Ymgynghoriad ar gynllun rheoli pysgodfeydd arfaethedig ar gyfer rhywogaethau dyfnforol y Môr Celtaidd a Gorllewin Sianel Lloegr
Yn berthnasol i Loegr a Chymru
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Rydym eisiau cael eich barn am y polisïau a’r mesurau rheoli arfaethedig a amlinellir yng nghynllun rheoli pysgodfeydd (FMP) arfaethedig rhywogaethau dyfnforol y Môr Celtaidd a Gorllewin Sianel Lloegr ar gyfer dyfroedd Cymru a Lloegr.
Mae’r FMP arfaethedig wedi cael ei ddatblygu gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) a Llywodraeth Cymru mewn partneriaeth â’r Sefydliad Rheoli Morol (MMO).
Mae’r FMP hwn yn amlinellu cynlluniau ar gyfer rheoli stociau dyfnforol y Môr Celtaidd a Gorllewin Sianel Lloegr yn nyfroedd Cymru a Lloegr yn gynaliadwy yn y tymor hir.
Rydym hefyd yn ceisio safbwyntiau ar adroddiad amgylcheddol, sy’n disgrifio effeithiau amgylcheddol tebygol yr FMP.