Datganiad i'r wasg

2015: blwyddyn dda ar y cyfan i’r farchnad swyddi yng Nghymru - ond does dim lle i laesu dwylo

Dywed Stephen Crabb na fydd unrhyw “laesu dwylo” wrth weithio i gadw twf economaidd Cymru ar y trywydd iawn.

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi addo na fydd unrhyw “laesu dwylo” wrth weithio i gadw twf economaidd Cymru ar y trywydd iawn wrth i ffigurau swyddi ddatgelu darlun cymysg.

Er bod ffigurau diweithdra wedi gostwng, mae lefel cyflogaeth wedi gostwng hefyd, ac mae cynnydd wedi bod mewn anweithgarwch economaidd - pobl nad ydyn nhw’n gweithio nac yn ddi-waith, ond sydd efallai yn astudio neu’n gofalu am aelod o’r teulu.

Mae Ystadegau’r Farchnad Lafur a gyhoeddwyd heddiw yn dangos:

  • Mae lefel cyflogaeth yng Nghymru i lawr 16,000 dros y chwarter gyda’r gyfradd i lawr 0.9 pwynt canran i 70.4 y cant.
  • Mae diweithdra i lawr 11,000 ac mae’r gyfradd i lawr 0.6 pwynt canran dros y chwarter i 5.9 y cant.
  • Mae nifer y bobl ifanc sy’n hawlio budd-daliadau wedi gostwng 2,500 dros y flwyddyn
  • Mae anweithgarwch economaidd wedi codi 26,000 o gymharu â’r chwarter blaenorol, gyda’r gyfradd yn cynyddu 1.4 pwynt canran.
  • Gwelwyd gostyngiad bychan o 100 yn nifer y bobl sy’n hawlio budd-daliadau rhwng mis Hydref a mis Tachwedd.

Dros y flwyddyn, roedd lefel cyflogaeth yng Nghymru wedi cynyddu 42,000 gyda’r gyfradd cyflogaeth wedi cynyddu 1.8 pwynt canran.

Dywedodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Yn ystod 2015, rydyn ni wedi gweld marchnad swyddi dda a chadarn ar y cyfan yng Nghymru, gyda mwy a mwy o bobl yn mynd yn ôl i weithio. Mae eleni wedi bod yn flwyddyn lle mae ffrwyth adferiad economaidd Cymru wedi dod yn amlwg iawn ar hyd a lled y wlad.

Serch hynny, yr hyn mae’r ffigurau cymysg heddiw’n ei ddangos yw nad oes lle o gwbl i laesu dwylo. Mae’r adferiad yn fregus yng Nghymru, felly mae’n rhaid i ni ddal ati i weithio i ddiogelu’r enillion economaidd rydyn ni wedi’u gweld eleni.

Cyhoeddwyd ar 16 December 2015