Consultation outcome

Welsh: Cynhaliaeth Plant: Ymgynghoriad Pwerau mynediad a Gwybodaeth

Updated 26 March 2019

Cyflwyniad

1. Cyflwynwyd y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant (CMS) yn 2012. Mae’r gwasanaeth diwygiedig wedi ei lunio i fod yn fwy cost effeithiol ac i ddatrys nifer o’r problemau oedd yn gysylltiedig gyda’r Asiantaeth Cynnal Plant.

2. Roedd y diwygiadau yn cynnwys system technoleg gwybodaeth (IT) newydd a seilio’r cyfrifiad o atebolrwydd cynhaliaeth plant ar wybodaeth am incwm rhiant dibreswyl gan Gyllid a Thollau EM (HMRC). Yn yr ymghynghoriad yma, mae rhiant dibreswyl yn cyfeirio at y rhiant sy’n talu cynhaliaeth i’r rhiant sy’n cael cynhaliaeth ac y mae’r plentyn yn byw gydag am y lleiaf o amser.

3. Mae gan CMS ystod o bwerau i gael gwybodaeth angenrheidiol i sicrhau y gellir cyfrifo atebolrwydd cynhaliaeth plant yn gywir a pan mae angen, ei orfodi. Mae’r ymgynghoriad yma yn ceisio barnau ar newidiadau i ddau elfen penodol o’r pwerau yma; cymhwyso gallu archwiliwr CMS i fynd i mewn i adeilad preifat ac ehangu’r rhestr gyfredol o sefydliadau sydd gan rwymedigaeth gyfreithiol i ddarparu gwybodaeth yn dilyn cais gan y CMS

4. Mae Rheoliadau Gwybodaeth Cynnal Plant 2008 adrannau 3-6 yn gosod dyletswydd ar unigolion a sefydliadau i roi gwybodaeth os yn ofynnol i wneud hynny i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau (neu Adran y Cymunedau yng Ngogledd Iwerddon), i sicrhau:

  • y gellir adnabod ac olrhain y rhiant dibreswyl (pan bod angen);
  • y gellir cyfrifo’r swm o gynhaliaeth plant sy’n daladwy gan y rhiant dibreswyl; neu
  • adennill swm o ôl-ddyledion gan y rhiant dibreswyl

5. Pan na roddir y wybodaeth sydd ei angen gan yr unigolion neu sefydliadau fel sy’n ofynnol o dan y Rheoliadau, mae adran 15 o Ddeddf Cynnal Plant 1991 neu Erthygl 7 o Ddeddf Cynhaliaeth Plant (Gogledd Iwerddon) 1991 yn caniatáu i archwiliwr, a benodwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol neu’r Adran Cymunedau yng Ngogledd Iwerddon i’w gael drwy archwilio adeiladau penodol lle mae’n bosib fod y wybodaeth yn cael ei chadw.

6. Mae’r ymgynghoriad yma yn gosod allan y cynigion ar gyfer:

  • ychwanegu diogelwch i’r pwerau yn adran 15 o Ddeddf Cynnal Plant 1991; a
  • ehangu’r rhestr o’r rhai sydd angen iddynt gydymffurfio gyda cheisiadau am wybodaeth, o dan adran 4 o’r Rheoliadau Gwybodaeth Cynnal Plant 2008

7. Ein bwriad yw symleiddio’r broses casglu gwybodaeth a thystiolaeth a gweithredoedd gorfodi, drwy leihau’r angen i ymweld ag adeiladau sy’n dal gwybodaeth, wrth ddiogelu’r cyhoedd pan yn angenrheidiol i archwiliwr ymweld ag adeiladau i geisio gwybodaeth.

At bwy yr anelir yr ymgynghoriad yma

8. Mae’r ymgynghoriad yn agored i sefydliadau o’r sector breifat, cyhoeddus a gwirfoddol, ynghyd â chleientiaid cynlluniau CSA a CMS ac aelodau o’r cyhoedd. Pwrpas yr ymgynghoriad

9. Mae’r ymgynghoriad yma yn ceisio eich barn ar gynigion i ychwanegu diogelwch i’r pwerau mynediad i adeiladau yn adran 15 o’r Ddeddf Cynnal Plant 1991 (‘y ddeddf’). Roedd Deddf Diogelu Rhyddidau 2012 yn ei wneud yn ofynnol i bob adran o’r Llywodraeth i adolygu eu pwerau mynediad. Bu i’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) gynnal adolygiad o’i phwerau mynediad ym mis Tachwedd 2014 . Gan fod DWP yn ystyried y pwerau mynediad o dan adran 15 o’r ddeddf yn bwerau hanfodol, rydym yn cynnig cynyddu lefel y diogelwch i’r cyhoedd i sicrhau fod yr Adran yn cydymffurfio’n llawn gyda Deddf 2012.

10. Hefyd, rydym yn cynnig ehangu’r rhestr o’r rhai hynny y mae’n ofynnol iddynt gydymffurfio gyda cheisiadau am wybodaeth, o dan reoliad 4 o’r Rheoliadau Gwybodaeth Cynhaliaeth Plant 2008 (‘y Rheoliadau’), i gynnwys darparwyr pensiynau a benthycwyr morgais.

11. Byddem yn croesawu eich barnau ar y cynigion yma ac ar y cwestiynau penodol sydd wedi eu gosod allan yn y ddogfen yma.

Ystod ymgynghoriad

12. Mae’r adran ar Bwerau Mynediad yn gymwys i Gymru, Lloegr a’r Alban yn unig. Mae’r adran ar y Strategaeth Gwybodaeth yn gymwys i Gymru, Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Cyfnod yr ymgynghoriad

13. Mae cyfnod yr ymgynghoriad yn dechrau ar 14 Ionawr 2019 ac yn parhau tan 11 Chwefror 2019 Sut i ymateb i’r ymgynghoriad yma

14. Anfonwch eich ymatebion i’r ymgynghoriad i: policy.development@dwp.gsi.gov.uk, neu:

Child Maintenance Policy team
Third Floor South Zone G
Quarry House
Quarry Hill
Leeds
LS2 7UA

Wrth ymateb, nodwch os ydych yn gwneud hynny fel unigolyn neu yn cynrychioli barnau sefydliad. Os ydych yn ymateb ar ran sefydliad, dylech wneud yn glir pwy mae’r sefydliad yn ei gynrychioli, a lle’n addas, sut y casglwyd barnau’r aelodau.

Ymateb y Llywodraeth

15. Byddwn yn anelu at gyhoeddi ymateb y llywodraeth i’r ymgynghoriad ar wefan GOV.UK yn unol ag egwyddorion ymgynghori. Bydd yr adroddiad yn crynhoi’r ymatebion.

Egwyddorion ymgynghori

16. Mae’r ymgynghoriad yma yn cael ei chynnal yn unol ag egwyddorion ymgynghori diwygiedig Swyddfa’r Cabinet a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2016. Mae’r egwyddorion yma yn rhoi canllawiau clir i adrannau’r llywodraeth ar gynnal ymgynghoriadau.

Adborth ar y broses ymgynghori

17. Rydym yn gwerthfawrogi eich adborth ar ba mor dda rydym am ymgynghori. Os bydd gennych unrhyw sylwadau ar y broses ymgynghori (yn hytrach na sylwadau am y materion sy’n destun yr ymgynghoriad),gan gynnwys os ydych yn teimlo nad yw’r ymgynghoriad yn cadw at werthoedd a nodir yn yr egwyddorion ymgynghori neu os gellir gwella’r broses, dylech eu hanfon at:

DWP Consultation Coordinator
2nd Floor
Caxton House
Tothill Street
London
SW1H 9NA

Ebost: caxtonhouse.legislation@dwp.gsi.gov.uk

Rhyddid Gwybodaeth

18. Efallai bydd angen i’r wybodaeth rydych yn ei anfon atom gael ei throsglwyddo i gydweithwyr yn yr Adran Gwaith a Phensiynau, ei gyhoeddi mewn crynodeb o’r ymatebion a dderbyniwyd a’i chyfeirio ati yn yr adroddiad ymgynghori a gyhoeddir

19. Mae’n bosibl y bydd yr holl wybodaeth a gynhwysir yn eich ymateb, gan gynnwys gwybodaeth bersonol, yn destun cyhoeddi neu ei ddatgelu os gwneir cais am hynny o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000. Trwy ddarparu gwybodaeth bersonol at ddibenion yr ymgynghoriad cyhoeddus, deallir eich bod yn cydsynio i’w ddatgeliad a’i chyhoeddiad. Os nad hyn yw’r achos, dylech gyfyngu ar unrhyw wybodaeth bersonol a ddarperir, neu ei ddileu yn gyfan gwbl. Os ydych am i’r wybodaeth yn eich ymateb i’r ymgynghoriad gael ei chadw’n gyfrinachol, dylech esbonio pam fel rhan o’ch ymateb, er na allwn warantu gwneud hyn

20. I gael gwybod mwy am egwyddorion cyffredinol Rhyddid Gwybodaeth a sut caiff ei gymhwyso o fewn DWP, cysylltwch gyda’r Tîm Rhyddid Gwybodaeth Ganolig: freedom-of-information-request@dwp.gsi.gov.uk

21. Ni all y Tîm Rhyddid Gwybodaeth Ganolig roi cyngor ar ymarferiadau ymgynghori penodol, dim ond ar faterion Rhyddid Gwybodaeth. Darllenwch mwy o wybodaeth am Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth

Pwerau mynediad presennol

22. Lle rydym wedi ceisio gwybodaeth sy’n berthnasol i gyfrifiad cynhaliaeth plant o dan y Rheoliadau ond wedi bod yn aflwyddiannus, yna gellir defnyddio’r pwerau mynediad. Mae gan archwiliwr a benodwyd yn briodol yr hawl ar unrhyw adeg resymol yn unigol neu gyda rhywun arall i fynd i mewn i unrhyw adeilad sy’n:

  • agored i gael archwiliad (gweler paragraff 22), a
  • rhesymol iddynt fynd i mewn er mwyn ceisio gwybodaeth at unrhyw bwrpas o’r Ddeddf

23. Yr adeiladau sy’n agored i gael ei harchwilio yw’r rhai nad ydynt yn cael eu defnyddio’n gyfan gwbl fel tŷ annedd ac mae gan yr archwiliwr sail resymol dros amau yw:

  • adeilad ble mae’r rhiant dibreswyl yn neu wedi cael ei gyflogi yno;
  • adeilad ble mae’r rhiant dibreswyl yn neu wedi cyflawni masnach, proffesiwn, galwedigaeth neu fusnes; neu
  • adeilad ble mae gwybodaeth yn cael ei gadw gan berson y mae gan yr ymchwilir sail resymol dros ei amau bod ganddynt wybodaeth am riant dibreswyl y mae’r person hwnnw wedi ei gael yn sgil masnach, proffesiwn, galwedigaeth neu fusnes ei hun

24. Tra yn yr adeilad gall yr archwiliwr wneud unrhyw ymchwiliad ac ymholiad y mae’r archwiliwr yn ei ystyried yn addas.

25. Bydd archwilwyr fel arfer yn cysylltu gyda meddiannwr yr adeilad ble y credir bod y wybodaeth yn cael ei gadw i drefnu ymweliad ar ddyddiad ac amser addas i bawb. Gall y cyswllt gyda’r meddiannwr for dros y ffôn neu drwy lythyr. Bydd y meddiannwr yn cael ei atgoffa hefyd o’u dyletswydd i roi’r wybodaeth ofynnol neu dystiolaeth i’r ymchwilir fel sydd wedi eu gosod allan yn adran 7 o’r Rheoliadau.

26. Os bydd y meddiannwr yn cynghori na fydd yn caniatáu mynediad i’r adeilad i’r archwiliwr, yna bydd yr archwiliwr yn egluro dyletswydd y meddiannwr i ddarparu’r wybodaeth. Bydd yr archwiliwr hefyd yn egluro y gallai methiant i ganiatáu mynediad heb reswm da arwain at ystyried erlyniad troseddol am oedi’n fwriadol neu rwystro ymchwilir sy’n arfer eu pwerau archwilio.

27. Hefyd, os bydd y meddiannwr yn cytuno i’r ymweliad yn wreiddiol ond yna pan mae’r ymweliad yn cymryd lle meant yn gwrthod mynediad i’r adeilad i’r archwiliwr, heb reswm da, bydd y rhybudd am erlyniad troseddol yn cael eu rhoi. Wedyn bydd ystyried gweithrediadau erlyn troseddol am oedi neu rwystro ymchwilir. Yn Yr Alban, bydd adroddiad yn cael ei wneud i’r Swyddfa’r Goron a’r Gwasanaeth Procuradur Ffisgal fel y gallant ystyried a ddylid erlyn ai peidio.

28. Os ceir yn euog gan y llysoedd am oedi, rwystro neu beidio â darparu’r wybodaeth a ofynnwyd amdani i’r ymchwilir, gallai’r meddiannwr fod yn atebol am ddirwy hyd at ond heb fod yn uwch na £1,000.

Newidiadau arfaethedig i’r broses pwerau mynediad (Cymru, Lloegr a’r Alban)

29. Mae Deddf Diogelu Rhyddidau 2012 yn ei gwneud yn ofynnol i bob adran o’r llywodraeth i adolygu eu pwerau mynediad statudol. Bwriad yr adolygiad oedd i:

  • leihau’r nifer o bwerau, neu;
  • lle nad oedd hyn yn bosib, adeiladu diogelwch ychwanegol er mwyn diogelu’r cyhoedd

30. Wrth adolygu pwerau mynediad CMS fe wnaethom ystyried y defnydd o archwiliwr yn bŵer hanfodol er mwyn sicrhau taliadau o gynhaliaeth a dylid cadw eu pwerau mynediad yn adran 15 o’r Ddeddf. Rydym felly yn cynnig ychwanegu diogelwch ychwanegol o geisio gwarant farnwrol pan wrthodir mynediad cychwynnol i’r adeilad neu pan ddisgwylir gwrthod mynediad o’r cychwyn.

31. Bwriad y diogelwch yma yw rhoi sicrwydd i aelodau o’r cyhoedd drwy gael ystyriaeth farnwrol annibynnol.

32. Caiff cais am warrant barnwrol ei ystyried pan:

  • fydd yr archwiliwr yn ystyried y bydd mynediad i adeilad yn cael ei wrthod iddynt o’r cychwyn; neu
  • ar fynychu’r adeilad sydd i gael ei archwilio, a heb reswm da, gwrthodir mynediad iddynt

33. Bydd ein llythyrau o fwriad i ymweld ag adeilad gan archwiliwr yn cael eu diwygio i gynnwys rhybudd cychwynnol os gwrthodir mynediad, byddwn yn ystyried ceisio gwarant farnwrol. Yn dilyn rhybudd cychwynnol, os yw’r meddiannwr yn gwrthod mynediad i’r adeilad i’r archwiliwr, heb reswm da, byddwn yn gwneud cais am warant farnwrol. Os gwneir y warant, yna trefnir ymweliad pellach

34. Yn yr un modd, os gwneir ymweliad â’r adeilad heb hysbysiad (er enghraifft oherwydd nad yw’r archwiliwr wedi gallu cysylltu gyda’r meddiannwr) a bod y meddiannwr yn gwrthod mynediad heb reswm da, bydd yr archwiliwr yn cynghori’r meddiannwr o’u dyletswydd i ddarparu’r wybodaeth angenrheidiol. Byddant hefyd yn eu cynghori y gallai gwrthod mynediad parhaus arwain at gais i’r llys am warant farnwrol.

35. Lle ystyrir bod yn briodol gwneud cais i’r llys, bydd yr archwiliwr yn cwblhau’r cais gwarant a’i gyflwyno i’r llys perthnasol yng Nghymru a Lloegr neu’r Siryf yn yr Alban. Bydd y cais yn cael ei archwilio gan y llys neu’r Siryf i benderfynu a ellir cyfiawnhau warant mynediad. Y bwriad yw i dair ffurflen gwarant gael eu llofnodi a bydd copïau yn cael:

  • eu dal gan y llys;
  • eu hanfon at y meddiannwr; a
  • eu hanfon at y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant

36. Ar ôl cael y warant, gwneir cyswllt pellach gyda’r meddiannwr i gadarnhau: * bod gwarant yn rhoi hawl i’w hadeilad wedi cael ei wneud; a * trefnu gwneud ymweliad cyn gynted â phosib

37. Bydd y warant yn:

  • caniatáu mynediad i archwilio un adeilad yn unig. Bydd rhaid cael gwahanol warantau os fydd y wybodaeth yn cael ei dal mewn mwy nag un adeilad; ac
  • yn dod i ben un mis ar ôl y dyddiad cyflwyno. Os bydd y warant yn dod i ben cyn ei ddefnyddio, gellir gwneud cais pellach

38. Y bwriad yw y bydd y warant yn cael ei ystyried gan y llys neu’r Siryf heb wrandawiad. Bydd yr archwiliwr yn cysylltu gyda’r llys i roi gwybod am y cais gwarant a gofyn am ddyddiad y dylid ei chyflwyno a’i hystyried.

39. Nid oes bwriad cynnwys unrhyw hawliau apelio. Os gwrthodir mynediad byddwn yn ceisio gwarant farnwrol.

40. Mae mesurau diogelu pellach yn y pŵer mynediad yma yn golygu na fydd angen i unrhyw un ateb unrhyw gwestiwn neu roi tystiolaeth a allai daflu bai ar eu hunain, eu priod neu eu partner sifil.

41. Os yw’r meddiannwr yn parhau i wrthod mynediad i’r adeilad pan roddwyd y warant heb reswm da, yna bydd yr archwiliwr yn ystyried a yw erlyniad troseddol yn briodol.

Eich barnau

42. Ein bwriad yw gwneud y broses casglu gwybodaeth yn fwy effeithlon, gan ddefnyddio’r pŵer lleiaf ymwthiol â phosibl. Bydd hyn er budd y rhai sydd gyda dyletswydd i ddarparu gwybodaeth a thystiolaeth. Byddem yn croesawu barnau a sylwadau ar ein cynigion, yn enwedig mewn perthynas gyda’r canlynol:

Question 1

Ydych yn cytuno bod digon o rybuddion o fewn y broses arfaethedig i gynghori’r meddiannwr y gwneir cais am warant farnwrol os gwrthodir mynediad i’r adeilad heb reswm da? Os na, rhowch eich rhesymau.

Question 2

Ydych yn cytuno y gall archwiliwr ofyn am warant os yw mynediad i’r adeilad yn y cychwyn yn cael ei wrthod, neu pan fo’r archwiliwr yn credu ei fod yn debygol o gael ei wrthod? Os na, rhowch eich rhesymau.

Question 3

Ydych yn cytuno bod oes o un mis, o’r diwrnod y caiff ei roi, o’r warant farnwrol yn gyfnod rhesymol o amser? Os na, rhowch eich rhesymau.

Question4

Ydych yn cytuno nad oes angen hawliau apelio?

Pwerau proses cais am wybodaeth presennol

43. Mae ein pwerau i geisio gwybodaeth yn cael eu defnyddio wrth gasglu gwybodaeth at bwrpas:

  • olrhain y rhiant dibreswyl;
  • cyfrifo cynhaliaeth;
  • cynnal yr achos; neu
  • gorfodi ôl-ddyledion cynhaliaeth plant

44. O dan reoliad 4 o’r pwerau yma mae rhestr o’r personau hynny sydd gyda chyfrifoldeb i roi’r wybodaeth ofynnol ar gais. Fel rheol, gwneir ac ymatebir i geisiadau o’r fath yn ysgrifenedig.

45. Ar hyn o bryd, nid yw benthycwyr morgais a darparwyr pensiwn galwedigaethol wedi’u cynnwys yn y rhestr o bersonau neu sefydliadau y mae’n bosibl y bydd gofyn iddynt ddarparu gwybodaeth am y rhiant dibreswyl o dan reoliad 4.

Gofynnir am wybodaeth gan y sefydliadau yma ar sail wirfoddol

46. Rydym ar hyn o bryd angen gwybodaeth gan ddarparwyr morgais mewn achosion lle rydym yn gorfodi dyled trwy Orchymyn Codi Tâl neu Orchymyn Gwerthu. Yn y dyfodol, byddwn hefyd angen gwybodaeth ganddynt am yr incwm tybiannol newydd o amrywiad asedau, er mwyn canfod faint o ecwiti sydd mewn eiddo.

47. Fel rheol, darperir gwybodaeth am incwm pensiwn trwy HMRC, er bod angen gwybodaeth arnom gan ddarparwyr pensiwn mewn achosion lle rydym yn amau amrywiad i gyfrifiad incwm, oherwydd dargyfeirio arian i mewn i bensiwn.

48. Os na chaiff y wybodaeth ei darparu gan y benthyciwr morgais a/neu darparwr pensiwn yn gyntaf, bydd angen i archwiliwr ymweld â’r adeilad, gan ddefnyddio pwerau mynediad, lle y cedwir y wybodaeth morgais/pensiwn.

Pwerau proses cais am wybodaeth arfaethedig (Cymru, Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon)

49. Ein cynnig yw cynnwys benthycwyr morgais a darparwyr pensiwn galwedigaethol o fewn y rhestr o bobl sydd gyda dyletswydd i ddarparu gwybodaeth ar gais. Byddai hyn yn ein galluogi i leihau’r amser y mae’n ei gymryd i gael gwybodaeth sy’n berthnasol i wneud cyfrifiadau cynhaliaeth plant, gan ein galluogi i sicrhau bod y rhiant sy’n cael cynhaliaeth yn cael taliadau’n gynt.

50. Ein bwriad yw ei gwneud hi’n fwy cyfleus i’r sefydliadau yma ddarparu unrhyw wybodaeth angenrheidiol a thystiolaeth sydd ei angen gan yr Ysgrifennydd Gwladol neu’r Adran Cymunedau yng Ngogledd Iwerddon, heb yr angen i archwiliwyr fynychu eu hadeiladau gan ddefnyddio’r pŵer mynediad. Gellir dychwelyd ymatebion yn ysgrifenedig naill ai drwy’r post neu drwy ddulliau electronig diogel.

Eich barnau

Question 5

Oes gennych unrhyw sylwadau mewn perthynas â chynnwys benthycwyr morgais a darparwyr pensiwn galwedigaethol i’r rhestr o bersonau neu sefydliadau sydd gyda dyletswydd i roi gwybodaeth i’r Ysgrifennydd Gwladol?

Asesiad effeithiau

51. Amcangyfrif blynyddol y costau ar ddarparwyr pensiwn a morgais a fydd nawr yn ofynnol iddynt yn ôl y gyfraith i roi gwybodaeth i ni pan fyddwn yn gofyn amdani yw tua £16,000 y flwyddyn. Bydd hyn yn cynnwys ceisiadau am wybodaeth am bensiwn neu forgais ar gyfer llai na 300 o achosion y flwyddyn.

52. Bydd y newidiadau deddfwriaethol arfaethedig yn gosod gofyniad cyfreithiol ar ddarparwyr pensiwn a morgais i roi gwybodaeth i ni pan fyddwn yn gofyn amdani. Bydd hyn yn dileu’r angen i archwilwyr ymweld â darparwyr, gydag ail-ymweliadau mewn tua hanner yr achosion pan nad yw darparwyr yn barod i ddarparu gwybodaeth ar yr ymweliad cyntaf. Hefyd, bydd dychwelyd ymatebion y mae darparwyr yn gwybod bod ganddynt gyfrifoldeb cyfreithiol i wneud yn debygol o fod yn fwy effeithlon gan y gellir dychwelyd ymatebion yn ysgrifenedig naill ai drwy’r post neu drwy ddulliau electronig, fel e-bost diogel.

53. Hefyd, bydd y newidiadau deddfwriaethol yma yn cynrychioli arbediad i’r trethdalwr gan na fydd bellach angen i gynrychiolwyr ymweld â chyflenwyr fel sy’n digwydd nawr yn y rhan helaethaf o’r achosion yma. Amcangyfrifir y bydd yr arbediad i’r trethdalwr yn £49,000 y flwyddyn.

Nodyn: Efallai bydd y ddyletswydd gyfreithiol yma ar gyflenwyr yn arwain iddynt wneud y prosesau yma yn fwy effeithlon, gan leihau eu costau o’r amcangyfrif o £16,000. Fodd bynnag, ni chafodd arbedion effeithlonrwydd eu tybio yn ein cyfrifiadau.

Amseru

54. Gwneir y diwygiadau yma gan offeryn cadarnhaol, yr ydym yn anelu at ei osod ym mis Ebrill 2019, gan ddod i rym erbyn Gorffennaf 2019.

Dylech e-bostio ymatebion erbyn 11 Chwefror 2019: childmaintenance.policy@dwp.gsi.gov.uk