Datganiad i'r wasg

1,000 o fusnesau newydd wedi eu creu yng Nghymru gan Start Up Loans

Alun Cairns: "Mae'r Llywodraeth hon yn helpu i greu'r genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid a chrewyr swyddi"

Heddiw, (9 Gorffennaf) cyhoeddodd Sajid Javid, yr Ysgrifennydd Busnes, mai menyw yn ei hugeiniau o Gastell-nedd Port Talbot, a sefydlodd fusnes nwyddau i’r cartref sy’n gwerthu cynnyrch a wnaed ym Mhrydain yn unig, oedd y 1000fed unigolyn yng Nghymru i gael benthyciad dechrau busnes.

Fe wnaeth Sophie Rees, a raddiodd yn 2014 o Brifysgol Fetropolitan Abertawe, sefydlu’r busnes i wireddu ei breuddwyd o fod yn fos arni hi ei hun a lansio siop nwyddau i’r cartref.

Cyfarfu Alun Cairns, Gweinidog yn Swyddfa Cymru, â Sophie yn ystod ymweliad ag Abertawe heddiw ynghyd â’r tîm sy’n gyfrifol am Daith Fws StartUp Britain. Hyd yn hyn mae £6 miliwn wedi ei fenthyca i ddarpar berchnogion busnes fel Sophie.

Gyda chefnogaeth gan Start Up Loans Company, mae ymgyrch StartUp Britain yn teithio’r wlad gydag arbenigwyr a hyrwyddwyr dechrau busnes, er mwyn cynnig ysbrydoliaeth a chefnogaeth i ddarpar entrepreneuriaid.

Dywedodd Sajid Javid, yr Ysgrifennydd Busnes:

Rwyf wrth fy modd ein bod yn dathlu’r 1,000fed benthyciad dechrau busnes yng Nghymru heddiw wrth i Daith Fws StartUp Britain gyrraedd Abertawe. Rydym yn ei gwneud yn haws cael cyngor ac yn darparu cyllid fel bod miloedd o bobl sy’n gweithio’n galed yn cael y cyfle i gyflawni eu huchelgais a dechrau eu busnesau eu hunain.

Mae llwyddiant Prydain yn seiliedig ar waith entrepreneuriaid - ar eu breuddwydion a’u huchelgais. Dyna pam rydym yn eu cefnogi, ac yn gwneud y Deyrnas Unedig y lle gorau yn y byd i ddechrau a meithrin busnesau.

Dywedodd Alun Cairns, Gweinidog yn Swyddfa Cymru:

Mae Sophie wedi dangos yn union beth ellir ei wneud pan ddaw uchelgais a chyfle at ei gilydd, ac rwyf wrth fy modd bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gallu ei chefnogi hi.

Rwyf eisiau sicrhau bod pob rhan o Gymru yn elwa ar yr adferiad economaidd a bod y rhai sy’n gweithio’n galed yn cael y cyfleoedd sydd eu hangen arnyn nhw i lwyddo.

Drwy helpu pobl i wireddu eu breuddwydion am ddechrau busnes bach, mae’r Llywodraeth hon yn helpu i greu’r genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid a chrewyr gwaith.

Dywedodd Tim Sawyer, Prif Swyddog Gweithredol Start Up Loans:

‘Rydym wrth ein boddau ein bod wedi cyrraedd y garreg filltir gyntaf hon yng Nghymru. Mae Sophie yn enghraifft wych o’r llu o ddoniau busnes sy’n ffynnu ledled y Deyrnas Unedig.

Byddwn yn parhau i annog pobl Cymru i wireddu eu breuddwydion busnes a’n helpu ni i gyrraedd carreg filltir arall yn y dyfodol agos.’

Ar ôl graddio, fel cymaint o rai eraill sydd wedi cael benthyciad dechrau busnes, penderfynodd Sophie Rees ei bod hi eisiau cyflawni ei breuddwyd o fod yn fos arni hi ei hun yn hytrach na gweithio i rywun arall, a hynnydrwy lansio siop nwyddau i’r cartref o’r enw Home Bird. Ar ôl siarad gyda chynrychiolydd ym Manc Barclays cafodd ei chyfeirio at Busnes mewn Ffocws, un o bartneriaid cyflenwi Start Up Loans.

Dim ond cynnyrch a wnaed ym Mhrydain y bydd Home Bird yn eu gwerthu, a bydd 20% o’r eitemau yn cael eu gwneud â llaw gan Sophie wrth iddi ddefnyddio’r sgiliau a ddatblygodd wrth astudio. Ar hyn o bryd mae Sophie yn adnewyddu’r siop ar ei phen ei hun, a’r bwriad yw agor ddiwedd mis Gorffennaf 2015. Sophie fydd yr unig weithiwr cyflogedig yn y lle cyntaf, a bydd hefyd yn parhau i weithio’n rhan-amser gyda’r nos mewn gwesty lleol, ond yn y dyfodol mae hi’n gobeithio y bydd hi’n gallu rhoi’r gorau i’w swydd gyda’r nos.

Cyhoeddwyd ar 9 July 2015