelwch ynni.
Y ddau brosiect sy’n cael eu blaenoriaethu i ymuno â’r rhwydwaith yw:
- Prosiect Ynni Carbon Isel Cei Connah yng Ngogledd Cymru – gorsaf bŵer newydd gyda storfa dal carbon a ddisgwylir ar ei orau bydd yn cynhyrchu digon o ynni glân i bweru 900,000 o gartrefi, tra’n casglu allyriadau CO2. Mae ynni carbon-isel yn darparu ynni wrth gefn hanfodol ar gyfer system ynni glân pan fydd ynni solar a gwynt yn isel, gan ddarparu sicrwydd ynni i deuluoedd a busnesau.
- Bio-ynni Ince gyda Dal a Storio Carbon (InBECCS) yn Sir Gaer – bydd y prosiect yn defnyddio pren gwastraff i greu ynni carbon-isel a dal allyriadau CO2. Hwn fydd y prosiect dileu nwyon tŷ gwydr a alluogir drwy ddal carbon cyntaf yn y DU, gan greu prif sector isadeiledd newydd yng Ngogledd Orllewin Lloegr gyda swyddi o ansawdd uchel.
Mae pump prosiect hefyd yn cael eu cynllunio wrth gefn, gyda’r posibilrwydd i gysylltu â’r rhwydwaith os bydd lle ar gael. Mae’r rhain yn cynnwys prosiectau cynhyrchu hydrogen, ynni o wastraff a phrosiectau dileu nwyon tŷ gwydr trwy ddal aer uniongyrchol. Ym mis Gorffennaf, cyhoeddodd y llywodraeth ei hymrwymiad i rwydwaith hydrogen rhanbarthol integredig. Mae hyn yn rhan allweddol o genhadaeth un o Gewri Maes Ynni Glân a Thwf y llywodraeth. Bydd penderfyniadau ynglŷn â chynhyrchu hydrogen i gefnogi’r rhwydwaith rhanbarthol yn cael ei alinio gyda’r broses ar gyfer dewis prosiectau storio a thrafnidiaeth hydrogen.
Mae lansio trafodaethau newydd gyda diwydiant yn dangos cynnydd ar ymrwymiad £21.7 biliwn y senedd i ddiwydiant dal carbon Prydain, gydag ymrwymiad o £9.4 biliwn dros y senedd hon fel rhan o Adolygiad Gwariant mis Mehefin. Disgwylir i ddal carbon ychwanegu tua £5 biliwn y flwyddyn i economi’r DU erbyn 2050.
Ers mis Gorffennaf diwethaf, mae’r llywodraeth wedi gweithio ar gyflymder i weithredu diwydiant dal carbon Prydain ar ôl blynyddoedd o oedi. Llwyddwyd i gwblhau’r agweddau ariannol ar y clwstwr HyNet a chlwstwr Arfordir Dwyrain Lloegr yn Teesside mewn llai na blwyddyn, ac mae’r llywodraeth hefyd yn cefnogi’r prosiectau Acorn a Viking yn yr Alban a’r Humber gydag arian datblygu.
Bydd dal carbon yn helpu i ddatgarboneiddio diwydiant trwm wrth i’r wlad gyflymu tuag at sero net, tra’n amddiffyn swyddi gweithgynhyrchu medrus a chreu cyfleoedd allforio newydd i fusnesau Prydain mewn technolegau newydd.
Dywedodd Manfredi Giusto, Rheolwr Gyfarwyddwr Eni CCUS Holding:
Fel gweithredwr Cludo a Storio CO2 drwy ein prosiect ym Mae Lerpwl, sy’n cynrychioli asgwrn cefn y clwstwr HyNet, mae Eni yn falch o weld cadarnhad llywodraeth y DU i ehangu HyNet.
Bydd penderfyniad heddiw yn cyfrannu at lenwi capasiti cychwynnol prosiect Bae Lerpwl. Yn dilyn cwblhau’r agweddau ariannol gyda’r llywodraeth fis Ebrill diwethaf, mae prosiect Bae Lerpwl eisoes wedi dechrau ei gam gweithredu, gan greu swyddi newydd a chyfleoedd twf i’r rhanbarth.
Mae dethol allyrwyr ychwanegol yn cynrychioli cam mawr ymlaen, yn cryfhau arweinyddiaeth byd-eang y DU mewn dal a storio carbon.
Dywedodd Mike Lockett, Cadeirydd Gwlad DU Uniper:
Rydym yn falch iawn bod llywodraeth y DU wedi cadarnhau ein bod yn ymrwymo i drafodaethau i ddatblygu ein prosiect Ynni Carbon Isel Cei Connah yng Ngogledd Cymru.
Mae cefnogaeth y llywodraeth i ddatblygu isadeiledd storio a dal carbon, creu’r fframwaith sydd ei angen ar gyfer prosiectau arloesol, fel Ynni Carbon Isel Cei Connah yn hanfodol i symud tuag at ynni glân 2030 ac ar yr un pryd cynnal cyflenwad trydan diogel.
Dywedodd Elliot Renton, Prif Swyddog Gweithredol Evero:
Mae cael ein dewis ar gyfer ymrwymiadau i ddarparu cyfleuster BECCS cyntaf y DU yn garreg filltir sylweddol ac yn arwydd clir o ymrwymiad y llywodraeth i ddileu nwyon tŷ gwydr.
Drwy ddileu 217,000 tunnell o garbon deuocsid bob blwyddyn gyda thechnoleg a brofwyd, byddwn yn parhau i droi pren gwastraff yn ynni glân a dechrau darparu datgarboneiddio parhaol. Rydym yn falch o weithredu fel cynllun braenaru ar gyfer prosiectau dileu nwyon tŷ gwydr yn y DU.
Nodiadau i olygyddion
Mae prosiectau wedi eu hystyried yn Flaenoriaeth ar ôl asesu a ellir eu cyflawni, gwerth am arian ac alinio gydag amcanion y llywodraeth. Mae prosiectau blaenoriaeth yn cynrychioli cyfluniad a ffefrir ar hyn o bryd gan y llywodraeth o brosiectau allyrwyr i ymuno â’r clwstwr HyNet.
Mae dau brosiect newydd a gyhoeddwyd heddiw yn adeiladu ar y 3 phrosiect presennol sydd wedi eu hystyried fel Blaenoriaeth ar gyfer ymrwymiadau:
- Ynni Carbon Isel Cei Connah, Uniper, Cei Connah (Gogledd Cymru)
- Bio-ynni Ince gyda Dal a Storio Carbon (InBECCS), Evero Energy, Ellesmere Port (Sir Gaer)
- Cyfleuster Adfer Ynni Protos, Encyclis, Ellesmere Port (Sir Gaer)
- Prosiect Dal Carbon Gwaith Sement Hanson Padeswood, Deunyddiau Heidelberg, Padeswood (Gogledd Cymru)
- Gweithfeydd Cynhyrchu Hydrogen 1 (HPP1), EET Hydrogen, Stanlow (Sir Gaer)
Heddiw mae’r llywodraeth hefyd yn cyhoeddi 5 prosiect wrth gefn ar gyfer y rhwydwaith i ddarparu cynlluniau wrth gefn. Mae’n bosibl y bydd prosiectau wrth gefn yn gallu cysylltu â rhwydwaith HyNet yn y dyfodol, os bydd capasiti ar gael. Y rhain yw:
- Silver Birch, Climeworks UK Ltd , Stanlow (Sir Gaer)
- Essar Energy Transition Industrial Carbon Capture (EET ICC), EET Fuels, Stanlow (Sir Gaer)
- Gweithfeydd Cynhyrchu Hydrogen 2 (HPP2), EET Hydrogen / Progressive Energy, Stanlow (Sir Gaer)
- Prosiect Dal Carbon Diwydiannol Parc Adfer Ynni o Wastraff, Enfinium Group Ltd, Glannau Dyfrdwy (Gogledd Cymru)
- Prosiect Dal Carbon Runcorn, Viridor, Runcorn (Sir Gaer)