Ymgynghoriad agored

Symud i gyfunddaliad: ymgynghoriad ar wahardd lesddaliad ar gyfer fflatiau newydd

Cyhoeddwyd 10 Chwefror 2026

Yn berthnasol i Loegr a Chymru

Ynglŷn â’r ymgynghoriad hwn

Pwnc yr ymgynghoriad hwn

Mae’r ymgynghoriad hwn yn amlinellu dull arfaethedig y llywodraeth o gyflwyno gwaharddiad ar ddefnyddio lesddaliad ar gyfer fflatiau newydd fel bod y model cyfunddaliad diwygiedig yn gallu bod yn ddeiliadaeth ddiofyn ar gyfer fflatiau newydd. Mae’n ceisio safbwyntiau gan y diwydiant a defnyddwyr ar gwestiynau yn ymwneud â chwmpas, eithriadau, amseriadau, trefniadau pontio, a fframwaith cyfreithiol ehangach cyfunddaliad.

Cwmpas daearyddol

Mae’r cynigion hyn yn ymwneud â Chymru a Lloegr.

Asesiad o’r effaith

Bydd asesiad o’r effaith yn cael ei gyhoeddi i gyd-fynd â’r Bil Diwygio Cyfraith Cyfunddaliad a Lesddaliad Drafft. Bydd deddfwriaeth a gyflwynir o ganlyniad i’r ymgynghoriad hwn yn ddarostyngedig i asesiad priodol.

Mae llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ymwybodol o’i chyfrifoldebau, gan gynnwys y rhai hynny o dan Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, i roi sylw dyladwy i effaith bosibl ei chynigion ar bobl sydd â nodweddion gwarchodedig, a’i chyfrifoldebau i ystyried egwyddorion amgylcheddol mewn unrhyw gynigion, gan gynnwys, o ran Lloegr, fel yr amlinellir yn  Neddf yr Amgylchedd 2021. Croesawn dystiolaeth a safbwyntiau ar effeithiau’r polisi hwn yn rhan o’r ymgynghoriad hwn.

Y cyrff sy’n gyfrifol am yr ymgynghoriad

Y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol.

Hyd

Cynhelir yr ymgynghoriad hwn o 27 Ionawr 2026 tan 24 Ebrill 2026.

Ymholiadau

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r ymgynghoriad, cysylltwch â’r canlynol: commonhold@communities.gov.uk

Sut i ymateb

Gallwch ymateb trwy gwblhau arolwg ar-lein ar Citizen Space.

Fel arall, gallwch anfon eich ymateb i’r cwestiynau yn yr ymgynghoriad hwn trwy e-bost at commonhold@communities.gov.uk

Pan fyddwch yn ymateb, a wnewch chi gadarnhau a ydych yn ymateb fel unigolyn neu’n cyflwyno ymateb swyddogol ar ran sefydliad ac, os felly, cynnwys enw’r sefydliad a’ch swydd.

Rhagair Gweinidogol

Mae’r llywodraeth hon yn benderfynol o roi mwy o hawliau, pwerau ac amddiffyniadau i lesddeiliaid dros eu cartrefi trwy weithredu darpariaethau amrywiol Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad a Rhydd-ddaliad 2024.

Er ein bod wedi cymryd yr amser sy’n angenrheidiol i sicrhau bod y diwygiadau’n gynhwysfawr, rydym wedi gwneud cynnydd da i’r perwyl hwnnw yn ystod y 18 mis diwethaf. Rydym bellach wedi gweithredu darpariaethau’r Ddeddf sy’n ymwneud â diogelwch adeiladau; ôl-ddyledion taliadau rhent; gwaith ymarferwyr ansolfedd proffesiynol; dileu’r rheol gymhwyso dwy flynedd o ran rhyddfreinio ac ymestyn lesoedd; a’r hawl i reoli.

Ar 4 Gorffennaf 2025, cyhoeddom ymgynghoriad ar Gryfhau Amddiffyniadau Lesddeiliaid dros daliadau a gwasanaethau, gan geisio safbwyntiau ar y ffordd orau o weithredu darpariaethau’r Ddeddf sy’n ymwneud â thryloywder taliadau gwasanaeth a pholisïau yswiriant adeiladau, a chostau ymgyfreitha digyfiawnhad. Yn y dyfodol agos, byddwn yn cyhoeddi ymgynghoriad i’n helpu i benderfynu ar y cyfraddau rhagnodedig a fydd yn cael eu defnyddio i gyfrifo premiymau rhyddfreinio o dan y dull newydd y mae’r Ddeddf yn ei gyflwyno. 

Wrth i ni barhau i wneud cynnydd cyson wrth weithredu’r diwygiadau hyn i’r system lesddaliad sydd eisoes mewn statud, nid ydym wedi colli golwg ar y set ehangach o ddiwygiadau sy’n angenrheidiol i anrhydeddu’r ymrwymiadau a wnaed yn ein maniffesto i derfynu’r system lesddaliad ffiwdal yn ystod cyfnod y senedd hon.

Mae ailfywiogi cyfunddaliad yn allweddol i gyflawni’r amcan hwnnw. Strwythur perchentyaeth modern yw cyfunddaliad, y mae fersiynau tebyg ohono’n cael eu defnyddio’n gyffredin ar draws y byd. Nid dim ond dewis arall yn lle perchnogaeth lesddaliad ydyw, ond gwelliant sylweddol arno. Mae egwyddor syml wrth wraidd y model cyfunddaliad: nid landlordiaid trydydd parti yw’r rhai a ddylai berchen ar adeiladau, ac a ddylai ddylanwadu ar eu rheolaeth, eu cyfleusterau a rennir a’u costau cysylltiedig, ond y bobl sy’n byw ynddynt ac sydd â buddiant uniongyrchol yn eu cynhaliaeth.

Mae’r Bil Diwygio Cyfraith Cyfunddaliad a Lesddaliad Drafft uchelgeisiol a gyhoeddir heddiw yn darparu ar gyfer fframwaith cyfreithiol cyfunddaliad newydd cynhwysfawr wedi’i seilio ar fwyafrif helaeth yr argymhellion a wnaed gan Gomisiwn y Gyfraith yn eu hadroddiad yn 2020. Mae’r ymgynghoriad hwn ar wahardd lesddaliad ar gyfer fflatiau newydd yn ategu’r fframwaith arfaethedig hwnnw, gyda’r bwriad o wneud cyfunddaliad yn ddeiliadaeth ddiofyn. 

Rydym eisiau sicrhau bod cynifer o bobl â phosibl yn elwa o’r diwygiadau hyn. Dyna pam rydym yn cynnig bod y gwaharddiad yn ymdrin ag ystod eang o eiddo fflat, gan gynnwys fflatiau a adeiladwyd o’r newydd, trawsnewid adeiladau’n fflatiau, ac adeiladau a addaswyd at ddibenion gwahanol. Rydym hefyd yn cydnabod y bydd strwythurau perchnogaeth lesddaliad yn parhau i fod yn angenrhediol ac yn ddymunol mewn amgylchiadau cyfyngedig neu pan fydd rhwystrau cyfreithiol neu ymarferol yn golygu bod cyfunddaliad yn anymarferol. Felly, rydym yn gwahodd safbwyntiau ar achosion lle y gallai fod cyfiawnhad i esemptiadau o’r fath.

Fe’ch gwahoddaf i rannu eich safbwyntiau ar ein cynigion. Rydym yn arbennig o awyddus i gael adborth ar oblygiadau ymarferol y gwaharddiad hwn, a sut gallwn hwyluso newid didrafferth ac effeithiol oddi wrth lesddaliad. YmhIith materion eraill, rydym yn ceisio safbwyntiau ar faint o amser y bydd ei angen ar y farchnad i baratoi a pha drefniadau pontio a allai fod yn angenrheidiol i ddiogelu darparu cartrefi y mae mawr angen amdanynt. Rydym hefyd yn ceisio safbwyntiau ar ba welliannau pellach a allai fod yn angenrheidiol i’r fframwaith cyfreithiol cyfunddaliad newydd i helpu i fabwysiadu’r strwythur perchentyaeth hwn ar draws y farchnad. 

Rwyf yn gwybod bod fy nghydweithwyr gweinidogol yng Nghymru yn rhannu ein hawydd i gyflawni’r diwygiadau beiddgar hyn, felly byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau eu bod yn gymwys ledled Cymru a Lloegr.

Matthew Pennycook AS

Y Gweinidog Gwladol dros Dai a Chynllunio

Cyflwyniad

Mae cyfunddaliad yn cynnig perchnogaeth rydd-ddaliad lawn ar gyfer fflatiau ac eiddo rhyngddibynnol arall. Mae pob perchentywr yn berchen ar ei gartref yn llwyr heb derfyn amser ar berchnogaeth, ac mae pob perchennog yn cael lleisio’i farn ynglŷn â sut mae’r adeilad yn cael ei reoli, gan gynnwys y costau a’r cyfrifoldebau sy’n gysylltiedig â hynny. Lluniwyd cyfunddaliad yn benodol ar gyfer rheoli blociau a rennir heb landlord trydydd parti. Mae’n rhoi cyfle i berchnogion wneud penderfyniadau’n ddemocrataidd, a’r hyblygrwydd i fodloni anghenion newidiol preswylwyr a’r adeilad ei hun.

Mae modelau cyfunddaliad yn cael eu defnyddio’n gyffredin o amgylch y byd. Dyma’r ddeiliadaeth ddiofyn ar gyfer perchen ar fflatiau yn y rhan fwyaf o wledydd cymharol. Pan fydd lesoedd preswyl hir yn bodoli’n rhyngwladol, maen nhw’n tueddu i fod yn eithriad ac yn cael eu defnyddio at ddibenion penodol yn hytrach na pherchentyaeth o fath safonol.

Mewn cyferbyniad, lesddaliad fu’r prif fath o berchnogaeth ar fflatiau yng Nghymru a Lloegr ers tro, er gwaethaf ei ddiffygion amlwg ac anfodlonrwydd cynyddol â’r ddeiliadaeth. O dan lesddaliad, nid yw perchentywyr yn berchen ar eu cartrefi’n llwyr. Mae perchnogaeth wedi’i chyfyngu gan amser (e.e. les 99 mlynedd) ac yn dychwelyd i’r perchennog rhydd-ddaliadol (hynny yw, y landlord) yn y pen draw. Mae lesddeiliaid yn rhwym wrth delerau eu les, sy’n anodd eu newid. Y landlord sy’n rheoli’r adeilad. Prin yw’r dylanwad sydd gan lesddeiliaid ar reolaeth yr adeilad, taliadau cysylltiedig neu benderfyniadau sy’n effeithio ar eu cartrefi.

Mae ‘rhan o rydd-ddaliad’, lle mae perchnogion yn lesddeiliaid eu fflat ac yn dal rhydd-ddaliad yr adeilad ehangach ar y cyd, yn gallu rhoi’r sicrwydd a’r rheolaeth a ddymunir gan berchentywyr. Fodd bynnag, nid yw’n cynnwys strwythur ar gyfer gwneud penderfyniadau’n ddemocrataidd na hyblygrwydd cyfunddaliad, gan ei fod yn dibynnu ar ei fframwaith cyfreithiol lesddaliad sylfaenol. I lawer o bobl, gall rhan o rydd-ddaliad deimlo fel deiliadaeth ddigonol ac ymarferol, ond pan fydd problemau’n codi, maen nhw’n aml yn gallu dangos y cyfyngiadau ar reolaeth a dylanwad sydd gan berchentywyr.

Yn y tymor hir, mae llywodraeth y Deyrnas Unedig eisiau gweld marchnad dai sy’n gweithio i bobl a chymunedau. Un sy’n ymestyn ac yn gwella profiad perchentyaeth ac yn cefnogi’r broses o greu cymdogaethau ffyniannus. Credwn y dylai perchentywyr fod â rheolaeth go iawn ar eu cartrefi a’r adeiladau maen nhw’n byw ynddynt, a’u bod nhw yn y sefyllfa orau i benderfynu sut maen nhw’n derbyn gofal. Dyma beth mae cyfunddaliad yn ei gynnig.

Cyflwynwyd cyfunddaliad gyntaf yng Nghymru a Lloegr trwy Ddeddf Diwygio Cyfraith Cyfunddaliad a Lesddaliad 2002, gyda rheoliadau ategol yn 2004. Ni chynyddodd ei boblogrwydd am amrywiaeth o resymau, fel cystadleuaeth â’r system lesddaliad sydd wedi ymwreiddio a chyfyngiadau cyfreithiol ar ei ddefnyddio, er enghraifft, mewn adeiladau defnydd cymysg.

Mae’r sefyllfa honno ar fin newid. Bydd ein deddfwriaeth ddrafft yn diweddaru a chryfhau’r fframwaith cyfreithiol cyfunddaliad ac yn ychwanegu at ddiwygiadau diweddar sydd wedi rhoi chwarae teg i gyfunddaliad. Roedd Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir) 2022 wedi gwahardd rhenti tir yn y rhan fwyaf o eiddo lesddaliad newydd, a bellach mae mwy o fflatiau’n cael eu hadeiladu a’u gwerthu heb landlord trydydd parti fel rhan o rydd-ddaliad. Mae cyfunddaliad yn ychwanegu at hyn trwy gynnig deiliadaeth a luniwyd yn benodol ar gyfer perchnogaeth a rheolaeth ar adeiladau a arweinir gan berchentywyr.

Gan ddilyn argymhellion Comisiwn y Gyfraith,[troednodyn 1] ac fel yr amlinellwyd yn ein Papur Gwyn Cyfunddaliad[troednodyn 2] a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2025, mae llywodraeth y Deyrnas Unedig bellach wedi cyflwyno fframwaith cyfreithiol newydd cynhwysfawr fel y gall cyfunddaliad weithio ar draws pob math o ddatblygiad.

Cyhoeddwyd y Bil Diwygio Cyfraith Cyfunddaliad a Lesddaliad Drafft ar gyfer craffu cyn-ddeddfwriaethol ar 27 Ionawr 2026. Bydd y Pwyllgor Dethol Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol bellach yn archwilio manylion y bil yn drylwyr cyn iddo gael ei gyflwyno i’r senedd. Bydd hyn yn helpu i gael y manylion yn iawn ar gyfer y model cyfunddaliad diwygiedig newydd. Wrth ymateb i’r ymgynghoriad hwn, bydd hefyd yn bwysig deall beth fydd ffurf y model cyfunddaliad newydd. Fe allai llawer o bobl sy’n ymateb i’r ymgynghoriad hwn hefyd ddymuno cyfrannu neu ddarparu tystiolaeth i helpu’r Pwyllgor i ystyried y Bil drafft.

Mae llywodraeth y Deyrnas Unedig eisiau i gynifer o berchentywyr â phosibl elwa o berchnogaeth gyfunddaliad cyn gynted â phosibl. Pan fydd model cyfunddaliad diwygiedig ar gael, ni allwn weld rheswm da, heblaw mewn amgylchiadau eithriadol, pam y dylai fflatiau newydd barhau i gael eu darparu fel lesddaliad. Dyna pam y bydd llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cymryd camau pendant i gyflawni’r ymrwymiad yn ei maniffesto i wahardd defnyddio lesddaliad ar gyfer fflatiau newydd, er mwyn sicrhau bod cyfunddaliad yn dod yn ddeiliadaeth ddiofyn.

Bydd y gwaharddiad ar ddefnyddio lesddaliad yn berthnasol i fflatiau mewn datblygiadau a adeiladwyd o’r newydd, yn ogystal â fflatiau a grëwyd o’r newydd i’w gwerthu mewn rhai adeiladau sydd eisoes yn bodoli. Ni fydd y gwaharddiad yn effeithio ar y rhai hynny sy’n adeiladu cartrefi i’w rhentu yn unig, fel cartrefi mewn blociau Adeiladu i Rentu neu flociau rhent cymdeithasol.

Ni fydd y gwaharddiad ar ddefnyddio lesddaliad yn berthnasol i fflatiau lesddaliad presennol. Fodd bynnag, ni fydd lesddeiliaid presennol yn cael eu gadael ar ôl. Mae llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ymrwymo i fynd i’r afael ag arferion annheg a gwella lesddaliad cyn belled ag y bo’n bosibl, yn ogystal â helpu lesddeiliaid presennol i gael mwy o reolaeth ar eu hadeiladau a symud oddi wrth lesddaliad. Rydym yn gweithredu Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad a Rhydd-ddaliad 2024 yn llawn, gan wneud ffioedd a thaliadau’n fwy tryloyw, ailgydbwyso costau ymgyfreitha a gwella hawliau i wneud iawn. Bydd diwygiadau pellach yn mynd i’r afael â rhenti tir anrheoleiddiedig ac anfforddiadwy, yn dileu bygythiad anghymesur fforffedu, yn amddiffyn lesddeiliaid rhag camdriniaeth a gwasanaeth gwael trwy law asiantiaid rheoli diegwyddor, ac yn deddfu argymhellion sy’n weddill Comisiwn y Gyfraith ar ryddfreinio a’r Hawl i Reoli.

Byddwn hefyd yn ei gwneud yn haws i lesddeiliaid presennol drawsnewid eu hadeiladau’n gyfunddaliad yn wirfoddol. Trwy’r Bil drafft, rydym yn cyflwyno diwygiadau i hwyluso’r broses o drawsnewid adeiladau lesddaliad presennol yn gyfunddaliad yn sylweddol, trwy leihau’r trothwy ar gyfer cydsyniad lesddeiliaid o’r gofyniad 100% presennol i 50%. Rydym yn gwneud newidiadau pellach sy’n golygu petai bloc yn trawsnewid i gyfunddaliad ac yn cadw cymysgedd o berchnogion unedau cyfunddaliad a lesddeiliaid, y gellir ei reoli’n effeithiol, ac y bydd yn elwa o fuddion llawn cyfunddaliad ac yn darparu cydbwysedd teg o hawliau ac amddiffyniadau i’r holl berchentywyr, yn ogystal â darparu llwybr clir i sicrhau bod y bloc cyfan yn dod yn gyfunddaliad dros amser.

Amlinellir rhannau o’r gwaharddiad cyfreithiol arfaethedig yn y Bil drafft a, thrwy’r ymgynghoriad hwn, croesawn eich safbwyntiau ar y cymalau penodol hyn yn ogystal â manylion pellach y dymunwn eu harchwilio yn yr ymgynghoriad hwn. Mae’r rhain yn cynnwys diffiniadau allweddol, sy’n angenrheidiol i sicrhau eglurder yn ogystal â lleihau risg gwallau neu efadu gymaint â phosibl. Yn arbennig, rydym yn ceisio eich safbwyntiau a, lle y bo’n bosibl, unrhyw dystiolaeth ategol, ynglŷn â’r achos dros unrhyw eithriadau i’r gwaharddiad lle y gallai fod cyfiawnhad i lesddaliad o hyd, yn ogystal ag o ran trefniadau pontio i alluogi’r diwydiant i baratoi ar gyfer newid didrafferth i ddefnyddio cyfunddaliad a helpu cynifer o berchentywyr a darpar berchentywyr â phosibl i elwa o berchnogaeth gyfunddaliad cyn gynted â phosibl.

Strwythur a chwmpas yr ymgynghoriad

Ymgynghoriad gan lywodraeth y Deyrnas Unedig yw hwn sy’n rhychwantu Cymru a Lloegr. Mae llywodraeth y Deyrnas Unedig yn bwriadu i’r diwygiadau i gyfunddaliad a’r gwaharddiad ar fflatiau lesddaliad newydd fod yn berthnasol i Gymru a Lloegr.

Mae’r ddogfen hon yn amlinellu amcanion lefel uchel llywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer cyflwyno gwaharddiad ar fflatiau lesddaliad newydd. Ein nod yw sicrhau newid llwyddiannus a chynaliadwy i gyfunddaliad fel y ddeiliadaeth ddiofyn ar gyfer fflatiau newydd, ar yr un pryd ag amharu cyn lleied â phosibl ar y cyflenwad tai. Bydd adborth y diwydiant a defnyddwyr i’r ymgynghoriad hwn yn allweddol i ffurfio’r ddeddfwriaeth derfynol. Felly, rydym yn ceisio safbwyntiau gan y diwydiant a defnyddwyr ar y meysydd allweddol canlynol ar gyfer y gwaharddiad:

  • Cwmpas: beth ddylai gwaharddiad ar fflatiau lesddaliad newydd ei gynnwys?
  • Eithriadau: beth yw’r achos dros eithriadau i’r gwaharddiad?
  • Dull: sut dylai gwaharddiad ar fflatiau lesddaliad newydd weithredu yn rhan o’n hymagwedd at symud i’r model cyfunddaliad diwygiedig?
  • Amseru: pryd i ddechrau gwaharddiad ar lesddaliad ar gyfer fflatiau newydd, a pha drefniadau pontio a allai fod yn angenrheidiol?
  • Costau a buddion: beth fydd y costau a/neu’r arbedion i chi neu’ch sefydliad, wrth symud i gyfunddaliad a chydymffurfio â’r gwaharddiad?

Rydym hefyd yn gwahodd adborth ar y fframwaith cyfunddaliad ei hun. Amlinellodd y Papur Gwyn Cyfunddaliad sut y bydd y model diwygiedig yn gweithredu yng Nghymru a Lloegr yn seiliedig ar argymhellion gan Gomisiwn y Gyfraith. O ystyried cymhwysiad eang bwriadedig y gwaharddiad ar fflatiau lesddaliad newydd, mae’n hanfodol bod y system gyfunddaliad yn gallu ymdopi ag amrywiaeth eang o fathau o adeiladau a threfniadau perchentyaeth. Lluniwyd ein diwygiadau fel y gellir defnyddio cyfunddaliad mewn amrywiaeth ehangach o lawer o leoliadau. O ran achosion efallai na fydd y model cyfunddaliad newydd yn briodol iddynt ac y mae angen eithriad i’r gwaharddiad, hoffem wybod hefyd a oes angen newidiadau pellach i’r model cyfunddaliad fel y gall weithio mewn cynifer o leoliadau â phosibl. Felly, rydym yn ceisio safbwyntiau ar unrhyw ystyriaethau perthnasol ar gyfer y fframwaith cyfreithiol cyfunddaliad newydd neu ystyriaethau ychwanegol a allai fod yn angenrheidiol i helpu’r ddeiliadaeth i ffynnu ac ymestyn y buddion i gynifer o berchentywyr â phosibl.

Ceisir safbwyntiau hefyd ynglŷn â sut gall y gwaharddiad weithio’n effeithiol ochr yn ochr â’r gwaharddiad ar dai lesddaliad y darperir ar ei gyfer yn Neddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad a Rhydd-ddaliad 2024.

Er mwyn helpu ymatebwyr i ystyried goblygiadau’r gwaharddiad arfaethedig, mae’n bwysig deall y model cyfunddaliad diwygiedig. Amlinellir manylion y model cyfunddaliad diwygiedig yn y Bil Diwygio Cyfraith Cyfunddaliad a Lesddaliad Drafft a chanllawiau cysylltiedig.

Amdanoch Chi

Cwestiwn 1

Beth yw’ch enw, neu enw’r sefydliad rydych yn ymateb ar ei ran?

Cwestiwn 2

Ym mha rinwedd ydych chi’n ymateb?

  • Perchentywr, gan gynnwys lesddeiliaid neu ddarpar brynwr
  • Landlord canol preifat (prif lesddeiliad)
  • Landlord preifat (sy’n berchen ar rydd-ddaliad eiddo lesddaliadol)
  • Awdurdod lleol neu grŵp cynrychioliadol perthnasol
  • Cymdeithas dai neu grŵp cynrychioliadol perthnasol
  • Datblygwr, adeiladwr cartrefi, neu grŵp cynrychioliadol perthnasol
  • Asiant rheoli, asiant eiddo, neu grŵp cynrychioliadol perthnasol
  • Benthyciwr, prisiwr, yswiriwr, neu grŵp cynrychioliadol perthnasol
  • Gweithiwr cyfreithiol proffesiynol, trawsgludwr, neu grŵp cynrychioliadol perthnasol
  • Arall (nodwch)

Cwestiwn 3

Os ydych yn ymateb fel unigolyn, ym mha ardal(oedd) ydych ch’n byw? Os ydych yn ymateb ar ran sefydliad, ym mha ardal(oedd) ydych chi’n gweithredu ynddynt yn bennaf?

  • Gogledd-ddwyrain Lloegr
  • Gogledd-orllewin Lloegr
  • Swydd Efrog a’r Humber
  • Dwyrain Canolbarth Lloegr
  • Gorllewin Canolbarth Lloegr
  • Dwyrain Lloegr
  • De-orllewin Lloegr
  • De-ddwyrain Lloegr
  • Llundain
  • Cymru
  • Sefydliad cenedlaethol
  • Arall (nodwch)

Cwestiwn 4

Ar gyfer datblygwyr/landlordiaid/asiantiaid rheoli: Faint o fflatiau (unedau unigol) ydych chi’n berchen arnynt neu’n eu rheoli ar hyn o bryd?

  • 0 i 25
  • 26 i 50
  • 51 i 100
  • 101 i 250
  • 251 i 500
  • 501 i 1000 - 1001+

Cwestiwn 5

Ar gyfer datblygwyr: Tua faint o fflatiau newydd (unedau unigol) ydych chi’n disgwyl eu darparu yn ystod y 5 mlynedd nesaf?

  • 0 i 50
  • 51 i 100
  • 101 i 200
  • 201 i 300
  • 301 i 400
  • 401 i 500
  • 501 i 1000
  • 1001+

Cwmpas y gwaharddiad

Gyda model cyfunddaliad diwygiedig ar waith, nid yw llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gweld rheswm pam y dylai fflatiau newydd barhau i gael eu gwerthu ar les hir,[troednodyn 3] heblaw mewn amgylchiadau eithriadol. Yn lle hynny, cyfunddaliad fydd y ddeiliadaeth ddiofyn ar gyfer fflatiau newydd, gan alluogi mwy o berchentywyr i elwa o berchentyaeth gyfunddaliad.

I gyflawni’r amcan hwn, cynigiwn gwmpas eang i’r gwaharddiad ar ddefnyddio lesddaliad ar gyfer fflatiau newydd. Mae hyn yn golygu y bydd mwyafrif helaeth y fflatiau newydd a fwriedir ar gyfer perchentyaeth yn cael eu gwerthu fel cyfunddaliad yn lle lesddaliad. Er mwyn sicrhau cwmpas cynhwysfawr, rydym hefyd yn cynnig y canlynol:


Diffiniad eang o ‘fflat’

Dylai’r gwaharddiad fod yn berthnasol nid yn unig i fflatiau confensiynol, ond hefyd i fathau mwy anarferol o ddatblygiadau fflatiau.

Diffiniad eang o ‘newydd’

I gynnwys fflatiau a adeiladwyd o’r newydd; fflatiau a grëwyd o’r newydd mewn adeiladau sydd eisoes yn bodoli, fel trawsnewid tai yn fflatiau; fflatiau sy’n deillio o newidiadau defnydd, fel newid o swyddfa i ddefnydd preswyl; a fflatiau mewn rhai adeiladau nad oeddent yn cynnwys fflatiau lesddaliad cyn y gwaharddiad.

Dylai’r gwaharddiad fod yn berthnasol i flociau bach a mawr

Bydd unrhyw floc newydd lle y ceir un fflat o leiaf i’w gwerthu, yn cael ei wahardd rhag gwerthu’r fflat(iau) gyda les hir newydd.

Ychydig iawn o eithriadau

Er efallai y bydd achosion cyfyngedig sy’n golygu bod angen lesoedd preswyl hir ar gyfer fflatiau penodol o fewn blociau cyfunddaliad, neu ar gyfer datblygiadau cyfan, dylai’r eithriadau hyn gael eu cyfyngu’n llym.

Diffiniad o fflat

Er mwyn rhoi eglurder a sicrwydd i ddefnyddwyr a’r farchnad dai, bydd y ddeddfwriaeth newydd yn diffinio’r hyn a olygir wrth “fflat” at ddibenion y gwaharddiad. Ein nod yw sicrhau bod y diffiniad yn gadarn, gan leihau amwysedd a chyfleoedd am wallau neu efadu posibl i’r eithaf.

Unedau unigol hunangynhwysol, wedi’u rhannu’n llorweddol at ddefnydd preswyl yw fflatiau, o fewn adeilad lle y ceir rhywfaint o seilwaith neu adeiladwaith a rennir (gweler yr enghreifftiau yn Ffigur 1). Pan fydd y rhain yn newydd i’r farchnad ar ôl i’r gwaharddiad ddechrau, ni chaniateir iddynt gael eu gwerthu gyda lesoedd hir mwyach o dan y gwaharddiad arfaethedig.

Ffigur 1: Enghreifftiau o fflatiau at ddibenion y gwaharddiad

Ffigur 1a: Fflatiau mewn tŷ a drawsnewidiwyd

Ffigur 1b: Bloc o fflatiau a adeiladwyd i’r diben

Ffigur 1c: Fflat dros uned fasnachol

Mae llywodraeth y Deyrnas Unedig yn credu os gall eiddo a fwriadwyd ar gyfer perchentyaeth gael ei ddarparu ar sail rydd-ddaliad, y dylai hynny ddigwydd. Dyna pam y byddwn yn gweithredu mesurau yn Neddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad a Rhydd-ddaliad 2024 fel bod rhaid i dai newydd gael eu darparu ar sail rydd-ddaliad, heblaw mewn amgylchiadau eithriadol. Mae’r un egwyddor yn berthnasol i fflatiau newydd, a ddylai elwa o fanteision perchnogaeth rydd-ddaliadol trwy gyfunddaliad.

Er mwyn i’r gwaharddiad ar fflatiau lesddaliad fod mor gynhwysfawr â phosibl, rydym hefyd eisiau cynnwys mathau mwy anghonfensiynol o anheddau parhaol a allai edrych fel tai o’r tu allan ond sydd â nodweddion penodol sy’n gysylltiedig â fflatiau, fel nad ydynt yn syrthio rhwng y diffiniadau o dai a fflatiau a roddir yn y gwaharddiadau unigol. Rydym eisiau sicrhau bod y gwaharddiadau ar dai a fflatiau lesddaliad newydd yn gadarn ac yn gweithio’n effeithiol gyda’i gilydd.[troednodyn 4]

Er y gallai rhai anheddau parhaol edrych fel tai o’r tu allan, nid ydynt yn perthyn i’r diffiniad cyfreithiol o ‘dŷ’ yn y Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad a Rhydd-ddaliad. Mae Ffigur 2 yn dangos dwy enghraifft o’r rhain, lle mae annedd wedi’i hadeiladu dros dir, neu annedd arall, nad yw’n perthyn yn unig i’r eiddo hwnnw.

Ffigur 2: Enghreifftiau o eiddo neu strwythurau cyd-ddibynnol

Ffigur 2a: Rhes o eiddo â pharcio tanddaear a rennir

Ffigur 2b: Eiddo sy’n mynd dros/o dan ei ffin ag eiddo cymdogol

Yn yr enghreifftiau a roddwyd, oherwydd bod pob annedd naill ai’n mynd dros neu o dan eiddo sy’n perthyn i annedd arall, bydd gan berchnogion y cartrefi hyn rwymedigaethau cydfuddiannol i’w gilydd, fel yswirio a chynnal a chadw strwythurau a rennir. Er mwyn osgoi cymhlethdod cyfreithiol ‘rhydd-ddaliadau hedegog’ (achosion lle mae pob eiddo ym mherchnogaeth rydd-ddaliadol ond mae’n gallu bod yn anodd gorfodi rhwymedigaethau cydfuddiannol perchnogion adeiladau), bydd eiddo o’r fath yn cael ei werthu gyda les i reoli’r trefniadau hyn, yn nodweddiadol.

Mae llywodraeth y Deyrnas Unedig bellach yn diwygio’r fframwaith cyfunddaliad fel y bydd yn addas i ystod ehangach o lawer o leoliadau ac y gall fod yn ddewis amgen priodol yn lle lesddaliad ar gyfer amrywiaeth ehangach o lawer o dai newydd. Pan fydd y model cyfunddaliad diwygiedig ar waith, rydym yn cynnig y dylai fod yn ofynnol i eiddo o’r fath (fel yr enghreifftiau yn Ffigur 2 uchod), sydd newydd eu hadeiladu neu eu trawsnewid, ddefnyddio cyfunddaliad yn y dyfodol.

Er mwyn sicrhau bod y gwaharddiad yn cynnwys fflatiau confensiynol a mwy anghonfensiynol, gan gynnwys y rhai hynny a allai edrych fel tai o’r tu allan ond nad yw’r gwaharddiad ar dai yn y Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad a Rhydd-ddaliad yn berthnasol iddynt, rydym yn cynnig y diffiniad cyfreithiol canlynol yn y bil Drafft ar gyfer sylwadau gan ymgyngoreion, sydd wedi’i gopïo yma:

Fflatiau

Mae “fflat” yn eiddo ar wahân (ar un llawr neu fwy):

  • sy’n ffurfio rhan o adeilad,
  • sydd wedi’i adeiladu neu ei addasu i’w ddefnyddio at ddibenion annedd, ac
  • y mae’r cyfan ohono neu ran berthnasol ohono uwchben neu islaw rhyw ran arall o’r adeilad.

Cwestiwn ymgynghori

Cwestiwn 6

A ydych chi’n cytuno â’r diffiniad arfaethedig o “fflat” at ddiben y gwaharddiad? Ydw/Nac ydw. Os nad ydych, esboniwch pam [Blwch testun rhydd].  

Os oes gennych unrhyw sylwadau eraill ar y diffiniad arfaethedig o “fflat”, rhowch nhw yma [Blwch testun rhydd].

Cymhwyso’r gwaharddiad

Dylai fflatiau newydd fod yn gyfunddaliad, os oes modd. Bydd y gwaharddiad ar lesddaliad yn berthnasol i fflatiau newydd sydd ar werth mewn datblygiadau preswyl a defnydd cymysg sydd newydd eu cwblhau, yn ogystal â fflatiau sydd newydd ddod ar werth mewn rhai adeiladau sydd eisoes yn bodoli.

Yn gyffredinol, y dull rydym yn ei gynnig yn y bil Drafft yw os nad oes lesoedd preswyl hir mewn adeilad pan fydd y gwaharddiad wedi dechrau, bod rhaid i’r rhydd-ddeiliad werthu unrhyw fflatiau newydd fel rhai cyfunddaliad. I’r gwrthwyneb, os oes unedau lesddaliad preswyl hir yn yr adeilad, caniateir i’r rhydd-ddeiliad werthu fflatiau gyda lesoedd newydd. Yn dilyn ein diwygiadau, fe allai llawer o lesddeiliaid presennol ddymuno trawsnewid eu hadeiladau’n gyfunddaliad ar y cyd, ond nid ydym yn bwriadu eu gorfodi i wneud hynny. Bydd caniatáu lesoedd newydd mewn achosion o’r fath yn osgoi gorfodi lesddeiliaid presennol i drawsnewid yn gyfunddaliad, a allai fod yn gymhleth yn gyfreithiol ac yn aflonyddol. Byddai hefyd yn gosod baich ariannol arnynt gan y byddai’n ofynnol iddynt ddigolledu’r landlord yn rhan o gaffael rhydd-ddaliad yr adeilad a thrawsnewid yn gyfunddaliad.

Datblygiadau sydd newydd eu cwblhau

Yn y rhan fwyaf o achosion, lle byddai datblygwr wedi gwerthu fflat newydd gyda les breswyl hir yn flaenorol, ni chaiff wneud hynny pan ddaw’r gwaharddiad i rym.[troednodyn 5] Mae hyn yn golygu bod rhaid i unrhyw ddatblygiad preswyl neu ddefnydd cymysg sydd newydd ei gwblhau, lle y bwriedir i un uned o leiaf gael ei gwerthu fel uned breswyl, gael ei ddarparu ar sail gyfunddaliad. Ni chaniateir gwerthu’r fflatiau hyn ar lesoedd hir mwyach. Ceir gwerthu fflatiau ar lesoedd hir newydd dim ond os yw’r les yn gymwys ar gyfer eithriad a ganiateir.

Ni fydd y gwaharddiad yn berthnasol i ddatblygiadau sydd newydd eu cwblhau a adeiladwyd yn benodol i’w rhentu, fel blociau Adeiladu i Rentu neu rent cymdeithasol, tra byddant yn parhau i gael eu defnyddio at y diben hwnnw yn unig. Nid yw’r adeiladau hyn yn caniatáu lesoedd preswyl hir ar gyfer fflatiau unigol.  Yn lle hynny, mae pob fflat yn cael ei rhentu ar denantiaeth sicr neu drefniadau cyfatebol (fel contract meddiannaeth yng Nghymru, neu denantiaeth neu drwydded o fath arall) ac felly y tu allan i gwmpas y gwaharddiad.

Mae rhesymau da eraill i eithrio blociau a adeiladwyd yn benodol i’w rhentu o’r gwaharddiad. Ni fyddai mynnu bod cyfunddaliad yn cael ei ddefnyddio yn cynnig unrhyw fanteision i unig landlord yr adeilad, ac ni fyddai o fudd i’r tenantiaid ychwaith, oherwydd bod hawliau pleidleisio cyfunddaliad yn gysylltiedig â pherchnogion y cartrefi a’r mannau.

Gellid dadlau y byddai cyfunddaliad, sy’n dosrannu’r broses o wneud penderfyniadau yn unol â chyfran yr unedau y perchnogir arnynt mewn bloc, yn fuddiol pan fydd y bloc a adeiladwyd yn benodol i’w rentu yn cael ei rannu rhwng dau landlord gwahanol, er enghraifft darparwr Adeiladu i Rentu sy’n rhoi eiddo ar osod i’w rentu ar y farchnad a Darparwr Cofrestredig sy’n berchen ar brif les nifer o fflatiau a adeiladwyd ar gyfer rhentu cymdeithasol neu fforddiadwy. Er hynny, gan nad oes lesoedd hir fflatiau unigol yn cael eu gwerthu yn yr adeilad, ni fydd y gwaharddiad yn gorfodi trefniadau o’r fath i ddefnyddio cyfunddaliad.

Fflatiau sydd newydd fynd ar werth mewn adeiladau sydd eisoes yn bodoli

Nid yw fflatiau newydd sydd ar werth yn deillio o adeiladu datblygiadau cwbl newydd yn unig. Mae nifer sylweddol o fflatiau newydd i’w gwerthu yn cael eu creu trwy ailddatblygu neu drawsnewid adeiladau hunangynhwysol sydd eisoes yn bodoli. Er enghraifft, trawsnewid safle masnachol neu ddiwydiannol yn ddefnydd preswyl,[troednodyn 6] neu is-rannu tai yn nifer o fflatiau.[troednodyn 7] Mae fflatiau lesddaliad newydd yn codi hefyd pan fydd rhai neu bob un o’r unedau mewn datblygiadau a adeiladwyd i’w rhentu yn unig yn cael eu gwerthu’n ddiweddarach ar gyfer perchentyaeth.[troednodyn 8]

Yn y rhan fwyaf o amgylchiadau, bydd trawsnewid neu ailddatblygu adeilad sydd eisoes yn bodoli yn golygu bod angen i’r tir fod mewn perchnogaeth unigol, ac fe allai fod angen ailddatblygu’r adeilad yn sylweddol i’w addasu at ddibenion gwahanol, sy’n golygu bod yr adeilad yn cael ei ‘ailosod’ i bob pwrpas. Mae hyn yn creu cyfle clir, ar yr amod nad oes lesoedd hir cofrestredig yn yr adeilad, i ddefnyddio cyfunddaliad yn lle lesddaliad. Un enghraifft fyddai datblygwr sy’n prynu tŷ Fictoraidd trillawr rhydd-ddaliadol ac sy’n dymuno ei drawsnewid yn dair fflat i’w gwerthu. Oherwydd bod y datblygwr yn berchen ar y rhydd-ddaliad ac nid oes lesoedd hir cofrestredig yn yr adeilad, nid oes rhwystrau rhag cofrestru’r adeilad a gwerthu’r fflatiau ynddo fel cyfunddaliad. Pan fydd y gwaharddiad mewn grym, bydd angen i’r datblygwr gofrestru’r adeilad fel cyfunddaliad er mwyn gwerthu’r fflatiau i ddarpar berchentywyr unigol, a bydd rhaid eu gwerthu fel unedau cyfunddaliad yn hytrach na lesddaliad.

Yn yr un modd ag y mae defnydd adeiladau’n gallu newid dros amser, fel newid o ddefnyddiau masnachol i breswyl, neu o dai i fflatiau, gall deiliadaeth fflatiau newid hefyd. Er enghraifft, efallai y bydd datblygwr wedi adeiladu bloc o fflatiau fel datblygiad adeiladu i rentu, ond yn penderfynu gwerthu rhai unedau ar y farchnad agored ar gyfer perchentyaeth wedi hynny. Mewn achosion o’r fath, fe allai amodau cynllunio gyfyngu ar werthu fflatiau y bwriadwyd eu rhentu yn wreiddiol, ac mae’n bosibl y bydd rhaid i ddatblygwyr wneud cais i’r awdurdod cynllunio lleol i amrywio’r amodau hynny. Pe byddai cymeradwyaeth gynllunio’n cael ei rhoi i newid y ddeiliadaeth, ni fyddai’r adeilad yn ddatblygiad a rentir yn gyfan gwbl mwyach. Yn lle hynny, byddai’n dod yn floc deiliadaeth gymysg, y byddai cyfunddaliad wedi bod yn ofynnol ar ei gyfer petai’r ddeiliadaeth gymysg wedi cael ei chynllunio felly o’r dechrau. Felly, ystyriwn y dylai’r gwaharddiad gynnwys unrhyw floc rhentu a adeiladwyd i’r diben sy’n cael ei newid wedi hynny i gynnwys unedau i’w gwerthu. Felly, byddai angen i’r bloc gael ei gofrestru’n gyfunddaliad cyn y gellid gwerthu’r unedau hynny.

Crynodeb o gwmpas y gwaharddiad

I grynhoi, pan fydd y gwaharddiad wedi dechrau, bwriadwn iddo fod yn berthnasol i werthu fflatiau mewn adeiladau aml-uned o’r mathau canlynol:

Datblygiadau newydd a adeiladwyd i’r diben

Sy’n cynnwys fflatiau i’w gwerthu (ac a allai gynnwys defnyddiau eraill neu beidio, fel unedau masnachol a man diwydiannol ysgafn, neu gartrefi i’w rhentu).

Tŷ sydd newydd gael ei drawsnewid yn fflatiau

Lle mae un fflat o leiaf ar werth ar les hir.

Adeiladau masnachol sydd newydd gael eu hailddatblygu i gynnwys fflatiau

Lle mae un fflat o leiaf ar werth. Er enghraifft, lle swyddfa neu ganolfan siopa gyda fflatiau ar y lloriau uchaf.

Blociau rhentu a adeiladwyd i’r diben y mae eu perchnogion yn dewis gwerthu fflatiau ar gyfer perchentyaeth yn ddiweddarach

Er enghraifft, bloc sy’n cynnwys fflatiau Adeiladu i Rentu yn gyfan gwbl lle mae un o’r fflatiau, neu bob un ohonynt, yn cael eu marchnata wedi hynny i’w gwerthu i ddarpar berchentywyr; ac

Adeiladau preswyl eraill lle nad oes lesoedd preswyl hir cofrestredig eisoes yn bodoli

Er enghraifft, bloc o fflatiau presennol ym meddiant gwag, sy’n cael ei adnewyddu fel y gellir ailwerthu’r fflatiau.

Cwestiwn ymgynghori

Cwestiwn 7

A ydych chi’n cytuno â chwmpas arfaethedig y gwaharddiad (y categorïau yn A-E uchod)? [Nodwch ‘Cytuno/Anghytuno’ yn erbyn pob categori yn A-E a rhowch gyfiawnhad i’r rhai nad ydych yn cytuno â nhw [Blwch testun rhydd fesul categori].

Lesoedd masnachol mewn adeiladau sydd eisoes yn bodoli

Mae cyfunddaliad wedi’i fwriadu ar gyfer perchnogaeth breswyl yn bennaf, ond mae hefyd yn darparu fframwaith cyfreithiol cyffredinol ar gyfer perchnogaeth a rheolaeth y gellid ei ddefnyddio ar gyfer adeiladau masnachol hefyd. Mae’r newidiadau i’r fframwaith cyfunddaliad yn y bil Drafft yn golygu y bydd cyfunddaliad yn gweddu’n well i flociau cymysg o ddatblygiadau preswyl a masnachol, er enghraifft, trwy gyflwyno “rhannau” i ganiatáu ar gyfer gwneud penderfyniadau dirprwyedig a ffyrdd newydd o ddosrannu costau. Fe allai’r defnydd a wneir o adeiladau newid dros amser, ac rydym eisiau ystyried y dull gorau i’r defnyddiwr, y landlord a threfniadau masnachol pe byddai rhan o’r lle llawr mewn adeilad masnachol presennol yn cael ei thrawsnewid yn ddefnydd preswyl ar gyfer perchentyaeth.

Rydym eisiau profi elfen arall o’r cwmpas gydag ymgyngoreion: amgylchiadau lle mae perchennog adeilad lesddaliad masnachol, heb lesoedd preswyl hir, eisiau newid defnydd yr adeilad trwy gynnig fflat o fewn yr adeilad hwnnw ar gyfer perchentyaeth breswyl. Ein man cychwyn yw y dylai unrhyw fflat newydd a fwriedir ar gyfer perchentyaeth gael ei gwerthu fel cyfunddaliad, oni bai bod rhesymau da dros beidio â gwneud hynny. Rydym eisiau deall a oes unrhyw rwystrau ymarferol rhag darparu cartrefi newydd fel cyfunddaliad mewn amgylchiadau o’r fath.

Mae nifer o resymau pam y gallai fod yn briodol defnyddio’r model cyfunddaliad diwygiedig mewn sefyllfaoedd o’r fath, gan gynnwys:

  • Fe’i dyluniwyd i roi’r hyblygrwydd mwyaf posibl i adeiladau neu ddatblygiadau sy’n cynnwys eiddo masnachol a phreswyl;
  • Byddai caniatáu les fasnachol mewn adeilad sydd eisoes yn bodoli fel rheswm i roi lesoedd preswyl hir yn creu dihangfa fawr yn y gwaharddiad.

Pan fyddwn yn llunio’r bil terfynol, rydym hefyd yn bwriadu sicrhau y byddai’r les fasnachol yn parhau pan fyddai adeilad yn newid o lesddaliad i gyfunddaliad, ac y byddai landlord y lesddaliwr yn aros yr un fath, ond fel perchennog uned y gofod masnachol.

Byddem yn croesawu safbwyntiau gan randdeiliaid ar gymhwyso cyfunddaliad lle mae adeiladau masnachol sydd eisoes yn bodoli’n cael eu trawsnewid yn rhannol yn unedau preswyl i’w gwerthu.

Yn olaf, nid ydym yn bwriadu gwahardd lesoedd masnachol, na newid sut na phryd y gellir eu rhoi yn y ddeddfwriaeth hon. Ni ddisgwylir i adeiladau cwbl fasnachol ddefnyddio cyfunddaliad yn y dyfodol, er y gallent wneud hynny os ydynt yn dymuno.

Cwestiwn ymgynghori

Cwestiwn 8

A ddylid mynnu bod adeiladau sydd â thenant masnachol presennol a dim lesoedd hir preswyl yn yr adeilad yn newid yr adeilad i gyfunddaliad os yw’r rhydd-ddeiliad eisiau gwerthu fflat newydd yn yr adeilad? [Ie/Na] [Esboniwch eich ateb].

Cymhwyso’r gwaharddiad i fflatiau lesddaliad presennol

Nid ydym yn gwahardd gwerthu fflatiau lesddaliad presennol. Bydd lesddeiliaid preswyl presennol yn gallu gwerthu eu fflatiau lesddaliad o hyd yn yr un modd ag y gallent heddiw. Mae’r mesurau yn y Bil Diwygio Cyfraith Cyfunddaliad a Lesddaliad Drafft yn ceisio ei gwneud yn haws i lesddeiliaid sy’n dymuno trawsnewid eu hadeiladau presennol yn gyfunddaliad.

Nid ydym yn bwriadu gwahardd rhoi lesoedd newydd neu gyfnewid ar gyfer fflatiau lesddaliad a oedd yn bodoli cyn i’r gwaharddiad ddod i rym. Mae’n bosibl y bydd angen i lesddeiliaid lunio les newydd am resymau amrywiol, fel ymestyn les bresennol, neu wneud amrywiadau sylweddol sy’n gofyn am ailganiatáu. Bydd y trefniadau hyn yn cael eu llunio’n wirfoddol gan lesddeiliaid presennol a’u landlordiaid. Byddai gwahardd hyn yn cwtogi’n sylweddol ar hawliau lesddeiliaid ar adeg pan rydym yn gweithio i wella eu hamddiffyniadau. At hynny, gellir trawsnewid yn gyfunddaliad ar sail adeilad cyfan yn unig. Mae hyn yn golygu na all fod yn ddewis angen hyfyw pan fydd angen les newydd neu gyfnewid ar fflat lesddaliad unigol bresennol o fewn bloc, heb orfodi costau’n annheg ar berchnogion lesddaliad eraill yn y bloc, y byddai angen iddyn nhw ddigolledu’r landlord hefyd pe byddai fflat unigol yn sbarduno trawsnewid yn gyfunddaliad.

Yn yr un modd, nid ydym yn bwriadu gwahardd landlordiaid rhag rhoi lesoedd newydd ar fflatiau lesddaliad presennol pan fydd les flaenorol wedi dod i ben, wedi cael ei hildio’n wirfoddol, neu wedi cael ei therfynu o ganlyniad i dorri telerau’r les. Mewn senarios o’r fath, mae’n bosibl na fydd lesddeiliaid preswyl eraill yn yr adeilad yn gallu nac yn fodlon trawsnewid yr adeilad yn gyfunddaliad. Byddai’n afresymol disgwyl i’r landlord ysgwyddo cost lawn trawsnewid yr adeilad yn gyfunddaliad er mwyn gwerthu’r fflat eto, yn enwedig pan fo’r amgylchiadau y tu hwnt i’w reolaeth.

Mewn rhai achosion, mae’n bosibl y bydd angen rhoi les newydd, hyd yn oed ar gyfer fflatiau nad oeddent yn lesddaliad yn flaenorol – er enghraifft, pan fydd rhentwr cymdeithasol yn arfer ei Hawl i Brynu, neu Hawl i Gaffael, neu pan fydd rhywun eisiau prynu fflat bresennol ar delerau rhanberchnogaeth trwy ‘Berchentyaeth ar gyfer pobl ag anableddau hirdymor’ (HOLD), Prynu Cartref Cymdeithasol neu ar ôl defnyddio Rhentu i Brynu, neu Rent Byw yn Llundain neu gynlluniau cyfatebol yng Nghymru. Unwaith eto, byddai mynnu bod landlordiaid yn trawsnewid yr adeilad yn gyfunddaliad yn yr achosion hyn yn gosod baich amhriodol arnynt mewn amgylchiadau sydd y tu hwnt i’w rheolaeth.

Byddwn yn datblygu manylion sut i ganiatáu ar gyfer rhoi lesoedd mewn sefyllfaoedd o’r fath ar ôl i’r cyfnod ymgynghori a’r broses craffu cyn-ddeddfwriaethol ddod i ben.

Ystyried yr achos dros eithriadau

Mae gwledydd ledled y byd yn defnyddio modelau cyfunddaliad yn ddiofyn. Er enghraifft, mae Ffrainc yn defnyddio model o’r enw copropriété, yn yr Alban defnyddir model o’r enw Wohnungseigentumsgesetz. Yr enw ar y fersiwn o gyfunddaliad a ddefnyddir yn Unol Daleithiau America a Chanada yw condominiwm, ac yn Awstralia a Seland Newydd fe’i gelwir yn strata title.

Fodd bynnag, mae llawer o’r un gwledydd hyn yn parhau i ddefnyddio lesoedd mewn rhai amgylchiadau cyfyng i ddarparu ar gyfer cynhyrchion perchentyaeth penodol, trefniadau perchnogaeth tir, neu fodloni nodau polisi cyhoeddus ehangach. Er enghraifft, yn 2014, hyrwyddodd llywodraeth Ffrainc fodel lesddaliad hir er mwyn annog buddsoddiad preifat mewn ailddatblygu cartrefi sydd eisoes yn bodoli yn dai fforddiadwy. Mae gan Awstralia fframwaith cyfreithiol datblygedig ar gyfer perchnogaeth fflatiau rhydd-ddaliadol o dan y system Strata, ond er mwyn rheoli sut mae tir yn cael ei ddefnyddio a’i ddatblygu yn Nhiriogaeth Prifddinas Awstralia (ACT), mae’r llywodraeth yn cadw’r rhydd-ddaliad ac mae cartrefi o fewn yr ACT yn cael eu gwerthu ar sail lesddaliad yn unig (99 mlynedd yn nodweddiadol).[^9]

Er mai ein huchelgais yw ceisio gwneud cyfunddaliad yn ddeiliadaeth ddiofyn ar gyfer fflatiau newydd, cydnabyddwn y gallai les fod yn briodol neu hyd yn oed yn amgenach mewn rhai amgylchiadau er mwyn defnyddwyr penodol neu i gefnogi amcanion polisi penodol. Fe allai hyn fod yn les uned gyfunddaliad, neu’n strwythur lesddaliad yn lle cyfunddaliad.

Trwy’r ymgynghoriad hwn, rydym yn ceisio safbwyntiau ar yr achos dros eithriadau mewn tair ffordd allweddol:

  • Yn gyntaf, y tu hwnt i’r rhai hynny a amlygwyd yn y Papur Gwyn Cyfunddaliad (lesoedd rhanberchnogaeth, cynlluniau prynu cartref gan gynnwys cynhyrchion cyllid Islamaidd, a rhai cynhyrchion rhyddhau ecwiti sy’n gofyn am les), p’un a ddylid caniatáu unrhyw lesoedd preswyl hir ychwanegol o fewn datblygiadau cyfunddaliad.
  • Yn ail, mae deddfwriaeth gyfunddaliad bresennol eisoes yn gwahardd categorïau penodol o adeiladau a thir rhag cofrestru’n gyfunddaliad, fel rhydd-ddaliadau hedegog a thir sy’n ddarostyngedig i brynu gorfodol. Bwriadwn barhau i atal y trefniadau hyn rhag cofrestru’n gyfunddaliad, ac felly eu heithrio o’r gwaharddiad. Rydym yn gwahodd safbwyntiau ar b’un a ddylai’r rhestr bresennol (gweler Blwch 1 isod) aros fel y mae.
  • Yn drydydd, ystyriwn b’un a ddylid caniatáu i unrhyw fathau eraill o adeiladau, tir neu gynhyrchion perchentyaeth barhau i ddefnyddio lesddaliad ar sail bloc neu safle cyfan.

Rydym yn awyddus i gael eich safbwyntiau, yn ogystal â thystiolaeth, ynglŷn â pham y gallai fod angen eithriad ar draws pob un o’r tair agwedd. Fe allai hyn gynnwys pam na fyddai’r model cyfunddaliad diwygiedig yn gweithio, neu na ellid gwneud iddo weithio, neu pam y gellid cyfiawnhau defnyddio lesddaliad o hyd. Ar gyfer unrhyw eithriadau arfaethedig, hoffem hefyd ddeall faint o ddatblygiadau neu unedau sy’n gysylltiedig (h.y. brasamcan o nifer y lesoedd newydd o fflatiau o’r fath y flwyddyn).

Lesoedd a ganiateir o fewn cyfunddaliad

O dan ddeddfwriaeth bresennol, ni ellir caniatáu lesoedd preswyl hir o fewn cyfunddaliad. Yn y Bil Diwygio Cyfraith Cyfunddaliad a Lesddaliad Drafft, rydym yn newid hyn i ehangu’r cyfle i ddefnyddio cyfunddaliad. Bydd hyn yn caniatáu mathau penodol o lesoedd preswyl hir o fewn cyfunddaliad, sef yn benodol lesoedd rhanberchnogaeth (gan gynnwys amrywiadau arbenigol ar ranberchnogaeth, fel Rhanberchnogaeth Pobl Hŷn, a Pherchentyaeth ar gyfer Pobl ag Anabledd Hirdymor), cynlluniau prynu cartref (gan gynnwys cynhyrchion cyllid Islamaidd), a rhai cynhyrchion rhyddhau ecwiti sy’n gofyn am les.

Bydd caniatáu’r trefniadau les hyn o fewn cyfunddaliad yn rhoi mwy o hyblygrwydd i ddefnyddwyr ynglŷn â sut maen nhw’n ariannu eu cartrefi, fel eu helpu i gamu ar yr ysgol eiddo neu ryddhau ecwiti o’u cartref presennol. Er enghraifft, mae rhanberchnogaeth yn defnyddio les i alluogi prynwyr cartref i brynu “rhan” o ecwiti eiddo, gan helpu i wneud perchentyaeth yn fwy fforddiadwy. Mae’r les yn rheoli’r berthynas rhwng y prynwr a’r darparwr ac yn galluogi’r prynwr i gaffael “rhannau” ychwanegol dros amser.

Er y bydd y perchnogion hyn yn lesddeiliaid o fewn lleoliad cyfunddaliad, mewn gwirionedd, mae’r bil Drafft yn rhoi’r un hawliau craidd iddynt â pherchnogion uned gyfunddaliad. Mae hyn yn cynnwys yr hawl i gymryd rhan yn nhrefniadau llywodraethu’r gymdeithas gyfunddaliad, fel ethol cyfarwyddwyr a phleidleisio ar y gyllideb flynyddol. A bydd perchnogion hefyd yn elwa o amddiffyniadau defnyddwyr cyfunddaliad yn lle hawliau lesddaliad, fel herio rhesymoldeb taliadau gwasanaeth.

Ar gyfer y lesoedd hyn a ganiateir, darparwr y les ranberchnogaeth (sef cymdeithas dai, awdurdod lleol, neu ddarparwr arall fel arfer) neu ddarparwr y cynllun prynu cartref fydd yn berchen ar yr uned gyfunddaliad. Bydd gan y darparwyr hyn hawliau penodol i gyfrannu at wneud rhai penderfyniadau arwyddocaol ynglŷn â’r cyfunddaliad hefyd (er enghraifft pan allent fod yn atebol am gostau penodol neu derfynu’r cyfunddaliad). Pan fydd ecwiti’r lesddaliwr yn cael ei ad-dalu’n llawn i’r darparwr, bydd y darparwr yn trosglwyddo’r uned i brynwr y cartref.

Mae’n bosibl y bydd amgylchiadau eraill pan fydd angen defnyddio mathau penodol o lesoedd preswyl hir o fewn cyfunddaliad. Hoffem glywed gan ymgyngoreion am unrhyw enghreifftiau o’r fath, a pha mor aml y gellid disgwyl iddynt gael eu defnyddio’n ymarferol.

Cwestiwn ymgynghori

Cwestiwn 9

Heblaw am ranberchnogaeth (gan gynnwys amrywiadau arbenigol ar ranberchnogaeth), cynlluniau prynu cartref, a chynhyrchion rhyddhau ecwiti, a fydd angen unrhyw fathau eraill o lesoedd hir preswyl o fewn cyfunddaliad?
[Blwch testun rhydd] [Sylwer: Rhowch eich rhesymau pam yr awgrymir y trefniant. Dylech hefyd gynnwys unrhyw ddata sydd ar gael am

  • gyffredinrwydd fflatiau sy’n defnyddio trefniant o’r fath ar hyn o bryd; a/neu
  • os oes modd, rhowch nifer yr unedau newydd y flwyddyn y disgwylir iddynt ddefnyddio’r trefniant hwn.]

Tir na ellir ei gofrestru’n gyfunddaliad ar hyn o bryd

Mae’r ddeddfwriaeth gyfunddaliad bresennol eisoes yn manylu ar gategorïau penodol o dir na chaniateir eu cofrestru’n gyfunddaliad.[troednodyn 10] Y rhain yw rhydd-ddaliadau hedegog, tir amaethyddol a theitlau amodol (gweler Blwch 1 isod).

Blwch 1: Tir na ellir ei gofrestru’n gyfunddaliad

Rhydd-ddaliadau hedegog

A) Er mwyn osgoi creu rhydd-ddaliadau hedegog, gwaherddir creu tir cyfunddaliad ar lefel llawr cyntaf neu uwch oni bai bod yr holl dir oddi tano ac i lawr i’r ddaear yn rhan o’r un cyfunddaliad.

Tir amaethyddol

B) Ni all safleoedd penodol a ddefnyddir ar gyfer amaethyddiaeth, fel y rhai hynny sydd â thenantiaeth busnes fferm neu denantiaeth daliad amaethyddol, gael eu cofrestru’n gyfunddaliad.

Teitl amodol

Ni ellir cofrestru tir yn dir cyfunddaliad ychwaith os yw’n cael ei ddal yn amodol ar ddigwyddiadau allanol, gan gynnwys:

C) Ni all tir sy’n ddarostyngedig i orchymyn prynu gorfodol gael ei gofrestru’n gyfunddaliad;

D) Safleoedd penodol ar gyfer sefydliadau neu fannau addoli, gan gynnwys tir a neilltuwyd ar gyfer sefydliadau addysgol (e.e. amgueddfeydd neu lyfrgelloedd), a safleoedd a ddefnyddir ar gyfer addoli (e.e. eglwys neu deml); a

E) Safleoedd penodol a ddefnyddir ar gyfer ysgolion, er enghraifft bydd tir a ddelir yn amodol ar grant o dan Ddeddf Safleoedd Ysgolion 1841 yn dychwelyd i’r grantwr pan na fydd y tir dan sylw’n cael ei ddefnyddio ar gyfer ysgol mwyach.

Rhagwelwn y bydd y rhan fwyaf o’r categorïau hyn yn parhau i fod yn berthnasol ac felly’n destun eithriad o’r gwaharddiad ar fflatiau lesddaliad newydd, neu fel arall ni allai fflatiau lesddaliad neu gyfunddaliad newydd gael eu darparu ar safleoedd o’r fath. Fodd bynnag, croesawn safbwyntiau ar b’un a oes achos i unrhyw un o’r eithriadau uchod gael eu dileu o’r rhestr hon.[troednodyn 11]

Cwestiwn Ymgynghori

Cwestiwn 10

Pa rai, os o gwbl, o’r mathau uchod o dir na ellir eu cofrestru’n gyfunddaliad a ddylai barhau i gael eu heithrio, ac felly na ddylai’r gwaharddiad fod yn berthnasol iddynt?

[Ar gyfer blychau A-E, nodwch a ydych yn credu y dylai’r cyfyngiad barhau neu gael ei godi, a gadewch y blychau’n wag os nad oes gennych safbwynt]
[Rhowch gyfiawnhad ar gyfer pam ac unrhyw ddata sydd ar gael am gyffredinrwydd y categori tir penodol.]

Datblygiadau lle gellid cyfiawnhau defnyddio lesddaliad yn y dyfodol

Mae’r model cyfunddaliad diwygiedig wedi’i lunio i ddarparu ar gyfer datblygiadau preswyl a defnydd cymysg o bob math. Yn ogystal â’ch adborth ar y rhestr o safleoedd sydd wedi’u gwahardd rhag cofrestru’n gyfunddaliad ar hyn o bryd (uchod), croesawn safbwyntiau a thystiolaeth hefyd ynglŷn â sefyllfaoedd lle y gellid cyfiawnhau parhau i ddefnyddio lesddaliad ar gyfer safleoedd neu ddatblygiadau penodol, gan gynnwys unrhyw amgylchiadau eithriadol sy’n cyfiawnhau eithriad o’r gwaharddiad arfaethedig ar ddefnyddio lesddaliad ar gyfer fflatiau newydd.

Mewn rhai amgylchiadau, mae’n bosibl mai lesoedd hir fydd y ffordd orau o reoli perthynas benodol rhwng dau barti, ac felly’n ddeiliadaeth briodol i’r defnyddiwr. Er enghraifft, fe allai cynhyrchion tai gynnwys neu ddibynnu ar lefel o wasanaethau neu gyfleusterau a ddarperir orau gan drydydd parti oherwydd y cymhlethdod sy’n gysylltiedig. Un enghraifft o hyn yw’r ddadl sy’n mynd rhagddi yn y sector tai ymddeol ynglŷn â pha rannau ohono a allai newid i ddarparu tai ymddeol fel cyfunddaliad yn y dyfodol, a pha rannau, oherwydd cymhlethdod gwasanaethau darparwyr a chyllido, a allai ddymuno dadlau dros barhau i ddefnyddio lesddaliad.

Mae’n bosibl hefyd y bydd rhesymu cyfiawnadwy dros warchod lleiniau penodol o dir rhag cael eu gwerthu ar sail rydd-ddaliadol. Yn y Deyrnas Unedig, gelwir hyn yn aml yn dir ‘anaralladwy’, ond mae atal trosglwyddo teitl rhydd-ddaliad yn gyffredin mewn llawer o wledydd lle mae modelau cyfunddaliad yn ddeiliadaeth ddiofyn. Er enghraifft, mae gan Seland Newydd, Canada, ac Awstralia systemau i warchod categorïau penodol o dir rhag cael eu gwerthu ar sail rydd-ddaliadol, p’un ai i atal hap-brynu tir, diogelu bywyd gwyllt a chynefinoedd, neu warchod tir fel y gall y cyhoedd ehangach ei fwynhau am byth.

Cwestiwn ymgynghori

Cwestiwn 11

Croesawn eich safbwyntiau ar b’un a ddylai unrhyw drefniadau perchnogaeth tir, neu fathau o ddatblygiadau, gael eu heithrio o waharddiad ar fflatiau lesddaliad newydd
[Blwch testun rhydd] [Sylwer: Byddem yn ddiolchgar pe gallech gyfiawnhau pam yr awgrymir y trefniant, a rhoi unrhyw ddata sydd ar gael am nifer y fflatiau (neu nifer y safleoedd ac adeiladau) sy’n defnyddio’r trefniant hwn y gellid eu rhagweld y flwyddyn].

Strwythur y gwaharddiad ar fflatiau lesddaliad newydd

Byddwn yn cyflawni’r ymrwymiad a wnaed yn ein maniffesto i wneud cyfunddaliad yn ddeiliadaeth ddiofyn trwy ddeddfu’r gwaharddiad ar fflatiau lesddaliad newydd. Amlinellir elfennau allweddol y gwaharddiad yn y Bil Diwygio Cyfraith Cyfunddaliad a Lesddaliad Drafft a gyhoeddwyd ar gyfer craffu cyn-ddeddfwriaethol. Bydd gwaharddiad cyfreithiol rwymol yn sicrhau y bydd yn berthnasol yn gyson ar draws y farchnad, gan greu chwarae teg ar gyfer cyflenwi tai newydd a chynyddu nifer y defnyddwyr a fydd yn elwa o berchentyaeth gyfunddaliad, a pha mor gyflym y bydd hynny’n digwydd, i’r eithaf. Mae’r dull hwn yn eglur, yn sicr ac yn gallu cael ei orfodi, gan helpu i sbarduno’r newid i ffwrdd oddi wrth lesddaliad.

Sut y bydd y gwaharddiad yn gweithredu

Bwriadwn i’r gwaharddiad ar fflatiau lesddaliad newydd ddilyn dull tebyg i Ran 1 Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad a Rhydd-ddaliad 2024, sy’n gwahardd defnyddio lesddaliad ar gyfer tai newydd, heblaw mewn amgylchiadau eithriadol diffiniedig. Mae’r dull hwn yn rhoi’r baich ar ddatblygwyr a gwerthwyr i ddangos eu bod yn cydymffurfio â’r gwaharddiad cyn i ddarpar brynwr drosglwyddo unrhyw arian. Dylai defnyddwyr nid yn unig gael gwybodaeth well o flaen llaw wrth brynu cartref, sy’n bwyslais allweddol yn ein diwygiadau ehangach i’r system o brynu a gwerthu cartref,[troednodyn 12] ond hefyd gael sicrwydd bod y ddeiliadaeth gyfreithiol gywir yn cael ei marchnata yn y lle cyntaf. Bydd cysylltu’r dull o wahardd defnyddio lesddaliad ar gyfer fflatiau a thai yn ei gwneud yn symlach i’r diwydiant gydymffurfio ac yn rhoi sicrwydd i ddefnyddwyr, yn enwedig lle y gallai fod yn aneglur p’un a yw eiddo newydd sydd ar werth yn fflat neu’n dŷ.

Mae nifer o wiriadau wedi’u hymgorffori yn y gwaharddiad arfaethedig i ddiogelu’r defnyddiwr, fel nad yw fflat lesddaliad yn cael ei gwerthu iddo ar gam yn ystod camau marchnata, gwerthu, a chofrestru pryniant. Amlinellir y camau hyn isod, ac maen nhw’n angenrheidiol oherwydd bod sefyllfaoedd posibl lle y gallai lesoedd newydd dilys gael eu creu ar ôl i’r eiddo gael ei farchnata i’w werthu. Er enghraifft, prynu uned gyfunddaliad newydd lle mae’r defnyddiwr eisiau defnyddio cynllun prynu cartref (les a ganiateir) i ariannu’r pryniant, sy’n dibynnu ar les. Bydd les ar gyfer yr uned gyfunddaliad yn cael ei chreu’n ddilys gan ddarparwr y cynllun prynu cartref i alluogi’r prynwr i gwblhau’r gwerthiant. Felly, mae’r gwiriadau ar ôl y cam marchnata wedi’u llunio i dawelu meddwl prynwyr bod yr hyn maen nhw’n ei brynu’n cydymffurfio â’r gwaharddiad.

Os daw’n amlwg bod gwerthwr wedi efadu’r gwiriadau hyn, bydd gan ddefnyddwyr yr hawl i wneud iawn os metha popeth arall, a fydd yn eu galluogi i gaffael yr hyn y dylid bod wedi’i werthu iddynt yn y lle cyntaf. Rhoddir mwy o fanylion am wneud iawn isod.

Gyda’i gilydd, bydd y system hon o wiriadau o flaen llaw wedi’i hategu gan gosbau ariannol, a’r hawl i wneud iawn os bydd popeth arall yn methu yn rhoi fframwaith clir a chadarn i sicrhau cydymffurfedd ac atal pobl sy’n ceisio osgoi’r gwaharddiad.

Manylir ar y dull yn Adran y bil Drafft. Amlinellir strwythur cyffredinol y gwaharddiad arfaethedig yma ar gyfer sylwadau:

Marchnata

Bydd hysbysebu gwerthu fflat lesddaliad newydd yn cael ei wahardd, oni bai bod y fflat yn gymwys ar gyfer eithriad. Pan fydd eithriad yn berthnasol, bydd rhaid i ddeunyddiau marchnata ddangos y sail i’r eithriad.

Gwerthu

Bydd rhoi les newydd ar gyfer fflat yn cael ei wahardd, oni bai bod y fflat yn gymwys ar gyfer eithriad. O ran lesoedd fflatiau eithriedig, bydd yn ofynnol i’r landlord roi ‘Hysbysiad Rhybuddio’ rhagnodedig i’r darpar brynwr a’i gyfreithiwr. Mae’n rhaid i hwn gael ei roi o leiaf 7 diwrnod cyn cyfnewid contractau, gan fanylu ar yr eithriad a, phan fydd angen, darparu tystiolaeth ychwanegol o gydymffurfio. Bydd y cyfnod 7 diwrnod yn rhoi cyfle i’r darpar brynwr ofyn cwestiynau a cheisio tystiolaeth ychwanegol, os bydd angen.

Cofrestru

Bydd sicrwydd ar gyfer prynwyr tro cyntaf a phrynwyr dilynol yn cael ei roi trwy’r system cofrestru tir. Bydd rhaid i’r holl lesoedd hir newydd ar gyfer fflatiau sydd wedi’u cofrestru gyda Chofrestrfa Tir Ei Fawrhydi gynnwys ‘Datganiad Rhagnodedig’ newydd sy’n cadarnhau eu bod yn cydymffurfio â’r gwaharddiad. Bydd methiant i gydymffurfio yn sbarduno cyfyngiad dros dro ar y teitl, gan atal y fflat rhag cael ei hailwerthu hyd nes y bydd statws yr eiddo’n cael ei gadarnhau.

Gwneud iawn

Bydd gan brynwyr yr hawl i wneud iawn os bydd fflat lesddaliad yn cael ei gwerthu iddynt ar gam yn groes i’r gwaharddiad. Bydd y rhwymedïau’n amrywio yn dibynnu ar natur y tramgwydd:

  • Os gwerthwyd les waharddedig mewn adeilad cyfunddaliad i ddefnyddiwr yn anghyfreithlon, bydd ganddo’r hawl i gael yr uned gyfunddaliad, a bydd perchennog yr uned yn talu’r costau.
  • Os gwerthwyd fflat lesddaliad mewn adeilad nad yw’n gyfunddaliad i un neu nifer o berchnogion fflat yn anghyfreithlon, bydd ganddynt yr hawl i drawsnewid eu hadeilad yn gyfunddaliad a chael uned gyfunddaliad, a bydd y rhydd-ddeiliad yn talu’r costau.
  • Os caffaelodd defnyddiwr fflat lesddaliad a oedd yn gymwys ar gyfer eithriad dilys, ond ni ddarparwyd y dystiolaeth ofynnol i brofi hynny, bydd ganddo’r hawl i unioni’r sefyllfa, a bydd y landlord neu’r rhydd-ddeiliad yn talu’r costau.

Os bydd y landlord yn herio’r hawl i wneud iawn, neu os bydd ar goll neu os na fydd yn ymateb fel arall, bydd gan y defnyddiwr yr hawl i wneud cais i’r tribiwnlys priodol i benderfynu ar y canlyniad priodol.

Bydd y gwaharddiad yn cael ei orfodi trwy gosbau ariannol, wedi’u graddio yn ôl lefel y niwed i’r defnyddiwr. Er enghraifft, byddai’r gosb ar gyfer hysbysebu fflat lesddaliad newydd ar gam yn llai na’r gosb ar gyfer cwblhau gwerthiant gwaharddedig. Bydd y gwaharddiad yn cael ei orfodi gan awdurdod gorfodi arweiniol a benodir gan yr Ysgrifennydd Gwladol.

Cwestiwn ymgynghori

Cwestiwn 12

Rhowch unrhyw safbwyntiau neu awgrymiadau ynglŷn â strwythur arfaethedig y gwaharddiad [Blwch testun rhydd].

Yr amserlen ar gyfer symud i gyfunddaliad

Mae llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ymrwymo i wneud cyfunddaliad yn ddeiliadaeth ddiofyn ar gyfer fflatiau lesddaliad newydd, ac rydym eisiau i ddefnyddwyr fwynhau buddion cyfunddaliad mewn adeiladau newydd cyn gynted â phosibl.

Roeddem hefyd wedi nodi’n glir yn ein Papur Gwyn a gyhoeddwyd y llynedd y byddai’r ymgynghoriad hwn ar symud i ffwrdd oddi wrth lesddaliad i gyfunddaliad yn rhoi ystyriaeth ofalus i sut i darfu cyn lleied â phosibl ar y cyflenwad tai. Mae llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ymrwymo o hyd i’w huchelgeisiau i ddarparu 1.5m o gartrefi newydd yn Lloegr yn ystod cyfnod y senedd, ac rydym eisiau i’r cyflenwad fflatiau newydd fod yn rhan allweddol o’r ymdrech honno.

Nid yw’r nodau i gynyddu’r cyflenwad tai a chynnig perchentyaeth well yn gwrthdaro. Gallant atgyfnerthu ei gilydd, a dylent wneud hynny. Mae’r system lesddaliad wedi bod yn gysylltiedig ers tro â chymhlethdod, arferion annheg, a rhwystrau yn y farchnad, ac mae’r materion hyn wedi atal prynwyr, benthycwyr, a datblygwyr. Trwy hyrwyddo deiliadaeth decach a mwy tryloyw ar ffurf cyfunddaliad, mae gennym gyfle i adfer hyder yn y farchnad prynu fflatiau, a datgloi mwy o alw am fflatiau newydd a buddsoddiad ynddynt dros y tymor hwy.

Bydd trefniadau cyfunddaliad yn gyfarwydd i lawer o’r prif adeiladwyr tai sy’n gweithredu yn yr Alban, mewn rhannau o Ewrop neu ymhellach i ffwrdd ochr yn ochr â’u gweithrediadau yng Nghymru a Lloegr.[troednodyn 13] Mae’n debygol y bydd y rhai nad ydynt yn gweithredu yn y lleoedd hynny wedi cael profiad o werthu blociau o fflatiau ar sail rhan o rydd-ddaliad, lle y sefydlir cwmnïau rheoli preswylwyr sy’n gyfrifol am wneud penderfyniadau o’r cychwyn.

Fodd bynnag, bydd datblygwyr a rhannau ategol o’r sector yn llai cyfarwydd ag agweddau mwy technegol y gyfundrefn gyfunddaliad newydd yng Nghymru a Lloegr, a bydd arnynt angen amser i ymgyfarwyddo â’r model cyfunddaliad diwygiedig ac addasu yn unol â hynny.

Bydd rhai datblygwyr hefyd naill ai wedi dechrau gwerthu lesddaliadau ar safle pan fydd y gwaharddiad yn dechrau neu’n berchen ar lain o dir ar les. Fe allai newid safleoedd o’r fath yn syth i gyfunddaliad fod yn syml yn dibynnu ar natur y datblygiad, neu fe allai fod yn fwy anodd. Am y rhesymau hyn, yn ogystal â gwrando’n ofalus ar y diwydiant ynglŷn â’r amserlen ar gyfer symud i gyfunddaliad, rydym hefyd eisiau clywed gan y diwydiant ynglŷn â thrin safleoedd lle mae datblygiad yn mynd rhagddo pan fydd y gwaharddiad yn dechrau, fel y gallwn roi trefniadau pontio ar waith sy’n cydbwyso annog y farchnad i symud yn gyflym i gyfunddaliad, heb darfu ar adeiladu a gwerthu cartrefi newydd y mae mawr angen amdanynt.

Camau gweithredu wrth newid i gyfunddaliad yn ddiofyn

I gefnogi newid didrafferth ar draws y farchnad dai, mae llywodraeth y Deyrnas Unedig yn bwriadu symud ymlaen yn ofalus ac yn rhesymegol tuag at wneud cyfunddaliad yn ddeiliadaeth ddiofyn ar gyfer fflatiau. Mae’r cyfeiriad hwn wedi bod yn glir ac yn gyson, a ddangoswyd trwy’r ymrwymiadau yn ein maniffesto, cyhoeddi ein Datganiad Gweinidogol Ysgrifenedig ar ddiwygio cyfraith lesddaliad a chyfunddaliad ym mis Tachwedd 2024, ac yna’r Papur Gwyn Cyfunddaliad ym mis Mawrth 2025. Mae’r dogfennau hyn yn amlinellu ein huchelgais i gyfunddaliad ddod yn fodel diofyn ar gyfer fflatiau newydd.

Yn gyfochrog â’r ymgynghoriad hwn, rydym yn cyhoeddi ein diwygiadau arfaethedig i gyfunddaliad yn y Bil Diwygio Cyfraith Cyfunddaliad a Lesddaliad Drafft. Bydd hyn yn caniatáu i ddefnyddwyr a rhanddeiliaid yn y diwydiant ddeall sut y bydd cyfunddaliad yn gweithredu’n ymarferol, a dechrau paratoi ar gyfer ei fabwysiadu. Bydd cyhoeddi’r bil Drafft ar gyfer craffu cyn-ddeddfwriaethol hefyd yn galluogi’r senedd, defnyddwyr a’r diwydiant i ystyried manylion y diwygiadau a, lle y bo’r angen, awgrymu gwelliannau, gan helpu i sicrhau bod cyfunddaliad yn gallu gweithio ar draws ystod eang o ddatblygiadau.

Yn dilyn y cyfnod craffu hwn, byddwn yn cyflwyno’r ddeddfwriaeth gyfunddaliad i’r Senedd yn ffurfiol. Ni fydd llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gweithredu’r gwaharddiad ar fflatiau lesddaliad newydd nes i’r fframwaith cyfunddaliad newydd – gan gynnwys unrhyw reoliadau angenrheidiol – ddod i rym. Mae’r ymgynghoriad hwn yn rhan o’r broses o bennu’r adeg briodol i gychwyn y gwaharddiad.

Amseru gwaharddiad ar fflatiau lesddaliad newydd

I gefnogi newid llwyddiannus i gyfunddaliad fel y ddeiliadaeth ddiofyn ar gyfer fflatiau, mae llywodraeth y Deyrnas Unedig yn awyddus i ddeall faint o amser y gallai fod ei angen ar wahanol rannau o’r sector tai i addasu, a’r rhesymau dros y graddfeydd amser hyn.

Mae’n debygol y bydd yr amser sy’n angenrheidiol i addasu yn amrywio ar draws y farchnad, a bydd yn fwy arwyddocaol o ystyried y penderfyniad i orfodi cyfunddaliad ar gyfer y rhan fwyaf o’r cyflenwad newydd, yn hytrach na’i adael fel opsiwn amgen dewisol. Er enghraifft, mae’n bosibl y bydd datblygwyr sy’n adeiladu blociau llai, symlach, ac yn enwedig y rhai hynny a allai gael eu gwerthu fel rhan o rydd-ddaliad ar hyn o bryd, yn gallu newid yn gymharol gyflym, o ystyried effaith gymedrol y newidiadau ar eu modelau busnes, ond mae’n bosibl y bydd angen mwy o amser ar ddatblygwyr o fathau eraill.

Mae’n bosibl y bydd angen mwy o amser ar rannau eraill o’r diwydiant, fel asiantiaid eiddo, i addasu eu harferion gweithredol i’r fframwaith cyfunddaliad newydd. Fe allai ystyriaethau gwahanol fod yn berthnasol, er enghraifft, i drawsgludwyr y gallai fod arnynt angen hyfforddiant a systemau wedi’u diweddaru oherwydd bod y prosesau cyfreithiol a’r dogfennau sy’n gysylltiedig â chyfunddaliad yn wahanol i lesddaliad.

Mae benthycwyr yn rhan allweddol o farchnad weithredol hefyd. Er mai ychydig iawn o gyfunddaliadau sy’n bodoli ar hyn o bryd, bydd nifer o brif fenthycwyr eisoes yn cynnig morgeisi ar gyfer fflatiau cyfunddaliad, a disgwyliwn y bydd mwy o ddarparwyr a chynhyrchwyr yn dod ar gael wrth i’r galw gynyddu.[troednodyn 14] Mae’r gwahaniaethau hyn sy’n benodol i sector yn golygu y gallai parodrwydd fod yn anghyson, felly mae’n hollbwysig i ni glywed gan yr holl bartïon sy’n ymwneud â datblygu, prynu a gwerthu cartrefi, ariannu a phrisio, yswirio a rheoli fflatiau newydd fel y gallwn ystyried gwahaniaethau cynnil hyn. Mae’r llywodraeth hefyd yn gweithio ar draws partneriaid cyflenwi allweddol gan gynnwys Cofrestrfa Tir Ei Fawrhydi, Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Fawrhydi a Thŷ’r Cwmnïau i sicrhau bod y seilwaith ategol sy’n angenrheidiol i wneud mwy o ddefnydd o gyfunddaliad ar gael yn syth pan fydd y model newydd ar gael i’w ddefnyddio. Mae hyn hefyd yn cynnwys ystyried y wybodaeth, yr arweiniad a’r cymorth y bydd eu hangen ar ddefnyddwyr.

Rydym yn ceisio safbwyntiau gan ymgyngoreion ynglŷn â faint o amser y byddai ei angen ar eich proffesiwn neu’ch sector i baratoi ar gyfer cyfunddaliad fel deiliadaeth ddiofyn ar gyfer fflatiau newydd. Yn ogystal â brasamcan o’r amser, rydym yn awyddus i ddeall y rhesymau dros eich ymateb.

Cwestiynau ymgynghori

Cwestiwn 13

A ydych chi’n disgwyl y byddwch chi, eich sefydliad neu’ch sector yn dechrau defnyddio cyfunddaliad, neu’n cefnogi ei ddefnyddio, pan fydd y model cyfunddaliad newydd yn cael ei gyflwyno, neu dim ond pan fydd y gwaharddiad ar waith ar gyfer fflatiau newydd? [Pan fydd y model cyfunddaliad newydd yn cael ei gyflwyno/ Dim ond pan ddaw’r gwaharddiad i rym/ Arall. Nodwch eich rhesymau.] [Blwch testun rhydd]

Cwestiwn 14

Pa gamau gweithredu neu weithgareddau y byddai angen i chi, eich sefydliad neu’ch sector eu cynnal i baratoi ar gyfer defnyddio cyfunddaliad yn gyffredin? A faint o amser y byddai’r rhain yn ei gymryd? [Testun rhydd]

Cwestiwn 15

O’r adeg pan ddaw’r gyfraith gyfunddaliad ddiwygiedig i rym, faint o amser y byddai ei angen arnoch chi, eich sefydliad neu’ch sector i baratoi ar gyfer defnyddio cyfunddaliad fel deiliadaeth ddiofyn mewn blociau newydd? [Dim amser/ 1 flynedd/ 2 flynedd/ 5 mlynedd/ Arall?] [Testun rhydd i gyfiawnhau’r ateb a roddwyd]

Gweithredu fesul cam ar gyfer datblygiadau o fathau gwahanol

  1. Fe allai cymhlethdod newid i gyfunddaliad amrywio ar draws mathau o ddatblygiadau. Er enghraifft, awgrymwyd y gallai’r gwaharddiad ddechrau gyda blociau llai sy’n symlach eu rheoli, yn gyffredinol, a symud i flociau mwy o faint sy’n fwy cymhleth pan fydd cyfunddaliad yn fwy cyfarwydd.
    1. Mae eraill yn awgrymu y gallai fod yn well petai un dyddiad yn cael ei nodi ar gyfer yr adeg pan fydd cyfunddaliad yn ofynnol i gefnogi gweithredu ac osgoi dryswch i ddefnyddwyr a’r diwydiant. Byddai un dyddiad gweithredu ar gyfer y gwaharddiad yn syml ac yn glir i ddefnyddwyr, y diwydiant a chyrff gorfodi. Fodd bynnag, rydym yn fodlon ystyried dull fesul cam, gan ddechrau gyda datblygiadau llai, symlach er enghraifft, ac ehangu’n raddol i safleoedd mwy cymhleth. Fe allai hyn helpu i gynyddu momentwm ar yr un pryd â chaniatáu mwy o amser i rannau o’r farchnad sy’n wynebu mwy o heriau wneud y newid hwn.
    2. Ar wahân, rydym yn cynnig dau drefniant pontio penodol ar gyfer fflatiau ar safleoedd fesul cam, a fflatiau ar dir ar les. Ymdrinnir â’r rhain isod, ond y tu hwnt i’r ddau ddull hynny, byddem yn croesawu safbwyntiau ynglŷn â ph’un a ddylai’r farchnad symud yn un i ffwrdd oddi wrth werthu fflatiau lesddaliad newydd, neu a ddylid cyflwyno fesul cam gan gyfeirio at gynhyrchion penodol, is-sectorau penodol, neu fathau penodol o adeiladau.

Cwestiwn ymgynghori

Cwestiwn 16

A ddylai llywodraeth y Deyrnas Unedig gyflwyno’r gwaharddiad ar fflatiau lesddaliad newydd gydag un dyddiad gweithredu i bawb, neu ganiatáu mwy o amser i fathau penodol o adeiladau neu ddatblygiadau newydd addasu i gyfunddaliad?

[A. Dylai’r gwaharddiad ddechrau ar un dyddiad;

B. Dylai’r gwaharddiad gael ei gyflwyno fesul cam]

[Os ydych yn credu y dylai’r gwaharddiad gael ei gyflwyno fesul cam, pa fathau o ddatblygiadau neu adeiladau y dylid rhoi mwy o amser iddynt baratoi ar gyfer gwaharddiad ar werthu fflatiau lesddaliad newydd? Amlinellwch eich rhesymau dros unrhyw ateb a roddir, a faint o’r cynhyrchion hyn a ddarperir bob blwyddyn.]

Safleoedd sy’n cael eu datblygu pan fydd y gwaharddiad yn dechrau

Mae’n gallu cymryd blynyddoedd i un safle datblygu gael ei gwblhau, p’un a yw’n floc unigol neu’n digwydd fesul cam. Mae llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cydnabod y bydd blociau eisoes yn cael eu datblygu pan fydd y gwaharddiad yn cael ei gyflwyno, ac y gallai’r datblygwr fod wedi dechrau gwerthu rhywfaint ohonynt fel lesddaliad.

Pan fydd y gwaharddiad yn dechrau, os yw bloc yn sefyll yn annibynnol ac ni werthwyd unrhyw unedau eto, credwn y dylai datblygwr allu newid i werthu’r rhain fel cyfunddaliad pan fydd y datblygiad wedi’i gwblhau. Fodd bynnag, os nad yw bloc wedi’i gwblhau eto, ond mae lesoedd eisoes wedi cael eu rhoi neu eu gwerthu, cydnabyddwn y gallai newid i gyfunddaliad fod yn anodd. Felly, rydym yn cynnig trefniant pontio a fyddai’n caniatáu i flociau hunangynhwysol y gwerthwyd fflatiau lesddaliad newydd ynddynt eisoes ar yr adeg y mae’r gwaharddiad yn dechrau barhau i wneud hynny ar ôl i’r gwaharddiad ddechrau.

Ni fydd y cynnig hwn yn amharu ar werthiannau uniongyrchol, ond bydd yn mynnu bod datblygwyr yn symud i gyfunddaliad ar gyfer camau’r safle yn y dyfodol. Felly, fe allai arwain at safle lle y ceir blociau lesddaliad a chyfunddaliad. Er y byddai datblygiad lesddaliad a chyfunddaliad cymysg yn gwneud y broses o reoli’r safle ychydig yn fwy cymhleth, nid yw llywodraeth y Deyrnas Unedig yn fodlon caniatáu i niferoedd mawr o fflatiau lesddaliad newydd gael eu gwerthu yn y dyfodol pell.

Cwestiynau ymgynghori

Cwestiwn 17

A ydych chi’n cytuno y dylai blociau hunangynhwysol sydd eisoes wedi gwerthu fflatiau lesddaliad newydd ar yr adeg y mae’r gwaharddiad yn dechrau allu parhau i wneud hynny?
[Ydw/Nac ydw] [Esboniwch eich ateb]

Cwestiwn 18

Os ateboch chi ‘Ydw’ i’r cwestiwn blaenorol, faint o amser y dylid ei roi i ddatblygwyr gwblhau’r bloc hunangynhwysol? Rhowch resymau dros eich ymateb.  
[Dim terfyn amser / 1 flynedd / 2 flynedd / 5 mlynedd / 10 mlynedd / Arall] [Rhowch resymau dros eich ymateb]

Cwestiwn 19

A oes unrhyw ddulliau amgen o ddelio â safleoedd fesul cam? [Testun rhydd]

Fflatiau a adeiledir ar dir lesddaliad hanesyddol

Gall datblygiadau cyfunddaliad, hynny yw datblygiadau rhydd-ddaliad, gael eu hadeiladu ar dir rhydd-ddaliad yn unig. Rydym yn gwybod bod y rhan fwyaf o ddatblygwyr yn caffael tir ar sail rydd-ddaliad. Mae perchen ar dir ar les yn cyfyngu ar allu datblygwyr i adeiladu a gwerthu’r cartrefi ar y safle gyda’r un hyblygrwydd a fyddai ganddynt petaent yn berchen arno ar sail rydd-ddaliad.

Nodwn fod modd caffael safleoedd datblygu ar sail lesddaliad mewn achosion mwy cyfyngedig, a bod amgylchiadau pryd na ellir caffael rhydd-ddaliad, fel pan na ellir adnabod y rhydd-ddeiliad, neu pan na fydd yn rhyddhau’r tir ar sail rydd-ddaliad.

Mae llywodraeth y Deyrnas Unedig yn bwriadu adeiladu 1.5miliwn o gartrefi yn Lloegr yn ystod cyfnod y senedd, felly nid ydym eisiau i’r newid i gyfunddaliad gael effaith niweidiol ar ddarparu cyflenwad newydd y mae mawr angen amdano. Felly, credwn pan fydd datblygwr yn berchen ar dir ar sail lesddaliad ar hyn o bryd a bod ganddo gynlluniau cadarn i ddatblygu fflatiau lesddaliad arno, na ddylai’r gwaharddiad fod yn berthnasol iddo fel y gall ddarparu’r cartrefi hynny.

Fodd bynnag, nid ydym eisiau annog cronni tir ar les. Roedd y gwaharddiad ar dai lesddaliad newydd yn cynnwys eithriad ar gyfer tir a lesiwyd erbyn 21 Rhagfyr 2017 (y diwrnod cyn cyhoeddi’r bwriad polisi yn yr ymateb i’r ymgynghoriad ar wahardd tai). Bydd hyn yn caniatáu i berchnogion safleoedd sy’n bodloni’r amod hwnnw barhau i werthu tai lesddaliad ar ôl i’r gwaharddiad ddod i rym.

Credwn y dylid gwneud darpariaeth debyg ar gyfer y gwaharddiad llwyr, a’i ategu trwy fynnu bod unrhyw dir lesddaliad sydd wedi’i eithrio o’r gwaharddiad wedi cael ei lesio a’i gaffael cyn dyddiad penodedig cyn i’r gwaharddiad ddechrau.

Mae’r dull hwn yn datgymell rhag cronni tir ar les o ddyddiad penodol (e.e. gan y rhai sy’n ceisio osgoi’r gwaharddiad), ond mae’n benagored, felly gellid gwerthu tai lesddaliad newydd i ddefnyddwyr ar y safleoedd hyn ar unrhyw adeg yn y dyfodol. Credwn na ddylai’r eithriad hwn fod yn benagored, felly rydym yn ceisio safbwyntiau ar b’un a ddylai fod dyddiad terfyn ar gyfer defnyddio safleoedd lesddaliad etifeddol i ddarparu fflatiau lesddaliad.

Os byddwn yn symud ymlaen â dull sy’n mynnu bod tir ar les yn cael ei lesio a’i gaffael cyn i’r gwaharddiad ddechrau, a hefyd symud ymlaen â dyddiad terfyn ar gyfer adeiladu fflatiau ar dir ar les, mae’n debygol y byddwn yn mabwysiadu’r un gwaharddiad ar dai lesddaliad newydd.

Cwestiynau ymgynghori

Cwestiwn 20

Pan berchnogir ar dir ar sail lesddaliad ar yr adeg y daw’r gwaharddiad i rym, pa amodau ychwanegol, os o gwbl, a ddylai alluogi’r safle i fod yn gymwys ar gyfer eithriad? 

Ticiwch ba rai o’r canlynol, os o gwbl, a ddylai fod yn berthnasol:

  • Roedd y tir ar les wedi’i gaffael cyn i’r gwaharddiad ddechrau
  • Mae gan y safle ganiatâd cynllunio ar yr adeg y mae’r gwaharddiad yn dechrau
  • Mae’r safle’n cael ei adeiladu ar yr adeg y mae’r gwaharddiad yn dechrau
  • Mae gwerthiant cyntaf fflat lesddaliad yn digwydd o fewn cyfnod penodedig ar ôl i’r gwaharddiad ddechrau
  • Dim un o’r uchod
  • Arall (nodwch)

Cwestiwn 21

Os dewisoch chi ‘Mae gwerthiant cyntaf fflat lesddaliad yn digwydd o fewn cyfnod penodedig ar ôl i’r gwaharddiad ddechrau’, nodwch y cyfnod.

  • O fewn 1 flynedd
  • O fewn 2 flynedd
  • O fewn 5 mlynedd
  • Dim gofyniad amser

Cwestiwn 22

Pan berchnogir safle ar sail lesddaliad, a ddylai’r datblygwr gael cyfnod penodedig o amser i orffen gwerthu fflatiau lesddaliad ar y safle pan fydd y gwaharddiad wedi dechrau?

[Dylai / Na ddylai]
[Os na ddylai, rhowch eich rhesymau] 

Cwestiwn 23

Os dylai, pa mor hir y dylid ei roi i’r datblygwr werthu’r fflatiau lesddaliad sy’n weddill ar y safle pan fydd y gwaharddiad wedi dechrau?

  • 1 flynedd
  • 2 flynedd
  • 5 mlynedd
  • Arall [nodwch gan roi cyfiawnhad]

Cwestiwn 24 – Ar gyfer datblygwyr/tirfeddianwyr yn unig

A ydych chi’n berchen ar unrhyw dir a fwriedir ar gyfer datblygiad preswyl neu ddefnydd cymysg ar sail lesddaliad? [Ydw/Nac ydw] [Os ydych, nodwch nifer y safleoedd a’u capasiti, a pha gostau rydych yn disgwyl mynd iddynt wrth gaffael y tir ar sail rydd-ddaliad yn lle lesddaliad.]

Cwestiwn 25

A oes unrhyw ddulliau amgen o ddelio â thir ar les hanesyddol? [Testun rhydd]

Gwelliannau pellach i helpu i fabwysiadu cyfunddaliad ar draws y farchnad

Datblygwyd cynigion cyfunddaliad Comisiwn y Gyfraith ar gyfer ailfywiogi cyfunddaliad ar ôl ymgynghori’n helaeth â’r diwydiant a rhanddeiliaid. Mae’r cynigion hyn, yr ydym yn eu datblygu bellach, yn gosod y sylfeini ar gyfer mabwysiadu cyfunddaliad yn ehangach o lawer ar draws y farchnad dai.

Mae cyhoeddi’r Bil Diwygio Cyfraith Cyfunddaliad a Lesddaliad Drafft yn rhoi manylion i randdeiliaid ynglŷn â sut y bydd y fframwaith cyfunddaliad diwygiedig yn gweithredu. Mae’r bil yn cyflwyno hyblygrwydd newydd a luniwyd i helpu i’w fabwysiadu ar draws ystod eang o fathau o ddatblygiadau a chynhyrchion perchnogaeth. Fodd bynnag, gwnaed gwaith Comisiwn y Gyfraith yn y cyd-destun y byddai cyfunddaliad yn aros yn ddewisol. Mae llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cydnabod bod gorfodi cyfunddaliad fel deiliadaeth ddiofyn ar gyfer fflatiau newydd yn newid sylweddol i bolisi. Yng ngoleuni’r newid hwn, rydym yn fodlon ystyried p’un a oes angen gwelliannau technegol pellach i’r ddeddfwriaeth ddrafft i sicrhau bod cyfunddaliad yn gweithio’n effeithiol.

Mae llywodraeth y Deyrnas Unedig yn bwriadu cyfyngu ar nifer yr eithriadau i’r gwaharddiad er mwyn cynyddu nifer y defnyddwyr a fyddai’n elwa o gyfunddaliad i’r eithaf. Felly, credwn y bydd addasu’r deddfau cyfunddaliad i roi mwy o hyblygrwydd yn lleihau’r angen am eithriadau mewn rhai amgylchiadau, ac yn cefnogi mabwysiadu ehangach, mwy cynhwysol. Ystyriwn yn gyntaf a yw’r rhai sy’n ymwneud â darparu datblygiadau a arweinir gan y sector preifat yn ceisio unrhyw newidiadau technegol, a byddem yn croesawu mewnbwn ynglŷn â newidiadau ar draws y farchnad, a phenodol i sector, i’r darpariaethau cyfunddaliad a amlinellir yn Rhan 2 y bil Drafft a fyddai’n helpu i ddarparu a rheoli blociau cyfunddaliad newydd.

Cwestiwn ymgynghori

Cwestiwn 26

A oes unrhyw newidiadau technegol neu fân newidiadau i ran 2 y Bil Diwygio Cyfraith Cyfunddaliad a Lesddaliad Drafft cyhoeddedig a fyddai’n cefnogi modelau datblygu penodol neu fathau penodol o berchentyaeth a arweinir gan y sector preifat? [Testun rhydd]

Cefnogi mabwysiadu yn y sector tai fforddiadwy 

Mae llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ymrwymo i ymestyn buddion perchnogaeth gyfunddaliad mor eang â phosibl, gan gynnwys o fewn y sector tai fforddiadwy.

Mae cyfunddaliad yn cael ei ailddylunio i gynnwys adeiladau deiliadaeth gymysg, ac mae llawer o randdeiliaid yn y sector tai fforddiadwy wedi ymwneud ag ymgynghoriadau blaenorol gan Gomisiwn y Gyfraith a’r llywodraeth flaenorol ynglŷn â diwygio cyfunddaliad. Mae’r bil Drafft yn cynnig integreiddio rhanberchnogaeth i’r fframwaith cyfunddaliad am y tro cyntaf, a bwriedir i nodweddion fel y gallu i sefydlu “rhannau”, dyrannu penawdau costau ar wahân, gosod rheolau lleol a chymhwyso amddiffyniadau i leiafrifoedd helpu darparwyr i gyflawni eu rhwymedigaethau.

Fodd bynnag, cydnabyddwn fod gan ddarparwyr tai fforddiadwy gyfrifoldebau ychwanegol, gan gynnwys cydymffurfio â’r safonau a osodwyd gan y Rheoleiddiwr Tai Cymdeithasol, fel y Safon Diogelwch ac Ansawdd a’r Safon Cymdogaeth a Chymuned.

Gan fod y ddeddfwriaeth ddrafft ar gael bellach, croesawn safbwyntiau gan y rhai sy’n gweithio yn y sector tai fforddiadwy ar b’un a fyddai newidiadau ychwanegol i’r fframwaith cyfunddaliad yn eu helpu i gyflawni eu rhwymedigaethau i’w tenantiaid a’r Rheoleiddiwr.

Cwestiwn ymgynghori

Cwestiwn 27

A oes unrhyw newidiadau technegol i’r Bil Diwygio Cyfraith Cyfunddaliad a Lesddaliad Drafft cyhoeddedig a fyddai’n galluogi’r sector tai fforddiadwy i ddefnyddio cyfunddaliad ymhellach? [Testun rhydd]

Rheolaeth broffesiynol mewn datblygiadau cyfunddaliad

Mae asiantiaid rheoli yn cyflawni swyddogaeth allweddol wrth gynnal a chadw adeiladau amlfeddiannaeth. Byddant yn dod yn bwysicach fyth wrth i gyfunddaliad ddod yn ddeiliadaeth ddiofyn ar gyfer fflatiau newydd ac wrth i fwy o lesddeiliaid arfer eu Hawl i Reoli, rhyddfreinio ar y cyd, neu drawsnewid yn gyfunddaliad.

Mae llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cymryd camau i wella safonau yn y sector, gan gynnwys ymgynghori ar gymwysterau gorfodol ar gyfer asiantiaid rheoli y llynedd.[troednodyn 15] Disgwyliwn y bydd datblygwyr y rhan fwyaf o ddatblygiadau cyfunddaliad newydd, yn enwedig rhai mwy o faint neu fwy cymhleth, yn rhoi asiantiaid rheoli ar waith o’r dechrau (er y gallai perchnogion yr uned gyfunddaliad ddewis disodli asiant rheoli neu benodi rhywun ei hun yn ddiweddarach), fel sy’n gyffredin mewn trefniadau rhan o rydd-ddaliad.

Er y gallai hunanreolaeth gan gyfarwyddwyr lleyg fod yn addas ar gyfer adeiladau bach neu syml, mae rhanddeiliaid wedi awgrymu efallai y bydd angen cyfarwyddwyr neu asiantiaid proffesiynol ar safleoedd mwy cymhleth i sicrhau llywodraethu effeithiol a chydymffurfio. O ran adeiladau risg uchel yn Lloegr (sy’n uwch na 18m neu sydd ag o leiaf 7 llawr), gallem ddisgwyl yn rhesymol i gymdeithasau cyfunddaliad gyflogi asiantiaid rheoli sy’n arbenigo mewn diogelwch rhag tân.

Mae dulliau rhyngwladol yn amrywio. Er enghraifft, yn Victoria, Awstralia, mae asiantiaid rheoli’n ofynnol ar gyfer rhai adeiladau strata mwy o faint, ond yng Ngorllewin Awstralia fe’u defnyddir yn ôl disgresiwn perchnogion yr adeilad.

Mae adeiladau tal, yn enwedig y rhai hynny sy’n dalach nag 11 metr, yn ddarostyngedig i rwymedigaethau cyfreithiol penodol o dan Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022 yn Lloegr (cynigir gofynion ychwanegol ar gyfer Cymru hefyd ym Mil Diogelwch Adeiladau (Cymru)). Mewn achosion o’r fath, mae’n debygol y bydd rheolaeth broffesiynol yn hanfodol.

Cwestiwn ymgynghori

Cwestiwn 28

A oes unrhyw fathau o adeiladau neu ddatblygiadau cyfunddaliad (er enghraifft, y rhai hynny sy’n cynnwys mwy na nifer benodol o unedau) y dylai fod yn ofynnol iddynt benodi cyfarwyddwyr a/neu asiantiaid rheoli proffesiynol? [Oes/Nac oes] [Os oes, nodwch ba fathau o ddatblygiadau cyfunddaliad a rhowch eich rhesymau.] [Testun rhydd]

Y tu hwnt i reolaeth broffesiynol, mae’n bosibl y bydd rhwymedigaethau ychwanegol (y tu hwnt i’r rhai sydd eisoes yn berthnasol) y mae ymgyngoreion yn credu y dylem eu cymhwyso i adeiladau cyfunddaliad arbennig o fawr neu gymhleth. Croesawn safbwyntiau ar ba ofynion ychwanegol a allai fod yn briodol i sicrhau gweithredu diogel ac effeithiol.

Cwestiwn ymgynghori

Cwestiwn 29

Heblaw am reolaeth broffesiynol, a oes unrhyw ofynion ychwanegol a ddylai fod yn berthnasol i berchnogion adeiladau cyfunddaliad arbennig o fawr neu gymhleth? Amlinellwch natur yr adeilad ac unrhyw rwymedigaethau ychwanegol y credwch y dylent fod yn berthnasol. [Testun rhydd] 

Microgyfunddaliadau

Mae adeiladau llai o faint yn symlach eu rheoli, fel arfer, oherwydd byddant yn cynnwys llai o ardaloedd a rennir a seilwaith. Bydd hyn yn wir am gyfunddaliadau bach, felly hoffem hefyd gael safbwyntiau ynglŷn â ph’un a ddylid cymhwyso deddfau cyfunddaliad yn yr un ffordd yn union i adeiladau o bob maint.

Nid yw awdurdodaethau eraill sy’n defnyddio modelau tebyg i gyfunddaliad yn defnyddio dull ‘un ateb sy’n addas i bawb’, ac rydym yn ymwybodol y gallai rhai o ofynion y fframwaith cyfreithiol cyfunddaliad cyffredinol fod yn rhy feichus i adeiladau syml, bach iawn – er enghraifft, y rhai hynny sy’n cynnwys pedair neu lai o unedau, lle y rhennir cyntedd a pharcio yn unig, o bosibl. At ddibenion yr ymgynghoriad hwn, rydym wedi galw’r rhain yn ‘ficrogyfunddaliadau’.

Hoffem gael safbwyntiau ar b’un a ddylai unrhyw rai o rwymedigaethau’r gymdeithas gyfunddaliad gael eu datgymhwyso neu eu gwneud yn wirfoddol i ficrogyfunddaliadau fel y gallant optio allan yn fwriadol.

Er enghraifft, o dan yr erthyglau cymdeithasu sy’n berthnasol i bob cymdeithas gyfunddaliad, mae’n ofynnol i gymdeithas gyfunddaliad gael dau gyfarwyddwr, o leiaf. Yn ogystal, mae’n ofynnol i draean o’r cyfarwyddwyr ymddeol ym mhob Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol. Os na fydd neb yn cynnig ysgwyddo’r cyfrifoldeb, fe allai’r cyfarwyddwr sy’n ymddeol gael ei ailbenodi. Er y gallai cyfunddaliadau bach iawn benodi cyfarwyddwr allanol yn lle cyfarwyddwr sy’n ymddeol, fe allai fod yn fwy ymarferol caniatáu i ficrogyfunddaliadau optio allan o’r broses ymddeol hon yn gyfan gwbl fel y gellir eu cynnal gydag un cyfarwyddwr (fel sy’n wir am gwmnïau eraill).

Cwestiwn ymgynghori

Cwestiwn 30

A ydych chi’n cytuno â’n diffiniad arfaethedig o ‘ficrogyfunddaliadau’ fel y rhai hynny sy’n cynnwys pedair uned breswyl neu lai? [Ydw/Nac ydw]

Cwestiwn 31

Os nad ydych, ble fyddech chi’n gosod y trothwy hwnnw? [Dwy uned / Chwe uned / Arall, nodwch] [Rhowch eich rhesymau]  

Cwestiwn 32

A ddylai unrhyw rwymedigaethau cyfreithiol ar gymdeithasau cyfunddaliad gael eu dileu neu eu gwneud yn ddewisol ar gyfer cyfunddaliadau syml, bach iawn?
[Dylent/Na ddylent] [Os dylent, nodwch ba rwymedigaethau y credwch y dylid eu dileu neu eu gwneud yn ddewisol, ac esboniwch eich rhesymeg] [Testun rhydd]

Deall costau a buddion

Hoffai llywodraeth y Deyrnas Unedig hefyd ddeall y costau a’r arbedion effeithlonrwydd posibl a allai ddeillio o symud yn gyffredinol o lesddaliad i gyfunddaliad mewn datblygiadau newydd, ac a oes unrhyw gostau neu arbedion effeithlonrwydd penodol i sector y dylem fod yn ymwybodol ohonynt.

Rydym yn ymwybodol y bydd angen i’r diwydiant ymgyfarwyddo â sut mae cyfunddaliad yn gweithio, ac efallai y bydd angen i rai ddiweddaru agweddau amrywiol ar eu prosesau, polisïau, hyfforddiant ac arweiniad i ymdopi â’r ddeiliadaeth gyfunddaliad newydd, ac i gydymffurfio â gofynion y gwaharddiad ar fflatiau lesddaliad newydd. Rydym hefyd yn gwybod y bydd rhannau o’r farchnad dai eisoes yn gyfarwydd â modelau tebyg i gyfunddaliad – e.e. pan fyddant yn gweithredu mewn marchnadoedd annomestig, neu’n gyfarwydd ag adeiladau a arweinir gan breswylwyr trwy weithio ar adeiladau rhan o rydd-ddaliad.

Cwestiynau ymgynghori

Cwestiwn 33

O ran y rhai sy’n ymwneud â datblygu, marchnata, gwerthu a thrawsgludo blociau newydd o fflatiau, yn ystod y tair blynedd diwethaf, pa ganran o’r rhain sy’n cynnwys y nodweddion canlynol yn nodweddiadol?

Rhowch ganran fras ar gyfer pob un:

  • Lesoedd safonol 990 mlynedd (neu hirach) [Dim, 0-25%, 25-50%, 50-75%, 75-100%, ddim yn gwybod]
  • Gwerthu fel rhan o rydd-ddaliad [Dim, 0-25%, 25-50%, 50-75%, 75-100%, ddim yn gwybod]
  • Cwmni rheoli preswylwyr sy’n berchen ar rydd-ddaliad yr adeilad/au [Dim, 0-25%, 25-50%, 50-75%, 75-100%, ddim yn gwybod]
  • Asiantiaid rheoli proffesiynol sy’n gyfrifol am gynnal yr adeilad [Dim, 0-25%, 25-50%, 50-75%, 75-100%, ddim yn gwybod]
  • Cronfa wrth gefn ar waith o’r dechrau [Dim, 0-25%, 25-50%, 50-75%, 75-100%, ddim yn gwybod]

Cwestiwn 34

A fydd angen i chi neu’ch sefydliad weithredu systemau newydd, neu ddiweddaru rhai sydd eisoes yn bodoli, i addasu i ddefnyddio cyfunddaliad? (Bydd/Na fydd) [Os bydd, disgrifiwch y newidiadau hyn a’u costau cysylltiedig yn fyr]

Cwestiwn 35

A fydd angen i’ch sefydliad hyfforddi/uwchsgilio staff i addasu i ddefnyddio cyfunddaliad? (Bydd/Na fydd) [Os bydd, disgrifiwch yr hyfforddiant sy’n ofynnol a’i gostau cysylltiedig yn fyr]

Cwestiwn 36

A fydd angen i chi neu’ch sefydliad ymgynghori â gweithwyr proffesiynol allanol i addasu i ddefnyddio cyfunddaliad? (E.e. gweithwyr cyfreithiol proffesiynol, ymgynghorwyr ac ati). (Bydd/Na Fydd) [Os bydd, disgrifiwch y cyngor allanol sy’n angenrheidiol a’i gostau disgwyliedig yn fyr]  

Cwestiwn 37

A ydych chi’n disgwyl i unrhyw gostau ddeillio o gydymffurfio’n benodol â’r gwaharddiad (e.e. addasu deunyddiau marchnata, cyhoeddi hysbysiadau rhybuddio, cynnwys cymalau rhagnodedig mewn lesoedd eithriedig)? (Ydw/Nac ydw) [Os ydych, amlinellwch y rhesymau pam, a’ch cost ddisgwyliedig fesul datblygiad, pryniant / gwerthiant, neu newid i gontract]

Cwestiwn 38

A ydych chi’n disgwyl i unrhyw arbedion effeithlonrwydd ddeillio o fabwysiadu cyfunddaliad ar ffurf arbedion costau i chi neu’ch sefydliad? (Ydw/Nac ydw) [Os ydych, amlinellwch ble y gallech ddisgwyl i’r arbedion effeithlonrwydd hyn ddod i’r amlwg, a faint y gallai costau cysylltiedig leihau]

Y camau nesaf

Bydd llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad yn ofalus, a’r adborth a geir yn rhan o’r broses craffu cyn-ddeddfwriaethol. Defnyddir hyn i lywio ein hymagwedd at y ddeddfwriaeth derfynol a’r rheoliadau angenrheidiol. Byddwn yn parhau i weithio gyda’r diwydiant a grwpiau defnyddwyr i sicrhau bod datblygwyr, benthycwyr a gweithwyr eiddo proffesiynol yn parhau i baratoi i gyfunddaliad ddod yn ddeiliadaeth safonol ar gyfer cyflenwad newydd.

Fel yr amlinellwyd yn y Papur Gwyn Cyfunddaliad, byddem hefyd yn annog gweithwyr eiddo proffesiynol i ddechrau meddwl nawr ynglŷn â sut byddant yn cefnogi defnyddwyr trwy’r broses o brynu eiddo cyfunddaliad newydd. Yn arbennig, pa brosesau y bydd angen eu newid a sut byddant yn sicrhau bod gan bobl mewn rolau sy’n ymdrin â’r cyhoedd ddigon o wybodaeth a hyfforddiant. O ystyried bod y bil Drafft yn cael ei gyhoeddi ochr yn ochr â’r ymgynghoriad hwn, dyma’r adeg iawn i ddechrau paratoi ar gyfer cyfunddaliad yn ddiofyn.

Ynglŷn â’r ymgynghoriad hwn

Cynlluniwyd y ddogfen ymgynghori a’r broses ymgynghori hon i gadw at yr Egwyddorion Ymgynghori a gyhoeddwyd gan Swyddfa’r Cabinet.

Gofynnir i grwpiau cynrychioliadol roi crynodeb o’r bobl a’r sefydliadau y maent yn eu cynrychioli a, lle bo’n berthnasol, pwy arall y maent wedi ymgynghori â nhw wrth ddod i’w casgliadau pan fyddant yn ymateb.

Gall gwybodaeth a ddarperir mewn ymateb i’r ymgynghoriad hwn gael ei chyhoeddi neu ei datgelu yn unol â’r cyfundrefnau mynediad at wybodaeth (sef, yn bennaf, Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (FOIA), Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 a deddfwriaeth diogelu data’r DU). Mewn rhai amgylchiadau, gall hyn felly gynnwys data personol, lle bo hynny’n ofynnol yn ôl y gyfraith.

Os ydych chi am i’r wybodaeth rydych chi’n ei darparu gael ei thrin yn gyfrinachol, byddwch yn ymwybodol fod yr Adran, fel awdurdod cyhoeddus, wedi’i rhwymo gan y cyfundrefnau mynediad at wybodaeth ac felly efallai y bydd yn ofynnol iddi ddatgelu’r holl wybodaeth neu rywfaint o’r wybodaeth a roddwch. O ystyried hyn, byddai’n ddefnyddiol pe gallech esbonio wrthym pam eich bod yn ystyried bod yr wybodaeth a ddarparwyd gennych yn gyfrinachol. Os byddwn yn cael cais i ddatgelu’r wybodaeth, byddwn yn ystyried eich esboniad yn llawn, ond ni allwn roi sicrwydd y gellir cynnal cyfrinachedd o dan bob amgylchiad. Ni fydd ymwadiad cyfrinachedd awtomatig a gynhyrchir gan eich system TG, ynddo’i hun, yn cael ei ystyried yn rhwymol ar yr Adran.

Bydd y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol bob amser yn prosesu eich data personol yn unol â deddfwriaeth diogelu data’r DU ac, yn y rhan fwyaf o amgylchiadau, bydd hyn yn golygu na fydd eich data personol yn cael ei ddatgelu i drydydd partïon. Mae hysbysiad preifatrwydd llawn wedi’i gynnwys isod.

Ni fydd ymatebion unigol yn cael eu cydnabod oni bai y gofynnir am hynny yn benodol.

Mae eich barn yn werthfawr i ni. Diolch am gymryd yr amser i ddarllen y ddogfen hon ac ymateb.

A ydych chi’n fodlon bod yr ymgynghoriad hwn wedi dilyn yr Egwyddorion Ymgynghori?   Os nad ydych yn fodlon, neu os oes gennych unrhyw sylwadau eraill am sut y gallwn wella’r broses, cysylltwch â ni drwy’r weithdrefn gwyno.

Data personol

Mae’r paragraffau canlynol yn egluro’ch hawliau ac yn rhoi’r wybodaeth y mae gennych hawl iddi o dan ddeddfwriaeth diogelu data’r DU.

Noder bod yr adran hon yn cyfeirio at ddata personol yn unig (eich enw, manylion cyswllt ac unrhyw wybodaeth arall sy’n ymwneud yn bersonol â chi neu unigolyn arall a enwir neu sy’n adnabyddadwy), nid at gynnwys eich ymateb i’r ymgynghoriad fel arall.

1. Manylion y rheolydd data a manylion cyswllt ein Swyddog Diogelu Data   

Y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol  yw’r rheolydd data. Gellir cysylltu â’r Swyddog Diogelu Data yn dataprotection@communities.gov.uk neu drwy ysgrifennu i’r cyfeiriad canlynol:

Data Protection Officer
Ministry of Housing, Communities and Local Government
Fry Building
2 Marsham Street
London
SW1P 4DF

2. Pam rydyn ni’n casglu eich data personol  

Mae eich data personol yn cael ei gasglu fel rhan hanfodol o’r broses ymgynghori, fel y gallwn gysylltu â chi ynghylch eich ymateb ac at ddibenion ystadegol. Efallai y byddwn hefyd yn ei ddefnyddio i gysylltu â chi am faterion cysylltiedig.

Byddwn yn casglu eich cyfeiriad IP os byddwch yn cwblhau ymgynghoriad ar-lein. Efallai y byddwn yn defnyddio hwn i sicrhau mai dim ond unwaith y bydd pob person yn cwblhau arolwg. Ni fyddwn yn defnyddio’r data hwn at unrhyw ddiben arall.

Mathau sensitif o ddata personol

Peidiwch â rhannu data personol categori arbennig neu ddata troseddau os nad ydym wedi gofyn am hyn oni bai bod hynny’n gwbl angenrheidiol at ddibenion eich ymateb i’r ymgynghoriad. Wrth gyfeirio at ‘ddata personol categori arbennig’ rydym yn golygu gwybodaeth am:

  • hil
  • tarddiad ethnig
  • barn wleidyddol
  • credoau crefyddol neu athronyddol
  • aelodaeth undeb llafur
  • geneteg
  • biometreg  
  • iechyd (gan gynnwys gwybodaeth yn ymwneud ag anabledd)
  • bywyd rhywiol; neu
  • gyfeiriadedd rhywiol
  • unigolyn byw.

Wrth gyfeirio at ‘ddata troseddau’ rydym yn golygu gwybodaeth sy’n ymwneud ag euogfarnau neu droseddau unigolyn byw neu fesurau diogelwch cysylltiedig.

3. Ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data personol

Mae casglu eich data personol yn gyfreithlon o dan erthygl 6(1)(e) o Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data gan ei fod yn angenrheidiol er mwyn i MHCLG gyflawni tasg er budd y cyhoedd/wrth arfer awdurdod swyddogol a freiniwyd yn y rheolydd data. Mae Adran 8(d) Deddf Diogelu Data 2018 yn datgan y bydd hyn yn cynnwys prosesu data personol sy’n angenrheidiol ar gyfer arfer swyddogaeth y Goron, Gweinidog y Goron neu un o adrannau’r llywodraeth h.y. ymgynghoriad yn yr achos hwn.

4. Gyda phwy y byddwn yn rhannu eich data personol

Gall MHCLG benodi ‘prosesydd data’, yn gweithredu ar ran yr Adran ac o dan ein cyfarwyddyd, i helpu i ddadansoddi’r ymatebion i’r ymgynghoriad hwn. Lle byddwn yn gwneud hynny, byddwn yn sicrhau bod y gwaith prosesu ar eich data personol yn parhau i fod yn gwbl unol â gofynion y ddeddfwriaeth diogelu data.

5. Am ba hyd y byddwn yn cadw eich data personol, neu’r meini prawf a ddefnyddir i benderfynu ar y cyfnod cadw

Caiff eich data personol ei gadw am ddwy flynedd ar ôl i’r ymgynghoriad ddod i ben, oni bai ein bod yn canfod cyn hynny nad oes angen parhau i’w gadw.

6. Eich hawliau, e.e. cyrchu, cywiro, cyfyngu, gwrthwynebu

Eich data personol yw’r data rydym yn ei gasglu, ac mae gennych lais sylweddol o ran yr hyn sy’n digwydd iddo. Mae gennych yr hawliau canlynol:

a. gweld pa ddata sydd gennym amdanoch chi

b. gofyn i ni roi’r gorau i ddefnyddio’ch data, ond i gadw cofnod ohono

c. gofyn i’ch data gael ei gywiro os yw’n anghywir neu’n anghyflawn

d. gwrthwynebu ein defnydd o’ch data personol o dan rai amgylchiadau

e. cyflwyno cwyn i’r Comisiynydd Gwybodaeth annibynnol (ICO) os ydych yn meddwl nad ydym yn trin eich data yn deg neu’n unol â’r gyfraith.  Gallwch gysylltu â’r ICO trwy https://ico.org.uk/, neu trwy ffonio 0303 123 1113.

Cysylltwch â ni yn y cyfeiriad canlynol os hoffech arfer yr hawliau a restrir uchod, ac eithrio’r hawl i gyflwyno cwyn i’r ICO: dataprotection@communities.gov.uk neu’r

Knowledge and Information Access Team
Ministry of Housing, Communities and Local Government
Fry Building
2 Marsham Street
London
SW1P 4DF

7. Ni fydd eich data personol yn cael ei anfon dramor

8. Ni fydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw benderfyniadau awtomataidd

9. Caiff eich data personol ei storio yn system TG ddiogel y llywodraeth

Rydym yn defnyddio prosesydd trydydd parti, Citizen Space, i gasglu ymatebion i’r ymgynghoriad. Yn y lle cyntaf, bydd eich data personol yn cael ei storio ar eu gweinydd diogel yn y DU. Bydd eich data personol yn cael ei drosglwyddo i system TG ddiogel y llywodraeth cyn gynted â phosibl, a chaiff ei storio yno am ddwy flynedd cyn ei ddileu.

[^9]: Gweler [Solidarity real lease -How to buy affordable housing near you? Service Public](https://www.service-public.gouv.fr/particuliers/actualites/A17559?lang=en), a Crown leases - City and Environment Directorate - Planning
  1. Cyfunddaliad – Comisiwn y Gyfraith 

  2. Papur Gwyn Cyfunddaliad: Y model cyfunddaliad newydd arfaethedig ar gyfer perchentyaeth yng Nghymru a Lloegr - GOV.UK 

  3. Mae ‘les hir’ yn golygu les a roddwyd am fwy na 21 mlynedd. Dyma’r dull safonol o ddiffinio lesoedd mewn deddfwriaeth, gan gynnwys y gwaharddiad ar dai lesddaliad newydd yn Neddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad a Rhydd-ddaliad 2024, a bwriadwn ei ddefnyddio ar gyfer y gwaharddiad ar fflatiau lesddaliad newydd. Nid yw’n golygu cynhyrchion rhent fel tenantiaethau sicr yn Lloegr neu gontractau meddiannaeth yng Nghymru. 

  4. Rydym yn ymwybodol y bydd galwadau ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i weithredu gwaharddiad unigol sy’n cynnwys yr holl ‘anheddau’ lesddaliad newydd. Am y tro, rydym yn ystyried y gwaharddiadau hyn fel endidau ar wahân, y gallai fod angen eu gweithredu ar wahanol gyflymder, ac y gallai hefyd fod angen dylunio agweddau penodol arnynt yn wahanol i ystyried y gwahaniaethau rhwng tai a fflatiau, fel gwahanol eithriadau a gwahanol gyfundrefnau gwneud iawn. 

  5. Bydd hyn yn cynnwys lesoedd fflatiau sy’n cael eu gwerthu ‘y tu allan i’r cynllun’. 

  6. Yn Lloegr yn 2023/24, roedd 21,590 o anheddau ychwanegol o newid defnydd rhwng annomestig a phreswyl. Gweler Cyflenwad tai: anheddau ychwanegol net, Lloegr: 2023 i 2024 - GOV.UK 

  7. Yn Lloegr yn 2023/24, roedd 4,360 o drawsnewidiadau rhwng tai a fflatiau. Gweler Cyflenwad tai: anheddau ychwanegol net, Lloegr: 2023 i 2024 - GOV.UK 

  8. Nodwn y gallai’r senario penodol hwn greu problem i landlordiaid pan fydd tenant cymdeithasol yn arfer ei Hawl i Brynu neu Hawl i Gaffael, trwy gamau na chymerwyd gan y landlord. Gweler paragraffau 3.30-3.31. 

  9. Atodlen 2 Deddf Diwygio Cyfraith Cyfunddaliad a Lesddaliad 2002 

  10. Sylwer, mae eithrio ‘rhydd-ddaliadau hedegog’ yn fater ar wahân i b’un a ddylai fod yn ofynnol i nifer o unedau newydd sy’n mynd dros ffin ddefnyddio cyfunddaliad, fel yr amlinellir ym Mhennod 2. 

  11. Families to save hundreds of pounds in major homebuying overhaul - GOV.UK 

  12. Mae gan y pum prif adeiladwr tai weithrediadau neu is-gwmnïau yn yr Alban, lle na ddefnyddir lesddaliad preswyl hir ar gyfer fflatiau newydd. 

  13. Mae nifer o brif fenthycwyr yn cynnig cynhyrchion morgais ar gyfer cyfunddaliadau yng Nghymru a Lloegr ar hyn o bryd, gan gynnwys Nationwide, HSBC, Barclays. 

  14. Gweler y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol (2025) Cryfhau amddiffyniadau i lesddeiliaid ynglŷn â ffioedd, taliadau a gwasanaethau: ymgynghoriad: Strengthening leaseholder protections over charges and services: consultation - GOV.UK