Open consultation

Cynllun Masnachu Allyriadau'r DU: Rheoleiddio piblinellau dal a storio carbon trawsffiniol y DU (tudalen we hygyrch)

Published 12 March 2026

Ymgynghoriad ar y cyd rhwng Llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban, Llywodraeth Cymru ac Adran Amaethyddiaeth, Amgylchedd a Materion Gwledig Gogledd Iwerddon

Cyflwyniad

Mae Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU (ETS y DU) yn cael ei redeg ar y cyd gan Awdurdod Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU (‘yr Awdurdod’ o hyn ymlaen) sy’n cynnwys Llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban, Llywodraeth Cymru ac Adran Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig Gogledd Iwerddon.

Bydd dal a storio carbon (CCS) yn hanfodol er mwyn i’r DU gyrraedd ei thargedau sero net, yn enwedig ar gyfer sectorau anodd eu lleihau fel dur, sment, a chemegau sydd heb ddewisiadau amgen ar gyfer datgarboneiddio dwfn. Mae prosiectau Trac-1 CCS sy’n bwriadu cludo carbon deuocsid (CO2) o glystyrau diwydiannol trwy biblinellau i safleoedd storio daearegol parhaol wedi derbyn eu penderfyniadau buddsoddi terfynol (FID) ac maent yn bwriadu dechrau gweithredu tua diwedd y degawd hwn. Mae cynlluniau eraill ar gyfer prosiectau CCS sy’n defnyddio rhwydwaith trafnidiaeth piblinellau CO2 hefyd ar y gweill ac yn gweithio tuag at garreg filltir y FID.

Ar hyn o bryd mae cludo nwyon tŷ gwydr a fwriedir ar gyfer safleoedd storio daearegol yn cael ei reoleiddio gan ETS y DU. [footnote 1] Fodd bynnag, mae’r Awdurdod wedi cydnabod y gellid diwygio’r fframwaith trwyddedu diofyn yn ETS y DU i fod yn llai cymhleth a beichus i weithredwyr a rheoleiddwyr rhwydweithiau trafnidiaeth piblinellau CO2 sy’n croesi ffiniau cenedlaethol yn y DU (y cyfeirir atynt yn y ddogfen hon fel ‘piblinellau CCS trawsffiniol’).

Mae’r ymgynghoriad hwn yn gofyn am farn ar opsiynau a allai symleiddio pa reoleiddiwr/reoleiddwyr, mewn perthynas ag ETS y DU, sy’n gyfrifol am drwyddedu, monitro cydymffurfiaeth a gorfodi mewn perthynas â:

  • y rhan ar y tir o biblinell CCS drawsffiniol (h.y. y rhan o’r biblinell ar y tir), a
  • y rhan ar y môr o biblinell CCS drawsffiniol ar y môr (h.y. lle y mae’r biblinell yn mynd i ddyfroedd y DU).

Gwybodaeth gyffredinol

Pam rydyn ni’n ymgynghori

Mae’r Awdurdod yn gofyn am adborth ar opsiynau sy’n cael eu hystyried i symleiddio gofynion rheoleiddiol ETS y DU ar gyfer piblinellau CCS trawsffiniol.

Diben yr ymgynghoriad yw deall safbwyntiau ar opsiynau er mwyn lleihau nifer y trwyddedau ETS y DU y bydd eu hangen ar biblinell CCS sy’n croesi i awdurdodaethau lluosog a allai symleiddio’r gofynion monitro a gorfodi ar gyfer gweithredwyr a rheoleiddwyr.

Manylion yr ymgynghoriad

Os oes angen fersiwn o’r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, anfonwch e-bost at alt.formats@energysecurity.gov.uk. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu os dywedwch pa dechnoleg gynorthwyol rydych yn ei ddefnyddio.

Cyhoeddwyd: 12 Mawrth 2026
Ymateb erbyn: 4 Mehefin 2026

Ymholiadau i:

Emissions Trading
Department for Energy Security and Net Zero
Third Floor
3 Whitehall Place
London
SW1A 2EG

Ebost:  ukets.consultationresponses@energysecurity.gov.uk

Cyfeirnod yr ymgynghoriad: Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU: Rheoleiddio piblinellau dal a storio carbon trawsffiniol y DU

Cynulleidfaoedd:

  • Cwmnïau sy’n bwriadu cynnig gwasanaethau CCS, gan gynnwys safleoedd dal, gweithredwyr rhwydwaith cludo piblinellau, safleoedd storio canolradd, a gweithredwyr storfeydd daearegol.
  • Safleoedd ETS y DU sy’n ystyried defnyddio piblinellau CCS.
  • Unrhyw gyfranogwyr posibl eraill yn y gadwyn werth CCS.
  • Arbenigwyr, academyddion, a sefydliadau yn y trydydd sector â barn ar ein dull arfaethedig.
  • Dilyswyr ac arbenigwyr technegol ar fonitro, adrodd a dilysu (MRV).
  • Unrhyw randdeiliaid eraill â diddordeb yn ein hopsiynau polisi CCS.

Ehangder tiriogaethol:

Mae’r ymgynghoriad hwn yn ymwneud ag opsiynau i ddatblygu ETS y DU, sy’n gweithredu ledled Cymru, Lloegr, yr Alban, a Gogledd Iwerddon. Mae hwn yn ymgynghoriad ar y cyd, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban, Llywodraeth Cymru ac Adran Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig Gogledd Iwerddon.

Sut i ymate

Ymatebwch ar-lein yn: energygovuk.citizenspace.com/energy-markets/uk-ets-regulating-cross-boundary-ccs-pipelines/

neu

E-bostiwch: ukets.consultationresponses@energysecurity.gov.uk

Ysgrifennwch at:

Emissions Trading
Department for Energy Security and Net Zero
Third Floor
3 Whitehall Place
London
SW1A 2EG

Wrth ymateb, nodwch a ydych chi’n ymateb fel unigolyn neu’n cynrychioli barn sefydliad.

Bydd eich ymateb yn fwyaf defnyddiol os yw’n cael ei fframio mewn ymateb uniongyrchol i’r cwestiynau a ofynnir, er bod croeso i sylwadau a thystiolaeth bellach hefyd.

Cyfrinachedd a diogelu data

Gall yr wybodaeth a roddir gennych mewn ymateb i’r ymgynghoriad hwn, gan gynnwys gwybodaeth bersonol, gael ei datgelu yn unol â deddfwriaeth y DU (Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, Deddf Diogelu Data 2018 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004).

Os ydych am i’r wybodaeth rydych chi’n ei rhoi gael ei thrin yn gyfrinachol, dywedwch wrthym, ond byddwch yn ymwybodol na allwn warantu cyfrinachedd ym mhob amgylchiad. Ni fydd ymwadiad cyfrinachedd awtomatig a gynhyrchir gan eich system TG yn cael ei ystyried gennym yn gais am gyfrinachedd.

Byddwn yn prosesu eich data personol yn unol â’r holl ddeddfau diogelu data perthnasol. Gweler ein polisi preifatrwydd.

Byddwn yn crynhoi’r holl ymatebion ac yn cyhoeddi’r crynodeb hwn ar GOV.UK. Bydd y crynodeb yn cynnwys rhestr o enwau neu sefydliadau a ymatebodd, ond nid enwau personol, cyfeiriadau na manylion cyswllt eraill pobl.

Sicrhau ansawdd

Mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i gynnal yn unol ag egwyddorion ymgynghori’r llywodraeth.

Os oes gennych unrhyw gwynion am y ffordd y cynhaliwyd yr ymgynghoriad hwn, anfonwch e-bost at: bru@energysecurity.gov.uk.

Rheoleiddio piblinellau CCS sy’n croesi ffiniau rheoleiddiol ETS y DU

Mae cludo nwyon tŷ gwydr trwy biblinellau ar gyfer safleoedd storio daearegol yn weithgaredd rheoledig o dan ETS y DU. Felly, mae angen trwyddedau ETS y DU ar weithredwyr piblinellau CCS.

Efallai y bydd angen i biblinellau CCS groesi nifer o ffiniau rheoleiddiol ETS y DU cyn cyrraedd safleoedd storio daearegol parhaol ar y môr. Mae Erthygl 10 Gorchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr 2020 (‘Y Gorchymyn’) [footnote 2] yn nodi, ar gyfer piblinellau CCS:

  • Asiantaeth yr Amgylchedd (EA) yw’r rheoleiddiwr cyfrifol ar gyfer safleoedd ETS y DU yn Lloegr,
  • Yr Ysgrifennydd Gwladol, y mae ei swyddogaethau rheoleiddio yn cael eu cyflawni gan y Rheoleiddiwr Petrolewm ar y Môr ar gyfer yr Amgylchedd a Datgomisiynu (OPRED) ar gyfer gweithgareddau CCS ETS y DU, sy’n gyfrifol am safleoedd ym môr tiriogaethol Lloegr sy’n gyfagos i Loegr a sector y DU o’r ysgafell gyfandirol (gan ddechrau ar 12 môr-filltiroedd ar y môr),
  • Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yw’r rheoleiddiwr cyfrifol ar gyfer Cymru a môr tiriogaethol Cymru sy’n gyfagos i Gymru,
  • Asiantaeth Diogelu Amgylchedd yr Alban (SEPA) yw’r rheoleiddiwr cyfrifol ar gyfer yr Alban a môr tiriogaethol yr Alban sy’n gyfagos i’r Alban, ac
  • Asiantaeth yr Amgylchedd Gogledd Iwerddon (NIEA) yw’r rheoleiddiwr cyfrifol ar gyfer Gogledd Iwerddon a môr tiriogaethol Gogledd Iwerddon sy’n gyfagos i Ogledd Iwerddon.

O dan y rheolau presennol, mae hyn yn golygu y byddai cyfrifoldeb am reoleiddio’r biblinell yn trosglwyddo ar bob un o’r ffiniau rheoleiddiol hyn. Felly, byddai angen trwydded gan bob rheoleiddiwr perthnasol ar y gweithredwr, a bydd angen seilwaith monitro i benderfynu faint o CO2 sy’n cael ei drosglwyddo ar bob ffin. Yn achos trosglwyddo cyfrifoldeb o’r corff rheoleiddio ar gyfer y môr tiriogaethol perthnasol (hyd at 12 milltir môr) i’r corff rheoleiddio ar gyfer ysgafell gyfandirol y DU (y tu hwnt i 12 milltir môr), byddai’r ffin hon ar y môr.

Er enghraifft, byddai piblinell sy’n rhedeg trwy diriogaeth Lloegr a’r Alban, cyn terfynu mewn safle storio daearegol ar y môr, yn gofyn am drwydded gan Asiantaeth yr Amgylchedd, trwydded gan SEPA, a thrwydded gan OPRED, yn ogystal â seilwaith monitro ar y ffin rhwng yr Alban a Lloegr ac ar y ffin rhwng môr tiriogaethol yr Alban sy’n gyfagos i’r Alban a sector y DU o’r ysgafell gyfandirol.

Mae yna hefyd faterion ymarferol heriol sy’n gynhenid i unrhyw seilwaith tanddwr ar gyfer gosod a chynnal seilwaith monitro ar y pwynt trosglwyddo i sector y DU o’r ysgafell gyfandirol neu rhwng moroedd tiriogaethol. Fel y mae, mae’r gofynion hyn yn cynyddu cymhlethdod a chost adeiladu a gweithredu piblinell CCS drawsffiniol.

Mae’r Awdurdod yn cydnabod y byddai trefniant rheoleiddio mwy syml yn well.

Pennu’r rheoleiddiwr ar y tir

Er mwyn symleiddio’r gofynion rheoleiddio, mae’r Awdurdod yn ystyried y gofynion rheoleiddio lle mae piblinellau ar y tir yn croesi ffiniau’r DU ar y tir, ac a allent fod angen un drwydded ETS y DU yn unig ar gyfer y rhan o’r biblinell ar y tir. Er mwyn hwyluso hyn, byddai angen inni nodi’r rheoleiddiwr ETS y DU sy’n gyfrifol.

Mae’r Awdurdod yn ystyried dau opsiwn posibl ar gyfer pennu cyfrifoldeb rheoleiddiol ar gyfer y rhan o biblinellau CCS trawsffiniol ar y tir.

Opsiwn 1 – Pennu un rheoleiddiwr ar y tir

O dan yr opsiwn hwn, byddai un rheoleiddiwr ETS y DU ar y tir yn cael ei ddynodi ar gyfer y rhan gyfan o biblinell CCS drawsffiniol ar y tir. Byddai hyn yn golygu bod cyfrifoldebau rheoleiddiol presennol yn cael eu dirprwyo o un rheoleiddiwr i’r llall fel y gallent reoleiddio piblinell CCS drawsffiniol y tu hwnt i’w hawdurdodaeth bresennol.

Mae sawl dull posibl ar gyfer pennu sut y gellid pennu’r rheoleiddiwr ar y tir:

  • Gellir pennu’r rheoleiddiwr drwy leoliad ystafell reoli ganolog y biblinell, lle mae darlleniadau offer monitro yn cael eu prosesu a chyfrifiadau llif yn cael eu cynnal. Er enghraifft, os yw’r ystafell reoli wedi’i lleoli yng Nghymru, byddai CNC yn gweithredu fel y rheoleiddiwr ar y tir.
  • Gellir pennu’r rheoleiddiwr yn ôl lleoliad swyddfa gofrestredig y gweithredwr piblinell yn y DU.
  • Gall y rheoleiddiwr gael ei bennu gan yr awdurdodaeth y mae’r rhan fwyaf o hyd y biblinell yn mynd drwyddi.

Pa ddull bynnag a ddefnyddir i bennu rheoleiddiwr, rydym yn cynnig, mewn achosion o ansicrwydd, y bydd yr Awdurdod yn cael yr hawl i ddynodi rheoleiddiwr ar y tir priodol ar gyfer y biblinell.

Opsiwn 2 – Rhoi swyddogaethau rheoleiddio ar y cyd

O dan yr opsiwn hwn, byddai cyfrifoldeb rheoleiddiol ar gyfer y rhan o biblinell CCS drawsffiniol ar y tir yn cael ei roi ar y cyd i holl reoleiddwyr ETS y DU perthnasol y mae’r biblinell yn croesi eu hawdurdoaethau.

Byddai’r rheoleiddwyr perthnasol wedyn yn cytuno ar un rheoleiddiwr arweiniol i arfer swyddogaethau rheoleiddio ar ran y lleill. Byddai’r penderfyniad hwn yn seiliedig ar ba reoleiddiwr sydd yn y sefyllfa orau i reoleiddio’r biblinell ac mae’n debygol y bydd yn cynnwys ystyried y meini prawf uchod a nodir ar gyfer Opsiwn 1. Lle na cheir consensws ymhlith y rheoleiddwyr, bydd yr Awdurdod yn cael yr hawl i ddynodi rheoleiddiwr priodol ar gyfer y biblinell.

Mae rheoleiddwyr yn cymryd rhan o gam cynllunio piblinellau i asesu gofynion rheoleiddio amgylcheddol eraill, felly byddai prosiectau piblinellau CCS yn cael eu nodi’n gynnar gan y rheoleiddwyr perthnasol, a gallai ystyriaeth ddigwydd ymhell cyn pan fydd angen trwydded. Byddai gweithredwr y biblinell yn cael ei hysbysu’n uniongyrchol gan ei reoleiddiwr sut y byddai’n cael ei reoleiddio a sut i wneud cais am drwydded.

Gallai anfanteision posibl rhoi swyddogaethau rheoleiddio ar y cyd gynnwys cyflwyno ansicrwydd a chymhlethdod cyfreithiol trwy ei gwneud yn ofynnol i reoleiddwyr gytuno ar gyfrifoldeb. Gall y dull hwn gynyddu ymdrechion gweinyddol. At hynny, gallai’r dull leihau eglurder ynghylch pwerau gorfodi rheoleiddwyr a threfniadau codi tâl o’i gymharu â’r rheoliadau sy’n pennu un rheoleiddiwr ar y tir yn glir.

Nid ydym yn rhagweld y bydd y rheoleiddiwr sy’n gyfrifol am reoleiddio piblinell yn newid ar ôl ei bennu ar y dechrau, ond os bydd angen gwneud hynny, byddai rheoleiddwyr yn hysbysu gweithredwr y biblinell yn y flwyddyn cyn yr amrywiad arfaethedig i’w trwydded(au).

Mae gennym ddiddordeb mewn clywed barn rhanddeiliaid ar y dull mwyaf priodol o bennu’r rheoleiddiwr ar y tir ar gyfer piblinellau CCS trawsffiniol.

Cwestiynau:

  1. A ydych yn cytuno y dylai fod gofyniad am un drwydded ar y tir yn unig ar gyfer piblinellau CCS trawsffiniol ar y tir?

2. A oes gennych ddull gweithredu a ffefrir rhwng Opsiwn 1 (pennu un rheoleiddiwr ar y tir) ac Opsiwn 2 (rhoi swyddogaethau rheoleiddio ar y cyd i bob rheoledidiwr perthnasol)? Esboniwch eich ateb a rhowch dystiolaeth ar gyfer eich barn lle bo modd.

3. Ar gyfer Opsiwn 1, pa faen prawf ydych chi’n ei ystyried fwyaf priodol ar gyfer pennu’r rheoleiddiwr ar y tir? Esboniwch eich ateb a rhowch dystiolaeth lle bo modd.

4. A oes unrhyw feini prawf neu ddulliau amgen y dylid eu hystyried ar gyfer pennu rheoleiddiwr piblinell CCS drawsffiniol ar y tir? Os felly, disgrifiwch y meini prawf neu’r dull amgen, a rhowch dystiolaeth lle bo modd.

Pennu’r rheoleiddiwr ar y môr

Rydym eisoes wedi cyflwyno barn yr Awdurdod yn ymgynghoriad mis Mai 2019 ar Ddyfodol Prisio Carbon y DU y dylai OPRED fod yn rheoleiddiwr o’r pwynt olaf o fesur ar y tir cyn i’r CO2 gael ei gludo i’r safle storio ar y môr ar gyfer piblinellau yn Lloegr sy’n rhannol ar y tir ac yn rhannol ar y môr. O ran piblinellau a leolir yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon sy’n rhannol ar y tir ac yn rhannol ar y môr, cynigiodd yr Awdurdod yn ymgynghoriad Mai 2019 y gallai Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Diogeledd Ynni a Sero Net ofyn am ganiatâd gan yr awdurdod perthnasol yn yr awdurdodaethau hynny i gyfarwyddo OPRED fel rheoleiddiwr piblinellau CCS yn eu priod diriogaethau. Roedd hyn er mwyn symleiddio’r gofynion monitro, a lliniaru’r heriau ymarferol sy’n gysylltiedig â gosod a chynnal seilwaith monitro 12 milltir môr ar y môr lle byddai OPRED yn cymryd cyfrifoldeb rheoleiddiol oddi wrth reoleiddwyr datganoledig.

Ers hynny, mae’r Awdurdod wedi bod yn ystyried gosod terfyn o ddau reoleiddiwr ar gyfer pob piblinell CCS drawsffiniol, ac yn unol â hynny, uchafswm o ddwy drwydded i gyd. Er mwyn symleiddio’r gofynion rheoleiddio yn y modd hwnnw, mae’r Awdurdod yn ystyried dau opsiwn ar gyfer pennu cyfrifoldeb rheoleiddio ar gyfer y rhan ar y môr o bibellau CCS trawsffiniol.

Opsiwn 1 – Mae’r rheoleiddiwr ar y tir yn parhau i fod y rheoleiddiwr ar gyfer piblinell CCS drawsffiniol tan y safle storio ar y môr

Dim ond un rheoleiddiwr sydd gan bob piblinell CCS drawsffiniol ar gyfer yr adrannau ar y tir ac ar y môr, fel y’i pennir gan yr opsiynau rheoleiddiwr ar y tir a nodir uchod (naill ai EA, SEPA, CNC, neu NIEA). Byddai hyn hefyd yn arwain at un drwydded yn unig ar gyfer y biblinell gyfan i’r safle storio ac, yn ei dro, byddai dim ond angen seilwaith monitro ar bwyntiau cychwyn a therfyn rhwydwaith cludo piblinell CCS - gyda’r safle storio yn bwynt terfyn.

Byddai OPRED yn parhau i fod yn rheoleiddiwr ETS y DU ar gyfer y safle storio lle mae’r safle hwn wedi’i leoli yn sector y DU o’r ysgafell gyfandirol neu’r môr tiriogaethol sy’n gyfagos i Loegr (h.y. y rhan o’r môr tiriogaethol nad yw’n gyfagos i Ogledd Iwerddon, yr Alban neu Gymru).

Sylwer bod gan bob rheoleiddiwr, mewn perthynas ag ETS y DU, yr awdurdod i weithredu dyletswyddau a roddwyd iddo gan y Gorchymyn yn unig, sydd, oherwydd strwythur unigryw ETS y DU, yn ddeddfwriaeth ar y cyd a wnaed ar ran y pedwar awdurdod cenedlaethol sy’n rhan o’r Awdurdod, a deddfwriaeth ETS y DU arall. Felly, nid yw’r opsiwn hwn yn cynnig rhoi pwerau ychwanegol i Lywodraeth Ddatganoledig neu Lywodraeth y DU ac ni ddylid ei ddehongli fel gosod cynsail ar gyfer ehangu’r awdurdodaeth ar gyfer swyddogaethau rheoleiddio eraill unrhyw un o’r rheoleiddwyr.

Opsiwn 2 – OPRED yw’r unig reoleiddiwr ar gyfer y rhan gyfan o’r biblinell CCS drawsffiniol ar y môr gan gynnwys moroedd tiriogaethol a sector y DU o’r ysgafell gyfandirol

Dim ond un rheoleiddiwr ar y tir sydd gan bob piblinell CCS drawsffiniol (naill ai EA, SEPA, CNC, neu NIEA), ac OPRED yw’r unig reoleiddiwr ar y môr lle bydd gofyniad ar gyfer seilwaith monitro ar y pwynt trosglwyddo rhwng y tir a’r môr. Byddai hyn hefyd yn arwain at un drwydded ar gyfer y rhan o’r biblinell ar y môr sy’n mynd i’r safle storio yn ogystal ag un drwydded ar gyfer y rhan ar y tir. Ar gyfer y trosglwyddiad ar y tir/ar y môr hwn, mae’r Awdurdod o’r farn y dylai’r cyfrifoldeb rheoleiddiol drosglwyddo i OPRED yn y pwynt mesur olaf ar y tir, gydag OPRED wedyn yn rheoleiddio’r rhan o’r biblinell ar y môr.

Yn yr un modd ag Opsiwn 1, nid yw’r opsiwn hwn yn cynnig rhoi pwerau ychwanegol i Lywodraeth Ddatganoledig neu Lywodraeth y DU ac ni ddylid ei ddehongli fel gosod cynsail ar gyfer ehangu’r awdurdodaeth ar gyfer swyddogaethau rheoleiddio eraill unrhyw un o’r rheoleiddwyr.

Mae adran nesaf y ddogfen hon yn amlinellu opsiynau ar gyfer seilwaith monitro mewn perthynas â’r ffin rhwng y môr a’r tir pe bai Opsiwn 2 yn cael ei ddilyn.

Cwestiynau:

5. A oes gennych ddull a ffefrir rhwng Opsiwn 1 (mae’r rheoleiddiwr ar y tir yn parhau i fod y rheoleiddiwr ar y môr) ac Opsiwn 2 (OPRED yw’r unig reoleiddiwr ar y môr)? Esboniwch eich ateb a rhowch dystiolaeth ar gyfer eich barn lle bo modd.

6. O ran Opsiwn 2, a ydych chi’n cytuno y dylai cyfrifoldeb rheoleiddio OPRED ddechrau o’r pwynt mesur olaf yn y pwynt trosglwyddo rhwng y tir a’r môr a bennir? Esboniwch eich ateb a rhowch dystiolaeth lle bo modd.

Seilwaith monitro ar gyfer y ffin rhwng y tir a’r môr

Ar gyfer Opsiwn 2 (OPRED yw’r unig reoleiddiwr ar y môr ar gyfer piblinellau CCS sy’n croesi i sector y DU o’r ysgafell gyfandirol), bydd angen seilwaith monitro (e.e., CEMS [footnote 3] neu AMS [footnote 4]) i fonitro CO2 a drosglwyddir ar draws ffin reoleiddiol o’r rheoleiddiwr ar y tir i OPRED. Mae hyn hefyd yn ofynnol ar hyn o bryd yn y pwynt trosglwyddo presennol rhwng yr EA ac OPRED ar lan Lloegr o dan y rheolau cyfredol. Rhaid i’r gweithredwr piblinell CCS adrodd yn flynyddol i’w rheoleiddiwr faint o CO2 sy’n cael ei golli o awyru, gollyngiadau ac allyriadau sy’n dianc, yn ogystal â faint o CO2 sydd wedi’i gludo i’r safle storio ar y môr. Mae’r ffin yn darparu’r pwynt terfyn a’r pwynt cychwyn hwnnw ar gyfer y rheoleiddiwr ar y tir ac ar y môr yn y drefn honno. Mae hyn yn sicrhau bod ETS y DU yn cyfrif yn gadarn am y swm net o nwyon tŷ gwydr sy’n cael eu storio’n ddaearegol. Felly, rydym yn gofyn am farn ar y gofynion priodol ar gyfer seilwaith monitro piblinellau.

Efallai y bydd modd defnyddio monitro/mesuryddion cyfredol ar y tir fel ei fod yn dod yn fesurydd dynodedig olaf ar y tir.

Fel arall, gallai’r Awdurdod fandadu bod mesuryddion ychwanegol a seilwaith monitro arall yn cael eu hadeiladu ar bwynt addas ar y tir ger blaenlaniad y biblinell, a fyddai wedyn yn bwynt trosglwyddo rheoleiddiol i OPRED.

Ar gyfer y ddau bosibiliad hyn, er mwyn sicrhau nad yw cyfrifoldeb ar y tir OPRED yn ymestyn ymhellach nag sydd ei angen, rydym yn argymell bod y pwynt trosglwyddo, ynghyd â’r seilwaith cysylltiedig, fod ar y tir 2 km ar y mwyaf o farc penllanw cymedrig y gorllanw (marc penllanw cyfartalog y gorllanw) ar benlaniad y biblinell.

Cwestiynau:

7. Ydych chi’n cytuno y dylid gofyn am fonitro seilwaith a mesuryddion pwrpasol ar y pwynt trosglwyddo rheoleiddiol rhwng y rheoleiddiwr ar y tir a’r rheoleiddiwr ar y môr? Esboniwch eich ateb a rhowch dystiolaeth ar gyfer eich barn lle bo modd.

8. Beth yw eich barn ar ein dull arfaethedig o ofynion seilwaith monitro ar gyfer y trosglwyddiad ar y tir-ar y môr? Esboniwch eich ateb a rhowch dystiolaeth lle bo modd.

9. Ydych chi’n cytuno na ddylai’r pellter priodol ar gyfer pennu lleoliad y pwynt trosglwyddo ar y tir/ar y môr fod yn fwy na 2 km o benllanw cymedrig y gorllanw? Esboniwch eich ateb a rhowch dystiolaeth lle bo modd.

Costau Cydymffurfio a seilwaith monitro

Mae gan yr Awdurdod ddiddordeb mewn datblygu ei ddealltwriaeth o gostau seilwaith monitro (cyfalaf a gweithredol) yn ogystal â chostau o’r ymdrech weinyddol i Fonitro, Adrodd a Dilysu (MRV) allyriadau ar gyfer pob rhan o’r biblinell ar wahân rhag ofn na fydd unrhyw un o’r opsiynau yn yr ymgynghoriad hwn yn cael eu datblygu. Mae’r Atodiad Dadansoddol yn manylu ar ein dealltwriaeth gyfredol, a hoffem wahodd rhanddeiliaid i ddarparu unrhyw ddata perthnasol ynghylch y costau hyn os ydynt ar gael.

Cwestiwn:

10. Os oes gennych ddata cost yr ydych yn fodlon ei rannu, naill ai ar seilwaith monitro a/neu gost ddisgwyliedig MRV ETS y DU ar gyfer piblinellau sy’n cludo CO2 i safleoedd storio ddaearegol barhaol, darparwch hwn gyda thystiolaeth gysylltiedig lle bo modd.

Y Gymraeg

Cwestiwn:

11. Beth, yn eich barn chi, fyddai effeithiau tebygol yr opsiynau yr ymgynghorir arnynt ar yr iaith Gymraeg?  Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn unrhyw effeithiau tebygol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. A ydych chi’n credu bod cyfleoedd i hyrwyddo unrhyw effeithiau cadarnhaol? A ydych chi’n credu bod cyfleoedd i liniaru unrhyw effeithiau andwyol?

12. Yn eich barn chi, a ellid llunio neu newid yr opsiynau sy’n destun ymgynghoriad er mwyn cael effeithiau cadarnhaol neu effeithiau mwy cadarnhaol ar ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg; neu liniaru unrhyw effeithiau negyddol ar ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg?

Cwestiynau ymgynghori

1. Ydych chi’n cytuno y dylai fod gofyniad am un drwydded ar y tir yn unig ar gyfer piblinellau CCS trawsffiniol ar y tir?

2. A oes gennych ddull gweithredu a ffefrir rhwng Opsiwn 1 (pennu un rheoleiddiwr ar y tir) ac Opsiwn 2 (rhoi swyddogaethau rheoleiddio ar y cyd i bob rheoledidiwr perthnasol)? Esboniwch eich ateb a rhowch dystiolaeth ar gyfer eich barn lle bo modd.

3. Ar gyfer Opsiwn 1, pa faen prawf ydych chi’n ei ystyried fwyaf priodol ar gyfer pennu’r rheoleiddiwr ar y tir? Esboniwch eich ateb a rhowch dystiolaeth lle bo modd.

4. A oes unrhyw feini prawf neu ddulliau amgen y dylid eu hystyried ar gyfer pennu rheoleiddiwr piblinell CCS drawsffiniol ar y tir? Os felly, disgrifiwch y meini prawf neu’r dull amgen, a rhowch dystiolaeth lle bo modd.

5. A oes gennych ddull a ffefrir rhwng Opsiwn 1 (mae’r rheoleiddiwr ar y tir yn parhau i fod y rheoleiddiwr ar y môr) ac Opsiwn 2 (OPRED yw’r unig reoleiddiwr ar y môr)? Esboniwch eich ateb a rhowch dystiolaeth ar gyfer eich barn lle bo modd.

6. Ar gyfer opsiwn 2, a ydych chi’n cytuno y dylai cyfrifoldeb rheoleiddiol OPRED ddechrau o’r pwynt mesur olaf yn y pwynt trosglwyddo ar y tir/ar y môr dynodedig? Esboniwch eich ateb a rhowch dystiolaeth lle bo modd.

7. Ydych chi’n cytuno y dylid gofyn am fonitro seilwaith a mesuryddion pwrpasol ar y pwynt trosglwyddo rheoleiddiol rhwng y rheoleiddiwr ar y tir a’r rheoleiddiwr ar y môr? Esboniwch eich ateb a rhowch dystiolaeth ar gyfer eich barn lle bo modd.

8. Beth yw eich barn ar ein dull arfaethedig o ofynion seilwaith monitro ar gyfer y trosglwyddiad ar y tir-ar y môr? Esboniwch eich ateb a rhowch dystiolaeth lle bo modd.

9. Ydych chi’n cytuno na ddylai’r pellter priodol ar gyfer pennu lleoliad y pwynt trosglwyddo ar y tir/ar y môr fod yn fwy na 2 km o benllanw cymedrig y gorllanw? Esboniwch eich ateb a rhowch dystiolaeth lle bo modd.

10. Os oes gennych ddata cost yr ydych yn fodlon ei rannu, naill ai ar seilwaith monitro a/neu gost ddisgwyliedig MRV ETS y DU ar gyfer piblinellau sy’n cludo CO2 i safleoedd storio ddaearegol barhaol, darparwch hwn gyda thystiolaeth gysylltiedig lle bo modd.

11. Beth, yn eich barn chi, fyddai effeithiau tebygol yr opsiynau yr ymgynghorir arnynt ar yr iaith Gymraeg?  Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn unrhyw effeithiau tebygol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. A ydych chi’n credu bod cyfleoedd i hyrwyddo unrhyw effeithiau cadarnhaol? A ydych chi’n credu bod cyfleoedd i liniaru unrhyw effeithiau andwyol?

12. Yn eich barn chi, a ellid llunio neu newid yr opsiynau sy’n destun ymgynghoriad er mwyn cael effeithiau cadarnhaol neu effeithiau mwy cadarnhaol ar ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg; neu liniaru unrhyw effeithiau negyddol ar ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg?

Y camau nesaf

Bydd yr ymatebion i’r ymgynghoriad hwn yn cael eu defnyddio i ddatblygu penderfyniadau polisi terfynol i’w gweithredu.

Bydd yr ymgynghoriad ar agor am 12 wythnos cyn cau. Bydd yr Awdurdod wedyn yn ystyried yr ymatebion ac yn anelu at gyhoeddi Ymateb yr Awdurdod maes o law.

Atodiad – Crynodeb dadansoddol

Cefndir ETS y DU

Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU (ETS y DU) yw un o offerynnau polisi datgarboneiddio blaenllaw’r DU. Mae ETS y DU yn cynnwys allyriadau mewn diwydiant trwm, cynhyrchu pŵer a hedfan. [footnote 5] Bydd y cynllun yn ehangu i gynnwys allyriadau morol domestig o fis Gorffennaf 2026. Mae ymgynghoriadau wedi’u cynnal ar ehangu cwmpas pellach i losgi gwastraff, ynni o wastraff ac allyriadau morol rhyngwladol.

Yn 2023, cyfanswm allyriadau tiriogaethol y DU oedd tua 385 miliwn tunnell (Mt) o CO2, ac roedd tua 25% (97Mt o CO2) o’r rhain yn dod dan brif gynllun ETS y DU. Yn 2024 roedd gostyngiad mewn allyriadau dan ETS y DU o 11Mt o CO2, wedi’i ysgogi’n bennaf gan ostyngiadau allyriadau yn y sector pŵer a diwydiant. [footnote 6]

Rhaid i weithredwyr ETS y DU gael lwfansau (a brynwyd mewn arwerthiannau ac yn y farchnad eilaidd neu a ddyrennir heb gost) a’u hildio i sicrhau eu hatebolrwydd o ran allyriadau. Mae gallu cyfranogwyr y farchnad i fasnachu lwfansau yn sicrhau bod datgarboneiddio yn y sectorau sy’n rhan o’r cynllun yn digwydd am y gost leiaf gan fod dewis bob amser yn cael ei wneud rhwng y lwfansau prynu neu leihau allyriadau drwy ddefnyddio technoleg werdd. O dan egwyddor “capio a masnachu” ETS y DU, mae nifer y lwfansau sydd ar gael o dan y cap yn lleihau bob blwyddyn, gan sicrhau eu bod yn cyd-fynd â’r gostyngiadau allyriadau arfaethedig sy’n ofynnol o dan ein nodau sero net hirdymor. Mae ETS y DU felly yn offeryn polisi i annog datgarboneiddio drwy fabwysiadu technolegau cyfredol a newydd. 

Crynodeb CCS 

Un dechnoleg o’r fath yw dal a storio carbon (CCS) lle mae CO2 yn cael ei atal rhag mynd i’r atmosffer trwy ei ddal yn y ffynhonnell gynhyrchu. Ar ôl ei ddal, caiff ei gywasgu a’i gludo i storfa ddaearegol hirdymor.

Mae CCS yn cael ei ystyried yn dechnoleg hanfodol fel bod y DU yn cyflawni ei nod sero net 2050, er mwyn cefnogi twf economaidd a chreu swyddi carbon isel gwerth uchel mewn rhanbarthau diwydiannol. [footnote 7]

Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio symleiddio’r trefniadau trwyddedu ar gyfer gweithredwyr piblinellau CCS. Drwy symleiddio’r ffiniau rheoleiddio ar gyfer trwyddedu trawsffiniol yn y DU dylid lleihau’r ymdrech weinyddol sydd ei angen gan weithredwyr piblinellau CCS. Dylai gwneud gweithrediadau’n fwy effeithlon, yn ei dro, helpu i gefnogi hyfywedd economaidd CCS. Gallai gweithredwyr ETS y DU sy’n defnyddio CCS seiliedig ar biblinellau er mwyn lleihau eu hallyriadau elwa o gostau trydydd parti is, gan gefnogi mabwysiadu’r dechnoleg.

Crynodeb dadansoddol 

Mae safleoedd a gweithredwyr ETS y DU wedi’u gwasgaru’n ddaearyddol ledled y DU, tra bod y rhan fwyaf o’r 78 biliwn tunnell o CO2 sy’n cael ei storio [footnote 8] yn ysgafell gyfandirol y DU wedi’i leoli ym Môr y Gogledd. Mae safleoedd storio eraill ym Môr Iwerddon a’r Sianel.

Mae Ffigur 1 yn A [footnote 9] yn dangos dosbarthiad daearyddol safleoedd a gweithredwyr ETS ledled y DU ac yn B [footnote 10] yn dangos dosbarthiad daearyddol safleoedd storfa ddaearegol ar y môr.

Ffigur 1A

Ffigur 1B

Mae gan bob un o bedair cenedl y DU ei rheoleiddiwr ei hun sy’n goruchwylio gweithgareddau rheoledig ETS y DU. Mae gan bob rheoleiddiwr awdurdodaeth dros safleoedd ETS y DU ar y tir ac mae gan reoleiddwyr datganoledig awdurdodaeth dros safleoedd ETS y DU ym môr tiriogaethol eu cenedl (o fewn 12 milltir môr i’r lan). Yn ogystal, mae rheoleiddiwr, OPRED, ar gyfer safleoedd ETS y DU ar y môr y tu hwnt i’r ffin 12 milltir môr hefyd ag awdurdodaeth dros fôr tiriogaethol Lloegr. O dan y rheolau presennol, bydd yn ofynnol i bibellau CCS sy’n croesi’r ffiniau hyn gael trwydded ETS y DU ar wahân ar gyfer pob awdurdodaeth.

O ffigur 1 uchod, mae’r CO2 a ddaliwyd o safleoedd ETS y DU yn debygol o gael ei gludo ar draws ffiniau awdurdodaethol rheoleiddiol gan bibellau. Mae hyn yn amlygu’r angen i sicrhau bod y fframwaith rheoleiddio yn caniatáu i CO2 sy’n cael ei gludo gan biblinell i’w storio ar draws ffiniau cenedlaethol (gan gynnwys y trosglwyddiad o’r tir i’r môr) fod yn gadarn ond yn ymarferol i hwyluso mabwysiadu safleoedd ETS y DU gan weithredwyr.

Ffigur 2 – Status quo rheoleiddiol HyNet ac opsiynau dan ystyriaeth.

Mae Ffigur 2A yn dangos y fframwaith rheoleiddio cyfredol y bydd yn rhaid i Rwydwaith Trafnidiaeth a Storio HyNet [footnote 11] gadw ato unwaith y bydd yn weithredol os nad oes unrhyw un o’r opsiynau a ystyriwyd yn yr ymgynghoriad yn cael eu gweithredu. Mae’r biblinell yn dechrau o dan awdurdodaeth Asiantaeth yr Amgylchedd (EA; y rheoleiddiwr yn Lloegr). Wrth i’r biblinell groesi’r ffin i Gymru, mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC; y rheoleiddiwr yng Nghymru) yn gyfrifol am y rhan o’r biblinell o ffin Cymru/Lloegr ac i fôr tiriogaethol Cymru. Ar y ffin rhwng môr tiriogaethol Cymru a Lloegr, mae’r Rheoleiddiwr Petrolewm ar y Môr ar gyfer yr Amgylchedd a Datgomisiynu (OPRED; rheoleiddiwr y DU) yn cymryd y cyfrifoldeb rheoleiddio ar gyfer sector y DU o’r ysgafell gyfandirol tan y safle storio. Sylwer, pe bai ysgafell gyfandirol y DU yn ffinio â môr tiriogaethol cenedl ddatganoledig, byddai’r cyfrifoldeb yn trosglwyddo o’r rheoleiddiwr datganoledig i OPRED ar y ffin rhwng y môr tiriogaethol datganoledig ac ysgafell gyfandirol y DU.  Ym mhob un o’r pwyntiau terfyn ar gyfer HyNet, a nodir gyda’r llinellau glas toredig hirach, gosodir seilwaith monitro er mwyn penderfynu faint o CO2 sy’n cael ei drosglwyddo yn unol â chynllun monitro pob trwydded y cytunir arno gyda phob rheoleiddiwr.

Er enghraifft, dangosir dau o’r opsiynau yn yr ymgynghoriad hwn yn ffigurau 2B a 2C. Byddai maen prawf neu feini prawf lluosog yn cael eu defnyddio i benderfynu pa reoleiddiwr unigol (EA neu CNC) fyddai’n gyfrifol am y rhan ar y tir o biblinell HyNet. Yn ogystal, byddai’r rheoleiddwr hwnnw naill ai’n parhau i fod y rheoleiddiwr ar y môr neu byddai OPRED yn dod yn unig reoleiddiwr ar gyfer y gyfran ar y môr. Yn gyffredinol, byddai gweithredwr piblinell HyNet yn ymgysylltu â dau reoleiddiwr ar y mwyaf o dan yr opsiynau sy’n cael eu hystyried a byddai’r gofyniad am seilwaith monitro yn cael ei leihau i dri safle ar y mwyaf: dechrau’r biblinell, ffin y tir/môr a dechrau’r safle storio.

O dan y fframwaith rheoleiddio presennol, mae gweithredwyr piblinellau yn wynebu dau brif gategori o gostau:

1. Costau cydymffurfio

Mae’r costau hyn yn deillio o’r gofyniad i gael a chynnal trwyddedau ym mhob awdurdodaeth y mae’r biblinell yn croesi. Mae pob trwydded yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr dalu ffioedd sefydlu a ffioedd blynyddol i’w rheoleiddiwr. Fodd bynnag, daw’r gost uwch o gymhlethdod y prosesau hyn a all fod yn feichus yn weinyddol ar weithredwyr o ganlyniad i ymgysylltu â rheoleiddwyr gwahanol ar gyfer gwahanol rannau o’r biblinell i gael trwyddedau ETS y DU. Er ein bod yn rhagweld y bydd y polisi yn lleihau costau gweinyddol, ni allwn eu hamcangyfrif yn feintiol. Mae’r dystiolaeth ddiweddaraf ar gostau cydymffurfio a gronnwyd gan weithredwyr ETS y DU yn dyddio’n ôl i 2016 pan oedd gweithredwyr ETS y DU yn gweithredu o dan reolau ETS yr UE. Fodd bynnag, ni wahanodd y gweithredwyr a ddarparodd ddata ar gyfer yr astudiaeth hon y costau sy’n gysylltiedig â thrwyddedau yn benodol, felly nid yw’n glir pa gyfran o’r costau hyn sy’n deillio o’r broses drwyddedu. Yn ogystal, mae gweithredwyr ETS y DU bellach yn gweithredu o dan reoliadau ETS y DU sydd wedi ymwahanu oddi wrth reoliadau ETS yr UE ac felly mae’r dystiolaeth hon yn gwasanaethu fel dirprwy ar gyfer deall effaith y polisi arfaethedig hwn ar gostau cydymffurfio o dan reoliadau ETS y DU. Fel y dangosir gan ffigurau 2A a 2B ar gyfer HyNet, byddai’r opsiynau ymgynghori yn golygu y byddai gweithredwr piblinell CCS yn ymgysylltu â dau reoleiddiwr ar y mwyaf (i lawr o dri yn achos HyNet). Felly, o dan yr opsiynau a ystyriwyd yn yr ymgynghoriad hwn, byddai gweithredwr piblinell CCS yn arbed ar y ffioedd a delir i reoleiddwyr a’r costau gweinyddol sy’n gysylltiedig ag ymgysylltu â llai o reoleiddwyr i gael y drwydded angenrheidiol ac adrodd ar allyriadau o dan y cynllun monitro.

2. Costau seilwaith

Ar ffiniau awdurdodaeth, mae’n ofynnol i weithredwyr osod seilwaith monitro er mwyn sicrhau mesur ac adrodd cywir ar gyfer pob trwydded. Mewn achosion lle mae’r biblinell yn croesi ffin môr tiriogaethol datganoledig (ar 12 milltir môr o’r lan) i sector y DU o’r ysgafell gyfandirol neu o un môr tiriogaethol i’r llall, rhaid gosod seilwaith monitro o dan y môr. Fel y dangosir yn ffigur 2A a ffigur 2B ar gyfer HyNet, byddai nifer y pwyntiau lle bydd angen seilwaith monitro oherwydd ffin yn gostwng o dri i un neu sero; yn ychwanegol i’r seilwaith monitro sydd ei angen ar bwyntiau cychwyn a therfyn piblinell CCS. Byddai hyn yn lleihau gwariant cyfalaf (i brynu a gosod yr offer) a gwariant gweithredu (i gynnal a gweithredu’r offer). Er ein bod yn rhagweld y gostyngiadau hyn mewn costau, ni allwn eu mesur. Mae’r offer a ddefnyddir mewn prosiectau ar raddfa fawr fel HyNet wedi’u teilwra i raddau helaeth i fanyleb prosiect unigol, felly, nid oes unrhyw amcangyfrifon cost parod ar gael.

Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw biblinellau CCS gweithredol yn y DU. Yn ogystal â Rhwydwaith Trafnidiaeth a Storio HyNet, mae Clwstwr Arfordir y Dwyrain [footnote 12] hefyd yn cael ei adeiladu. Mae’r ddau brosiect yn targedu cychwyn gweithrediadau yn 2028 a gyda’i gilydd gallant storio 8.5 miliwn tunnell o allyriadau carbon bob blwyddyn. Byddai hyn yn cyfateb i tua 0.01% o gapasiti storio amcangyfrifedig Ygafell Gyfandirol y DU bob blwyddyn a thua 16% o gap deddfwriaethol 2028 [footnote 13].

Mae’r llywodraeth wedi cyhoeddi ei chefnogaeth i ddau glwstwr ychwanegol sy’n cael eu datblygu (Acorn yng Ngogledd yr Alban [footnote 14] a Viking yn Humber [footnote 15]) ac mae’n darparu’r cyllid datblygu i sicrhau eu bod yn cyflawni.

Cytunwyd ar gontractau ar gyfer prosiectau amrywiol gan gynnwys y rheini yn y sectorau cynhyrchu pŵer a chynhyrchu sment (gweithgareddau a reoleiddir gan ETS y DU) er mwyn dechrau defnyddio technoleg dal carbon a defnyddio rhwydwaith HyNet [footnote 16].

Casgliad

Ar y cyfan, mae tystiolaeth glir o raddfa datblygiad CCS a’r potensial sylweddol y mae’n ei gynnig i weithredwyr ETS y DU i ddatgarboneiddio’n effeithiol. Mae dosbarthiad daearyddol safleoedd diwydiannol ETS y DU o’i gymharu â storio daearegol parhaol yn dangos bod cludo carbon deuocsid wedi’i ddal trwy bibellau ar draws ffiniau yn debygol iawn. Disgwylir i’r opsiynau a ystyriwyd fel rhan o’r ymgynghoriad hwn symleiddio’r fframwaith rheoleiddio ar gyfer gweithredwyr piblinellau CCS. Bydd hyn yn lleihau’r ffioedd a delir i reoleiddwyr a’r baich gweinyddol ar weithredwr y biblinell, gan leihau unrhyw gostau gweithredu trydydd parti a thrwy hynny wneud CCS yn gynnig mwy deniadol i weithredwyr ETS y DU sy’n ceisio datgarboneiddio.

Yn y dyfodol, byddwn yn ceisio datblygu ein dealltwriaeth o gostau seilwaith (cyfalaf a gweithredol) yn ogystal â chostau ymdrech weinyddol trwy drwyddedu ac adrodd i reoleiddwyr. Hoffem wahodd rhanddeiliaid i ddarparu unrhyw ddata defnyddiol ar y costau hyn os ydynt ar gael.

  1. Paragraff 3 o Atodlen 2, Gorchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr 2020

  2. Erthygl 10, Gorchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr 2020

  3. System Monitro Allyriadau Parhaus – yn mesur màs a chrynodiad y nwy sy’n llifo trwy’r biblinell. 

  4. System Fesur Awtomataidd – yn mesur màs y nwy sy’n llifo trwy’r biblinell (caiff y crynodiad ei gyfrifo trwy ffactorau allyriadau). 

  5. GOV.UK: UK Emissions Trading Scheme (UK ETS): a policy overview

  6. Dadansoddiad mewnol Yr Adran Diogeledd Ynni a Sero Net o ddata ETS y DU. 

  7. GOV.UK: CCUS future network strategy

  8. GOV.UK: Carbon capture, usage and storage: a vision to establish a competitive market (DESNZ, 2023). 

  9. Dadansoddiad mewnol Yr Adran Diogeledd Ynni a Sero Net o ddata ETS y DU. 

  10. GOV.UK: Carbon capture, usage and storage: a vision to establish a competitive market (DESNZ, 2023). 

  11. HyNet North-West

  12. East Coast Cluster

  13. Y cap deddfwriaethol yn 2028 yw 53,498,502 o dunelli fel y nodir yn Article 22, The Greenhouse Gas Emissions Trading Scheme Order 2020. Sylwch nad yw’r holl CO2 sy’n cael ei gludo gan y Clystyrau HyNet a’r Arfordir Dwyreiniol yn dod o weithgaredd a reoleiddir gan ETS y DU. Dylid nodi bod y prosiectau hyn yn annhebygol o weithredu i’w llawn gapasiti yn syth ar ôl eu cychwyn. Felly, bwriad y ffigur o 16% yw dangos maint cymharol y gweithrediadau o’i gymharu â’r cap deddfwriaethol, yn hytrach nag awgrymu y bydd HyNet a Chlwstwr Arfordir y Dwyrain gyda’i gilydd yn dal 16% o’r cap yn 2028. 

  14. Acorn: Growing Our Decarbonised Future - The Acorn Project

  15. Viking CCS - Humber CCS: Carbon Capture and Storage - Viking CCS

  16. GOV.UK: HyNet expansion: project negotiation list