Consultation outcome

Government response to the consultation on a potential change of ownership of Channel 4 Television Corporation (Welsh)

Updated 18 July 2022

Crynodeb

Mae Channel 4 yn rhan annatod o’n system darlledu gwasanaeth cyhoeddus. Mae’n cyfrannu at economi greadigol y DU ac yn creu rhaglenni hwyl, beiddgar a phryfoclyd at ddant ystod eang o gynulleidfaoedd.

Mae Channel 4 wedi gwneud gwaith rhagorol wrth gyflawni ei dibenion sylfaenu - gan ddarparu rhagor o ddewis i gynulleidfaoedd, a chefnogi’r sector cynhyrchu Prydeinig. Ddeugain mlynedd yn ddiweddarach, mae cynyrchiadau annibynnol yn y DU bellach yn ffynnu, gyda chwmnïau’n dibynnu llai a llai ar Channel 4 ar gyfer comisiynau. Nid yw dewis yn broblem mwyach, mewn byd o setiau teledu clyfar a ffyn ffrydio, gwasanaethau dal i fyny ac ar alw.

Mae Channel 4 yn cyflwyno cynnwys sy’n fasnachol lwyddiannus sy’n apelio’n benodol at gynulleidfaoedd ifanc a gwerthfawr. Mae hyn yn sail i’w brand nodedig. Fodd bynnag, mae’r farchnad y mae’n gweithredu ynddi wedi newid yn llwyr ac mae’n parhau i newid. Felly, mae angen i ni ganolbwyntio’n ehangach nag ar sefyllfa ariannol bresennol Channel 4 na’i rhagolygon byrdymor. Nid yw ei pherfformiad hanesyddol yn gwarantu ei chynaliadwyedd yn y dyfodol – rhaid i ni hefyd roi sylw i’r rhagolygon tymor hwy ac ystyried pa offer y bydd eu hangen ar gyfer llwyddiant yn y dyfodol.

Fel sy’n wir am ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus eraill, mae Channel 4 yn wynebu cystadleuaeth gynyddol i gynulleidfaoedd, rhaglenni a thalent, gan ddarparwyr fideo ar alw byd-eang newydd sydd â mwy o arian i’w wario. Yn ogystal, mae’r farchnad hysbysebu ar y teledu wedi newid yn sylweddol, gyda gwariant ar hysbysebu’n llinol ar y teledu yn gostwng yn sylweddol yn ystod y degawd diwethaf o blaid dulliau digidol. Mae cynulleidfaoedd yn fwyfwy tebygol o wylio cynnwys ar lwyfannau aflinol fel gwasanaethau fideo ar alw. Er, yn gyffredinol, bod gwylio cynnwys clyweledol yn ddyddiol yn cynyddu, gan godi o 4 awr 49 munud yn 2017 i 5 awr 40 munud yn 2020, gostyngodd y gyfran a oedd yn gwylio’r cynnwys ar y teledu o 74% yn 2017 (3 awr 33 munud) i 61% yn 2020 (3 awr 27 munud). Ar yr un pryd, cynyddodd y gyfran o wasanaethau fideo ar alw o dan danysgrifiad o 6% yn 2017 (18 munud) i 19% yn 2020 (1 awr 5 munud).[footnote 1] Yn ogystal, mae’r farchnad hysbysebu ar y teledu wedi newid yn sylweddol, gyda gwariant ar hysbysebu’n llinol ar y teledu, a oedd yn ffurfio 74% o refeniw Channel 4 yn 2020, yn gostwng yn sylweddol yn ystod y degawd diwethaf o blaid dulliau digidol. Mae cyllid hysbysebu’n llinol ar y teledu wedi gostwng 31% ar draws y sector rhwng 2015 a 2020.[footnote 2]

Ym marn y Llywodraeth, mae model perchnogaeth gyhoeddus Channel 4 yn cyfyngu ar ei gallu i ymateb i heriau a chyfleoedd y farchnad ddarlledu newidiol hon. Dyna pam y bu i ni ymgynghori ar y ffordd orau o sicrhau’i llwyddiant a’i chynaliadwyedd yn y dyfodol fel darlledwr gwasanaeth cyhoeddus. Daethom i’r casgliad mai dyma’r adeg gywir i’r Llywodraeth fynd ar drywydd newid perchnogaeth Channel 4. Mae angen i ni sicrhau y gall Channel 4 barhau i ffynnu a chynyddu’i heffaith am flynyddoedd i ddod fel rhan o ecoleg darlledu gwasanaeth cyhoeddus ehangach y DU.

Rydym ar drobwynt unigryw. Mae Channel 4 wedi cyflawni ei chenhadaeth wreiddiol a nawr cyfrifoldeb y Llywodraeth yw cymryd golwg hirdymor. Credwn y bydd y buddsoddiad mewn cynnwys a thechnoleg sydd ei angen i oroesi a ffynnu yn y tirlun cyfryngau hwn sy’n newid yn gyflym yn cael ei gyflawni ar raddfa fwy a chyda mwy o gyflymder o dan berchnogaeth breifat, gyda chymorth cyfalaf y sector preifat, yn hytrach na gofyn i’r trethdalwr ysgwyddo’r risg gysylltiedig. Mae gennym gyfle i wneud Channel 4 yn fwy ac yn well heb golli’r hyn sy’n ei wneud mor unigryw. Mae Channel 4 yn ddarlledwr gwasanaeth cyhoeddus a bydd yn parhau felly, yn union fel darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus llwyddiannus eraill – ITV, STV, Channel 5 – sydd eisoes dan berchnogaeth breifat. Mae newid ym mherchnogaeth Channel 4 yn rhan o ddiwygiadau darlledu ehangach y Llywodraeth i gefnogi pob darlledwr gwasanaeth cyhoeddus ymlaen at y dyfodol.

Nid ar chwarae bach y mae’r Llywodraeth wedi gwneud y penderfyniad hwn. Cafwyd cryn ymateb i’n hymgynghoriad, ac yn sicr mae teimladau cryf ar y mater hwn. Mae’r Llywodraeth wedi ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad, ac wedi archwilio ystod eang o opsiynau eraill y tu allan i newid perchnogaeth. Rydym wedi gweithio’n agos gyda rheolwyr Channel 4 i ddeall yr heriau a’r cyfleoedd y mae’r farchnad newidiol yn eu cynnig a modelau a chynlluniau gwahanol a allai gefnogi dyfodol Channel 4. Mae’r Llywodraeth yn credu y bydd buddsoddi mewn cynnwys a thechnoleg yn allweddol i lwyddiant Channel 4 yn y dyfodol. Gellir cyflawni hyn ar raddfa fwy a chyda mwy o gyflymder o dan berchnogaeth breifat, gyda chymorth cyfalaf y sector preifat, yn hytrach na gofyn i’r trethdalwr ysgwyddo’r risg gysylltiedig.

Daeth yr ymgynghoriad ar newid perchnogaeth Corfforaeth Deledu Channel 4 i ben ar 14 Medi 2021 ar ôl cael 56,293 o ymatebion. Mae hyn yn cynnwys 40,411 o ymatebion gan aelodau o’r cyhoedd y nodwyd eu bod yn gysylltiedig â’r sefydliad ymgyrchu cymdeithasol 38 Degrees; 15,727 o ymatebion, y nodwyd eu bod gan unigolion a ddaeth i law drwy’r arolwg ar-lein, drwy e-bost a thrwy’r post; a 155 o ymatebion gan sefydliadau, grwpiau ymgyrchu neu randdeiliaid sectoraidd, gan gynnwys Channel 4 ei hun, a gyflwynodd adroddiad gan Ernst and Young a gomisiynwyd ganddynt ochr yn ochr â’i hymateb ei hun.

Cyflwynodd yr ymgyrch 38 Degrees yr hyn a ddisgrifiwyd ganddynt fel fersiynau ‘wedi’u cyfieithu’ o bob un o gwestiynau’r ymgynghoriad y gwahoddwyd ymatebwyr i’w hateb. Cyflwynir y cwestiynau ‘wedi’u cyfieithu’ hyn ochr yn ochr â’r dadansoddiad perthnasol isod. Dylid nodi bod y cwestiynau a ofynnwyd gan 38 Degrees yn ddehongliad o’r cwestiynau gwreiddiol, ac felly bod ganddynt wahanol bwyslais ac weithiau newidiwyd yr ymdeimlad o’r cwestiwn gwreiddiol yn sylweddol gan ‘cyfieithiad’ 38 Degrees. Roedd 38 Degrees hefyd yn awgrymu atebion ysgrifenedig i ddarpar ymatebwyr.

Roedd y mwyafrif o’r ymatebion gan unigolion, gan gynnwys y rhai a ymatebodd i’r arolwg a thrwy e-bost, a’r rhai a ymatebodd i ymgyrch 38 Degrees, yn teimlo nad oes heriau yn y farchnad ddarlledu bresennol sy’n rhwystro Channel 4 rhag bod yn sianel gynaliadwy o dan berchnogaeth gyhoeddus. Teimlon nhw na fyddai Channel 4 mewn gwell sefyllfa i gyflawni’n gynaliadwy ar nodau darlledu gwasanaeth cyhoeddus y Llywodraeth y tu allan i berchnogaeth gyhoeddus. O gymharu ag ymatebion gan unigolion, roedd mwyafrif llai o ymatebion rhanddeiliaid (at ddibenion y crynodeb hwn, mae hyn yn cynnwys sefydliadau, grwpiau ymgyrchu neu randdeiliaid sectoraidd fel cwmnïau cynhyrchu annibynnol, hysbysebwyr, darlledwyr ac academyddion) hefyd wedi cymryd safbwynt tebyg; tra bod rhai yn cydnabod cyfleoedd ar gyfer Channel 4 o dan berchnogaeth breifat. Yn fras, roedd ymatebwyr yn cefnogi cyfraniadau Channel 4 at agenda codi’r gwastad. Roedd y mwyafrif o’r ymatebwyr am weld cylch gwaith a rhwymedigaethau presennol Channel 4 yn parhau. Roedd gan ymatebwyr farn fwy cymysg am ddileu’r cyfyngiad ‘cyhoeddwr-ddarlledwr’. Er bod llawer o blaid y cyfyngiad yn aros yn ei le, roedd rhywfaint o gefnogaeth i ddileu’r cyfyngiad, tra bod eraill yn ansicr. Manteisiodd ymatebwyr hefyd ar y cyfle i fynegi’u barn ar gostau a buddion economaidd, cymdeithasol a diwylliannol ehangach a ddaw yn sgil newid posibl mewn perchnogaeth yn erbyn nifer o gategorïau rhestredig a nodwyd yng nghwestiwn chwech o’r ymgynghoriad. Roedd y mwyafrif o’r ymatebion yn dadlau y byddai effeithiau negyddol o dan bob categori. Mae’r ddogfen hon yn crynhoi’r ymatebion i’r ymgynghoriad yn fanylach ac yn nodi ymateb y Llywodraeth i’r safbwyntiau a godwyd.

Roedd yr ymatebion i’r ymgynghoriad yn dadlau bod Channel 4 mewn sefyllfa ariannol sefydlog ar hyn o bryd ac yn lleisio pryderon y gallai newid perchnogaeth gael effaith negyddol ar ddarpariaeth Channel 4 o’i chylch gwaith a’i chynnwys. Mae’r Llywodraeth yn cydnabod llwyddiant Channel 4 o ran cyflawni ei chylch gwaith a’i pherfformiad ariannol presennol. Fodd bynnag, ni allwn feddwl yn y byrdymor yn unig, rhaid i ni ystyried y rhagolygon tymor hwy ar gyfer Channel 4. Mae Channel 4 ei hun wedi nodi ei bod eisiau a bod angen iddi dyfu. Rydym yn croesawu’r uchelgais hwnnw, ac er mwyn ei gyflawni bydd angen i Channel 4 fuddsoddi ac arloesi’n fwy ac yn gyflymach. Fel pob darlledwr arall yn y sector cyhoeddus, mae angen iddi allu cynhyrchu a bod yn berchen ar ei chynnwys ei hun. Bydd cael mwy o fynediad i gyfalaf, a’r gallu i gynhyrchu a gwerthu ei chynnwys ei hun yn rhoi’r ystod orau o offer i Channel 4 gyflymu a rhyddhau ei photensial. Nid yw’r Llywodraeth yn credu bod yn rhaid i berchnogaeth breifat fod ar draul nwydd cyhoeddus. Nid yw’n ddewis deuaidd, a bydd y perchennog cywir yn darparu mynediad at fwy o fuddsoddiad, ac yn cefnogi rôl Channel 4 o gyflwyno nawdd cyhoeddus.

Bydd cyfleoedd a buddsoddiad newydd, a hwylusir gan newid perchnogaeth, yn ategu cefnogaeth barhaus y Llywodraeth i’r economi greadigol. Bydd y Llywodraeth yn ceisio defnyddio peth o’r enillion o werthu Channel 4 i sicrhau difidend creadigol newydd i’r sector. Bydd y Llywodraeth hefyd yn ystyried cyllid ar gyfer y diwydiannau creadigol yn gyffredinol yn yr Adolygiad Gwariant nesaf.

Mae’r Llywodraeth wedi amlinellu’i gweledigaeth ar gyfer darlledu gwasanaeth cyhoeddus, gan gynnwys dyfodol Channel 4, yn y Papur Gwyn ar Ddarlledu a gyhoeddwyd ar 28 Ebrill 2022.

Rhagarweiniad

Mae economi greadigol y DU yn stori lwyddiant Brydeinig a rhyngwladol, ac mae ein darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus wrth wraidd y llwyddiant hwnnw. Mae’n cynhyrchu cynnwys Prydeinig gwych sy’n cael ei garu ar draws y DU a’r byd yn grwn. Mae’r Llywodraeth am iddi aros felly a gweld Channel 4 yn cadw ei lle wrth wraidd darlledu Prydeinig ac yn parhau i gefnogi’r economi greadigol wych yn y wlad hon. Lansiodd yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) ymgynghoriad cyhoeddus ar ddyfodol Channel 4, gan gynnwys ei model perchnogaeth a’i chylch gwaith, ar 6 Gorffennaf 2021. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad am 10 wythnos cyn cau ar 14 Medi.

Mae Channel 4 yn gorfforaeth gyhoeddus hunangyllidol sy’n eiddo cyhoeddus ond sy’n cael ei rhedeg yn fasnachol. Mae Channel 4 yn rhan o deulu darlledu gwasanaeth cyhoeddus (PSB) bywiog y DU, ac mae’n chwarae rhan unigryw yn economaidd, yn gymdeithasol ac yn ddiwylliannol. Mae’r cyfraniadau hyn yn cydblethu’n sylweddol er mwyn ategu nodau strategol ehangach y Llywodraeth ar gyfer yr economi greadigol. Mae hyn yn cynnwys ei chefnogaeth i’r sector cynhyrchu annibynnol; ei ffocws penodol ar gynhyrchu cynnwys ar gyfer cynulleidfaoedd na wasanaethant yn dda fel arall gan ddarlledwyr eraill, gan gynnwys cynulleidfaoedd amrywiol ac ifanc; ac yn y blynyddoedd diwethaf, mae wedi cynyddu ei ffocws ar gefnogi’r economi greadigol y tu allan i Lundain, drwy ei hôl troed ffisegol y tu allan i Lundain, a thrwy dargedau i gomisiynu rhagor o gynhyrchwyr y tu hwnt i’r M25.

Fel y nodwyd yn yr ymgynghoriad, mae’r sector darlledu’n llinol yn esblygu’n gyflym tu hwnt, ac mae nifer o heriau’n deillio o hyn gan gynnwys arferion sy’n newid ymysg defnyddwyr, mwy o ddewis, a mwy o wariant a strategaethau a modelau busnes newidiol gan gystadleuwyr byd-eang. Erbyn hyn mae nifer o gystadleuwyr byd-eang mawr ag adnoddau ariannol a gweithredol sylweddol yn cystadlu’n uniongyrchol â darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus y DU (PSBau) ar gyfer cynulleidfaoedd, cynnwys a thalent. Mae’r cwmnïau hyn, gydag adnoddau sylweddol o’u cymharu â PSBau y DU, wedi achosi i gostau cynnwys a chostau caffael gwylwyr gynyddu ac mae angen i PSBau y DU fuddsoddi mwy mewn cynnwys a thechnoleg i ddal eu tir yn erbyn eu cystadleuwyr. O ystyried yr heriau hyn yn y farchnad, mae’r Llywodraeth yn ystyried y ffordd orau o sicrhau bod Channel 4 yn parhau i gyfrannu’n economaidd, yn gymdeithasol ac yn ddiwylliannol ledled y DU.

Ymgynghorodd y Llywodraeth ar ddyfodol Channel 4 i brofi ei barn y gallai newid perchnogaeth Channel 4 roi’r ystod ehangaf o offer iddi barhau i ffynnu yn wyneb yr heriau newydd a’r rhai sy’n dod i’r amlwg i ddyfodol darlledu’n llinol ar y teledu. Gofynnodd yr ymgynghoriad am farn ymatebwyr a thystiolaeth ategol ynghylch a ydynt yn cytuno bod heriau yn y farchnad ddarlledu bresennol ar y teledu sy’n rhwystro Channel 4 rhag bod yn gynaliadwy o dan berchnogaeth gyhoeddus; ac a fyddai Channel 4 wedi’i phreifateiddio, gyda thrwydded a chylch gwaith darlledu gwasanaeth cyhoeddus parhaus, mewn sefyllfa well i gyflawni nodau’r Llywodraeth ar gyfer darlledu gwasanaeth cyhoeddus mewn ffordd gynaliadwy.

Roedd yr ymgynghoriad hefyd yn ceisio barn ar gylch gwaith a rhwymedigaethau Channel 4 ac yn ceisio barn ymatebwyr yn fwy cyffredinol ar beth fyddai’r costau a’r buddion economaidd, cymdeithasol a diwylliannol o symud Channel 4 allan o berchnogaeth gyhoeddus. 6. Gofynnodd yr ymgynghoriad chwe chwestiwn, gyda’r pump cyntaf yn cynnwys blwch ticio iawn/na/ddim yn gwybod wedi’u dilyn gan destun rhydd am dystiolaeth ategol. Roedd y cwestiwn olaf, cwestiwn chwech, yn cynnwys blychau testun rhydd. Roedd y cwestiynau fel a ganlyn:

Cwestiwn 1: A ydych yn cytuno bod heriau yn y farchnad ddarlledu bresennol ar y teledu sy’n rhwystro Channel 4 rhag bod yn gynaliadwy o dan berchnogaeth gyhoeddus?

Cwestiwn 2: A fyddai Channel 4, gyda thrwydded a chylch gwaith darlledu gwasanaeth cyhoeddus parhaus, mewn sefyllfa well i gyflawni nodau’r Llywodraeth ar gyfer darlledu gwasanaeth cyhoeddus mewn ffordd gynaliadwy pe bai y tu allan i berchnogaeth gyhoeddus? Cyflwynwch dystiolaeth ategol.

Cwestiwn 3: A ddylai Channel 4 barhau â’i chyfraniad at godi gwastad rhanbarthau a chenhedloedd y DU drwy gadw presenoldeb y tu allan i Lundain a chael cylch gwaith cynhyrchu cryfach yn y rhanbarthau? Cyflwynwch dystiolaeth ategol.

Cwestiwn 4: A ddylai’r Llywodraeth adolygu cylch gwaith a rhwymedigaethau Channel 4 i sicrhau ei bod yn parhau i fod yn berthnasol mewn marchnad ddarlledu sy’n newid o hyd? Os ‘dylai’, pa newidiadau y dylid eu gwneud (a allai gynnwys rhyddid newydd neu newidiadau i’w rhwymedigaethau)? Cyflwynwch dystiolaeth ategol.

Cwestiwn 5: A ddylai’r Llywodraeth ddileu’r cyfyngiad cyhoeddwr-ddarlledwr er mwyn cynyddu gallu Channel 4 i arallgyfeirio’i ffrydiau cyllid masnachol? Cyflwynwch dystiolaeth ategol.

Cwestiwn 6: Gan gyfeirio at dystiolaeth ategol, beth fyddai’r costau a’r buddion economaidd, cymdeithasol a diwylliannol o symud Channel 4 allan o berchnogaeth gyhoeddus ar y canlynol:

a. profiad cyffredinol y gynulleidfa?
b. Corfforaeth Deledu Channel 4 ei hun?
c. buddsoddiad yn y sector cynhyrchu annibynnol?
ch. buddsoddiad yn y sector ffilmio annibynnol?
d. y farchnad hysbysebu ar y teledu?
dd. buddsoddiad yn y sector diwydiannau creadigol yn ehangach?
e. cystadleuaeth rhwng Channel 4 a sianeli darlledu gwasanaeth cyhoeddus eraill a sianeli nad ydynt yn rhai darlledu gwasanaeth cyhoeddus?
f. rhanbarthau a chenhedloedd y DU?

Ymatebion i’r ymgynghoriad

Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 14 Medi ar ôl cael 56,293 o ymatebion. Mae hyn yn cynnwys 155 o ymatebion gan sefydliadau, grwpiau ymgyrchu neu randdeiliaid sectoraidd megis cwmnïau cynhyrchu annibynnol, hysbysebwyr, darlledwyr ac academyddion (a gyfeirir atynt fel ‘rhanddeiliaid’ trwy gydol y ddogfen hon) gan gynnwys Channel 4 ei hun, a gyflwynodd adroddiad gan Ernst and Young a gomisiynwyd ganddynt ochr yn ochr â’i hymateb ei hun; 15,727 o ymatebion y nodwyd eu bod gan unigolion a ddaeth i law drwy’r arolwg ar-lein, drwy e-bost a thrwy’r post. Nodwyd bod 40,411 o ymatebion ychwanegol gan aelodau o’r cyhoedd yn gysylltiedig â’r sefydliad ymgyrchu cymdeithasol 38 Degrees.

Cyflwynodd ymatebwyr eu hymatebion i’r ymgynghoriad mewn sawl ffordd. Casglwyd y mwyafrif o’r ymatebion a gyflwynwyd gan aelodau’r cyhoedd drwy un o ddau arolwg, arolwg ymgynghori’r Llywodraeth neu arolwg tebyg a sefydlwyd gan grŵp ymgyrchu 38 Degrees, gyda nifer fach drwy e-bost a nifer fach iawn drwy’r post. Cyflwynodd mwyafrif o’r rhanddeiliaid eu hymatebion drwy e-bost, yn aml gydag atodiadau manwl, gyda’r gweddill yn cyflwyno’u hymatebion drwy arolwg y Llywodraeth a nifer fach drwy’r post.

Roedd yr holl gwestiynau yn yr arolwg ymgynghori yn ddewisol ac felly ni atebodd pob ymatebydd bob cwestiwn. Roedd cwestiynau 1-5 o’r arolwg ymgynghori yn cynnwys blwch ticio ie/na/ddim yn gwybod, ac yna flwch testun rhydd i ymatebwyr ddarparu tystiolaeth neu fanylion ategol pellach er mwyn esbonio’u barn. Roedd cwestiwn 6 yn cynnwys cyfres o flychau testun rhydd yn unig. Nid oedd cyfran sylweddol o’r ymatebion gan unigolion yn cynnwys unrhyw flychau testun rhydd wedi’u cwblhau, neu roedd ganddynt un o’r blychau testun rhydd wedi’u cwblhau; tra bo rhai o’r rheiny a roddodd sylwadau pellach heb fynd i’r afael â’r cwestiynau dan sylw nac wedi darparu unrhyw wybodaeth berthnasol arall. Roedd yr ymatebion a briodolwyd i 38 Degrees wedi’u strwythuro yn yr un modd ag arolwg y Llywodraeth, ond gyda’r hyn a ddisgrifiwyd gan 38 Degrees fel cwestiynau ‘wedi’u cyfieithu’.

Roedd rhanddeiliaid yn tueddu i roi ymatebion manylach, yn aml yn cyflwyno papurau llawnach neu adroddiadau i’w hystyried drwy e-bost.

Ymgyrch 38 Degrees

Cafodd y Llywodraeth 40,411 o ymatebion gan aelodau o’r cyhoedd a nodwyd eu bod yn gysylltiedig â’r sefydliad ymgyrchu cymdeithasol 38 Degrees.

At ddibenion creu dadansoddiad ystadegol, nodwyd bod 3,127 o’r ymatebion 38 Degrees yn ymatebion dyblyg ac felly cawsant eu diystyru. Diystyrwyd ymatebion dyblyg os oeddent yn union yr un fath ac yn dod o’r un ymatebydd. Roedd hyn er mwyn sicrhau bod y dadansoddiad yn seiliedig ar un ymateb gan bob unigolyn.

Cyflwynodd yr ymgyrch 38 Degrees yr hyn a ddisgrifiwyd ganddynt fel fersiynau ‘wedi’u cyfieithu’ o bob un o gwestiynau’r ymgynghoriad y gwahoddwyd ymatebwyr i’w hateb. Cyflwynir y cwestiynau ‘wedi’u cyfieithu’ hyn ochr yn ochr â’r dadansoddiad perthnasol isod. Dylid nodi bod y cwestiynau a ofynnwyd gan 38 Degrees yn ddehongliad o’r cwestiynau gwreiddiol, ac felly bod ganddynt wahanol bwyslais ac weithiau newidiwyd yr ymdeimlad o’r cwestiwn gwreiddiol yn sylweddol gan ‘cyfieithiad’ 38 Degrees. Roedd 38 Degrees hefyd yn awgrymu atebion ysgrifenedig i ddarpar ymatebwyr.

O ystyried y cyflwynwyd cyfres wahanol o gwestiynau i ymatebwyr yr ymgyrch 38 Degrees o gymharu â’r rhai a ymatebodd i’r ymgynghoriad ei hun, cyflwynir yr ymatebion 38 Degrees ar wahân i’r ffigur cyfunol a gafwyd drwy’r arolwg, drwy’r post ac e-bost i gwestiynau ymgynghori’r Llywodraeth.

Yr hyn a wnaethom â’r ymatebion i’r ymgynghoriad a ddaeth i law

Cafodd y data meintiol a ddaeth i law drwy’r blychau ticio ie/na/ddim yn gwybod eu trosi i ganrannau a’u dadansoddi.

Defnyddion ni ddadansoddiad thematig er mwyn dadansoddi’r ymatebion testun rhydd, gan ddefnyddio codau yn seiliedig ar y teimladau a’r syniadau a godwyd ym mhob ymateb, cyn cyfansymio sawl gwaith y defnyddiwyd pob cod. Cafodd yr holl ymatebion eu codio yn eu cyfanrwydd er mwyn sicrhau bod yr holl bwyntiau a godwyd yn cael eu cofnodi ni waeth ble yn yr arolwg neu’r ymatebion ysgrifenedig i’r ymgynghoriad y darparwyd yr wybodaeth.

Defnyddion ni’r un dull dadansoddi ar gyfer rhanddeiliaid, gan asesu eu hymateb cyfan, gan gynnwys papurau lle y’u cyflwynwyd. Defnyddion ni’r un fethodoleg hefyd ar gyfer yr ymatebion a gafwyd gan yr ymgyrch 38 Degrees.

Fel yr esboniwyd uchod, nodwyd bod 3,127 o’r ymatebion 38 Degrees yn ymatebion dyblyg ac felly cawsant eu diystyru o’r dadansoddiad ystadegol.

Cyflwyno’r ymatebion:

Mae’r prif ffigurau ar gyfer ymatebion a gafwyd gan unigolion (mewn print trwm) yn dangos faint o ymatebwyr a atebodd ie/na i gwestiynau 1-5. Nid ydym yn cyflwyno’r un data meintiol ar gyfer rhanddeiliaid, gan fod llawer o randdeiliaid wedi darparu ymatebion testun manwl yn hytrach nag ateb y blwch ticio ie/na/ddim yn gwybod yn uniongyrchol. Yn hytrach, rydym wedi ychwanegu crynodeb ansoddol mewn print trwm sy’n adlewyrchu teimladau rhanddeiliaid ar gyfer pob cwestiwn. Mae’r manylion sy’n dilyn y crynodebau hyn yn ystyried yr ymatebion testun rhydd, a roddwyd gan unigolion a rhanddeiliaid. O ganlyniad, mae’r drafodaeth isod ond yn cyfeirio at yr ymatebion hynny a gafwyd gan unigolion ar ffurf testun rhydd a oedd yn ymwneud â’r cwestiynau a nodwyd yn yr ymgynghoriad.

Drwy gydol y ddogfen hon, lle rydym yn defnyddio ‘ymatebion a gafwyd gan unigolion’, rydym yn cyfeirio at ymatebion a gafwyd gan aelodau o’r cyhoedd drwy’r arolwg, e-bost neu drwy’r post, ynghyd â’r ymatebion hynny a briodolwyd i 38 Degrees. Lle rydym yn defnyddio’r term ‘rhanddeiliaid’, rydym yn cyfeirio at ymatebion gan sefydliadau, grwpiau ymgyrchu a rhanddeiliaid sectoraidd megis cwmnïau cynhyrchu annibynnol, hysbysebwyr, darlledwyr ac academyddion.

Yr hyn a ddywedodd yr ymatebion ac ymateb y Llywodraeth:

A ydych yn cytuno bod heriau yn y farchnad ddarlledu bresennol ar y teledu sy’n rhwystro Channel 4 rhag bod yn gynaliadwy o dan berchnogaeth gyhoeddus?

Cwestiwn 38 Degrees wedi’i gyfieithu: Ydych chi’n meddwl y dylai Channel 4 gael ei phreifateiddio?

Roedd y cwestiwn cyntaf yn ceisio am farn a thystiolaeth ategol ynghylch a yw ymatebwyr yn cytuno bod heriau yn y farchnad ddarlledu bresennol ar y teledu sy’n rhwystro Channel 4 rhag bod yn gynaliadwy o dan berchnogaeth gyhoeddus. O’r 55,737 o ymatebion i gyd a gafwyd gan unigolion i’r cwestiwn hwn, dywedodd 96% (53,426) ohonynt ‘na’, tra bo 2% (995) ohonynt wedi cytuno. O’r ymatebion hyn, daeth 15,329 drwy’r arolwg gov.uk, neu drwy’r post, neu drwy e-bost, ac atebodd 89% (13,698) ohonynt ‘na’ i’r cwestiwn hwn, tra bo 5% (838) ohonynt wedi cytuno. O’r 40,408 o ymatebion a gafwyd gan unigolion drwy’r arolwg 38 Degrees, dywedodd 98% (39,728) ohonynt ‘na’, tra bo 0.4% (157) ohonynt wedi cytuno. Yn unol â’r safbwyntiau a gyflwynwyd mewn ymatebion gan unigolion, roedd y mwyafrif o randdeiliaid hefyd yn anghytuno â safbwynt y Llywodraeth ar gynaliadwyedd Channel 4 o dan ei model perchnogaeth gyhoeddus presennol.

Dadleuodd rhanddeiliaid ac unigolion fod Channel 4 eisoes yn gynaliadwy ac yn ffynnu yn y dirwedd darlledu presennol. Un rheswm a roddwyd am hyn oedd bod ymatebwyr yn teimlo bod Channel 4 eisoes wedi addasu’n briodol i’r oes ddigidol. Ymhlith yr esboniadau pellach a ddarparwyd oedd bod ymatebwyr wedi nodi eu barn mai All4 sydd â’r cyrhaeddiad ieuengaf o blith gwasanaethau ffrydio’r PSBau, bod gan ei phlatfform All4 sail ddefnyddwyr sy’n tyfu, a’i bod yn trosglwyddo’i hincwm hysbysebu yn llwyddiannus o linol i ddigidol.

Roedd ymateb Channel 4 yn cytuno â rhai o asesiadau’r Llywodraeth ynglŷn â newid cyflym yn y farchnad ddarlledu, ond pwysleisiodd fod yr heriau hyn sy’n ymwneud â gwylio a chystadleuaeth yn cael eu hwynebu gan bob darlledwr a ariennir yn fasnachol - barn a fynegwyd gan y Llywodraeth yn yr ymgynghoriad. Roedd Channel 4 yn anghytuno â barn y Llywodraeth bod perchnogaeth gyhoeddus yn cyflwyno rhwystrau penodol i gynaliadwyedd y darlledwr a nododd eu barn nad oes unrhyw dystiolaeth y bydd trosglwyddo Channel 4 o fod o dan berchnogaeth y sector cyhoeddus i’r sector preifat o fudd i gynulleidfaoedd Prydeinig nac i economi’r DU, ac yn eu barn nhw y gallai wir achosi niwed. Roedd ymateb Channel 4 yn dadlau bod y sefydliad yn ymateb yn well i’r heriau yn y farchnad na’i chystadleuwyr ac yn dadlau bod ei strategaeth Future4 yn gynllun uchelgeisiol a chynhwysfawr i fynd i’r afael â’r heriau hyn. Roedd yr ymateb yn dadlau y gallai newid mewn perchnogaeth arafu ei chyfradd trawsnewid digidol drwy achosi tarfu, neu o bosibl wneud Channel 4 yn rhan o sefydliad mwy o faint, llai ystwyth.

Barn a gydnabuwyd gan randdeiliaid ac unigolion oedd bod y farchnad ddarlledu yn newid gyda’r cynnydd mewn ffrydwyr byd-eang, ond dadleuwyd hefyd y bydd gwylio’n llinol yn parhau i fod yn berthnasol, a bod Channel 4 felly’n wydn o dan ei model presennol. Dadleuwyd hefyd fod strategaeth ddigidol Channel 4 yn gymharol fwy llwyddiannus na rhai cystadleuwyr, a chyfeiriodd ymatebwyr, a fynegodd eu barn ar hynny, yn aml at strategaeth ddigidol Channel 4 fel un sy’n ei helpu i arallgyfeirio’i hincwm. Roedd ymatebion eraill yn cydnabod yr heriau yn y dirwedd ond roeddent yn teimlo bod Channel 4 wedi ymateb yn dda o dan ei model perchnogaeth presennol, gan gyfeirio at ei chofnod ariannol diweddar a llwyddiant All4.

Dadleuwyd nad oedd llawer o’r heriau sy’n bodoli ar hyn o bryd yn unigryw i Channel 4, ond eu bod yr un fath i bob darlledwr ni waeth beth fo’u perchnogaeth. Er enghraifft, dadleuwyd bod Channel 4 wedi parhau i fynd i’r afael â’r heriau a datblygu’n gyfochrog ag esblygiad y farchnad.

Nododd un rhanddeiliad fod y newidiadau i dirwedd y cyfryngau a’r heriau sy’n wynebu Channel 4 wedi’u gor-ddweud, gan gyfeirio at y ffaith y gall Channel 4 eisoes gael mynediad at gyfalaf drwy ddefnyddio dull cyllido ar fenthyciadau y gall cynhyrchwyr ei gyflwyno i gyllideb gynhyrchu unrhyw raglen. Awgrymwyd y bydd heriau i gynaliadwyedd ariannol Channel 4 yn bodoli ar gyfer perchennog, preifat, arall. Cyfeiriodd ymatebion eraill at Strategaeth Future4, a pherfformiad ariannol hanesyddol Channel 4, fel tystiolaeth bod y model perchnogaeth presennol yn gynaliadwy, gan dynnu sylw at Adroddiad Blynyddol 2020 Channel 4 lle nodwyd bod ei chyfran ffrydio a gwylio’n llinol wedi parhau i dyfu yn ystod hanner cyntaf 2021 a bod Channel 4 yn anelu at weld hysbysebu’n ddigidol yn cyfrif am o leiaf 30% o gyfanswm y refeniw erbyn 2025, gan gefnogi ymhellach ei hesblygiad i fod yn sefydliad sy’n rhoi’r byd digidol yn gyntaf a chefnogi’i chynaliadwyedd masnachol.

Safbwynt arall a fynegwyd oedd bod Channel 4 yn wynebu heriau penodol yn y farchnad bresennol. Dadleuodd un rhanddeiliad, o ystyried cyflymder a graddfa’r newid yn y sector, ei bod yn ddealladwy bod y Llywodraeth yn edrych at ddyfodol Channel 4. Roedd yr ymatebydd wedi dadlau bod gwerth cyhoeddus Channel 4 o ganlyniad i’w rhwymedigaethau cylch gwaith unigryw ac nid ei model perchnogaeth, ond hoffent weld y cylch gwaith yn cael ei gadw o dan newid mewn perchnogaeth, o dan yr amod y caiff hwnnw ei ddiweddaru lle bo’n briodol er mwyn adlewyrchu’r newidiadau yn nhirwedd y cyfryngau.

Yn ogystal, cytunodd rhanddeiliad arall yn fras ag asesiad y Llywodraeth o newidiadau yn nhirwedd y cyfryngau, gan nodi bod newidiadau yn y farchnad ar gyfer dosbarthwyr ar-lein byd-eang, darparwyr cynnwys a phlatfformau hysbysebu’n gofyn i’r chwaraewyr cenedlaethol allu cydweithio a chreu ar raddfa fwy er mwyn cystadlu’n effeithiol. Fe’u nodwyd bod pob darlledwyr llinol yn wynebu’r un heriau, ond ystyriwyd bod gan Channel 4 lai o ryddid nag eraill i ymateb o dan ei model perchnogaeth presennol. Dadleuodd rhanddeiliaid eraill y gall symud i berchnogaeth breifat fod o fudd i Channel 4, yn enwedig ynghylch ei chynaliadwyedd ariannol a mwy o gyfleoedd strategol.

Ymateb y Llywodraeth

Mae newidiadau cyflym ym maes technoleg, ymddygiad cynulleidfaoedd a’r gystadleuaeth gynyddol gan chwaraewyr byd-eang wedi cyflwyno heriau newydd i ddarlledwyr Prydeinig. Mae yna gyfoeth o dystiolaeth gan ystod o sefydliadau uchel eu parch, gan gynnwys Ofcom, sy’n ymwneud ag esblygiad tirwedd y cyfryngau a’r heriau mae hyn yn eu cyflwyno i ddarlledwyr llinol ar y teledu. Mae data a dadansoddiadau’r farchnad yn dangos bod darlledwyr llinol ar y teledu, gan gynnwys darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus, yn wynebu heriau hirdymor wrth i hysbysebwyr newid i wario ar blatfformau digidol. Mae argymhellion diweddar Ofcom i’r Llywodraeth[footnote 3] ynglŷn â dyfodol cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus yn nodi’r ‘newid cyflym yn y diwydiant - sy’n cael ei sbarduno gan dueddiadau masnachol byd-eang a newid mewn arferion gwylio’ ac yn nodi bod y newidiadau hyn yn ‘ei gwneud yn anoddach i ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus gystadlu am gynulleidfaoedd a chynnal eu harlwy presennol’. Mae’r adroddiad hefyd yn nodi achosion pellach o uno a phwysau ariannol ar gynaliadwyedd y cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus.

Mae’r newid i’r byd digidol wedi cyflymu dros y 5 mlynedd diwethaf, tra bod refeniw hysbysebu’n llinol ar y teledu wedi gostwng o £5.5bn yn 2015 i £3.8bn yn 2020.[footnote 4] Disgwylir i’r duedd hon barhau gyda rhagolwg twf hysbysebu ar fideo ar alw yn 8.6% yn 2022, llawer uwch na chyfanswm twf hysbysebu ar y teledu, sef 0.6% yn 2022.[footnote 5] Bu hefyd dro ar fyd mewn arferion gwylio, o ddarlledu traddodiadol i danysgrifiadau fideo ar alw, a ddwysawyd gan dwf cyflym yn nhreiddiad cystadleuwyr byd-eang gyda phocedi dwfn megis Netflix ac Amazon i farchnad y DU. Yn 2020, cynyddodd ffrydiau yn y DU 89% blwyddyn ar ôl blwyddyn i Netflix, tra bo ffrydiau Amazon Prime Video wedi codi 118%.[footnote 6] Mae cynulleidfaoedd ifanc yn benodol wedi symud i ffwrdd o deledu traddodiadol gyda phobl ifanc 16-34 oed yn treulio 91 munud y dydd yn gwylio cynnwys Fideo dan Danysgrifiad Ar Alw (SVoD) yn 2020, sy’n fwy na’r cyfanswm o 76 munud ar draws teledu byw a gwasanaethau Darlledwyr Fideo Ar Alw (BVoD), (megis BBC iPlayer neu All4).[footnote 7]

O ran gallu Channel 4 i ymateb i’r heriau hyn, mae’r Llywodraeth yn cydnabod perfformiad ariannol diweddar Channel 4, a’i gweledigaeth am y dyfodol, gan gynnwys ei strategaeth sy’n rhoi’r byd digidol yn gyntaf a gyfeiriwyd ato gan ymatebwyr. Fodd bynnag, nid yw llwyddiant ariannol blaenorol yn gwarantu cynaliadwyedd yn y dyfodol, ac ni ddylai’r Llywodraeth ganolbwyntio ar y byrdymor yn unig. O dan derfynau benthyca presennol a nodir mewn deddfwriaeth, mae gan Channel 4 fynediad cyfyngedig at gyfalaf, tra bo Channel 4 hefyd wedi’i gwahardd rhag creu cynnwys ar gyfer ei phrif sianel. Mae’r cyfyngiadau hyn yn cyfyngu ar ei chyfleoedd i arallgyfeirio’i ffrydiau incwm, sy’n gadael refeniw a chynaliadwyedd ariannol Channel 4 o dan berchnogaeth gyhoeddus yn agored i ysgytwadau sy’n effeithio ar refeniw hysbysebu. Hyd yma, mae’r Senedd y DU wedi cyfyngu benthyca Channel 4 i £200 miliwn, ac o dan ei model perchnogaeth presennol, nid oes gan Channel 4 yr opsiwn i godi cyfalaf drwy roi ecwiti i fuddsoddwyr trydydd parti.

Fel corfforaeth gyhoeddus, rhoddir cyfrif am fenthyca Channel 4 fel benthyca’r sector cyhoeddus ac mae’n sgorio yn erbyn dyled net y sector cyhoeddus. Mae hyn yn golygu ei bod yn fwy cyfyngedig o ran ei gallu i ymateb i newidiadau yn y farchnad na PSBau eraill, a darlledwyr llinol ar y teledu. Mae’r Llywodraeth wedi ystyried opsiynau eraill i fynd i’r afael â chynaliadwyedd Channel 4 o dan berchnogaeth gyhoeddus, gan gynnwys opsiynau i gynyddu ei gallu i fuddsoddi ac felly arallgyfeirio’i ffrydiau refeniw drwy godi’i therfyn benthyca a chaniatáu i Channel 4 fenthyca mwy, gan ganiatáu i Channel 4 sefydlu is-gwmni masnachol neu gronfa fuddsoddi arall. Fodd bynnag, gellid disgwyl i’r ddau opsiwn hyn arwain at gynnydd mewn dyled net y sector cyhoeddus a gellid dadlau na fyddent yn cynnig cymaint o fanteision a chyfleoedd posibl â newid mewn perchnogaeth, ac yn sicr nid heb roi risg ychwanegol yn ôl i’r Llywodraeth ac, yn y pen draw, i’r trethdalwr. Mae’n ddadleuol a ddylai benthyca busnes teledu masnachol gael ei danysgrifennu gan y trethdalwr pan fydd buddsoddiad preifat ar gael ac y gallai ddod â manteision ychwanegol drwy roi mwy o allu i Channel 4 gyflymu ei thwf a rhyddhau ei photensial.

Er bod y Llywodraeth yn cydnabod y gallai newid mewn perchnogaeth darfu ar y busnes, gellid disgwyl i hyn fod yn effaith byrdymor a gellid ei ddilyn gan fwy o fanteision hirdymor gan ddatgloi’r mynediad gwell at gyfalaf y mae ar Channel 4 ei angen a’i galluogi i greu cynnwys ac arallgyfeirio’i ffrydiau incwm heb yr effaith sylweddol ar ddyled net y sector cyhoeddus a fyddai’n debygol o ddigwydd pe bai hynny’n digwydd o dan berchnogaeth gyhoeddus. Mae’n debygol y byddai unrhyw brynwr o blaid cefnogi twf a chynaliadwyedd Channel 4; ac y bydd ganddi ystod ehangach o offer i hwyluso hyn, ac mewn ffordd fwy hyblyg, nag y mae o dan berchnogaeth gyhoeddus.

A fyddai Channel 4, gyda thrwydded a chylch gwaith darlledu gwasanaeth cyhoeddus parhaus, mewn sefyllfa well i gyflawni nodau’r Llywodraeth ar gyfer darlledu gwasanaeth cyhoeddus mewn ffordd gynaliadwy pe bai y tu allan i berchnogaeth gyhoeddus? Cyflwynwch dystiolaeth ategol.

Cwestiwn 38 Degrees wedi’i gyfieithu: Ydych chi’n meddwl y bydd Channel 4 sydd wedi’i phreifateiddio’n fwy cynaliadwy’n ariannol nag o dan berchnogaeth gyhoeddus?

Amlinellodd yr ymgynghoriad nifer o ffactorau sydd, yn ôl y Llywodraeth, yn cyfyngu ar allu Channel 4 i ymateb i’r heriau sy’n wynebu tirwedd y cyfryngau heddiw. Dadleuodd y Llywodraeth y gallai symud Channel 4 i fod o dan berchnogaeth breifat ganiatáu iddi ddylanwadu ar ei sefyllfa wahaniaethol i gael mynediad at gyfalaf newydd, manteisio ar gyfleoedd rhyngwladol, a chreu partneriaethau strategol newydd, i ddiogelu ei dyfodol hirdymor fel PSB gwerthfawr. Gofynnodd yr ymgynghoriad a oedd ymatebwyr yn cytuno â’r safbwynt hwn. O’r 55,365 o ymatebion i gyd a gafwyd gan unigolion i’r cwestiwn hwn, teimlodd 91% (50,138) na fyddai Channel 4 mewn sefyllfa well i gyflawni’n gynaliadwy yn erbyn nodau’r Llywodraeth ar gyfer darlledu gwasanaeth cyhoeddus, nac ychwaith y byddai’n fwy cynaliadwy’n ariannol, y tu allan i berchnogaeth gyhoeddus, tra bo 4% (2,270) o blaid hynny. O’r ymatebion hyn, daeth 15,329 drwy’r arolwg gov.uk, neu drwy’r post, neu drwy e-bost, ac anghytunodd 88% (13,503), y byddai Channel 4, y tu allan i berchnogaeth gyhoeddus, yn gallu cyflawni’n well yn erbyn nodau’r Llywodraeth ar gyfer darlledu gwasanaeth cyhoeddus, tra bo 9% (1,317) wedi cytuno. O’r 40,076 o ymatebion a gafwyd gan unigolion drwy’r arolwg 38 Degrees, dywedodd 91% (36,635) ohonynt ‘na’, tra bo 2% (953) ohonynt wedi cytuno. Roedd rhanddeiliaid yn cefnogi barn a fynegwyd gan unigolion fod Channel 4 eisoes yn cyflawni yn erbyn nodau PSB mewn modd cynaliadwy o dan berchnogaeth gyhoeddus a mynegodd bryderon y gallai newid mewn perchnogaeth effeithio’n negyddol ar gyfraniadau PSB Channel 4.

Mynegwyd pryder y byddai preifateiddio’n cael effaith niweidiol ar Channel 4, ac yn benodol, y byddai’r ffordd y mae Channel 4 yn cyflawni nodau PSB yn wannach o dan berchnogaeth breifat oherwydd y posibilrwydd o gyfaddawdu rhwng cymhelliant parhaus i wneud elw ar ran cyfranddalwyr a darparu cynnwys PSB. Rhannwyd y farn hon gan Channel 4 a oedd yn dadlau bod ei model perchnogaeth presennol yn caniatáu iddi flaenoriaethu’r gwaith o ddarparu gwasanaeth cyhoeddus dros gynhyrchu elw. Dadl a gyflwynwyd gan randdeiliaid ac unigolion oedd bod cyflawni cylch gwaith y gwasanaeth cyhoeddus yn groes i fodel sy’n gwneud elw, ac y byddai perchennog preifat yn torri’r gyllideb gynnwys a rhwymedigaethau anstatudol - er enghraifft, y rhai sy’n gysylltiedig â sgiliau a hyfforddiant. Codwyd cwestiynau hefyd gan randdeiliaid ac unigolion ynghylch a allai Channel 4 fod yn ddeniadol i ddarpar brynwyr heb erydu’i chylch gwaith gwasanaeth cyhoeddus, neu newidiadau i’w gallu i godi cyfalaf digonol i’w gwneud yn fwy cystadleuol. Dadleuodd un rhanddeiliad o’r sector cynhyrchu na ddylai cynnal Channel 4 yn y dyfodol fod yn gyfystyr â chyfnerthu ei chyllid gyda chyfalaf preifat; yn hytrach, dylid cyflawni hyn drwy sicrhau bod cylch gwaith y sianel wedi’i ddiffinio’n glir a gellir ei orfodi. Nododd rhanddeiliaid eraill y byddai angen i’r Llywodraeth fynd i’r afael â sut y gallai sicrhau diogelwch cylch gwaith Channel 4 yn y dyfodol mewn unrhyw ailwerthiad neu ailstrwythuro yn dilyn gwerthiant.

Pryder arall a godwyd gan randdeiliaid ac unigolion ynghylch preifateiddio posibl oedd yr effaith negyddol bosibl ar gynnwys Channel 4. Yn benodol, codwyd pryderon ynghylch ei chyfraniadau tuag at gynnwys amrywiol, amgen, heriol a chynrychiadol a’i hagwedd tuag at greadigrwydd ac arloesedd o dan berchnogaeth breifat. Cyfeiriwyd at y sylw a roddwyd i’r Gemau Paralympaidd gan Channel 4 a’i chanolbwynt ar raglenni sy’n cynnwys pobl o sawl gwahanol gefndir fel cyfraniadau allweddol gan Channel 4, ac roedd ymatebwyr yn cysylltu’r dewis i ddangos y cynnwys hwn â’i fodel perchnogaeth presennol. Dadleuwyd y byddai cwmni preifat sydd ag amcan o wneud elw yn fwy gwrth-risg, gan arwain at lai o arloesi a chreadigrwydd mewn rhaglenni ac, yn hytrach, y byddai’n darlledu mwy o ddeunydd dros ben llestri gyda’r nod o ddenu gwylwyr.

Dadleuwyd hefyd y byddai Channel 4 sydd wedi’i phreifateiddio yn tueddu i lywio oddi wrth gynnwys sy’n ddiwylliannol benodol i Brydain ac yn hytrach yn blaenoriaethu rhaglenni sy’n apelio at farchnadoedd rhyngwladol o’r un anian, gan leihau’r gynrychiolaeth ehangach o amrywiaeth ddiwylliannol bywyd ym Mhrydain a’r Cenhedloedd a’r Rhanbarthau.

Roedd rhanddeiliaid o’r sector hysbysebu o’r farn y gallai newidiadau i’r ffordd mae Channel 4 yn darparu’i chylch gwaith newid cymeriad ei rhaglenni’n sylweddol ac, yn eu tro, sylfaen ei chynulleidfa. Roeddent yn pryderu y byddai hyn yn rhwystro hysbysebwyr rhag cael mynediad at y cynulleidfaoedd iau, amrywiol, a gwerthfawr y mae Channel 4 ar hyn o bryd yn apelio’n benodol atynt; y rhai sydd fel arall yn anodd eu cyrraedd drwy deledu llinol. Roeddent yn cydnabod y newidiadau yn nhirwedd y cyfryngau a amlinellwyd gan ddogfen yr ymgynghoriad, ond maent yn hyderus o hyd fod hysbysebu’n cadw ymddiriedaeth ym mrandiau, a nodwyd eu barn bod Channel 4 wedi bod yn arbennig o fedrus wrth gynyddu ei refeniw hysbysebu digidol.

Mynegwyd pryderon ynghylch annibyniaeth Channel 4 pe bai newid mewn perchnogaeth. Canmolwyd dyfnder, ansawdd a didueddrwydd darllediadau newyddion Channel 4, a chodwyd ofnau, pe bai newid mewn perchnogaeth, y gallai Channel 4 golli ei natur ddiduedd a gorfod arddel barn neu ddelfrydau ei pherchennog ar draul cyflawni ei nodau PSB.

Dadl arall a gyflwynwyd oedd pe bai Channel 4 yn cael ei phreifateiddio, na fyddai’n darparu cymaint o fuddion gwasanaeth cyhoeddus na chymdeithasol a diwylliannol megis ei chyfraniadau ehangach at gadwyn werth y diwydiannau creadigol. Codwyd pryderon hefyd ynghylch a fyddai Channel 4 yn parhau i greu rhaglenni dogfen dwys o bwys a chynnwys crefyddol a moesegol o dan berchnogaeth breifat.

Roedd safbwynt a gyflwynwyd gan ymatebwyr o’r sector cynhyrchu annibynnol yn dadlau y byddai perchnogaeth breifat yn rhoi pwysau anochel i leihau cylch gwaith gwasanaeth cyhoeddus Channel 4. Safbwynt gan sectorau eraill oedd y byddai perchnogaeth breifat o Channel 4 yn arwain at golli ei hunaniaeth unigryw. Roeddent yn teimlo y byddai pris diwylliannol i’w dalu, gan fynegi y byddai goblygiadau economaidd a chymdeithasol a fyddai’n mynd yn groes i’r nod o gefnogi a hyrwyddo’r sector cynhyrchu teledu annibynnol.

Safbwynt arall a gyflwynwyd gan randdeiliaid oedd y byddai Channel 4 wedi’i phreifateiddio mewn sefyllfa well i greu cynnwys a chyflawni nodau PSB. Mae cyfres o randdeiliaid sy’n cefnogi’r safbwynt hwn yn nodi y gall chwaraewyr y sector preifat ddarparu gwerth cyhoeddus yn effeithiol ac yn effeithlon o dan y rheolau cywir, a chyda’r gyfundrefn gywir o gymhellion, yn enwedig os yw diwylliant y cwmnïau hynny’n cyd-fynd â’r ddarpariaeth honno. Pwysleisiodd y rhanddeiliaid hyn, fodd bynnag, bwysigrwydd diwygiadau ehangach gan y Llywodraeth i fuddion a rhwymedigaethau PSB er mwyn sicrhau cynaliadwyedd pob PSB, nid Channel 4 yn unig.

Dadleuodd rhanddeiliaid ac unigolion y byddai’n well cadw’r cylch gwaith o dan newid mewn perchnogaeth, a nodwyd hefyd y gallai fod yn briodol diweddaru rhai agweddau ar y cylch gwaith i adlewyrchu newidiadau yn nhirwedd y cyfryngau. Teimlwyd y gallai rhwymedigaethau’r drwydded fod yn fecanwaith defnyddiol i sicrhau bod nodau PSB Channel 4 yn parhau i gael eu cyflawni o dan berchnogaeth newydd.

Safbwynt arall a fynegwyd gan gynhyrchwyr annibynnol oedd, o dan berchnogaeth breifat, y byddai cryn dipyn o gynyrchiadau’n cael eu gwneud yn fewnol, pe bai cyfyngiad cyhoeddwr-ddarlledwr Channel 4 wedi’i ddileu. Dadl arall a gyflwynwyd oedd y byddai erydu’r model cyhoeddwr-ddarlledwr yn niweidio’r economi greadigol ac yn effeithio ar ei gallu i allforio ei fformatiau dramor. Dadleuodd yr ymatebwyr hynny fod llwyddiant sector cynhyrchu annibynnol y DU nid yn unig yn llwyddiant economaidd, sy’n cynrychioli tua £2.9 biliwn y flwyddyn, ond hefyd yn rhoi cyfle i’r DU arfer pŵer meddal a dylanwadu’n fyd-eang drwy allforio cynnwys Prydeinig a’r dalent sy’n dod i’r golwg.

Mynegodd ymatebwyr bryder am effaith preifateiddio ar y sector darlledu ehangach ac roedd galwadau ar y Llywodraeth i gomisiynu dadansoddiad ar effaith preifateiddio ar y sector PSB ehangach.

Ymateb y Llywodraeth

Mae’r Llywodraeth yn cydnabod y pryderon a fynegwyd gan ymatebwyr am y gwahanol ddewisiadau y gallai perchennog newydd eu gwneud mewn perthynas â chyflawni cylch gwaith Channel 4, ac mae’n cydnabod y rôl bwysig y mae ei chylch gwaith darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn ei chwarae wrth gefnogi’r economi greadigol, a sicrhau bod Channel 4 yn cynnig ystod amrywiol o gynnwys i’w chynulleidfaoedd. Hyd yma, mae’r gwaith gan Channel 4 i gyflawni’r canlyniadau a nodir yn ei chylch gwaith wedi bod o fudd i’w strategaeth brand a denu cynulleidfa, gan greu model masnachol llwyddiannus. Yn rhan o hyn yw ei chynnwys beiddgar ac unigryw, a’r broses sy’n ei greu, gan gynnwys ei rôl yn cefnogi sgiliau a thalent yn yr economi greadigol. Er nad yw’n bosibl rhagweld yn union sut y byddai’i rhwymedigaethau yn cael eu gweithredu gan unrhyw brynwr penodol yn y dyfodol, byddem yn disgwyl i brynwyr weld gwerth gwneud penderfyniadau sy’n parhau i gyflawni canlyniadau yn unol â’r rhai a welwn heddiw, gan eu bod yn gysylltiedig â brand Channel 4. Wrth i’r farchnad droi’n fwy cystadleuol, mae cwmnïau’r cyfryngau’n edrych at ddenu a chadw cynulleidfaoedd mwy penodol ac i chwarae i gryfderau penodol. Mae’n debygol bod brand a statws unigryw Channel 4 yn y farchnad yn cynrychioli sylfaen werthfawr y byddai perchennog newydd yn ceisio adeiladu arni, ac y byddai’n parhau i fod â diddordeb mewn cefnogi sgiliau a datblygu talent yn yr economi greadigol.

Bydd y Llywodraeth yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berchennog newydd Channel 4 gadw at ymrwymiadau parhaol, yn debyg i’r rhai sydd gan Channel 4 heddiw, tra’n caniatáu i Channel 4 addasu a thyfu, gan gadw ei llais unigryw ar ein sgriniau am flynyddoedd i ddod. Bydd hyn yn cynnwys cadw ei chylch gwaith i ddarparu rhaglenni unigryw, addysgol, arloesol ac arbrofol sy’n cynrychioli ehangder y gymdeithas. Bydd hyn hefyd yn cynnwys rhwymedigaethau cyfatebol ar gyfer y newyddion a materion cyfoes, i ddangos rhaglenni gwreiddiol, ac i barhau i greu rhaglenni y tu allan i Lundain ac ar draws y DU.

Nid oes gan y Llywodraeth unrhyw fwriad i erydu’r cyfraniad at ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus y mae Channel 4 yn ei wneud ar hyn o bryd, ond yn hytrach mae’n gweld y cyfle y bydd Channel 4 sy’n fwy broffidiol ac sy’n tyfu, wedi’i hwyluso gan fynediad at gyfalaf a buddion strategol posibl eraill, yn ei gynnig ar gyfer mwy o gyfraniadau gwerth cyhoeddus, yn enwedig pan mae cylch gwaith gwasanaeth cyhoeddus parhaus yn sail i hynny. Pe bai Channel 4 yn gallu cael gafael ar gyfalaf i hwyluso mwy o fuddsoddi mewn cynnwys a datblygiadau technolegol, gallem weld nifer uwch o fuddion economaidd a chymdeithasol wrth i’w gallu i gyrraedd ac apelio at gynulleidfaoedd ehangu, tra gall perchennog newydd hefyd gyflymu’r gwaith o ehangu cynnyrch ffrydio Channel 4 yn rhyngwladol, gan gynyddu effaith Channel 4 dramor a dod â rhagor o fuddion pŵer meddal i’r DU. Bydd y Llywodraeth yn asesu cynlluniau darpar brynwyr ar gyfer Channel 4 fel rhan o unrhyw broses i sicrhau perchennog newydd. Mae’r Llywodraeth yn cytuno â’r ymatebwyr hynny a nododd dystiolaeth o ddarlledwyr preifat sy’n darparu gwerth cyhoeddus, fel y dangosir gan ITV a Channel 5 yn rheolaidd sy’n rhagori ar eu cynnwys, eu cynhyrchu annibynnol a’u cwotâu comisiynu rhanbarthol. Nid yw’n cytuno felly fod cyflawni rhwymedigaethau PSB yn groes i berchnogaeth breifat.

Mae pob PSB, o dan unrhyw fodel perchnogaeth, yn cael ei fonitro a’i werthuso’n barhaus gan y rheoleiddiwr annibynnol Ofcom ar eu darpariaeth yn erbyn eu rhwymedigaethau darlledu gwasanaeth cyhoeddus fel un o amodau eu trwydded ddarlledu.

Yn ogystal ac mewn perthynas â’r pryderon a fynegwyd gan rai ymatebwyr ynghylch y posibilrwydd o golli annibyniaeth neu natur ddiduedd Channel 4, mae Cod Darlledu Ofcom yn cynnwys rheolau caeth i sicrhau bod darllediadau newyddion, ar ba ffurf bynnag, yn cael eu hadrodd â chywirdeb a didueddrwydd dyladwy. Mae rhwymedigaeth gyfreithiol ar bob darlledwr trwyddedig yn y DU i gadw at y rheolau hyn, a sicrhau bod gweithdrefnau ar gyfer ymdrin â chwynion gan gynulleidfaoedd am unrhyw achos posibl o dorri’r rheolau hyn yn cael eu sefydlu a’u cynnal.

A ddylai Channel 4 barhau â’i chyfraniad at godi gwastad rhanbarthau a chenhedloedd y DU drwy gadw presenoldeb y tu allan i Lundain a chael cylch gwaith cynhyrchu cryfach yn y rhanbarthau? Cyflwynwch dystiolaeth ategol.

Cwestiwn 38 Degrees wedi’i gyfieithu: Ydych chi’n meddwl y dylai Channel 4 barhau i ddarparu swyddi, cyfleoedd a buddsoddiad y tu allan i Lundain ac ar draws y DU?

Amlinellwyd y ddogfen ymgynghori ymrwymiad Channel 4 i godi’r gwastad a’i chefnogaeth barhaus tuag at yr economïau cenedlaethol a rhanbarthol. Roedd yn nodi cyfraniad ariannol Channel 4 at economi’r DU a’r gwahanol strategaethau a mentrau a gyflwynwyd ac sydd wedi’u hanelu at hybu presenoldeb rhanbarthol, gwariant ar gynnwys, comisiynu a datblygu sgiliau ledled y DU. Ceisiwyd barn ynghylch a ddylai’r ymrwymiadau hyn gael eu cynnal neu’u cryfhau. O’r 54,760 o ymatebion i gyd a gafwyd gan unigolion i’r cwestiwn hwn, teimlodd 94% (51,450) y dylai Channel 4 barhau gyda’i chyfraniadau at godi’r gwastad. O’r ymatebion hyn, daeth 15,283 drwy’r arolwg gov.uk, neu drwy’r post, neu drwy e-bost, a theimlodd 86% (13,104) y dylai Channel 4 barhau gyda’i hymrwymiadau i godi’r gwastad, tra oedd 5% (708) yn anghytuno. O’r 39,477 o ymatebion a gafwyd gan unigolion drwy’r arolwg 38 Degrees, dywedodd 97% (38,346) ‘ie’, tra bo 1% (479) wedi anghytuno. Yn gyffredinol, roedd rhanddeiliaid yn gefnogol o’r gwaith mae Channel 4 yn ei wneud yn y maes hwn.

Dadleuwyd bod Channel 4 eisoes yn cyflawni ar ei chyfraniad at godi’r gwastad a chyfeiriwyd at bresenoldeb parhaol Channel 4 yn Leeds, Bryste a Glasgow fel tystiolaeth o hyn. Dull a fabwysiadwyd gan randdeiliaid oedd cyfeirio at broses ddiweddar Channel 4 o drawsnewid ei strwythur a’i chomisiynu drwy’i strategaeth ‘4 All the UK’ fel tystiolaeth. Cyfeiriodd eraill at fuddsoddiad Channel 4 mewn rhaglenni y tu allan i Lundain a’i bod yn parhau i chwarae rhan wrth helpu i adeiladu’r sector teledu a gweithgarwch ar draws rhanbarthau a chenhedloedd y DU. Disgrifiodd un ddadl, a gyflwynwyd gan randdeiliaid yn y lleoliadau lle mae gan Channel 4 bresenoldeb corfforol, sut mae’r pencadlys yn Leeds a hybiau rhanbarthol wedi darparu ‘catalyddion’ i sefydliadau creadigol eraill sefydlu swyddfeydd y tu allan i Lundain, gan nodi eu barn bod ymrwymiadau parhaus o’r math hwn yn debygol o fod yn anoddach eu cynnal yn y tymor canolig i’r hirdymor drwy fodel perchnogaeth preifat. Roedd y rhai a ymatebodd o’r sector hysbysebu i gyd yn gytûn wrth gydnabod cyfraniadau presennol Channel 4 at economïau creadigol rhanbarthol.

Dadleuodd rhanddeiliaid eraill y dylai Channel 4 gynnal neu wella ei phresenoldeb y tu allan i Lundain a De-ddwyrain Lloegr yn y dyfodol, er enghraifft, adleoli pellach y tu allan i Lundain, mwy o gwotâu cynhyrchu cenedlaethol, mwy o gwotâu cynhyrchu rhanbarthol, neu ddiogelu cyllidebau rhaglenni. Cyflwynodd rhanddeiliaid rhanbarthol, yn enwedig o’r sector cynhyrchu annibynnol, y farn ei bod yn hen bryd codi’r gwastad, gan ddadlau bod Llundain yn parhau i fod yn rhy flaenllaw gyda chomisiynwyr yn penderfynu comisiynu’r teitlau a fydd yn sicrhau’r elw mwyaf gan nifer fach o gwmnïau annibynnwyr mawr yn Llundain yn ddiofyn - arfer yr oeddent yn teimlo y cafodd ei wyro oddi wrtho at ddiben cyflawni cwota yn unig.

Un safbwynt a fynegwyd oedd y dylid cynnal cwotâu cynhyrchu rhanbarthol presennol, gan gyfeirio at ymrwymiadau gwirfoddol Channel 4 ei hun i gynyddu ei gwariant ar gynnwys yn y rhanbarthau’n ychwanegol at ei chwotâu presennol. Awgrymwyd hefyd y dylid cryfhau’r cwotâu er mwyn sicrhau eu bod yn cyd-fynd ag ymrwymiadau gwirfoddol Channel 4 ac i atal y risg y bydd unrhyw berchennog yn y dyfodol yn cefnu ar ddyheadau blaenorol Channel 4.

Dadleuwyd y byddai preifateiddio’n peryglu ymrwymiadau Channel 4 i godi’r gwastad. Un pryder a godwyd oedd canfyddiad y byddai perchennog preifat yn rhoi elw ac effeithlonrwydd o flaen codi’r gwastad, gan arwain at ffocysu gwariant, unwaith yn rhagor, yn Llundain a diwydiannau creadigol yn Ne-ddwyrain Lloegr. Mynegodd undebau llafur yn arbennig bryderon y byddai perchnogion preifat yn ceisio gwneud arbedion cost-effeithlonrwydd drwy ganoli gweithrediadau Channel 4, ac o ganlyniad y byddai’r buddion economaidd sy’n cael eu lledaenu ar hyn o bryd ledled y DU yn cael eu cyfeirio’n ôl at y brifddinas. Un safbwynt a fynegwyd gan randdeiliaid oedd, pe bai’n cael ei phreifateiddio, y byddai’n anoddach i sicrhau bod ymrwymiadau Channel 4 i godi’r gwastad yn cael eu cynnal. Dadleuwyd mai’r Llywodraeth sy’n gorfodi blaenoriaethau ar Channel 4, megis yr agenda i godi’r gwastad, yw prif fygythiad i gynaliadwyedd Channel 4.

Cyfeiriodd rhanddeiliaid o’r sector cynhyrchu annibynnol at adroddiad diweddar Ernst & Young (EY) a gomisiynwyd gan Channel 4 i ddangos ei chyfraniad at y diwydiannau creadigol a’r sector cynhyrchu annibynnol a sut y gellid niweidio hyn o dan berchnogaeth breifat.[footnote 8] Lleisiwyd pryderon ganddynt y gallai preifateiddio Channel 4 leihau cyfraniad economaidd Channel 4 yn sylweddol at ei chadwyn gyflenwi, yn enwedig yn y Cenhedloedd a’r Rhanbarthau. Mae adroddiad EY, a gomisiynwyd gan Channel 4, yn awgrymu y gallai gwerth ychwanegol gros (GVA) a gynhyrchir yn y Cenhedloedd a’r Rhanbarthau yn ei chadwyn gyflenwi dros gyfnod o ddeng mlynedd fod 37% yn is os caiff Channel 4 ei phreifateiddio gyda’r model cyhoeddwr-ddarlledwr wedi’i ddileu, oherwydd newid mewn gwariant comisiynu tuag at gynyrchiadau mewnol.

Yn ei hymateb, dadleuodd Channel 4 y byddai’n debygol i’w gweithgareddau yn y rhanbarthau a’r cenhedloedd leihau o dan berchnogaeth breifat. Dadleuodd fod cylch gwaith presennol y sianel yn ei gwneud yn ofynnol iddi hyrwyddo lleisiau nas clywir a sefyll dros amrywiaeth ledled y DU, ac o dan y model a’r strategaeth bresennol mae ganddi gynlluniau i barhau i dyfu’i hymrwymiad yn y maes hwn. Ychwanegodd, o dan y model presennol o berchnogaeth gyhoeddus, nad darlledwr yn unig yw Channel 4 ond dull ymyrryd polisi gwerthfawr ar gyfer cyflawni blaenoriaethau cenedlaethol fel ‘codi’r gwastad’.

Ymateb y Llywodraeth

Mae’r Llywodraeth yn cydnabod ymrwymiad Channel 4 i godi’r gwastad a’i chefnogaeth tuag at yr economïau cenedlaethol a rhanbarthol. Yn 2017, ymgynghorodd y Llywodraeth ar gynyddu effaith ranbarthol Channel 4, ac yn dilyn hyn, yn 2019, agorodd Channel 4 ei phencadlys Cenedlaethol newydd yn Leeds yn swyddogol. Mae’r Llywodraeth yn cydnabod pwysigrwydd rhwydwaith Channel 4 o berthnasau y tu allan i Lundain, nid yn unig o ran cefnogi twf yr economi greadigol, ond i gefnogi ei safle unigryw yn y farchnad, a’r gallu i siarad â chynulleidfaoedd ledled y DU. Nid yw’r Llywodraeth yn cytuno ag awgrym adroddiad EY y bydd Channel 4 yn gwneud y lleiaf posibl i fodloni ei chwotâu o ran y cenhedloedd a’r rhanbarthau a rhwymedigaethau gwasanaeth cyhoeddus eraill o dan berchnogaeth breifat o ystyried bod Channel 5 ac ITV yn aml yn rhagori ar eu cwotâu cynhyrchu rhanbarthol. Yn hytrach, mae’r Llywodraeth yn credu y bydd rhwydwaith rhanbarthol Channel 4 yn ased deniadol i ddarpar brynwyr ei feithrin a’i ddatblygu. Bydd rhwymedigaethau presennol Channel 4 o ran cynyrchiadau rhanbarthol, a chynyrchiadau y tu allan i Loegr, yn cael eu cynnal. Rydym yn disgwyl i fynediad Channel 4 at rwydweithiau y tu allan i Lundain a’i gallu i siarad ag amrywiaeth eang o gynulleidfaoedd ledled y DU fod yn ased deniadol y bydd unrhyw ddarpar brynwr yn ceisio’i feithrin a’i ddatblygu. Yn wir, does dim rheswm pam na all gwerthiant gyflymu’r broses o gynyddu effaith a gaiff y darlledwr y tu allan i Lundain.

Bydd y Llywodraeth yn profi uchelgais cynigwyr posibl ar bresenoldeb a buddsoddiad rhanbarthol drwy unrhyw broses werthu. Bydd hyn yn caniatáu i berchennog newydd ystyried y dull gorau o adeiladu’n gynaliadwy ar gyfraniadau Channel 4 yn y maes hwn a chaiff ei danategu gan rwymedigaethau cylch gwaith clir ar gyfer buddsoddiad parhaus.

Nid yw penderfyniad Channel 4 i greu mwy o rolau a swyddfeydd y tu allan i Lundain o ganlyniad i ddeddfwriaeth na rhwymedigaethau eraill a osodir arni, ac nid yw’r Llywodraeth o’r farn ei bod yn briodol bod yn benderfynol ar ei hôl troed ffisegol o ystyried cefndir deinamig y farchnad. Ni fyddai gofynion rhy benderfynol yn cefnogi cynaliadwyedd Channel 4 yn y dyfodol na’r gallu i’r Llywodraeth ymateb mewn modd hyblyg i unrhyw sefyllfaoedd yn y dyfodol lle bo anghydbwysedd o ran lle y teimlir buddion yr economi greadigol.

A ddylai’r Llywodraeth adolygu cylch gwaith a rhwymedigaethau Channel 4 i sicrhau ei bod yn parhau i fod yn berthnasol mewn marchnad ddarlledu sy’n newid o hyd? Os ‘dylai’, pa newidiadau y dylid eu gwneud (a allai gynnwys rhyddid newydd neu newidiadau i’w rhwymedigaethau)? Cyflwynwch dystiolaeth ategol.

Cwestiwn 38 Degrees wedi’i gyfieithu: Ar hyn o bryd, mae gan Channel 4 gyfrifoldeb i hyrwyddo lleisiau nas clywir, cymryd risgiau creadigol beiddgar a sefyll dros amrywiaeth ledled y DU. Mae’r Llywodraeth yn gofyn a ddylai newid hyn i wneud Channel 4 yn fwy cystadleuol.

Amlinellodd yr ymgynghoriad nodau a blaenoriaethau’r Llywodraeth ar gyfer darlledu yn y sector cyhoeddus, gan nodi y bydd moderneiddio cylch gwaith presennol Channel 4 hefyd yn cael ei ystyried fel rhan o’r broses honno. Mae’r cwestiwn yn ceisio barn ar berthnasedd cylch gwaith presennol Channel 4 yn erbyn y tirwedd darlledu sy’n newid o hyd. O’r 54,440 o ymatebion i gyd a gafwyd gan unigolion i’r cwestiwn hwn, gwrthwynebodd 87% (47,554) ohonynt unrhyw adolygiad o’r cylch gwaith, tra bo 6% (3,275) ohonynt o blaid adolygiad. O’r ymatebion hyn, daeth 15,255 drwy’r arolwg gov.uk, neu drwy’r post, neu drwy e-bost, a gwrthwynebodd 72% (10,987) ohonynt unrhyw adolygiad i’r cylch gwaith, tra bo 14% (2,178) ohonynt o blaid adolygiad. O’r 39,185 o ymatebion a gafwyd gan unigolion drwy’r arolwg 38 Degrees, gwrthwynebodd 93% (36,567) ohonynt, tra bo 3% (1,097) ohonynt o’i blaid. Yn gyffredinol, roedd rhanddeiliaid yn gefnogol o gylch gwaith presennol Channel 4, gan dynnu sylw at ei rôl unigryw yn yr ecoleg ddarlledu.

Dadleuodd rhanddeiliaid ac unigolion fod cylch gwaith presennol Channel 4 yn gweithio’n dda ac felly na ddylid newid cylch gwaith a rhwymedigaethau Channel 4, ond fel y nodwyd uchod, mynegodd ymatebwyr bryderon am yr effaith y gallai preifateiddio’i chael ar y ffordd y mae Channel 4 yn cyflawni’i chylch gwaith. Pwysleisiodd set o randdeiliaid fod gan Channel 4 rôl unigryw yn yr ecoleg ddarlledu o ganlyniad i’w chylch gwaith PSB presennol. Mae’n werth nodi hefyd y cydnabuwyd bod Channel 4, o dan ei model presennol, wedi mynd y tu hwnt i’w chylch gwaith presennol yn gyson o ran perfformiad yn erbyn cwotâu, yn enwedig o ran yr oriau cymhwysol a gomisiynwyd gan gynhyrchwyr annibynnol.

Un o fuddion cylch gwaith presennol Channel 4 a godwyd oedd ei hamrywiaeth a’i chreadigrwydd, gyda’r sylw a roddodd i’r Gemau Paralympaidd a’i chanolbwynt ar grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli’n cael eu canmol yn benodol yn yr ymatebion. Teimlwyd bod y rôl hon yn unigryw i Channel 4, gyda’i chylch gwaith presennol yn ei gwneud yn ofynnol iddi fentro, arloesi ac adlewyrchu amrywiaeth yn ei chynnwys. Er enghraifft, safbwynt a godwyd gan randdeiliaid oedd bod gan Channel 4 lwyddiannau unigryw o ran sicrhau bod grwpiau amrywiol yn cael eu portreadu ar y sgrin mewn modd gwreiddiol, ac wrth gynyddu amrywiaeth a chynrychiolaeth nodweddion gwarchodedig oddi ar y sgrin. Amlygodd ymatebion eraill fod buddion pellach yn cael eu darparu gan Channel 4 i gynulleidfaoedd y DU a’r sector ehangach o dan ei chylch gwaith presennol. Safbwynt arall a fynegwyd gan ymatebwyr oedd y dylai’r Llywodraeth ddefnyddio’r argymhellion diweddar i PSBau gan Ofcom er mwyn sicrhau bod Channel 4 yn parhau i ddarparu’r buddion hynny.

Amlygwyd rhaglenni newyddion Channel 4 i fod yn arbennig o bwysig gan ymatebwyr. Roedd annibyniaeth Channel 4 hefyd yn cael ei gwerthfawrogi gyda dadl a gyflwynwyd gan ymatebwyr bod Channel 4 yn darparu rhaglenni cytbwys a diduedd. Yn ogystal â hyn, fe’i nodwyd bod Channel 4 yn dangos rhaglenni eraill o ansawdd uchel.

Dadleuwyd hefyd y gallai cylch gwaith Channel 4 gael ei gryfhau, neu gael rhagor o rwymedigaethau wedi’u hychwanegu ato. Un farn a fynegwyd oedd y gallai cryfhau’r cylch gwaith sicrhau bod genres fel y celfyddydau, cynnwys crefyddol a chynnwys rhyngwladol, y dywedwyd eu bod wedi gostwng yn sylweddol ar Channel 4 yn ystod y degawd diwethaf, yn cael eu darparu’n well. Barn a fynegwyd gan ddarlledwyr oedd y byddai adolygu’r cylch gwaith yn ddefnyddiol, ond yng nghyd-destun adolygiad cyffredinol y Llywodraeth o PSB, ac nid dim ond at ddiben newid perchnogaeth Channel 4. Awgrymodd un rhanddeiliad y dylid ymestyn cenhadaeth gwasanaeth cyhoeddus Channel 4 drwy broses ymgynghori annibynnol dryloyw a oruchwylir gan Ofcom, nid y Llywodraeth. Awgrymodd eraill adolygiad o’r cylch gwaith i sicrhau bod Channel 4 yn parhau i fod â chylch gwaith cryf a bod meysydd megis buddsoddi yn y cenhedloedd a’r rhanbarthau, newyddion a materion cyfoes, ffilmiau, datblygu sgiliau ac amrywiaeth yn parhau i gael eu diogelu.

Safbwynt arall a gyflwynwyd gan randdeiliaid oedd y syniad o ganiatáu rhyddid newydd i Channel 4. Er enghraifft, mae rhai yn tynnu sylw at y cyfyngiadau ar allu Channel 4 i fenthyca gan ddweud y dylid edrych eto ar hyn, a dadleuodd y gellid rheoli unrhyw gynnydd yng ngallu Channel 4 i fenthyca er mwyn sicrhau ei fod yn cael effaith sylweddol gyfyngedig ar ddyled net y sector cyhoeddus.

Roedd ymateb Channel 4 yn dadlau bod ei diwylliant o wasanaeth cyhoeddus wedi caniatáu i’r cylch gwaith dyfu a datblygu. Er ei bod yn amlwg nad oedd yn dymuno gweld y cylch gwaith yn cael ei wanhau, dadleuodd y gallai’r Llywodraeth ac Ofcom ystyried sut y gellid moderneiddio’r gwaith o ddarparu cylch gwaith i adlewyrchu bod y ffordd y mae cynulleidfaoedd yn gwylio cynnwys wedi newid.

Ymateb y Llywodraeth

Mae’r Llywodraeth yn cefnogi system fodern o ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus sy’n aros yn berthnasol ac sy’n gallu parhau i ddiwallu anghenion cynulleidfaoedd y DU yn y dyfodol. Dyna pam y cyhoeddodd y Llywodraeth adolygiad strategol, wedi’i lywio gan adolygiad diweddar Ofcom o ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus (‘Sgrîn Fach: Trafodaeth Fawr’), yr adroddiadau perthnasol gan y Pwyllgorau Dethol yn y ddau Dŷ o Senedd y DU, a chyngor arbenigol gan ei Banel Cynghori ar PSBau ei hun. Edrychodd yr adolygiad, yr oedd yr ymgynghoriad hwn yn rhan ohono, ar ffyrdd o ddiweddaru cylchoedd gwaith a rhwymedigaethau ein holl ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn unol â’r newidiadau yr ydym yn eu gweld yn y farchnad ddarlledu, er mwyn sicrhau y gallant barhau i gyfrannu’n llwyddiannus ac yn gynaliadwy.

Nid yw’r Llywodraeth yn credu bod cyflawni cylch gwaith y gwasanaeth cyhoeddus yn groes i fodel gwneud elw, nac ychwaith y byddai perchennog preifat yn gwneud Channel 4 yn ddarlledwr llai dibynadwy gyda llai o ymwybyddiaeth o’r cyhoedd. Mae cyfraniadau cyhoeddus unigryw Channel 4, a lywiwyd yn rhannol gan ei chylch gwaith, yn annatod i’w brand a’i safle yn y farchnad. Bydd natur unigryw Channel 4 yn rhan o’r hyn sy’n ei gwneud yn ddeniadol i ddarpar brynwyr, a bydd cyfuno hyn â gofyn am ymrwymiadau parhaus, yn debyg i’r rhai sydd ganddi heddiw, drwy ei chylch gwaith ac fel rhan o unrhyw broses werthu yn sicrhau bod cyfraniad cyhoeddus Channel 4 yn parhau i gael ei feithrin a’i ddatblygu gan unrhyw berchennog newydd. Gallai Channel 4 sy’n fwy proffidiol ac sy’n tyfu, wedi’i hwyluso gan fynediad at gyfalaf, wneud mwy o gyfraniadau gwerth cyhoeddus, yn enwedig o’i hategu gan gylch gwaith darlledu gwasanaeth cyhoeddus parhaus.

Mewn perthynas â’r pryderon a fynegwyd gan rai ymatebwyr ynghylch rhaglenni newyddion Channel 4, fel yr amlinellir ym mharagraff 49, caiff pob PSB, o dan unrhyw fodel perchnogaeth, ei fonitro a’i werthuso’n barhaus gan y rheoleiddiwr annibynnol Ofcom ar eu darpariaeth o gynnwys newyddion a materion cyfoes o ansawdd uchel fel amodau eu trwydded ddarlledu. Ar ben hynny, fel yr amlinellir ym mharagraff 50, mae Cod Darlledu Ofcom yn cynnwys rheolau caeth i sicrhau bod darllediadau newyddion, ar ba ffurf bynnag, yn cael eu hadrodd â chywirdeb a didueddrwydd dyladwy. Mae rhwymedigaeth gyfreithiol ar bob darlledwr trwyddedig yn y DU i gadw at y rheolau hyn, a sicrhau bod gweithdrefnau ar gyfer ymdrin â chwynion gan gynulleidfaoedd am unrhyw achos posibl o dorri’r rheolau hyn yn cael eu sefydlu a’u cynnal.

Bydd union effaith newid perchnogaeth Channel 4 ar amrywiaeth a chydraddoldeb, ar y sgrin ac oddi arni, yn dibynnu yn y pen draw ar ei strategaeth o dan berchnogaeth breifat. Fodd bynnag, mae’r Llywodraeth o’r farn bod gallu Channel 4 i apelio at amrywiaeth eang o wylwyr a’i chynnwys tra gwahanol yn ffased ganolog o’i brand. Mae gwerth diwylliannol a masnachol i’r brand hwn, ac mae’n debygol y byddai darpar brynwr eisiau meithrin a datblygu hwn.

A ddylai’r Llywodraeth ddileu’r cyfyngiad cyhoeddwr-ddarlledwr er mwyn cynyddu gallu Channel 4 i arallgyfeirio’i ffrydiau cyllid masnachol? Cyflwynwch dystiolaeth ategol.

Cwestiwn 38 Degrees wedi’i gyfieithu: Mae model Channel 4 yn golygu ei bod yn defnyddio cwmnïau cynhyrchu annibynnol o amgylch y DU, a ddylai’r model hwn gael ei newid fel ei bod yn creu cynnwys ei hun yn lle hynny?

Esboniodd yr ymgynghoriad fod Channel 4 yn gweithredu fel cyhoeddwr-ddarlledwr, gan ddarlledu rhaglenni y mae wedi’u comisiynu (neu eu caffael fel arall) gan eraill. Yn wahanol i ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus eraill, mae wedi’i gwahardd rhag bod yn rhan o’r broses o greu rhaglenni i’w darlledu fel rhan o Wasanaeth Channel 4, ac eithrio i’r graddau y gall Ofcom eu caniatáu o bryd i’w gilydd. Felly, mae ei gallu i gynhyrchu refeniw o greu cynnwys wedi’i gyfyngu ac o ganlyniad mae ei model busnes yn dibynnu’n drwm ar refeniw hysbysebu, sy’n gylchol ei natur ac yn symud i ffwrdd o lwyfannau llinol ar y teledu i lwyfannau digidol. Mae cystadleuwyr Channel 4 wedi gallu arallgyfeirio’u refeniw drwy fuddsoddi mewn cynhyrchu, ond mae’r cyfyngiad cyhoeddwr-ddarlledwr yn golygu bod Channel 4 yn gyfyngedig o ran ei gallu i wneud hynny. Cyflwynwyd y cyfyngiad cyhoeddwr-ddarlledwr yn wreiddiol er mwyn cefnogi’r sector cynhyrchu annibynnol, fodd bynnag, mae sector cynhyrchu annibynnol y DU bellach yn ffynnu. Ceisiodd yr ymgynghoriad farn ymatebwyr ar ddileu neu adolygu’r cyfyngiad hwn.

O’r 47,689 o ymatebion i gyd a gafwyd gan unigolion i’r cwestiwn hwn, roedd 77% (36,573) ohonynt o’r farn na ddylai’r Llywodraeth ddileu’r cyfyngiad cyhoeddwr-ddarlledwr, gydag 8% (3,583) ohonynt yn credu y dylid ei ddileu, a bron i 16% (7,533) ohonynt yn ansicr. O’r ymatebion hyn, daeth 15,252 drwy’r arolwg gov.uk, neu drwy’r post, neu drwy e-bost, ac roedd 64% (9,727) ohonynt o’r farn na ddylai’r Llywodraeth ddileu’r cyfyngiad cyhoeddwr-ddarlledwr, gyda 17% (2,594) ohonynt yn credu y dylid ei ddileu, a bron i 19% (2,931) ohonynt yn ansicr. O’r 32,437 o ymatebion a gafwyd gan unigolion drwy’r arolwg 38 Degrees, roedd 83% (26,846) ohonynt o’r farn na ddylai gael ei ddileu, tra bo 3% (989) ohonynt yn credu y dylid ei ddileu, a 14% (4,602) ohonynt yn ansicr. Roedd y mwyafrif o randdeiliaid o blaid cynnal y cyfyngiad cyhoeddwr-ddarlledwr presennol a thynnodd llawer o randdeiliaid sylw at agweddau cadarnhaol y model presennol, yn enwedig ei gefnogaeth o’r sector annibynnol.

Dadleuwyd bod y model presennol yn sicrhau bod popeth a ddarlledir ar Channel 4 wedi’i gomisiynu gan gwmnïau annibynnol a bod yr holl elw a wneir gan y sianel yn cael ei ailfuddsoddi yn y diwydiant. Roedd rhanddeiliaid o’r farn hon yn cyfeirio at astudiaeth Oliver ac Ohlbaum ar gyfer PACT,[footnote 9] a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2020, i ddangos bod refeniw annibynnol y sector cynhyrchu ar y teledu wedi cyrraedd record newydd o £3.3 biliwn yn 2019. Ysgogwyd hyn gan refeniw rhyngwladol yn torri £1 biliwn am y tro cyntaf – cynnydd o 11% ers 2018, a 30% dros y pum mlynedd diwethaf. Roeddent yn dyfynnu hyn fel tystiolaeth bod model presennol Channel 4 yn gweithio.

Pwynt arall a wnaed gan randdeiliaid oedd bod Channel 4 wedi’i sefydlu’n bwrpasol fel cyhoeddwr-ddarlledwr i gefnogi twf a chynaliadwyedd y sector cynhyrchu allanol. Gwnaethant y pwynt bod y sector cynhyrchu annibynnol, ers sefydlu Channel 4, wedi mynd o nerth i nerth, gan gyfrannu at economi greadigol lwyddiannus. Barn a gyflwynwyd gan randdeiliaid o’r sector hysbysebu oedd bod y cyfyngiad cyhoeddwr-ddarlledwr presennol wedi bod yn sbardun pwysig i’r sector cynhyrchu annibynnol, gyda sgil-effeithiau cadarnhaol i sgiliau a thalent mewn hysbysebu. Barn a gyflwynwyd gan randdeiliaid ac unigolion oedd ei bod yn bwysig i Channel 4 barhau i gefnogi’r sector cynhyrchu annibynnol.

Codwyd pryderon ynghylch effeithiau negyddol posibl dileu neu wanhau’r cyfyngiad cyhoeddwr-ddarlledwr, yn enwedig ar y sector cynhyrchu annibynnol, ond hefyd o ran gwanhau’r ffordd y mae Channel 4 yn cyflawni’i chylch gwaith, yn ymwneud yn benodol ag amrywiaeth, annibyniaeth ac agweddau cysylltiedig eraill. Dadl a gyflwynwyd gan randdeiliaid y sector cynhyrchu annibynnol oedd y byddai dileu’r cyfyngiad cyhoeddwr-ddarlledwr yn gweld trosglwyddo gwerth o fusnesau cynhyrchu bach a chanolig i gyfranddalwyr unrhyw berchennog newydd ar Channel 4. Dadleuodd eraill nad yw’r cyfyngiad yn rhwystro Channel 4 rhag bod yn gynaliadwy gan fod y cyfyngiad yn golygu nad yw Channel 4 yn ysgwyddo’r risg ariannol o gynyrchiadau. Roedd Channel 4 hefyd wedi crybwyll rhai o’r teimladau hyn am ganlyniadau posibl dileu’r cyfyngiad, gan ddadlau y gall Channel 4 ffynnu fel cyhoeddwr-ddarlledwr, gan dynnu sylw at y ffaith bod y sefydliad wedi dod o hyd i ffyrdd eraill o esblygu a chynhyrchu ffrydiau newydd o refeniw drwy fentrau gan gynnwys ehangu 4Studio, y Gronfa Fformat Byd-eang, ei chronfeydd menter, a phartneriaethau dosbarthu’n ddigidol gwell.

Barn a gyflwynwyd gan hysbysebwyr oedd y byddai newidiadau i fodel comisiynu Channel 4 yn effeithio ar gymeriad ei rhaglenni unigryw a mentrus ac felly ei gallu i gael mynediad at gynulleidfaoedd gwerthfawr, iau ac amrywiol.

Dywedodd rhanddeiliaid ac unigolion y byddai dileu cylch gwaith cyhoeddwr-ddarlledwr Channel 4 yn lleihau cyfleoedd newydd-ddyfodiaid i’r sector cynhyrchu annibynnol, a fyddai’n cael effaith ar fywiogrwydd y sector sy’n ei wneud mor gryf a llwyddiannus. Tynnodd Channel 4 sylw hefyd at ei rôl bresennol o ran comisiynu a datblygu cwmnïau annibynnol llai, gan ddweud ei bod yn gweithio gyda dwsinau o gwmnïau newydd bob blwyddyn.

Yn ogystal, mynegodd cwmnïau cynhyrchu llai bryderon am eu gallu i gadw eu hawliau eiddo deallusol pe bai Telerau ar gyfer Masnachu Channel 4 yn cael eu newid fel rhan o unrhyw newidiadau i berchnogaeth neu fodel gweithredu Channel 4.

Cyfeiriodd llawer o’r rhai a gefnogodd wanhau neu ddileu’r cyfyngiad at roi’r gallu i Channel 4 wneud ei rhaglenni ei hun fel mantais o lacio’r cyfyngiadau. Fodd bynnag, dadl arall oedd na ddylai hyn ddigwydd oni bai bod Channel 4 yn parhau i fod mewn perchnogaeth gyhoeddus, neu’n dweud y dylid ond gwanhau’r cyfyngiad, nid ei ddileu.

Roedd barn a fynegwyd gan set o randdeiliaid o blaid dileu’r cyfyngiad, gan nodi bod meddu ar Eiddo Deallusol (IP) yn gynyddol bwysig yn nhirwedd y cyfryngau heddiw. Roedd eraill yn amheus y byddai dileu’r cyfyngiad cyhoeddwr-ddarlledwr yn cael effaith niweidiol ar sector cynhyrchu annibynnol y DU, o ystyried ei lwyddiant a’i dwf dros y blynyddoedd a’r refeniw rhyngwladol sy’n cael ei gynhyrchu gan y sector. Fodd bynnag, argymhellwyd ganddynt y dylid ystyried unrhyw newid ar sail ehangach fel rhan o agenda gyffredinol diwygio’r PSB. Roeddent yn dadlau, gyda’r rhwymedigaethau a’r cymhellion cywir, fod PSBau sydd wedi’u berchen arnynt yn breifat yn darparu gwerth yn y maes hwn.

Darn arall o dystiolaeth a nodwyd gan randdeiliaid oedd adroddiad annibynnol gan Ampere Analysis[footnote 10] a gyhoeddwyd ym mis Medi 2021 sy’n asesu canlyniadau posibl newidiadau i gylch gwaith unigryw a model cyhoeddwr-ddarlledwr Channel 4. Dadleuodd rhanddeiliaid a ymatebodd fel hyn y gallai preifateiddio Channel 4 a’i galluogi i gynhyrchu’i chynnwys ei hun arwain at gwmnïau cynhyrchu’n mynd allan o fusnes.

Awgrymodd rhanddeiliaid eraill y byddai cyfraniad economaidd Channel 4 yn y Cenhedloedd a’r Rhanbarthau yn crebachu’n sylweddol pe bai’r gofynion cyhoeddwr-ddarlledwr sydd arni’n lleihau. Mae eraill yn cyfeirio at adroddiad EY a gomisiynwyd gan Channel 4,[footnote 11] sy’n dadlau y byddai Channel 4 wedi’i phreifateiddio gyda rhwymedigaethau gwasanaeth cyhoeddus uwch, y model cyhoeddwr-ddarlledwr wedi’i ddileu a chostau comisiynu wedi’u lleihau, yn gweld gwerth ychwanegol gros (GVA) ei chadwyn gyflenwi yn y cenhedloedd a’r rhanbarthau yn gostwng £1 biliwn dros gyfnod o ddeng mlynedd, gan arwain at 1,200 yn llai o swyddi yn y gadwyn gyflenwi yn y Cenhedloedd a’r Rhanbarthau, nag a fyddai’n digwydd pe bai ei model presennol yn aros ar waith.

Ymateb y Llywodraeth

Mae’r Llywodraeth yn cytuno â’r farn a fynegwyd gan lawer o randdeiliaid fod Channel 4 wedi chwarae rhan bwysig yn y gwaith o gefnogi twf y sector cynhyrchu annibynnol, ac mae’n cydnabod y pryderon a godwyd am yr effeithiau y gallai dileu’r cyfyngiad cyhoeddwr-ddarlledwr eu cael ar y sector. Fodd bynnag, mae’r Llywodraeth yn anghytuno â’r rhai oedd yn dadlau y bydd angen cadw’r cyfyngiad ar waith er mwyn i lwyddiant y sector barhau. Mae refeniw’r sector cynhyrchu annibynnol wedi cynyddu o £500 miliwn ym 1995 i £2.9 biliwn yn 2020, tra bod cyfraniad comisiynau PSB i refeniw’r sector wedi gostwng o 58% yn 2010 i 41% yn 2020,[footnote 12] yn bennaf oherwydd twf refeniw comisiynu rhyngwladol. O’r £2.9 biliwn o refeniw’r sector yn 2020, roedd PSBau yn cyfrif am £1.2 biliwn, gyda Channel 4 yn gwario £210 miliwn ar gomisiynau allanol, sy’n llai na’r BBC (£508 miliwn) ac ITV (£356 miliwn), sydd â’u stiwdios cynhyrchu mewnol eu hunain.[footnote 13]

Er bod Channel 4 felly’n dal i chwarae rhan bwysig, mae’r sector yn elwa fwyfwy o gomisiynau o ffynonellau eraill a gall barhau i ffynnu heb y cyfyngiad cyhoeddwr-ddarlledwr. Felly, barn y Llywodraeth, ar ôl pwyso a mesur, yw y dylid dileu’r cyfyngiad er mwyn galluogi Channel 4 i gael chwarae teg i arallgyfeirio’i ffrydiau refeniw i gynnwys, er mwyn gwella’i gwydnwch busnes o ystyried y pwysau cystadleuol sy’n wynebu PSBau. Mae gan y BBC ac ITV eu busnesau cynhyrchu eu hunain, gydag ITV Studios yn cyfrif am 42% o refeniw ITV Group yn 2020[footnote 14] a BBC Studios yn cyfrif am 25% o gyfanswm incwm y BBC yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2021.[footnote 15] Bydd yn dal yn ofynnol i Channel 4 gomisiynu isafswm o’i rhaglenni gan gynhyrchwyr annibynnol, yn unol â’r cwota a roddir ar PSBau eraill, a fydd yn sicrhau ei chyfraniad parhaus at y sector.

Mae’r Llywodraeth yn anghytuno â’r rhai sy’n awgrymu y dylid gwanhau’r cyfyngiad cyhoeddwr-ddarlledwr ond na ddylid ei ddileu, yn ogystal â’r rhai sydd wedi dadlau y dylid ei ddileu dim ond os yw Channel 4 yn parhau i fod o dan berchnogaeth gyhoeddus. Yr hyn a fydd yn sicrhau cynaliadwyedd hirdymor Channel 4 orau yw’r cyfuniad o ddileu’r cyfyngiad cyhoeddwr-ddarlledwr a’r mynediad uwch at gyfalaf y gallai perchennog newydd ei ddarparu, yn ogystal â diwygio darlledu gwasanaeth cyhoeddus ehangach.

Mae’r Llywodraeth yn cydnabod pwysigrwydd cyfundrefn y Telerau ar gyfer Masnachu, sy’n sicrhau bod cynhyrchwyr annibynnol yn cadw’r hawlfraint ac eiddo deallusol sylfaenol i’w cynnwys, y gallant wedyn eu gwerthu’n rhyngwladol. Y gyfundrefn yw un o’r prif resymau pam mae’r sector cynhyrchu annibynnol wedi gallu cadw ei hawliau ac elwa o’r rhaglenni hynny sy’n llwyddiannus ac yn cael eu marchnata ledled y byd. Mae cymryd rhan yn y gyfundrefn yn un o ofynion statws PSB, ac nid ydym yn bwriadu newid hyn.

Mae dadansoddiad EY, a gomisiynwyd gan Channel 4 ac a ddyfynnwyd gan rai rhanddeiliaid, yn awgrymu y gallai dod â’r model cyhoeddwr-ddarlledwr i ben arwain at ostyngiad o hyd at 16% mewn refeniw o brif gomisiynau ar gyfer cynhyrchwyr bach a chanolig. Mae’r Llywodraeth yn anghytuno â’r asesiad hwn oherwydd, o ran buddsoddi, dim ond 10% o wariant comisiynu allanol Channel 4 oedd gyda chynhyrchwyr â throsiant hyd at £10m yn 2020, llai na’r BBC, ITV a Channel 5,[footnote 16] sy’n awgrymu nad yw perchnogaeth breifat o reidrwydd yn arwain at fuddsoddiad is mewn cwmnïau Mentrau Bach a Chanolig. Yn hytrach, mae’r Llywodraeth yn disgwyl i unrhyw brynwr werthfawrogi perthynas Channel 4 â’r sector o gofio ei bod yn un o sbardunau mwyaf gwerthfawr y busnes, ac mae’n credu y bydd ecosystem gynhyrchu’r DU yn elwa yn y hirdymor o Channel 4 fwy cynaliadwy o dan berchnogaeth breifat. Gall perchnogaeth newydd yn y sector preifat sy’n gwella mynediad Channel 4 at gyfalaf i gefnogi ei thwf a’i chynaliadwyedd arwain at fwy o fuddsoddiad mewn cynyrchiadau annibynnol mewn termau absoliwt wrth i Channel 4 ffynnu ac ehangu.

Rhagwelir y bydd y galw am y sector cynhyrchu annibynnol yn parhau i fod yn gryf, ac mae llawer o gynhyrchwyr presennol yn canfod eu gallu – nid eu galw – sydd wedi’u cyfyngu (gyda phrisiau fesul yr awr ar gyfer genres allweddol fel drama ac astudiaethau natur yn codi, a chyllidebau uchel ar gyfer rhaglenni gyda buddsoddiad rhyngwladol). Er y bydd strategaeth gomisiynu Channel 4 yn y dyfodol ac unrhyw effeithiau cysylltiedig yn cael eu pennu gan strategaeth unrhyw berchennog newydd ar gyfer y busnes, mae’r Llywodraeth yn disgwyl i unrhyw effeithiau fod yn raddol o ystyried bod gwariant comisiynu yn cael ei ddyrannu sawl blwyddyn ymlaen llaw a bod amserlenni’n anodd eu newid dros nos. Bydd hyn yn caniatáu i weithrediadau lliniarol gael eu rhoi ar waith yn gyfochr â hyn, pe bai angen.

Mae’r Llywodraeth yn cydnabod y pryderon a fynegwyd y gallai dileu’r cyfyngiad cyhoeddwr-ddarlledwr gael effaith negyddol ar gyflawniad parhaus Channel 4 o’i chylch gwaith unigryw, ar ei chyfraniad at ddatblygu sgiliau a thalent ar draws y sector, ac ar fuddsoddi mewn cynhyrchu y tu allan i Lundain. Fodd bynnag, mae’r Llywodraeth yn disgwyl y bydd unrhyw berchennog newydd yn debygol o werthfawrogi brand presennol Channel 4 a pharhau i fuddsoddi mewn ystod amrywiol o gynnwys a wneir ledled y DU fel y dangosir gan gynnydd sylweddol mewn gwariant Channel 5 ar gwmnïau annibynnol cymwys yn y cenhedloedd a’r rhanbarthau ers i Viacom (Paramount erbyn hyn) ei phrynu.

Gan gyfeirio at dystiolaeth ategol, beth fyddai’r costau a’r buddion economaidd, cymdeithasol a diwylliannol o symud Channel 4 allan o berchnogaeth gyhoeddus ar y canlynol:

a. profiad cyffredinol y gynulleidfa? b. Corfforaeth Deledu Channel 4 ei hun? c. buddsoddiad yn y sector cynhyrchu annibynnol? ch. buddsoddiad yn y sector ffilmio annibynnol? d. y farchnad hysbysebu ar y teledu? dd. buddsoddiad yn y sector diwydiannau creadigol yn ehangach? e. cystadleuaeth rhwng Channel 4 a sianeli darlledu gwasanaeth cyhoeddus eraill a sianeli nad ydynt yn rhai darlledu gwasanaeth cyhoeddus? f. rhanbarthau a chenhedloedd y DU?

Cwestiwn 38 Degrees wedi’i gyfieithu: Os caiff Channel 4 ei phreifateiddio, a fyddai’r effaith ar bob un o’r canlynol yn gadarnhaol, yn niwtral, yn negyddol neu’n aneglur?

Cafodd yr ymatebion i’r cwestiwn hwn eu graddio yn unol â barn ymatebwyr ynghylch effeithiau posibl (cadarnhaol; negyddol; ddim yn gwybod; niwtral) symud Channel 4 allan o berchnogaeth gyhoeddus yn erbyn y categorïau a restrwyd. Nododd mwyafrif o’r ymatebion gan unigolion a oedd yn cynnwys ymateb i’r cwestiwn hwn yn y blwch testun rhydd y byddai effaith newid mewn perchnogaeth yn negyddol o dan bob categori, fel arfer heb fawr o fanylion na thystiolaeth bellach, os o gwbl, i gefnogi hyn. Roedd y mwyafrif helaeth o’r ymatebion gan randdeiliaid hefyd yn dadlau y byddai effeithiau negyddol o dan yr holl gategorïau, gan gyfeirio’n aml at ymatebion i’r cwestiynau cynharach a darparu fawr o fanylion na thystiolaeth bellach i gefnogi hyn yn eu hymateb i gwestiwn chwech.

Mewn ymateb i gwestiwn 6(a), dadleuwyd y byddai effaith negyddol ar brofiad y gynulleidfa yn gyffredinol. Un farn a fynegwyd yn yr ymatebion, ac un a nodwyd yn ymateb Channel 4 ei hun, oedd y gred y gallai newid mewn perchnogaeth leihau ystod ac amrywiaeth allbwn rhaglenni Channel 4. Dadleuwyd y gallai hyn danseilio gwerthoedd craidd ei chylch gwaith gwasanaeth cyhoeddus a bod yn niweidiol i’r profiad o wylio.

Mewn ymateb i gwestiwn 6(b), un farn a gyflwynwyd oedd y byddai preifateiddio’n cael effaith negyddol ar Gorfforaeth Deledu Channel 4 ei hun, gan newid diwylliant y sefydliad yn sylfaenol drwy ei throi’n fenter fasnachol gyda’r nod o wneud elw. Roedd Channel 4 yn rhannu’r safbwyntiau hyn, gan awgrymu y byddai perchnogion preifat yn ceisio lleihau neu ddileu rhwymedigaethau sy’n gwneud colled. Roedd ymatebion eraill yn dadlau bod Channel 4 yn weithredwr y gellir ymddiried ynddo o ganlyniad i ymwybyddiaeth y cyhoedd o’i hannibyniaeth rhag ymyrraeth wleidyddol a masnachol, a dadleuodd y gallai unrhyw breifateiddio wanhau democratiaeth y DU. Dadleuwyd hefyd y byddai preifateiddio yn niweidio gallu Channel 4 i gyfrannu at y ffordd y mae’r DU yn cael ei gweld yn fyd-eang.

Mewn ymateb i gwestiwn 6(c), dadleuwyd y byddai effeithiau negyddol ar fuddsoddiad Channel 4 yn y sector cynhyrchu annibynnol. Un esboniad a roddwyd yma oedd pe bai’r cyfyngiad cyhoeddwr-ddarlledwr yn cael ei ddileu fel rhan o unrhyw werthiant posibl, y byddai perchennog preifat yn buddsoddi mwy yn fewnol nag yn y sector cynhyrchu annibynnol. Esboniad arall a roddwyd oedd y byddai perchennog preifat yn blaenoriaethu enillion cyfranddalwyr dros barhau i gefnogi’r sector cynhyrchu annibynnol. Cyfeiriodd Channel 4 at bryderon y sector cynhyrchu annibynnol yma i awgrymu y gallai newidiadau o’r fath fod yn niweidiol i’r sector. Dadl arall yma oedd bod perchennog sector preifat yn debygol o ymddiried yn fwy mewn fformatiau teledu dibynadwy, dramâu rhyngwladol, a chynnwys nad oedd wedi’i gyfeirio at agweddau niferus ar ddiwylliant a phrofiad y DU.

Mewn ymateb i gwestiwn 6(ch), tynnodd unigolion a rhanddeiliaid sylw at gyfraniad Film4 i gynhyrchu ffilmiau annibynnol yn y DU a bod Channel 4 yn gwario mwy ar ffilmiau Prydeinig nag unrhyw ddarlledwr arall yn y DU. Dadleuwyd bod cylch gwaith PSB Channel 4 yn golygu ei bod yn canolbwyntio ar gefnogi cynnwys gwreiddiol ac unigryw gan gwmnïau ffilmio llai o Brydain, heb unrhyw rwymedigaethau i ddychwelyd elw i gyfranddalwyr. Barn arall a fynegwyd oedd na fyddai’r gweithgarwch hwn yn cyd-fynd â model sy’n gwbl fasnachol. Pwysleisiodd Channel 4 fod ffilm yn fusnes peryglus lle mae’n anodd gwarantu enillion masnachol, ac felly roeddent o’r farn ei bod yn risg na fyddai perchennog preifat yn cynnal ei fuddsoddiad yn Film4, nac yn cadw at yr un drefn yn hynny o beth. Tynnwyd sylw hefyd at lwyddiant buddsoddiad Channel 4 mewn talent Brydeinig drwy Film4, sydd wedi arwain at 37 Oscar, a chodwyd pryderon y byddai newid mewn perchnogaeth yn cael effaith negyddol ar y buddsoddiad hwn.

Mewn ymateb i gwestiwn 6(d), pryder a godwyd gan randdeiliaid oedd mai creadigrwydd, natur fentrus ac amrywiaeth Channel 4 yw’r hyn sy’n denu cynulleidfa fawr ei hangen a theimlai fod perygl y byddai hyn yn cael ei golli o ganlyniad i breifateiddio. Mynegodd Channel 4 rai pryderon hefyd y byddai newid mewn perchnogaeth yn cael effaith negyddol ar ei sefyllfa unigryw yn y farchnad.

Mewn ymateb i gwestiwn 6(dd), dadleuwyd y byddai preifateiddio yn cael effaith negyddol ar fuddsoddiad Channel 4 yn sector y diwydiannau creadigol. Dadleuwyd y gallai effeithiau preifateiddio dreiddio drwy’r diwydiannau creadigol ehangach ac, er enghraifft, y gostyngiad posibl o fuddsoddi mewn sgiliau a hyfforddiant.

Mewn ymateb i gwestiwn 6(e), mynegwyd pryderon am yr effeithiau negyddol sy’n gysylltiedig â Channel 4 yn colli’i natur unigryw, ansawdd ei rhaglenni a theilwra ar gyfer cynulleidfaoedd y DU yn lleihau er mwyn apelio at gynulleidfaoedd torfol. Rhannodd Channel 4 rai o’r safbwyntiau hyn, gan ddweud y gallai sianel sy’n cynyddu’i ffocws ar raglenni masnachol arwain PSBau preifat eraill i wneud yr un peth, gan leihau’r ddarpariaeth gyffredinol o gynnwys PSB.

Mewn ymateb i gwestiwn 6(f), un maes a oedd yn peri gofid oedd y byddai preifateiddio’n dod ag effeithiau negyddol i ranbarthau a chenhedloedd y DU. Roedd hyn yn cynnwys pryder y byddai cwmni preifat, y disgwylir iddo gynhyrchu elw, yn fwy tebygol o ganoli gwaith yn Llundain a De-ddwyrain Lloegr ar draul y diwydiannau creadigol ledled y rhanbarthau. Dadleuwyd hefyd y gallai hyn gael effaith ar amrywiaeth cynrychiolaeth yn y rhanbarthau. Cyfeiriwyd at adroddiadau annibynnol gan 3Vision ac Oliver ac Ohlbaum, a gomisiynwyd gan PACT, er mwyn awgrymu effeithiau anffafriol preifateiddio ar y sector cynhyrchu annibynnol yng nghenhedloedd a rhanbarthau’r DU. Nododd Channel 4 na fyddai ei buddsoddiad ledled y DU, y tu hwnt i’r hyn sy’n ofynnol gan y cylch gwaith, yn debygol o gael ei ddiogelu o dan berchnogaeth breifat.

Nododd unigolion a rhanddeiliaid rai buddion posibl preifateiddio. Ymhlith yr unigolion hynny, credwyd mai mwy o fuddsoddiad gan Channel 4 mewn ffilm a’r diwydiannau creadigol ehangach oedd y buddion. Ymhlith y rhanddeiliaid hynny a oedd yn disgwyl buddion, roedd y rhain yn ymwneud â sicrhau cynaliadwyedd ariannol Channel 4, a gwarantu bod ei lle unigryw’n cael ei gadw yn ecoleg ddarlledu’r DU.

Ymateb y Llywodraeth

Mae’r Llywodraeth yn cydnabod effaith sylweddol a pharhaus buddsoddiad Channel 4 yn sector ffilmio’r DU, a’r rhan bwysig y mae buddsoddiad yn ei chwarae wrth gyfrannu at ganlyniadau’r agweddau hyn o’i chylch gwaith. Mae gan Film4 frand unigryw a hanes o greu ffilmiau llwyddiannus sy’n ennill Oscars, a gallai hynny gael ei ystyried yn ased gan lawer o ddarpar brynwyr. Bydd unrhyw broses o werthu yn cynnig cyfle i’r Llywodraeth geisio adborth darpar brynwyr ar sut y gallai adeiladu ar hyn.

Mae’r Llywodraeth yn cydnabod y pryderon a fynegwyd gan ymatebwyr am y gwahanol ddewisiadau y gallai perchennog newydd eu gwneud mewn perthynas â chyflawni cylch gwaith Channel 4, ac mae’n cydnabod y rôl bwysig y mae ei chylch gwaith darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn ei chwarae wrth gefnogi’r economi greadigol, a sicrhau bod Channel 4 yn cynnig ystod amrywiol o gynnwys i’w chynulleidfaoedd. Hyd yma, mae’r gwaith gan Channel 4 i gyflawni’r canlyniadau a nodir yn ei chylch gwaith wedi bod o fudd i’w strategaeth brand a denu cynulleidfa, gan greu model masnachol llwyddiannus. Yn rhan o hyn yw ei chynnwys beiddgar ac unigryw, a’r broses sy’n ei greu, gan gynnwys ei rôl yn cefnogi sgiliau a thalent yn yr economi greadigol. Er nad yw’n bosibl rhagweld yn union sut y byddai’i rhwymedigaethau yn cael eu gweithredu gan unrhyw brynwr penodol yn y dyfodol, byddem yn disgwyl i brynwyr weld gwerth gwneud penderfyniadau sy’n parhau i gyflawni canlyniadau yn unol â’r rhai a welwn heddiw, gan eu bod yn gysylltiedig â brand Channel 4. Wrth i’r farchnad droi’n fwy cystadleuol, mae cwmnïau’r cyfryngau’n edrych at ddenu a chadw cynulleidfaoedd mwy penodol ac i chwarae i gryfderau penodol. Mae’n debygol bod brand a statws unigryw Channel 4 yn y farchnad yn cynrychioli sylfaen werthfawr y byddai perchennog newydd yn ceisio adeiladu arni, ac y byddai’n parhau i fod â diddordeb mewn cefnogi sgiliau a datblygu talent yn yr economi greadigol.

Mae pob PSB, o dan unrhyw fodel perchnogaeth, yn cael ei fonitro’n barhaus gan y rheoleiddiwr annibynnol Ofcom ar eu darpariaeth newyddion yn erbyn eu rhwymedigaethau darlledu gwasanaeth cyhoeddus fel un o amodau eu trwydded ddarlledu.

Ar ben hynny, mae Cod Darlledu Ofcom yn cynnwys rheolau caeth i sicrhau bod darllediadau newyddion, ar ba ffurf bynnag, yn cael eu hadrodd â chywirdeb a didueddrwydd dyladwy. Mae rhwymedigaeth gyfreithiol ar bob darlledwr trwyddedig yn y DU i gadw at y rheolau hyn, a sicrhau bod gweithdrefnau ar gyfer ymdrin â chwynion gan gynulleidfaoedd am unrhyw achos posibl o dorri’r rheolau hyn yn cael eu sefydlu a’u cynnal.

Ar ôl pwyso a mesur, mae’r Llywodraeth yn credu mai perchnogaeth breifat yw’r ffordd orau o sicrhau cynaliadwyedd hirdymor Channel 4 a bod buddion posibl arallgyfeirio’i ffrydiau incwm a chael mynediad gwell at gyfalaf yn gorbwyso’r risgiau posibl. Bydd y Llywodraeth yn ceisio lliniaru unrhyw risgiau drwy’r broses werthu er mwyn rheoli unrhyw effeithiau economaidd a chymdeithasol negyddol y gallai’r ymyriad eu cael. Ar ben hynny, bydd y cyfleoedd a’r buddsoddiad newydd, a hwylusir gan newid mewn perchnogaeth, yn cael eu hategu gan gefnogaeth gynyddol y Llywodraeth o’r sector cynhyrchu annibynnol. Byddwn yn defnyddio peth o’r enillion o werthu Channel 4 i sicrhau difidend creadigol newydd i’r sector er mwyn dod i’r afael â’r prinder sgiliau creadigol. Bydd ein buddsoddiad yn galluogi’r diwydiant i barhau i dyfu a ffynnu yn y dyfodol.

Camau nesaf

Mae’r Llywodraeth wedi amlinellu’i gweledigaeth ar gyfer darlledu gwasanaeth cyhoeddus, gan gynnwys dyfodol Channel 4, a’r camau priodol nesaf yn y Papur Gwyn ar Ddarlledu a gyhoeddwyd ar 28 Ebrill 2022.