Datganiad i'r wasg

11 datrysiad i heriau carafanio cyn i chi fentro allan

P’un ai eich bod yn teithio gyda ffrindiau, plant neu anifeiliaid, gall carafanio fod yn un o bleserau bywyd – ond gall osod nifer o faglau hefyd.

Caravan

Gyda miloedd o garafanwyr yn debyg o ddechrau ar eu teithiau’r penwythnos hwn, efallai na fu amser gwell i chi atgoffa eich hun o ambell beth all hwyluso eich gwyliau yn y garafán.

1. Buddsoddwch mewn drychau ymestyn ar gyfer tynnu carafán

Ewch amdani neu ewch adref! Go brin fod unrhyw un erioed wedi meddwl y byddai’n well eu bod wedi prynu drychau ymestyn llai o ran maint. Buddsoddwch mewn set dda ar gyfer eich taith. Bydd yn fuddsoddiad gwerth chweil.

2. Peidiwch â dibynnu ar fôn braich

Bydd prynu addaswr digonol ar gyfer dril-llaw yn golygu eich bod yn osgoi’r llafur caled (ac, efallai, niwed i’ch cefn) sydd yn mynd law yn llaw â defnyddio lifer llaw i ostwng coesau’r garafán.

3. Peidiwch â dibrisio gwerth eich map

Mae technoleg yn wych. Nes i chi gael eich hun mewn lôn wledig ger Aberystwyth a gorfod mynd wysg eich cefn am 2 filltir. Gwnewch yn siŵr eich bod yn mwynhau antur o’r math cywir trwy gynllunio eich siwrnai a phacio map – rhag ofn i’r offer llywio â lloeren ddifetha eich trefniadau.

4. Offer goroesi codi’r adlen

Does dim gwahaniaeth sawl gwaith yr ydych yn ei wneud, gall codi adlen fod yn gryn her. Paratowch ar ei gyfer trwy bacio digon o bethau i ddiddanu’r plant – yn aml bydd picnic mawr a llyfrau lliwio newydd yn hawlio eu sylw gan roi llonydd i chi fwrw ymlaen.

5. Golau’r portsh

Peidiwch â meddwl bod nosweithiau hirion, golau’r haf yn parhau am byth. Cofiwch bacio golau ar gyfer yr adlen felly pan fydd y plant yn cysgu yn eu gwelyau (o’r diwedd) medrwch fwynhau ambell gêm o gardiau tan yn hwyr heb ofidio am greu gormod o sŵn.

6. Basged ’Sgidiau Budron

Esgidiau mwdlyd + lle cyfyngedig = oriau o lanhau. Prynwch a rhowch fasged sydd yn ddigon mawr i ddal yr holl esgidiau, wrth y drws, i helpu cadw eich safonau uchel.

7. Gwiriadau ‘dysgu cyn llusgo’

Mae rheolau llusgo yn dibynnu ar ba bryd y pasiodd y gyrrwr y prawf gyrru. Os ydych yn bwriadu mynd a threlar neu garafán ar wyliau’r haf hwn, cewch hyd i’r cyngor diweddaraf gan y DVLA ar beth y medrwch ei lusgo yn ogystal â chanllawiau ar sut i lusgo yn ddiogel ac yn gyfreithlon.

8. Gliniadur â ffilmiau wedi eu llwytho ymlaen llaw

Ar gyfer yr argyfyngau ar ddiwrnod glawog. Cyfleus ar gyfer y plentyn neu’r oedolyn yn eich bywyd sydd angen rhoi eu sylw rhywle arall. Cofiwch y gwefrydd a’r cyrn clust!

9. Potel ddŵr poeth

Llenwch hon â dŵr oer a’i rhewi – bydd yn troi unrhyw flwch dan sêl, wedi ei leinio â ffoil, yn flwch oer.

10. Bydd plât gwastad, poeth, yn coginio’r rhan fwyaf o bethau

Bydd coginio y tu mewn neu’r tu allan yn haws gydag un o’r pethau trydanol angenrheidiol hyn. Gellir coginio’r rhan fwyaf o brydau bwyd arno, mae’n hawdd ei lanhau ac nid yw’n cymryd llawer o le.

11. Llieiniau sychu swch babi

Nid ar gyfer babanod yn unig. Mae’r gwyrthiau bach hyn yn eich poced yn addas ar gyfer yr hyn rydych yn ei sarnu, yn clirio sgriniau gwynt, yn gwaredu olew oddi ar ddwylo, yn glanhau esgidiau… rhywbeth ‘rhaid ei gael’ ar gyfer bywyd, nid yn unig ar gyfer carafanio!

Meddai Ian Hewlett, Rheolwr Technegol y Clwb Gwersylla a Charafanio:

Bydd gosod drychau towio ychwanegol yn eich helpu i weld y tu ôl i’r garafán, ac os ydych yn newydd i fyd carafanio gwnewch yn siŵr bod eich trwydded yn addas ar gyfer y cyfuniad o’r car a’r garafán yr ydych yn bwriadu ei llusgo.

Mae carafanio yn ddifyrrwch hollol ddiogel a phleserus, ac rydym ni yn y Clwb wedi ymrwymo i helpu sicrhau bod carafanwyr yn teimlo’n hyderus ac wedi ymlacio ar eu ffordd i’w lleoliad gwyliau.

Ceir gwybodaeth bellach am dowio.

Swyddfa'r Wasg

Swyddfa'r Wasg y DVLA
Longview Road
Treforys
Abertawe
SA6 7JL

E-bost press.office@dvla.gov.uk

Dim ond ar gyfer newyddiadurwyr a'r wasg yn unig 0300 123 2407

Cyhoeddwyd ar 22 July 2017
Diweddarwyd ddiwethaf ar 25 July 2017 + show all updates
  1. Added translation

  2. First published.