Ymgynghoriad caeedig

Lesddaliad modern: cyfyngu ar renti tir ar gyfer lesoedd presennol​

Applies to England and Wales

Rydym yn dadansoddi eich adborth

Dewch yn ôl at y wefan hon yn fuan i lwytho'r canlyniad i lawr ar gyfer yr adborth cyhoeddus hwn.

Crynodeb

Mae'r ymgynghoriad hwn yn ceisio barnau ar gyfyngu ar lefel y rhenti tir y gall fod yn ofynnol i lesddeiliaid eu talu yng Nghymru a Lloegr.

Roedd yr ymgynghoriad hwn yn rhedeg o
to

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

​Rydym yn ymgynghori ar nifer o opsiynau i gapio’r uchafswm rhent tir y gall fod yn ofynnol i lesddeiliaid preswyl eu talu yng Nghymru a Lloegr. Mae’r ymgynghoriad yn amlinellu 5 opsiwn gan gynnwys;   

  • ​capio rhent tir i hedyn pupur (dim gwerth ariannol)  
  • ​capio rhent tir i uchafswm gwerth absoliwt  
  • ​capio rhent tir i ganran o werth yr eiddo  
  • ​capio rhent tir ar y swm gwreiddiol ydoedd pan gafodd y les ei rhoi  
  • ​rhewi rhenti tir ar y lefelau presennol  

​Mae’n gofyn am sylwadau ar y canlynol:   

  • ​ystod lawn y problemau y gall rhenti tir presennol eu hachosi i lesddeiliaid, a graddfa’r problemau hyn    
  • ​ym marn yr ymatebwyr, pa opsiwn o ran capio rhenti tir yw’r un iawn i gyflawni ein nod o roi bargen decach i lesddeiliaid  
  • ​a ddylai fod cyfnod o oedi cyn rhoi unrhyw gap ar waith, a’r   
  • ​mathau o lesoedd y mae angen eu heithrio o unrhyw gap i renti tir    

​Sut i ymateb: 

​Os ydych yn ymateb yn ysgrifenedig, nodwch yn glir pa gwestiynau rydych yn ymateb iddynt.  

​Dylid anfon ymatebion ysgrifenedig at:  

​Ground Rent Consultation, 3 SW, Fry Building, 2 Marsham Street, London, SW1P 4DF

​Pan fyddwch yn ymateb, byddai’n ddefnyddiol iawn pe gallech gadarnhau a ydych yn ymateb fel unigolyn neu’n cyflwyno ymateb swyddogol ar ran sefydliad a chynnwys:   

​- eich enw,  ​- eich swydd (os yw’n berthnasol),  ​- enw’r sefydliad (os yw’n berthnasol),  ​- cyfeiriad (gan gynnwys cod post),  ​- cyfeiriad e-bost, a   ​- rhif ffôn cyswllt 

​​Neu gallwch anfon eich ymateb i’r cwestiynau yn yr ymgynghoriad hwn atom drwy e-bost i Groundrents.Consultation@levellingup.gov.uk

Dogfennau

Cyhoeddwyd ar 6 December 2023
Diweddarwyd ddiwethaf ar 8 December 2023 + show all updates
  1. Mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i ymestyn am 4 wythnos arall ac mae bellach yn cau ar 17 Ionawr 2024.

  2. First published.