Ymgynghoriad agored

UK REACH : Ymestyn dyddiadau cau cyflwyno dosier ar gyfer cofrestru trosiannol

Crynodeb

Rydym yn gofyn i bobl roi eu barn ar y cynigion i ymestyn dyddiadau cau UK REACH ar gyfer cofrestru trosiannol.

Cynhaliwyd yr ymgynghoriad hwn yn cael ei ar wefan arall.

Mae'r ymgynghoriad hwn yn cau am

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Rydym ni eisiau clywed beth rydych chi’n ei feddwl o gynlluniau’r llywodraeth i ymestyn:

  • dyddiadau cau UK REACH ar gyfer busnesau sydd eisiau cyflwyno ffeiliau i gofrestru’n drosiannol
  • y dyddiadau pryd bydd yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (asiantaeth UK REACH) yn cynnal gwiriadau cydymffurfedd ar 20% o’r ffeiliau cofrestru

Dyma’r dyddiadau cau ar hyn o bryd:

  • Hydref 2026
  • Hydref 2028
  • Hydref 2030

Bydd y dyddiad cau yn cael ei gyfrifo ar sail math a maint y sylweddau.

Mae cam cyntaf y dyddiadau cau hyn yn prysur agosáu, ac felly mae ymyrraeth y llywodraeth yn gwbl allweddol os ydym ni am ddarparu digon o amser i ddatblygu a sefydlu fframwaith amgen ar gyfer cofrestru trosiannol er mwyn lleihau’r tebygolrwydd y bydd cwmnïau’n gwario’n ddiangen er mwyn cydymffurfio â’r dyddiadau cau presennol.

Mae’r Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig wedi cyhoeddi datganiad yn trafod a yw’r newidiadau arfaethedig yn cyd-fynd â nodau Rheoliad UK REACH .

Gallwch ddarllen fersiwn Saesneg yr wybodaeth hon.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 14 Gorffennaf 2025

Argraffu'r dudalen hon