Ymgynghoriad ar Gynllun Blynyddol CMA 2022 i 2023
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Mae’r fersiwn drafft hwn o gynllun blynyddol y CMA ar gyfer 2022 i 2023 yn amlinellu’r themâu yr ydym yn disgwyl i arwain ein gwaith yn ystod y flwyddyn i ddod. Bwriad yr ymgynghoriad yw rhoi cyfle i bartneriaid a phartïon sydd â diddordeb i roi barn a sylwadau ar ein cyfeiriad cyffredinol a’r themâu unigol yr ydym wedi’u nodi.
Gofynnir i’r rhai sy’n ymateb i’r ymgynghoriad hwn i roi crynodeb byr o’r grŵp diddordeb neu sefydliad maen nhw’n cynrychioli. Byddwn yn cyhoeddi crynodeb o ymatebion, ochr yn ochr â’r fersiwn derfynol o’r cynllun erbyn diwedd mis Mawrth 2022.
- Datganiad i’r wasg: Y CMA yn ymgynghori ar ei Gynllun Blynyddol ar gyfer 2022 a 2023
Dylid darparu ymatebion i’r ymgynghoriad hwn trwy ein ffurflen gwe neu trwy e-bost i general.enquiries@cma.gov.uk erbyn dim hwyrach na 5pm ar 21 Ionawr 2022.