Datganiad i'r wasg

Cyfrif i lawr 100 Diwrnod i Ddiwrnod Lluoedd Arfog y DU 2018

Mae 100 diwrnod yn unig nes bod Llandudno yn ganolbwynt cenedlaethol ar gyfer Diwrnod y Lluoedd Arfog.

I nodi’r garreg filltir hon, mae personél lifreiog o’r Llynges Frenhinol, y Fyddin, a’r Awyrlu Brenhinol, yn ogystal â nifer o staff mewn atyniadau ar draws Sir Conwy wedi dangos eu cefnogaeth i’r digwyddiad trwy arddangos baner Diwrnod y Lluoedd Arfog.

Mae’r cyffro’n cynyddu ar draws y rhanbarth ar gyfer y digwyddiad ar 30 Mehefin, â llawer o bobl yn awyddus i ddangos eu cefnogaeth a dweud diolch wrth ein milwyr presennol, ein cyn-filwyr, ein cadetiaid a’u teuluoedd am yr holl waith a gyflawnir ganddynt i’n cadw yn ddiogel gartref a thramor.

Ar 30 Mehefin, bydd gorymdaith o ryw 1,000 o filwyr presennol, cyn-filwyr, cadetiaid a bandiau ymdeithio’n cychwyn o Gofgolofn Llandudno am 11am i nodi dechrau dathliadau Diwrnod y Lluoedd Arfog. Bydd yr orymdaith, sy’n argoeli bod yn arddangosiad syfrdanol o sain a lliw, yn ymdeithio ar hyd yr heol gyferbyn â’r promenâd, gan orffen mewn saliwt i nifer o westeion arbennig ac urddasolion y tu allan i Venue Cymru.

Caiff milwyr presennol, cyn-filwyr, teuluoedd, cyfeillion ac ymwelwyr gyfle i rwydweithio gydag arddangosfeydd a gweithgareddau ar hyd promenâd Llandudno a Chaeau Bodafon gan gynnwys awyrennau statig, cerbydau arfog a thanc plymio (mae’r holl asedau’n ddibynnol ar ofynion gweithrediadol). Mae’n gyfle rhagorol i aelodau’r cyhoedd weld asedion milwrol yn agos atynt.

Cyhoeddir rhaglen lawn gan gynnwys map o safle’r digwyddiad yn nes at yr amser.

Rhoddir diolch arbennig i gymorth Llywodraeth Cymru, ein partneriaid elusennol SSAFA, a’r Lleng Prydeinig Brenhinol am weithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i wireddu’r digwyddiad hwn.

Meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru Alun Cairns:

Mae Diwrnod y Lluoedd Arfog yn gyfle i gymunedau ar draws Cymru ddiolch i’n milwyr presennol, ein cyn-filwyr a’u teuluoedd am eu gwasanaeth, eu hymrwymiad a’u gwroldeb.

Ac ymhen 100 diwrnod, bydd pob llygad yn disgyn ar Landudno fel gwesteiwr y prif ddathliad cenedlaethol. Byddaf yn falch ac yn freintiedig i fod yn rhan o’r dathliadau hyn, gan ymuno â miloedd o bobl i fynegi ein diolchgarwch i’n dynion a’r menywod y maent yn gwneud cymaint i gadw ein rhyddid.

FMeddai’r Prif Weinidog Carwyn Jones:

Rwyf wrth fy modd bod Cymru wedi’i dewis i gynnal Diwrnod y Lluoedd Arfog eleni, ac edrychaf ymlaen at ymuno â chyfeillion mewn digwyddiadau yn Llandudno ymhen 100 diwrnod i ddiolch yn ffurfiol i’n milwyr. Mae gennym hanes milwrol balch yng Nghymru, a dymunaf hefyd dalu teyrnged i deuluoedd milwyr ein Lluoedd Arfog eleni am yr aberthau y maent wedi’u gwneud i gefnogi’r rheiny sydd mor ddihunan wedi dewis gwasanaethu eu gwlad.

Meddai’r Cynghorydd Liz Roberts, Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy:

Mae cynnal Diwrnod y Lluoedd Arfog yn gyflawniad enfawr i Landudno, ac er bod 100 diwrnod i fynd, mae llwyth anhygoel o waith eisoes wedi’i gyflawni y tu ôl i’r llenni i bwysleisio paham ein tref glan môr yw’r amgylchedd cywir i gynnal y digwyddiad hwn ac i wneud cymuned y lluoedd arfog yn falch.

Ar ddydd Sadwrn 30 Mehefin, Llandudno fydd y canolbwynt ar gyfer y Deyrnas Unedig wrth i ni roi cydnabyddiaeth gyda’n gilydd i waith caled ac ymroddiad ein milwyr presennol a’n cyn-filwyr.

Mae’n bwysig nodi’r garreg filltir 100 diwrnod ac arddangos y gefnogaeth sydd gennym yn Sir Conwy, ar draws Gogledd Cymru, a gan y Lluoedd Arfog at y digwyddiad rhagorol hwn.

CMeddai Cyrnol Lance Patterson, Dirprwy Gadlywydd 160ain Brigâd y Troedfilwyr a Phencadlys Cymru:

Mae Diwrnod y Lluoedd Arfog 2018 yn argoeli bod yn achlysur pwysig a gwych, nid yn unig ar gyfer Llandudno ond ar gyfer Cymru gyfan a gweddill y Deyrnas Unedig.

Cyhoeddwyd ar 22 March 2018
Diweddarwyd ddiwethaf ar 26 March 2018 + show all updates
  1. Translation added

  2. First published.