Datganiad i'r wasg

£10 miliwn o gefnogaeth gan y Loteri Genedlaethol i ail-ddatblygu coleg prifysgol hynaf Cymru

Guto Bebb: Mae’r arian hwn gan y Loteri Genedlaethol yn sicrhau dyfodol yr Hen Goleg.

Aberystwyth

Aberystwyth Old College

Mae dros £10 miliwn wedi ei neilltuo ar gyfer gwaith adfer sylweddol ar adeilad eiconig yr Hen Goleg Prifysgol Aberystwyth, man geni addysg brifysgol yng Nghymru.

Mae adeilad rhestredig Gradd I yr Hen Goleg yn cael ei gysylltu ag adeiladu’r genedl Gymreig wedi iddo gael ei brynu gan Brifysgol Cymru am ddim ond £10,000 yn 1867 gan ddefnyddio arian a gyfrannwyd gan y gymuned leol.

Wedi iddo agor ei ddrysau i fyfyrwyr am y tro cyntaf yn 1872, am bron i ganrif gwelodd yr adeilad Gothig ar lan y môr filoedd o fyfyrwyr yn mynd a dod, cyn i bethau ddechrau newid yn yr 1960au pan symudodd y brifysgol i gampws newydd sbon.

Erbyn hyn, bydd arian a ddaeth gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn golygu y bydd yr adeilad poblogaidd hwn yn hawlio’i le yn ôl yn ganolbwynt bywyd Aberystwyth a’r gymuned leol. Yn y lle cyntaf bydd Prifysgol Aberystwyth yn derbyn arian datblygu o £849,500 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, fydd yn ei galluogi i ddatblygu ei chynlluniau, gan arwain yn y pendraw at dderbyn y swm llawn o £10,581,800.*

Wrth ymweld a’r Hen Goleg yn Aberystwyth, dywedodd Guto Bebb, Gweinidog Llywodraeth y DU yng Nghymru:

Mae’r arian hwn gan y Loteri Genedlaethol yn sicrhau dyfodol yr Hen Goleg, gan olygu y gall barhau i chwarae rôl allweddol yn nyfodol y brifysgol a’r dref ei hun. Fel cyn fyfyriwr fy hun, rwyf yn falch o weld prosiect mor werth chweil a chyffrous â hwn yn cael ei gefnogi i helpu sicrhau dyfodol cynaliadwy i adeilad y mae gennyf atgofion melys iawn ohono.

Meddai John Glen AS, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros y Celfyddydau, Treftadaeth a Thwristiaeth:

Mae Hen Goleg Aberystwyth yn adeiladu gaiff ei drysori’n lleol ac a gaiff ei gydnabod fel un o ddarnau pensaerniol Gothig mwyaf arwyddocaol y DU.

Mae’r cynllun gwych hwn yn gymaint mwy na phrosiect adfer. Diolch i gyfraniad o £10.5 miliwn gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol bydd yn creu cyrchfan fywiog i ymwelwyr fydd yn darparu adnoddau diwylliannol a chymunedol newydd i Aberystwyth, Gorllewin Cymru ac yn rhoi hwb i economi Cymru yn gyffredinol.

Dywedodd y Farwnes Kay Andrews, ymddiriedolydd y DG a Chadeirydd Cronfa Dreftadaeth y Loteri yng Nghymru:

Mae’r cynlluniau cyffrous hyn i roi ail wynt i un o adeiladau hanesyddol mwyaf poblogaidd Cymru yn cynnig hwb arwyddocaol ac amserol i ddiwylliant ac economi Aberystwyth a thu hwnt.

Fel llawer o raddedigion Aberystwyth, mae gennyf atgofion melys o’r Hen Goleg. Erbyn hyn, am y tro cyntaf, bydd yr adeilad unigryw hwn – llofnod Aberystwyth – yn agored i’r gymuned gyfan ei fwynhau ac elwa ohono, gan gynnwys ymwelwyr â Gorllewin Cymru. Mae hyn yn newyddion gwych i Aberystwyth ac i Gymru’n gyffredinol.

Gyda’r bwriad o gwblhau trawsnewidiad yr Hen Goleg mewn pryd ar gyfer dathliadau 150 mlwyddiant y brifysgol yn 2022, mae’r gwaith wedi cychwyn i ddatblygu cynlluniau fydd yn troi’r adeilad yn ofod perfformio ac oriel ar gyfer artistiaid, arddangosfeydd a cherddorion, canolfan i fentergarwyr a busnesau, yn ogystal â chaffi ac ystafelloedd cymunedol.

Bydd yn gartref hefyd i amgueddfa’r brifysgol, fydd yn golygu y caiff rhai o’r 20,000 o eitemau a gedwir dan glo fel arfer weld golau ddydd, a bydd canolfan wyddonol newydd yn cynnwys yr arddangosiadau rhyngweithiol diweddaraf ynghyd â phlanedariwm a chyfleuster 4D yn amlygu cysylltiadau’r brifysgol gyda’r Asiantaeth Ofod Ewropeaidd.

Ychwanegodd yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth:

Chwaraeodd yr Hen Goleg ran ganolog yn y gwaith o ddarparu addysg uwch yng Nghymru a’r byd ehangach. Ag yntau wedi’i adeiladu gyda cheiniogau chwedlonol y werin, mae’n gweddu rhywsut fod arian gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn chwarae rhan yr un mor ganolog yn adfywio’r adeilad ac economi’r rhan hyfryd hon o Gymru.

Ein gobaith yn awr yw y daw’r Hen Goleg yn ganolfan ar gyfer arddangos ymchwil, addysgu a thrysorau rhagorol Prifysgol Aberystwyth, tra’n darparu cyfleusterau bywiog newydd ar gyfer ymwelwyr a’r gymuned leol sy’n bartneriaid allweddol yn y fenter hon.

Yn ogystal â chreu swyddi newydd, prentisiaethau, cyfleoedd profiad gwaith a chyfleoedd hyfforddiant a gwirfoddoli, bydd yr Hen Goleg ar ei newydd wedd hefyd yn annog graddedigion o’r brifysgol i aros yn y dref a sefydlu busnesau newydd.

Amcangyfrifir mai cyfanswm cost yr ailddatblygu fydd tua £22m, ac mae’r brifysgol yn cynllunio ffynonellau eraill o ariannu’r prosiect, gan gynnwys ymgyrch godi arian fawr.

NODIADAU I OLYGYDDION

Caiff ceisiadau Grant Treftadaeth eu hasesu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri mewn dau gylch. Rhoddir pas rownd gyntaf os yw CDL wedi cymeradwyo cynlluniau bras a chlustnodi arian. Mae pas rownd gyntaf hefyd yn gallu cynnwys swm o arian yn syth i ariannu’r gwaith o ddatblygu’r prosiect. Y cam nesaf yw bod cynlluniau manwl yn cael eu hystyried gan CDL yn yr ail rownd, ac ar yr amod fod y cynlluniau wedi datblygu’n foddhaol ac yn unol â’r cynllun gwreiddiol, mae dyfarniad i’r prosiect yn cael ei gadarnhau.

Mwy am Yr Hen Goleg

Mae’r Hen Goleg yn un o adeiladau mwyaf rhyfeddol Cymru. Ag yntau’n gartref i Brifysgol gyntaf Cymru, mae’r adeilad rhestredig Gradd I prin hwn o arwyddocâd cenedlaethol yn gyfystyr ag adeiladu’r genedl Cymreig ac fe saif ar safle amlwg ar bromenâd Aberystwyth.

Uchelgais Prifysgol Aberystwyth yw agor cil y drws a datgelu treftadaeth gudd ac anhygyrch yr Hen Goleg a thrawsnewid yr adeilad yn ganolfan ddiwylliannol a chreadigol groesawgar a bywiog ar gyfer y gymuned ac yn gatalydd pwysig ar gyfer adfywio economaidd a chymdeithasol. I bobl leol, bydd yr Hen Goleg yn ffynhonnell sgiliau a chreu swyddi, ysbrydoliaeth, dysgu ac adloniant. I ymwelwyr, bydd yn gyrchfan dreftadaeth Gymreig newydd ag iddi apêl ryngwladol.

Cyhoeddwyd ar 26 July 2017