Closed consultation

Welsh: Cynhaliaeth Plant: Gwella ein pwerau gorfodi drwy gychwyn gorchmynion cyrffyw

Published 9 July 2022

Applies to England, Scotland and Wales

Rhestr Termau

Cydymffurfiaeth

Mae hyn yn mesur faint o gynhaliaeth sydd wedi’i chasglu’n llwyddiannus gan y rhiant sy’n talu cynhaliaeth o gymharu â swm y gynhaliaeth newydd a drefnwyd drwy’r gwasanaeth Casglu a Thalu yn y cyfnod hwnnw o dri mis

Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant (CMS)

Corff gweinyddol ar gyfer y cynllun cynhaliaeth plant 2012

Gorchymyn cyrffyw

Gorchymyn a osodir gan y llys yn ei gwneud yn ofynnol i’r person aros am gyfnodau a bennir yn y gorchymyn mewn man a bennir felly.

Rhiant sy’n talu cynhaliaeth

Y rhiant sydd heb brif ofal o ddydd i ddydd o’r plant sy’n gymwys am gynhaliaeth, ac sy’n gyfrifol am dalu cynhaliaeth plant. A elwir hefyd yn rhiant dibreswyl.

Rhiant sy’n cael cynhaliaeth

Y rhiant gyda’r prif ofal o ddydd i ddydd o’r plant sy’n gymwys am gynhaliaeth, ac a ddylai gael cynhaliaeth plant. A elwir hefyd yn rhiant â gofal.

Sancsiwn

Pasbort neu waharddiad trwydded yrru, gorchymyn cyrffyw neu draddodi i garchar. Camau gweithredu pan fetho popeth arall i’r CMS pan fydd yr holl opsiynau gorfodi eraill wedi’u dihysbyddu

Crynodeb gweithredol

1. Bwriad yr ymgynghoriad yma yw ceisio barn ar y cynnig i gyflwyno pŵer gorfodi newydd gyda’r bwriad o gryfhau pwerau gorfodi CMS.

2. Er ein bod yn gwybod bod y rhan fwyaf o rieni am wneud y peth iawn, gall fod yn anodd sicrhau cydymffurfiaeth gyda rhai grwpiau o rieni sy’n talu cynhaliaeth. Yn yr ymgynghoriad yma, byddwn yn manylu ar sut y gallai cryfhau ein pwerau sicrhau mwy o daliadau i blant.

Gorchmynion cyrffyw

3. Rydym yn cynnig dod â phwerau cyrffyw presennol i rym sy’n ei gwneud yn ofynnol i riant sy’n talu cynhaliaeth nad yw’n cydymffurfio aros mewn man penodedig ar adegau penodol, am gyfnod o hyd at chwe mis. Byddai hyn yn cynnwys gofyniad tagio electronig i alluogi monitro cydymffurfiaeth y rhiant sy’n talu cynhaliaeth â’r cyrffyw.

4. Dim ond i rieni sy’n talu cynhaliaeth sy’n byw yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban y byddai’r pŵer yma yn berthnasol. Yn yr un modd â’n pwerau presennol o wahardd trwydded yrru a phasbort ac ymrwymiad i garchar, rydym yn disgwyl i fygythiad cyrffyw annog rhieni sy’n talu i gydymffurfio. Mae Cynhaliaeth Plant yng Ngogledd Iwerddon wedi’i drosglwyddo (datganoledig). Bydd y cwestiwn a fydd darpariaethau cyfatebol yn cael eu gwneud ar gyfer Gogledd Iwerddon yn cael ei ystyried gan Adran Cymunedau Gogledd Iwerddon.

Cyflwyniad

5. Cyflwynwyd y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant (CMS) yn 2012 i ddisodli’r Asiantaeth Cynnal Plant (CSA). Cynlluniwyd y cynllun diwygiedig i ddarparu gwasanaeth mwy cost-effeithiol, effeithlon a symlach.

6. Roedd diwygiadau 2012 yn seiliedig i raddau helaeth ar yr argymhellion a wnaed yn adroddiad Syr David Henshaw yn 2006[footnote 1] i ddarparu system sylfaenol wahanol sy’n annog rhieni i ystyried eu holl opsiynau cynhaliaeth plant yn hytrach na pheidio â chydymffurfio â’r cynllun statudol.

7. Nododd yr adroddiad bedair egwyddor newydd i ddiwygio’r system cynhaliaeth plant. Un o’r egwyddorion a nodwyd oedd cyflwyno trefn orfodi lem ac effeithiol i orfodi taliadau lle’r oedd cydymffurfiaeth wedi methu

8. Defnyddir camau gorfodi fel y dewis olaf pan fo rhiant sy’n talu cynhaliaeth yn methu â thalu eu taliadau cynhaliaeth a phan fo ôl-ddyledion wedi dechrau cronni. Mae gennym ystod o bwerau gorfodi sifil cryf y gellir eu defnyddio i gasglu taliadau. Mae ein pwerau presennol yn amrywio o ddefnyddio asiantau gorfodi, fel beilïaid (swyddogion siryf yn yr Alban), a gorchmynion arwystlo, i draddodi i garchar a diarddel pasbortau a thrwyddedau gyrru.

9. Casglwyd £2.8[footnote 2] miliwn rhwng mis Ebrill a mis Mehefin 2021 drwy holl gamau gorfodi sifil y CMS.

10. Fel rhan o’n hymrwymiad i wella’r CMS i sicrhau mwy o gynhaliaeth i blant cymwys, rydym wedi bod yn adolygu ein pwerau gorfodi i’w gwneud mor effeithiol â phosibl wrth adennill ôl-ddyledion gan rieni nad ydynt yn talu.

11. Mae gennym ddiddordeb mewn clywed eich barn ar y cynnig yn y ddogfen ymgynghori yma, ac a ydych yn credu y bydd yn effeithiol o ran sicrhau taliadau cynhaliaeth ar gyfer plant cymwys.

Yr ymgynghoriad yma

At bwy mae’r ymgynghoriad yma wedi’i anelu

12. Mae’r ymgynghoriad yn agored i sefydliadau yn y sector gwirfoddol a chymunedol, yn ogystal â chwsmeriaid CMS ac aelodau’r cyhoedd.

Pwrpas yr ymgynghoriad

13. Nod yr ymgynghoriad yma yw llywio newidiadau arfaethedig y Llywodraeth i ddeddfwriaeth Cynhaliaeth Plant

14. Yn dibynnu ar ganlyniad yr ymgynghoriad ac yn amodol ar amserlenni seneddol, yn dilyn cyhoeddi byddwn yn ceisio gwneud newidiadau deddfwriaethol i gychwyn pwerau cyrffyw presennol a gwneud newidiadau mewn is-ddeddfwriaeth i nodi sut y bydd y pŵer cyrffyw yn gweithredu.

Ystod yr ymgynghoriad

15. Mae’r ymgynghoriad yma yn berthnasol i Gymru, Lloegr a’r Alban

Hyd yr ymgynghoriad

16. Mae’r cyfnod ymgynghori yn cychwyn ar 9 Gorffennaf 2022 ac yn parhau tan 12 Awst 2022.

Sut i ymateb i’r ymgynghoriad yma

Anfonwch eich ymatebion ymgynghori at E-bost: cm.consultation@dwp.gov.uk

neu:

DWP Consultation Coordinator
3rd Floor South Zone F
Quarry House
Quarry Hill
Leeds
LS2 7UA

Gwybodaeth gefndirol a manylion y newidiadau arfaethedig

Gorchmynion cyrffyw

17. Ar hyn o bryd, pan fo rhiant sy’n talu cynhaliaeth wedi methu taliadau cynhaliaeth plant, mae’r CMS yn ceisio adennill yr ôl-ddyledion trwy orchymyn didynnu o enillion neu’n uniongyrchol o’u cyfrif banc. Lle nad yw’n bosibl, rydym yn ceisio adennill taliad yr ôl-ddyledion trwy gamau yn y llys. Gwneir hyn drwy sicrhau gorchymyn atebolrwydd i gydnabod y ddyled yn gyfreithiol ac yna defnyddio pŵer gorfodi priodol. Mae pwerau gorfodi yn cynnwys cymryd rheolaeth dros nwyddau, gorchmynion codi tâl ac achosion gorchymyn gwerthu.

18. Os bydd y dulliau yma yn methu ag adennill y ddyled, byddwn yn ceisio gwneud cais i’r llysoedd am sancsiwn yn erbyn y rhiant sy’n talu cynhaliaeth i adennill y ddyled. Y sancsiynau yw:

  • Anghymhwyso rhiant sy’n talu cynhaliaeth rhag dal neu gael trwydded yrru neu basbort
  • Traddodi rhiant sy’n talu cynhaliaeth i garchar a
  • Gwneud cais am orchymyn cyrffyw yn erbyn rhiant sy’n talu cynhaliaeth (heb ei gychwyn ar hyn o bryd)

19. Er nad ydym yn defnyddio’r sancsiynau yma yn aml iawn, maent yn hollbwysig er mwyn annog rhai rhieni sy’n talu cynhaliaeth i gyflawni eu cyfrifoldebau ariannol i’w plant.

20. Rydym yn cynnig cychwyn pŵer presennol yn Neddf Cynhaliaeth Plant a Thaliadau Eraill 2008 i’n galluogi i wneud cais am orchymyn cyrffyw yn erbyn rhiant sy’n talu cynhaliaeth nad yw’n cydymffurfio. Byddai hyn yn ychwanegu at ein sancsiynau presennol. Byddai’r pŵer yma ond yn berthnasol i rieni sy’n talu cynhaliaeth sy’n byw yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.

21. Byddai’r gorchymyn cyrffyw yn ei gwneud yn ofynnol i riant sy’n talu cynhaliaeth nad yw’n cydymffurfio aros mewn man penodedig ar adegau penodol am gyfnod o hyd at chwe mis. Byddai hyn yn cynnwys gofyniad tagio electronig i alluogi monitro lleoliad rhiant sy’n talu cynhaliaeth.

22. Cyn gwneud cais i’r llys am orchymyn cyrffyw, byddwn yn sicrhau bod gan y rhiant sy’n talu cynhaliaeth y gallu i dalu’r ôl-ddyledion. Byddem hefyd yn casglu tystiolaeth i’w chyflwyno i’r llys, bod yr holl ôl-ddyledion neu ran o’r ôl-ddyledion yn parhau heb eu talu a bod gwrthodiad bwriadol neu esgeulustod beius i dalu cynhaliaeth plant. Byddai’n ofynnol i’r rhiant sy’n talu cynhaliaeth fynychu’r gwrandawiad llys.

23. Os bydd y llys yn canfod bod y rhiant sy’n talu cynhaliaeth wedi gwrthod yn fwriadol i dalu cynhaliaeth neu heb dalu oherwydd esgeulustod beius, gall wneud gorchymyn cyrffyw. Mae gan y llys ddisgresiwn i wneud gorchymyn sy’n dechrau ar unwaith neu i’w atal dros dro fel ei fod yn dechrau yn ddiweddarach. Gall y llys atal y gorchymyn ar yr amod o dalu’r ôl-ddyledion sy’n weddill. Dylai hyd y gwaharddiad roi cyfnod rhesymol o amser i’r rhiant sy’n talu cynhaliaeth dalu’n llawn.

24. Os na fydd y rhiant sy’n talu cynhaliaeth yn talu o fewn y cyfnod a bennir gan y llys, bydd y gorchymyn cyrffyw yn dod i rym yn awtomatig.

25. Os yw’r rhiant sy’n talu cynhaliaeth yn talu cyfran o’u hôl-ddyledion, gall y llys adolygu hyd a chyfnod y gorchymyn cyrffyw neu ddirymu’r gorchymyn. Lle mae’r swm llawn wedi’i dalu, bydd y llys yn dirymu’r gorchymyn.

26. Wrth wneud gorchymyn cyrffyw, dylai’r llys ystyried y canlynol:

  • Nad yw’r gorchymyn cyrffyw yn nodi unrhyw le y tu allan i Gymru a Lloegr, ac ni chaiff y Siryf nodi unrhyw le y tu allan i’r Alban
  • Hyd y gorchymyn cyrffyw. Ni ddylai’r gorchymyn fod yn llai na 2 awr neu fwy na 12 awr mewn unrhyw un diwrnod
  • Y cyfnod y bydd y gorchymyn cyrffyw yn rhedeg amdano. Ni all hyn fod yn hwy na 6 mis
  • Bod y gorchymyn cyrffyw yn osgoi, cyn belled ag sy’n ymarferol, unrhyw wrthdaro â chredoau crefyddol, oriau gwaith neu amser y mae’r rhiant sy’n talu cynhaliaeth yn mynychu sefydliad addysgol
  • Bod rhaid gwneud gorchymyn costau yn erbyn y rhiant sy’n talu cynhaliaeth
  • Bydd angen i’r llys fod yn fodlon bod y cyfeiriad cyrffyw yn briodol, a bod ganddo ganiatâd unrhyw berson (ac eithrio rhiant sy’n talu cynhaliaeth), er enghraifft, landlord sydd wedi cydsynio i’r offer gael ei osod yn y cyfeiriad cyrffyw
  • Rhaid i’r person fod yn addas ar gyfer monitro electronig

27. Rydym yn rhagweld y byddai nifer yr achosion lle byddwn yn defnyddio’r pŵer gorfodi yma yn isel iawn. Yn seiliedig ar nifer y ceisiadau i ddileu pasbortau, disgwyliwn y byddai gennym lai na 10 achos y flwyddyn. Mae’r amcangyfrif yma yn rhagdybio bod y rheolau presennol sy’n caniatáu dedfryd ohiriedig i dalu’r ôl-ddyledion yn parhau. Fodd bynnag, credwn y byddai cyhoeddusrwydd ynghylch cyflwyno’r pŵer yma yn arf ataliol effeithiol i annog talu cynhaliaeth yn gynharach o fewn oes achos cyn bod angen cymryd camau gorfodi difrifol.

Torri Cyrffyw

28. Rydym yn cynnig dilyn proses debyg ar gyfer gorchmynion cyrffyw i’r un a ddefnyddir gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder wrth osod tag electronig. Bydd y rhiant sy’n talu cynhaliaeth yn cael Torri Amser Cronedig (ATV) o ddwy awr. Os caiff y gorchymyn cyrffyw ei dorri o 5 munud neu fwy, bydd hyn yn arwain at alwad neu lythyr rhybudd i’r person gan y gwasanaeth monitro. Os yw’r rhiant sy’n talu cynhaliaeth yn darparu esgus rhesymol ac yn gallu profi hyn, ni fydd hyn yn cael ei ychwanegu at y toriad amser. Os bydd y rhiant sy’n talu cynhaliaeth yn parhau i dorri ei gyrffyw, mae’n bosibl y caiff ei ddychwelyd i’r llys lle caiff ei orchymyn cyrffyw ei adolygu.

29. Os bydd y rhiant sy’n talu cynhaliaeth yn torri ei gyrffyw yn gyson a bod y llys yn canfod ei fod wedi methu â darparu esgus rhesymol, gall y llys naill ai gyhoeddi gwarant ymrwymiad i garchar yn erbyn y rhiant sy’n talu cynhaliaeth neu ymestyn y gorchymyn cyrffyw ond ni all hyn fod yn hwy na 6 mis.

30. Ein bwriad y tu ôl i gyflwyno’r pŵer yma yw amharu ar ffordd o fyw’r rhiant sy’n talu cynhaliaeth yn hytrach na’i enillion. Gobeithiwn y bydd hyn yn arf ataliol effeithiol i gael rhieni i dalu. Ni fydd hyn yn effeithio ar allu’r rhiant sy’n talu cynhaliaeth i dalu’r ôl-ddyledion yn ôl.

31. Bydd gan y llys ddisgresiwn i sicrhau nad yw’r gorchymyn yn effeithio ar berthynas y rhiant sy’n talu cynhaliaeth gyda’r plentyn/plant cymwys neu unrhyw blant eraill a allai fod ganddynt.

32. Cynhelir ymholiadau gyda’r heddlu a gofal cymdeithasol plant i gynorthwyo’r broses o wneud penderfyniadau ynghylch a yw’n briodol i CMS wneud cais i’r llys am orchymyn cyrffyw yn erbyn y rhiant sy’n talu cynhaliaeth.

Eich barn

Cwestiwn 1. A ydych yn cytuno y byddai gorchmynion cyrffyw yn ddull effeithiol o orfodi i gasglu ôl-ddyledion ac adennill cydymffurfiad?

Cwestiwn 2. A yw cyfnod amser cronedig o 2 awr yn gyfnod rhesymol o amser cyn cymryd camau pellach?

Cwestiwn 3. Os bydd y gorchymyn cyrffyw yn cael ei dorri o 5 munud neu fwy, bydd llythyr rhybudd neu alwad yn cael ei wneud i’r rhiant sy’n talu cynhaliaeth. A yw hyn yn ddigon o amser i’w ganiatáu cyn cysylltu gyda’r rhiant sy’n talu cynhaliaeth?

Ymateb y Llywodraeth

33. Ein nod fydd cyhoeddi ymateb y llywodraeth i’r ymgynghoriad ar wefan GOV.UK. Pan fo ymgynghoriad yn gysylltiedig ag offeryn statudol, dylid cyhoeddi ymatebion cyn neu ar yr un pryd ag y gosodir yr offeryn

34. Bydd yr adroddiad yn crynhoi’r ymatebion.

Sut rydym yn ymgynghori

Egwyddorion ymgynghori

35. Mae’r ymgynghoriad yma yn cael ei gynnal yn unol ag egwyddorion ymgynghori diwygiedig Swyddfa’r Cabinet a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2016. Mae’r egwyddorion yma yn rhoi canllawiau clir i Adrannau’r Llywodraeth ar gynnal ymgynghoriadau.

Adborth ar y broses ymgynghori

36. Rydym yn gwerthfawrogi eich adborth ar ba mor dda yr ydym yn ymgynghori. Os bydd gennych unrhyw sylwadau ar y broses ymgynghori (yn hytrach na sylwadau am y materion sy’n destun yr ymgynghoriad), gan gynnwys os ydych yn teimlo nad yw’r ymgynghoriad yn cadw at werthoedd a nodir yn yr egwyddorion ymgynghori neu os gellir gwella’r broses, dylech eu hanfon at:

DWP Consultation Coordinator
3rd Floor South Zone F
Quarry House
Quarry Hill
Leeds
LS2 7UA

Ebost: caxtonhouse.legislation@dwp.gov.uk

Rhyddid Gwybodaeth

37. Efallai bydd angen i’r wybodaeth rydych yn ei hanfon atom gael ei throsglwyddo i gydweithwyr yn yr Adran Gwaith a Phensiynau a’i chyhoeddi mewn crynodeb o’r ymatebion a dderbyniwyd a’i chyfeirio ati yn yr adroddiad ymgynghori a gyhoeddir.

38. Mae’n bosibl y bydd yr holl wybodaeth a gynhwysir yn eich ymateb, gan gynnwys gwybodaeth bersonol, yn destun cyhoeddi neu ei ddatgelu os gwneir cais am hynny o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000. Trwy ddarparu gwybodaeth bersonol at ddibenion yr ymgynghoriad cyhoeddus, deallir eich bod yn cydsynio i’w ddatgeliad a’i chyhoeddiad. Os nad hyn yw’r achos, dylech gyfyngu unrhyw wybodaeth bersonol a ddarperir, neu ei ddileu yn gyfan gwbl. Os ydych am i’r wybodaeth yn eich ymateb i’r ymgynghoriad gael ei chadw’n gyfrinachol, dylech esbonio pam fel rhan o’ch ymateb, er na allwn warantu gwneud hyn.

39. I gael gwybod mwy am egwyddorion cyffredinol Rhyddid Gwybodaeth a sut caiff ei chymhwyso o fewn DWP, cysylltwch gyda’r Tîm Rhyddid Gwybodaeth Ganolig.

Ebost: freedom-of-information-request@dwp.gov.uk

40. Ni all y tîm Rhyddid Gwybodaeth Canolog (FOI) roi cyngor ar ymarferion ymgynghori penodol, dim ond ar faterion Rhyddid Gwybodaeth. Darllenwch fwy am y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.