Consultation outcome

Cynllun Masnachu Allyriadau'r DU: Prif ymateb yr Awdurdod i Ehangu Cwmpas: Ymgynghoriad morol

Updated 25 November 2025

Cyflwyniad

Yn ymgynghoriad Ymestyn Cwmpas Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU: Morwrol [footnote 1], a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2024, gwnaethom ymgynghori ar fanylion gweithredu technegol ar gyfer sut i ehangu Cynllun presennol Masnachu Allyriadau’r DU i gynnwys allyriadau morol. Roedd hyn yn dilyn Ymateb yr Awdurdod i’r ymgynghoriad blaenorol [footnote 2], a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2023 lle gwnaethom gadarnhau y byddem yn ehangu Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU i allyriadau o forol domestig o 2026.

Roedd ymgynghoriad mis Tachwedd 2024 wedi’i rannu’n ddwy adran:

  • Adran A: Gweithredu Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU ar gyfer Morol. Yn yr adran hon, gwnaethom ymgynghori ar weithredu’r cynllun a darparu rhagor o fanylion am y newidiadau a gyhoeddwyd yn Ymateb yr Awdurdod i Ddatblygu Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU. Roedd hyn yn cynnwys gwybodaeth ychwanegol am y trothwy, diffiniad o fordaith ddomestig, eithriadau i’r cynllun, addasu’r cap, a’r gofynion monitro, adrodd a gwirio (MRV).
  • Adran B: Y posibilrwydd o ehangu Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU ymhellach i allyriadau morol domestig ychwanegol. Yma, gwnaethom ymgynghori ar ehangu pellach posibl i allyriadau morol ychwanegol. Roedd hyn yn cynnwys cynnig i adolygu’r trothwy erbyn 2028, ac i ystyried sut y gellid cynnwys cyfran o allyriadau o deithiau rhyngwladol yn y dyfodol, pe bai camau gweithredu gan y Sefydliad Morol Rhyngwladol yn cael eu gohirio neu’n annigonol.

Yn dilyn yr ymgynghoriad, gwnaethom ddadansoddi’r adborth a gafwyd cyn gwneud penderfyniadau polisi terfynol. Yn gynharach eleni, gwnaethom gyhoeddi Ymateb interim yr Awdurdod [footnote 3] i’r ymgynghoriad Ymestyn Cwmpas Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU: Morwol. Amlinellodd y ddogfen hon y bwriad i ehangu Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU i’r sector morol domestig o 1 Gorffennaf 2026. Cadarnhaodd y byddai hyn yn cynnwys allyriadau o deithiau domestig ar sail gweithgarwch llongau, yn ogystal â’r holl allyriadau mewn porthladdoedd yn y DU.

Yn ogystal, nodwyd ein bod hefyd yn bwriadu ehangu Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU i gynnwys allyriadau o fordeithiau rhyngwladol, yn amodol ar negodiadau fel y nodir yn y Ddealltwriaeth Gyffredin [footnote 4], ac y byddai cynigion ar hyn yn cael eu nodi maes o law.

Amlinellodd Ymateb interim yr Awdurdod hefyd benderfyniadau’r Awdurdod ar y pwynt rhwymedigaeth ar gyfer y cynllun, gofynion MRV ar gyfer Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU, a manylion y gofynion rheoleiddio. Gwnaethom gyhoeddi Ymateb Interim yr Awdurdod i alluogi gweithredwyr i baratoi ar gyfer cydymffurfio â gofynion Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU ac i alluogi rheoleiddwyr i gynnal gweithgareddau cynefino i baratoi ar gyfer gweithredu’r cynllun.

Mae’r Ymateb hwn gan yr Awdurdod yn nodi’r manylion polisi terfynol cyn cynnwys allyriadau morol domestig yng Nghynllun Masnachu Allyriadau’r DU o fis Gorffennaf 2026. Byddwn yn deddfu ar gyfer cynnwys morol domestig yng Nghynllun Masnachu Allyriadau’r DU ac os oes unrhyw newidiadau i gynllun y polisi fel rhan o’r broses hon, byddwn yn hysbysu rhanddeiliaid.

Crynodeb o’r penderfyniadau

Gall yr Awdurdod gadarnhau’r canlynol:

  • Byddwn yn caniatáu ‘ildio dwbl’ mewn perthynas â blynyddoedd 2026 a 2027 y cynllun, sy’n golygu mai’r dyddiad cau ar gyfer ildio lwfansau mewn perthynas â blwyddyn gyntaf y cynllun (o 1 Gorffennaf 2026 i 31 Rhagfyr 2026) fydd 30 Ebrill 2028 hefyd.
  • Bydd cynnwys llongau ar y môr o fewn Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU yn cael ei ohirio tan 1 Ionawr 2027, sy’n cydweddu ag ehangu Cynllun Masnachu Allyriadau’r UE i longau ar y môr, gan osgoi ystumio.
  • Ni fydd angen Dogfen Cydymffurfio arnom at ddibenion Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU. Mae cydymffurfiaeth â’r cynllun yn cael ei reoli gan reoleiddwyr Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU drwy’r system Rheoli eich Cynllun Masnachu Allyriadau (METS) a Chofrestrfa Masnachu Allyriadau’r DU.
  • Y trothwy ar gyfer cynnwys fydd 5000 tunelledd gros (GT). Bydd adolygiad o’r trothwy yn 2028 i ystyried a ddylid gostwng y trothwy hwn yn y dyfodol.
  • Byddwn yn darparu didyniad o 50% o rwymedigaeth ildio o Gynllun Masnachu Allyriadau’r DU ar gyfer mordeithiau rhwng Gogledd Iwerddon a Phrydain Fawr, er mwyn osgoi gwahaniaeth yn y rhwymedigaeth prisio carbon ar lwybrau rhwng ynys Iwerddon a Phrydain Fawr.
  • Byddwn yn darparu eithriad ar gyfer gwasanaethau fferi i ynysoedd yr Alban a rhai cymunedau penrhyn. Byddwn hefyd yn darparu eithriad ar gyfer llongau dal pysgod a phrosesu pysgod. Bydd yr eithriadau hyn hefyd yn cael eu hadolygu yn 2028.
  • Byddwn yn ychwanegu 9,323,546 o lwfansau at gap Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU i roi cyfrif am ychwanegu allyriadau o’r sector morol domestig. Mae nifer y lwfansau yn unol â thrywydd cyson â sero net y Strategaeth Datgarboneiddio Morol ar gyfer y sector.
  • Rydym hefyd yn bwriadu cynnwys allyriadau o fordeithiau rhyngwladol, yn amodol ar negodiadau â’r UE, fel y nodir yn y Ddealltwriaeth Gyffredin. Rydym yn cyhoeddi ymgynghoriad ochr yn ochr â chyhoeddi Ymateb hwn yr Awdurdod ar yr ehangu hwn, yr ydym yn cynnig y bydd yn berthnasol o 2028.

Adran A: Gweithredu Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU ar gyfer y sector morol

Cwmpas y cynllun

Rhagor o wybodaeth am benderfyniadau yn Ymateb interim yr Awdurdod

Dyddiadau Cau Dechrau a Chydymffurfiaeth y Cynllun

Yn Ymateb interim yr Awdurdod, gwnaethom gadarnhau ein bod yn bwriadu ehangu Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU i forol o fis Gorffennaf 2026. Oherwydd hyn, bydd blwyddyn gyntaf y cynllun yn rhedeg rhwng 1 Gorffennaf 2026 a 31 Rhagfyr 2026. Bydd pob blwyddyn y cynllun wedi hynny yn rhedeg rhwng 1 Ionawr a 31 Rhagfyr. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno’r adroddiadau allyriadau blynyddol wedi’u gwirio yw 31 Mawrth ar ôl i flwyddyn y cynllun ddod i ben, a’r dyddiad cau ar gyfer ildio lwfansau yw 30 Ebrill ar ôl i flwyddyn y cynllun ddod i ben.

Fodd bynnag, mae’r Awdurdod wedi penderfynu caniatáu ‘ildio dwbl’ i weithredwyr morol ar gyfer dwy flynedd gyntaf y cynllun yn unig. Mae hyn yn golygu bod rhaid i weithredwyr morol:

  • Ar gyfer blwyddyn 2026 y cynllun, rhaid iddynt gyflwyno eu hadroddiad allyriadau blynyddol wedi’i wirio erbyn 31 Mawrth 2027.
  • Ildio lwfansau mewn perthynas â blwyddyn 2026 y cynllun erbyn 30 Ebrill 2028.
  • Ar gyfer blwyddyn y 2027 y cynllun, rhaid iddynt gyflwyno eu hadroddiad allyriadau blynyddol wedi’i wirio erbyn 31 Mawrth 2028, ac ildio lwfansau erbyn 30 Ebrill 2028.

Mae ildio dwbl yn rhoi amser ychwanegol i weithredwyr morol sy’n newydd i’r cynllun ymgyfarwyddo â gweithrediadau Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU, ac i gynefino â’r systemau digidol cyn bod angen iddynt ildio lwfansau. Fodd bynnag, bydd gweithredwyr yn gallu prynu lwfansau ar unrhyw adeg unwaith y bydd ganddynt y cyfrif angenrheidiol yng Nghofrestrfa Masnachu Allyriadau’r DU.

Llongau ar y Môr

Yn Ymateb interim yr Awdurdod, gwnaethom gydnabod bod pryderon ynghylch cynnwys llongau ar y môr, yn enwedig risg o fanipwleiddio, yn dibynnu ar sut y mae llongau ar y môr a pholisi yn cael eu diffinio. Gwnaethom ymrwymo i nodi rhagor o fanylion yn y prif ymateb i’r ymgynghoriad hwn.

Ar ôl adolygu adborth am longau ar y môr, byddwn yn gohirio eu cynnwys tan 1 Ionawr 2027, er mwyn cydweddu ag amserlen Cynllun Masnachu Allyriadau’r UE. Bydd hyn yn osgoi unrhyw risgiau posibl o ystumiadau’r farchnad neu ymddygiad osgoi posibl cyn cynnwys Cynllun Masnachu Allyriadau’r UE.

Byddwn yn darparu rhagor o wybodaeth am driniaeth llongau ar y môr mewn deddfwriaeth a chanllawiau, ond rydym yn bwriadu cydweddu â’r dull o dan Gynllun Masnachu Allyriadau’r UE. Bydd hyn yn lleihau cymhlethdod gweinyddol ac felly’r risg o ystumio cystadleuol. Bydd y canllawiau hyn yn cynnwys y rhestr o fathau o longau a gwmpesir gan y term llongau ar y môr, yn ogystal â rhagor o fanylion am gyfleusterau ar y môr.

Dogfen Cydymffurfio

Yn Ymateb interim yr Awdurdod, gwnaethom hefyd ymrwymo i nodi rhagor o wybodaeth ynghylch a fyddem yn dileu’r gofyniad am Ddogfen Cydymffurfio. Mae’r crynodeb o’r adborth i gwestiwn 28 ar y mater hwn ar dudalen 14 Ymateb interim yr Awdurdod.

Gall yr Awdurdod gadarnhau y byddwn yn dileu’r gofyniad am Ddogfen Cydymffurfio.

Yng Nghynllun Masnachu Allyriadau’r DU, ni fydd dilyswyr yn gwirio’r Cynllun Monitro Allyriadau ac felly ni allant ganfod yn annibynnol a wnaed cais am Gynllun Monitro Allyriadau neu a yw wedi’i gyhoeddi. Er y bydd y dilyswyr yn gwirio’r Adroddiad Allyriadau Blynyddol (AER), ni fyddant ym mhob achos yn gallu canfod yn annibynnol a yw’r gweithredwr morol wedi cyflwyno AER wedi’i wirio. Felly, rydym wedi penderfynu nad oes angen Dogfen Cydymffurfio a gyhoeddwyd gan ddilysydd, gan na fyddai dilyswyr yn gallu asesu a yw gweithredwyr morol wedi cydymffurfio â rhwymedigaethau Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU.

Yn hytrach, bydd cydymffurfiaeth gweithredwyr morol â Chynllun Masnachu Allyriadau’r DU yn cael ei reoli gan reoleiddwyr Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU drwy’r system Rheoli eich Cynllun Masnachu Allyriadau (METS) a Chofrestrfa Masnachu Allyriadau’r DU. Fodd bynnag, fel rhan o’r ymgynghoriad ar ehangu Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU i gynnwys allyriadau o deithiau morol rhyngwladol, rydym yn gofyn am farn rhanddeiliaid ynghylch a fyddai angen addasu’r dull hwn pe bai’r ehangu pellach hwn yn cael ei gyflwyno.

Y gwahaniaethau mewn rhwymedigaeth prisio carbon drwy wahanol gwmpas allyriadau ar lwybrau rhwng Gogledd Iwerddon a Phrydain Fawr, a Gweriniaeth Iwerddon a Phrydain Fawr

Crynodeb o’r Cynigion

Yn yr ymgynghoriad blaenorol, gwnaethom dynnu sylw at wahaniaethau yn y rhwymedigaeth prisio carbon ar gyfer llongau sy’n teithio ar draws Môr Iwerddon oherwydd cwmpas gwahanol Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU a Chynllun Masnachu Allyriadau’r UE. Mae hyn oherwydd bod Cynllun Masnachu Allyriadau’r UE yn cwmpasu 50% o allyriadau o fordeithiau rhyngwladol sy’n dechrau neu’n gorffen mewn un o Aelod-wladwriaethau’r UE, a Chynllun Masnachu Allyriadau’r DU yn cynnwys 100% o allyriadau o deithiau domestig.

Mae hyn yn golygu y byddai mordeithiau rhwng Gweriniaeth Iwerddon a’r Deyrnas Unedig yn ddarostyngedig i bris carbon ar gyfer 50% o’r allyriadau o dan Gynllun Masnachu Allyriadau’r UE. Heb ymyrraeth bolisi, bydd pris carbon ar gyfer 100% o’r allyriadau yn berthnasol ar gyfer llwybrau rhwng Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon o dan Gynllun Masnachu Allyriadau’r DU. Gallai hyn arwain at ail-lwybro posibl drwy Weriniaeth Iwerddon neu ymddygiad manipwleiddio arall er mwyn osgoi neu leihau amlygiad i’r rhwymedigaeth prisio carbon uwch ar lwybrau rhwng Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon.

Yn yr ymgynghoriad, gwnaethom felly ymrwymo i osgoi gwahaniaethau a chyflawni cydraddoldeb mewn rhwymedigaethau prisio carbon ar draws Môr Iwerddon. Amlinellodd yr ymgynghoriad ddau opsiwn ar gyfer hyn:

  • Lleihau rhwymedigaeth ildio Gynllun Masnachu Allyriadau’r DU ar gyfer allyriadau o deithiau rhwng Gogledd Iwerddon a Phrydain Fawr gan 50%. Byddai cyfranogwyr yn monitro ac yn adrodd ar yr holl allyriadau ar y teithiau hyn ond dim ond mewn perthynas â 50% ohonynt y byddai’n rhaid iddynt ildio lwfansau.
  • Ehangu Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU i gynnwys 50% o allyriadau o fordeithiau rhwng y DU a’r Ardal Economaidd Ewropeaidd. Byddai cyfranogwyr yn monitro ac yn adrodd ar yr holl allyriadau ar y teithiau hyn ond dim ond mewn perthynas â 50% ohonynt y byddai’n rhaid iddynt ildio lwfansau.

Cwestiynau

5. Ydych chi’n cytuno â’n safbwynt y dylai llwybrau rhwng Gogledd Iwerddon a Phrydain Fawr wynebu rhwymedigaethau prisio carbon cyfatebol i’r rhai rhwng Gweriniaeth Iwerddon a Phrydain Fawr? (Ydw/Nac ydw) Esboniwch eich ymateb, gan roi tystiolaeth lle y bo’n bosibl.

6. Ydych chi’n cytuno y byddai gosod 50% (yn hytrach na 100%) o’u rhwymedigaeth prisio carbon o dan Gynllun Masnachu Allyriadau’r DU ar longau o fewn cwmpas ar deithiau rhwng Gogledd Iwerddon a Phrydain Fawr yn addas ar gyfer sicrhau cyfwerthedd rhwymedigaeth prisio carbon a chyfwerthedd darpariaeth allyriadau rhwng Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon?  (Ydw/Nac ydw)

A ddylai’r opsiwn hwn fod am gyfnod penodol neu a ddylai fodoli cyhyd â bod gwahaniaeth o hyd yn y rhwymedigaeth prisio carbon ar y llwybrau hyn?

7. Ydych chi’n credu y gallai ehangu cwmpas Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU i gynnwys cwmpas allyriadau o 50% ar lwybrau rhwng y DU a’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a) arwain at ganlyniadau datgarboneiddio gwell i’r sector a b) bod yn ddull amgen addas o sicrhau cyfwerthedd mewn rhwymedigaethau prisio carbon i’r hyn a amlinellir yng Nghwestiwn 6 uchod? (Ydw/Nac ydw) Esboniwch eich ymateb, gan roi tystiolaeth lle y bo’n bosibl.

8. A oes unrhyw ddulliau eraill y dylem eu hystyried? Eglurwch eich ymateb, gan roi tystiolaeth lle y bo’n bosibl.

9. Ydych chi’n ystyried bod effeithiau gwahanol i’r ddau ddull hyn y dylem eu hystyried wrth wneud penderfyniad terfynol? (Ydw/Nac ydw) Esboniwch eich ymateb, gan roi tystiolaeth lle y bo’n bosibl.

10. Ydych chi’n rhagweld unrhyw ganlyniadau eraill i’r ymyrraeth bolisi hon y dylem fod yn ymwybodol ohonynt? (Ydw/Nac ydw) Esboniwch eich ymateb, gan roi tystiolaeth lle y bo’n bosibl.

Crynodeb o’r Ymatebion

Atebodd 57 o ymatebwyr gwestiwn 5. Roedd 51 (89%) yn cytuno y dylai llwybrau rhwng Gogledd Iwerddon a Phrydain Fawr wynebu rhwymedigaethau prisio carbon cyfatebol i’r rhai rhwng Gweriniaeth Iwerddon a Phrydain Fawr. Roedd pedwar (7%) o’r ymatebwyr yn anghytuno â’r safbwynt hwn ac ni wnaeth dau (4%) nodi ydw na nac ydw clir. Nododd ymatebwyr a oedd yn cytuno y gallai’r gwahaniaethau arwain at newid dulliau teithio neu ail-lwybro i osgoi’r pris carbon a gallai arwain at ystumiadau masnach.

Atebodd 50 o ymatebwyr gwestiwn 6. Roedd 33 (66%) o ymatebwyr yn cytuno y byddai gwneud mordeithiau rhwng Gogledd Iwerddon a Phrydain Fawr yn destun 50% o’u rhwymedigaeth prisio carbon yn addas i sicrhau cyfwerthedd rhwymedigaeth prisio carbon. Roedd 13 (26%) o ymatebwyr yn anghytuno, ac ni nododd pedwar (8%) ydw/nac ydw clir. Ymhlith y rhai a oedd yn anghytuno, roedd pedwar ymatebydd yn teimlo y dylid adolygu’r ymyrraeth hon a dim ond aros yn ei lle cyhyd ag y mae’r gwahaniaethau yn parhau. Roedd tri ymatebydd yn teimlo y byddai’n lleihau’r ymdrech i ddatgarboneiddio oherwydd llai o gwmpas allyriadau.

Roedd 61 o ymatebwyr i gwestiwn 7. Roedd 35 (57%) o ymatebwyr yn cytuno y gallai ehangu cwmpas Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU i gynnwys cwmpas allyriadau o 50% ar lwybrau rhwng y DU a’r Ardal Economaidd Ewropeaidd arwain at ganlyniadau datgarboneiddio gwell i’r sector a bod yn ddull amgen addas o sicrhau cyfwerthedd mewn rhwymedigaethau prisio carbon i’r hyn a amlinellir yng nghwestiwn 6. Nid oedd 20 (33%) o ymatebwyr yn cytuno ac ni nododd chwech (10%) ydw/nac ydw clir. Ymhlith y rhai a oedd yn anghytuno, roedd wyth ymatebydd yn teimlo y dylid mynd i’r afael ag allyriadau rhyngwladol drwy’r Sefydliad Morol Rhyngwladol, ac roedd pedwar ymatebydd yn teimlo y dylai ehangu Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU fod yn berthnasol i 50% o’r holl allyriadau rhyngwladol, yn hytrach na mordeithiau DU-Ardal Economaidd Ewropeaidd yn unig.

Roedd 19 o ymatebwyr i gwestiwn 8 ynghylch dulliau amgen. Awgrymodd saith rhanddeiliad gydweddu â Chynllun Masnachu Allyriadau’r UE (sy’n cynnwys 50% o fordeithiau rhyngwladol), ac roedd pedwar ymatebydd arall hefyd yn cefnogi ehangu i 50% o’r holl allyriadau rhyngwladol.

At hynny, roedd 46 o ymatebwyr i gwestiwn 9, a ofynnodd a fyddai’r ddau opsiwn hyn yn cael effeithiau gwahanol. Atebodd 37 (80%) o ymatebwyr y byddent, ac atebodd pedwar (9%) na fyddent, ac ni nododd pump (11%) ie/na clir. Roedd naw ymatebydd yn teimlo y byddai cwmpas mordeithiau rhwng y DU a’r Ardal Economaidd Ewropeaidd yn arwain at effeithiau masnach a chostau, ond roedd 16 o ymatebwyr yn teimlo y byddai’r opsiwn hwn yn annog datgarboneiddio ac yn cyflawni’r egwyddor mai’r llygrwr sy’n talu. Roedd pum ymatebydd yn teimlo y gallai’r opsiwn hwn leihau dadleoli carbon. Roedd 11 o ymatebwyr o’r farn bod yr opsiwn o leihau’r rhwymedigaeth ildio i 50% ar gyfer mordeithiau Gogledd Iwerddon-Prydain Fawr yn cydweddu’n well â’r farn y dylid mynd i’r afael ag allyriadau rhyngwladol drwy’r Sefydliad Morol Rhyngwladol.

Yn olaf, roedd 40 o ymatebwyr a atebodd gwestiwn 10 ar ganlyniadau ychwanegol yr ymyrraeth bolisi i sicrhau cyfwerthedd. Atebodd 27 (68%) o ymatebwyr ie i’r cwestiwn hwn, atebodd 11 (27%) na, ac ni nododd dau (5%) [footnote 5] ie/na clir. Roedd un ymatebydd yn teimlo y gallai fod anghysondeb o ran Ynys Manaw drwy’r ymyrraeth hon [footnote 6].

Ymateb yr Awdurdod

Mae Awdurdod Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU wedi penderfynu darparu didyniad o 50% yn y rhwymedigaeth ildio ar gyfer mordeithiau i’r naill gyfeiriad neu’r llall rhwng Gogledd Iwerddon a Phrydain Fawr. Bydd hyn yn sicrhau cyfwerthedd rhwymedigaeth prisio carbon ar fordeithiau rhwng ynys Iwerddon a Phrydain Fawr.

Bydd yr ymyrraeth hon ond yn aros ar waith cyhyd ag y bydd y gwahaniaethau yn parhau. Er enghraifft, pe bai allyriadau o fordeithiau rhyngwladol yn cael eu cynnwys gan Gynllun Masnachu Allyriadau’r DU yn y dyfodol, ni fydd y didyniad ildio ar gyfer mordeithiau rhwng Gogledd Iwerddon a Phrydain Fawr bellach yn berthnasol, a bydd y mordeithiau hynny yn destun rhwymedigaeth ildio 100%.

Rydym yn cydnabod bod cefnogaeth ar gyfer cynnwys allyriadau o fordeithiau rhwng y DU a’r Ardal Economaidd Ewropeaidd, gyda 59% o’r ymatebwyr yn cytuno â chwestiwn 7. Mae cynnwys mwy o allyriadau yng nghwmpas Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU yn creu’r potensial i ysgogi hyd yn oed mwy o leihau allyriadau. Rydym yn cyhoeddi ymgynghoriad ar ehangu Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU i allyriadau o fordeithiau rhwng y DU a chyrchfannau rhyngwladol ochr yn ochr â’r Ymateb hwn gan yr Awdurdod, yr ydym yn cynnig y bydd yn berthnasol o 2028. Byddem yn croesawu barn rhanddeiliaid ar yr ehangu hwn ynghyd â sut y gallai hyn annog datgarboneiddio yn y sector.

Trothwy ar gyfer y cynllun

Crynodeb o’r Cynigion

Yn yr ymgynghoriad, gwnaethom amlinellu bod yr Awdurdod yn bwriadu cymhwyso Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU i longau 5000GT ac uwch sy’n cyflawni gweithgareddau morol o 2026. Gwnaethom gynnig adolygu’r trothwy hwn erbyn diwedd 2028, a drafodwyd yn fanylach yn Adran B.

Gofynnwyd a fyddai trothwy de minimis yn ofynnol er mwyn osgoi bod Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU yn feichus i weithredwyr morol gydag allyriadau isel iawn o fewn y cwmpas. Gwnaethom hefyd ofyn am farn ar drin allyriadau o dan y trothwy hwn.

Cwestiynau

11. A ddylid ystyried trothwy de minimis ar gyfer gweithredwyr sydd ag allyriadau isel iawn er mwyn osgoi baich cydymffurfio? (Dylid/Na ddylid) Os felly, beth ddylai’r trothwy de minimis hwn fod? Eglurwch eich ymateb, gan roi tystiolaeth lle y bo’n bosibl.

12. Os ydych chi’n cefnogi trothwy de minimis, a ddylid cael proses symlach, neu a ddylai gofynion Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU beidio â bod yn berthnasol o gwbl? (Ydw/Nac ydw) Esboniwch eich ymateb, gan roi tystiolaeth lle y bo’n bosibl.

Crynodeb o’r Ymatebion

Atebodd 44 o ymatebwyr gwestiwn 11. Roedd 31 (71%) o ymatebwyr yn cytuno y dylem ystyried trothwy de minimis ar gyfer gweithredwyr ag allyriadau isel iawn. Roedd 12 (27%) o ymatebwyr yn anghytuno, ac roedd un (2%) ymatebydd yn ansicr. Roedd naw ymatebydd yn teimlo y byddai hyn yn lleihau’r baich gweinyddol i weithredwyr ag allyriadau isel iawn. Fodd bynnag, o’r rhai nad oeddent yn cytuno, nododd naw ymatebydd yr egwyddor y dylai’r holl allyrwyr gydymffurfio â’r cynllun.

Yng nghwestiwn 11, gofynnwyd am farn ar sut y dylai trothwy de minimis weithio. Ni chawsom lawer o ymatebion manwl. Roedd rhai themâu yn cynnwys cymhwyso trothwy de minimis i gyfanswm allyriadau neu nifer y galwadau â phorthladdoedd. Soniodd rhai ymatebwyr y byddai trothwy de minimis yn lleihau’r baich gweinyddol ond nid oeddent yn nodi nac yn meintioli beth fyddai’r baich gweinyddol ychwanegol hwn.

Atebodd 36 o ymatebwyr gwestiwn 12. Cytunodd 26 (72%) o ymatebwyr sy’n cefnogi trothwy de minimis y dylai proses symlach fod yn berthnasol, neu na ddylai Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU fod yn berthnasol o gwbl. Dywedodd chwech (17%) o ymatebwyr nad oeddent yn cytuno, ac ni nododd pedwar (11%) ie/na clir.

Ymateb yr Awdurdod

Mae’r Awdurdod yn cadarnhau y bydd y cynllun yn berthnasol i longau o 5000GT ac uwch sy’n cyflawni gweithgareddau morol o fewn cwmpas Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU o fis Gorffennaf 2026 [footnote 7].

Mae’r Awdurdod hefyd yn cadarnhau na fyddwn yn cymhwyso trothwy de minimis o’r gweithredu ym mis Gorffennaf 2026. Byddwn yn adolygu hyn fel rhan o’r adolygiad o’r trothwy yn 2028. Er bod cefnogaeth rhanddeiliaid i drothwy de minimis, nid oedd consensws clir ynghylch sut y dylai hyn edrych. Yn ogystal, gallai dangos tystiolaeth o fod o dan y trothwy de minimis fod yr un mor feichus neu’n fwy beichus na’r polisi ei hun. Mae’r Awdurdod wedi penderfynu y bydd parhau i adolygu hyn yn caniatáu amser i werthuso’r cynllun, gan gynnwys casglu data ar ledaeniad allyriadau o bob gweithredwr morol Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU. Gellir defnyddio’r data, y profiad a’r gwaith polisi pellach hwn wedyn yn ystod yr adolygiad i benderfynu a fyddai trothwy de minimis yn ofynnol yn y dyfodol.

Mae’r Awdurdod hefyd yn cadarnhau y bydd dull monitro symlach ar gael ar gyfer llongau sydd, mewn blwyddyn cynllun, yn cyflawni mordeithiau rhwng porthladdoedd galw yn y DU yn unig, ac yn cyflawni 300 neu fwy o fordeithiau o’r fath. Bydd hyn yn symleiddio cydymffurfiaeth ar gyfer llongau sy’n cynnal nifer uchel o fordeithiau rhagweladwy neu ailadroddus.

Eithriadau

Crynodeb o’r Cynigion

Gwnaethom ymateb yn Ymateb interim yr Awdurdod ein bod yn bwriadu eithrio rhai gweithgareddau o Gynllun Masnachu Allyriadau’r DU. Yn bennaf, dyma’r gweithgareddau hynny sy’n cael eu cynnal gan y llywodraeth fel milwrol, tollau, yr heddlu, gwylwyr y glannau, argyfwng/meddygol ac ymchwil y llywodraeth. Gwnaethom hefyd ddatgan y byddai gweithgareddau’r Awdurdod Goleudai Cyffredinol yn cael eu heithrio. Rydym yn darparu rhagor o fanylion am yr eithriadau hyn yn Ymateb yr Awdurdod isod.

Yn yr ymgynghoriad, nododd yr Awdurdod ei fod, yn gyffredinol, yn bwriadu osgoi eithriadau o’r cynllun, er mwyn diogelu uniondeb Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU. Fodd bynnag, cydnabu y gellid cyfiawnhau hyn mewn nifer fach o sefyllfaoedd. Felly, gwnaethom gynnig eithrio fferïau sy’n gwasanaethu ynysoedd yr Alban o Gynllun Masnachu Allyriadau’r DU. Gwnaethom ofyn hefyd a ddylai eithriad fod yn berthnasol i gymunedau penrhyn ynysig, ac a ddylid ei gwneud yn ofynnol i’r gwasanaethau hyn gydag eithriad gydymffurfio â gofynion MRV o dan Gynllun Masnachu Allyriadau’r DU. Yn olaf, gwnaethom addo adolygu unrhyw eithriad yn y dyfodol, gyda’r adolygiad arfaethedig o’r trothwy yn 2028 yn gyfle cyntaf i wneud hynny. 

Gofynnwyd hefyd ofyn a ddylai fod unrhyw eithriadau pellach o’r cynllun, heblaw am y rhai a restrir uchod.

Cwestiynau

15. A oes gennych unrhyw farn ar eithrio gweithgarwch morol anfasnachol y llywodraeth, neu’r gweithgarwch a gwmpesir gan y term hwn? (Ydw/Nac ydw) Esboniwch eich ymateb, gan roi tystiolaeth lle y bo’n bosibl.

16. Ydych chi’n credu bod angen eithriad ar gyfer gwasanaethau fferi penodol sy’n gwasanaethu cymunedau ynysoedd yn yr Alban? (Ydw/Nac ydw) Esboniwch eich ymateb, gan roi tystiolaeth lle y bo’n bosibl.

17. Ydych chi’n credu bod angen eithriad ar gyfer gwasanaethau fferi penodol sy’n gwasanaethu cymunedau ar benrhynau yn yr Alban? (Ydw/Nac ydw) Os felly, beth fyddai’n ddiffiniad addas o gymunedau penrhyn ynysig? Eglurwch eich ymateb, gan roi tystiolaeth lle y bo’n bosibl.

18. Os yw’r gwasanaethau hyn wedi’u heithrio, a ydych yn meddwl y dylent fod yn ddarostyngedig i reoliadau MRV Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU? (Ydw/Nac ydw) Esboniwch eich ymateb, gan roi tystiolaeth lle y bo’n bosibl.

19. A oes gennych unrhyw sylwadau eraill ynghylch eithrio gwasanaethau fferi sy’n gwasanaethu cymunedau ynysoedd a/neu benrhynau yn yr Alban?

20. A ydych yn ystyried bod unrhyw is-sectorau eraill a allai gael eu heffeithio’n ormodol gan y polisi ac sydd angen cael eu heithrio? (Ydw/Nac ydw) Esboniwch eich ateb, gan gynnwys a ddylai rheoliadau MRV Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU fod yn berthnasol, a darparu tystiolaeth lle bo hynny’n bosibl.

Crynodeb o’r Ymatebion

Gwnaethom ymateb i gwestiwn 15 yn Ymateb interim yr Awdurdod a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2025. Amlinellir rhai manylion pellach am hyn yn Ymateb yr Awdurdod isod.

Ar gwestiwn 16 ynghylch eithriad ar gyfer gwasanaethau fferi sy’n gwasanaethu cymunedau ynysoedd yn yr Alban, cawsom 44 o ymatebion, gyda 21 (48%) o ymatebwyr yn cytuno a 20 (45%) o ymatebwyr yn anghytuno. Ni nododd tri (7%) ymatebydd ie/na clir. I’r rhai a oedd yn anghytuno â’r eithriad arfaethedig, y prif reswm a nodwyd oedd bod fferïau yn addas ar gyfer mabwysiadu technoleg datgarboneiddio yn gynnar (chwe ymateb). Gwnaeth y rhai a gytunodd â’r eithriad arfaethedig nodi’n bennaf y ddibyniaeth ar y tir mawr (pum ymateb) ac effeithiau ar brisiau tocynnau (chwe ymateb) fel eu prif bryder. Cawsom hefyd chwe ymateb gan y rhai sy’n cytuno â’r eithriad ac yn nodi y dylid ymestyn hyn i ynysoedd eraill y DU.

Gofynnodd cwestiwn 17 a oes angen eithriad ar gyfer llongau fferi sy’n gwasanaethu cymunedau anghysbell penrhyn yr Alban. Cawsom 34 o ymatebion i’r cwestiwn hwn, gyda 13 (38%) o ymatebwyr yn cytuno ac 20 (59%) o ymatebwyr yn anghytuno. Roedd un ymatebydd na nododd ie/na clir. I’r rhai sy’n anghytuno â’r eithriad arfaethedig, unwaith eto y prif reswm a nodwyd oedd bod fferïau yn addas ar gyfer mabwysiadu technoleg datgarboneiddio yn gynnar (dau ymateb). Nododd y rhai a gytunodd ag ymestyn yr eithriad i benrhynion yn bennaf ddibyniaeth ar y tir mawr (pedwar ymateb) fel eu rhesymeg.

Roedd y ffyrdd amrywiol y dehonglwyd cwestiwn 18 gan ymgyngoreion yn golygu nad oedd yn glir a oedd rhai rhanddeiliaid wedi ymateb ie neu na i a ddylai eithriad fod yn berthnasol yn y lle cyntaf neu a ddylai MRV barhau i fod yn berthnasol os yw hyn yn wir. Felly, nid yw’n bosibl cyflwyno data ie/na ar gyfer y cwestiwn hwn yn gywir. Fodd bynnag, o’r ymatebion ansoddol gwelsom fod mwyafrif yr ymatebwyr i’r cwestiwn hwn yn cytuno y byddai gofynion MRV yn synhwyrol p’un a yw eithriad yn berthnasol ai peidio. Awgrymodd pedwar ymatebydd y byddai hyn yn barhad defnyddiol gyda rheoliad MRV yr UE.

Gofynnodd cwestiwn 19 am unrhyw sylwadau pellach mewn perthynas ag eithriad ar gyfer fferïau sy’n gwasanaethu ynysoedd a phenrhyn yr Alban. Y prif themâu y cawsom adborth arnynt oedd y dylid ymestyn yr eithriad hwn i ynysoedd eraill y DU er mwyn sicrhau tegwch ledled y DU (chwe ymateb). Nododd rhai ymgyngoreion bwysigrwydd gwasanaethau fferi ynysoedd (pedwar ymateb). Roedd rhai rhanddeiliaid hefyd yn pryderu am effeithiau ar wasanaethau cludo llwythi (tri ymateb) ac awgrymwyd y dylid ailedrych ar gwmpas yr eithriad pe bai’r trothwy yn cael ei leihau yn y dyfodol (tri ymateb).

Ar gwestiwn 20 ynghylch a allai unrhyw is-sectorau eraill gael eu heffeithio’n ormodol ac a oes angen eithriad arnynt, cawsom 43 o ymatebion, gyda 29 (67%) o ymatebwyr yn cytuno a 13 (30%) o ymatebwyr yn anghytuno. Roedd un ymatebydd na nododd ie/na clir. Y brif thema a ddaeth i’r amlwg o’r cwestiwn hwn oedd effeithiau posibl ar y diwydiant pysgota pe bai’n cael ei gynnwys o fewn cwmpas Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU, gyda naw (21%) o ymatebwyr i’r cwestiwn hwn yn galw am eithriad ar gyfer pysgota.

Ymhlith y rhesymau a roddwyd dros hyn roedd diffyg opsiynau datgarboneiddio ar gyfer llongau pysgota (pedwar ymateb) a pharhad â Chynllun Masnachu Allyriadau’r UE lle mae pysgota wedi’i eithrio (chwe ymateb). Un rheswm allweddol arall yn yr ymatebion a alwodd am eithriad pysgota oedd y gymhariaeth â mathau eraill o gynhyrchu bwyd, a chanddynt allyriadau uwch; honnodd rhai rhanddeiliaid fod pysgota yn un o’r ffurfiau cynhyrchu protein sy’n cynhyrchu’r allyriadau isaf (chwe ymateb). Mae’n werth nodi bod ymatebwyr wedi nodi y byddai’r effeithiau ar bysgota yn fwy pe bai’r trothwy yn cael ei ostwng yn y dyfodol (pedwar ymateb).

Soniodd rhai rhanddeiliaid am effeithiau diangen ar lusgrwydo (saith ymateb), yn enwedig o ystyried y gystadleuaeth rhwng tir a môr yn y diwydiant hwn. Er y tynnwyd sylw hefyd at y ffaith y byddai’r effeithiau hyn yn fwy o risg pe bai’r trothwy yn cael ei ostwng yn y dyfodol (tri ymateb).

Mewn ymateb i’r cwestiwn hwn, ailadroddodd rhai rhanddeiliaid hefyd eu barn ar ymestyn yr eithriad ar gyfer fferïau ynysoedd yr Alban i ynysoedd eraill y DU (chwe ymateb). Yn olaf, cawsom saith ymateb ynghylch llongau ar y môr. Rydym wedi cynnwys manylion ein triniaeth o longau ar y môr o dan Gynllun Masnachu Allyriadau’r DU ar dudalen 5 yr ymateb hwn.

Ymateb yr Awdurdod

Ymatebodd Awdurdod Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU i gwestiwn 15 yn Ymateb interim yr Awdurdod a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2025 [footnote 8]. Yn ogystal â’r eithriadau a nodir yn yr ymateb interim hwn, gallwn hefyd gadarnhau y bydd gweithgareddau a gyflawnir dim ond at ddibenion chwilio ac achub, diffodd tân a darparu cymorth dyngarol yn cael eu heithrio rhag Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU.

Gall Awdurdod Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU gadarnhau y byddwn yn darparu eithriad ar gyfer fferïau sy’n gwasanaethu ynysoedd a phenrhyn yr Alban. Mae dros 90 o gymunedau ynysoedd a phenrhyn â thrigolion yn yr Alban sy’n dibynnu ar wasanaethau fferi, pob un â chyd-destunau daearyddol gwahanol a chyda phoblogaethau yn amrywio o lai na 10 i ychydig dros 21,000 o drigolion. Mae’r penderfyniad hwn yn cydnabod yr heriau unigryw a dybryd sy’n wynebu’r cymunedau hyn, sy’n dibynnu ar fferïau am fynediad at nwyddau hanfodol, gofal iechyd, addysg a chyflogaeth. Mae unrhyw darfu neu faich ychwanegol a roddir ar y gwasanaethau fferi hyn yn creu’r risg o danseilio hyfywedd cymdeithasol ac economaidd cymunedau ynysoedd a phenrhyn. Gall effeithiau o’r fath gyfrannu at ddirywiad pellach yn y boblogaeth a llai o wydnwch mewn ardaloedd sydd eisoes yn wynebu heriau demograffig a daearyddol. Mae hyn yn ychwanegol at y dyletswyddau cyfreithiol i ystyried poblogaethau ynysoedd o dan Ddeddf Ynysoedd (Yr Alban) 2018.

Bydd yr eithriad hwn yn cael ei adolygu eto fel rhan o adolygiad 2028 o drothwy’r cynllun, ac mae Llywodraeth yr Alban yn parhau i fod yn ymrwymedig i ddatgarboneiddio fflyd fferi yr Alban chwarae rhan lawn wrth helpu i gyflawni targedau sero net ehangach. Bydd gweithgarwch datgarboneiddio arfaethedig ar gyfer fferïau Llywodraeth yr Alban - yn ogystal â gweddill sector Trafnidiaeth yr Alban - yn cael ei nodi yng Nghynllun Newid Hinsawdd Llywodraeth yr Alban sydd ar ddod a chafodd ei gynnwys yn Null Strategol Cynllun Cysylltedd yr Ynysoedd [footnote 9], a’r Cynllun Llongau a Phorthladdoedd [^10] - cyhoeddwyd y ddau gan Lywodraeth yr Alban yn gynharach eleni. Ni fyddwn yn ymestyn yr eithriad hwn i ynysoedd eraill y DU ar hyn o bryd.  Bydd unrhyw effeithiau posibl ar ynysoedd eraill y DU yn cael eu hystyried mewn unrhyw adolygiad yn y dyfodol.

Yn flaenorol, bu’n ofynnol i longau fferi dros 5000GT sy’n gwasanaethu ynysoedd a phenrhyn yr Alban gydymffurfio â rheoliad MRV y DU. Mae cymhwyso’r eithriad hwn o Gynllun Masnachu Allyriadau’r DU yn golygu na fydd y fferïau yn ymgymryd â MRV o dan Gynllun Masnachu Allyriadau’r DU. Er gwaethaf hyn, bwriad yr Awdurdod, yn unol ag adborth rhanddeiliaid, yw y byddai’r gwasanaethau fferi hyn yn dal i wneud ymdrechion i fonitro eu hallyriadau. Rydym yn gweithio gyda Transport Scotland ar y ffordd orau o gyflawni’r amcan hwn a byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i weithredwyr maes o law ar benderfyniad.

Gall yr Awdurdod gadarnhau na fydd llongau dal pysgod a phrosesu pysgod yn cael eu cynnwys yng Nghynllun Masnachu Allyriadau’r DU o’r gweithredu ym mis Gorffennaf 2026. Mae hyn yn sgil adborth rhanddeiliaid, yn enwedig yn ymwneud â chynnal parhad i’r sector pysgota o ystyried nad yw llongau pysgota wedi’u cynnwys gan Gynllun Masnachu Allyriadau’r UE. Yn dilyn y dull a gymerwyd o ran eithrio gwasanaethau fferi i ynysoedd a chymunedau penrhyn yr Alban, bydd yr eithriad hwn yn destun adolygiad fel rhan o’r adolygiad o drothwy’r cynllun yn 2028. Bydd y pwynt adolygu hwn yn ystyried effeithiau economaidd-gymdeithasol ehangach cynnwys a galluoedd gwahanol sectorau i ddatgarboneiddio.

Byddwn yn parhau i fonitro’r effeithiau ar yr holl is-sectorau morol ac ailedrych ar benderfyniadau ynghylch eithriadau fel rhan o’r adolygiad o drothwy’r cynllun yn 2028.

Addasu’r cap ar gyfer morol

Crynodeb o’r Cynigion

Yn yr ymgynghoriad, gwnaethom amlinellu dull ar gyfer addasu’r cap i roi cyfrif am ychwanegu morol at Gynllun Masnachu Allyriadau’r DU. Gwnaethom nodi, ar gyfer gweddill Cam I Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU (2021-2030), ein bod yn bwriadu addasu cap Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU wedi’i lywio gan allyriadau o fewn y cwmpas yn unol â’r llwybr datgarboneiddio mwyaf diweddar sy’n gyson â chyflawni targedau hinsawdd [footnote 11]. Ar gyfer y sector morol, roedd hyn ar y pryd o’r Cynllun Cyflawni Cyllideb Garbon (CBDP).

Gwnaethom hefyd nodi, pe bai strategaeth datgarboneiddio morol wedi’i diweddaru yn cael ei llunio cyn Ymateb yr Awdurdod, y byddem yn ceisio addasu yn lle hynny yn unol â’i llwybr allyriadau mwy diweddar.

Gwnaethom ddarparu ffigurau dangosol ar gyfer y dull arfaethedig o addasu’r cap, fel yn Nhabl 1. Mae’r ffigurau’n seiliedig ar y trywydd o’r CBDP, sef y llwybr datgarboneiddio sectorol a gyhoeddwyd yn fwyaf diweddar ar adeg yr ymgynghoriad, ac a oedd yn cynnwys lleihau yn gyfyngedig yn y 2020au, gydag arbedion allyriadau sylweddol yn dechrau yn gynnar yn y 2030au.

Tabl 1: Llwybr addasu cap dangosol a gyflwynwyd yn yr ymgynghoriad gwreiddiol, yn seiliedig ar y dull arfaethedig a thrywydd CBDP ar gyfer allyriadau sectorol [footnote 12]

Ymgynghoriad gwreiddiol 2026 2027 2028 2029 2030 Cyfanswm
Addasu cap dangosol (miliynau o UKA) 2.4 2.4 2.4 2.4 2.4 12

Yn dilyn cyhoeddi’r ymgynghoriad, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei Strategaeth Datgarboneiddio Morol [footnote 13] ym mis Mawrth 2025. Roedd hyn yn cynnwys llwybr allyriadau wedi’i ddiweddaru ar gyfer y sector, ac roedd yr atodiad dadansoddol i’r Strategaeth yn cynnwys llwybr addasu cap dangosol ar gyfer Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU wedi’i ddiweddaru, yn seiliedig ar y llwybr allyriadau wedi’i ddiweddaru.

Gwnaethom wahodd rhanddeiliaid i gyflwyno unrhyw farn ar yr addasu cap wedi’i ddiweddaru hwn drwy e-bost. Mae Tabl 2 yn dangos y ffigurau addasu cap arfaethedig, yn seiliedig ar y llwybr allyriadau yn y Strategaeth Datgarboneiddio Morol.

Tabl 2: Llwybr addasu cap dangosol a gyhoeddwyd yn nhrywydd y Strategaeth Datgarboneiddio Morol sy’n dangos allyriadau sectorol.

Trywydd Strategaeth Datgarboneiddio Morol 2026 2027 2028 2029 2030 Cyfanswm
Addasu cap dangosol (miliynau o UKA) 2.7 2.6 2.5 2.5 2.4 12.7

Cwestiynau

21. Ydych chi’n cytuno mai’r dull arfaethedig, o ychwanegu lwfansau sy’n cyfateb i allyriadau o fewn cwmpas yn ôl trywyddau allyriadau sy’n cyd-fynd â’r CBDP, yw’r dull mwyaf priodol o addasu’r cap ac i sicrhau’r gostyngiadau mewn allyriadau sy’n ofynnol i gyflawni targedau hinsawdd? (Ydw/Nac Ydw). Esboniwch eich ymateb, gan gynnwys cynnig dull amgen os yw’n briodol.

22. Ydych chi’n cytuno â’r dull arfaethedig o addasu’r cap i roi cyfrif am gynnwys allyriadau o’r sector morol yn y cynllun? (Ydw/Nac Ydw). Esboniwch eich ymateb gan gyfeirio at unrhyw ddulliau amgen neu ffynonellau tystiolaeth, neu ystyriaeth ynghylch sut i roi cyfrif am allyriadau o fordeithiau Prydain Fawr-Gogledd Iwerddon a/neu DU/Ardal Economaidd Ewropeaidd.

23. A oes gennych farn ynghylch a ddylai lwfansau o addasiadau cap yng Ngham I oll lifo’n uniongyrchol i arwerthiannau, neu a ddylai cyfran lifo i gronfeydd wrth gefn? Eglurwch eich ymateb, gan roi tystiolaeth lle y bo’n bosibl.

24. Beth fyddech chi’n ei ddisgwyl fyddai effaith y dull arfaethedig o addasu cap ar gyfranogwyr yn y sector a/neu farchnad ehangach Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU? Eglurwch eich ymateb, gan roi tystiolaeth lle y bo’n bosibl.

Crynodeb o’r Ymatebion

Ymatebodd 43 o randdeiliaid i gwestiwn 21 ynghylch y dull polisi cyffredinol arfaethedig o addasu’r cap. O’r rheini, cytunodd 29 (67%) gyda 12 (28%) yn anghytuno a dau (5%) yn ansicr. O’r rhai a gytunodd â’r cynigion, cyfeiriodd 10 ymatebydd at bwysigrwydd defnyddio’r trywydd mwyaf diweddar ar gyfer y sector, neu roeddent yn cefnogi sicrhau bod yr addasiad yn cydweddu â thrywydd cyson â sero net. Er eu bod yn cefnogi’r dull, cododd chwe ymateb bryderon hefyd am y potensial ar gyfer datgarboneiddio yn y sector a’r angen am becyn cadarn o bolisïau i gefnogi gweithredwyr morol i leihau eu hallyriadau.

O’r rhai nad oeddent yn cefnogi’r dull arfaethedig, roedd rhai o’r farn bod modelu sylfaenol y CBDP yn amhriodol, sy’n golygu bod y trywydd yn anaddas, neu nid oeddent yn ei ystyried yn gyson â’r amcan 1.5 gradd a amlinellir yng Nghytundeb Paris.

Ymatebodd 41 o randdeiliaid i gwestiwn 22, a ofynnodd a ddylai’r addasu cap adlewyrchu’r allyriadau a fydd yn cael eu dwyn i’r cwmpas wrth ehangu i’r sector morol. Roedd 29 (71%) o ymatebion yn cytuno, 11 (27%) yn anghytuno ac roedd un (2%) yn ansicr. Ymhelaethodd llai o randdeiliaid ar eu hymateb i’r cwestiwn hwn, ond rhybuddiodd rhai na ddylai unrhyw ddull o addasu cap darfu ar y cydbwysedd cyflenwad-galw ar gyfer y farchnad bresennol (dau ymateb). O ran rhoi cyfrif am allyriadau o deithiau Prydain Fawr-Gogledd Iwerddon a/neu DU-Ardal Economaidd Ewropeaidd, awgrymodd dau ymateb y dylai hyn fod yn seiliedig ar allyriadau hanesyddol.

Mewn ymateb i gwestiwn 23, ynghylch a ddylai lwfansau lifo i arwerthiannau neu i’r gronfa wrth gefn, cawsom 27 o ymatebion. Roedd naw (38%) rhanddeiliad yn cefnogi’r holl lwfansau yn cael eu harwerthu ac roedd dau (8%) o randdeiliaid eisiau i’r holl lwfansau lifo i’r gronfa wrth gefn. Roedd pedwar (17%) o ymatebion yn cefnogi cymysgedd, a phedwar (17%) o ymatebion yn cefnogi cydweddu â’r cynllun polisi presennol.

Gofynnodd y cwestiwn olaf yn yr adran hon am effaith yr addasiad cap arfaethedig ar gyfranogwyr morol neu’r farchnad ehangach. Roedd 25 o ymatebion i’r cwestiwn hwn ac roedd barn yr ymatebwyr ar yr effaith ar y farchnad yn amrywio. Roedd chwech (29%) o randdeiliaid yn teimlo y byddai’r dull arfaethedig yn cael effaith gyfyngedig ar bris carbon. Roedd pedwar (19%) o randdeiliaid o’r farn bod y dull arfaethedig yn creu’r risg o ddatgarboneiddio cyfyngedig. Roedd gan ddau (10%) randdeiliad bryderon am effaith y dull arfaethedig ar sefydlogrwydd y farchnad.

Yn dilyn cyhoeddi’r Strategaeth Datgarboneiddio Morol a’r gwahoddiad i gyflwyno barn ar ei thrywydd addasu cap dangosol, ni chawsom unrhyw ymatebion gan randdeiliaid.

Ymateb yr Awdurdod

Bydd yr Awdurdod yn addasu’r cap, drwy ychwanegu 9,323,546 o lwfansau, yn unol â thrywydd cyson â sero net y Strategaeth Datgarboneiddio Morol ar gyfer morol domestig. Rydym yn gwneud hyn oherwydd bod hyn:

  • yn gyson â’r egwyddor a gefnogir gan ymatebwyr i gwestiwn 21 y dylai ehangu cwmpas yn gyffredinol gael ei ategu gan addasu cyfatebol i’r cap
  • yn cydweddu â Strategaeth Datgarboneiddio Morol Llywodraeth y DU
  • yn adlewyrchu allyriadau o’r sector mewn ffordd dryloyw a rhagweladwy

Mae’r Awdurdod yn nodi argymhelliad y Pwyllgor Newid Hinsawdd i beidio ag addasu’r cap pan fydd morol domestig yn cael ei ychwanegu at Gynllun Masnachu Allyriadau’r DU. Nododd y Pwyllgor Newid Hinsawdd na ddylid addasu’r cap oherwydd lwfansau gormodol yn y cynllun a dadleuodd fod pris Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU yn isel. Mae’r Awdurdod yn gwerthfawrogi craffu’r Pwyllgor Newid Hinsawdd ac yn rhannu ei farn bod Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU sy’n effeithiol yn bwysig i ysgogi datgarboneiddio’r DU.

Mewn ymateb i gyngor y Pwyllgor Newid Hinsawdd ar addasu’r cap i roi cyfrif am ehangu cwmpas morol domestig, mae’r Awdurdod wedi ailwerthuso cap presennol Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU yn gynhwysfawr. Cynhaliwyd yr asesiad hwn o ran cysondeb â chyllidebau carbon a thargedau sero net deddfwriaethol y DU, yn ogystal â chydweddu â llwybrau datgarboneiddio hirdymor a rhagdybiaethau ynghylch cyflawni polisïau ategol yn llwyddiannus ar draws y sector a fasnachir. Ar y sail bod cynnwys allyriadau morol domestig o 2026 yn cynrychioli newid sylweddol yng nghwmpas y cynllun, ac felly cynnydd yn y galw am lwfansau o dan y cap, mae’r Awdurdod wedi penderfynu bod angen addasiad i gadw uniondeb y cap a chysondeb ag amcanion ehangach y cynllun. Bydd yr addasiad cap hwn yn cadw sefydlogrwydd y farchnad ac yn sicrhau cysondeb â bwriad polisi Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU, gan hyrwyddo datgarboneiddio costeffeithiol o fewn y sectorau a gwmpesir.

Mae’r addasiad cap yn ystyried cwmpas terfynol y cynllun, fel yr amlinellir yn yr ymgynghoriad hwn. Mae hyn yn golygu bod yr addasiad cap yn rhoi cyfrif am allyriadau o fewn y cwmpas gan longau o 5000GT ac uwch, y didyniad ildio rhwng Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon a’r eithriadau, gan gynnwys y rhai ar gyfer llongau fferi sy’n gwasanaethu cymunedau ynysoedd a phenrhyn yr Alban, ac ar gyfer pysgota. Mae’r addasiad cap terfynol fel y dangosir yn Nhabl 3 isod.

Tabl 3: Llwybr addasu terfynol yn seiliedig ar y Strategaeth Datgarboneiddio Morol ac yn ystyried cwmpas terfynol y cynllun.

2026 2027 2028 2029 2030 Cyfanswm
Addasiad cap terfynol (miliynau o UKA) 1.00 2.19 2.12 2.05 1.96 9.32

Bydd yr holl lwfansau o’r addasiad cap morol hwn yn cael eu hychwanegu at symiau ocsiwn. Gan na fydd y sector morol yn derbyn dyraniad am ddim, ni fyddai unrhyw lwfansau a ychwanegwyd at gronfeydd wrth gefn wedi bod yn hygyrch i’r sector. Cadarnhawyd lefel cronfa wrth gefn hyblyg Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU, y gellir ei defnyddio ar gyfer mecanweithiau sefydlogrwydd y farchnad, ym Mhennod 1 Datblygu Ymateb Awdurdod Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU.

I gael rhagor o wybodaeth am yr addasiad i’r cap ac effeithiau’r addasiad hwn, gweler yr Asesiad o Effaith.

Cymryd rhan yn y cynllun

Canllawiau

Crynodeb o’r Cynigion

Yn yr ymgynghoriad, gwnaethom nodi ein bod yn bwriadu darparu canllawiau i fynd i’r afael â gofynion sector-benodol a chefnogi cyfranogwyr i gydymffurfio â’u rhwymedigaethau o dan Gynllun Masnachu Allyriadau’r DU. Gofynnwyd i’r ymgyngoreion ddarparu unrhyw wybodaeth am ba elfennau o’r cynllun y byddai’n fwyaf defnyddiol i’r Awdurdod ddarparu canllawiau arnynt.

Cwestiynau

34. Ar ba agweddau ar y cynigion polisi y dylem gynhyrchu canllawiau, ac i ba amserlen Eglurwch eich ymateb, gan roi tystiolaeth lle y bo’n bosibl.

Crynodeb o’r Ymatebion

Cawsom 33 o ymatebion i gwestiwn 34. Ymhlith y themâu allweddol a gododd o’r cwestiwn hwn roedd bod angen darparu canllawiau cyn i’r cynllun ddechrau (20 ymateb) a bod angen cyfathrebu cynnar a chynhwysfawr (dau ymateb). Ar y pwnc pa ganllawiau penodol y dylid eu llunio, galwodd 10 rhanddeiliad arnom i adlewyrchu’r dull y mae’r Comisiwn Ewropeaidd wedi’i ddefnyddio ar gyfer canllawiau Cynllun Masnachu Allyriadau’r UE. Roedd rhai rhanddeiliaid yn fwy penodol gyda’u hymatebion, gan alw am ganllawiau ar MRV (10 ymateb), canllawiau Sut i Gydymffurfio (saith ymateb) a chanllawiau ar y system ddigidol (pedwar ymateb).

Ymateb yr Awdurdod

Byddwn yn sicrhau bod canllawiau ar gael i gynorthwyo gweithredwyr morol i gymryd rhan yng Nghynllun Masnachu Allyriadau’r DU. Bydd pob un o’r rheoleiddwyr yn cyhoeddi canllawiau a chyfathrebu ynghylch sut i gydymffurfio. Bydd hyn yn unol ar y cyfan â’r hyn a baratoir ar gyfer gweithredwyr gosodiadau a gweithredwyr awyrennau.

Bydd Awdurdod Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU hefyd yn diweddaru’r canllawiau Cymryd rhan yng Nghynllun Masnachu Allyriadau’r DU ar gov.uk ac yn ei gwneud yn glir lle gellir dod o hyd i ganllawiau manylach. Yn ogystal, byddwn yn darparu gwybodaeth a chanllawiau ychwanegol ar gydymffurfio â Chynllun Masnachu Allyriadau’r DU fel rhan o’n hymgysylltu â rhanddeiliaid ar ôl cyhoeddi’r ddogfen hon.

Effeithiau’r cynllun

Effeithiau datgarboneiddio

Crynodeb o’r Cynigion

Amlinellodd yr Awdurdod fod Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU wedi’i gynllunio ar yr egwyddor mai’r llygrwr sy’n talu, ac mae’n prisio’r ‘allanoldeb carbon’ y mae allyriadau nwyon tŷ gwydr yn ei gynrychioli. Dylai ehangu’r cynllun i sectorau newydd arwain at ganlyniadau datgarboneiddio cadarnhaol i’r sectorau hynny. Rydym yn rhagweld y bydd ehangu Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU yn helpu i fynd i’r afael â’r mater nad yw cost tanwydd morol ar hyn o bryd yn adlewyrchu cost amgylcheddol allyriadau o’r tanwyddau hyn, gan gryfhau’r cymhelliant ar gyfer tanwyddau a thechnolegau allyriadau nwyon tŷ gwydr sero neu bron yn sero. Yn y tymor byr iawn, rydym hefyd yn disgwyl y bydd Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU yn helpu i gymell effeithlonrwydd gweithredol yn ystod mordeithiau, fel stemio araf. Bydd y neges a anfonir gan gap Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU hefyd yn galluogi gweithredwyr i gynllunio ar amserlen hirach, ac felly bydd yn helpu i gymell defnyddio technolegau sy’n dod i’r amlwg ar hyn o bryd fel llongau sy’n cael eu pweru gan fatri neu beiriannau hydrogen a rhai sy’n deillio o hydrogen.

Amlinellodd yr ymgynghoriad na fydd Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU yn gweithredu ar ei ben ei hun; bydd gofyniad am bolisïau eraill i oresgyn amryw o rwystrau eraill i ddatgarboneiddio yn y sector. Bydd hyn yn cynnwys mesurau i gynyddu’r defnydd o danwydd a ffynonellau ynni yn y dyfodol, mwy o effeithlonrwydd ynni a hyrwyddo arloesedd, ymchwil a datblygu, a rôl allweddol seilwaith y porthladd o ran galluogi datgarboneiddio llongau. 

Cwestiynau

35. A yw’r adran uchod yn cynnwys holl effeithiau datgarboneiddio tymor byr a thymor hir perthnasol Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU? (Ydw/Nac ydw) Esboniwch eich ymateb, gan roi tystiolaeth lle y bo’n bosibl.

36. Ym mha ffordd arall y gallai Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU gefnogi datgarboneiddio yn y sector? Eglurwch eich ymateb, gan roi tystiolaeth lle y bo’n bosibl.

37. Ydych chi’n ystyried y bydd cymhwyso Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU yn cael unrhyw effeithiau amgylcheddol pellach, cadarnhaol neu negyddol? (Ydw/Nac ydw) Os credwch y byddant yn negyddol, a oes unrhyw fesurau lliniaru y gellid eu cymryd? Eglurwch eich ymateb, gan roi tystiolaeth lle y bo’n bosibl.

Crynodeb o’r Ymatebion

Ymatebodd 35 o randdeiliaid i gwestiwn 35 ynghylch a oedd yr ymgynghoriad yn cynnwys holl effeithiau datgarboneiddio perthnasol y cynllun. Roedd naw (26%) ymateb yn cytuno bod yr holl effeithiau wedi’u cynnwys, roedd 24 (69%) o ymatebion yn anghytuno ac ni nododd dau (5% [footnote 14]) ie/na clir. Pan ymhelaethodd rhanddeiliaid ar eu hymateb, roedd y themâu allweddol yn cynnwys bod rhaid buddsoddi i sicrhau bod tanwyddau amgen ar gael (saith rhanddeiliad) a bod rhaid cefnogi darparu pŵer ar y lan (saith rhanddeiliad). Cyfeiriodd chwe ymateb at y ffaith bod y dechnoleg i ddatgarboneiddio’r sector morol yn y camau cynnar.

Ar gyfer cwestiwn 36, cawsom 46 o ymatebion i ateb sut y gallai Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU gefnogi datgarboneiddio yn y sector ymhellach. Thema allweddol yn yr ymatebion hyn, a nodwyd gan 27 o randdeiliaid, oedd y dylai’r sector gael mynediad at y refeniw a godir gan Gynllun Masnachu Allyriadau’r DU i gefnogi datgarboneiddio’r sector. Galwodd 30 o ymatebwyr am ragor o gefnogaeth i arloesi a fydd yn cefnogi’r sector yn ei ddatgarboneiddio, a chyfeiriodd 28 o ymatebwyr at yr angen i gefnogi tanwyddau amgen. Soniwyd hefyd am gefnogaeth i ddarparu pŵer ar y lan gan 17 o randdeiliaid mewn ymateb i’r cwestiwn hwn.

Cafwyd 34 o ymatebion i gwestiwn 37 ynghylch a oes unrhyw effeithiau amgylcheddol pellach yn sgil ehangu Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU i forol. Roedd 29 (85%) o ymatebion o’r farn bod effeithiau amgylcheddol pellach, roedd tri (9%) ymateb yn anghytuno ac ni nododd dau (6%) ymateb ie/na clir. O’r rhai a oedd yn meddwl bod effeithiau amgylcheddol pellach, roedd 18 yn meddwl y byddai’r rhain yn effeithiau amgylcheddol cadarnhaol, ac roedd 19 yn meddwl y byddai’r rhain yn effeithiau negyddol. Cyfeiriodd rhanddeiliaid a ddywedodd y byddai’r rhain yn effeithiau amgylcheddol cadarnhaol at y ffaith y byddai’r polisi yn ysgogi datgarboneiddio, yn cefnogi arloesedd yn y sector ac yn ysgogi gwell ansawdd aer. O’r rhai a oedd yn teimlo y byddai effeithiau amgylcheddol negyddol pellach, thema allweddol oedd pryder y byddai ehangu Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU i forol yn datgymell morgludiant domestig byr ac yn cymell teithiau ffordd, sy’n fwy dwys o ran carbon. Roedd dadleoli carbon yn thema arall, sy’n cael ei drafod ymhellach yn yr adran isod.

Ymateb yr Awdurdod

Mae Awdurdod Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU yn parhau i weld ehangu Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU i forol fel rhan allweddol o’r llwybr datgarboneiddio ar gyfer y sector morol. Ers i’r ymgynghoriad hwn gael ei gyhoeddi, mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ei Strategaeth Datgarboneiddio Morol. Mae’r Strategaeth Datgarboneiddio Morol yn nodi’r llwybr i ddatgarboneiddio’r sector morol domestig, gan ddarparu sicrwydd ac eglurder i’r sector. Roedd ehangu Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU i forol yn un o’r pum mesur polisi uchelgeisiol a gyhoeddwyd yn y Strategaeth fel un o ysgogwyr allweddol datgarboneiddio costeffeithiol.

Rydym o’r farn y bydd ehangu Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU i forol domestig yn arwain at leihad mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr o’r sector. Drwy osod pris ar allyriadau o’r sector, bydd ehangu Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU i forol yn mynd i’r afael â methiant allweddol y farchnad sef nad yw prisiau tanwydd morol domestig yn adlewyrchu costau cymdeithasol eu hallyriadau nwyon tŷ gwydr. Bydd yr arwydd pris carbon hwn yn cymell gweithredwyr i fuddsoddi mewn technolegau ac arferion glanach lle y mae’n fwyaf costeffeithiol, o ystyried yr opsiynau lleihau sydd ar gael ar draws yr holl sectorau yn y cynllun.

Gallai ehangu Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU i forol hefyd helpu i liniaru rhwystrau eraill y farchnad i ddatgarboneiddio. Mae Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU yn darparu arwydd pris carbon hirdymor, credadwy i’r sector, gan alluogi gweithredwyr i gynllunio eu buddsoddiad, lleihau ansicrwydd a chyflwyno’r achos ariannol dros fuddsoddi mewn datgarboneiddio, gan weithredu ochr yn ochr â chamau rhyngwladol a gymerir yn y Sefydliad Morol Rhyngwladol. Mae dyluniad y cynllun hefyd yn helpu i oresgyn rhwystrau eraill yn y farchnad, fel cymhellion a rennir a methiannau cydlynu, drwy gydweddu cymhellion ar draws y sector ac annog gweithredu cyfochrog.

Yn ogystal â buddiannau uniongyrchol datgarboneiddio, disgwylir y bydd ehangu Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU i forol domestig yn cyflawni effeithiau amgylcheddol cadarnhaol pellach. Yn benodol, rhagwelir y bydd camau lleihau a gymerir mewn ymateb i Gynllun Masnachu Allyriadau’r DU yn lleihau allyriadau llygryddion aer allweddol, gan gynnwys ocsidau nitrogen, ocsidau sylffwr, a deunydd gronynnol, a thrwy hynny’n cefnogi gwelliannau mewn ansawdd aer.

At hynny, mae Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU hefyd yn gweithredu fel mecanwaith diogelu o fewn y dirwedd polisi ehangach. Mae hyn yn golygu, os bydd polisïau datgarboneiddio eraill yn tanberfformio, mae’r cap yn sicrhau bod lleihau allyriadau cyffredinol yn dal i gael ei gyflawni.

Mae’r uchod yn rhoi crynodeb byr o effeithiau datgarboneiddio disgwyliedig ehangu Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU i forol domestig, yn ogystal ag unrhyw effeithiau amgylcheddol ehangach. Ceir rhagor o fanylion am effeithiau datgarboneiddio’r polisi hwn yn yr Asesiad o Effaith a gyhoeddwyd ochr yn ochr ag Ymateb hwn yr Awdurdod.

Rydym yn cydnabod bod galwadau gan randdeiliaid i gael mynediad at y refeniw a godir drwy ehangu Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU i forol i gefnogi datgarboneiddio’r sector. Nid yw refeniw Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU yn cael ei ddychwelyd yn uniongyrchol i unrhyw un o’r sectorau sy’n cael eu cwmpasu ar hyn o bryd gan Gynllun Masnachu Allyriadau’r DU. Fodd bynnag, mae refeniw Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU eisoes yn cefnogi blaenoriaethau allweddol y llywodraeth, gan gynnwys datgarboneiddio. Mae cyllid hefyd ar gael i’r sector gefnogi eu datgarboneiddio. Un enghraifft o’r fath yw rhaglen Swyddfa Llongau’r DU ar gyfer Lleihau Allyriadau (UK SHORE) yn yr Adran Drafnidiaeth sydd wedi dyrannu £448 miliwn i gefnogi ymchwil a datblygu morol glân rhwng 2026 a 2030. Mae hyn yn adeiladu ar £240m sydd eisoes wedi’i ddarparu drwy UK SHORE rhwng 2022 a 2026.

Effeithiau dosbarthiadol posibl a risg dadleoli carbon

Crynodeb o’r Cynigion

Yn yr ymgynghoriad, gwnaethom nodi ein bod wedi ymrwymo i sicrhau nad yw’r polisi hwn yn effeithio’n ormodol ar rannau penodol o gymdeithas neu is-sectorau yn anghymesur. Gwnaethom ddarparu gwybodaeth am ein hasesiad o’r risgiau dadleoli carbon posibl, ac roeddem yn ystyried bod y rhain yn gymharol isel, o ystyried tebygrwydd ein cynigion i’r rhai a gyflwynir gan yr UE gan mai llawer o wledydd yr UE yw ein cymdogion agosaf. Gwnaethom hefyd amlinellu nad oeddem yn ystyried newid dulliau teithio i fathau eraill o drafnidiaeth yn risg uchel ond gofynnwyd am dystiolaeth gan ymgyngoreion ar lefel y risg dadleoli carbon a newid dulliau teithio i fathau eraill o drafnidiaeth yn sgil cymhwyso Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU i forol.

Cwestiynau

38. Ydych chi’n credu y bydd cymhwyso Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU yn arwain at unrhyw effeithiau andwyol ar unrhyw gymunedau neu ranbarthau penodol, neu is-sectorau’r economi forol? (Ydw/Nac ydw) Esboniwch eich ymateb, gan roi tystiolaeth lle y bo’n bosibl.

39. Ydych chi’n credu y bydd cymhwyso Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU yn arwain at unrhyw ddadleoli carbon neu newid dulliau teithio i fathau eraill o drafnidiaeth? (Ydw/Nac ydw) Esboniwch eich ymateb, gan roi tystiolaeth lle y bo’n bosibl.

Crynodeb o’r Ymatebion

Ymatebodd 43 o randdeiliaid i gwestiwn 38 ynghylch a fyddai ehangu Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU i forol yn cael unrhyw effeithiau andwyol ar gymunedau, rhanbarthau neu is-sectorau. Roedd 35 (82% [footnote 15]) o ymatebion yn cytuno y byddai effeithiau andwyol, roedd saith (16%) ymateb yn anghytuno ac roedd un (2%) yn ansicr. Lle ymhelaethodd rhanddeiliaid ar eu hymateb, roedd y themâu allweddol yn cynnwys effaith ar gymunedau ynysoedd (9 ymateb) a’r effaith ar y sector pysgota (saith ymateb). Cyfeiriodd pedwar rhanddeiliad hefyd at yr effaith ar Ogledd Iwerddon ac awgrymodd pum rhanddeiliad y byddai effaith ar ddefnyddwyr.  

Ar gyfer cwestiwn 39, cawsom 45 o ymatebion ynghylch a fyddai cymhwyso Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU yn arwain at ddadleoli carbon neu newid dulliau teithio. Ymatebodd 34 (76%) o randdeiliaid y byddai hyn yn digwydd, nid oedd naw (20%) rhanddeiliad o’r farn bod hyn yn risg ac ni nododd dau (4%) ie/na clir. Unwaith eto, un thema allweddol yma oedd symud nwyddau o forol i drafnidiaeth ffyrdd neu reilffyrdd ac arwain at newid dulliau teithio (20 ymateb yr un). Cyfeiriodd saith rhanddeiliad at gostau uwch ar gyfer morgludiant byr, a fyddai’n ei wneud yn llai deniadol a chyfeiriodd rhanddeiliaid eraill at risg o niweidio cystadleurwydd y DU (saith ymateb).

Ymateb yr Awdurdod

Mae Awdurdod Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU yn cydnabod yr adborth a roddwyd ynghylch effeithiau dosbarthiadol y polisi. Rydym yn cydnabod bod rhai rhanddeiliaid yn parhau i bryderu am effeithiau’r polisi ar rai rhannau o’r DU, a’r risg o newid dulliau teithio o gymhwyso Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU i forol domestig.

O ran anfantais gystadleuol, mae tystiolaeth yn awgrymu bod y risg o hyn yn gymharol isel. Mae hyn yn seiliedig ar y lefel uchel o gydweddu â Chynllun Masnachu Allyriadau’r UE, y lefel uchel o orgyffwrdd rhwng gweithgarwch morol domestig y DU a’r UE ar gyfer gweithredwyr y DU a’r camau a gymerwyd i sicrhau nad oes unrhyw anghysondeb mewn prisio carbon ar draws Môr Iwerddon. 

Rydym yn cydnabod bod potensial hefyd ar gyfer dadleoli carbon a dadleoli carbon mewnol drwy ehangu Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU i forol domestig. Mae tystiolaeth yn awgrymu bod y risgiau hyn yn gyfyngedig o dan amodau presennol y farchnad a pholisi. Yn benodol, ystyrir bod newid dulliau teithio o forol domestig i ddulliau trafnidiaeth eraill yn annhebygol, o ystyried argaeledd cyfyngedig opsiynau i gymryd lle’r dull hwn a’r gyfran fach o lwythi a gludir gan ddŵr yn y DU. Yn ogystal â hyn, mae’r asesiad o risgiau dadleoli carbon yn cefnogi’r achos dros ehangu Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU i forol domestig. Mae’r dystiolaeth yn dangos bod y potensial ar gyfer dadleoli allyriadau drwy newidiadau llwybr neu drawslwytho yn gyfyngedig o dan amodau marchnad a pholisi presennol. Mae’r canfyddiadau hyn yn awgrymu bod yr ehangu yn annhebygol o danseilio uniondeb amgylcheddol na chystadleurwydd sector morol domestig y DU.

Rydym yn deall o’r adborth rhanddeiliaid bod anfantais gystadleuol, newid dulliau teithio a dadleoli carbon yn bryderon allweddol i’r diwydiant. Felly, byddwn yn parhau i adolygu’r effeithiau hyn ar ôl gweithredu’r cynllun.

O ran yr effaith ar ranbarthau, rydym yn cydnabod bod rhai rhanddeiliaid yn pryderu am yr effaith ar gymunedau ynysoedd y tu allan i’r Alban. Fel yr amlinellir yn yr adran Eithriadau, rydym o’r farn bod bar uchel ar gyfer unrhyw eithriadau o Gynllun Masnachu Allyriadau’r DU ac rydym yn eithrio cymunedau ynysoedd a phenrhyn yr Alban ar sail yr heriau unigryw a dybryd sy’n eu hwynebu. Byddwn yn parhau i adolygu effeithiau’r cynllun ar ôl ei weithredu.

Mae’r uchod yn grynodeb byr o effeithiau dosbarthiadol disgwyliedig ehangu Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU i forol domestig. Ceir rhagor o fanylion am effeithiau dosbarthiadol y polisi hwn yn yr Asesiad o Effaith a gyhoeddwyd ochr yn ochr ag Ymateb hwn yr Awdurdod. Yn unol â gofynion deddfwriaethol yr Alban, bydd Asesiad Effaith ar Gymuned yr Ynysoedd (sy’n asesu effaith cynnwys morol yng Nghynllun Masnachu Allyriadau’r DU ar ynysoedd yr Alban) yn cael ei gyhoeddi ochr yn ochr â’r is-ddeddfwriaeth berthnasol i weithredu’r polisi hwn. 

Ystyriaethau cydraddoldeb

Crynodeb o’r Cynigion

Gwnaethom amlinellu ein gofynion cyfreithiol o dan ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus (PSED) sy’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cyhoeddus ystyried sut mae polisïau neu benderfyniadau yn effeithio ar bobl sy’n cael eu hamddiffyn o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Gwnaethom ofyn a allai cymhwyso Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU i’r sector morol arwain at unrhyw effeithiau i grwpiau sydd â nodweddion gwarchodedig.

Cwestiynau

41. Ydych chi o’r farn y bydd cymhwyso Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU i’r sector morol yn arwain at unrhyw effeithiau i unrhyw grwpiau sydd â nodweddion gwarchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010? Ac a ydych yn ystyried y gellid cynllunio unrhyw elfennau o ehangu Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU i’r sector morol i gyflawni’r amcanion a nodir o dan a149 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010? Eglurwch eich ymateb, gan roi tystiolaeth lle y bo’n bosibl.

Crynodeb o’r Ymatebion

Cafwyd 13 o ymatebion i’r cwestiwn hwn. O’r ymatebion hyn, awgrymodd 10 (71%) o randdeiliaid nad oeddent o’r farn y byddai unrhyw effaith ar grwpiau â nodweddion gwarchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Roedd tri (21%) ymateb yn cyfeirio at yr effaith ar gymunedau ynysoedd ac yn arbennig nodweddion gwarchodedig oedran ac anabledd, yn seiliedig ar fod yn fwy tebygol o fod angen cysylltedd â’r tir mawr ar gyfer apwyntiadau gofal iechyd. Galwodd un ymateb (8% [footnote 16]) am fonitro parhaus unrhyw effeithiau a lliniaru pe baent yn cael eu nodi.

Ymateb yr Awdurdod

Nid yw Awdurdod Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU o’r farn bod effeithiau diangen ar unrhyw grwpiau sydd â nodweddion gwarchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Mae’r polisi yn effeithio’n bennaf ar weithredwyr morol, sydd wedi’u lleoli yn y DU ac yn rhyngwladol, ac felly’n effeithio’n uniongyrchol ar fusnesau yn hytrach na grwpiau neu unigolion penodol. Yn hynny o beth, nid ydym yn ystyried bod gan y ddyletswydd cydraddoldeb berthnasedd uniongyrchol i’r swyddogaeth polisi. Fodd bynnag, mae rhai effeithiau posibl ymhellach i lawr y gadwyn ar ddefnyddwyr, sy’n deillio o benderfyniadau busnes gweithredwyr. Gwnaethom ystyried hyn gyda’r ddyletswydd cydraddoldeb mewn golwg. Nid oes gennym unrhyw dystiolaeth i awgrymu y byddai hyn yn cael ei gymhwyso mewn ffordd sy’n gwahaniaethu yn erbyn unigolion ar sail nodweddion gwarchodedig. Rydym yn ymrwymo i fonitro’r polisi yn barhaus i sicrhau nad oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol, gan gynnwys ar grwpiau a ddiogelir o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Adran B: Y posibilrwydd o ehangu Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU ymhellach i allyriadau morol domestig ychwanegol

Adolygiad o’r trothwy ar gyfer y cynllun yn y dyfodol

Crynodeb o’r Cynigion

Yn yr ymgynghoriad, gwnaethom gynnig adolygu’r trothwy ar gyfer y cynllun erbyn diwedd 2028, i gyd-fynd ag adolygiad system gyfan o weithrediadau Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU yn 2028. Byddai’r adolygiad hwn yn ystyried sut mae’r cynllun yn gweithio i longau 5000GT ac uwch, ymarferoldeb ymgymryd ag MRV llongau rhwng 400GT a 5000GT, yn ogystal â chaniatáu i ni ddeall yn well effeithiau gostwng y trothwy ar weithredwyr a rhai is-sectorau. Gofynnwyd am farn ar yr adolygiad arfaethedig hwn, yn ogystal â gwybodaeth am beth allai trothwy is addas fod a’r effaith y gallai hyn ei chael ar ddatgarboneiddio.

Cwestiynau

41. Ydych chi’n cytuno y gallai trothwy is gefnogi’r sector morol i ddatgarboneiddio? (Ydw/Nac ydw) Esboniwch eich ymateb, gan roi tystiolaeth lle y bo’n bosibl.

42. Pe baem yn gostwng y trothwy, ydych chi’n cytuno y dylai hynny fod i 400GT? (Ydw/Nac ydw) Esboniwch eich ymateb, gan roi tystiolaeth lle y bo’n bosibl.

43. A yw’n ymarferol i longau rhwng 400GT a 5000GT ymgymryd â gofynion monitro, adrodd a dilysu? (Ydy/Nac ydy) A ddylai trefn fonitro symlach fodoli pe bai’r trothwy yn cael ei ostwng? Eglurwch eich ymateb, gan roi tystiolaeth lle y bo’n bosibl.

44. A fyddai unrhyw ddyfrffyrdd mewndirol neu gychod hamdden yn cael eu cynnwys yn y trothwy 400GT? (Byddai/Na fyddai) Esboniwch eich ymateb, gan roi tystiolaeth os yw hynny’n bosibl.

45. Pa ddyddiad fyddai’n addas ar gyfer gostwng y trothwy pe baem yn ei ostwng yn y dyfodol? Eglurwch eich ymateb, gan roi tystiolaeth lle y bo’n bosibl.

46. Beth fydd effeithiau gostwng y trothwy? A fyddai unrhyw is-sectorau yn cael eu heffeithio’n anghymesur? Esboniwch eich ymateb, gan roi tystiolaeth os yw hynny’n bosibl.

Crynodeb o’r Ymatebion

Atebodd 51 o ymatebwyr gwestiwn 41. Roedd 33 (65%) o ymatebwyr yn cytuno y gallai trothwy is gefnogi’r sector morol i ddatgarboneiddio, roedd 12 (23%) o ymatebwyr yn anghytuno ac ni nododd chwech (12%) ymatebydd ie/na clir. Aeth pum ymatebydd ymlaen i ddweud y byddai’n annog mabwysiadu technolegau carbon isel, ac roedd wyth ymatebydd yn teimlo y byddai’n cofnodi mwy o allyriadau. Fodd bynnag, soniodd naw ymatebydd nad oedd y dechnoleg angenrheidiol ar waith ac y gallai diffyg seilwaith achosi rhwystr. Nododd pedwar ymatebydd hefyd y dylai sicrhau nad oes codi tâl ddwywaith gyda chynlluniau rhyngwladol eraill.

Atebodd 41 o ymatebwyr gwestiwn 42, gyda 21 (51%) o ymatebwyr yn cytuno, pe baem yn gostwng y trothwy, y dylai fod i 400GT. Roedd 17 (42%) o ymatebwyr yn anghytuno ac ni nododd tri (7%) ie/na clir. Aeth 10 ymatebydd ymlaen i ddweud eu bod yn teimlo bod hyn yn cydweddu â MRV yr UE a dywedodd chwe ymatebydd fod hwn hefyd yn drothwy a ddefnyddir yn rhyngwladol. Fodd bynnag, roedd pedwar ymatebydd yn teimlo y gallai arwain at fwy o faich gweinyddol ar gyfer llongau o dan 5000GT ac roedd wyth ymatebydd yn teimlo y gallai effeithio ar rai is-sectorau ar drothwy is.

Atebodd 44 o ymatebwyr gwestiwn 43. Roedd 32 (73%) o ymatebwyr yn teimlo ei bod yn ymarferol i longau rhwng 400GT-5000GT ymgymryd â gofynion monitro, adrodd a gwirio, tra nad oedd 11 (25%) o ymatebwyr yn cytuno ac roedd un (2%) ymatebydd yn ansicr. Nododd saith ymatebydd fod y llongau hyn eisoes wedi’u cynnwys yn MRV yr UE ar gyfer mathau penodol o longau ac roedd tri ymatebydd yn teimlo y byddai hyn yn cymell y llongau hyn i ddatgarboneiddio. Fodd bynnag, roedd 12 o ymatebwyr yn teimlo y byddai angen adrodd symlach ar gyfer y llongau hyn, gyda thri ymatebydd yn nodi y byddai llongau o dan 1000GT yn benodol yn cael trafferth cydymffurfio â MRV.

Roedd 18 o ymatebwyr i gwestiwn 44 ynghylch a fyddai unrhyw ddyfrffyrdd mewndirol neu gychod hamdden yn cael eu cynnwys yn y trothwy 400GT. Roedd 10 (56%) o ymatebwyr yn teimlo y byddent yn cael eu cynnwys, ac roedd pedwar (22%) ymatebydd yn anghytuno ac ni nododd pedwar (22%) ie/na clir. Nododd chwe ymatebydd y gellid cynnwys cychod hwylio mawr. Roedd tri ymatebydd yn teimlo y dylid defnyddio dull teg waeth beth fo’r maes adrodd. Fodd bynnag, nododd tri ymatebydd y gellid defnyddio mecanwaith arall o bosibl, fel y cynllun Rhwymedigaeth Tanwydd Cludiant Adnewyddadwy (RTFO), yn lle hynny.

Atebodd 40 o ymatebwyr gwestiwn 45 ynghylch dyddiad priodol yn y dyfodol ar gyfer gostwng y trothwy. Roedd naw ymatebydd yn teimlo y dylem gydweddu â’r UE, ac roedd pum ymatebydd yn teimlo y dylem gydweddu â’r Sefydliad Morol Rhyngwladol. Roedd pum ymatebydd yn teimlo y dylai hyn fod ar waith unwaith y bydd mwy o opsiynau datgarboneiddio ar gael ac awgrymodd dau ymatebydd gyfnod MRV yn unig i ddechrau. Rhoddodd 12 o ymatebwyr ddyddiadau penodol yn amrywio o 2027-2031.

Yn olaf, atebodd 34 o ymatebwyr gwestiwn 46 ynghylch a fyddai unrhyw effeithiau yn sgil gostwng y trothwy. Roedd chwe ymatebydd yn teimlo y byddai hyn yn creu costau na fyddai’n bosibl eu “trosglwyddo” i ddefnyddwyr a dywedodd chwe ymatebydd hefyd nad oedd tanwyddau a thechnolegau amgen ar gael ar hyn o bryd. Roedd pedwar ymatebydd yn teimlo y byddai hyn yn effeithio ar gymunedau ynysoedd. Roedd pedwar ymatebydd hefyd yn teimlo y gallai unrhyw gamgydweddu posibl â’r UE roi llongau’r DU dan anfantais.

Ymateb yr Awdurdod

Byddwn yn adolygu’r cynllun yn 2028 i ystyried gostwng y trothwy i 400GT ar gyfer llongau o fewn y cwmpas yn y dyfodol.

Rydym wedi clywed gan randdeiliaid bod pryderon ynghylch y potensial i godi tâl ddwywaith am allyriadau drwy gynlluniau rhyngwladol pe bai’r trothwy yn cael ei ostwng yn y dyfodol a’r ymarferoldeb i longau o dan 5000GT ymgymryd â MRV. Rydym hefyd yn cydnabod diddordeb rhanddeiliaid mewn proses adrodd symlach. Rydym yn ymwybodol y gallai fod effeithiau amrywiol ar rai is-sectorau ar drothwy is. Yn olaf, rydym yn cydnabod bod rhanddeiliaid o’r farn ei bod yn bwysig sicrhau bod gostwng y trothwy yn cael ei weithredu i gydweddu â chynlluniau rhyngwladol a hefyd gydag ystyriaeth i argaeledd opsiynau datgarboneiddio.

Felly, byddwn yn ystyried yr ystyriaethau hyn fel rhan o’r adolygiad. Byddwn yn hysbysu rhanddeiliaid am ganlyniad yr adolygiad hwnnw ar ôl 2028 ac yn amlinellu’r camau nesaf.

Cwmpas mordeithiau rhyngwladol

Crynodeb o’r Cynigion

Gwnaethom amlinellu yn yr ymgynghoriad blaenorol mai’r brif ffordd o fynd i’r afael ag allyriadau rhyngwladol o hyd yw’r camau amlochrog a gymerir yn y Sefydliad Morol Rhyngwladol. Am y rheswm hwnnw, gwnaethom gadarnhau nad ydym ar hyn o bryd yn ystyried ehangu allyriadau o fewn y cwmpas ar gyfer pob taith ryngwladol y tu hwnt i deithiau o bosibl rhwng y DU a’r Ardal Economaidd Ewropeaidd ar gyfer 2026. Fodd bynnag, os bydd gweithredu amlochrog drwy’r Sefydliad Morol Rhyngwladol yn cael ei ohirio neu’n profi’n annigonol i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr o longau rhyngwladol, gofynnom i ymgyngoreion am wybodaeth am sut y gallai cynnwys allyriadau rhyngwladol yn y dyfodol weithio, os oedd hyn yn rhywbeth yr ydym yn dewis ei ddatblygu yn y dyfodol.

Cwestiynau

Pe bai’r amodau a amlygir uchod yn y Sefydliad Morol Rhyngwladol yn cael eu gwireddu;

47. A ddylid ehangu Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU i gynnwys allyriadau o bob taith ryngwladol sy’n dechrau neu’n gorffen yn y DU yn y dyfodol? (Ydw/Nac ydw) Esboniwch eich ymateb, gan roi tystiolaeth lle y bo’n bosibl.

48. Os ydych chi’n cytuno â’r uchod, a ydych chi’n credu y dylid darparu ar gyfer 50% o allyriadau o deithiau llongau o fewn cwmpas ar daith ryngwladol sy’n dechrau neu’n gorffen yn y DU o dramor? (Ydw/Nac ydw) Esboniwch eich ymateb, gan roi tystiolaeth lle y bo’n bosibl.

49. Os ydych chi’n cefnogi cynnwys teithiau rhyngwladol, a oes gennych chi farn ynghylch pryd y dylid gweithredu hyn? Eglurwch eich ymateb, gan roi tystiolaeth lle y bo’n bosibl.

Crynodeb o’r Ymatebion

Atebodd 57 o ymatebwyr gwestiwn 47. Roedd 34 (60%) o ymatebwyr yn cytuno y dylid ehangu Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU i gynnwys allyriadau o bob taith ryngwladol sy’n dechrau neu’n gorffen yn y DU yn y dyfodol. Roedd 20 (35%) o ymatebwyr yn anghytuno ac ni nododd tri (5%) ie/na clir. Nododd 29 o ymatebwyr y byddai hyn yn sicrhau cydweddu â’r UE, a nododd 10 ymatebydd y byddai’n osgoi dadleoli carbon neu fylchau posibl. Roedd 16 o ymatebwyr yn teimlo y byddai hyn yn cymell datgarboneiddio, ac roedd saith ymatebydd yn teimlo y byddai’n dangos uchelgais hinsawdd. Nododd 19 o ymatebwyr y gorgyffwrdd posibl â mesur y Sefydliad Morol Rhyngwladol, gyda 14 yn nodi’n benodol y dylem osgoi cyfrif allyriadau ddwywaith.  

Roedd 41 o ymatebwyr i gwestiwn 48. Roedd 29 (71%) o ymatebwyr yn cytuno y dylai 50% o allyriadau o deithiau rhyngwladol gael eu cwmpasu gan Gynllun Masnachu Allyriadau’r DU. Roedd 11 (27%) o ymatebwyr yn anghytuno ac roedd un (2%) na nododd ie/na clir. Fel gyda chwestiwn 47, nododd 24 o ymatebwyr fod hyn yn cydweddu â’r UE, gyda phum ymatebydd yn nodi y byddai’r cydweddu hwn yn osgoi dadleoli carbon.

Yn olaf, atebodd 41 o ymatebwyr gwestiwn 49 ar amseru ar gyfer cynnwys teithiau rhyngwladol. Nododd 17 o ymatebwyr y dylem weithredu cyn gynted â phosibl. Ymhlith y rhesymau am hyn roedd cydweddu â’r UE a gweithredu cynnar, osgoi dadleoli carbon posibl; cymell datgarboneiddio a dangos uchelgais hinsawdd. Roedd saith ymatebydd yn teimlo y dylem ystyried canlyniad mesur byd-eang y Sefydliad Morol Rhyngwladol [footnote 17] cyn ystyried ehangu y tu hwnt i allyriadau domestig.

Ymateb yr Awdurdod

Mae’r Awdurdod yn croesawu’r adborth a gafwyd ar gynnwys allyriadau nwyon tŷ gwydr perthnasol o deithiau rhyngwladol. Ers hynny bu newidiadau sylweddol yn y maes polisi ehangach, ac yn enwedig yn rhyngwladol. Ym mis Hydref 2025, cafodd mabwysiadu Fframwaith Sero Net y Sefydliad Morol Rhyngwladol ei oedi yng nghyfarfod Pwyllgor Diogelu Amgylchedd Morol y Sefydliad Morol Rhyngwladol. Roedd y DU yn siomedig yn y canlyniad hwn a bydd yn parhau i weithio gydag eraill i ddatblygu Fframwaith Sero Net y Sefydliad Morol Rhyngwladol fel y gallwn gyrraedd sefyllfa o gonsensws yn y dyfodol. Yn ein hymgynghoriad blaenorol, gwnaethom ymrwymo i archwilio sut y gallai cynnwys allyriadau rhyngwladol o bosibl weithio yn y dyfodol, pe bai camau amlochrog drwy’r Sefydliad Morol Rhyngwladol yn cael eu gohirio, neu’n profi i fod yn annigonol i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr o forgludiant rhyngwladol.

Ochr yn ochr â hyn, ym mis Mai 2025 cytunodd y DU a’r UE i weithio tuag at gysylltu Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU a System Masnachu Allyriadau’r UE yn Uwchgynhadledd y DU-UE. Yn Ymateb interim yr Awdurdod a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2025, gwnaethom nodi ein bod yn bwriadu ehangu Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU i gynnwys allyriadau o deithiau morol rhyngwladol, gan adeiladu ar y Ddealltwriaeth Gyffredin a sefydlwyd yn yr uwchgynhadledd a nododd y byddai morol domestig a rhyngwladol o fewn cwmpas cynllun cysylltiedig.

O ystyried y digwyddiadau hyn, mae Awdurdod Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU yn bwriadu i allyriadau nwyon tŷ gwydr perthnasol o deithiau rhyngwladol gael eu cynnwys o fewn Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU yn ddiweddarach. Rydym yn cyhoeddi ymgynghoriad ochr yn ochr â chyhoeddi’r Ymateb hwn gan yr Awdurdod i geisio barn rhanddeiliaid ar yr ehangu hwn, a sut rydym yn bwriadu ehangu i allyriadau nwyon tŷ gwydr perthnasol o deithiau rhyngwladol, yr ydym yn cynnig y bydd o 2028.

Rydym yn cydnabod bod gan randdeiliaid bryderon am faich gweinyddol ychwanegol i weithredwyr ac rydym yn awyddus i leihau hyn. Wrth wneud hynny, rydym yn anelu at greu mesurau effeithiol a chydlynol sy’n darparu sicrwydd i fuddsoddwyr a chynnydd diriaethol i ddatgarboneiddio’r sector morol.   

Mae’r UE wedi ymrwymo i adolygu dull Cynllun Masnachu Allyriadau’r UE ar gyfer morol, ar ôl mabwysiadu Fframwaith Sero Net y Sefydliad Morol Rhyngwladol. 

Ar ôl mabwysiadu Fframwaith Sero Net y Sefydliad Morol Rhyngwladol, byddwn yn adolygu Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU a Fframwaith Sero Net y Sefydliad Morol Rhyngwladol, a byddwn yn archwilio’r opsiynau ar gyfer rheoli unrhyw ryngweithiadau yn y dyfodol, gan gynnwys adolygu unrhyw newidiadau i Gynllun Masnachu Allyriadau’r UE yn y dyfodol.

[^10]: [Cynllun Llongau a Phorthladdoedd ar gyfer rhwydweithiau Clyde a Hebrides ac Ynysoedd y Gogledd (2025 – 2045) - Cynllun Cysylltedd Ynysoedd Trafnidiaeth yr Alban](https://www.transport.gov.scot/publication/the-vessels-and-ports-plan-for-the-clyde-and-hebrides-and-northern-isles-networks-2025-2045-islands-connectivity-plan/).
  1. Ymestyn cwmpas Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU: sector morol

  2. Datblygu’r Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU: prif ymateb y llywodraeth

  3. Ehangu cwmpas Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU: morwol - ymateb interim

  4. Uwchgynhadledd y DU-UE - Dealltwriaeth Gyffredin (HTML) - GOV.UK

  5. Mae’r ffigurau canrannol wedi’u talgrynnu. 

  6. Yr anghysondeb posibl yw y gallai llong wneud arhosiad ychwanegol ar Ynys Manaw er mwyn osgoi talu’r pris carbon ar fordaith DU-DU. 

  7. Bydd hyn yn cynnwys pob llong oni bai ei bod wedi’i heithrio. Gellir dod o hyd i ragor o fanylion am eithriadau yn yr adran nesaf. 

  8. Gweler tudalennau 9-10 o Ymateb interim yr Awdurdod

  9. Cynllun Cysylltedd Ynysoedd

  10. Bydd ymgynghoriad maes o law ynghylch y dull o osod y cap ar gyfer cam nesaf y cynllun, fel yr amlinellir yn y llwybr hirdymor ar gyfer Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU, sydd i’w weld yma: The long-term pathway for the UK Emissions Trading Scheme - GOV.UK

  11. Mae’r ffigurau hyn yn rhoi cyfrif am allyriadau carbon deuocsid, ocsid nitrus, a methan, ar y môr (teithiau domestig yn y DU) ac mewn porthladdoedd (boed yn teithio’n ddomestig neu’n rhyngwladol), o longau 5000GT ac uwch. Nid yw’n rhoi cyfrif am allyriadau o weithgaredd morol anfasnachol y llywodraeth, yr eithriad arfaethedig ar gyfer gwasanaethau fferi i ynysoedd yr Alban, y didyniad ildio ar gyfer mordeithiau Prydain Fawr-Gogledd Iwerddon, nac unrhyw gwmpas ar gyfer mordeithiau DU-Ardal Economaidd Ewropeaidd. Mae’r ffigurau addasu cap terfynol yn adlewyrchu cwmpas terfynol y cynllun. 

  12. Maritime decarbonisation strategy - GOV.UK

  13. Mae’r ffigur canran wedi’i dalgrynnu. 

  14. Mae’r ffigur canran wedi’i dalgrynnu. 

  15. Mae’r ffigur canran wedi’i dalgrynnu. 

  16. I’w nodi, daeth yr ymgynghoriad i ben ar 23 Ionawr 2025, cyn i Fframwaith Sero Net y Sefydliad Morol Rhyngwladol gael ei gytuno ym mis Ebrill 2025.