Datganiad Polisi Cenedlaethol drafft ar gyfer cynhyrchu ynni ymasiad (EN-8)
Yn berthnasol i Loegr a Chymru
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Mae’r ymgynghoriad hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Mae gan ynni ymysiad y potensial i fod yn ffynhonnell drawsnewidiol sy’n cynhyrchu digonedd o ynni glân. Bydd datblygu sector ynni ymasiad y DU yn cryfhau diogelwch ynni yn y tymor hir ac yn sicrhau manteision economaidd sylweddol.
Mae datblygu Datganiad Polisi Cenedlaethol ar gyfer seilwaith ynni ymasiad yn sicrhau bod ymysiad yn alinio â thechnolegau cynhyrchu ynni eraill drwy symleiddio a chanoli’r broses o wneud penderfyniadau ar gynigion cynllunio. Rydym ni’n awyddus i gael barn ynghylch a yw’r EN-8 drafft yn addas ar gyfer pob seilwaith ynni ymasiad a ragwelir, ac a yw’n nodi’n briodol sut y dylid penderfynu ar geisiadau cynllunio ar gyfer seilwaith o’r fath.
Darllenwch hysbysiad preifatrwydd yr ymgynghoriad (Saesneg yn unig).