Publication

Ymateb y llywodraeth: datgelu taliadau'r diwydiant i'r sector gofal iechyd

Updated 28 January 2026

Mae cyfeiriadau at y ‘llywodraeth’ yn y ddogfen hon yn ymwneud â llywodraeth y DU yn San Steffan. Mae swyddogion y gwledydd datganoledig wedi bod yn ymwneud cryn dipyn â’r gwaith hwn.

Cefndir

Mae’r diwydiant gwyddorau bywyd yn hanfodol i iechyd y genedl, gan ddatblygu arloesedd mewn meddyginiaethau a dyfeisiau meddygol sy’n gwella ansawdd bywyd dinasyddion ledled y DU. Er mwyn cyflawni hyn, mae’r diwydiant yn gweithio’n agos gydag ysbytai, clinigwyr ac ymchwilwyr blaenllaw i ddatblygu cynhyrchion a sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio yn ddiogel ac yn effeithiol.

Weithiau, mae’r perthnasoedd hyn yn cynnwys darparu taliadau a buddion gan y diwydiant fel grantiau ymchwil, digwyddiadau hyfforddi ac ad-daliad am waith megis profi ac ymgynghori.

Ym mis Gorffennaf 2020, cyhoeddwyd adroddiad First Do No Harm ar adolygiad Independent Medicines and Medical Devices Safety (IMMDS), dan arweiniad y Farwnes Cumberlege, a fu’n ymchwilio i 3 ymyrraeth feddygol a arweiniodd at ganlyniadau andwyol:

  • profion beichiogrwydd yn seiliedig ar hormonau (HPTs) - profion, megis Primodos, a dynnwyd yn ôl o’r farchnad ar ddiwedd y 1970au y credir eu bod yn gysylltiedig â namau geni a chamesgoriadau
  • sodiwm falproad - cyffur atal epilepsi effeithiol sy’n achosi camffurfiadau corfforol, awtistiaeth ac oedi yn natblygiad llawer o blant pan fo eu mamau yn ei gymryd yn ystod eu beichiogrwydd
  • mewnblaniadau rhwyll pelfig - fe’u defnyddiwyd wrth atgyweirio cwymp organau pelfig yn llawfeddygol ac i reoli anymataliaeth straen wrinol. Bu eu defnydd yn gysylltiedig â chymhlethdodau andwyol sy’n newid bywydau

Derbyniodd y llywodraeth ar y pryd gasgliad cyffredinol adroddiad IMMDS: bod y system wedi methu â gwrando ar gleifion neu roi cleifion wrth wraidd eu gofal.

Mae’r gwaith dilynol wedi canolbwyntio ar:

  • wella sut mae’r system yn gwrando ar bryderon a godir gan gleifion ac yn ymateb iddynt
  • cryfhau’r sylfaen dystiolaeth y gwneir penderfyniadau arni, gan gynnwys drwy sicrhau bod y data cywir yn cael eu casglu a’u defnyddio
  • gwella diogelwch meddyginiaethau a dyfeisiau

Fel y manylir yn ymateb y llywodraeth i adroddiad IMMDS, derbyniodd y llywodraeth flaenorol 7 o’r 9 argymhelliad yn llawn, yn rhannol neu mewn egwyddor. Mae pedwar o’r rhain wedi eu gweithredu’n llwyddiannus, gan gynnwys:

  • cyhoeddi ymddiheuriad diamheuol ar ran y system gofal iechyd
  • penodi’r Comisiynydd Diogelwch Cleifion cyntaf erioed yn Lloegr mewn cysylltiad â meddyginiaethau a dyfeisiau meddygol
  • sefydlu 9 canolfan rhwyllau arbenigol sy’n weithredol ledled Lloegr
  • sefydlu a chydweithio â Grŵp Cyfeirio Cleifion er mwyn helpu i ddatblygu’r ymateb i adolygiad IMMDS

Yn rhan o’r wythfed argymhelliad, cododd adolygiad IMMDS bryderon am y gwrthdaro buddiannau gwirioneddol a chanfyddedig wrth ddarparu gofal neu drin cleifion, lle mae gan glinigwyr gysylltiadau ariannol â chwmnïau fferylliaeth a dyfeisiau meddygol.

Noda adolygiad IMMDS:

Rydym wedi clywed pryderon penodol [gan gleifion] bod clinigwyr wedi cael eu talu neu eu cymell fel arall gan wneuthurwyr. Gallai hyn ddylanwadu ar eu harferion, a’r camau gweithredu y maent yn eu hargymell i gleifion, megis rhoi blaenoriaeth i ddefnyddio gweithdrefnau neu gyffuriau penodol.

Mae adolygiad IMMDS yn cydnabod system Disclosure UK Cymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain (ABPI) sy’n cyhoeddi gwybodaeth am daliadau a buddion mewn nwyddau a wneir i’r sector gofal iechyd gan gwmnïau fferylliaeth sy’n cydymffurfio â chod ABPI. Gwnaeth 151 o gwmnïau ddatganiadau drwy Disclosure UK yn 2025. Pwysleisia adroddiad IMMDS nad oes system debyg ar waith ar gyfer y sector dyfeisiau meddygol yn y DU.

Noda adolygiad IMMDS:

Dylai gwneuthurwyr meddyginiaethau a dyfeisiau meddygol … sicrhau eu bod yn cyhoeddi manylion taliadau a thaliadau mewn nwyddau y maent yn eu gwneud i ysbytai addysgu, sefydliadau ymchwil ac unigolion.

Ers ymateb y llywodraeth i adolygiad IMMDS, rydym wedi ystyried ffyrdd o gryfhau gofynion adrodd y diwydiant drwy ymgysylltu â:

  • chleifion
  • rheoleiddwyr proffesiynol
  • clinigwyr
  • academyddion
  • cymdeithasau masnach
  • y diwydiant

Rydym yn gwybod bod gan gymdeithasau masnachu meddyginiaethau a dyfeisiau meddygol godau ymddygiad ar waith sy’n gosod safonau ar gyfer sut y dylai busnesau ymgysylltu ag ymchwilwyr a darparwyr gofal iechyd. Mae’r rhain yn ategu codau ymddygiad proffesiynol y mae’n ofynnol i weithwyr gofal iechyd proffesiynol eu dilyn.

Yn 2023, lansiodd y llywodraeth ar y pryd ymgynghoriad cyhoeddus i ofyn am safbwyntiau unigolion a sefydliadau mewn cysylltiad â datgelu taliadau y diwydiant i’r sector gofal iechyd.

Mae’r ddogfen hon yn rhoi trosolwg o’r ymatebion a dderbyniwyd yn rhan o’r ymgynghoriad, a sut mae’r ymatebion wedi llywio cynlluniau y llywodraeth i fynd i’r afael â’r materion a godwyd.

Crynodeb o’r ymatebion

Datblygwyd arolwg cyhoeddus ar-lein fel y gall ymatebwyr roi eu safbwyntiau ar y cwestiynau a ofynnwyd yn rhan o ymgynghoriad y llywodraeth. Roedd ar agored am gyfnod o 6 wythnos rhwng 4 Medi a 16 Hydref 2023. Rhannwyd yr arolwg hwn yn weithredol â rhanddeiliaid pwysig i sicrhau bod y rhai oedd â safbwyntiau neu brofiad enwedig o berthnasol yn cael y cyfle i gyfrannu. Derbyniwyd cyfanswm o 690 o ymatebion, sef 609 a dderbyniwyd trwy’r arolwg ac 81 a dderbyniwyd trwy e-bost.

O’r 609 o ymatebion i’r arolwg:

  • unigolion yn rhannu eu safbwyntiau a’u profiadau personol oedd 423 (69.5%) (‘unigolion’)
  • unigolion yn rhannu eu safbwyntiau proffesiynol oedd 100 (16.4%) (‘gweithwyr proffesiynol’)
  • roedd 83 (13.5%) yn ymateb ar ran sefydliad (‘sefydliadau’), gan gynnwys cymdeithasau masnach a busnesau preifat
  • roedd 3 (0.5%) yn ymateb fel academyddion neu ymchwilwyr (‘academyddion’)

Tabl 1: ymatebion i’r arolwg fesul cenedl ddatganoledig

Categori yr ymatebydd Lloegr Yr Alban Cymru Gogledd Iwerddon Rwy’n byw y tu allan i’r Deyrnas Unedig Heb ei Nodi
Unigolion 332 52 16 9 11 3
Gweithwyr proffesiynol 79 6 5 1 9 0
Sefydliadau 0 0 0 0 0 83
Academyddion 0 0 0 0 0 3

Yn ogystal â’r arolwg ar-lein, derbyniwyd 81 o ymatebion drwy e-bost ac fe’u hystyriwyd yn ffurfiol yn rhan o’r ymgynghoriad hwn. Pan deimlwyd bod sylwadau neu farn a fynegwyd mewn ymatebion e-bost yn cyd-fynd yn glir ag ateb safonol (megis ‘cytuno’) i gwestiwn arolwg penodol, cawsant eu hintegreiddio i’r dadansoddiad meintiol fel ‘unigolion’.

Pan oedd sylwadau neu farn yn cynnwys gwybodaeth sy’n berthnasol i thema’r cwestiwn, ond na theimlwyd eu bod yn cyd-fynd yn glir ag ateb safonol, fe’u cynhwyswyd ar gyfer dadansoddiad ansoddol yn yr adrannau dadansoddi ymatebion ar ffyrdd testun rhydd.

Dylid nodi, o’r 81 o e-byst, fod 65 ohonynt wedi eu derbyn yn rhan o ymgyrch. Er bod amrywiadau yn yr e-byst hyn, roedd llawer ohonynt yn dilyn fformat tebyg. Er eglurder, gwnaed cyfeiriad penodol ochr yn ochr ag unrhyw gwestiwn lle’r oedd yr e-byst ymgyrchu hyn wedi eu cynnwys yn y dadansoddiad meintiol.

Cytunodd y mwyafrif (91.6%) o’r ymatebwyr, ar draws categorïau ymateb, â’r cynnig i fynnu bod gwybodaeth am daliadau neu fuddion eraill i bobl neu sefydliadau sy’n gysylltiedig â darparu gofal iechyd (cyhoeddus a phreifat) yn cael ei chyhoeddi.

Yn gyffredinol, roedd ymatebwyr yn teimlo y dylai cwmpas rhwymedigaethau o’r fath fod yn eang ac yn berthnasol i ystod eang o unigolion neu sefydliadau sy’n ymwneud â gofal iechyd yn fwy cyffredinol. Er bod cefnogaeth (74.3%) i gynigion i’w gwneud yn ofynnol i fusnesau gyhoeddi gwybodaeth am daliadau ar hafan eu gwefan yn y DU, roedd nifer sylweddol o ymatebwyr yn ffafrio cronfa data cyhoeddus sengl, canolog, a ddalir gan y llywodraeth.

Yn gyffredinol, roedd yr ymatebwyr o blaid (72.8%) monitro cydymffurfiaeth a chosbau ariannol dan arweiniad y llywodraeth (55.1%) fel modd effeithiol o atal diffyg cydymffurfiaeth. Roedd rhai ymatebwyr, fodd bynnag, yn amheus o adrodd gwirfoddol ac yn teimlo bod adrodd gorfodol yn ffafriol.

Mae adran ‘Dadansoddi data’ yn darparu gwerthusiad manylach o’r ymatebion i bob un o gwestiynau yr arolwg.

Ymateb y Llywodraeth

Mae’r llywodraeth yn dymuno mynegi ei diolchgarwch i bawb a gyfrannodd at yr ymgynghoriad hwn, ac am eu hamynedd pan oedd y dadansoddiad a’r ymateb yn cael eu cwblhau.

Mae’n amlwg o’r mwyafrif o’r ymatebion bod angen gwell tryloywder ynghylch taliadau a wneir rhwng y diwydiant a:

  • gweithiwr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig
  • sefydliadau sy’n darparu gofal iechyd
  • sefydliadau sy’n gysylltiedig â darparu gofal iechyd

Mae’r llywodraeth yn cefnogi’r teimlad hwn yn llawn, gan gydnabod pwysigrwydd galluogi cleifion i wneud penderfyniadau gwybodus am eu gofal eu hunain a gwella tryloywder taliadau y diwydiant.

Mewn ymateb i’r ymgynghoriad hwn, bydd y llywodraeth yn datblygu ac yn cyhoeddi canllawiau clir mewn cysylltiad â datgelu taliadau a wneir gan y diwydiannau meddyginiaethau a dyfeisiau meddygol i’r sector gofal iechyd. Bydd y canllawiau hyn yn nodi’r arferion gorau i’r diwydiant eu dilyn, a fydd yn rhoi cyngor ar:

  • ba daliadau y dylid eu hadrodd
  • fformat yr adroddiadau
  • amlder adrodd

Bydd y llywodraeth yn monitro’r nifer sy’n mabwysiadu’r canllawiau hyn sydd ar ddod.

Er bod y llywodraeth yn cydnabod bod nifer o randdeiliaid yn ffafrio dull deddfwriaethol o ddatgelu taliadau, bydd y dull hwn ar sail canllawiau yn caniatáu i gleifion elwa o ddiwydiant sy’n adrodd yn gyflymach, heb oediadau ychwanegol posibl yn sgil cyflwyno deddfwriaeth a sefydlu system adrodd a chydymffurfio y llywodraeth. Bydd y cam cadarnhaol hwn tuag at dryloywder yn ychwanegu eglurder at y berthynas rhwng y diwydiant a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, gan gynorthwyo cleifion i wneud penderfyniadau gwybodus am eu gofal.

Yn ystod y misoedd nesaf, bydd swyddogion yn gweithio gyda rhanddeiliaid i ddatblygu set gadarn o ganllawiau, gan ystyried yn ofalus yr amrywiaeth o awgrymiadau gwerthfawr i’r ymgynghoriad a ddarperir gan ymatebwyr. Bydd hyn yn sicrhau bod y canllawiau yn gynhwysfawr ac yn cynnwys yr holl daliadau perthnasol i weithwyr proffesiynol sy’n gysylltiedig â gofal iechyd.

Hyd yn hyn, ni fu canllawiau llywodraeth ffurfiol ar gael i’r diwydiant eu dilyn y gall cleifion eu defnyddio i ddwyn y sector i gyfrif. Bydd y cam hwn yn darparu sicrwydd i’r diwydiant a rhanddeiliaid, yn ogystal â llwybr clir i wella tryloywder a gwella diogelwch y cyhoedd.

Mae’r penderfyniad hwn hefyd yn cyd-fynd ag ymrwymiad y llywodraeth i leihau’r baich rheoleiddio ar y diwydiant. Bydd yn rhoi’r lle i’r diwydiant ddangos arweinyddiaeth ac ymrwymiad i dryloywder, gan leihau gofynion rheoleiddiol a allai fod yn enwedig o niweidiol i fusnesau bach a micro.

Casgliad

Wrth wneud y penderfyniadau hyn, mae’r llywodraeth wedi adolygu’r ymatebion a dderbyniwyd yn rhan o’r ymgynghoriad hwn yn ofalus.

Mae’r llywodraeth yn cydnabod cryfder barn yn y maes hwn ac yn cytuno â phwysigrwydd tryloywder a datblygu system lle mae gwrthdaro buddiannau ariannol yn cael ei wneud yn gyhoeddus. Mae’r llywodraeth yn credu’n gryf y bydd cyflwyno canllawiau yn helpu i greu diwylliant o dryloywder a didwylledd yn y sector iechyd, er budd cleifion yn y pen draw.

Bydd y cynllun a amlinellir uchod yn darparu eglurder a strwythur fel y gall y diwydiant arwain y ffordd ymlaen a dangos ei ymrwymiad i ddiogelwch cleifion a thryloywder.

Bydd hefyd yn rhoi’r oruchwyliaeth angenrheidiol i’r llywodraeth i fonitro’r cynnydd ac i gadw’r dewis o gymryd camau rheoleiddiol neu ddeddfwriaethol ychwanegol, os oes angen.

Dadansoddi data

Mae adran hon yn darparu dadansoddiad o’r ymatebion i bob un o gwestiynau yr arolwg.

Oherwydd nad atebodd rhai ymatebwyr bob cwestiwn, neu oherwydd eu bod wedi darparu ymateb safonol yn ogystal â chyflwyniad testun rhydd, nid 690 fydd cyfanswm y ffigurau bob amser.

Busnesau efallai y bydd angen iddynt gyhoeddi gwybodaeth

Cwestiwn 1: mae’r llywodraeth yn cynnig gwneud y busnesau canlynol yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd i adrodd hon: gwneuthurwyr a chyflenwyr masnachol meddyginiaethau, dyfeisiau meddygol a sylweddau ffiniol. A ydych yn cytuno â’r cynnig hwn? 

O’r 605 o ymatebion i’r cwestiwn hwn:

  • roedd 551 yn cytuno
  • roedd 17 yn anghytuno
  • dywedodd 2 nad oeddent yn gwybod
  • dywedodd 35 fod ganddynt awgrym arall

Tabl 2: dadansoddi’r ymatebion yn ôl categori yr ymatebydd

Categori yr ymatebydd Cytuno Anghytuno Ddim yn gwybod Mae gennyf awgrym arall
Unigolion 406 5 1 10
Gweithwyr proffesiynol 84 9 1 6
Corff rheoleiddio 1 0 0 0
Sefydliadau 58 3 0 19
Academyddion 2 0 0 0

Roedd 35 o ymatebion testun rhydd ar gyfer cwestiwn 1. Thema gyson ar draws yr ymatebwyr oedd y dylid cynnwys amrywiaeth ehangach o sefydliadau yng nghwmpas unrhyw waith adrodd yn y dyfodol, megis:

  • elusennau
  • gwerthwyr trydydd parti
  • clinigau preifat
  • milfeddygon
  • gwneuthurwyr cosmetig a chynnyrch ffiniol
  • gwneuthurwyr fformiwla llaeth masnachol ar gyfer menywod sy’n bwydo ar y fron
  • darparwyr meddalwedd a/neu wasanaethau TG

Gofynnodd pedwar ymatebydd o sefydliadau am ddiffiniad clir o’r taliadau a fyddai’n berthnasol yn achos cynhyrchion ffiniol yn benodol. Roedd pedwar unigolyn yn teimlo bod taliadau eu hunain yn amhriodol a/neu y dylid eu gwahardd.

Derbynwyr perthnasol

Cwestiwn 2: mae’r llywodraeth yn cynnig ei gwneud yn ofynnol i gyhoeddi gwybodaeth am daliadau neu fuddion eraill a ddarperir i weithwyr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig, sefydliadau darparwyr gofal iechyd a sefydliadau sy’n gysylltiedig â darparu gofal iechyd, heb reoliadau sy’n gwahaniaethu rhwng sectorau cyhoeddus a phreifat. A ydych yn cytuno â’r cynnig hwn? 

O’r 666 o ymatebion i’r cwestiwn hwn:

  • roedd 610 yn cytuno
  • roedd 26 yn anghytuno
  • dywedodd 3 nad oeddent yn gwybod
  • ymatebodd 27 ‘arall’

Tabl 3: dadansoddi’r ymatebion yn ôl categori yr ymatebydd

Categori yr ymatebydd Cytuno Anghytuno Ddim yn gwybod Arall
Unigolion 470 8 0 6
Gweithwyr proffesiynol 83 12 2 3
Corff rheoleiddio 0 0 0 1
Sefydliadau 56 6 1 16
Academyddion 1 0 0 1

Noder bod ymatebion gan unigolion yn cytuno â’r cynnig hwn yn cynnwys 63 o negeseuon e-bost ymgyrchu.

Roedd 27 o ymatebion testun rhydd ar gyfer cwestiwn 2. Thema gyffredinol, ar draws categorïau ymatebwyr, oedd yr angen am eglurder wrth nodi gweithwyr proffesiynol neu sefydliadau y byddai rheoliadau yn berthnasol iddynt. Roedd enghreifftiau penodol yn cynnwys:

  • gweithwyr proffesiynol sy’n gysylltiedig ag iechyd nad ydynt yn ymwneud yn uniongyrchol â chleifion
  • is-grwpiau gofal iechyd proffesiynol (megis seicotherapyddion)
  • grwpiau sydd wedi eu diffinio yn llai clir, megis:
    • newyddiadurwyr
    • elusennau
    • sefydliadau eirioli dros gleifion
    • cyrff proffesiynol

Cwestiwn 3: a ydych chi neu eich busnes yn gwneud taliadau neu’n darparu buddion eraill i weithwyr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig a sefydliadau darparwyr gofal iechyd ar hyn o bryd?

O’r 553 o ymatebwyr i’r cwestiwn hwn:

  • dywedodd 79 ydw
  • dywedodd 453 nac ydw
  • dywedodd 21 nad oeddent yn gwybod

Tabl 4: dadansoddi’r ymatebion yn ôl categori yr ymatebydd

Categori yr ymatebydd Ydw Nac ydw Ddim yn gwybod
Unigolion 18 353 14
Gweithwyr proffesiynol 15 72 6
Corff rheoleiddio 0 1 0
Sefydliadau 46 26 1
Academyddion 0 1 0

Cwestiwn 4: a ydych chi neu eich sefydliad yn derbyn taliadau neu’n derbyn buddion eraill gan wneuthurwyr neu gyflenwyr cynhyrchion gofal iechyd ar hyn o bryd? 

O’r 556 o ymatebwyr i’r cwestiwn hwn:

  • dywedodd 47 ydw
  • dywedodd 474 nac ydw
  • dywedodd 35 nad oeddent yn gwybod

Tabl 5: dadansoddi’r ymatebion yn ôl categori yr ymatebydd

Categori yr ymatebydd Ydw Nac ydw Ddim yn gwybod
Unigolion 10 360 13
Gweithwyr proffesiynol 21 59 17
Corff rheoleiddio 0 1 0
Sefydliadau 16 53 5
Academyddion 0 1 0

Cwestiwn 5: mae’r llywodraeth yn cynnig ei gwneud yn ofynnol i gyhoeddi gwybodaeth am daliadau neu fuddion eraill a ddarperir i unrhyw sefydliad sy’n ymwneud ag ymchwil neu hyfforddiant meddygol. Dylai taliadau i ganghennau elusen ysbyty neu sefydliadau tebyg sy’n gysylltiedig â darparwyr gofal iechyd fod yn berthnasol hefyd. Pa rai o’r sefydliadau canlynol ydych yn meddwl y dylid eu cynnwys yng nghwmpas y rheoliadau hyn? Dewiswch yr holl sefydliadau yr ydych yn credu y dylid eu cynnwys (caniateir atebion lluosog) 

Cafwyd 587 o ymatebion ar gyfer y cwestiwn amlddewis hwn.

Tabl 6: dadansoddiad o’r ymatebion fesul ateb

Ateb Nifer yr ymatebion
Canghennau elusen ysbyty 512
Sefydliadau ymchwil meddygol neu glinigol (gan gynnwys elusennau ymchwil meddygol) 536
Cyrff proffesiynol sy’n gyfrifol am hyfforddiant craidd gweithwyr gofal iechyd proffesiynol (er enghraifft colegau brenhinol, Aelodaeth Coleg Brenhinol y Meddygon (MRCP)) 548
Darparwyr addysg neu hyfforddiant meddygol arall 527
Sefydliadau eirioli dros gleifion 495
Ddim yn gwybod 13
Arall - nodwch 111

Roedd 111 o ymatebion testun rhydd ar gyfer cwestiwn 5. Roedd rhestr nad yw’n gynhwysfawr o enghreifftiau ychwanegol yn cynnwys:

  • ASau a swyddogion y llywodraeth
  • ymddiriedolaethau y GIG
  • gweithwyr gofal iechyd proffesiynol nad ydynt wedi cofrestru neu weithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill nad ydynt wedi eu crybwyll fel arall yn y cwestiynau cynharach
  • nyrsys stoma a’r diwydiant stoma ehangach
  • darparwyr TG a staff anghlinigol sy’n ymwneud â chaffael
  • cymdeithasau proffesiynol
  • cyfnodolion iechyd a meddygol
  • sefydliadau ymchwil
  • academyddion

Gweithredu’r ddyletswydd

Amlder adrodd

Cwestiwn 6: mae’r llywodraeth yn cynnig ei gwneud yn ofynnol i fusnesau gyhoeddi gwybodaeth am daliadau ar eu gwefannau gyda dolen mewn man amlwg ar hafan y DU y wefan. A ydych yn cytuno neu’n anghytuno â’r cynnig hwn?

O’r 666 o ymatebion i’r cwestiwn hwn:

  • roedd 495 yn cytuno
  • roedd 29 yn anghytuno
  • dywedodd 9 nad oeddent yn gwybod
  • dywedodd 133 fod ganddynt awgrym arall

Tabl 7: dadansoddi’r ymatebion yn ôl categori yr ymatebydd

Categori yr ymatebydd Cytuno Anghytuno Ddim yn gwybod Mae gennyf awgrym arall
Unigolion 383 8 4 90
Gweithwyr proffesiynol 74 11 3 12
Corff rheoleiddio 0 0 0 0
Sefydliadau 38 10 2 29
Academyddion 0 0 0 2

Noder bod ymatebion gan unigolion sy’n nodi bod ganddynt awgrym arall yn cynnwys 62 o negeseuon e-bost ymgyrchu.

Roedd 133 o ymatebion testun rhydd ar gyfer cwestiwn 6. Thema gyffredinol, ar draws categorïau ymatebwyr, oedd y dylai gwybodaeth am daliadau fod ar gael drwy gronfa data canolog neu wefan. Roedd saith ymatebydd o sefydliadau yn teimlo y dylai Disclosure UK neu gynllun cyfatebol barhau i fod yn ddewis ar gyfer cyhoeddi datgeliadau. Nododd chwe ymatebydd o sefydliadau hefyd nad oedd gan bob cwmni wefannau yn y DU ac felly y byddent yn hoffi’r dewis o gyhoeddi mewn yn rhywle arall (megis gwefannau Ewropeaidd neu fyd-eang). Dywedodd 62 o negeseuon e-bost ymgyrchu eu bod yn ffafrio cronfa data cyhoeddus sengl, canolog, a ddalir gan y llywodraeth y gall y cyhoedd gael mynediad ati yn ddi-dâl.

Cwestiwn 7: mae’r llywodraeth yn cynnig ei gwneud yn ofynnol i fusnesau gyhoeddi manylion taliadau a buddion perthnasol ar eu gwefannau bob blwyddyn gyda dolen mewn man amlwg ar hafan y DU y wefan. Beth a ddylai’r gofyniad fod o ran amlder adrodd?

O’r 652 o ymatebion i’r cwestiwn hwn:

  • dywedodd 249 bob 12 mis
  • dywedodd 136 bob 6 mis
  • dywedodd 150 bob 3 mis
  • dywedodd 29 nad oeddent yn gwybod
  • ymatebodd 88 ‘arall’

Tabl 8: dadansoddi’r ymatebion yn ôl categori yr ymatebydd

Categori yr ymatebydd Bob 12 mis Bob 6 mis Bob 3 mis Ddim yn gwybod Arall
Unigolion 143 115 126 21 74
Gweithwyr proffesiynol 51 13 20 4 9
Corff rheoleiddio 0 0 0 0 0
Sefydliadau 54 8 4 4 5
Academyddion 1 0 0 0 0

Noder bod ymatebion gan unigolion yn ateb ‘arall’ yn cynnwys 63 o negeseuon e-bost ymgyrchu.

Roedd 88 o ymatebion testun rhydd ar gyfer cwestiwn 7. Ymhlith unigolion a gweithwyr proffesiynol, awgrymodd 9 ymatebydd y dylid adrodd mewn amser real neu mewn ymateb i newid sylweddol. Awgrymodd 63 o negeseuon e-bost ymgyrchu y dylai’r amlder adrodd fod yn unwaith y flwyddyn o leiaf.

Cwestiwn 8: mae’r llywodraeth yn cynnig ei gwneud yn ofynnol i fusnesau adrodd ar yr holl daliadau a buddion perthnasol a ddarperir dros y flwyddyn gyfan, os oeddent yn cyflenwi cynnyrch perthnasol ar ddechrau y cylch adrodd. A ydych yn cytuno neu’n anghytuno â’r cynnig hwn?

O’r 589 o ymatebion i’r cwestiwn hwn:

  • roedd 531 yn cytuno
  • roedd 30 yn anghytuno
  • dywedodd 28 nad oeddent yn gwybod

Tabl 9: dadansoddi’r ymatebion yn ôl categori yr ymatebydd

Categori yr ymatebydd Cytuno Anghytuno Ddim yn gwybod
Unigolion 388 17 12
Gweithwyr proffesiynol 81 10 8
Corff rheoleiddio 1 0 0
Sefydliadau 61 3 8
Academyddion 0 0 0

Cyflwyno i byrth neu systemau eraill

Cwestiwn 9: mae’r llywodraeth yn cynnig caniatáu drwy eithriad i fusnesau gydymffurfio â’r gofynion adrodd drwy gynllun trydydd parti. Dim ond cynlluniau sy’n cyrraedd safonau rheoleiddiol fyddai’n cael eu dynodi gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol. A ydych yn cytuno neu’n anghytuno â’r cynnig hwn?

O’r 584 o ymatebion i’r cwestiwn hwn:

  • roedd 191 yn cytuno
  • roedd 274 yn anghytuno
  • dywedodd 119 nad oeddent yn gwybod

Tabl 10: dadansoddi’r ymatebion yn ôl categori yr ymatebydd

Categori yr ymatebydd Cytuno Anghytuno Ddim yn gwybod
Unigolion 118 201 90
Gweithwyr proffesiynol 27 49 22
Corff rheoleiddio 1 0 0
Sefydliadau 44 24 7
Academyddion 1 0 0

Cwestiwn 10: a ydych yn adrodd unrhyw daliadau i Disclosure UK ar hyn o bryd, sef cynllun gwirfoddol sy’n cael ei redeg gan Cymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain (ABPI)?

O’r 537 o ymatebion i’r cwestiwn hwn:

  • dywedodd 37 ydw
  • dywedodd 480 nac ydw
  • dywedodd 20 nad oeddent yn gwybod

Tabl 11: dadansoddi’r ymatebion yn ôl categori yr ymatebydd

Categori yr ymatebydd Ydw Nac ydw Ddim yn gwybod
Unigolion 6 355 8
Gweithwyr proffesiynol 8 77 7
Corff rheoleiddio 0 1 0
Sefydliadau 23 46 5
Academyddion 0 1 0

Cwestiwn 11: a fyddech yn ystyried cymryd rhan mewn cynllun tebyg neu lansio cynllun tebyg pe byddai hyn yn golygu y gallech chi neu eich aelodau gael eich eithrio o’r ddyletswydd ddeddfwriaethol i adrodd taliadau ar eich gwefan eich hun?

O’r 459 o ymatebion i’r cwestiwn hwn:

  • dywedodd 61 byddwn
  • dywedodd 213 na fyddwn
  • dywedodd 185 nad oeddent yn gwybod

Tabl 12: dadansoddi’r ymatebion yn ôl categori yr ymatebydd

Categori yr ymatebydd Byddwn Na fyddwn Ddim yn gwybod
Unigolion 27 157 135
Gweithwyr proffesiynol 10 34 34
Corff rheoleiddio 0 0 0
Sefydliadau 24 22 16
Academyddion 0 0 0

Gwybodaeth i’w chyhoeddi a diogelu data

Cwestiwn 12: mae’r llywodraeth yn cynnig ei gwneud yn ofynnol i gyhoeddi cofrestr o daliadau gyda chofnodion sy’n cynnwys enw’r derbynnydd, gwerth swm blynyddol y taliadau a’r buddion a wneir, a rhestr gyflawn o resymau dros bob taliad a budd. Os yw’r derbynnydd yn unigolyn, byddem yn gofyn i fusnesau gyhoeddi eu rhif cyflogwr a’u rhif cofrestru proffesiynol (os yw hynny’n berthnasol ac wedi ei gyhoeddi gan y corff proffesiynol). Pa wybodaeth ydych yn meddwl y dylid ei chyhoeddi?

Cafwyd 601 o ymatebion ar gyfer y cwestiwn amlddewis hwn.

Tabl 13: dadansoddiad o’r canlyniadau fesul ateb

Ateb Nifer yr ymatebion
Enw’r derbynnydd 549
Gwerth swm blynyddol y taliadau a’r buddion 552
Rhestr gyflawn o’r rhesymau dros bob taliad a budd 522
Os yw’r derbynnydd yn unigolyn, eu rhif gweithle a’u rhif cofrestru proffesiynol (os yw hynny’n berthnasol ac wedi ei gyhoeddi gan y corff proffesiynol) 495
Dim un o’r uchod 24
Ddim yn gwybod 15

Cwestiwn 13: mae’r llywodraeth yn cynnig ei gwneud yn ofynnol i ddatganiadau aros yn y parth cyhoeddus am o leiaf 3 blynedd. Dewiswch eich hoff amserlen o’r dewisiadau canlynol.

O’r 593 o ymatebion i’r cwestiwn hwn:

  • dywedodd 36 o leiaf 1 mlynedd
  • dywedodd 118 o leiaf 3 blynedd
  • dywedodd 345 o leiaf 5 mlynedd
  • dywedodd 11 nad oeddent yn gwybod
  • ymatebodd 83 ‘arall’

Tabl 14: dadansoddi’r ymatebion yn ôl categori yr ymatebydd

Categori yr ymatebydd O leiaf 1 mlynedd O leiaf 3 blynedd O leiaf 5 mlynedd Ddim yn gwybod Arall
Unigolion 28 45 282 6 57
Gweithwyr proffesiynol 2 28 48 4 16
Corff rheoleiddio 0 0 1 0 0
Sefydliadau 6 45 14 1 8
Academyddion 0 0 0 0 2

Roedd 67 o ymatebion testun rhydd ar gyfer Cwestiwn 13. Roedd pob grŵp ymatebwyr yn tueddu i ffafrio cadw datganiadau yn gyhoeddus am gyfnodau hirach (megis 20 mlynedd neu ‘hyd gyrfa’), ac awgrymodd 31 o ymatebwyr y dylai’r wybodaeth fod yn y parth cyhoeddus am gyfnod amhenodol. Awgrymodd ychydig o ymatebwyr y dylid sicrhau cysondeb â gofynion neu ddeddfwriaeth bresennol (megis Rheoliadau Dyfeisiau Meddygol 2002 a Deddf Cyfyngiadau 1980) neu fod amserlenni yn gymesur ag amser neu oes datblygu cynnyrch.

Gorfodi

Cwestiwn 14: a ddylid monitro cydymffurfiaeth â’r gofynion?

O’r 602 o ymatebion i’r cwestiwn hwn:

  • dywedodd 569 dylid
  • dywedodd 20 na ddylid
  • dywedodd 13 nad oeddent yn gwybod

Tabl 15: dadansoddi’r ymatebion yn ôl categori yr ymatebydd

Categori yr ymatebydd Dylid Na ddylid Ddim yn gwybod
Unigolion 413 4 5
Gweithwyr proffesiynol 88 7 5
Corff rheoleiddio 1 0 0
Sefydliadau 66 9 3
Academyddion 1 0 0

Cwestiwn 15: pa mor aml y dylid monitro cydymffurfiaeth â’r gofynion?

O’r 544 o ymatebion i’r cwestiwn hwn:

  • dywedodd 92 bob 3 mis
  • dywedodd 103 bob 6 mis
  • dywedodd 285 bob 12 mis
  • dywedodd 37 bob 24 mis
  • dywedodd 27 nad oeddent yn gwybod

Tabl 16: dadansoddi’r ymatebion yn ôl categori yr ymatebydd

Categori yr ymatebydd Bob 3 mis Bob 6 mis Bob 12 mis Bob 24 mis Ddim yn gwybod
Unigolion 81 86 188 25 19
Gweithwyr proffesiynol 9 8 57 6 4
Corff rheoleiddio 0 0 0 0 0
Sefydliadau 2 9 39 6 4
Academyddion 0 0 1 0 0

Roedd 11 o ymatebion testun rhydd ar gyfer cwestiwn 15. Awgrymodd 4 ymatebydd fonitro parhaus neu ddyddiol. Roedd awgrymiadau eraill yn cynnwys monitro neu fonitro ‘ar hap’ yn seiliedig ar bryderon cydymffurfio yn y gorffennol neu bresennol.

Cwestiwn 16: pwy ddylai fonitro cydymffurfiaeth?

O’r 464 o ymatebion i’r cwestiwn hwn:

  • dywedodd 57 corff masnach
  • dywedodd 338 y llywodraeth
  • dywedodd 53 nad oeddent yn gwybod
  • ymatebodd 16 ‘arall’

Tabl 17: dadansoddi’r ymatebion yn ôl categori yr ymatebydd

Categori yr ymatebydd Corff masnach Y llywodraeth Ddim yn gwybod Arall
Unigolion 35 250 40 15
Gweithwyr proffesiynol 9 53 5 1
Corff rheoleiddio 0 0 0 0
Sefydliadau 13 35 8 0
Academyddion 0 0 0 0

Dewisodd rhai ymatebwyr ateb penodol gan ddarparu awgrym testun rhydd.

Roedd 93 o ymatebion testun rhydd ar gyfer cwestiwn 16. Thema nodedig ar draws categorïau ymatebwyr oedd ffafriaeth i fonitro cydymffurfiaeth gan gorff ‘annibynnol’, er bod amrywiad sylweddol yn y cyfansoddiad arfaethedig a/neu gysylltiadau (megis llywodraeth a/neu gorff masnach) unrhyw gorff o’r fath.

Cwestiwn 17: sut y dylid adrodd amheuaeth o ddiffyg cydymffurfiaeth?

Cafwyd 556 o ymatebion ar gyfer y cwestiwn amlddewis hwn.

Tabl 18: dadansoddiad o’r ymatebion fesul ateb

Ateb Nifer yr ymatebion
Llinell ffôn cyswllt 39
E-bost 47
Platfform ar-lein 285
Trwy wiriadau swyddogol yn unig 70
Ddim yn gwybod 58
Arall 57

Roedd 57 o ymatebion testun rhydd ar gyfer cwestiwn 17. Awgrymodd y mwyafrif o’r ymatebwyr y dewis o gael sawl llwybr adrodd o’r rhestr uchod (neu bob un ohonynt).

Cwestiwn 18: pan fo diffyg cydymffurfiaeth yn cael ei adrodd yn uniongyrchol neu ei nodi drwy’r broses fonitro, gellid sbarduno ymchwiliad i gydymffurfiaeth â’r gofynion. A ddylid adolygu’n llawn yr holl achosion a nodwyd fel rhai efallai nad ydynt yn cydymffurfio?

O’r 582 o ymatebion i’r cwestiwn hwn:

  • dywedodd 467 dylid
  • dywedodd 30 na ddylid
  • dywedodd 47 nad oeddent yn gwybod
  • ymatebodd 38 ‘arall’

Tabl 19: dadansoddi’r ymatebion yn ôl categori yr ymatebydd

Categori yr ymatebydd Dylid Na ddylid Ddim yn gwybod Arall
Unigolion 363 14 25 7
Gweithwyr proffesiynol 71 8 13 5
Corff rheoleiddio 0 0 0 0
Sefydliadau 33 8 9 25
Academyddion 0 0 0 1

Roedd 38 o ymatebion testun rhydd ar gyfer cwestiwn 18. Awgrymodd 20 o’r ymatebwyr i’r cwestiwn hwn (o sefydliadau yn bennaf) ddull cymesur o ymdrin ag ymchwiliadau yn seiliedig ar lefel y diffyg cydymffurfiaeth a/neu’r risg, neu y dylid brysbennu achosion.

Cwestiwn 19: pa sbardunau y dylid eu defnyddio i benderfynu a yw achos yn cael ei ymchwilio’n llawn?

O’r 600 o ymatebion i’r cwestiwn hwn:

  • dywedodd 221 gwerth ariannol yr achos
  • dywedodd 168 achosion blaenorol o ddiffyg cydymffurfiaeth
  • dywedodd 80 nad oeddent yn gwybod
  • ymatebodd 131 ‘arall’

Tabl 20: dadansoddi’r ymatebion yn ôl categori yr ymatebydd

Categori yr ymatebydd Gwerth ariannol yr achos Achosion blaenorol o ddiffyg cydymffurfiaeth Ddim yn gwybod Arall
Unigolion 174 117 54 76
Gweithwyr proffesiynol 32 30 14 24
Corff rheoleiddio 0 0 0 0
Sefydliadau 15 21 12 30
Academyddion 0 0 0 1

Roedd 123 o ymatebion testun rhydd ar gyfer cwestiwn 19. Roedd unigolion a gweithwyr proffesiynol yn fwy tebygol o awgrymu y dylid ymchwilio i ‘bob un’ o’r sbardunau, neu sbardunau ar sail gwerth ariannol ‘yn ogystal’ â/neu ddiffyg cydymffurfiaeth blaenorol. Cyfeiriodd ymatebwyr o sefydliadau hefyd at werth ariannol a diffyg cydymffurfiaeth blaenorol fel sbardunau perthnasol, ac awgrymodd 10 ychwanegol y dylai’r trothwy ar gyfer unrhyw ymchwiliad fod yn ‘gymesur â risg’ neu ‘fesul achos’.

Cwestiwn 20: a ydych o’r farn y byddai cosbau ariannol yn fodd effeithiol a theg o atal diffyg cydymffurfiaeth?

O’r 554 o ymatebion i’r cwestiwn hwn:

  • dywedodd 305 ydw
  • dywedodd 136 nac ydw
  • dywedodd 72 nad oeddent yn gwybod
  • ymatebodd 41 ‘arall’

Tabl 21: dadansoddi’r ymatebion yn ôl categori yr ymatebydd

Categori yr ymatebydd Ydw Nac ydw Ddim yn gwybod Arall
Unigolion 223 104 47 17
Gweithwyr proffesiynol 49 24 13 8
Corff rheoleiddio 1 0 0 0
Sefydliadau 31 8 12 16
Academyddion 1 0 0 0

Noder bod ymatebion gan unigolion yn ymateb ‘ydw’ yn cynnwys 3 o negeseuon e-bost ymgyrchu.

Roedd 75 o ymatebion testun rhydd ar gyfer cwestiwn 20. Thema gyffredinol ar draws categorïau ymatebwyr oedd amheuaeth y byddai cosbau ariannol ar eu pennau eu hunain yn ddigonol. Roedd awgrymiadau eraill yn cynnwys cosbau ychwanegol, megis:

  • canlyniadau proffesiynol
  • atebolrwydd troseddol
  • atebolrwydd i gyfarwyddwyr a/neu fwrdd
  • ‘cerydd cyhoeddus’
  • ‘dulliau gorfodi’
  • cofrestrau diffyg cydymffurfiaeth

Cwestiwn 21: rhannwch sylwadau neu adborth ychwanegol yn ymwneud â gorfodi os oes gennych rhai (hyd at o 500 o eiriau)

Roedd 287 o ymatebwyr ar gyfer y cwestiwn testun rhydd hwn.

Tabl 22: dadansoddi nifer yr ymatebion yn ôl categori yr ymatebydd

Categori yr ymatebydd Nifer yr ymatebion
Unigolion 190
Gweithwyr proffesiynol 53
Corff rheoleiddio 0
Sefydliadau 42
Academyddion 2

Cafodd y cwestiwn hwn ystod amrywiol o ymatebion gan bob categori ymatebwyr ac ni chefnogwyd unrhyw awgrym penodol gan y mwyafrif o’r ymatebwyr.

Roedd rhai themâu cyffredin yn adnabyddadwy. Roedd 35 o unigolion yn amheus y byddai cosbau ariannol yn unig yn gweithredu fel ataliad digonol. Hefyd, roedd 33 o unigolion yn teimlo y gallai cyhuddiadau troseddol a/neu ddedfrydau carchar fod yn gosb briodol am ddiffyg cydymffurfiaeth.

Awgrymodd 32 o unigolion a gweithwyr proffesiynol y byddai angen i unrhyw ddirwyon fod yn ‘sylweddol’, neu’n gymesur â maint y cwmni neu’r budd ariannol a gronnir o’r taliad i fod yn effeithiol.

Roedd 86 o ymatebwyr (o bob categori) yn teimlo y byddai angen cosbau amgen nad ydynt yn gosbau troseddol yn hytrach na/yn ogystal â chosbau ariannol. Roedd yr awgrymiadau hyn yn cynnwys:

  • colli trwyddedau proffesiynol a chynnyrch
  • canlyniadau yn ymwneud ag enw da, megis cyhoeddi eu manylion a’u diffyg cydymffurfiaeth

Rhybuddiodd 4 ymatebydd o sefydliadau yn erbyn system sy’n dyblygu gwaith presennol neu sy’n feichus neu’n fiwrocrataidd, ac eiriolodd 3 ymatebydd dros ‘hyblygrwydd’ yn y broses adrodd. Roedd tri sefydliad hefyd yn teimlo y dylid bod gweithdrefnau ar waith i reoli adrodd yn ‘faleisus’.

Taliadau y tu allan i’r cwmpas

Y trothwyon lleiaf

Cwestiwn 22: mae’r llywodraeth yn cynnig eithrio busnesau rhag adrodd taliadau o dan £50 oni bai bod cyfanswm gwerth blynyddol y taliadau yn fwy na £500 i’r derbynnydd hwnnw. Yn eich tyb chi, beth yw’r isafswm gwerth taliad a fyddai’n briodol ar gyfer eithrio rhywun o’r rheoliadau hyn?

O’r 651 o ymatebion i’r cwestiwn hwn:

  • dywedodd 182 llai na £10 oni bai bod cyfanswm gwerth blynyddol y taliadau yn fwy na £100
  • dywedodd 193 llai na £50 oni bai bod cyfanswm gwerth blynyddol y taliadau yn fwy na £500
  • dywedodd 85 llai na £100 oni bai bod cyfanswm gwerth blynyddol y taliadau yn fwy na £1000
  • dywedodd 29 nad oeddent yn gwybod
  • ymatebodd 162 ‘arall’

Tabl 23: dadansoddi’r ymatebion yn ôl categori yr ymatebydd

Categori yr ymatebydd Llai na £10 oni bai bod cyfanswm gwerth blynyddol y taliadau yn fwy na £100 Llai na £50 oni bai bod cyfanswm gwerth blynyddol y taliadau yn fwy na £500 Llai na £100 oni bai bod cyfanswm gwerth blynyddol y taliadau yn fwy na £1000 Ddim yn gwybod Arall
Unigolion 145 146 56 17 112
Gweithwyr proffesiynol 29 31 11 6 19
Corff rheoleiddio 0 0 0 0 0
Sefydliadau 7 16 18 6 30
Academyddion 1 0 0 0 1

Noder bod ymatebion gan unigolion yn ymateb ‘arall’ yn cynnwys 63 o negeseuon e-bost ymgyrchu.

Roedd 159 o ymatebion testun rhydd ar gyfer cwestiwn 22. Roedd dim trothwy sylfaenol yn thema gyffredin ar draws grwpiau ymatebwyr. Awgrymodd ymatebwyr lluosog o sefydliadau, fodd bynnag, y dylid eithrio taliadau o gategori penodol er mwyn lleihau’r baich gweinyddol. Roedd enghreifftiau yn cynnwys:

  • ‘cynhaliaeth’ (megis coffi neu bryd o fwyd)
  • hyfforddiant neu eitemau addysgol

Dywedodd 63 o negeseuon e-bost ymgyrchu fod yn rhaid i’r diwydiant gofnodi ‘yr holl arian a roddir i’r sector iechyd’.

Ymchwil a datblygu

Cwestiwn 23: mae’r llywodraeth yn cynnig eithrio busnesau rhag adrodd taliadau a allai ddatgelu gwybodaeth sy’n fasnachol sensitif ar yr amod eu bod yn cyhoeddi eu rhesymeg dros ddefnyddio’r esemptiad ac yn datgan eu bod wedi cymhwyso’r eithriad. Pa rai o’r dewisiadau canlynol, os o gwbl, ydych yn cytuno â nhw?

O’r 593 o ymatebion i’r cwestiwn hwn:

  • dywedodd 76 eu bod yn cytuno â chynnig y llywodraeth - y caniateir eithriadau, y dylid nodi’r rhesymeg dros ddefnyddio’r esemptiad ar gyfer pob defnydd ac y dylid bod datganiad cyhoeddus bod yr eithriad wedi ei gymhwyso
  • dywedodd 40 eu bod yn cytuno’n rhannol â chynnig y llywodraeth - y dylid caniatáu eithriadau, ac y dylid cyhoeddi ymwadiad safonol bod yr eithriad wedi ei gymhwyso i rai taliadau
  • dywedodd 410 eu bod yn anghytuno â chynnig y llywodraeth - na ddylid bod eithriad, y dylid adrodd pob taliad
  • dywedodd 48 y dylid adrodd fersiwn olygedig o’r taliadau
  • dywedodd 19 nad oeddent yn gwybod

Tabl 24: dadansoddi’r ymatebion yn ôl categori yr ymatebydd

Categori yr ymatebydd Cytuno Cytuno yn rhannol Anghytuno Fersiwn olygedig Ddim yn gwybod
Unigolion 48 19 331 17 5
Gweithwyr proffesiynol 15 5 57 11 7
Corff rheoleiddio 0 0 0 0 1
Sefydliadau 13 16 21 20 6
Academyddion 0 0 1 0 0

Cwestiwn 24: mae’r llywodraeth yn cynnig eithrio busnesau rhag adrodd taliadau a buddion a wneir o dan rwymedigaethau cytundebol pan fo’r sefydliad darparwr gofal iechyd yn talu’r busnes ar werth marchnad teg, gan gynnwys gostyngiadau ar brisiau sy’n bodloni’r meini prawf hyn. A ydych yn cytuno neu’n anghytuno â’r cynnig hwn?

O’r 586 o ymatebion i’r cwestiwn hwn:

  • roedd 111 yn cytuno
  • roedd 387 yn anghytuno
  • dywedodd 88 nad oeddent yn gwybod

Tabl 25: dadansoddi’r ymatebion yn ôl categori yr ymatebydd

Categori yr ymatebydd Cytuno Anghytuno Ddim yn gwybod
Unigolion 55 310 50
Gweithwyr proffesiynol 20 58 17
Corff rheoleiddio 0 0 1
Sefydliadau 35 19 20
Academyddion 1 0 0

Cwestiwn 25a - A ydych yn meddwl y dylai busnesau bach a microfusnesau gael eu heithrio o’r ddyletswydd?

Cwestiwn 25b - Os gwnaethoch ateb ydw, esboniwch pam eich bod yn credu y dylai busnesau bach a/neu ficrofusnesau gael eu heithrio (hyd at 250 o eiriau).

Cwestiwn 25c - Os gwnaethoch ateb nac ydw, esboniwch pam eich bod yn credu na ddylai busnesau bach a/neu ficrofusnesau gael eu heithrio (hyd at 250 o eiriau).

O’r 182 o ymatebwyr i gwestiwn 25a:

  • dywedodd 14 y dylid eithrio busnesau bach (hyd at 50 o gyflogeion)
  • dywedodd 14 y dylid eithrio microfusnesau (hyd at 10 o gyflogeion)
  • dywedodd 138 na ddylid eithrio busnesau yn seiliedig ar eu maint
  • dywedodd 16 nad oeddent yn gwybod

Tabl 26: dadansoddi’r ymatebion yn ôl categori yr ymatebydd

Categori yr ymatebydd Ydw, dylid eithrio busnesau bach Ydw, dylid eithrio microfusnesau Nac ydw, ni ddylid eithrio busnesau yn seiliedig ar eu maint Ddim yn gwybod
Unigolion 0 0 3 0
Gweithwyr proffesiynol 11 9 76 4
Corff rheoleiddio 0 0 0 0
Sefydliadau 3 5 58 12
Academyddion 0 0 1 0

Roedd 15 o ymatebion ar gyfer cwestiwn 25b. Roedd 10 ymateb gan weithwyr proffesiynol a sefydliadau yn teimlo y dylai busnesau bach a/neu ficrofusnesau gael eu heithrio oherwydd eu ‘dylanwad’ cymharol fach ar y farchnad a/neu bryderon am adnoddau (megis staffio) sy’n angenrheidiol i gydymffurfio â rheoliadau.

Roedd 105 o ymatebion ar gyfer cwestiwn 25c. Y prif bryderon, a oedd yn gyffredin i bob categori ymatebwyr, oedd:

  • y dylid trin pob cwmni (ni waeth beth fo’u maint) yn gyfartal
  • nid oedd maint cwmni yn effeithio ar eu taliadau a’u dylanwad posibl
  • bod perygl o gyflwyno ‘dihangfeydd’ posibl yn y system adrodd

Cwestiwn 26: faint o amser a chost ydych yn eu disgwyl wrth sefydlu neu ymuno â chynllun adrodd trydydd parti amgen?

Rhowch amcangyfrif, fesul mathau, o’r gost yr ydych yn ei disgwyl, er enghraifft sefydlu TG (hyd at 500 o eiriau).

Roedd 76 o ymatebwyr ar gyfer y cwestiwn testun rhydd hwn.

Tabl 27: dadansoddi nifer yr ymatebion yn ôl categori yr ymatebydd

Categori yr ymatebydd Nifer yr ymatebion
Unigolion 0
Gweithwyr proffesiynol 32
Corff rheoleiddio 0
Sefydliadau 43
Academyddion 1

Dywedodd 19 o weithwyr proffesiynol nad oeddent yn gwybod, neu gwnaethant ymateb ‘amherthnasol’, a dywedodd 2 y byddai costau’n dibynnu ar faint y gweithrediad. Fel arall, nid oedd llawer o gytundeb ar y cwestiwn hwn.

Er bod amrywiaeth hefyd ymhlith ymatebion gan sefydliadau, daeth ychydig o themâu i’r amlwg:

  • dywedodd 7 sefydliad fod y costau yn anhysbys neu’n anodd eu meintioli
  • dywedodd 14 sefydliad y byddai’r costau sefydlu a chynnal blynyddol yn ‘sylweddol’, yn ‘ystyrlon’, neu’n fwy na £2,000
  • dywedodd 8 sefydliad y byddai’r costau’n finimol pe byddai cynlluniau trydydd parti megis Disclosure UK yn cael eu hystyried yn fath o gydymffurfiaeth, neu pe byddai’r fformat adrodd newydd yn alinio â’r rhain

Cwestiwn 27: faint o amser a chost (ychwanegol) ydych yn eu disgwyl bob blwyddyn ar gyfer datgan taliadau, gan gynnwys casglu, adolygu a chyhoeddi’r wybodaeth?

Rhowch amcangyfrif.

Roedd 71 o ymatebwyr ar gyfer y cwestiwn testun rhydd hwn.

Tabl 28: dadansoddi nifer yr ymatebion yn ôl categori yr ymatebydd

Categori yr ymatebydd Nifer yr ymatebion
Unigolion 0
Gweithwyr proffesiynol 31
Corff rheoleiddio 0
Sefydliadau 39
Academyddion 1

Dywedodd 20 o ymatebwyr nad oeddent yn gwybod, neu gwnaethant ymateb ‘amherthnasol’. Dywedodd 14 sefydliad y byddai’r amser a’r costau yn finimol pe byddai cynlluniau trydydd parti megis Disclosure UK yn cael eu hystyried yn fath o gydymffurfiaeth, neu pe byddai’r fformat adrodd newydd yn alinio â’r rhain. Darparodd 7 gweithiwr proffesiynol ystod o atebion o 1 awr i 5 diwrnod gwaith neu £200 i £250. Rhoddodd 12 ymatebydd o sefydliadau ystod o atebion, gan gynnwys:

  • 2 awr
  • 1 i 2 gyfwerth ag amser llawn
  • £1,500 i £50,000

Cwestiwn 28: os ydynt ar gael, faint o daliadau perthnasol ydych yn disgwyl eu gwneud bob blwyddyn?

Rhowch amcangyfrif.

Roedd 63 o ymatebwyr ar gyfer y cwestiwn testun rhydd hwn.

Tabl 29: dadansoddi nifer yr ymatebion yn ôl categori yr ymatebydd

Categori yr ymatebydd Nifer yr ymatebion
Unigolion 0
Gweithwyr proffesiynol 26
Corff rheoleiddio 0
Sefydliadau 37
Academyddion 0

Dywedodd 36 o ymatebwyr nad oeddent yn gwybod, gadawsant ymateb gwag, neu gwnaethant ymateb ‘amherthnasol’. Dywedodd 6 gweithiwr proffesiynol a 2 sefydliad nad oeddent yn disgwyl gwneud unrhyw daliadau. Nododd saith ymatebydd ei bod yn anodd gwneud asesiad oherwydd y byddai’n dibynnu ar eglurhad o gwmpas y taliadau. Cynigiodd 3 gweithiwr proffesiynol ffigurau penodol o 100 i 1,000, a chynigiodd 7 sefydliad ffigurau penodol yn amrywio o lai na 10 i 8,000.

Cwestiwn 29: a oes unrhyw faterion neu sylwadau eraill yr hoffech roi adborth arnynt? (hyd at 500 o eiriau)

Roedd 60 o ymatebwyr ar gyfer y cwestiwn testun rhydd hwn.

Tabl 30: dadansoddi nifer yr ymatebion yn ôl categori yr ymatebydd

Categori yr ymatebydd Nifer yr ymatebion
Unigolion 0
Gweithwyr proffesiynol 20
Corff rheoleiddio 0
Sefydliadau 39
Academyddion 1

Yn gyffredinol, roedd gweithwyr proffesiynol ac academyddion o blaid datgelu taliadau, er bod 6 wedi mynegi amheuon ynghylch adrodd gwirfoddol neu gwnaethant ddatgan eu bod yn ffafrio system sy’n cael ei rhedeg gan y llywodraeth neu sy’n cyfateb i system UDA sy’n gorfodi taliadau. Gofynnodd 10 sefydliad am ganllawiau i egluro sut y byddai’r polisi hwn yn rhyngweithio â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) a/neu ofynion buddiannau cyfreithlon, yn ogystal ag eglurder ar:

  • ddiffiniadau (gan gynnwys ‘taliadau’ a ‘sylweddau ffiniol’)
  • osgoi dyblygu (megis swyddogaeth Disclosure UK)
  • gweithredu cyfnod gras neu gyflwyno unrhyw ofynion newydd fesul cam

Roedd 2 ymatebydd yn dymuno cael eglurder ynghylch sut y byddai’r rheolau yn berthnasol i weithwyr gofal iechyd a gyflogir gan y diwydiant nad ydynt yn ddarparwyr gofal iechyd.

Gwireddu manteision y cynigion

Cwestiwn 30: gan feddwl am y cynigion a amlinellir yn yr ymgynghoriad hwn, a oes unrhyw ddewisiadau eraill ar gyfer adrodd taliadau a fyddai’n cyflawni nodau tebyg y dylai’r llywodraeth eu harchwilio?

Cafwyd 385 o ymatebion ar gyfer y cwestiwn amlddewis hwn.

Tabl 31: dadansoddiad o nifer yr ymatebion fesul ateb

Ateb Nifer yr ymatebion
Cydymffurfio’n wirfoddol â chanllawiau a gyhoeddir gan y llywodraeth 104
Cyhoeddi gwybodaeth yn wirfoddol y mae’n ofynnol iddi gael ei chadw ar hyn o bryd gan unrhyw gymdeithas fasnach yr ydych yn aelod ohoni 109
Arall 172

Noder bod ymatebion ‘arall’ yn cynnwys 63 o negeseuon e-bost ymgyrchu.

Roedd 218 o ymatebion testun rhydd ar gyfer cwestiwn 30. Roedd y niferoedd a ganlyn yn amheus ynglŷn ag adrodd yn wirfoddol a/neu o blaid adrodd taliadau yn orfodol neu’n statudol:

  • 64 allan o 95 o unigolion
  • 20 allan o 31 o weithwyr proffesiynol
  • 9 allan o 28 o sefydliadau

Awgrymodd 11 o ymatebwyr y dylid cyflwyno cronfa data cyhoeddus sengl ar gyfer taliadau, a nododd y mwyafrif ei bod yn cael ei dal gan y llywodraeth.

O’r 63 o negeseuon e-bost ymgyrchu:

  • datganodd pob un ohonynt eu bod yn ffafrio cyflwyno cyfraith (fel ‘Sunshine Act’ yn UDA) sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r diwydiant ddatgan yr holl arian a roddir i’r sector iechyd
  • awgrymodd 62 un gronfa data cyhoeddus canolog, a ddelir gan y llywodraeth y gall y cyhoedd ei chwilio yn ddi-dâl
  • roedd 33 yn dymuno i gronfa ddata o’r fath fod yn annibynnol ar y diwydiant

Cwestiwn 31: rhowch fanylion am unrhyw systemau adrodd presennol yn y DU a allai arwain at ddyblygu os cyflwynir y ddyletswydd newydd hon.

Gallai hyn fod yn wirfoddol neu’n orfodol, boed yn adrodd gan y diwydiant neu’n adrodd swyddogol, gan eithrio gofynion tramor (hyd at 500 o eiriau).

Roedd 81 o ymatebwyr ar gyfer y cwestiwn testun rhydd hwn.

Tabl 32: dadansoddi nifer yr ymatebion yn ôl categori yr ymatebydd

Categori yr ymatebydd Nifer yr ymatebion
Unigolion 21
Gweithwyr proffesiynol 17
Corff rheoleiddio 0
Sefydliadau 43
Academyddion 0

Cyfeiriodd 41 o ymatebwyr at system Disclosure UK ABPI.

Roedd yr ymatebion eraill yn cynnwys:

  • cronfa ddata MedTech Europe
  • cynllun gwirfoddol Cymdeithas Diwydiannau Technoleg Iechyd Prydain (ABHI)
  • menter European Federation of Pharmaceutical Industries and Associations (EFPIA)
  • Rheoli Gwrthdaro Buddiannau yng Nghanllawiau 2017 y GIG

Cwestiwn 32a: a ydych yn meddwl y bydd y cynigion yn newid perthnasoedd cleifion â’u gweithwyr gofal iechyd proffesiynol?

Cwestiwn 32b: os ydych, sut ydych yn meddwl y byddai’r cynigion yn newid perthnasoedd cleifion â’u darparwyr gofal iechyd?

O’r 602 o ymatebion i gwestiwn 32a:

  • dywedodd 343 ydw
  • dywedodd 132 nac ydw
  • dywedodd 127 nad oeddent yn gwybod

Tabl 33: dadansoddi’r ymatebion yn ôl categori yr ymatebydd

Ymatebydd Ydw Nac ydw Ddim yn gwybod
Unigolion 259 80 83
Gweithwyr proffesiynol 51 24 25
Corff rheoleiddio 1 0 0
Sefydliadau 31 28 19
Academyddion 1 0 0

O’r 331 o ymatebion i gwestiwn 32b:

  • roedd 313 yn meddwl y byddai’n gwella’r berthynas
  • roedd 18 yn meddwl y byddai’n niweidiol i’r berthynas

Tabl 34: dadansoddi’r ymatebion yn ôl categori yr ymatebydd

Categori yr ymatebydd Rwyf yn meddwl y byddai’n gwella’r berthynas Rwyf yn meddwl y byddai’n niweidiol i’r berthynas
Unigolion 242 7
Gweithwyr proffesiynol 40 9
Corff rheoleiddio 1 0
Sefydliadau 29 2
Academyddion 1 0

Cwestiwn 33: a ydych yn meddwl y byddai’r cynigion hyn yn cynyddu penderfyniadau diduedd gan sefydliadau a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol?

O’r 586 o ymatebion i’r cwestiwn hwn:

  • dywedodd 450 ydw
  • dywedodd 60 nac ydw
  • dywedodd 76 nad oeddent yn gwybod

Tabl 35: dadansoddi’r ymatebion yn ôl categori yr ymatebydd

Categori yr ymatebydd Ydw Nac ydw Ddim yn gwybod
Unigolion 332 33 49
Gweithwyr proffesiynol 72 11 13
Corff rheoleiddio 1 0 0
Sefydliadau 44 16 14
Academyddion 1 0 0

Cwestiwn 34: a fyddech yn cael gafael ar yr wybodaeth gyhoeddedig i’w defnyddio i wneud penderfyniadau ar eich gofal iechyd?

O’r 573 o ymatebion i’r cwestiwn hwn:

  • dywedodd 457 byddwn
  • dywedodd 47 na fyddwn
  • dywedodd 69 nad oeddent yn gwybod

Tabl 36: dadansoddi’r ymatebion yn ôl categori yr ymatebydd

Categori yr ymatebydd Ydw Nac ydw Ddim yn gwybod
Unigolion 361 13 35
Gweithwyr proffesiynol 71 14 13
Corff rheoleiddio 0 0 0
Sefydliadau 24 20 21
Academyddion 1 0 0

Cwestiwn 35: pe byddai’r wybodaeth gyhoeddedig hon wedi bod ar gael i chi yn y gorffennol, a fyddech wedi ei defnyddio?

O’r 574 o ymatebwyr i’r cwestiwn hwn:

  • dywedodd 468 byddwn
  • dywedodd 38 na fyddwn
  • dywedodd 68 nad oeddent yn gwybod

Tabl 37: dadansoddi’r ymatebion yn ôl categori yr ymatebydd

Categori yr ymatebydd Ydw Nac ydw Ddim yn gwybod
Unigolion 358 11 40
Gweithwyr proffesiynol 77 11 10
Corff rheoleiddio 0 0 0
Sefydliadau 32 16 18
Academyddion 1 0 0

Cwestiwn 36: gan fyfyrio ar yr atebion a roddwyd i’n cynigion, rhannwch unrhyw ystyriaethau a gwybodaeth ychwanegol i’n helpu i ddeall eich safbwyntiau, yn enwedig pan fyddwch yn anghytuno â chynigion (hyd at 250 o eiriau).

Roedd 221 o ymatebwyr ar gyfer y cwestiwn testun rhydd hwn.

Tabl 38: dadansoddi nifer yr ymatebion yn ôl categori yr ymatebydd

Categori yr ymatebydd Nifer yr ymatebion
Unigolion 138
Gweithwyr proffesiynol 33
Corff rheoleiddio 0
Sefydliadau 48
Academyddion 2

Cafodd y cwestiwn testun rhydd hwn ystod amrywiol o ymatebion gan bob categori ymatebwyr ac ni chefnogwyd unrhyw awgrym penodol gan y mwyafrif o’r ymatebwyr.

Er gwaethaf hyn, nodwyd rhai themâu cyffredin:

  • rhoddodd 57 o unigolion a gweithwyr proffesiynol adborth eu bod yn teimlo bod rhagfarn sy’n gysylltiedig â thaliadau mewn gofal iechyd
  • croesawodd 38 gamau a gymerir i gynyddu tryloywder taliadau
  • awgrymodd 29 o unigolion eu bod wedi colli ymddiriedaeth mewn gofal iechyd, y diwydiant neu’r rheoleiddwyr

Gofynnodd ymatebwyr o sefydliadau am eglurhad ar gynigion yr ymgynghoriad. Cododd 14 bryderon am yr amser rhwng unrhyw ddeddfwriaeth newydd a’r orfodaeth yn dod i rym, gan awgrymu y byddai’n anodd i’r diwydiant gydymffurfio â chyfnod o 6 mis neu lai.

Rhoddodd academyddion adborth y dylai cwmpas adrodd taliadau fod yn ehangach, er mwyn cynnwys grwpiau megis ymchwilwyr. Gwnaethant nodi ffafriaeth hefyd i:

  • gronfa data cenedlaethol canolog
  • cynllun statudol
  • gwaith dilynol gan y llywodraeth i wahardd pob taliad i ofal iechyd yn llwyr

Adborth

Gofynnwyd i ymatebwyr ddarparu sgôr boddhad i adlewyrchu eu profiadau o’r broses arolygu.

Tabl 39: dadansoddiad o nifer yr ymatebion fesul ateb

Ateb Nifer yr ymatebion
Bodlon iawn 57
Bodlon 402
Anfodlon 67
Anfodlon iawn 18

Yna gofynnwyd i’r ymatebwyr roi adborth rhydd ar y broses ymgynghori. Cafwyd 153 o ymatebion.

Tabl 40: dadansoddi nifer yr ymatebion yn ôl categori yr ymatebydd

Categori yr ymatebydd Nifer yr ymatebion
Unigolion 104
Gweithwyr proffesiynol 26
Corff rheoleiddio 0
Sefydliadau 23
Academyddion 0

Awgrymodd 66 o unigolion y dylai’r ymgynghoriad fod wedi ei gyhoeddi’n ehangach, gan awgrymu y dylid hysbysebu ymgynghoriadau o’r fath drwy:

  • y cyfryngau cymdeithasol
  • sianeli newyddion
  • lleoliadau gofal iechyd

Rhannodd 23 o ymatebwyr (ar draws categorïau) eu hystyriaethau ar ddyluniad a geiriad cwestiynau yr arolwg. Roedd rhai yn teimlo bod y cwestiynau yn ‘ddryslyd’ neu nad oeddent yn berthnasol i unigolion, ac roedd eraill yn gofyn am fwy o gyfleoedd i ddarparu ymatebion amgen (megis ‘amherthnasol’) neu ddewisiadau testun rhydd neu sylwadau ar gyfer holl gwestiynau yr arolwg. Roedd tri sefydliad yn teimlo y byddai cynigion mwy manwl wedi bod o gymorth.

O’r 65 o ymatebion ar ffurf e-bost ymgyrchu, rhoddodd 61 adborth gan ddweud eu bod yn gweld yr arolwg ymgynghori yn ‘ddryslyd iawn’ ac yn teimlo nad oeddent yn gallu rhoi eu safbwyntiau yn y fformat hwn.

Rydym yn ddiolchgar am yr holl adborth a roddwyd gan yr ymatebwyr.