Gwybodaeth Berthnasol mewn Rhestriadau Eiddo
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Rydym yn ceisio safbwyntiau ar sut gall ein harweiniad gynorthwyo asiantiaid eiddo â’u cyfrifoldeb cyfreithiol i ddarparu gwybodaeth berthnasol i ddarpar brynwyr yn ystod trafodiadau eiddo preswyl.
Rydym hefyd yn ceisio safbwyntiau ar yr hyn y dylid ei ystyried yn wybodaeth berthnasol i brynwyr.
Mae’r broses prynu a gwerthu cartref yn un hir, gymhleth a rhwystredig i ddefnyddwyr a gweithwyr eiddo proffesiynol. Un o’r rhesymau allweddol dros yr aneffeithlonrwydd hwn yw ei bod hi’n aml yn anodd i ddefnyddwyr a gweithwyr proffesiynol gael gafael ar y wybodaeth iawn ar yr adeg iawn. Nid yw problemau arwyddocaol a allai effeithio ar benderfyniad prynwr yn dod i’r amlwg tan ar ôl i’w gynnig gael ei dderbyn.
Cydnabyddwn fod cael gafael ar wybodaeth berthnasol, ei dehongli a’i chyhoeddi yn gallu bod yn heriol yng nghyd-destun gwerthiannau eiddo. Felly, bwriadwn gynhyrchu arweiniad newydd sy’n nodi’r hyn sy’n debygol o gael ei ystyried yn wybodaeth berthnasol, sy’n helpu gweithwyr proffesiynol i gyflawni eu cyfrifoldebau cyfreithiol ac sy’n arwain at wasanaeth o ansawdd gwell i ddefnyddwyr.
Ymgynghoriad cyhoeddus yw hwn a chroesawn safbwyntiau gan unrhyw un sydd â diddordeb mewn prynu a gwerthu cartrefi. Gwahoddir safbwyntiau yn arbennig gan:
- asiantiaid eiddo
- gweithwyr eiddo proffesiynol eraill sy’n ymwneud â phrynu a gwerthu cartrefi
- aelodau o’r cyhoedd sydd wedi profi’r broses fel prynwr neu werthwr
Dogfennau
Ffyrdd o ymateb
or
E-bostio at:
homebuyingandselling@communities.gov.uk
Ysgrifennu at:
Home Buying and Selling Consultation,
Attn: Homeownership Division,
Fry Building,
2 Marsham Street,
Westminster,
London,
SW1P 4DF