Publication

Ymgynghoriad ar Gynllun Blynyddol 2022-2023 - crynodeb un dudalen

Published 15 December 2021

Rydym yn ceisio barn am ein Cynllun Blynyddol ar gyfer 2022-23.

Mae’r cynllun blynyddol drafft yn esbonio sut y byddwn yn amddiffyn defnyddwyr, yn meithrin cystadleuaeth ac yn cefnogi twf carbon isel ledled y DU, yn ystod ac ar ôl pandemig y coronafeirws (COVID-19).

Byddwn yn canolbwyntio ar y themâu canlynol:

"

Mae’r ddelwedd uchod yn dangos ein themâu allweddol fel a ganlyn: Amddiffyn Defnyddwyr; Meithrin cystadleuaeth i hyrwyddo twf tymor hir ledled y DU; Hyrwyddo cystadleuaeth mewn marchnadoedd digidol; Cefnogi twf carbon isel; Cyflawni ein cyfrifoldebau newydd

Mae cystadleuaeth yn bwysig ar gyfer twf economaidd cynaliadwy. Mae busnesau angen dod o hyd i ffyrdd i wneud pethau’n well, i gystadlu yn erbyn ei gilydd. Pan nad yw busnesau’n cystadlu mae prisiau’n mynd i fyny, mae ansawdd yn dirywio a’r bobl dlotach sy’n cael eu taro galetaf.

Byddwn yn cynyddu’r nifer o bobl yn ein swyddfeydd yng Nghaerdydd, Belfast a Chaeredin ac yn agor swyddfeydd newydd ym Manceinion a Darlington. Bydd hyn yn ein helpu i ddod yn agosach at bobl ym mhob cwr o’r DU. Byddwn yn gwneud mwy i ddeall y problemau y mae pobl yn eu hwynebu wrth brynu a gwerthu, i egluro’r hyn a wnawn ac i helpu i wneud marchnadoedd weithio’n well iddyn nhw.

Dysgu mwy a rhannu eich barn.