Stori Prydain: Y Bennod Nesaf - Yr Adolygiad o Siarter Frenhinol y BBC; Papur Gwyrdd ac ymgynghoriad cyhoeddus
Published 16 December 2025
Rhagair gan y Gweinidog

Mae’r BBC yn sefydliad unigryw. Mae wedi bod wrth galon ein bywyd cenedlaethol ers dros 100 mlynedd, ac yn oleuni ar y bryn i bobl ledled y byd.
Ein gweledigaeth yw cael BBC y gellir ymddiried ynddo, y mae pob un ohonom wrth ein bodd ag ef ac sy’n perthyn i ni i gyd. BBC sy’n cynnig mannau a lleoedd a rennir, sydd wedi dod mor brin ac mor werthfawr yn ystod y degawdau diwethaf. BBC sy’n cael ei gyllido’n gynaliadwy, gyda phresenoldeb cryf ym mhob gwlad a rhanbarth er mwyn i bob un ohonom weld ein hunain yn cael ein hadlewyrchu yn ein stori genedlaethol. Darlledwr sy’n adnabyddus am ei gryfderau unigryw, o raglenni plant o’r ansawdd uchaf i raglenni dogfen a newyddion diduedd a dibynadwy, ledled y byd.
Bydd y 10fed Siarter hon yn pennu telerau’r BBC yn ffurfiol ar gyfer y dyfodol. Fy uchelgais yw ei fod yn rhoi’r BBC ar lwybr i ffynnu tan ymhell i hanner olaf y ganrif hon. Rwy’n credu bod y BBC, ochr yn ochr â’r GIG, yn un o’r ddau sefydliad pwysicaf yn ein gwlad. Mae un yn hanfodol i iechyd ein pobl, ac mae’r llall yn hanfodol i iechyd ein democratiaeth. Mae’r Papur Gwyrdd hwn yn dechrau’r sgwrs am sut i sicrhau ei fod yn parhau i fod yn galon ein cenedl am ddegawdau i ddod.
Lisa Nandy
Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon
Cyflwyniad
Crynodeb
Mae Llywodraeth y DU yn adolygu Siarter bresennol y BBC, sy’n dod i ben ar 31 Rhagfyr 2027. Mae’r papur gwyrdd hwn (dogfen y llywodraeth) yn amlinellu’r newidiadau rydym yn ystyried eu gwneud i’r Siarter, er mwyn diogelu’r BBC at y dyfodol a’i helpu i barhau i wasanaethu’r cyhoedd. Bydd y Siarter newydd yn dod i rym ar 1 Ionawr 2028.
Ffeithiau allweddol
-
Mae’r BBC yn ychwanegu tua £5 biliwn i’r economi bob blwyddyn
-
Y BBC yw’r buddsoddwr unigol mwyaf mewn cynnwys y DU, gan fuddsoddi £1.2 biliwn mewn cynnwys gwreiddiol y DU yn 2023
-
Mae 94% o oedolion y DU yn defnyddio gwasanaethau’r BBC ar gyfartaledd bob mis
-
Y BBC yw’r sianel newyddion sy’n cael ei defnyddio’n fwyaf eang yn y DU

Cydnabyddiaeth: BBC/Studio Lambert/Paul Chappells
Beth yw’r Adolygiad o’r Siarter
Y Siarter Frenhinol sy’n darparu sylfaen gyfansoddiadol y BBC. Mae’r Siarter yn diffinio Cenhadaeth a Dibenion Cyhoeddus y BBC ac yn nodi sut mae’n cael ei lywodraethu, ei reoleiddio a’i ariannu. Mae Cytundeb Fframwaith y BBC yn eistedd ochr yn ochr â’r Siarter, ac mae’n rhoi rhagor o fanylion am y pynciau sydd wedi’u cynnwys.
Daeth y Siarter bresennol i rym ar 1 Ionawr 2017. Cyflwynodd rai newidiadau sylweddol, yn enwedig i drefn lywodraethiant a rheoleiddio’r BBC. O ganlyniad, cynhaliodd y llywodraeth flaenorol Adolygiad Canol Tymor o Siarter y BBC. Fe’i cyhoeddwyd ym mis Ionawr 2024, ac roedd yn nodi nifer o argymhellion i’r BBC ac Ofcom (rheoleiddiwr annibynnol y BBC) fwrw ymlaen â nhw.
Bydd y Siarter bresennol yn dod i ben ar 31 Rhagfyr 2027. Mae’r llywodraeth yn adolygu’r Siarter i benderfynu ar y telerau ar gyfer ei hadnewyddu, ac unrhyw newidiadau sydd eu hangen i helpu’r BBC i barhau i wasanaethu’r cyhoedd.
Mae’r Adolygiad hwn yn dechrau gyda lansio’r Cylch Gorchwyl a’r ymgynghoriad cyhoeddus hwn. Mae’r ymgynghoriad yn rhan allweddol o’r sgwrs ar gyfer Adolygu’r Siarter. Mae’n rhoi cyfle i’r cyhoedd gael dweud eu dweud am ddyfodol y BBC.
Bydd y Siarter newydd yn dod i rym ar 1 Ionawr 2028 a dyma fydd y 10fed yn hanes 100 mlynedd y BBC. Mae’r Adolygiad o’r Siarter yn gyfle unigryw i ystyried pob agwedd ar y BBC wrth i ni geisio diogelu ein darlledwr cenedlaethol at y dyfodol ar gyfer y degawd nesaf a thu hwnt.
Bydd effeithiau unrhyw newidiadau i’r Siarter yn cael eu hystyried yn ofalus. Mae hyn yn cynnwys unrhyw oblygiadau i S4C fel darlledwr gwasanaeth cyhoeddus annibynnol y darperir ei gyllid dan y Siarter a’r Cytundeb Fframwaith, a rôl y BBC yn ei bartneriaethau ag S4C o ran darparu cyfryngau Cymraeg, ac MG ALBA, sy’n darparu cyfryngau yn yr iaith Aeleg.
Dibenion Cyhoeddus presennol y BBC
-
Diben Cyhoeddus 1 - darparu newyddion a gwybodaeth ddiduedd i helpu pobl ddeall ac ymgysylltu â’r byd o’u cwmpas.
-
Diben Cyhoeddus 2 - cefnogi dysgu ar gyfer pobl o bob oed.
-
Diben Cyhoeddus 3 - dangos yr allbwn a’r gwasanaethau mwyaf creadigol, unigryw ac o’r ansawdd gorau.
-
Diben Cyhoeddus 4 - adlewyrchu, cynrychioli a gwasanaethu cymunedau amrywiol holl wledydd a rhanbarthau’r Deyrnas Unedig, ac wrth wneud hynny, cefnogi’r economi greadigol ledled y Deyrnas Unedig.
-
Diben Cyhoeddus 5 - adlewyrchu’r Deyrnas Unedig, ei diwylliant a’i gwerthoedd i’r byd.
Y BBC fel ased cenedlaethol hanfodol
Mae’r llywodraeth hon yn credu yn y BBC. Nid darlledwr yn unig ydyw - mae’n sefydliad cenedlaethol sy’n eiddo i bob un ohonom. Sefydlwyd y BBC i ddod â’r gorau y meddyliwyd amdano ac sy’n adnabyddus i bob cartref, ac mae wedi bod wrth galon ein bywyd democrataidd a diwylliannol ers dros ganrif. Pe na bai’n bodoli eisoes, byddai’n rhaid inni ei ddyfeisio.
Ers i gyfnod presennol y Siarter ddechrau yn 2017, mae’r BBC wedi dangos dro ar ôl tro ei allu unigryw i wasanaethu’r wlad gyfan, gan adlewyrchu ei Genhadaeth:
gweithredu er budd y cyhoedd, gan wasanaethu pob cynulleidfa drwy ddarparu allbynnau a gwasanaethau diduedd, unigryw o ansawdd uchel sy’n hysbysu, yn addysgu ac yn diddan
Mae’r BBC yn darparu gwerth unigryw fel ein darlledwr cenedlaethol. Mae wrth galon ecosystem cyfryngau lwyddiannus y wlad hon, sy’n cyflawni ar gyfer pob un ohonom. Mae’r BBC yn dal i gael ei ddefnyddio mwy nag unrhyw ddarparwr cyfryngau arall yn y DU, gyda 94% o oedolion yn defnyddio gwasanaethau’r BBC ar gyfartaledd bob mis, ac yn fyd-eang mae’n cyrraedd 453 miliwn o bobl bob wythnos.[footnote 1] Dros gyfnod y Siarter hon, darparodd y BBC ddarpariaeth newyddion hanfodol, gan gynnwys drwy gydol pandemig COVID-19; dyma’r sianel newyddion sy’n cael ei defnyddio amlaf yn y wlad a’r un fwyaf dibynadwy o hyd, gyda mwy o bobl yn gwylio ei newyddion rhanbarthol am 6.30pm nag unrhyw raglen newyddion arall.[footnote 2] Daeth â’r genedl at ei gilydd i alaru adeg Angladd Gwladol Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II ac yna i ddathlu coroni Ei Fawrhydi y Brenin Charles III; galluogodd dros 36 miliwn o wylwyr i fwynhau Gemau Olympaidd Paris a dathlu pan enillodd Keely Hodgkinson y fedal aur; a chafodd dros 20 miliwn o bobl bleser mawr o weld Smithy yn gofyn i Nessa ei briodi o’r diwedd yn niweddglo Gavin and Stacey y Nadolig diwethaf.[footnote 3]
Mae hyn i gyd yn seiliedig ar wybodaeth yn ei Genhadaeth wreiddiol a nodir uchod, a dyma’r rheswm pam mae’r llywodraeth a’r cyhoedd yn ehangach wedi cefnogi’r BBC ers dros 100 mlynedd. Mae’r egwyddorion hyn, a’r gwerth unigryw y mae’r BBC yn ei ddarparu, yn ei osod ar wahân i ddarparwyr cyfryngau byd-eang eraill sydd â gwerthoedd cynhyrchu a buddiannau masnachol gwahanol, ac sy’n aml yn blaenoriaethu cynnwys gydag apêl fyd-eang a chymhellion masnachol.
Bob dydd, mae’r BBC yn adrodd hanes pwy ydym ni - ein pobl, ein lleoedd a’n cymunedau sy’n rhan o fywyd ledled y DU. Mae’n caniatáu i gymunedau ar draws holl wledydd a rhanbarthau’r DU glywed eu lleisiau unigryw a gweld eu straeon yn cael eu cynrychioli drwy ei wasanaethau lleol sy’n cwmpasu’r DU gyfan ac yn cael eu darlledu yn y Gymraeg, Gaeleg a Gwyddeleg a Sgoteg Ulster. Yn yr Alban, mae darllediadau’r BBC o wyliau yn Saesneg ac yn yr Aeleg, gan gynnwys TRNSMT, Belladrum a The Mòd, yn dod â phobl at ei gilydd ar gyfer digwyddiadau diwylliannol sy’n cael eu rhannu. Mae’r BBC yn cyfrannu at hunaniaeth genedlaethol Gogledd Iwerddon drwy ddigwyddiadau fel ei gyngerdd canmlwyddiant ‘The Living Air’ o Eglwys Gadeiriol Belfast, yn arddangos Cerddorfa Ulster a doniau diwylliannol lleol. Tra yng Nghymru, mae partneriaeth y BBC ag S4C ar y ddrama Pobol y Cwm wedi dod â straeon Cymreig lleol i’r amlwg ers dros hanner can mlynedd.
Cenhadaeth y BBC yw cefnogi dysgu i bobl o bob oed. Yn ystod y pandemig, darparodd BBC Bitesize 1,800 o wersi ar-lein, gyda 3.8 miliwn o ymwelwyr bob wythnos. Mae BBC Skillswise yn cefnogi oedolion sy’n dysgu sydd eisiau gwella eu sgiliau darllen, ysgrifennu a rhifedd hanfodol drwy gyfrwng fideos a thaflenni gwaith am ddim. Mae’r BBC hefyd yn helpu pobl o bob oed i feithrin yr hyder a’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i gael gafael ar wasanaethau digidol mewn byd sy’n mynd yn fwyfwy ar-lein.
Y BBC hefyd yw’r ymyriad polisi cyhoeddus mwyaf arwyddocaol yn ein heconomi greadigol, a nodwyd fel sector twf â blaenoriaeth yn Strategaeth Ddiwydiannol a Chynllun Sector y Diwydiannau Creadigol y llywodraeth hon.
Mae’r llywodraeth hon yn credu yn y BBC. Nid darlledwr yn unig ydyw - mae’n sefydliad cenedlaethol sy’n eiddo i bob un ohonom
Fodd bynnag, mae gwerth y BBC fel sefydliad Prydeinig dibynadwy a pherthnasol, a’i allu i ddarparu amrywiaeth o wasanaethau hanfodol i gymunedau, dan bwysau
Mae ganddo rôl unigryw a phwysig fel conglfaen sy’n sail i ecosystem greadigol a chyfryngau hynod lwyddiannus y DU. Mae cynnwys trawiadol o Blue Lights a Wolf Hall, i There’s Only One Rob Burrow a Mr Loverman yn darparu gwerth diwylliannol a chymdeithasol enfawr, ond maent hefyd yn sbarduno twf economaidd. Yn 2023, roedd yr economi greadigol yn werth £124 biliwn, dros 5% o Werth Ychwanegol Gros (GVA) economi’r DU.[footnote 4] Ers 2019, amcangyfrifir bod y BBC wedi cyfrannu bron i £5 biliwn bob blwyddyn at ein heconomi.[footnote 5] Dyma’r buddsoddwr unigol mwyaf yng nghynnwys y DU, gan fuddsoddi £1.2 biliwn yn 2023 mewn cynnwys gwreiddiol - sy’n cyfateb i 23% o’r holl fuddsoddiad yng nghynnwys gwreiddiol y DU.[footnote 6] Gyda chanolfannau cynhyrchu mawr yn Belfast, Caerdydd, Glasgow, Salford ac - o 2027 - Digbeth, mae gan y BBC ôl troed yn ein gwledydd a’n rhanbarthau, heb ei ail gan unrhyw ddarparwr arall, sy’n sbarduno twf, swyddi a chyfleoedd i gymunedau ledled y DU, ac sy’n defnyddio doniau sy’n bodoli ym mhob gwlad a rhanbarth.
Y tu hwnt i’w effaith ddomestig, mae’r BBC hefyd yn un o allforion diwylliannol mwyaf y DU ac yn destun balchder cenedlaethol a phŵer meddal. Mae’n cael ei gydnabod ledled y byd, gyda’r BBC yn amcangyfrif dros 1 biliwn o ymweliadau â’i newyddion ar-lein ym mis Ionawr 2025 yn unig.[footnote 7] Mae BBC World Service yn benodol yn hanfodol i ddarparu newyddion a gwybodaeth ddibynadwy a chywir ar draws 42 o wasanaethau iaith, gan ddarparu gwasanaeth gwerthfawr i bobl ac i ddemocratiaeth mewn rhanbarthau lle mae mynediad cyfyngedig at ffynonellau dibynadwy a chyfyngu ar ryddid y wasg. Mae’r rôl hon yn amlwg yn narllediadau radio tonfedd fer BBC World Service i Wcráin, gan roi ffynhonnell hanfodol o wybodaeth gywir i ddinasyddion Wcráin am elyniaeth ac ymosodiadau Rwsia.
Fodd bynnag, mae gwerth y BBC fel sefydliad Prydeinig dibynadwy a pherthnasol, a’i allu i ddarparu amrywiaeth o wasanaethau hanfodol i gymunedau, dan bwysau. Mae’n bwysig cydnabod y bu methiannau golygyddol a gweithredol difrifol yn ddiweddar. Mae’r BBC ei hun yn cydnabod hyn ac mae wedi ymrwymo i nifer o gamau mewn ymateb. Mae eisoes wedi dechrau bwrw ymlaen â’r rhain, gan gynnwys camau gweithredu i wella diwylliant y gweithlu yn dilyn adolygiad annibynnol. Fel ein darlledwr cenedlaethol, mae gan y BBC gyfrifoldeb i gynnal y safonau uchaf, a phan nad yw’r safonau hyn wedi cael eu cyrraedd, rhaid i gamau cadarn a chyflym ddilyn.
Y tu hwnt i’r materion diweddar hyn, mae’r BBC yn gweithredu yng nghyd-destun chwyldro yn nhirwedd y cyfryngau sy’n herio pob darlledwr ac sy’n peryglu lledaeniad naratifau sy’n polareiddio ac yn darnio’r ddadl gyhoeddus. Mae Ofcom wedi rhybuddio bod y dirwedd cyfryngau sy’n esblygu’n gyflym wedi creu, ac yn parhau i greu, heriau sylweddol sy’n fygythiad i gyfraniadau pwysig y BBC (a darparwyr cyfryngau gwasanaethau cyhoeddus eraill) at fywyd diwylliannol, democrataidd ac economaidd y DU.[footnote 8] Os nad yw rôl y BBC fel sylfaen i’n sector cyfryngau yn cael ei diogelu a’i chryfhau, yna mae perygl y byddwn yn colli’r buddsoddiad, y dalent a’r cynnwys o ansawdd uchel yn y DU sydd wedi gwneud y sector yn llwyddiant byd-eang ac sy’n darparu gwerth i gynulleidfaoedd ledled y DU. Gwae ni os collwn ni hyn.
Mae cyfnod nesaf y Siarter, a fydd yn para o leiaf hyd at ddiwedd y 2030au, yn debygol o fod yn un o newid sylweddol pellach. Ers sefydlu’r BBC fel unig ddarlledwr ein gwlad yn 1922, mae wedi profi dro ar ôl tro ei allu i addasu i dirwedd sy’n newid ac arwain y ffordd o ran arloesi. Y BBC oedd yn gyfrifol am y darllediad teledu trawsiwerydd cyntaf yn y byd yn yr 1950au. Yn fwy diweddar, cefnogodd filiynau o aelwydydd i newid o deledu analog i deledu digidol rhwng 2007 a 2012. Yn ystod cyfnod y Siarter hon, mae lansio BBC Sounds wedi gwella ymgysylltiad cynulleidfaoedd â’i gynnwys sain byw ac ar-alw ac mae BBC Verify yn enghraifft o arloesi sylweddol o ran darparu gwybodaeth i gynulleidfaoedd am sut mae adroddiadau yn cael eu gwirio a’u ddilysu o ran ffeithiau.
Rhaid i’r Adolygiad hwn o’r Siarter gefnogi a grymuso’r BBC i barhau i addasu ac esblygu. Felly, bydd yn ceisio nodi a gweithredu amrywiaeth o newidiadau strategol i ddiogelu’r BBC at y dyfodol a gosod yr amodau er mwyn iddo allu ffynnu a pharhau i wasanaethu cyhoedd y DU yn y ffordd orau wrth i ni symud ymhellach i gyfnod newydd o gyfryngau a thechnoleg.
Felly, bydd yr Adolygiad o’r Siarter yn symud ymlaen ochr yn ochr â gwaith y llywodraeth sy’n ystyried dyfodol dosbarthu teledu a’r fframwaith ar gyfer cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus yn ehangach yn y dyfodol, yn dilyn adolygiad diweddar Ofcom o gyfryngau gwasanaeth cyhoeddus. Bydd y llywodraeth yn gweithio gyda’r BBC a darparwyr cyfryngau eraill i ddatblygu ymateb strategol i’r heriau a’r cyfleoedd a ddaw yn sgil amgylchedd cyfryngau a thechnoleg sy’n newid. Bydd y strategaeth hon yn ategu’r Adolygiad o’r Siarter ac yn ystyried sut gall y BBC, fel chwaraewr canolog yn amgylchedd cyfryngau’r DU, barhau i gefnogi cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus yn ehangach er mwyn iddo gyflawni ar gyfer cynulleidfaoedd ymhell i’r dyfodol. Mae hyn yn cynnwys ystyried sut mae’r BBC a chynnwys gwasanaeth cyhoeddus arall yn cael ei ddosbarthu drwy lwyfannau mewn ffordd sy’n cyrraedd cynulleidfaoedd orau, sut dylid diweddaru rheoleiddio i aros yn addas ar gyfer oes ddigidol, a sut gall y BBC weithio mewn partneriaeth ag eraill yn y sector mewn ffordd sy’n cryfhau ecosystem ehangach y cyfryngau.
Cyd-destun yr Adolygiad hwn o’r Siarter: Rôl y BBC mewn tirwedd cyfryngau sy’n newid
Yn ôl yn 2017, pan gafodd Siarter y BBC ei hadnewyddu ddiwethaf, roedd y dirwedd cyfryngau’n edrych yn wahanol iawn. Roedd y rhan fwyaf o bobl yn dal i ddefnyddio eu cynnwys drwy deledu sy’n cael ei ddarlledu’n fyw, gyda rhaglenni fel EastEnders yn gallu denu cynulleidfaoedd o dros 9 miliwn o bobl ar BBC One. Newydd lansio yr oedd TikTok, ac nid oedd wedi cyrraedd y DU eto. Yn 2019, roedd llai na hanner aelwydydd y DU wedi tanysgrifio i wasanaeth ffrydio.[footnote 9]
Ers hynny, mae’r newid rhwng cenedlaethau o ran sut a pha gynnwys rydym yn ei ddefnyddio wedi arwain at gyfleoedd a heriau i ddarlledwyr traddodiadol fel y BBC a sefydliadau cyfryngau eraill. Os yw’r BBC am aros yn berthnasol a bod y cyhoedd yn ymddiried ynddo fel sefydliad cyhoeddus pwysig a darlledwr cenedlaethol, rhaid i’r Adolygiad o’r Siarter ystyried sut mae’n ymateb i’r prif dueddiadau isod sy’n cael eu harchwilio’n fanylach yn y penodau canlynol:
Ymgysylltu â’r gynulleidfa a newid arferion y cyfryngau: Mae pobl yn mynd ar-lein fwyfwy am eu cynnwys, wrth i lwyfannau fideo byd-eang barhau i dyfu ac i lefelau gwylio darlledu traddodiadol ostwng yn y DU. Nid yw dros chwarter y bobl yn gwylio teledu byw yn rheolaidd bob wythnos bellach.[footnote 10] Mae hyn yn arbennig o wir ar gyfer cynulleidfaoedd iau: ymysg pobl ifanc 16 i 34 oed yn y DU, mae rhannu fideos wedi trechu ffrydio a theledu sy’n cael ei ddarlledu dros y pedair blynedd diwethaf ers 2022.[footnote 11] Mae radio byw yn parhau’n boblogaidd, ond mae gwasanaethau ffrydio cerddoriaeth bellach yn cael eu defnyddio gan 62% o’r holl bobl dros 15 oed yn wythnosol.[footnote 12]
- Nid yw dros 25% o bobl yn gwylio teledu byw yn rheolaidd bob wythnos bellach.
- Mae rhannu fideos wedi mynd y tu hwnt i ffrydio a theledu sy’n cael ei ddarlledu ymysg pobl ifanc 16 i 34 oed dros y pedair blynedd diwethaf.
- Mae 62% o bobl dros 15 oed yn defnyddio gwasanaethau ffrydio cerddoriaeth bob wythnos
Er bod cynulleidfaoedd y DU yn dal i droi at y BBC yn fwy nag unrhyw ddarparwr cyfryngau arall,[footnote 13] maent yn defnyddio llai ar ei wasanaethau wrth iddynt droi oddi wrth ddarlledwyr traddodiadol at ddarparwyr a chrëwyr cynnwys eraill. Mewn amgylchedd cyfryngau gorlawn, bydd yn rhaid i’r BBC weithio hyd yn oed yn galetach i addasu ei gynnwys, ei wasanaethau a’i ddarpariaeth i ddenu a chadw cynulleidfaoedd. Rhaid i’r llywodraeth sicrhau bod y fframwaith rheoleiddio yn cefnogi’r BBC i gyflawni hyn.

Perthnasedd a chynrychiolaeth: Er mwyn i’r BBC gyrraedd ac ymgysylltu â chynulleidfaoedd, mae’n bwysig ei fod yn cynrychioli ac yn hygyrch i bobl o bob cwr o’r DU. Mae’r BBC wedi gwneud cynnydd o ran cyrraedd cynulleidfaoedd amrywiol dros gyfnod y Siarter hon. Fodd bynnag, mae rhai pobl yn dal i ddefnyddio llai ar y BBC ac yn teimlo’n llai cadarnhaol am sut mae’n adlewyrchu eu bywydau, gan gynnwys pobl o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig, grwpiau economaidd-gymdeithasol isel a phobl ag anableddau.[footnote 14] Bydd angen i’r Adolygiad o’r Siarter ystyried beth arall y dylid ei wneud fel bod y BBC yn ymgysylltu ac yn hygyrch i bob grŵp cynulleidfa a’i fod yn wirioneddol gynrychioladol o bob rhan o’r DU.
Er mwyn i’r BBC gyrraedd ac ymgysylltu â chynulleidfaoedd, mae’n bwysig ei fod yn cynrychioli ac yn hygyrch i bobl o bob cwr o’r DU.

Ymddiriedaeth mewn newyddion a sefydliadau: Dros y degawd diwethaf, mae ein cymdeithas wedi mynd yn fwy darniog a rhanedig, gartref a thramor. Mae straeon newyddion sydd â safbwyntiau pleidiol mewn perygl o bolareiddio cynulleidfaoedd ac mae ffynonellau camwybodaeth a thwyllwybodaeth ar gynnydd. Mae hyn yn effeithio ar sut rydym yn deall ein gilydd, yn creu rhaniadau, ac yn sbarduno tensiynau cymdeithasol sy’n bygwth cydlyniad cymunedol. Mae newyddion a gwybodaeth gywir a dibynadwy yn hanfodol ar gyfer meithrin cyd-ddealltwriaeth o’r byd, ac maent yn hanfodol i weithrediad iach democratiaeth.
Mae’r BBC mewn sefyllfa unigryw i gefnogi amgylchedd newyddion cytbwys a dibynadwy. Er mai dyma’r darparwr newyddion sy’n cael ei ddefnyddio amlaf gan gynulleidfaoedd yn y DU,[footnote 15] mae cyfran y bobl sy’n ymddiried yn BBC News yn y DU wedi gostwng 15 pwynt canran ers 2018.[footnote 16][footnote 17] Mae darparwyr cyfryngau eraill wedi gweld gostyngiad tebyg yn ymddiriedaeth cynulleidfaoedd mewn newyddion.[footnote 18]
Mae’n amlwg bod achosion o ddiffygion difrifol ym mhrosesau golygyddol y BBC - ochr yn ochr ag achosion o gam-drin a chamymddwyn gan rai o staff y BBC a’r rhai sy’n gweithio i’r sefydliad - wedi niweidio ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd yn y BBC fel sefydliad.
Mewn cyd-destun o ansicrwydd a thensiynau byd-eang cynyddol, mae enw da’r BBC fel sefydliad yr ymddiriedir ynddo, sy’n darparu newyddion dibynadwy a chywir sy’n helpu i feithrin cyd-ddealltwriaeth o’r byd, yn bwysicach nag erioed. Er y byddai’n well gan rai pe na bai’r BBC yn bodoli, mewn oes o dwyllwybodaeth, mae’r ddadl dros wasanaeth newyddion Prydeinig diduedd yn gryfach nag erioed. Er mwyn cynnal ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd y mae’n eu gwasanaethu, ac sy’n talu amdano, rhaid i’r BBC wneud popeth o fewn ei allu i fynd i’r afael â’r mathau hyn o fethiannau annerbyniol a’u hatal, a chymryd camau pendant i gynnal y safonau uchaf.

Cynaliadwyedd cyfryngau lleol: Wrth i’r ffordd rydym yn defnyddio cyfryngau newid ar-lein, mae darparwyr newyddion traddodiadol sy’n gwasanaethu cynulleidfaoedd lleol yn wynebu heriau ariannol penodol. Mae cyfran yr oedolion sy’n defnyddio papurau newydd lleol a rhanbarthol wedi mwy na haneru ers 2018.[footnote 19] Yn ôl Sefydliad Reuters, er gwaethaf diddordeb mawr mewn cynnwys lleol, mae cynulleidfaoedd yn teimlo nad ydynt yn cael eu gwasanaethu’n ddigonol gan newyddion lleol yn y DU.[footnote 20] Mae canlyniadau’r gostyngiad mewn ffynonellau newyddion lleol dibynadwy o ansawdd uchel yn cael eu dangos yn glir gan naratifau ffug a ffynonellau camwybodaeth a daniodd afreolaeth gymdeithasol yn ystod terfysgoedd haf 2024.
- Mae darllediadau newyddion rhanbarthol min nos y BBC yn denu 3.4 miliwn o wylwyr ar gyfartaledd
Mae’r BBC yn chwarae rhan bwysig drwy ddarparu newyddion lleol i bob rhan o’r DU. Mae’n cefnogi’r ecosystem cyfryngau lleol ehangach drwy ei bartneriaethau â newyddiaduraeth leol. Mae ei ddarllediadau newyddion rhanbarthol fin nos yn denu 3.4 miliwn o wylwyr ar gyfartaledd a gyda’i gilydd, dyma’r rhaglenni sy’n cael eu gwylio’n fwy nag unrhyw raglen newyddion arall sy’n cael ei darlledu yn y DU.[footnote 21] Fodd bynnag, mae’r BBC hefyd wedi gorfod gwneud newidiadau i’r ffordd mae’n darparu ei wasanaethau radio a theledu lleol dros y blynyddoedd diwethaf. Bwriad Strategaeth Cyfryngau Lleol y llywodraeth yw helpu i fynd i’r afael â’r ystod lawn o heriau sy’n wynebu newyddiaduraeth leol, gan gynnwys rôl y BBC yn cefnogi amrywiaeth gwasanaethau newyddion lleol yn y DU.

Pwysau ariannol: Er bod y diwydiannau creadigol ehangach yn parhau i fod megis pwerdy i economi’r DU, mae ein diwydiant sgrin a theledu yn wynebu heriau yn y farchnad, gyda gostyngiad mewn refeniw hysbysebu, costau cynhyrchu uchel a mwy o gystadleuaeth gan ffrydwyr byd-eang am fuddsoddiad. Mae Cynllun Sector Diwydiannau Creadigol y llywodraeth yn nodi mesurau i gefnogi sector sgrin creadigol bywiog ledled y DU. Bydd yr Adolygiad hwn o’r Siarter yn atgyfnerthu’r uchelgeisiau hyn i sicrhau bod y BBC yn parhau i ymgymryd â’i rôl sylfaenol fel peiriant twf ar gyfer y sector creadigol ehangach, drwy gefnogi swyddi, sgiliau, hyfforddiant a buddsoddiad ar draws ein gwledydd a’n rhanbarthau.
Er bod y BBC yn cael ei warchod rhag rhai o’r pwysau masnachol sydd ar ddarparwyr cyfryngau eraill, mae ei allu i ddarparu gwasanaethau sy’n cael eu gwerthfawrogi gan gynulleidfaoedd dan straen gan fod ei incwm mewn termau real o ffi’r drwydded wedi gostwng dros 30% yn ystod y degawd diwethaf.[footnote 22] O ganlyniad, mae’r BBC wedi rhoi llawer o fesurau effeithlonrwydd ac arbed costau sylweddol ar waith, gan gynnwys targed o £700 miliwn mewn arbedion blynyddol rhwng nawr a Mawrth 2028. Mae hefyd wedi cryfhau ei gangen fasnachol, sydd wedi cefnogi’r BBC gydag oddeutu £860 miliwn o daliadau difidend mewn termau ariannol i fuddsoddi mewn gwasanaeth cyhoeddus i gynulleidfaoedd ers 2016.
Mae’n hollbwysig bod y BBC yn gweithredu’n effeithlon ac yn sicrhau’r gwerth gorau posibl i’r cyhoedd sy’n talu amdano. Bydd yr Adolygiad hwn o’r Siarter yn ceisio sicrhau bod gan y BBC yr adnoddau digonol ac angenrheidiol i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel, sy’n cael eu gwerthfawrogi gan gynulleidfaoedd, a bod costau’n cael eu cadw mor isel â phosibl i aelwydydd.
Ein huchelgais ar gyfer diogelu’r BBC at y dyfodol
Bydd yr Adolygiad o’r Siarter yn ysgrifennu pennod nesaf stori’r BBC. Mae ar y llywodraeth eisiau defnyddio’r Adolygiad hwn o’r Siarter i ddiogelu’r BBC at y dyfodol fel ei fod, yng nghanol tirwedd cyfryngau sy’n newid yn gyflym, nid yn unig yn goroesi, ond yn ffynnu am ddegawdau i ddod. Yn y lle cyntaf, mae hyn yn golygu ailddatgan Cenhadaeth wreiddiol y BBC i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus cyffredinol sy’n hanfodol i fywyd cenedlaethol.
Mae ar y llywodraeth eisiau defnyddio’r Adolygiad hwn o’r Siarter i ddiogelu’r BBC at y dyfodol fel ei fod, yng nghanol tirwedd cyfryngau sy’n newid yn gyflym, nid yn unig yn goroesi, ond yn ffynnu am ddegawdau i ddod
Y tu hwnt i hynny, er mwyn i’r BBC ffynnu mewn oes o newid yn arferion defnyddwyr a datblygiadau technolegol cyflym, mae angen newid. Felly, mae’n rhaid i’r Adolygiad hwn o’r Siarter wneud newidiadau angenrheidiol wedi’u targedu i rymuso’r BBC gyda’r fframweithiau rheoleiddio a gweithredol cywir er mwyn iddo allu parhau i ddarparu gwerth cymdeithasol, democrataidd ac economaidd mewn ffordd sy’n cynrychioli pob llais ac sy’n cyd-fynd â bywydau pob cymuned ledled y DU, beth bynnag fo’u cefndir. Dylid rheoleiddio’r BBC mewn ffordd sy’n rhoi hyblygrwydd iddo addasu i dirwedd cyfryngau ac arferion defnyddwyr sy’n newid, er mwyn iddo allu parhau i ddarparu gwasanaethau y mae cynulleidfaoedd yn eu gwerthfawrogi ar yr un pryd â galluogi twf economaidd sydd o fudd i’r cyfryngau ehangach a’r sectorau creadigol yn y DU. Bydd yr Adolygiad hwn o’r Siarter yn ystyried y pecyn llawn o reoleiddio’r BBC i sicrhau ei fod yn gymesur ac yn addas ar gyfer y dyfodol.
Mewn oes lle mae ymddiriedaeth yn gostwng a lle mae’r gwirionedd yn cael ei herio ar draws ein gwlad, mae’n hanfodol bod y BBC yn cael cefnogaeth y cyhoedd, eu bod yn ymddiried ynddo a’i fod yn elfen berthnasol a dibynadwy o gymdeithas y DU. Rhaid i bobl allu ymddiried nid yn unig yn yr hyn maent yn ei weld a’i glywed, ond hefyd ymddiried yn y BBC fel sefydliad. Un o nodau allweddol yr Adolygiad o’r Siarter felly yw cynyddu i’r eithaf ymddiriedaeth y cyhoedd yn y BBC fel sefydliad sy’n annibynnol, yn atebol i’r cyhoedd ac yn gosod y safonau uchaf ar gyfer diwylliant gwaith cefnogol a diogel i bawb y mae’n gweithio ac yn partneru â nhw. Drwy’r Adolygiad o’r Siarter, mae arnom eisiau grymuso cynulleidfaoedd ymhellach, fel eu bod nid yn unig yn gweld cynnwys o ansawdd uchel, ond hefyd yn cael eu cefnogi i wahaniaethu rhwng newyddion a naratifau camarweiniol neu anghywir. Felly, byddwn hefyd yn sicrhau bod gan y BBC y safonau uchaf yn eu lle o ran canllawiau golygyddol a’i fod yn ymgysylltu â’r cyhoedd i egluro dewisiadau o ran cynnwys golygyddol a gwneud penderfyniadau.
Byddwn yn sicrhau bod y BBC yn gwella ei berthnasedd i gynulleidfaoedd er mwyn helpu i gynyddu’r ymdeimlad o gysylltiad y mae pobl yn ei deimlo â’r BBC fel darlledwr cenedlaethol. Mae hyn yn golygu grymuso’r BBC i gyrraedd y cynulleidfaoedd ehangaf posibl drwy wasanaethau a chynnwys sy’n hygyrch ac sy’n cynrychioli ac yn taro tant â bywydau a chyfraniad pob cymuned ledled y DU. Mae hyn yn cynnwys sut mae’n siapio ein bywyd diwylliannol drwy gefnogi a hyrwyddo creadigrwydd ar draws pob rhan o’r wlad. Mae’n bwysig bod y genedl gyfan yn cael ei hadlewyrchu yn y stori rydym yn ei hadrodd wrthym ni ein hunain, amdanom ni ein hunain, fel cenedl. Felly, bydd yr Adolygiad o’r Siarter yn ystyried mesurau a fydd yn caniatáu i wledydd a rhanbarthau’r BBC yrru cyfeiriad y sefydliad, a hefyd yn rhoi hyblygrwydd i’r BBC wasanaethu cynulleidfaoedd a bodloni arferion defnyddwyr sy’n newid yn erbyn tirwedd cyfryngau sy’n esblygu.
Yn hollbwysig, dim ond os oes ganddo fodel cyllido hirdymor cynaliadwy ar waith y bydd y BBC yn gallu darparu ar gyfer y cyhoedd. Mae’r cwestiwn ynghylch sut mae’r BBC yn cael ei ariannu, a lefel y cyllid hwnnw, yn gysylltiedig â phwrpas y BBC, ei rôl mewn bywyd cyhoeddus a’r mathau o wasanaethau ac allbynnau mae’n eu darparu. Mae’r Adolygiad o’r Siarter yn gyfle i ystyried y materion hyn gyda’i gilydd. Bydd yn sicrhau bod y BBC yn cael ei sefydlu ar gyfer llwyddiant yn y dyfodol gyda model cyllido cynaliadwy sy’n deg i gynulleidfaoedd ac sy’n ei alluogi i gyflawni nid yn unig ar gyfer rhai, ond bob un ohonom, i sbarduno twf y diwydiannau creadigol, meithrin talent, creu swyddi a buddsoddi ledled y DU. Mae hyn yn cynnwys sicrhau lefel gynaliadwy o gyllid i S4C i sicrhau ei rôl hanfodol fel darlledwr gwasanaeth cyhoeddus annibynnol yn y Gymraeg. Bydd yr Adolygiad o’r Siarter hefyd yn sicrhau bod y BBC mor effeithlon â phosibl, fel bod yr arian sy’n cael ei fuddsoddi gan y cyhoedd yn cael ei wario mewn ffordd sy’n sicrhau’r budd mwyaf posibl i’r cyhoedd.
Mae’r llywodraeth yn derbyn tystiolaeth ac yn ystyried mesurau a fydd yn cefnogi’r amcanion allweddol canlynol ar gyfer yr Adolygiad o’r Siarter, fel y nodir yn y Cylch Gorchwyl:
Amcanion yr Adolygiad o’r Siarter
-
BBC sy’n cael ei ariannu’n gynaliadwy am ddegawdau i ddod i gefnogi ei rôl gwasanaeth cyhoeddus hanfodol.
-
BBC sy’n ennyn ymddiriedaeth y cyhoedd, sy’n annibynnol ac yn atebol i’r cyhoedd y mae’n eu gwasanaethu, ac sy’n cynrychioli pob cymuned ledled y DU.
-
BBC sy’n sbarduno twf, cyfleoedd a swyddi da ar draws gwledydd a rhanbarthau’r DU, gan weithio mewn partneriaeth ag eraill.
Mae’r ymgynghoriad cyhoeddus hwn yn nodi’r prif opsiynau y mae’r llywodraeth yn eu hystyried ac yn gofyn am eich barn ar set o gwestiynau cysylltiedig. Mae’r rhain wedi’u grwpio gyda’i gilydd dan bedair pennod allweddol:
-
Sefydliad yr ymddiriedir ynddo - Er mwyn gwella ymddiriedaeth y cyhoedd yn y BBC, bydd yr Adolygiad o’r Siarter yn ystyried opsiynau i gryfhau ei drefn lywodraethu a’i annibyniaeth, gwella atebolrwydd a thryloywder, gan gynnwys o ran penderfyniadau golygyddol, a sicrhau bod polisïau’r gweithle yn cyd-fynd â’r gwerthoedd rydym yn eu disgwyl gan ein darlledwr cenedlaethol.
-
Darparu gwasanaethau er budd y cyhoedd - Bydd yr Adolygiad o’r Siarter hefyd yn ystyried opsiynau i gefnogi rôl y BBC fel darparwr newyddion dibynadwy a sut mae’n helpu i siapio’r amgylchedd gwybodaeth yn y DU ac yn rhyngwladol, gan gynnwys sicrhau bod ganddo safonau golygyddol cadarn ar waith a bod y rhain yn cael eu defnyddio’n gyson. Bydd hefyd yn ystyried sut gall y BBC gyflawni ei rôl fel ein darlledwr cenedlaethol, gan ddarparu cynnwys i gynulleidfaoedd ac arloesi’n dechnolegol, er mwyn iddo allu addysgu a hysbysu, cyfoethogi bywyd diwylliannol ac adrodd stori genedlaethol sy’n uno ac sy’n cynrychioli pob cymuned ledled y DU.
-
Sbarduno twf ledled y DU - Mae’r BBC yn gonglfaen i’r economi greadigol yn y DU, gan ddarparu hyfforddiant, sgiliau, swyddi a chyfleoedd sy’n cefnogi twf ar draws holl wledydd a rhanbarthau’r DU. Bydd yr Adolygiad o’r Siarter yn ystyried opsiynau i wella ei effaith economaidd, gan gynnwys drwy bartneriaethau a chydweithio sydd o fudd i bob parti ac sy’n cefnogi’r sector cyfryngau ehangach.
-
Cyllid cynaliadwy a theg - Er mwyn i’r BBC gyflawni ar draws yr holl feysydd hyn, mae’n hanfodol bod ganddo fodel cyllido cynaliadwy ar waith ar gyfer y tymor hir. Bydd yr Adolygiad o’r Siarter yn ystyried opsiynau ar gyfer sut i ariannu’r BBC mewn ffordd gynaliadwy a theg, gan ddarparu gwerth i gynulleidfaoedd ar yr un pryd.
Dweud eich dweud
Mae’r BBC yn eiddo i bob un ohonom. Felly, rydym yn awyddus i glywed gan amrywiaeth eang o leisiau am ddyfodol y BBC fel ein darlledwr cenedlaethol a sut gall gynrychioli a chyflawni ar gyfer pob unigolyn yn y DU fel rhan o’r Adolygiad o’r Siarter.
Rydym yn ceisio barn y cyhoedd, y rhai sy’n gweithio yn y diwydiannau creadigol, ymchwilwyr a sefydliadau’r diwydiant ar draws nifer o faterion ac opsiynau ar gyfer newid. Bydd yr ymatebion a’r dystiolaeth a gyflwynir i’r ymgynghoriad hwn yn helpu i lywio penderfyniad y llywodraeth ar wneud newidiadau i Siarter a Chytundeb Fframwaith y BBC.
Bydd yr ymgynghoriad ar agor am 12 wythnos o 16 Rhagfyr 2025 tan 10 Mawrth 2026.
Yn gynharach eleni, cynhaliodd y BBC ei arolwg annibynnol ei hun o ddeiliaid cyfrifon y BBC i gael eu barn am y cynnwys a’r gwasanaethau mae’n eu darparu. Derbyniodd y BBC 872,701 o ymatebion, sy’n dangos lefel y diddordeb gan gynulleidfaoedd yn rôl y BBC yn y dyfodol. Rydym yn bwriadu gweithio’n agos gyda’r BBC fel rhan o’r broses o Adolygu’r Siarter, a byddwn yn ystyried safbwyntiau’r BBC ar y materion sydd wedi’u nodi yn yr ymgynghoriad hwn.
Ar ben hynny, bydd y llywodraeth yn ymgysylltu ag Ofcom, fel rheoleiddiwr annibynnol y BBC, a’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol (NAO), fel archwilydd annibynnol y BBC. Bydd hefyd yn ymgynghori ag S4C a’r llywodraethau datganoledig i helpu i sicrhau bod y BBC yn cyflawni ar gyfer pob gwlad a rhanbarth ar draws y DU.
Sut i ymateb
Mae’r ymgynghoriad yn dechrau gydag un cwestiwn gorfodol i gadarnhau cymhwysedd i ymateb i’r ymgynghoriad. Os ydych yn gymwys, bydd 11 cwestiwn demograffig a 34 cwestiwn sy’n ymwneud â themâu’r papur gwyrdd yn dilyn. Nid oes yn rhaid darparu unrhyw wybodaeth ddemograffig nac ateb pob cwestiwn. Os nad yw adran neu gwestiwn yn berthnasol i’ch profiad chi, neu os nad ydych yn dymuno ateb, gallwch ddewis peidio â’i ateb.
Mae fersiwn Saesneg o’r ymgynghoriad hefyd ar gael ar wefan GOV.UK.
Rydym yn eich annog i ddefnyddio’r ymgynghoriad ar-lein lle bo hynny’n bosibl. Mae hyn yn rhoi mynediad cyflymach i ni at eich ymatebion. Os na allwch ymateb i’r ymgynghoriad ar-lein, gallwch ymateb drwy e-bost neu’r post. Mae rhagor o wybodaeth am sut gallwch ymateb i’r ymgynghoriad hwn ar gael yma.
Nid oes yn rhaid i chi gwblhau’r ymgynghoriad i gyd ar unwaith. Gallwch adael y safle ac yna dychwelyd i ateb cwestiynau yn nes ymlaen. Pan fyddwch yn agor y ddolen eto, bydd yn mynd â chi’n ôl i’r man lle gwnaethoch ei adael. Ni fydd ymatebion nad ydynt yn cael eu cyflwyno erbyn i’r ymgynghoriad ddod i ben yn cael eu cynnwys yn y canlyniadau. Daw’r ymgynghoriad i ben am 23:59 ar 10 Mawrth 2026.
Er mwyn ein galluogi i brosesu nifer fawr o ymatebion, efallai y byddwn yn defnyddio technoleg, fel deallusrwydd artiffisial (AI), i’n helpu i ddeall y themâu a’r dystiolaeth sy’n dod i’r amlwg o ganlyniadau’r arolwg. Mae deallusrwydd artiffisial yn derm cyffredinol ar gyfer amrywiaeth o dechnolegau a dulliau sy’n aml yn dynwared y meddwl dynol i ddatrys tasgau cymhleth. Mae ein defnydd o ddeallusrwydd artiffisial yn cael ei lywodraethu gan bolisïau a gweithdrefnau sy’n mynd i’r afael â diogelwch data, preifatrwydd a defnyddio deallusrwydd artiffisial yn gyfrifol. Ni fydd unrhyw benderfyniadau awtomataidd yn gysylltiedig â defnyddio deallusrwydd artiffisial. Mae rhagor o wybodaeth am sut bydd y data’n cael ei ddefnyddio ar gael yn yr hysbysiad preifatrwydd.
Y camau nesaf
Byddwn yn cyhoeddi canlyniadau’r ymgynghoriad hwn ac ymateb y llywodraeth yn 2026. Byddwn yn ystyried yr holl ymatebion perthnasol a gyflwynir i’r ymgynghoriad hwn. Bydd ein hymateb yn seiliedig ar ystyriaeth ofalus o’r pwyntiau a wnaed, nid nifer yr ymatebion a dderbyniwyd.
Gan adeiladu ar yr ymatebion i’r ymgynghoriad yn ogystal â thystiolaeth a safbwyntiau eraill a gafwyd drwy’r broses Adolygu’r Siarter, bydd y llywodraeth wedyn yn nodi’r newidiadau polisi y bydd yn ceisio eu rhoi ar waith mewn papur gwyn, a fydd yn cael ei gyhoeddi yn 2026. Bydd hyn yn sail i Siarter newydd ar gyfer y BBC. Bydd fersiwn ddrafft o’r Siarter newydd yn cael ei chyhoeddi ar-lein a’i thrafod gerbron y Senedd.
Ar ôl i’r Cyfrin Gyngor ei chymeradwyo, bydd Siarter Frenhinol newydd y BBC yn dod i rym.
Pennod 1: Sefydliad yr ymddiriedir ynddo
Crynodeb
Mae’r BBC yn chwarae rhan hollbwysig yng nghymdeithas Prydain. Mae’n cefnogi democratiaeth, yn siapio ein hunaniaeth genedlaethol ac yn dod â chymunedau at ei gilydd. Er gwaethaf hyn, mae ymddiriedaeth y cyhoedd mewn sefydliadau allweddol, gan gynnwys y BBC, wedi gostwng. Nod yr Adolygiad hwn o’r Siarter yw mynd i’r afael â’r mater hwn.
Ar ei orau, mae’r BBC yn cefnogi ein democratiaeth, yn siapio ein stori genedlaethol ac yn dod â chymunedau at ei gilydd drwy fannau dinesig, adegau a sgyrsiau cyffredin
Mae’r bennod hon yn edrych ar ymddiriedaeth yn y ffordd mae’r BBC yn gweithredu fel sefydliad a sut gall y llywodraeth helpu’r BBC i fod yn atebol i’w gynulleidfaoedd a’u cynrychioli. Trafodir ymddiriedaeth yng nghynnyrch a gwasanaethau’r BBC ym Mhennod 2.
Mae’r opsiynau sy’n cael eu hystyried dan yr adolygiad o’r Siarter yn cynnwys:
-
Gwella ymgysylltiad ac ymddiriedaeth y cyhoedd: Archwilio ffyrdd i’r BBC ymgysylltu â chynulleidfaoedd ac adlewyrchu barn y cyhoedd, o ran sut mae’n gweithredu a’r gwasanaethau a’r cynnwys mae’n eu darparu.
-
Gwella annibyniaeth, atebolrwydd a thryloywder y BBC: Ystyried diwygio strwythurau llywodraethu’r BBC, hyd ei Siarter Frenhinol a’i rwymedigaethau i rannu gwybodaeth.
-
Y BBC fel gweithle: Sefydlu systemau ar gyfer rhoi gwybod am gamymddwyn a chyfrifoldebau ychwanegol ar gyfer arweinyddiaeth y BBC.
-
Y BBC fel arweinydd sector: Grymuso’r BBC i osod safon uchel i bob cyflogwr ar draws yr economi greadigol a sbarduno gwelliannau.
Ffeithiau allweddol
-
Mewn ymateb i arolwg y BBC ‘Ein BBC, Ein Dyfodol’, dywedodd 83% o ddeiliaid cyfrifon ei bod yn bwysig bod y BBC yn parhau i “hysbysu, addysgu a diddanu” yn y dyfodol.
-
Ymysg pobl ifanc dan 16 oed, roedd 70% yn defnyddio’r BBC ar gyfartaledd bob wythnos yn 2024/25, o’i gymharu ag 84% o oedolion y DU.
-
Mae oddeutu hanner y gweithwyr yn y diwydiannau creadigol wedi profi gwahaniaethu, esgeulustod a/neu fwlio.
-
Mae bwlio’n fwy cyffredin yn y diwydiant teledu a ffilm nag yn rhannau eraill y sector.
Cyflwyniad
Mae’r BBC yn sefydliad sydd â safle unigryw ac arwyddocaol yng nghymdeithas Prydain, ac mae’r llywodraeth hon wedi ymrwymo i gefnogi’r BBC er mwyn iddo allu cadw’r sefyllfa honno. Ar ei orau, mae’r BBC yn cefnogi ein democratiaeth, yn siapio ein stori genedlaethol ac yn dod â chymunedau at ei gilydd drwy fannau dinesig, adegau a sgyrsiau cyffredin. Mae’r cyhoedd yn cefnogi’r Genhadaeth hon yn gref, gydag 83% o ddeiliaid cyfrifon y BBC yn credu ei bod yn bwysig bod y BBC yn parhau i hysbysu, addysgu a diddanu yn y dyfodol.[footnote 23] Y BBC yw un o’r adnoddau mwyaf gwerthfawr sydd gennym i rymuso ein dinasyddion i’n helpu i ddeall ein gilydd ac felly’r amddiffyniad gorau yn erbyn grymoedd sy’n ceisio ysgogi ofn a rhaniadau. Ar gyfer adegau o bwysigrwydd cenedlaethol, dyma’r ffynhonnell y mae cynulleidfaoedd yn troi ati fwyaf o hyd, gydag 8 o bob 10 oedolyn yn dod at y BBC i wylio’i ddarpariaeth o ganlyniadau’r etholiad cyffredinol.[footnote 24]
Mae’n briodol bod y BBC yn annibynnol ar ymyrraeth wleidyddol, ac mae hon yn egwyddor bwysig y byddwn yn ei chynnal yn yr Adolygiad hwn o’r Siarter. Ond nid yw hyn yn golygu na ddylai’r BBC fod yn atebol, a bydd yr Adolygiad hwn o’r Siarter yn ystyried ffyrdd o sicrhau bod y BBC yn wirioneddol atebol i’r cyhoedd sy’n talu amdano ac yn ei ddefnyddio.
- Mae 83% o ddeiliaid cyfrifon y BBC yn credu ei bod yn bwysig bod y BBC yn parhau i hysbysu, addysgu a diddanu yn y dyfodol
Rhaid i ni beidio â bod yn hunanfodlon ynghylch ymddiriedaeth y cyhoedd yn y BBC, na chymryd ei enw da yn ganiataol. Daw ymddiriedaeth o’r gwasanaethau y mae sefydliad yn eu darparu, a’r ffordd y mae’n gweithredu: drwy wneud penderfyniadau tryloyw, defnyddio arian cyhoeddus yn gyfrifol, a safonau sefydliadol a diwylliannol sy’n cynnal hyder ei gynulleidfaoedd. Ar ôl achosion diweddar o fethiannau golygyddol a chamymddwyn yn y gweithle gan staff, mae arweinwyr y BBC wedi cydnabod bod safonau’r sefydliad wedi methu, ac wedi ymrwymo i nifer o gamau mewn ymateb. Rhaid i bobl allu ymddiried nid yn unig yn yr hyn maent yn ei weld a’i glywed, ond hefyd ymddiried yn y BBC fel sefydliad. Dylai’r methiannau difrifol hyn fod yn gatalydd ar gyfer newid yn y BBC, ac ni ddylid caniatáu iddynt ddigwydd eto.
Felly, bydd yr Adolygiad o’r Siarter yn sicrhau bod y BBC yn cynrychioli ac yn atebol i gynulleidfaoedd mewn ffordd sy’n gwella canfyddiadau o’r sefydliad ac sy’n cefnogi ei le canolog mewn bywyd dinesig cenedlaethol. Byddwn yn sicrhau bod gweithrediadau sefydliadol y BBC, a’i ddiwylliant a’i arferion yn y gweithle, yn cyd-fynd â’r gwerthoedd a’r safonau uchel rydym yn eu disgwyl gan ein darlledwr cenedlaethol.
Mae ein polisi yn canolbwyntio ar wella ymddiriedaeth:
-
Gwella atebolrwydd y BBC er mwyn iddo allu adlewyrchu a chynrychioli’r cyhoedd yn well.
-
Gwella ymgysylltiad sy’n arwain at well canfyddiadau o’r BBC.
-
Gwella trefniadau llywodraethu, goruchwylio a thryloywder mewn ffordd sy’n cefnogi ymddiriedaeth ehangach y cyhoedd yn y ffordd mae penderfyniadau’n cael eu gwneud ac yn y cynnwys a’r gwasanaethau y mae’r BBC yn eu darparu.
-
Cynnal annibyniaeth y BBC er mwyn iddo allu cynnal ymddiriedaeth yn ei raglenni a’i gynnwys.
-
Rhoi ffocws o’r newydd ar ddiwylliant a safonau sefydliadol y BBC, meithrin ymddiriedaeth y cyhoedd yn y sefydliad a’i enw da, a chodi safonau yn y sector creadigol ehangach.
Wrth fwrw ymlaen â’r blaenoriaethau polisi hyn, byddwn hefyd yn ystyried sut mae’r BBC yn cael ei reoleiddio gan Ofcom a sut creffir arno gan y Swyddfa Archwilio Genedlaethol (NAO).
Adran 1: Atebolrwydd ac annibyniaeth
Y cyd-destun
Mae’r contract cymdeithasol rhwng y BBC a’r rhai sy’n talu ffi’r drwydded yn golygu bod yn rhaid iddo fod yn atebol i’r cyhoedd sy’n talu amdano. Mae’r contract hwn hefyd yn cyfiawnhau annibyniaeth weithredol barhaus y BBC, gydag ‘ymddiriedaeth’ yn cael ei rhoi yn y BBC i ddefnyddio ei gyllid cyhoeddus yn effeithlon ac yn effeithiol.
Mae atebolrwydd yn llawer mwy na nodwedd o lywodraethiant corfforaethol ac mae’n mynd y tu hwnt i dryloywder. Rhaid i atebolrwydd gwirioneddol fod wedi’i wreiddio yn sylfaen sefydliad cyfan. Dylai fynnu’r canlynol:
-
bod penderfyniadau’n ymatebol i’r cyhoedd ac yn eu hadlewyrchu
-
bod penderfyniadau yn cael eu llywio gan randdeiliaid a’u hegluro’n glir
-
bod adborth yn cael ei ystyried a’i gymryd o ddifrif
-
os bydd camgymeriadau’n digwydd, y cymerir camau cywiro cyflym a bod gwersi’n cael eu dysgu
Gwnaed newidiadau mawr i fframwaith atebolrwydd y BBC dan yr Adolygiad diwethaf o’r Siarter. Rhoddwyd mwy o gyfrifoldeb a phwerau i Ofcom fel rheoleiddiwr annibynnol y BBC. Cafodd y fframwaith cwynion ei ailwampio hefyd, gydag Ofcom yn chwarae rhan allweddol yn y broses gwyno am gynnwys y BBC. Mewn rhai meysydd, cafodd rheolau eu llacio, fel dileu’r gofynion ar y BBC i gynnull Cynghorau Cynulleidfa, gyda’r nod o hwyluso trafodaeth ac adborth yn uniongyrchol gan y cyhoedd, gan y teimlid nad oeddent yn cyfrannu’n ystyrlon at benderfyniadau’r BBC. Bydd yr Adolygiad hwn o’r Siarter yn blaenoriaethu atebolrwydd ac, fel rhan o hynny, byddwn yn adolygu effeithiolrwydd strwythurau a gofynion a gyflwynwyd gan y Siarter ddiwethaf.
Yr achos dros newid
Mae gallu’r BBC i gyflawni’n effeithiol yn erbyn ei Genhadaeth a’i Ddibenion Cyhoeddus a’i fframwaith rheoleiddio dan fygythiad oherwydd y lefelau cynyddol o ddiffyg ymddiriedaeth yn ei wasanaethau a lefelau is o ymgysylltu gan rai grwpiau cynulleidfa. Mae data Sefydliad Reuters yn dangos, er bod y BBC yn parhau i fod yn un o’r darparwyr newyddion mwyaf dibynadwy ymysg cynulleidfaoedd y DU, bod diffyg ymddiriedaeth yn ei wasanaethau newyddion wedi cynyddu 13 pwynt canran rhwng 2018 a 2025.[footnote 25][footnote 26] Mae pobl iau hefyd yn defnyddio llai ar y BBC. Ymysg pobl ifanc dan 16 oed, roedd 70% yn defnyddio’r BBC ar gyfartaledd bob wythnos yn 2024/25, o’i gymharu ag 84% o oedolion y DU.[footnote 27]
Er nad y BBC yw’r unig un sy’n wynebu llawer o’r heriau hyn yn y sector cyfryngau, mae’n briodol bod y cyhoedd yn disgwyl y safonau uchaf gan y BBC a phan nad yw’r safonau hyn yn cael eu bodloni, gall ymddiriedaeth gael ei niweidio. Mae’r cyhoedd wedi gweld gormod o achosion yn ddiweddar, boed yn ymwneud â phenderfyniadau golygyddol neu ddiwylliant y gweithle, lle mae ymddygiad y BBC wedi disgyn yn is na disgwyliadau’r rhai sy’n ei ariannu.
Ochr yn ochr â’r tueddiadau ehangach sy’n amharu ar ymddiriedaeth mewn sefydliadau, mae nifer o faterion golygyddol a’r ffordd mae’r BBC yn ymdrin â nhw, wedi cael effaith negyddol ar hyder y cyhoedd yn y sefydliad. Rydym hefyd wedi gweld nifer o enghreifftiau dychrynllyd o gamddefnyddio grym yn y gweithle. Rhaid i’r BBC gael strwythurau a diwylliant atebolrwydd clir ar waith, er mwyn iddo allu ymateb yn gyflym i ddigwyddiadau neu faterion sy’n bygwth tanseilio ymddiriedaeth y cyhoedd yn y sefydliad, gan ymateb mewn ffordd sy’n ailddatgan ymddiriedaeth yn y sefydliad yn unol â buddiannau’r gynulleidfa. Rhaid i arweinwyr y BBC hefyd fod yn atebol i’w staff eu hunain drwy fod yn dryloyw ynghylch pam mae penderfyniadau wedi cael eu gwneud a pham mae cyfrifoldeb yn cael ei gymryd dros wneud y penderfyniadau hyn, gan gynyddu ymddiriedaeth y rhai sy’n gweithio i’r BBC yn y sefydliad.
Rhaid i ni hefyd sicrhau bod atebolrwydd y BBC i’r cyhoedd yn golygu ei fod yn adlewyrchu nid yn unig y rhan fwyaf o’r wlad, ond y wlad i gyd. Un o gryfderau mwyaf y DU yw ei hamrywiaeth, ond mae gormod o leisiau nad ydynt wedi cael eu gweld na’u clywed yn ein dadl genedlaethol ers gormod o amser. Felly, rhaid i ni alluogi’r BBC i fod yn llwyfan ac yn sefydliad i bawb yn y DU, gan roi llais i’n holl wledydd a rhanbarthau gwahanol ar draws y DU. Rhaid i’r BBC fod yn ddarlledwr gwirioneddol genedlaethol y mae gan bob un ohonom ran ynddo.
Mae annibyniaeth y BBC yn ei alluogi i weithredu’n hyblyg a pharhau i fod yn chwaraewr allweddol mewn marchnad gystadleuol sy’n esblygu ac mae’n un o egwyddorion craidd ei allu i hysbysu ac addysgu’r cyhoedd. Mae’n caniatáu i’r BBC ddal sefydliadau cyhoeddus i gyfrif, a sicrhau nad yw ei gynnwys yn cael ei orchymyn – nac yn cael ei weld felly – gan wleidyddiaeth, y Wladwriaeth na buddiannau masnachol. Mae’r llywodraeth yn gwarantu y bydd annibyniaeth olygyddol y BBC yn cael ei diogelu o dan y Siarter nesaf a byddwn yn ystyried mesurau i gynnal a chryfhau annibyniaeth y BBC.
Ein huchelgais
Bydd y Siarter nesaf yn ceisio cryfhau ymddiriedaeth a chysylltiad y cyhoedd â’r BBC. Bydd yn cyflawni hyn drwy Siarter a fydd yn cynnal annibyniaeth y BBC, yn sicrhau ei fod yn wirioneddol atebol i’r cyhoedd a’r rhai sy’n ei ariannu, ac yn gwella’r gwaith cyffredinol o lywodraethu a rheoleiddio’r BBC. Byddwn yn ystyried unrhyw newidiadau i reoliadau a strwythurau llywodraethu presennol y BBC yn eu cyfanrwydd i sicrhau eu bod yn gweithio fel pecyn cydlynol.
Opsiynau rydym yn eu hystyried
Rydym yn ymgynghori ar amrywiaeth o opsiynau i gyflawni’r nodau hyn sy’n cynnwys y themâu canlynol:
-
Atebolrwydd ac ymgysylltu â’r cyhoedd
-
Tryloywder ac esbonio sut gwneir penderfyniadau
-
Hyd y siarter
-
Bwrdd y BBC ac annibyniaeth ar y llywodraeth
1. Atebolrwydd ac ymgysylltu â’r cyhoedd
Mae’r BBC eisoes yn gwneud llawer i ddeall ac ymgysylltu â’r cyhoedd er mwyn llywio ei benderfyniadau. Rhan bwysig o sut mae’r BBC eisoes yn ymwneud â’r cyhoedd, ac yn ennyn ymddiriedaeth cynulleidfaoedd, yw gwrando ar yr hyn sydd gan bobl i’w ddweud drwy broses gwynion BBC yn Gyntaf a gyflwynwyd yn y Siarter bresennol. Mae’r broses hon yn caniatáu i gynulleidfaoedd fynegi eu barn yn uniongyrchol i’r BBC ac i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn y BBC glywed ac ymgysylltu â’r safbwyntiau hynny. Fe wnaeth Adolygiad Canol Tymor y BBC 2024 hefyd gyflwyno newidiadau sylweddol sy’n darparu mwy o graffu allanol ac annibynnol ar y ffordd mae’r BBC yn delio â chwynion.
Fel y rheoleiddiwr annibynnol, rhaid i Ofcom sicrhau bod proses BBC yn Gyntaf yn gweithio’n dda i gynulleidfaoedd. Roedd yr Adolygiad Canol Tymor hefyd yn argymell bod Ofcom yn gwella tryloywder ei benderfyniadau pan fydd y BBC wedi canfod ei fod wedi torri ei safonau golygyddol ei hun.
Ar ben hynny, mae’r BBC yn aml yn ymgynghori â’r cyhoedd wrth wneud penderfyniadau mawr, fel ymgynghoriad 2024 ar ganllawiau golygyddol y BBC. Mae’r BBC yn cynnal ymchwil helaeth ymysg cynulleidfaoedd drwy ddefnyddio arolygon a grwpiau ffocws i helpu i siapio penderfyniadau ar ddatblygu cynnwys a chomisiynu gwasanaethau, ac mae ei dîm Cynulleidfaoedd yn cynnal amrywiaeth o waith ymchwil a chasglu data parhaus i helpu i lywio penderfyniadau’r BBC. Yn yr un modd, mae wedi ymgymryd â darn mawr o waith ymgysylltu â’r cyhoedd yn ddiweddar ar ddyfodol y BBC ac mae wrthi’n cynnal ymarfer ymgysylltu â phobl ifanc ar gyfer y rheini rhwng 16 a 24 oed i helpu i lunio dyfodol ei wasanaethau.
Fodd bynnag, mae’n amlwg, gyda llai o ymgysylltu â’r BBC ac ymddiriedaeth ynddo, bod angen gwella ymgysylltiad y BBC â’r cyhoedd a’i atebolrwydd iddynt. Yn aml, nid yw’r gwaith a wneir yn cael ei hyrwyddo neu ei ddeall yn eang, gan gynnwys ymwybyddiaeth isel gan y cyhoedd o sut gallant gymryd rhan a chyfrannu eu barn. Mae angen i ymgysylltu ddigwydd mewn ffordd sy’n weladwy i gynulleidfaoedd, gan sicrhau bod pawb yn teimlo bod eu llais wedi cael ei glywed. Dylai’r wybodaeth hon lywio penderfyniadau strategol ar y gwasanaethau mae’n eu darparu, er enghraifft radio lleol, i sicrhau ei fod yn adlewyrchu barn cynulleidfaoedd.
Mae angen i ymgysylltu ddigwydd mewn ffordd sy’n weladwy i gynulleidfaoedd, gan sicrhau bod pawb yn teimlo bod eu llais wedi cael ei glywed
Felly, un o flaenoriaethau’r Adolygiad o’r Siarter yw meddwl yn greadigol am y ffordd orau o wella atebolrwydd drwy sicrhau bod y BBC yn ymgysylltu’n well â chynulleidfaoedd a bod ei benderfyniadau’n adlewyrchu’r hyn mae cynulleidfaoedd ei eisiau gan y BBC. Dylai hyn gynnwys penderfyniadau’r BBC ar lefel strategol, ehangach fel ar ei gynlluniau i ymgysylltu â phobl ifanc, ac ar y gwasanaethau y mae’n eu darparu, e.e. agor neu gau gorsafoedd radio.
Byddwn yn ystyried pa fathau o ymgysylltu a allai arwain y BBC i fod yn fwy ymatebol i’r cyhoedd a’i anghenion, gan helpu i sicrhau bod pobl yn teimlo bod ganddynt ran yn y sefydliad a’i ddyfodol. Byddwn yn ystyried a ddylai’r Siarter osod rhwymedigaethau cyffredinol ar y BBC i sefydlu ei fframweithiau ei hun i ymgysylltu â’r cyhoedd mewn ffordd fwy effeithiol ac arloesol. Byddai’r dull hwn yn rhoi hyblygrwydd i’r BBC benderfynu sut mae’n rhyngweithio ac yn ymgysylltu â’i gynulleidfaoedd, fel gwella rôl tîm Cynulleidfaoedd presennol y BBC neu greu fframweithiau ymgynghori newydd i gynrychioli safbwyntiau a lleisiau’r cyhoedd yn well, yn enwedig o safbwynt rhanbarthol a chenedlaethol. Byddwn hefyd yn ystyried gwerth mynnu’n fwy penodol bod y BBC yn dechrau defnyddio fforymau ymgynghori neu drafod eraill, fel cynulliadau dinasyddion, fel ffordd o wella lefel yr ymgysylltu rhwng y cyhoedd a’r BBC. Byddwn hefyd yn ystyried a oes angen gwneud unrhyw newidiadau i broses gwynion y BBC i sicrhau bod cynulleidfaoedd yn teimlo bod eu pryderon yn cael sylw.
Dylai’r lefel uwch hon o ymgysylltu arwain at fwy o bobl yn gallu rhannu eu barn yn uniongyrchol â’r BBC ac, yn y pen draw, arwain y BBC i wneud penderfyniadau sy’n wirioneddol adlewyrchu’r cynulleidfaoedd mae’n eu gwasanaethu.
Er bod yn rhaid iddo roi’r cyhoedd wrth galon yr hyn mae’n ei wneud, rydym yn glir bod yn rhaid i’r BBC barhau i fod yn gyfrifol am ei brosesau gwneud penderfyniadau yn y pen draw. Rhaid iddo gael yr hyblygrwydd i bennu cyfeiriad a dilyn strategaethau arloesol a blaengar. Rhaid i fframweithiau i wella ymatebolrwydd i gynulleidfaoedd beidio â hwyluso ymyrraeth gan fuddiannau breintiedig neu grwpiau gwleidyddol.
Fel rhan o’r broses o Adolygu’r Siarter, rydym yn ystyried:
-
pa fath o berthynas yr hoffai’r cyhoedd ei chael â’r BBC
-
sut gall y BBC ymgysylltu â’r cyhoedd yn well
-
y mathau o faterion lle dylai’r BBC geisio ymgysylltu â’r cyhoedd
Rydym yn bwriadu rhoi rhwymedigaethau newydd ar waith drwy’r Siarter a’r Cytundeb Fframwaith nesaf.
2. Tryloywder ac esbonio sut gwneir penderfyniadau
Mae tryloywder yn ddull allweddol o sicrhau bod y BBC yn gweithredu er budd gorau’r cyhoedd. Mae’n cefnogi ymddiriedaeth yn y BBC fel sefydliad ac yn caniatáu craffu ar ei benderfyniadau. O ystyried y swm sylweddol o arian cyhoeddus y mae’r BBC yn ei dderbyn, mae’n bwysig ei fod yn agored gyda’r rhai sy’n talu ffi’r drwydded. Mae tryloywder hefyd yn helpu staff y BBC ei hun i sicrhau bod arweinwyr y BBC yn mynd i’r afael â’r materion maent yn eu codi.
Ar hyn o bryd mae’r BBC yn cyhoeddi amrywiaeth eang o wybodaeth, fel manylion newidiadau arfaethedig yn ei wasanaethau a’i ymgynghoriadau cyhoeddus; dogfennau llywodraethu allweddol gan gynnwys y Cynllun Blynyddol a’r Adroddiad Blynyddol, cofnodion y bwrdd; a chyflogau a threuliau gweithredol.
Mae’r broses gwyno hefyd yn ffordd allweddol i’r BBC rannu gwybodaeth â’r cyhoedd. Canfu adroddiad 2024 Ofcom fod gwelliannau i broses gwynion BBC yn Gyntaf yn cyflawni’n dda i gynulleidfaoedd, yn enwedig o ran prydlondeb, eglurder a chysondeb ymatebion. Fodd bynnag, ystyriwyd bod diffyg tryloywder mewn lleiafrif o achosion, yn enwedig o ran egluro’r broses i’r rhai sy’n cyflwyno cwynion.[footnote 28] Yn yr un modd, canfu’r Adolygiad Canol Tymor y byddai rhanddeiliaid yn croesawu mwy o dryloywder ynghylch sut mae’r BBC yn gwneud penderfyniadau, yn enwedig newidiadau i wasanaethau a chwynion. Datgelodd ymchwil cynulleidfa ddiweddar y BBC ei hun fod cyfranogwyr, fel talwyr ffi’r drwydded, yn teimlo bod ganddynt hawl i wybodaeth sy’n cael ei rhannu mewn fformat sy’n haws ei ddefnyddio.[footnote 29]
Bu pryderon hefyd ynghylch y ffordd y mae’r BBC yn cyfleu newidiadau i wasanaethau. Er enghraifft, cafodd y newidiadau a wnaed i radio lleol a radio’r gwledydd a sianel BBC News yn 2023 eu beirniadu gan Ofcom fel rhai heb fanylion nac eglurder,[footnote 30] a chafodd y beirniadaethau hynny eu hailadrodd ledled y wlad, ac yn Nhŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi.
Bydd yr Adolygiad o’r Siarter yn ystyried y rhwymedigaethau ar y BBC i fod yn dryloyw, gan sicrhau bod y cyhoedd a staff y BBC ei hun yn gallu cael gafael ar y lefel briodol o wybodaeth glir am benderfyniadau’r BBC. Byddwn yn mynd ymhellach nag ystyried pa wybodaeth yn union y mae’n rhaid i’r BBC ei chyhoeddi, ac yn edrych ar sut gall y BBC gyfleu gwybodaeth bwysig am benderfyniadau a gwasanaethau’r sefydliad mewn ffordd gryno a chynhwysol. Gallai hyn gynnwys rhwymedigaethau i’r BBC rannu gwybodaeth sy’n bwysig i’r cyhoedd a’i staff ei hun, lle bo hynny’n berthnasol. Byddai hyn yn sicrhau bod y BBC yn ymateb i’w diddordebau, eu pryderon a’u cwestiynau. Byddwn yn dysgu gan sefydliadau o faint tebyg i’r BBC, yn enwedig sut maent yn defnyddio technoleg i gasglu adborth ac ysgogi ymgysylltiad, er mwyn cyfrannu at ein cynigion ar gyfer y BBC.
Dylai’r newidiadau hyn olygu bod y cyhoedd a staff y BBC yn fwy ymwybodol o sut a pham mae’r BBC yn gwneud penderfyniadau penodol, heb orfod mynd allan o’u ffordd i ddod o hyd i’r math hwn o wybodaeth. Byddai’n golygu bod cynulleidfaoedd yn cael deunydd difyr ac nad oes yn rhaid iddynt edrych ar gofnodion cyfarfodydd bwrdd nac adroddiadau blynyddol i ddeall beth sy’n digwydd y tu mewn i’r BBC.
3. Hyd y siarter
Y Siarter Frenhinol yw sail gyfansoddiadol y BBC ac mae’n nodi trefniadau llywodraethu a rheoleiddio’r BBC. Mae’r llywodraeth wedi ymrwymo i gadw’r Siarter fel y sail gyfansoddiadol briodol, gan ei bod yn taro’r cydbwysedd cywir rhwng annibyniaeth ac atebolrwydd. Mae’r Adolygiad o’r Siarter yn gyfle pwysig i’r BBC gael ei ddal yn atebol nid yn unig i’r llywodraeth ond hefyd i’r cyhoedd. Mae’r broses ymgynghori sy’n sail i’r Adolygiad o’r Siarter yn parhau i fod yn ffordd allweddol i’r cyhoedd allu cyfrannu eu safbwyntiau’n rheolaidd ar y BBC a’i ddyfodol. Nid ydym yn gweld unrhyw fudd o symud i fodel sy’n rhoi sail statudol i’r BBC fel Channel 4, ac rydym wedi ymrwymo i gynnal y BBC fel sefydliad cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus sy’n cael arian cyhoeddus.
…rydym wedi ymrwymo i gynnal y BBC fel sefydliad cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus sy’n cael ei ariannu gan y cyhoedd
Pan ddaw i ben, bydd y Siarter bresennol wedi bod mewn grym am un mlynedd ar ddeg. Mae cael Siarter am gyfnod penodol yn galluogi’r llywodraeth, y senedd a’r cyhoedd i ddal y BBC i gyfrif yn rheolaidd. Mae hyn yn arbennig o bwysig oherwydd arwyddocâd cenedlaethol y BBC a natur sector y cyfryngau sy’n esblygu’n gyflym, sy’n golygu bod angen cynnal adolygiadau rheolaidd i sicrhau nad yw’r BBC wedi’i gyfyngu’n ormodol, ei fod yn gallu addasu i unrhyw heriau newydd a bod ei strwythurau a’i rwymedigaethau’n adlewyrchu’r hyn y mae’r cyhoedd ei eisiau ganddo.
Fodd bynnag, mae sefydliadau eraill sydd â Siarteri ‘parhaol’, fel Banc Lloegr a Sefydliad Ffilm Prydain. Yn achos Banc Lloegr, mae deddfwriaeth sylfaenol sylweddol a manwl yn cyd-fynd â Siarter barhaol fer. Rydym hefyd yn cydnabod her model presennol y Siarter y byddai’r BBC yn dod i ben am hanner nos ar 31 Rhagfyr 2027 pe bai’r Siarter yn dod i ben heb gael ei disodli gan un arall.
Rydym yn deall y problemau a achosir gan y ffaith bod gan y Siarter ddyddiad gorffen penodol. Mae hyn yn cynnwys yr ansicrwydd y gall ei greu i’r BBC a’r cyfle y gall ei ddarparu ar gyfer ymyrraeth wleidyddol, fel y mae rhai sylwebyddion wedi awgrymu. Fodd bynnag, rydym hefyd yn credu bod angen cynnal adolygiadau rheolaidd o’r BBC fel sefydliad. Byddwn yn ystyried a fyddai diwygio hyd y Siarter sydd ar y gweill yn cefnogi gallu’r BBC i gynllunio a chreu ei strategaethau dros y tymor hir. Byddwn hefyd yn ystyried ffyrdd eraill o sicrhau bod y BBC yn cael mwy o sicrwydd ynghylch ei ddyfodol er mwyn iddo allu canolbwyntio ei sylw ar wasanaethu’r cyhoedd yn hytrach na phoeni am ei fodolaeth barhaus. Fel rhan o hyn, byddwn yn edrych ar opsiynau i sicrhau bod y BBC yn cael ei ddiogelu rhag ymyrraeth wleidyddol ar yr un pryd â bod yn atebol i’r cyhoedd y mae’n eu gwasanaethu. Wrth wneud hynny, byddwn yn sicrhau bod y Siarter yn cael ei graddnodi’n briodol er mwyn i’r BBC allu addasu i dueddiadau sy’n dod i’r amlwg ar yr un pryd â chael sicrwydd ynghylch ei ddyfodol.
4. Bwrdd y BBC ac atebolrwydd allanol
Mae cyfansoddiad a gweithrediad parhaus Bwrdd y BBC yn hanfodol i sicrhau atebolrwydd effeithiol yn y BBC gan ei fod yn gyfrifol am arfer holl swyddogaethau’r BBC yn effeithiol ac yn annibynnol. Mae hyn yn cynnwys sefydlu cyfeiriad strategol y BBC, pennu cyllideb y BBC ac amlinellu cylch gwaith creadigol allbwn a gwasanaethau golygyddol a chreadigol y BBC.
Dan y Siarter bresennol, mae’r llywodraeth yn gyfrifol am y broses o benodi pump o ddeg aelod anweithredol y bwrdd: y Cadeirydd a phedwar Aelod y Gwledydd, sy’n cynrychioli Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae aelodau eraill y bwrdd yn cael eu penodi’n uniongyrchol gan Fwrdd y BBC, yn annibynnol ar y llywodraeth. Mae’r Siarter yn nodi bod yn rhaid i benodiadau cyhoeddus i’r BBC fod yn unol â’r Cod Llywodraethiant ar Benodiadau Cyhoeddus. Cafodd cyfansoddiad y Bwrdd ei ddylunio dan y Siarter ddiwethaf i daro’r cydbwysedd cywir rhwng aelodau a benodir gan y llywodraeth a gan y BBC ei hun a byddwn yn ystyried a yw’r cyfansoddiad yn parhau’n gywir, gan gynnwys rôl a phenodi Aelodau’r Gwledydd.
O ran llywodraethiant yn ehangach, mae’n bwysig bod gan y BBC y strwythurau arwain cywir ar waith, gan gynnwys y prosesau i benodi a chael gwared ag aelodau’r bwrdd, a strwythur y Bwrdd ei hun.
Dan Siarteri blaenorol, roedd corff llywodraethu’r BBC wedi’i wahanu’n fwy oddi wrth reolaeth weithredol y BBC. Fe wnaeth y Siarter bresennol symud y BBC i fodel bwrdd unedol lle’r oedd swyddogion anweithredol a swyddogion gweithredol, gan gynnwys y Cadeirydd a’r Cyfarwyddwr Cyffredinol, yn eistedd gyda’i gilydd. Canfu’r Adolygiad Canol Tymor fod strwythur y bwrdd unedol wedi creu rolau a llinellau atebolrwydd clir, gan gefnogi diwylliant o herio adeiladol. Er bod rhai rhanddeiliaid wedi cadarnhau’r farn hon, rydym wedi clywed gan eraill sy’n credu bod model blaenorol yr Ymddiriedolaeth wedi sicrhau gwell atebolrwydd a goruchwyliaeth annibynnol.
O ystyried y newidiadau sylweddol a wnaed i lywodraethu yn yr Adolygiad diwethaf o’r Siarter, mae’n briodol ein bod yn adolygu strwythurau llywodraethu’r BBC ac yn ystyried unrhyw newidiadau a fyddai’n cynorthwyo cyflawni, yn cynnal annibyniaeth y BBC, ac yn gwella ei atebolrwydd a’i dryloywder. Mae un set o opsiynau’n cynnwys newid strwythur a phenodiadau i’r Bwrdd fel bod penderfyniadau’r Weithrediaeth yn destun mwy o graffu. Felly, byddwn yn ystyried cyfansoddiad cywir y Bwrdd i gefnogi annibyniaeth ac atebolrwydd. Gallai hyn gynnwys a ddylid newid rôl y llywodraeth wrth benodi aelodau’r bwrdd, gan gynnal annibyniaeth y BBC hefyd wrth benodi’r Cyfarwyddwr Cyffredinol ac aelodau presennol eraill o’r bwrdd. Mae’r llywodraeth hon wedi ymrwymo i sicrhau tryloywder a chraffu priodol yn y broses benodi er mwyn i’r cyhoedd wybod bod y gweithdrefnau priodol a chywir wedi cael eu dilyn.
Er mwyn gwella atebolrwydd a thryloywder Bwrdd y BBC ymhellach pan fydd yn weithredol, byddwn hefyd yn ystyried a ellid diffinio rolau, cyfrifoldebau a sgiliau’r Bwrdd a’i aelodau yn well er mwyn gwella eglurder ac atebolrwydd i’r cyhoedd ac i staff y BBC ei hun. Byddwn hefyd yn ystyried a yw’r BBC yn ddigon atebol i’r senedd wrth edrych ar ei drefniadau llywodraethu.
Er ei bod yn bosibl na fydd trefniadau llywodraethu’r BBC yn cael yr un sylw gan y cyhoedd â phenderfyniadau golygyddol neu gomisiynu’r BBC, mae’n hollbwysig gan ei fod yn atebol am holl weithgareddau’r BBC. Felly, mae angen i’r strwythurau llywodraethu cywir fod ar waith i alluogi’r BBC i gyflawni ei Genhadaeth a’i Ddibenion Cyhoeddus, a thrwy hynny wasanaethu pob cynulleidfa a phawb sy’n talu ffi’r drwydded.
Mae gwaith craffu allanol presennol, yn enwedig gan Ofcom a’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol, hefyd yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o ddal y BBC i gyfrif, a bydd angen i ni ystyried sut dylid rheoleiddio unrhyw ddarpariaethau newydd yn y Siarter.
Dan y Siarter bresennol, gwaith Ofcom yw dal y BBC i gyfrif am gyflawni ei Genhadaeth a hyrwyddo’r Dibenion Cyhoeddus ar ran cynulleidfaoedd a sicrhau safonau cynnwys yn rhaglenni’r BBC. Fel rhan o’r Adolygiad hwn o’r Siarter, byddwn yn ystyried sut mae camau rheoleiddio Ofcom yn cefnogi atebolrwydd, yn enwedig mewn perthynas ag ymgysylltiad y BBC â chynulleidfaoedd, ac a ddylai rôl Ofcom fynd ymhellach.
Y Swyddfa Archwilio Genedlaethol yw archwilydd y BBC, gyda chyfrifoldebau’n ymwneud ag adroddiadau ariannol, a bydd ei rôl o ran cefnogi atebolrwydd yn cael sylw pellach yn y penodau sy’n dilyn.
Adran 2: Diwylliant a safonau’r BBC
Y cyd-destun
Mae’r llywodraeth yn cydnabod safon uchel ac adroddiadau di-ofn staff y BBC a’r rhai sy’n gweithio gyda’r sefydliad ar ei gynnwys. Drwy’r Adolygiad o’r Siarter, rydym am sicrhau bod yr holl staff yn cael eu cefnogi’n briodol a bod eu lleisiau’n cael eu clywed.
Mewn sawl maes, mae’r BBC wedi arloesi o ran cynhwysiad y gweithlu a newid cymdeithasol. Mae ganddo hanes hir o ddarparu llwyfan ar gyfer arloeswyr mewn newyddiaduraeth, fel Barbara Blake Hannah a ddaeth y fenyw ddu gyntaf i fod yn ohebydd ar deledu Prydain yn 1968.
Mae’r BBC hefyd wedi bod yn effeithiol iawn o ran sbarduno gwelliannau cymdeithasol a gweithredol ar draws y sector. Er enghraifft, mae’r BBC wedi mynnu bod yr holl raglenni mae’n eu comisiynu o 2017 ymlaen yn defnyddio Cyfrifiannell Carbon Albert i olrhain allyriadau, ac o 2022 ymlaen, mae pob comisiwn newydd wedi gorfod cael ardystiad Albert. Mae wedi helpu i yrru Albert o’i ddatblygiad cynnar hyd heddiw, lle mae pob rhaglen sy’n cael ei gwneud yn y DU gan y BBC, ITV, Netflix a Sky yn cael ardystiad Albert. Mae’r BBC yn chwarae rôl arwain yn ehangach drwy weithredu fel canolbwynt ar gyfer trafodaeth ar draws sefydliadau’r cyfryngau ar gynnwys cynaliadwy, fel cynnull y Gynhadledd Climate Creatives.
Fodd bynnag, mae amrywiaeth o faterion sy’n ymwneud â diwylliant a pholisïau sefydliadol y BBC wedi bygwth ei enw da dros y blynyddoedd diwethaf, yn fwyaf arbennig cyhuddiadau o gamymddwyn ymysg staff, a arweiniodd y BBC i gomisiynu adolygiad annibynnol o ddiwylliant y gweithle, a lansio cynllun gweithredu ym mis Ebrill 2025 i fynd i’r afael â’r canfyddiadau.
Mae materion eraill hefyd wedi ennyn pryder y cyhoedd ac wedi codi cwestiynau am y safonau rydym yn eu disgwyl gan y darlledwr cenedlaethol a’i staff. Mae hyn wedi arwain at y BBC yn gwneud gwaith i fireinio ac egluro disgwyliadau staff ar gyfryngau cymdeithasol gan gynnwys ystyried sut mae hyn yn effeithio ar ganfyddiadau’r cyhoedd o ddidueddrwydd. Roedd y Siarter flaenorol hefyd yn gweithredu gofynion tryloywder newydd yn ymwneud â’r rhai yn ennill y cyflogau uchaf gan y BBC yn dilyn cwestiynau ynghylch sut mae arian cyhoeddus yn cael ei wario mewn ffordd sy’n dryloyw, yn deg ac yn sicrhau gwerth am arian.
Mae angen i’r BBC addasu’n rhagweithiol i ddisgwyliadau cynulleidfaoedd a staff ar y materion hyn, ac mae’n briodol bod yr Adolygiad o’r Siarter hefyd yn ystyried y materion eang hyn sy’n ymwneud â sut mae’r BBC yn gweithredu. Rhaid i ni asesu pa safonau rydym yn eu disgwyl gan ein darlledwr cenedlaethol, a sut gall y Siarter nesaf gefnogi’r BBC i gyrraedd y safonau hynny, a gwella ymddiriedaeth y cyhoedd a staff yn y sefydliad. Y tu hwnt i’w bolisïau mewnol, mae’r rôl unigryw a’r adnoddau a ddarperir i’r BBC hefyd yn golygu y dylai ymdrechu i fod yn esiampl ar gyfer safonau yn y sector. Byddwn yn ystyried beth yw’r ffordd orau i’r Siarter nesaf gefnogi’r BBC yn y rôl hon.
Yr achos dros newid
Mae diwylliant a pholisïau mewnol y BBC yn dylanwadu ar ei enw da a gallant gael effeithiau eang ar ymddiriedaeth y cyhoedd a’i staff yn y sefydliad. Roedd rhai o gyfranogwyr ymchwil Ofcom i ganfyddiadau’r cyhoedd o’r BBC yn codi sgandalau, fel camymddwyn staff, fel materion a oedd yn erydu eu hymddiriedaeth yn y sefydliad.[footnote 31] Er mwyn i’r BBC barhau i fod yn ddarlledwr dibynadwy, mae’n bwysig bod amgylchedd gwaith teg a chefnogol i’r holl staff, a bod ei bolisïau mewnol yn cynnal gwerthoedd allweddol o ran didueddrwydd a defnyddio arian cyhoeddus yn deg.
Ni waeth pa rôl mae pobl yn ei chwarae wrth weithio gyda’r BBC neu ar ei ran, rhaid iddynt fod yn ddiogel yn y gwaith a chael eu cefnogi i ffynnu yn yr hyn maent yn ei wneud. Mae ymchwiliadau a gomisiynwyd gan y BBC dros y blynyddoedd wedi datgelu methiannau mewn prosesau adrodd, a diffyg hyder gan staff y bydd materion yn cael eu cymryd o ddifrif. Yn fwyaf diweddar yn 2025, daeth yr adolygiad annibynnol o ddiwylliant y gweithle i’r casgliad bod y BBC wedi methu â mynd i’r afael â chamymddwyn gyda’r cysondeb, yr effeithiolrwydd a’r tryloywder y mae’r materion hyn yn gofyn amdanynt. Rydym yn croesawu’r ymrwymiad cyhoeddus a wnaed gan arweinwyr y BBC i weithredu ar gasgliadau’r adroddiad. Rhaid i’r cynllun gweithredu y maent wedi’i gyhoeddi gael ei roi ar waith yn ddi-oed.
Ni waeth pa rôl mae pobl yn ei chwarae wrth weithio gyda’r BBC neu ar ei ran, rhaid iddyn nhw fod yn ddiogel yn y gwaith a chael eu cefnogi i ffynnu yn yr hyn maen nhw’n ei wneud
Mae’r llywodraeth wedi bod yn glir yn ei chefnogaeth i Awdurdod Safonau Annibynnol y Diwydiannau Creadigol (CIISA), ac rydym yn gweithio gyda’r diwydiant i sicrhau bod cefnogaeth gref ar draws sectorau iddynt. Rydym yn falch o weld bod y BBC yn rhagweithiol yn eu cefnogaeth i CIISA, gan gynnwys eu bod yn mynd i fod yn arloeswr CIISA - gan brofi’r model yn ymarferol i sicrhau ei fod yn gweithio i bob rhan o’r diwydiannau creadigol, a darparu cymorth ariannol gwirfoddol iddo. Er nad yw CIISA yn weithredol eto, ei nod yw cynnal a gwella ymddygiad yn y gweithle ar draws y sector, gan ddarparu corff annibynnol ar gyfer adrodd ac ymchwilio i ymddygiad amhriodol, a mynd ati’n rhagweithiol i wella cydymffurfiad sefydliadol â safonau’r gweithle.
Er bod cefnogaeth gynnar y BBC i CIISA, gan gynnwys yr ymrwymiad diweddar i’r holl bartneriaid cynhyrchu teledu a’r rhai y mae’n contractio â nhw i fodloni safonau diwydiant CIISA, yn ddechrau gwych, rhaid i’r BBC barhau i ystyried sut gall ei weithredoedd gael sgil-effeithiau cadarnhaol y tu hwnt i’w gynyrchiadau ei hun. Yn yr Adolygiad o’r Siarter, bydd y llywodraeth yn ystyried sut gall y BBC ehangu ei rôl arwain, fel cefnogi mentrau traws-sector, a gwneud y defnydd gorau o’i ddylanwad i wella profiad pawb sy’n gweithio yn y sector. Gan barchu annibyniaeth weithredol y BBC, byddwn hefyd yn ystyried a oes angen darpariaethau eraill i wella diwylliant sefydliadol y BBC mewn ffordd sy’n gwella ymddiriedaeth yn y BBC, fel adolygu’r gofynion ar y BBC i sicrhau tryloywder o ran cyflogau.
Ein huchelgais
Dylai’r BBC osod y safon ar gyfer diwylliant ac amgylchedd y gweithle ar draws yr economi greadigol, er mwyn i gyflogeion, contractwyr a’r cyhoedd gael mwy o hyder yn y ffordd mae’r BBC yn delio â chamymddwyn yn y gweithle, ac felly yn y sefydliad drwyddo draw.
Mae hyn yn cynnwys mesurau i sicrhau’r canlynol:
-
Bod staff y BBC, a’r rhai sydd dan gontract gan drydydd partïon i gynhyrchu cynnwys ar gyfer y BBC, yn cael eu diogelu’n well yn y gwaith ac yn teimlo’n fwy abl i fynegi pryderon a bod ganddynt fwy o hyder y bydd y pryderon a godir yn cael eu cymryd o ddifrif.
-
Bod gan y BBC brosesau effeithiol ar waith i adrodd ac adolygu cwynion yn erbyn staff o bob rhan o’r BBC a chwmnïau cynhyrchu a gomisiynir gan y BBC, er mwyn gallu cynnal adolygiadau cynhwysfawr o ymddygiad a chymryd camau priodol.
-
O ystyried rôl allweddol y BBC yn yr economi greadigol, mae’n gweithredu fel model rôl ac yn gosod y safon ar gyfer gweddill y diwydiant, ac mae’n gweithio i rannu gwersi ac adnoddau â chyflogwyr tebyg eraill i gyfrannu at safonau gwell yn y gweithle ledled y wlad.
-
Mae polisïau mewnol y BBC yn sicrhau amrywiaeth yn ei weithlu ac yn cynnal ei werthoedd, yn ogystal â defnyddio arian cyhoeddus yn deg.
Opsiynau rydym yn eu hystyried
Rydym yn ystyried opsiynau i osod dyletswyddau penodol yn y Siarter nesaf yn ymwneud ag arferion gweithle’r BBC. Ar draws pob opsiwn, mae’n briodol bod arweinwyr y BBC yn gyfrifol am weithredu’r gofynion, ac am sbarduno gwelliannau ar draws y sefydliad a’r sector ehangach, a’n bod yn ystyried rôl rheoleiddwyr y BBC o ran gorfodi gofynion newydd.
Rydym yn ymgynghori ar amrywiaeth o opsiynau i gyflawni’r nodau hyn:
-
Ymddygiad yn y gweithle a chwynion, gan gynnwys sut mae’r BBC yn canoli cwynion mewnol, fel bod y rhai sy’n cael eu gwneud i drydydd partïon, e.e. cwmnïau cynhyrchu, yn cael eu hystyried yn gyfannol, a bod modd adnabod patrymau ymddygiad annerbyniol. Yn y gwaith hwn, byddwn yn ystyried sut gellir rheoleiddio unrhyw ofynion newydd yn effeithiol.
-
Rôl Bwrdd y BBC a’r arweinyddiaeth, gan gynnwys cyfrifoldebau newydd ar gyfer Bwrdd y BBC i sicrhau bod camau’n cael eu cymryd yn erbyn camymddwyn yn y gweithle, ac i adrodd ar y cynnydd.
-
Y BBC fel arweinydd yn y sector, fel dyletswyddau penodol ar y BBC i gefnogi gwelliannau ehangach yn y sector i hybu safonau diwylliant yn y gweithle.
-
Materion ehangach yn y gweithle, i sicrhau bod cyflogau staff yn deg ac yn dryloyw i’r cyhoedd, a bod polisïau ehangach y gweithle yn cynnal gwerthoedd y BBC.
1. Camymddwyn yn y gweithle a chwynion
Byddwn yn ystyried sut gall unrhyw ofynion newydd yn y Siarter adeiladu ar waith a chynnydd y BBC ei hun yn y maes hwn, gan gynnwys ar argymhellion yr adolygiad annibynnol o Ddiwylliant Gweithle’r BBC a gyhoeddwyd yn gynharach yn 2025.
Un maes a amlygwyd gan yr adolygiad ac a godwyd gyda ni gan randdeiliaid, yw bod arferion cyflogaeth cymhleth yn ei gwneud yn fwy anodd cymryd camau yn erbyn camymddwyn staff. Yn hanesyddol, ni fu cofnod canolog o gwynion a wnaed yn erbyn staff sy’n gweithio ar gynnwys y BBC, gan ei bod yn bosibl bod cwynion wedi cael eu codi i nifer o dimau yn y BBC neu i drydydd partïon a gomisiynwyd gan y BBC i wneud cynnwys. Mae hyn wedi atal patrymau ymddygiad annerbyniol a chamymddwyn rhag cael eu nodi a’u datrys. Felly, byddwn yn ymgynghori ynghylch a ddylai’r Siarter nesaf roi rhwymedigaethau penodol ar y BBC i fynd i’r afael â hyn, a sicrhau bod penderfyniadau staffio’n cael eu gwneud gyda darlun cyfannol o unrhyw gwynion blaenorol.
Yn gysylltiedig â gwaith ehangach ar atebolrwydd ac ymddiriedaeth, mae hefyd yn bwysig sicrhau bod polisïau a gweithredoedd gweithredol y BBC yn adlewyrchu safbwyntiau a disgwyliadau’r cyhoedd eu hunain. Yn enwedig lle mae perygl i bolisïau a phenderfyniadau beryglu ymddiriedaeth y cyhoedd yn y BBC.
2. Rôl Bwrdd y BBC a’r arweinyddiaeth
Mae arweinyddiaeth y BBC yn gyfrifol am gynnal ei pholisïau sefydliadol, yn ogystal â chefnogi a bod yn esiampl o ddiwylliant cefnogol yn y gweithle. Felly, byddwn yn ystyried a ddylai’r Siarter nodi disgwyliadau a chyfrifoldebau ychwanegol ar gyfer arweinyddiaeth y BBC, gan gynnwys y Cadeirydd a’r Uwch Swyddogion Gweithredol.
Gallai hyn bennu dyletswyddau neu gyfrifoldebau newydd ar gyfer Bwrdd y BBC yn y Siarter, ac yna gadael i’r Bwrdd ei hun benderfynu sut i’w cyflawni. Gallai opsiynau i fynd ymhellach a phennu cyfeiriad mwy penodol ar gyfer y BBC adeiladu ar y dyletswyddau newydd hynny gyda gofynion ychwanegol ar arweinyddiaeth y BBC i ddatblygu a chyhoeddi strategaethau neu gynlluniau gweithredu i fynd i’r afael â materion penodol sy’n ymwneud â safonau sefydliadol fel polisïau cyflog neu gyfryngau cymdeithasol, neu i benodi aelod o’r bwrdd i fod â chyfrifoldebau penodol i olrhain ac adrodd ar gynnydd. Dylai staff y BBC hefyd fod yn hyderus mewn unrhyw fecanweithiau sy’n eu galluogi i sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed a gallu cyfleu eu safbwyntiau i’r arweinyddiaeth, yn enwedig cyn i benderfyniadau pwysig gael eu gwneud.
Gallai opsiynau pellach i gefnogi diwylliant sefydliadol y BBC hefyd gynnwys ehangu cwmpas cyfrifoldebau pwyllgorau Bwrdd y BBC, fel y’u diffinnir yn y Siarter. Er enghraifft, byddwn yn adolygu cyfrifoldebau’r Pwyllgor Taliadau i asesu cyflogau uwch-aelodau staff, ac yn ystyried a ddylid rhoi cymaint o amlygrwydd i faterion eraill yn y gweithle o fewn strwythurau a thrafodaethau’r Pwyllgor.
3. Y BBC fel arweinydd yn y sector
Nid rheidrwydd moesol yn unig yw i’r BBC wneud hyn yn iawn i’w staff ei hun. Fel sefydliad cenedlaethol, gyda’i adnoddau sylweddol, ei rôl ganolog a’i ddylanwad yn yr economi greadigol, dylai barhau i geisio mynd y tu hwnt i’r safonau gofynnol, a mynd ati’n rhagweithiol i osod safon uchel i bob cyflogwr yn y sector. Canfu ymchwil ddiweddar gan CIISA fod diwylliant y gweithle yn broblem ar draws y Diwydiannau Creadigol gyda hanner y gweithwyr wedi dioddef gwahaniaethu, esgeulustod a/neu fwlio.[footnote 32] Canfuwyd hefyd fod bwlio’n fwy cyffredin yn y diwydiant teledu a ffilm nac yn rhannau eraill y sector.
Rydym yn bwriadu archwilio a ellid troi hyn yn rhwymedigaethau ffurfiol yn y Siarter i weithredu fel model rôl effeithiol, i yrru safonau a gweithredu fel cynullydd, a sut gellid gwneud hynny. Byddem hefyd yn ystyried sut gellid rheoleiddio unrhyw ofynion newydd yn effeithiol.
4. Materion ehangach yn y gweithle
Y tu hwnt i ddiwylliant y gweithle, mae meysydd eraill o bolisïau sefydliadol y BBC y byddwn yn eu hystyried fel rhan o’r Adolygiad o’r Siarter i sicrhau eu bod yn gweithredu mewn ffordd sy’n cefnogi ymddiriedaeth yn y sefydliad. Er enghraifft, arweiniodd y ffordd yr ymdriniwyd â defnydd staff o gyfryngau cymdeithasol a datblygu canllawiau newydd at drafodaeth gyhoeddus sylweddol ynghylch ymddiriedaeth y cyhoedd yn nidueddrwydd ei gynnwys, tra’n cydbwyso rhyddid mynegiant i staff ar yr un pryd.
Yn benodol, cyflwynodd yr Adolygiad diwethaf o’r Siarter ofyniad newydd ar y BBC i adrodd yn gyhoeddus ar gyflogau staff dros £150,000. Mae’r ffigur hwn bellach wedi codi i £178,000 ar ôl chwyddiant, ac mae’r rhestr yn denu sylw sylweddol yn y cyfryngau ac ymysg y cyhoedd. Mae pawb yn haeddu cael tâl teg am eu gwaith, ond yn ogystal ag ystyried a yw’r trothwyon adrodd ar gyflogau presennol yn ddigonol, mae angen i ni hefyd ystyried sut gall y rhai sy’n talu ffi’r drwydded gael y gwerth gorau am arian gan eu darlledwr cenedlaethol, gan gynnwys sicrhau bod cyflogau ar draws y BBC yn gymesur. Mae Pennod 4 yn edrych ar ystyriaethau ehangach o ran sut gall yr Adolygiad o’r Siarter gefnogi BBC effeithlon sy’n sicrhau gwerth am arian.
Dylai’r BBC hefyd barhau i wneud cynnydd o ran amrywio ei weithlu, a chymryd rôl arweiniol i annog mwy o gynrychiolaeth ar draws y sector ehangach. Yn ei Adroddiad Blynyddol diwethaf, dywedodd y BBC ei fod wedi codi ei dargedau cynrychiolaeth o 20% i 25% ar draws ethnigrwydd, anabledd ac amrywiaeth economaidd-gymdeithasol ar draws pob rôl cynhyrchu.[footnote 33] Bydd sut gall polisïau gweithle’r BBC gefnogi gwell cynrychiolaeth o gymunedau ar ac oddi ar y sgrin hefyd yn cael eu hystyried yn y bennod nesaf.
Pennod 2: Darparu gwasanaethau er budd y cyhoedd
Crynodeb
Mae’r BBC yn ffynhonnell hollbwysig o newyddion, gwybodaeth a diwylliant sy’n wynebu heriau sylweddol. Mae’r rhain yn cynnwys newidiadau sy’n wynebu pob darparwr cyfryngau o ran sut mae cynulleidfaoedd yn defnyddio cyfryngau a dirywiad yn ymddiriedaeth y cyhoedd. Mae’r bennod hon yn amlinellu sut mae’r llywodraeth yn bwriadu diogelu’r BBC at y dyfodol drwy’r Adolygiad hwn o’r Siarter, drwy wella ei alluoedd digidol, darparu gwrthbwynt i naratifau a thwyllwybodaeth ffug, a sicrhau bod ganddo’r safonau golygyddol uchaf ar waith i wneud yn siŵr ei fod yn ddibynadwy ac yn berthnasol i bob cynulleidfa.
Mae’r opsiynau sy’n cael eu hystyried dan yr Adolygiad o’r Siarter yn cynnwys:
-
Adeiladu ymddiriedaeth: Sicrhau bod cynnwys ac allbwn y BBC yn dilyn y safonau golygyddol uchaf, yn cael ei ystyried yn wir ac yn deg, a bod ei wasanaethau’n gallu mynd i’r afael yn effeithiol â chamwybodaeth a thwyllwybodaeth.
-
Adrodd stori genedlaethol: Sicrhau bod y BBC yn adlewyrchu ac yn cynrychioli pob cynulleidfa, gan greu mannau ar gyfer trafodaeth ddinesig iach a chefnogi cynhwysiant cymdeithasol, gan gynnwys hyrwyddo gwerthoedd democrataidd. Mae hyn hefyd yn cynnwys cefnogi cynaliadwyedd darlledu mewn ieithoedd lleiafrifol a chyfryngau lleol.
-
Arwain technoleg newydd: Grymuso’r BBC fel arweinydd ym maes technolegau digidol newydd gyda strategaethau i gynnal ei berthnasedd i gynulleidfaoedd modern.
Ffeithiau allweddol
-
Mae dros hanner oedolion y DU yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol ar gyfer newyddion, gan godi i dros 75% ar gyfer pobl ifanc 16 i 24 oed
-
Ers 2018, mae’r ymddiriedaeth gyffredinol yn newyddion y DU wedi gostwng 7 pwynt canran. Dros yr un cyfnod, mae ymddiriediaeth yn BBC News wedi gostwng 15 pwynt canran ac mae diffyg ymddiriedaeth wedi mwy na dyblu o 11% i 24%, er bod darparwyr eraill wedi gweld tueddiadau tebyg.
-
Mae dros ddwy ran o bump o oedolion yn y DU yn dod ar draws camwybodaeth neu ffugiadau dwfn
-
£700 miliwn yn ychwanegol i gael ei wario gan y BBC y tu allan i Lundain rhwng 2021 a 2028
-
55% o gynulleidfaoedd y DU yn teimlo bod cynnwys y BBC yn ‘cynnwys pobl fel fi’
Cyflwyniad
Mae’r BBC yn oleuni ar y bryn a’n hamddiffyniad gorau rhag erydu ymddiriedaeth yn ein cyfryngau a’n democratiaeth. Mae’n chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o addysgu a hysbysu’r cyhoedd, cyfoethogi bywyd diwylliannol, a dod â ni at ein gilydd fel cenedl i hyrwyddo cydlyniant cymdeithasol. Mewn oes lle mae ymddiriedaeth yn gwegian a llinellau’n mynd yn beryglus o niwlog rhwng ffaith, barn, newyddion a pholemig, saif y BBC ar wahân.
Fel y nodir yn y cyflwyniad, mae newid mewn arferion defnyddio, sy’n cael ei sbarduno gan dechnolegau digidol, yn peri heriau sylweddol i gyfryngau traddodiadol. Drwy gydol ei hanes, mae’r BBC wedi dangos ei allu nid yn unig i symud gyda’r oes, ond i’w siapio fel sefydliad sydd wrth galon ein hecosystem cyfryngau ehangach. Gydag egwyddorion Reith, sef hysbysu, addysgu a diddanu wrth ei wraidd, rhaid i’r BBC barhau i gyrraedd a denu cynulleidfaoedd mewn oes o lwyfannau a gosod esiampl o sut beth yw ymgysylltu dinesig iach. Boed hynny drwy ddigwyddiadau fel y sylw a roddodd i ddathliadau diwrnod VE, neu drwy gyrraedd cynulleidfaoedd newydd, iau a chael degau o filiynau o wylwyr ar TikTok, rydym am i’r BBC barhau i fod wrth galon y sgwrs genedlaethol. Rydym yn benderfynol o sicrhau bod y BBC yn parhau i fod yn berthnasol i gynulleidfaoedd a’n bod yn teimlo cysylltiad dwfn â’n darlledwr cenedlaethol. Rhaid iddo allu ennyn ymddiriedaeth y cyhoedd, darparu adroddiadau gonest, cywir a di-ofn sy’n dal grym i gyfrif, am y degawd nesaf, a llawer mwy i ddod.
Yr achos o blaid newid
Bydd y llywodraeth yn gweithio gyda’r BBC ac yn ei rymuso i sicrhau ei fod yn ‘addas ar gyfer y dyfodol’ drwy’r Siarter hon. Mae hyn yn golygu gwella galluoedd digidol y BBC, mynd i’r afael â chamwybodaeth, sicrhau ei fod yn berthnasol i bob cynulleidfa a bod pob cynulleidfa yn ymddiried ynddo, a gwreiddio cynhwysiad digidol er mwyn i bawb allu elwa o’i wasanaethau. Ar yr un pryd, rydym yn cydnabod bod yn rhaid iddo gael digon o hyblygrwydd er mwyn ffynnu mewn byd sy’n newid yn gyson.
Mae ein polisi yn canolbwyntio ar gefnogi’r BBC i ddarparu gwerth cyhoeddus parhaus
-
Sicrhau bod y BBC yn darparu newyddion a gwybodaeth ddibynadwy, drwy sicrhau bod ganddo’r safonau golygyddol uchaf, eu bod yn cael eu rhoi ar waith yn gyson, a bod atebolrwydd golygyddol priodol, gan gynnwys pan fydd pethau’n mynd o chwith.
-
Cefnogi rôl y BBC o ran mynd i’r afael â thwyllwybodaeth yn lleol ac yn genedlaethol, hyrwyddo a gosod gwerthoedd democrataidd a chydlyniant cymdeithasol yn eu cyd-destun yn y DU ac yn rhyngwladol, gan gefnogi pŵer meddal a diogelwch y DU, gan gynnwys drwy’r World Service.
-
Archwilio sut gall y BBC adrodd stori genedlaethol sy’n uno ac sy’n ymateb i holl gymunedau’r DU, ar yr un pryd â chynrychioli a diogelu gwahanol hunaniaethau diwylliannol ar draws gwledydd a rhanbarthau’r DU. Byddwn hefyd yn ystyried sut gall y BBC barhau i chwarae rhan sylfaenol yn y gwaith o gefnogi ecosystem ehangach y cyfryngau a defnyddio ei gyllid cyhoeddus yn y ffordd orau i ddarparu’r cynnwys a’r gwasanaethau y mae ar gynulleidfaoedd eu heisiau, yn enwedig lle nad yw’r farchnad yn darparu’r rhain.
-
Sicrhau bod y BBC yn gallu hyrwyddo technoleg er budd y cyhoedd, defnyddio llwyfannau ar-lein newydd yn effeithiol a defnyddio ei wasanaethau digidol ei hun i gyflawni ei gylch gwaith gwasanaeth cyhoeddus.
Adran 1: Newyddion dibynadwy a chywir
Y cyd-destun
Mae’r Siarter bresennol yn rhoi’r cyfrifoldeb dros ddarparu gwybodaeth ddibynadwy wrth galon y BBC. Cenhadaeth gyffredinol y BBC yw:
‘gweithredu er budd y cyhoedd, gan wasanaethu pob cynulleidfa drwy ddarparu allbynnau a gwasanaethau diduedd, unigryw o ansawdd uchel sy’n hysbysu, yn addysgu ac yn diddanu’
Mae hefyd yn nodi dau ddiben ar gyfer y cyhoedd, gan fanylu ar ei ymrwymiad i ddarparu newyddion dibynadwy yn y DU ac yn fyd-eang:
Diben Cyhoeddus 1 - Darparu newyddion a gwybodaeth ddiduedd i helpu pobl i ddeall ac ymgysylltu â’r byd o’u cwmpas.
Diben Cyhoeddus 5 - Adlewyrchu’r Deyrnas Unedig, ei diwylliant a’i gwerthoedd i’r byd.
Cyfrifoldeb Ofcom, fel rheoleiddiwr annibynnol y BBC yw dal Gwasanaethau Cyhoeddus y BBC yn y DU i gyfrif o ran sut maent yn cyflawni eu Cenhadaeth ac yn hyrwyddo Dibenion Cyhoeddus y BBC. Mae’r oruchwyliaeth hon yn sicrhau bod rhywfaint o gynnwys penodol yn cydymffurfio â’r Cod Darlledu, bod cwynion cynulleidfaoedd yn cael eu hymchwilio a bod adroddiadau blynyddol yn cael eu cynhyrchu ar berfformiad y BBC yn erbyn pob un o’i gyfrifoldebau. Mae’r gwaith hwn yn diogelu hyder y cyhoedd yn ymrwymiad y BBC i newyddiaduraeth ddibynadwy y gellir ymddiried ynddi.

Yr achos dros newid
Mae newyddion dibynadwy a chywir bob amser yn flaenoriaeth i gynulleidfaoedd. Mae ymchwil Ipsos yn adlewyrchu hyn, ac yn adrodd bod 72% o oedolion y DU yn teimlo bod BBC News yn werthfawr iddynt hwy yn bersonol, ac mae 77% yn teimlo ei fod yn werthfawr i gymdeithas y DU drwyddi draw.[footnote 34] Mae camgymeriadau mewn penderfyniadau golygyddol a ddaeth i’r amlwg yn ddiweddar wedi dangos pam ein bod yn dal y BBC i’r safonau uchaf - oherwydd ei fod yn beth mor bwysig. Y BBC yw’r ffynhonnell newyddion sy’n cael ei defnyddio amlaf o hyd ac mae’n dal i fod y ffynhonnell newyddion mwyaf dibynadwy yn y DU.[footnote 35] Fodd bynnag, mae ymddiriedaeth ar draws pob sefydliad a chorff newyddion yn dirywio. Mae data Sefydliad Reuters yn dangos bod cyfran yr ymatebwyr yn y DU sy’n ymddiried yn y ‘rhan fwyaf o newyddion y rhan fwyaf o’r amser’ rhwng 2018 a 2025 wedi gostwng 7 pwynt canran.[footnote 36] Dros yr un cyfnod, roedd y gyfran sy’n ymddiried yn BBC News wedi gostwng 15 pwynt canran, ac roedd y gyfran sydd â diffyg ymddiriedaeth yn ei wasanaeth wedi mwy na dyblu.[footnote 37]
-
72% o oedolion y DU yn teimlo bod BBC News yn werthfawr iddyn nhw’n bersonol
-
77% yn teimlo ei fod yn werthfawr i gymdeithas y DU drwyddi draw
Mewn byd mwy polareiddiedig, mae cynrychiolaeth y BBC o’r DU, y byd ehangach, a’i bwysoliad o safbwyntiau gwahanol, i gyd wedi dod o dan fwy o graffu. Bu cyhuddiadau yn erbyn y BBC o ragfarn systemig, ond mae’r llywodraeth yn gwrthod yr honiadau hyn. Mae’r BBC yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o ddal drych i gymdeithas ac i lywodraethau o bob lliw gwleidyddol. Er nad yw sgyrsiau ynghylch a yw’r BBC yn cyflawni ei rwymedigaethau ar ddidueddrwydd yn newydd, mae’r heriau sy’n wynebu sefydliadau newyddion yn newydd. Mae’r rhyngrwyd a’r cynnydd parhaus yn y cyfryngau cymdeithasol wedi golygu bod cynnal ymgysylltiad ac ymddiriedaeth cynulleidfaoedd yn fwy heriol nag erioed o’r blaen. Mae dros hanner oedolion y DU nawr yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol i gael newyddion, gan godi i dros 75% ymysg pobl ifanc 16 i 24 oed.[footnote 38] Mae’r doreth hon o ffynonellau newyddion yn dod â manteision fel mynediad cyflymach at newyddion sy’n torri ac amrywiaeth ehangach o straeon. Fodd bynnag, mae ymddiriedaeth pobl yn y llwyfannau perthnasol yn is ar gyfer defnyddwyr cyfryngau cymdeithasol rheolaidd na defnyddwyr darparwyr newyddion traddodiadol rheolaidd (teledu, print a radio)[footnote 39] sy’n cyfrannu at ddirywiad ehangach mewn ymddiriedaeth.
Mae’r tueddiadau hyn wedi cyd-daro â chynnydd cyflym mewn camwybodaeth ar-lein (dosbarthu gwybodaeth ffug yn anfwriadol), twyllwybodaeth (rhannu gwybodaeth ffug yn fwriadol) ac effeithiau cymhleth deallusrwydd artiffisial ar gynnwys. Mae’r rhain yn cael eu cydnabod yn y Strategaeth Diogelwch Gwladol fel bygythiad i gydlyniant cymdeithasol y DU. Gall cynulleidfaoedd ei chael hi’n anodd gwybod beth i ymddiried ynddo, a gall camwybodaeth ddylanwadu ar farn y cyhoedd, dylanwadu ar ymddygiad pleidleisio unigolion a chreu aflonyddwch gwleidyddol.[footnote 40] Roedd gwybodaeth ffug a ledaenwyd ar ôl ymosodiad Southport ym mis Gorffennaf 2024 wedi helpu i sbarduno terfysgoedd dilynol ledled y wlad. Mae mentrau ymwybyddiaeth o’r cyfryngau, sydd â’r nod o helpu unigolion i ddeall, gwerthuso a meddwl yn feirniadol am wybodaeth, fel BBC Verify a rhannau o BBC Bitesize yn ceisio mynd i’r afael â’r broblem hon, ond mae’r holl dystiolaeth yn dangos bod hon yn her gynyddol. Mae dros ddwy ran o bump o oedolion y DU eisoes yn dweud eu bod yn dod ar draws camwybodaeth neu ffugiadau dwfn, ac mae naw o bob deg o’r rhai sy’n dod ar draws camwybodaeth yn dweud eu bod yn poeni am ei heffaith ar gymdeithas.[footnote 41]
BBC Verify
Nod BBC Verify yw gwirio ffeithiau ffynonellau, dilysu deunydd fideo, a dadansoddi data i ddilysu gwybodaeth ac egluro sut mae straeon newyddion cymhleth yn cael eu cynhyrchu. Mae’n cynnwys 60 o newyddiadurwyr, ac mae’n defnyddio gwybodaeth ffynhonnell agored a sgiliau ymchwilio fforensig i ddarparu tryloywder ynghylch sut mae newyddion yn cael ei greu. Yn ôl Ofcom, BBC Verify yw’r wefan gwirio ffeithiau sy’n cael ei defnyddio amlaf gan oedolion yn y DU, ac mae apêl eang i’w dadansoddiadau clir.[footnote 42]
Yn rhyngwladol, camwybodaeth a thwyllwybodaeth yw prif risg tymor byr Fforwm Economaidd y Byd.[footnote 43] Mae’r BBC yn chwarae rhan ddylanwadol yn helpu i fynd i’r afael â’r bygythiad hwn ledled byd. Mae twyllwybodaeth a chamwybodaeth gan wladwriaethau gelyniaethus a gweithredwyr mileinig yn her gynyddol, ac mae rôl y BBC fel ffynhonnell ddibynadwy o wybodaeth wedi dod yn fwyfwy hanfodol. Mae BBC World Service yn cynrychioli dros ddwy ran o dair (69%) o gyrhaeddiad byd-eang y BBC yn ei gyfanrwydd,[footnote 44] gan gynnwys 64 miliwn o bobl mewn 20 o’r gwladwriaethau mwyaf bregus yn fyd-eang.[footnote 45] Gyda’i gyrhaeddiad byd-eang heb ei ail, mae BBC World Service yn chwarae rhan unigryw yn y gwaith o arddangos diwylliant a gwerthoedd y DU, gan gynnwys rhyddid mynegiant, rhyddid y cyfryngau a democratiaeth. Mae hyn yn helpu i wella statws a dylanwad rhyngwladol y DU, ac mae’n cyfrannu at ein nodau o ran twf, diogelwch a phŵer meddal.
Ein huchelgais
Ein huchelgais yw sicrhau bod y rôl hanfodol y mae’r BBC wedi’i chwarae o ran hysbysu ac addysgu’r cyhoedd ers dros ganrif yn gallu parhau. BBC sy’n grymuso cynulleidfaoedd i wahaniaethu rhwng cynnwys newyddion a pholemig, cynnwys camarweiniol neu ffug, sydd â’r adnoddau sydd eu hangen arno i gefnogi amgylchedd gwybodaeth iach. Un lle mae mwy o bobl yn gallu cael gafael ar newyddion diduedd, cywir a dibynadwy gan y BBC, er mwyn cefnogi dadl ddemocrataidd iach a hybu cydlyniant cymdeithasol, ledled y DU a ledled y byd. Nid rôl y llywodraeth yw cymryd rhan mewn penderfyniadau golygyddol na dweud wrth unrhyw ddarparwr cyfryngau, gan gynnwys y BBC, beth y gallant neu na allant ei ddweud. Fodd bynnag, er mwyn sicrhau bod y BBC yn parhau i wasanaethu cynulleidfaoedd, mae’n bwysig sicrhau bod ganddo’r strwythurau cywir ar waith a chanllawiau golygyddol cadarn i gyd-fynd â nhw. Felly, bydd yr Adolygiad hwn o’r Siarter yn cefnogi’r BBC i barhau i ddarparu gwasanaeth newyddion sy’n gallu addasu a diwallu heriau’r 21ain ganrif yn uniongyrchol, gan fynd ar drywydd mesurau sy’n arwain at y canlynol:
-
BBC News dibynadwy a pherthnasol sy’n seiliedig ar safonau golygyddol clir, cadarn a thryloyw sy’n cael eu defnyddio’n gyson; atebolrwydd priodol mewn penderfyniadau golygyddol; yn ogystal â newyddiaduraeth o ansawdd uchel sy’n ymdrin ag amrywiaeth eang o bynciau ac yn cyrraedd cynulleidfaoedd ehangach
-
BBC diduedd, sy’n canolbwyntio ar wirionedd a chywirdeb, gartref ac wrth wasanaethu cynulleidfaoedd ledled y byd, yn enwedig drwy BBC World Service dibynadwy
-
BBC sy’n cefnogi, sydd â’r adnoddau i gryfhau, ac sy’n gyrru amgylchedd newyddion dibynadwy yn ehangach - gan chwarae rhan yn y gwaith o fynd i’r afael â chamwybodaeth, twyllwybodaeth a chefnogi ymdrechion ymwybyddiaeth o’r cyfryngau
-
BBC sy’n darparu dealltwriaeth gywir o faterion rhyngwladol ac sy’n hyrwyddo statws a gwerthoedd rhyngwladol y DU
BBC sy’n grymuso cynulleidfaoedd i wahaniaethu rhwng cynnwys newyddion a pholemig, cynnwys camarweiniol neu ffug, sydd â’r adnoddau sydd eu hangen arno i gefnogi amgylchedd gwybodaeth iach
Mae’r uchelgais hon yn cyd-fynd â gwaith ehangach y llywodraeth ar ymwybyddiaeth o’r cyfryngau, camwybodaeth a chydlyniant cymdeithasol. Gan barchu annibyniaeth y BBC, byddwn yn gweithio’n agos gyda’r Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg a’r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol a’r Adran Addysg i ddeall sut gall gwaith y BBC ddarparu arweinyddiaeth a hwyluso cydweithio yn y meysydd hyn.
Opsiynau rydym yn eu hystyried
Rydym yn ystyried opsiynau yn y ddau faes isod:
-
BBC News dibynadwy, cywir a diduedd.
-
Mynd i’r afael â chamwybodaeth a thwyllwybodaeth, a gwella ymwybyddiaeth o’r cyfryngau.
Mae ymchwil yn dangos, pan fydd pobl yn defnyddio cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus ar gyfer newyddion, y gall arwain at ganlyniadau cymdeithasol cadarnhaol sy’n hanfodol i’w cyfranogiad mewn democratiaeth a bywyd cyhoeddus ehangach.[footnote 46] Mae cynulleidfaoedd o’r farm mai darparu newyddion cywir, newyddion diduedd a mynd i’r afael â chamwybodaeth a thwyllwybodaeth yw’r tri pheth pwysicaf i BBC News ganolbwyntio arnynt dros y deng mlynedd nesaf,[footnote 47] a bydd ein dull o ddatblygu polisïau yn canolbwyntio ar hyn.
Mae cynulleidfaoedd o’r farn mai darparu newyddion cywir, newyddion diduedd a mynd i’r afael â chamwybodaeth a thwyllwybodaeth yw’r tri pheth pwysicaf i BBC News ganolbwyntio arnynt dros y deng mlynedd nesaf
1. BBC News dibynadwy, cywir a diduedd
Byddwn yn sicrhau bod ymddiriedaeth yn parhau i fod yn ganolog i’r BBC a’i ddarpariaeth newyddion, gan adlewyrchu’r farn mai esblygiad, nid chwyldro BBC News yw’r llwybr iawn ar gyfer y dyfodol i’r cyhoedd.[footnote 48] Nid yw gwirionedd yn niwtral ac nid yw didueddrwydd dyladwy yn golygu rhoi’r un pwysau ar bob llais. Rhaid i’r BBC gydbwyso ei gyfrifoldeb dros gywirdeb dyladwy a didueddrwydd dyladwy yn unol â hynny. Rhaid i’r cyhoedd fod â hyder ac ymddiriedaeth yn safonau golygyddol ac adroddiadau’r BBC, gan arfogi pobl â’r ffeithiau sydd eu hangen arnynt i ganiatáu trafodaeth wâr am ddyfodol ein gwlad, pa ddewisiadau bynnag a wnânt wedyn gyda’r wybodaeth honno.
Byddwn hefyd yn canolbwyntio ar sicrhau bod y BBC yn agored, yn dryloyw ac yn glir o ran sut mae newyddion yn cael ei greu, ei gynhyrchu a’i gyflwyno. Mae hyn yn golygu y gall y cyhoedd weld eu hunain yn ei gynnwys a sicrhau ei fod yn adlewyrchu’r straeon sy’n wirioneddol bwysig iddynt. Felly, rydym yn ymgynghori ar amrywiaeth o opsiynau, gan gynnwys:
-
Diweddaru Cenhadaeth a Dibenion Cyhoeddus y BBC i roi’r un pwysigrwydd i gywirdeb ochr yn ochr â didueddrwydd wrth ddarparu ei newyddion, ei gynnwys a’i wasanaethau. Byddwn yn ystyried a allai rhagor o rwymedigaethau ar Ofcom a’r BBC i adrodd ar gywirdeb gynyddu hyder y cyhoedd yn y sylw a roddir i bynciau dadleuol.
-
Gwella tryloywder wrth wneud penderfyniadau i egluro sut mae darpariaeth yn esblygu, a’r prosesau newyddiadurol sy’n cael eu cynnal, yn enwedig yng nghamau cynharach digwyddiadau proffil uchel (e.e. pandemig COVID-19). Byddwn hefyd yn ystyried sut gall y BBC sicrhau ei fod yn dryloyw gyda’i gynulleidfaoedd pan fydd camgymeriadau’n cael eu gwneud, a sut maent yn cael eu datrys.
-
Yn unol â gwaith ehangach ar atebolrwydd a bod yn gynrychioladol i gynulleidfaoedd, ystyried y ffordd orau i’r BBC ymgysylltu â chynulleidfaoedd yn rheolaidd i sicrhau bod ei allbwn newyddion yn ddibynadwy ac yn berthnasol, yn enwedig drwy ddeall sut mae sicrhau bod y sylw’n hygyrch ac yn adlewyrchu’r cyhoedd.
-
Ystyried sut mae safonau golygyddol cadarn wedi’u gwreiddio a sut gall atebolrwydd gefnogi eu cynnal orau, ar yr un pryd â sicrhau annibyniaeth y BBC ar benderfyniadau golygyddol, heb ymyrraeth wleidyddol.
2. Cefnogi amgylchedd gwybodaeth iach, gan gynnwys drwy fynd i’r afael â chamwybodaeth a thwyllwybodaeth, a gwella ymwybyddiaeth o’r cyfryngau
Mae gwaith rhagweithiol y BBC o ran cefnogi ymwybyddiaeth o’r cyfryngau a darparu gwrthbwynt i gamwybodaeth a thwyllwybodaeth eisoes yn cael effeithiau cadarnhaol. Mae Newsround yn cyrraedd 3.4 miliwn o blant 7 i 11 oed bob wythnos mewn ysgolion, gan helpu pobl ifanc i ennill sgiliau meddwl beirniadol hanfodol am newyddion a’r byd o’u cwmpas.[footnote 49]
Wrth i’r maes hwn esblygu, mae arnom eisiau deall:
-
beth allai rôl, graddfa a chwmpas y BBC fod
-
sut gall gryfhau gwaith a wneir gan eraill
-
sut gallwn ni ei rymuso i arwain drwy esiampl mewn ffordd sy’n atgyfnerthu perthnasedd y BBC, ac sy’n cefnogi ecosystem cyfryngau iach ac yn helpu i hyrwyddo gwerthoedd democrataidd
Mae’r cyhoedd yn aml yn troi at y BBC am wybodaeth gywir ar adegau o argyfwng. Ein nod yw sicrhau bod pawb yn teimlo’n hyderus i ymddiried yn yr wybodaeth maent yn dod o hyd iddi gan y BBC.
Mae hefyd yn hanfodol bod BBC World Service yn gallu darparu newyddion diduedd a chywir o ansawdd uchel. Y BBC yw brand newyddion mwyaf dibynadwy’r byd ac mae defnyddwyr newyddion y BBC ledled y byd 22% yn fwy tebygol o gefnogi gwasg rydd a 27% yn fwy tebygol o ffafrio democratiaeth.[footnote 50] Ein huchelgais yw i weithrediadau newyddion rhyngwladol y BBC a BBC World Service ddarparu gwrthbwynt i gamwybodaeth a thwyllwybodaeth, gan ddarparu newyddion a gwybodaeth amserol a diduedd mewn cyfnodau o argyfwng a gwrthdaro, cefnogi dealltwriaeth gywir o faterion rhyngwladol, a chyfrannu at ymwybyddiaeth fyd-eang o ddiwylliant a gwerthoedd y DU. Felly, rydym yn ystyried amrywiaeth o opsiynau, yn enwedig:
-
gwerthuso a ddylai’r BBC gael dyletswyddau ffurfiol, wedi’u rheoleiddio i fynd i’r afael â chamwybodaeth a thwyllwybodaeth a chefnogi ymwybyddiaeth o’r cyfryngau yn y DU, i sicrhau bod y BBC yn cael ei ddal i’r safonau uchaf wrth gefnogi’r ymdrechion hyn
-
archwilio sut gall y BBC weithio gyda sefydliadau eraill sy’n gweithio yn y maes hwn, pa rôl y dylai ei chwarae (h.y. cynullydd, partner, arweinydd, neu rywbeth arall) a pha gyfarwyddyd y dylid ei roi iddo i’w gefnogi i ymgymryd â’r rôl honno
-
edrych ar dryloywder a goruchwyliaeth BBC World Service
-
archwilio sut gallai’r BBC sicrhau’r manteision gorau posibl i’r cyhoedd drwy ystyried ei ddull strategol o ymdrin â’i waith rhyngwladol
Adran 2: Adrodd stori genedlaethol; cynrychioli a gwasanaethu pob cymuned
Y cyd-destun
Diben Cyhoeddus diffiniol i’r BBC yn y Siarter bresennol yw bod yn rhaid iddo “adlewyrchu, cynrychioli a gwasanaethu cymunedau amrywiol holl wledydd a rhanbarthau’r Deyrnas Unedig”. Mae cyflawni’r rhwymedigaeth hon yn llwyddiannus, ar draws y DU i gyd, yn angenrheidiol os yw’r BBC am gynnal ymddiriedaeth cynulleidfaoedd a’i berthnasedd iddynt. Mae tegwch a chynrychiolaeth yn ffactorau hollbwysig o ran ymddiriedaeth mewn sefydliadau cyhoeddus, yn enwedig darlledwyr.[footnote 51]
I lawer, mae’r BBC eisoes yn darparu cynnwys ac eiliadau teledu a rennir sy’n eu cynrychioli, mewn ffordd nas cyflawnwyd gan ddarlledwyr eraill. Mae cefnogaeth i Ddarlledu mewn Ieithoedd Lleiafrifol wedi arwain at sioeau fel The Island gan MG ALBA a Cynefin gan S4C - cynnwys sy’n parhau i gynrychioli cymunedau lleol ac ieithoedd lleiafrifol ledled y DU.
Yn yr un modd, mae’r diben cyhoeddus hwn wedi golygu bod y BBC wedi gallu adlewyrchu’n unigryw yr amrywiaeth o leisiau a safbwyntiau gwahanol o bob cwr o’r DU yn ei gynnwys darlledu ac ar-alw. Am lawer o’i hanes, mae’r BBC wedi gweithredu fel sgwâr y dref lle rydym yn dod ynghyd ac yn dysgu am ein gilydd a’r byd o’n cwmpas. Mae sioeau sydd wedi ennill gwobrau BAFTA fel Blue Planet wedi addysgu cynulleidfaoedd am y bygythiadau i’n byd naturiol ac wedi llywio cyd-ddealltwriaeth o bwysigrwydd diogelu adnoddau’r Ddaear. Tra bo rhaglenni eraill fel Sitting in Limbo a Miner’s Strike: A Frontline Story yn adrodd straeon go iawn a phwysig am Sgandal Windrush y DU a Streic y Glowyr 1984, gan alluogi’r wlad i ddeall bod effeithiau’r digwyddiadau hynny’n dal i gael eu teimlo heddiw.
Am lawer o’i hanes, mae’r BBC wedi gweithredu fel sgwâr y dref lle rydym yn dod ynghyd ac yn dysgu am ein gilydd a’r byd o’n cwmpas
Mae timau Teledu, Ar-lein a Radio Lleol y BBC wedi tywys cynulleidfaoedd drwy ddigwyddiadau chwaraeon enfawr, o ddyrchafiad Ipswich Town yn 2024 i Newcastle United yn ennill Cwpan Carabao - y tro cyntaf i’r clwb ennill cwpan fawr mewn 70 o flynyddoedd. Ar y llwyfan rhyngwladol, daeth y BBC â straeon a llwyddiannau i’n sylw am athletwyr o bob gwlad a oedd yn rhan o Dîm Prydain Fawr yng Ngemau Olympaidd Paris, a chaniatáu i gefnogwyr ddilyn ymgyrchoedd cyffrous Gemau Rhagbrofol Cwpan y Byd dynion Cymru, Gogledd Iwerddon a’r Alban.
Fodd bynnag, mae darnio a phersonoli newyddion ac adloniant yn golygu bod prinder dybryd o fannau ac eiliadau cyffredin. Er mai’r BBC yw’r gwasanaeth y mae’r cyhoedd yn y DU yn ei ddefnyddio’n fwy nag unrhyw un arall o hyd, rhaid iddo barhau i arloesi yn ei ddull o ymdrin â chyfryngau ar-lein a newydd os yw am siapio sgwrs genedlaethol gynhwysol.
Ers 2021, mae’r BBC wedi gweithio i gyflawni’r Diben Cyhoeddus hwn drwy ei raglen Across the UK. Mae adroddiad blynyddol y BBC yn dangos ei fod ar y trywydd iawn i fynd y tu hwnt i’w darged o wario £700m yn ychwanegol y tu allan i Lundain rhwng 2021 a 2028.[footnote 52] Fel darparwyr cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus eraill, mae’r BBC yn gosod cwotâu ar gyfer gwariant ac oriau rhaglenni teledu rhwydwaith sy’n cael eu gwneud y tu allan i’r M25. Mae adroddiadau’r BBC yn dangos ei fod yn bodloni neu’n rhagori ar y cwotâu hyn yn gyson, fel yn 2023/24.[footnote 53] Fodd bynnag, cafwyd rhywfaint o feirniadaeth ynghylch sut mae’r BBC yn cyrraedd y targedau hynny, sy’n cael ei archwilio ymhellach yn y bennod ganlynol.
Mae cwotâu hefyd ar gyfer y mathau o gynnwys y dylai’r BBC eu cefnogi. Mae Trwydded Weithredu’r BBC yn nodi’n benodol sut mae Ofcom yn credu y dylai’r BBC gyflawni ei Genhadaeth a’i Ddibenion Cyhoeddus a sicrhau allbwn unigryw. Mae hyn yn cynnwys defnyddio nifer o gwotâu ffurfiol ar y BBC ynghylch pa gynnwys mae’n ei wneud, ac ymhle, fel BBC Parliament, gan sicrhau bod o leiaf 300 awr yn cael eu neilltuo ar gyfer trafodion Senedd Cymru, Senedd yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon.[footnote 54]
Yn 2023, diweddarodd Ofcom y Drwydded Weithredu i roi mwy o hyblygrwydd i’r BBC o ran sut mae’n diwallu anghenion cynulleidfaoedd, ac addasu’n well i newidiadau yn ymddygiad cynulleidfaoedd. Roedd Ofcom wedi disodli cwotâu ar gyfer darparu rhai genres gan gynnwys y celfyddydau, rhaglenni crefyddol a chomedi gyda gofyniad i ddarparu allbwn eang. Mae’n ofynnol i’r BBC nodi ei strategaeth ar gyfer darparu’r genres hyn. Serch hynny, mae tystiolaeth bod rhywfaint o’r cynnwys wedi bod yn dirywio’n hanesyddol, a bod eu darpariaeth barhaus mewn perygl.
Mae darpariaeth darlledu mewn ieithoedd lleiafrifol yn enghraifft o ran o’r farchnad a fyddai mewn perygl sylweddol mewn byd heb ddarparwyr cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus a chyllid cyhoeddus. Bydd paratoi’r BBC ac S4C i ddarparu cynnwys perthnasol o ansawdd uchel i wasanaethu cynulleidfaoedd ieithoedd lleiafrifol yn rhan hanfodol o’r Siarter barhaus.
Yn yr un modd, mae’r BBC yn parhau’n ddarparwr sylweddol o raglenni plant gwreiddiol o’r DU, ac mae’n chwarae rhan hollbwysig mewn addysg plant, gan gyfrif am 88% o’r holl raglenni plant gwreiddiol o’r DU yn cael eu dangos am y tro cyntaf gan ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn 2024.[footnote 55] Mae rhaglenni plant S4C hefyd yn cyfrannu at ddatblygiad diwylliannol ac ieithyddol cynulleidfaoedd ifanc yng Nghymru.[footnote 56] Fel arall, byddai darlledu plant mewn ieithoedd lleiafrifol yn absennol i raddau helaeth yn y farchnad.
Mae’r broses o adrodd ac ymgysylltu ar faterion lleol hefyd yn dirywio’n sylweddol. Mae’r BBC yn cefnogi newyddiaduraeth leol ac iechyd democratiaethau lleol drwy’r Gwasanaeth Gohebu Democratiaeth Leol (LDRS). Mae rhai yn dadlau bod presenoldeb lleol y BBC yn ei gwneud yn anoddach i ddarparwyr lleol gadw staff a denu cynulleidfa. Nid yw Ofcom wedi canfod unrhyw dystiolaeth uniongyrchol o’r BBC yn disodli darparwyr newyddion lleol, fodd bynnag, mae wedi nodi y gallai presenoldeb y BBC fod yn cyfrannu at yr heriau sy’n wynebu cyhoeddwyr lleol i ryw raddau.[footnote 57]
Gwasanaeth Gohebu Democratiaeth Leol
Mae’r Gwasanaeth Gohebu Democratiaeth Leol (LDRS), a lansiwyd yn 2017, yn cael ei ariannu gan y BBC a’i reoli gan y sector newyddion lleol masnachol. Mae’n ariannu cyflogau oddeutu 165 o newyddiadurwyr sy’n cael eu dyrannu i ddarparwyr newyddion lleol masnachol ac yn adrodd ar brosesau gwneud penderfyniadau awdurdodau lleol a sefydliadau democrataidd eraill. Mae’r cynnwys sy’n cael ei gynhyrchu gan y newyddiadurwyr hyn ar gael am ddim i’r BBC a darparwyr newyddion eraill sy’n cymryd rhan. Mae’n cefnogi rôl hanfodol newyddion lleol o ran annog ymgysylltiad dinesig, drwy helpu cymunedau a busnesau lleol i graffu ar benderfyniadau sy’n effeithio arnynt. Mae’n ariannu newyddiaduraeth er budd y cyhoedd a allai fod yn llai proffidiol yn fasnachol ac felly mae’n fwy agored i niwed. Mae’r fenter yn cael ei chefnogi’n gyffredinol ymysg darparwyr newyddion lleol a bu galwadau am ei hehangu, er y cydnabyddir na all ddatrys yr holl heriau y mae’r sector yn eu hwynebu ar ei ben ei hun.
Yr achos dros newid
Mae tystiolaeth yn dangos bod rhai genres gwasanaeth cyhoeddus traddodiadol fel rhaglenni plant, y celfyddydau a cherddoriaeth glasurol wedi bod yn dirywio’n sylweddol ar draws llwyfannau darlledu traddodiadol, gan gynnwys y BBC a darparwyr cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus eraill.[footnote 58] Ar yr un pryd, bu cynnydd enfawr yn argaeledd y cynnwys hwn ar draws llwyfannau ar-lein, o sianeli YouTube gyda miliynau o danysgrifwyr sy’n trafod crefydd neu faterion cyfoes, i bodlediadau hynod lwyddiannus fel The Rest is History. Mae’r ffaith bod llawer iawn o gynnwys o ansawdd uchel tebyg i deledu a radio ar gael yn newid cadarnhaol mewn sawl ffordd. Fodd bynnag, mae llawer o bobl yn dadlau bod angen i’n darparwyr cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus barhau i flaenoriaethu’r math hwn o gynnwys gwasanaeth cyhoeddus, oherwydd eu bod yn cael eu rheoleiddio mewn ffordd sy’n sicrhau bod y rhaglenni o ansawdd uchel ac yn gywir, a bod ganddynt fwy o allu i gyrraedd y boblogaeth gyfan - yn enwedig o’u cymharu â chynnwys a allai fod y tu ôl i waliau talu neu sy’n cael ei yrru gan algorithm.
Mae gan y BBC ddyletswydd i ddefnyddio ei gyllid cyhoeddus sylweddol i weithredu’n wahanol i ddarlledwyr eraill a blaenoriaethu genres na fyddent fel arall yn cael eu gwasanaethu’n ddigonol gan y farchnad. Wrth gyflawni’r rhwymedigaeth honno, ac yn enwedig yng ngoleuni llai o incwm dros y 15 mlynedd diwethaf, mae’n rhaid i’r BBC wneud penderfyniadau anodd ynghylch pa gynnwys i’w gomisiynu, a’r cyllidebau i gefnogi hynny. Mae tensiwn hefyd â dyletswydd y BBC i ddarparu gwasanaeth cyffredinol, sy’n mynnu ei fod yn aros yn berthnasol i’r gynulleidfa ehangaf bosibl. Mae setliadau cyllido diweddar, gan gynnwys rhewi cyllid, wedi dwysáu’r her hon ac mae angen i’r Adolygiad o’r Siarter fynd i’r afael â sut mae’r BBC yn gallu darparu amrywiaeth eang a dwfn o gynnwys (gan gynnwys genres sydd ag apêl dorfol gyfyngedig) a denu cynulleidfaoedd newydd i’w wasanaethau a’i lwyfannau.
Sefydlodd Deddf Cyfryngau 2024 fecanwaith i Ofcom greu a gosod cwotâu ychwanegol ar gyfer mathau o gynnwys ‘nad ydynt yn cael eu gwasanaethu’n ddigonol’ ar gyfer sianeli gwasanaeth cyhoeddus trwyddedig, heb gynnwys y BBC. Dylai’r BBC allu parhau i ddarlledu ei raglenni mwyaf poblogaidd mewn slotiau oriau brig a hyrwyddo’r rhaglenni hyn ar ei wasanaethau ar-lein. Fodd bynnag, mae hefyd yn briodol ystyried sut gall y BBC hyrwyddo genres na all neu na fydd y farchnad yn eu darparu ar raddfa fawr neu gyda digon o ansawdd, i sicrhau bod ei gynnwys a’i wasanaethau’n dal yn berthnasol. Mae Pennod 3 yn nodi’r manteision economaidd y gallai’r math hwn o weithgaredd eu cynnig.
Mae gwybodaeth ddofn y BBC am fywyd Prydain, yn ei holl amrywiaeth, a’r ffaith ei fod wedi’i ynysu oddi wrth lawer o’r pwysau sy’n wynebu sefydliadau eraill, yn golygu ei bod yn ofynnol i’r BBC wahaniaethu ei hun a sicrhau ei fod yn parhau’n hanfodol i’r wlad gyfan
Ar ben hynny, er bod y BBC yn cyflawni ei rwymedigaethau rheoleiddio, ar draws holl wledydd y DU, dim ond mwyafrif bach o gynulleidfaoedd sy’n credu bod cynnwys y BBC sy’n rhoi sylw i’r wlad neu’r rhanbarth yn y DU lle maent yn byw: 58% yng Ngogledd Iwerddon, 47% yng Nghymru, 56% yn yr Alban a 54% yn Lloegr.[footnote 59] Mae ymchwil Ofcom wedi dangos, er bod y rhan fwyaf o gynulleidfaoedd yn fodlon â’r BBC, bod perfformiad yn y maes hwn yn parhau i fod yn is nag ar gyfer unrhyw Ddiben Cyhoeddus arall y BBC (ac wedi bod ym mhob Adroddiad Blynyddol gan Ofcom ers 2020/21).
Nid mater rhanbarthol neu genedlaethol yn unig yw hwn. Dim ond 53% o holl oedolion y DU sy’n teimlo bod y BBC yn adlewyrchu pobl fel nhw’n effeithiol.[footnote 60] Mae’r ffigur hwn yn gostwng i 46% ar gyfer cynulleidfaoedd anabl, a 48% ymysg y rhai o grwpiau economaidd-gymdeithasol is. Er bod Ofcom wedi canfod arwyddion bod pethau’n gwella o ran ymgysylltu â chynulleidfaoedd iau yn ddiweddar, canfu hefyd bod y rhai hynny o grwpiau economaidd-gymdeithasol is yn dal i fod yn llai bodlon â’r BBC.[footnote 61] Mae’r BBC hefyd yn wynebu pwysau wrth gystadlu â sefydliadau cyfryngau gyda strategaethau cynnwys wedi’u targedu’n well ar gyfer grwpiau penodol.
Mae darparwyr newyddion lleol, sydd hefyd yn gyfranwyr hollbwysig at stori genedlaethol amryfal ac amrywiol, yn wynebu pwysau tebyg. Mae cynaliadwyedd yr amgylchedd newyddion lleol dan fygythiad, gyda gostyngiad o £2 biliwn mewn hysbysebion print lleol a rhanbarthol mewn llai nag 20 mlynedd.[footnote 62] Er na all y BBC ddatrys y mater hwn ar ei ben ei hun, mae arbenigwyr yn y diwydiant wedi tynnu sylw at y ffaith bod ei weithrediadau a’i amcanion yn gorgyffwrdd â marchnadoedd lleol ac maent wedi cwestiynu a ddylai ffurfio mwy o bartneriaethau â darparwyr lleol.
Ein huchelgais
Rhaid grymuso’r BBC i barhau i adrodd stori genedlaethol sy’n uno, sy’n cael ei gyrru gan bob cymuned ledled y DU ac sy’n ymateb iddynt, sy’n berthnasol iddynt ac sy’n cyfoethogi eu bywydau drwy ei Genhadaeth i hysbysu, addysgu a diddanu. I gefnogi hyn, mae gennym ddau nod eang:
-
Adnewyddu rôl y BBC fel sefydliad dinesig cenedlaethol ar gyfer oes y llwyfan ar-lein.
-
Sefydlu’r BBC i fod yn wasanaeth gwirioneddol gyffredinol, sy’n gallu cynrychioli a siarad â’r cymunedau amrywiol sy’n ei ariannu, gan gynnwys cefnogi darlledu mewn ieithoedd lleiafrifol.
Gall BBC cyffredinol fod yn darparu rhaglenni poblogaidd sy’n apelio’n fawr, a dylai fod yn gwneud hynny. Nid yw’r llywodraeth hon yn gweld y BBC fel ymyriad o achos methiant y farchnad. Ond rydym yn disgwyl i’r BBC wneud pethau’n wahanol, gan ganoli gwerthoedd gwasanaeth cyhoeddus ym mhopeth y mae’n ei wneud. Meddyliwch am Strictly Come Dancing. Mae’n hawdd anghofio bod y BBC wedi cymryd risg i adfywio fformat o’r 1950au am fyd cystadleuol dawnsio neuadd. Erbyn hyn, mae’n rhan ganolog o fywyd Prydain ac yn ddathliad o amrywiaeth ar oriau brig. Dylai cyllid cyhoeddus y BBC gefnogi’r math hwn o gymryd risg pan fydd yn comisiynu ac yn darlledu cynnwys ar draws amrywiaeth eang o genres gwasanaeth cyhoeddus, gan gynnwys y rhai sy’n dirywio’n hanesyddol ac a allai fod yn golygu gormod o ‘risg’ i ddarlledwyr masnachol eu cynhyrchu. Mae arnom eisiau dilyn fframwaith sy’n grymuso’r BBC i fod hyd yn oed yn fwy dewr er mwyn iddo allu cyflawni ar gyfer pob cynulleidfa.
Mae arnom eisiau dilyn fframwaith sy’n grymuso’r BBC i fod hyd yn oed yn fwy dewr er mwyn iddo allu cyflawni ar gyfer pob cynulleidfa
Dylai’r BBC hefyd fod yn arloesol ac yn feiddgar gan ei fod yn hwyluso ac yn siapio sgyrsiau cenedlaethol o ansawdd uchel, gan gynnwys ar-lein. O wahodd gwylwyr ifanc i adrodd y straeon sy’n bwysig iddynt hwy fel rhan o Press Pack Newsround, i weithio mewn partneriaeth â’r Brifysgol Agored i ddarparu deunyddiau sy’n deillio o raglenni ac sy’n cefnogi cynulleidfaoedd i dreiddio’n ddyfnach i’r bobl, y diwylliant a’r digwyddiadau sydd wedi siapio’r byd o’n cwmpas. Rhaid i’r BBC nawr adeiladu ar y cymwysterau hyn a’i frand dibynadwy, gan ailfeddwl sut mae defnyddio llwyfannau presennol a newydd i greu fforymau ar gyfer trafodaeth ddinesig iach lle mae ehangder barn a chyd-ddealltwriaeth yn cael eu blaenoriaethu.
Dylai pob rhan o’r wlad deimlo ei bod yn cael ei chynrychioli gan allbwn y BBC. Pan fydd cynulleidfaoedd yn teimlo nad ydynt yn cael eu cynrychioli’n ddigonol, dylid disgwyl i’r BBC gau’r bwlch, a sicrhau hygyrchedd i gynulleidfaoedd. Mae gwybodaeth ddofn y BBC am fywyd Prydain, yn ei holl amrywiaeth, a’r ffaith ei fod wedi’i ynysu oddi wrth lawer o’r pwysau sy’n wynebu sefydliadau eraill, yn golygu ei bod yn ofynnol i’r BBC wahaniaethu ei hun a sicrhau ei fod yn parhau’n hanfodol i’r wlad gyfan.
Wrth wneud hynny, rhaid iddo barhau i gefnogi cymunedau ieithoedd lleiafrifol y DU, drwy wasanaethau uniongyrchol a phartneriaethau â darlledwyr arbenigol.
Rhaid iddo hefyd barhau i ddarparu gwasanaethau sy’n berthnasol yn lleol. Rhaid grymuso’r BBC i gefnogi’r gwaith o ddarparu newyddiaduraeth genedlaethol a lleol o ansawdd uchel. Dylai’r Adolygiad o’r Siarter gydbwyso cefnogi amrywiaeth ecosystem y cyfryngau, gan sicrhau bod y BBC yn parhau i fod yn ffynhonnell ddibynadwy o wybodaeth, yn gwasanaethu pob cymuned ledled y DU. Archwilir partneriaethau a’r egwyddorion a fydd yn sail i’r rhain yn llawnach ym Mhennod 3.
Opsiynau rydym yn eu hystyried
Mae’r BBC, gyda chymorth cyllid cyhoeddus ac yn elwa o’i safle yn y sector cyfryngau, eisoes mewn sefyllfa dda i gyflawni’r amcanion hyn. Fodd bynnag, er mwyn datgloi potensial llawn y BBC i adrodd stori genedlaethol sy’n uno, bydd y llywodraeth yn canolbwyntio ar bedwar maes allweddol. Mae’r rhain yn cynnwys:
-
Cefnogi a goleuo sgyrsiau cenedlaethol.
-
Sicrhau bod y BBC yn gallu cymryd risgiau wrth gefnogi a chomisiynu cynnwys sydd er budd y cyhoedd yn ehangach.
-
Gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau newyddion lleol a chefnogi amgylchedd gwybodaeth iach.
-
Cefnogi cynaliadwyedd darlledu mewn ieithoedd lleiafrifol.
1. Cefnogi a goleuo sgyrsiau cenedlaethol
Rydym yn edrych ar sut mae adnewyddu rôl y BBC fel lleoliad ar gyfer sgwrs gyhoeddus iach yn oes y llwyfan ar-lein. Gellid cyflawni hyn drwy nod lefel uchel newydd yn y Siarter, sy’n mynnu bod y BBC yn blaenoriaethu ac yn nodi’n strategol sut mae’n bwriadu cyflawni’r rôl hon. Mae opsiwn hefyd i gael darpariaethau Siarter sy’n cyfarwyddo’n fwy penodol sut mae’r BBC i gyflawni’r nod hwn. Gallai hyn gynnwys mynnu bod y BBC yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill sy’n rhannu ei nodau gwasanaeth cyhoeddus - boed yn ddarlledwyr eraill, yn ffynonellau newyddion dibynadwy, neu’n sefydliadau dinesig fel prifysgolion - i arloesi adnoddau neu fforymau newydd sy’n cefnogi trafodaeth ddinesig wybodus ar-lein.
2. Sicrhau bod y BBC yn gallu cymryd risgiau wrth gefnogi a chomisiynu cynnwys er budd y cyhoedd yn ehangach
Byddwn yn ystyried a oes angen i’r Siarter nesaf gefnogi’r BBC i gymryd risgiau o ran cynnwys sydd er budd y cyhoedd, gan adlewyrchu ei safle breintiedig fel sefydliad sydd ag arian cyhoeddus sylweddol. Mae hyn yn golygu nad oes angen iddo weithredu fel endid masnachol ac yn hytrach gall fynd ar drywydd set wahanol, ehangach o ganlyniadau. Gallai hyn gynnwys:
-
ailwerthuso rhwymedigaethau’r BBC i ddarparu genres penodol sydd mewn perygl neu nad ydynt yn cael eu gwasanaethu’n ddigonol, yn ogystal â gofynion y BBC i sicrhau bod cynnwys yn hygyrch i bawb, fel cynhyrchu cynnwys mewn iaith arwyddion
-
edrych ar ddarparu gwasanaethau sy’n berthnasol yn lleol - yn enwedig ym maes sain - i sicrhau bod gallu’r BBC i addasu yn cael ei gydbwyso â sicrhau bod gwasanaethau gwerthfawr yn cael eu darparu nad ydynt yn cael eu cynnig mewn rhannau eraill o’r farchnad
-
gweithio gyda’r BBC a’r sector cynhyrchu annibynnol i ystyried a ddylid annog y BBC i gymryd mwy o risgiau yn ei strategaeth gomisiynu, a sut gellid cefnogi’r arloesi hwn yn ymarferol, gan gynnwys drwy’r Siarter a’r fframwaith rheoleiddio. Mae Pennod 3 yn nodi opsiynau penodol ar gomisiynu rhanbarthol a sicrhau bod penderfyniadau’r BBC yn cael eu gwneud ledled y wlad
Dan yr holl opsiynau hyn, byddwn yn ystyried rôl y rhai sy’n ariannu’r BBC - ei gynulleidfaoedd. Fel yr archwilir ym Mhennod 1, mae’n hanfodol bod y BBC yn adlewyrchu ac yn cynrychioli’r cyhoedd yn ei benderfyniadau, a gellid ymestyn unrhyw ofynion atebolrwydd newydd i sut mae’r BBC yn mynd ati i feddwl am gynnwys a gwasanaethau newydd.
Rydym yn cydnabod y bydd angen i’r BBC barhau i fod yn gystadleuol yn ystod y degawd nesaf, y bydd y setliad cyllido y penderfynir arno drwy’r Adolygiad o’r Siarter yn effeithio’n sylweddol ar alluoedd y BBC yn y maes hwn, ac na ddylai unrhyw ofynion newydd sy’n ymwneud â’i gynnwys gyfyngu ar ei allu i fod ag apêl eang.
3. Gweithio mewn partneriaeth â darparwyr newyddion lleol a chefnogi amgylchedd gwybodaeth iach
Ar gyfer newyddion lleol, y flaenoriaeth yw sicrhau bod y BBC yn ategu darparwyr lleol o ansawdd uchel, yn hytrach na’u disodli, er mwyn i’r cyhoedd allu elwa o farchnad newyddion lleol ffyniannus ac amrywiol. Felly, rydym yn ystyried amrywiaeth o ymyriadau polisi, gan gynnwys:
-
edrych ar sut gallai’r Siarter nesaf warantu bod newyddion lleol o bwysigrwydd democrataidd yn cael ei ddarparu i’r dyfodol, drwy gynlluniau fel y Gwasanaeth Gohebu Democratiaeth Leol yn mynnu y dylai’r BBC ddatblygu strategaeth partneriaethau gwasanaeth cyhoeddus, gan gynnwys gofyniad bod yn rhaid iddo archwilio partneriaethau â chyfryngau lleol o ansawdd uchel. Nod hyn fyddai gwella mynediad y BBC at wybodaeth a dealltwriaeth leol, gan ddarparu mynediad at dechnoleg, sgiliau a rhwydweithiau i ddarparwyr eraill
-
asesu a ddylid atgyfnerthu ymrwymiadau i wasanaethau radio lleol, neu gyflwyno goruchwyliaeth reoleiddiol newydd i atal tarfu diangen ar y farchnad gan gynigion newyddion ar-lein lleol y BBC
Bydd angen ystyried pob un o’r rhain yn ofalus a byddwn yn ymgynghori ag arbenigwyr yn y diwydiant yn ogystal â’r cyhoedd a’r BBC. Bydd y bennod nesaf yn edrych ar yr egwyddorion a fyddai’n sail i’n dull o reoleiddio partneriaethau ac effaith ar y farchnad.
4. Cefnogi cynaliadwyedd darlledu mewn ieithoedd lleiafrifol
Mae’r Siarter bresennol yn mynnu bod y BBC yn cefnogi ieithoedd rhanbarthol a lleiafrifol, drwy bartneriaethau â sefydliadau fel S4C ac MG ALBA.
Mae partneriaethau rhwng y BBC ac S4C wedi bod yn gonglfaen cyfryngau Cymraeg, gan ddarparu nid yn unig newyddion a materion cyfoes dyddiol ond hefyd rhaglenni o bwysigrwydd diwylliannol sy’n cyrraedd cymunedau Cymraeg amrywiol. Mae hyn yn cynnwys operâu sebon hirsefydlog fel Pobol y Cwm yn gweithredu fel piblinellau talent byd-eang, a dramâu o fri rhyngwladol fel Y Gwyll (Hinterland) sydd wedi arddangos yr iaith Gymraeg ar lwyfan byd-eang. Ochr yn ochr â hyn, mae cynyrchiadau S4C a’r BBC yn cael eu canmol yn fawr, gyda newyddion a chynnwys i blant yn ennill gwobrau BAFTA UK, BAFTA Plant, a BAFTA Cymru, sy’n dangos effaith S4C ar y diwydiant.
Yn yr un modd, daeth BBC ALBA yn brif ddarlledwr ar gyfer siaradwyr Gaeleg, gan gynnig cynnwys sy’n amrywio o raglenni penodol i blant i ddarllediadau byw o chwaraeon yr Alban, gan ddarparu presenoldeb dyddiol ar gyfer yr iaith Aeleg. Yng Ngogledd Iwerddon, cyflwynodd rhaglen noir Wyddeleg y BBC, Crá, yr iaith Wyddeleg i gynulleidfaoedd ledled y DU.
Mae’r llywodraeth wedi ymrwymo i lwyddiant parhaus darlledu mewn ieithoedd lleiafrifol yn y wlad hon, a bydd yr Adolygiad o’r Siarter yn archwilio’r potensial ar gyfer rheoliadau newydd neu fframweithiau dwyochrog a allai helpu i gefnogi darlledu mewn ieithoedd lleiafrifol ledled y DU. Ar sail yr hyn rydym wedi’i glywed hyd yma, gallai hynny gynnwys diffinio ymrwymiad y BBC i gymunedau ieithoedd lleiafrifol yn fwy penodol neu addasu sut gwneir i’r BBC ffurfio partneriaeth â darlledwyr ieithoedd lleiafrifol presennol.

An t-Eilean/The Island yw prif ddrama drosedd Gaeleg yr Alban ar BBC ALBA Cydnabyddiaeth: Black Camel Pictures/BBC ALBA
Adran 3: BBC sy’n addas ar gyfer y dyfodol
Y cyd-destun
Ers dros 100 mlynedd, mae’r BBC wedi sbarduno’r trawsnewidiadau technolegol sy’n siapio ecosystem ein cyfryngau: yn gyntaf gyda sain, yna’r ddelwedd symudol, ac yn awr ar-lein. O ddarlledu sioeau radio arloesol y tu allan i stiwdios yn yr 1920au, i wasanaethau CEEFAX rhyngweithiol ar setiau teledu yn y 1970au, i lansio gwylio ar-alw drwy BBC iPlayer ar Ddydd Nadolig, 2007. Wrth edrych i’r dyfodol, mae arnom eisiau i’r BBC arloesi a siapio marchnad y cyfryngau, a sbarduno datblygiadau technolegol yn unol â gwerthoedd cyhoeddus, nid dim ond gofynion masnachol. Mae arnom eisiau i’r BBC ddod yn ganllaw dibynadwy i gynulleidfaoedd, gan eu helpu i lywio drwy newid technolegol a phontio’r bwlch digidol. Yn benodol, rydym am i’r BBC gefnogi sgiliau sylfaenol a chyffredinol ar y naill law, ac ar y llaw arall i helpu’r cyhoedd i ddeall deallusrwydd artiffisial, ymgysylltu ag ef yn adeiladol a deall ei effeithiau.
Mewn byd ar-alw ac ar-lein, cyflwynodd y BBC ei strategaeth Digidol yn Gyntaf yn 2022. Mae’r BBC wedi symud adnoddau tuag at gynnwys ar gyfer ei lwyfannau ar-lein fel BBC iPlayer a BBC Sounds, gyda’r uchelgais ddatganedig o wasanaethu pawb yn well a chwrdd â’i gynulleidfaoedd lle maent. Mae’r BBC yn sbarduno’r newid hwnnw drwy ganolbwyntio ar gynyddu ei alluoedd data a’i ddefnydd o algorithmau deallus. Mae hyn yn caniatáu i’r BBC - fel sefydliadau cyfryngau eraill - gynnig gwasanaethau sydd wedi’u personoli fwyfwy i gynulleidfaoedd. Ar eu gorau, mae’r datblygiadau technolegol hyn yn golygu bod catalog helaeth y BBC yn hwylus ac yn hygyrch i gynulleidfaoedd, gan ganiatáu i’r BBC ddenu mwy o sylw mewn tirwedd gystadleuol ar yr un pryd. Fodd bynnag, os na chymerir gofal dyladwy, gallai mwy o bersonoleiddio beryglu gallu’r BBC i sicrhau bod pobl yn cael gwybodaeth eang am y byd o’u cwmpas, ac i greu’r naratifau a rennir a drafodwyd yn gynharach yn y bennod hon. Er mwyn lleihau’r risgiau hyn, mae’r BBC eisoes wedi datblygu algorithmau yn unol â gwerthoedd gwasanaeth cyhoeddus. Mae’r rhain yn cynnwys lefel uwch o guradu golygyddol i annog chwaethau ehangach a chreu straeon cenedlaethol sy’n sbarduno cydlyniant cymdeithasol.
Mae deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol (Gen AI) bellach yn addo ffyrdd newydd o greu cynnwys testun, fideo a sain. Yn 2024, cyhoeddodd y BBC ei Egwyddorion Deallusrwydd Artiffisial, sy’n nodi sut gall y dechnoleg hon sy’n creu newid sylweddol - pan gaiff ei harwain gan ddarparu gwerth i gynulleidfaoedd a chanoli talent ddynol - bweru creadigrwydd a gwasanaethau arloesol. Mae straeon fel yr un isod yn dangos beth mae hyn yn ei olygu’n ymarferol.
Cynllun peilot sylwebaeth ar Gynghrair Pêl-droed Lloegr
Mae Gen AI yn cymryd sylwebaeth o ddarllediadau radio byw y BBC ac yn cynhyrchu testunau ar gyfer ap BBC Sports, dan oruchwyliaeth newyddiadurwyr y BBC. Mae hyn yn caniatáu i gefnogwyr ar-lein ddilyn y gêm, y goliau a’r cardiau coch wrth iddynt ddigwydd.
Wrth edrych ymlaen at gyfnod nesaf y Siarter, bydd y newid yn cyflymu. Bydd ein tirwedd cyfryngau’n mynd hyd yn oed yn fwy symudol, digidol ac yn canolbwyntio mwy ar lwyfannau. O ganlyniad, nid yw’r llinellau rhwng cynnwys wedi’i guradu’n olygyddol a chynnwys a gynhyrchir gan ddefnyddwyr, a rhwng darparwyr cynnwys a llwyfannau cynnwys, yn glir mwyach. Mae’r ffiniau rhwng dyfeisiau hefyd yn dod yn llai perthnasol: rydym yn defnyddio mwy a mwy ar ein setiau teledu i gael gafael ar YouTube, ac rydym yn gwylio rhaglenni teledu ar ein dyfeisiau tabled a’n ffonau. Yn fyr, mae’r hyn yw “teledu” yn newid o flaen ein llygaid. Yn yr un modd, mae cystadleuaeth yn y farchnad yn dod yn fwy dwys ac yn fwy byd-eang.
Tynnwyd sylw’n benodol at yr heriau hyn i ddarparwyr cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus yn adroddiad diweddar Ofcom, Argyfwng Darlledu, ar Gyfryngau Gwasanaeth Cyhoeddus. Pwysleisiodd yr angen brys am gynnwys cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus amlwg ar lwyfannau rhannu fideos fel YouTube, am gyllid sefydlog a digonol ar gyfer amrywiaeth eang o gynnwys gwasanaeth cyhoeddus, ac am bartneriaethau strategol uchelgeisiol ymysg darparwyr cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus i gystadlu’n effeithiol.
Yr achos dros newid
Mae’r dyfodol hwn yn cyflwyno cyfleoedd a heriau cyffrous i’r BBC y mae’n rhaid i’r Siarter nesaf fynd i’r afael â nhw. Yn gyntaf, rhaid i ni ystyried pa gynnwys y dylai BBC digidol ei ddarparu. Ar draws darparwyr cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus yn Ewrop, mae strategaethau comisiynu digidol yn aml yn canolbwyntio ar lai o deitlau, ond teitlau drutach. Mae hyn yn helpu cynnwys cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus i sefyll allan mewn marchnad ar-lein gystadleuol. Ond, fel y nodir yn Adran 2 y bennod hon, mae’n ddull a allai roi rhai mathau o gynnwys mewn perygl.
Wrth i BBC iPlayer a BBC Sounds ddod yn bwynt mynediad cynyddol ar gyfer gwasanaethau’r BBC, bydd angen i ni ystyried a yw’n briodol dod ag egwyddorion ‘oriau brig’ i’r byd digidol
Yn ail, mae angen i ni ystyried sut mae cynnwys yn cael ei wneud a’i ddarparu. Mae cynulleidfaoedd yn credu bod deallusrwydd artiffisial yma i aros, ond mae arnynt hwy eisiau deall sut mae wedi cael ei ddefnyddio i siapio’r cynnwys maent yn ei wylio, ei ddarllen neu’n gwrando arno. Bydd gwneud hyn yn iawn yn bwysig er mwyn helpu i gynnal a meithrin ymddiriedaeth yng ngwasanaethau’r BBC. Mae’r BBC eisoes wedi gwneud tryloywder yn ganolog yn ei Egwyddorion Deallusrwydd Artiffisial. Fodd bynnag, rydym wedi clywed pryderon am y diffyg atebolrwydd ffurfiol a fyddai’n ei gwneud yn ofynnol i’r BBC egluro sut a phryd y mae cynulleidfaoedd yn rhyngweithio â deallusrwydd artiffisial yn ei wasanaeth, a mesur effeithiolrwydd ei ymdrechion
Tynnwyd sylw hefyd at bryderon penodol ynghylch sut bydd cynyddu lefelau personoleiddio sy’n seiliedig ar ddata yn rhyngweithio â rhwymedigaethau ehangach y BBC. Yn benodol, sut gall y BBC gydbwyso gwasanaethau i’r unigolyn ar yr un pryd â pharhau i adlewyrchu amrywiaeth y wlad gyfan a dod â chynulleidfaoedd at ei gilydd mewn ffyrdd sy’n cefnogi cydlyniant cymdeithasol. Mae’n rhaid i’r BBC roi lle amlwg yn ei amserlen i rai mathau o gynnwys gwasanaeth cyhoeddus craidd - yn enwedig newyddion a materion cyfoes. Wrth i BBC iPlayer a BBC Sounds ddod yn bwynt mynediad cynyddol ar gyfer gwasanaethau’r BBC, bydd angen i ni ystyried a yw’n briodol dod ag egwyddorion ‘oriau brig’ i’r byd digidol. Bydd angen i’r BBC gasglu a storio mwy o ddata i hybu personoleiddio, sydd hefyd yn her bosibl i ymddiriedaeth cynulleidfaoedd: bydd hyn yn gofyn am fod yn glir ynghylch pam mae data’n cael ei gasglu, ar gyfer beth y bydd yn cael ei ddefnyddio a rhoi’r opsiwn i gynulleidfaoedd ddweud na.
Yn olaf, mae angen i ni ystyried lle mae’r BBC yn cynnig ei gynnwys. Ar hyn o bryd, mae’r BBC, yn bennaf yn rhannu clipiau o’i uchafbwyntiau ar gyfryngau cymdeithasol a llwyfannau rhannu fideos gyda’r nod o ddenu cynulleidfaoedd newydd a’u cyflwyno i lwyfannau’r BBC ei hun. Mae gan hyn rai manteision - mae BBC iPlayer a BBC Sounds yn ecosystemau caeedig a diogel sy’n seiliedig ar y Genhadaeth y BBC i hysbysu, addysgu a diddanu, ac nid oes gan lwyfannau eraill ymrwymiad o’r fath. Ond wrth i lwyfannau fel YouTube ddod yn fwyfwy pwysig o ran cyfryngu mynediad at gynnwys, mae angen i ni ofyn a yw dull gweithredu presennol y BBC yn iawn i bob cynulleidfa, neu a allai ehangu ei ddefnydd o lwyfannau trydydd parti arwain at fanteision ychwanegol i gynulleidfaoedd (a’r sefydliad ei hun). Er enghraifft, mae darlledwyr eraill fel Channel 4 yn rhannu penodau hyd llawn o gyfresi fel First Dates a Grand Designs ar YouTube. Mae’r mater hwn yn arbennig o bwysig i gynulleidfaoedd iau sy’n defnyddio llai ar lwyfannau’r BBC ac sydd felly mewn perygl o golli allan ar ei raglenni gwasanaeth cyhoeddus hollbwysig.
Fodd bynnag, mae’r mater hwn yn un cymhleth. Yn benodol, mae gallu’r BBC i wasanaethu cynulleidfaoedd gwahanol yn effeithiol ar draws llwyfannau traddodiadol ac ar-lein wedi’i gyfyngu gan ei incwm. Bydd yn dod yn fwyfwy heriol talu costau rhedeg llwyfannau dosbarthu lluosog, gan fynnu mwy o fuddsoddiad mewn dosbarthu yn hytrach na chomisiynu cynnwys ar gyfer cynulleidfaoedd. Bydd gwaith ehangach a thymor hwy’r llywodraeth i gefnogi cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus yn ystyried ymhellach sut mae cynnwys y BBC a chynnwys cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus eraill yn cael ei ddosbarthu mewn ffordd sy’n cyrraedd cynulleidfaoedd orau.
- Canfu adroddiad Cyfryngau’r Genedl 2025 Ofcom mai YouTube oedd y gwasanaeth sy’n cael ei wylio fwyaf ymysg plant (4-15 oed) ac oedolion ifanc (16-34 oed), gan gyfrif am 28% o wylio fideos ar gyfer plant, a 22% ar gyfer oedolion ifanc.
Ein huchelgais
Bydd y Siarter sydd ar y gweill yn grymuso’r BBC i sbarduno datblygiadau arloesol, gan sicrhau ei fod yn parhau i fod yn ganllaw dibynadwy i gynulleidfaoedd sy’n delio â newid technolegol ac yn gosod meincnod byd-eang ar gyfer cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus yn oes y llwyfan. Ochr yn ochr â’r polisïau sy’n cael eu harchwilio ym Mhennod 3 ar ailganoli ymchwil a datblygu fel rhan allweddol o gylch gwaith gwasanaeth cyhoeddus y BBC, rydym am i’r BBC fod yn arweinydd moesegol ac effeithiol o ran mabwysiadu a darparu technolegau newydd. Mae arnom hefyd eisiau iddo adeiladu ar ei waith yn helpu pobl o bob oed i feithrin hyder a sgiliau digidol - drwy wasanaethau fel BBC Bitesize - i sicrhau bod pawb yn gallu parhau i elwa o’i wasanaethau.
Bydd y llywodraeth yn gweithio gyda’r BBC a darparwyr cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus eraill i ddatblygu ymateb strategol i’r heriau a’r cyfleoedd a ddaw yn sgil y byd digidol. Dylai’r strategaeth hon ddefnyddio maint cymharol y BBC, a’i drefniadau cyllido unigryw, i gefnogi’r system cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus yn ei chyfanrwydd. Yn wir, mae Ofcom wedi dadlau y gall cydweithredu mwy uchelgeisiol rhwng darparwyr cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus eu helpu i gyflawni’r raddfa i gystadlu’n effeithiol, gyda’r cyfleoedd gorau i gydweithio o ran technoleg a deallusrwydd artiffisial.
dylai’r Siarter wneud mwy na gadael i’r BBC addasu i dechnoleg sy’n newid: dylai helpu’r BBC i sbarduno arloesedd er budd y cyhoedd
Fel rhan o’r strategaeth ehangach hon, rhaid i ni sicrhau bod Siarter y BBC a’r fframwaith rheoleiddio ehangach yn ystyried cyflymder y newid ers 2017. Mae arnom eisiau cefnogi’r BBC i newid o fod yn ddarlledwr gwasanaeth cyhoeddus traddodiadol - ar un adeg wedi’i wreiddio mewn sianeli teledu a radio llinol - i endid cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus, sy’n addas ar gyfer oes y llwyfannau. Rhaid i’r Siarter allu addasu i reoli newidiadau pellach a ddaw. Ond dylai’r Siarter wneud mwy na gadael i’r BBC addasu i dechnoleg sy’n newid: dylai helpu’r BBC i sbarduno arloesedd er budd y cyhoedd.
Opsiynau rydym yn eu hystyried
Mewn byd o lwyfannau ar-lein - lle mae mynediad at wybodaeth yn cael ei drefnu o amgylch clicio, gweld a hoffi - yn aml y cynnwys sydd fwyaf syfrdanol ac sy’n polareiddio yw’r mwyaf poblogaidd. Yn y cyd-destun hwn, credwn fod gwerth cymdeithasol a diwylliannol lleisiau gwasanaeth cyhoeddus dibynadwy mor bwysig ag erioed. Byddwn yn ystyried sut gellir defnyddio Siarter y BBC i gyfrannu at fudd tymor hwy ecosystem cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus yn ei chyfanrwydd. Mae Pennod 3 yn amlinellu opsiynau i’r BBC gydweithio’n agosach â chwaraewyr y diwydiant creadigol sy’n rhannu’r un gwerthoedd gwasanaeth cyhoeddus neu sy’n cefnogi’r gwaith o gyflawni canlyniadau gwasanaeth cyhoeddus. Bydd hyn yn sicrhau bod cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus hanfodol yn cyrraedd pob cynulleidfa, ar draws amrywiaeth o ddyfeisiau wedi’u cysylltu a fformatau cynnwys amrywiol. Mae gennym dair blaenoriaeth:
-
Sefydlu’r BBC fel arweinydd gwerthoedd cyhoeddus dibynadwy ym maes technoleg newydd.
-
Datblygu strategaeth llwyfan gwasanaeth cyhoeddus.
-
Sicrhau bod gwasanaethau darlledu yn addas ar gyfer y dyfodol.
1. Y BBC fel arweinydd gwerthoedd cyhoeddus dibynadwy ym maes technoleg newydd
Mae arnom eisiau i’r BBC siapio technolegau newydd. Dylid gwneud hyn er budd y genedl ac er budd y cyhoedd mewn ffordd sy’n dryloyw ac yn atebol. Dylai’r BBC helpu’r cyhoedd i ddeall a llywio drwy newid technolegol, yn enwedig defnyddio deallusrwydd artiffisial, gan sicrhau hefyd nad yw’r rhai heb sgiliau digidol sylfaenol yn cael eu gadael ar ôl. Rydym yn ystyried sut gallwn ni alluogi’r BBC i fod yn arweinydd gwerthoedd cyhoeddus ym maes technolegau sy’n siapio ein cyfryngau a’n gwybodaeth. Gellid cyflawni hyn drwy nod lefel uchel yn y Siarter. Gallai mesurau mwy penodol gynnwys:
-
rhoi rôl newydd i’r BBC i gefnogi’r gwaith o ddatblygu sgiliau digidol ymysg ei gynulleidfaoedd, gan gynnwys o ran deallusrwydd artiffisial
-
mynnu bod y BBC yn darparu esboniadau hygyrch ynghylch sut mae’n defnyddio deallusrwydd artiffisial
-
gweithio gydag Ofcom i archwilio pa rôl y gallai’r rheoleiddiwr ei chwarae o ran dal y BBC yn atebol yn erbyn unrhyw rwymedigaethau tryloywder newydd yng nghyswllt deallusrwydd artiffisial
2. Strategaeth llwyfannau gwasanaeth cyhoeddus
Mewn byd lle mae cynulleidfaoedd yn ymgysylltu fwyfwy â’r BBC ar-lein, byddwn yn ystyried pa rwymedigaethau pellach ddylai fod ar y BBC i sicrhau bod amrywiaeth eang o gynnwys gwasanaeth cyhoeddus yn cael ei hyrwyddo ar lwyfannau’r BBC ei hun. Gallai hyn gynnwys:
-
cael y BBC i adrodd yn gyhoeddus, gyda’r metrigau a’r mesurau priodol, ar sut mae ei strategaeth cyhoeddi a dosbarthu cynnwys ar-lein yn cyd-fynd â’i ofynion cyffredinolrwydd ehangach
-
neu, gan fynd ymhellach, cyflwyno gofynion rheoleiddio newydd sy’n nodi’r mathau o gynnwys rydym yn disgwyl iddynt gael amlygrwydd yng ngofodau digidol y BBC fel BBC iPlayer a BBC Sounds
Bydd hefyd yn bwysig edrych y tu hwnt i wasanaethau digidol y BBC ei hun a meddwl am y rôl y gallai llwyfannau trydydd parti fel YouTube ei chwarae o ran dod â chynnwys y BBC i amrywiaeth eang o gynulleidfaoedd. Mae’r opsiynau’n cynnwys:
-
grymuso’r BBC i wneud gwell defnydd o lwyfannau rhannu fideos allanol i ddarparu ei gynnwys gwasanaeth cyhoeddus
-
archwilio pa ddiweddariadau fframwaith rheoleiddio y gallai fod eu hangen i gefnogi’r gwaith hwn
Gan edrych y tu hwnt i’r Adolygiad hwn o’r Siarter, mae’r llywodraeth hon eisoes wedi nodi ei bod yn cefnogi argymhelliad Ofcom y dylai cynnwys cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus fod yn amlwg ar lwyfannau rhannu fideos mawr ac ar delerau masnachol teg. Ochr yn ochr â’r Adolygiad o’r Siarter, rydym felly’n gwneud gwaith ehangach ac ar wahân ar ddyfodol cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus ac yn edrych gyda’r diwydiant ar sut gall gwahanol chwaraewyr gydweithio i gyflawni’r canlyniad hwn, gan gynnwys gyda’r BBC.
3. Dyfodol cyfryngau darlledu a gwasanaeth cyhoeddus
Yn olaf, wrth i ni geisio diogelu’r BBC at y dyfodol ar gyfer y degawdau i ddod, bydd angen i ni ystyried pa dechnolegau darlledu y dylai’r BBC eu defnyddio i ddarparu ei wasanaethau. Ar hyn o bryd mae gan y BBC ddyletswydd i ddarparu ei wasanaethau teledu ar deledu daearol digidol (DTT), a elwir yn gyffredin yn Freeview, yn ogystal ag ar-lein. Fodd bynnag, wrth i fwy o gynulleidfaoedd symud tuag at wylio ar-lein, mae’r llywodraeth yn ystyried dyfodol dosbarthu teledu. Unwaith y bydd penderfyniad wedi ei wneud ar ddull gweithredu’r llywodraeth drwy ymgynghori â’r cyhoedd, bydd angen i ni ystyried sut gallai fod angen i rwymedigaethau’r BBC newid, a sut gall y BBC sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl mewn unrhyw newid i wylio ar-lein drwy ganoli cynhwysiad digidol yn ei wasanaethau a’i weithgareddau.
Pennod 3. Sbarduno twf ledled y DU
Crynodeb
Y BBC yw calon economi greadigol y DU, sydd gyda’r gorau yn y byd, yn cynhyrchu £2.63 am bob £1 o effaith economaidd uniongyrchol. Mae’r sector creadigol yn un o brif lwyddiannau’r DU. Ond, ar hyn o bryd mae’n wynebu heriau fel costau cynyddol a chystadleuaeth fyd-eang. Yn y diwydiant hwn sy’n newid, mae’r BBC yn hanfodol ar gyfer sefydlogrwydd a thwf cynaliadwy drwy feithrin talent, datblygu technoleg, adeiladu canolfannau yn y gwledydd a’r rhanbarthau, a gweithio mewn partneriaeth â chwmnïau annibynnol. Yn unol â Chynllun Sector y Diwydiannau Creadigol, mae arnom eisiau sicrhau bod y BBC yn cael ei sefydlu i barhau i sbarduno twf ar draws pob rhan o’r DU.
Mae’r opsiynau sy’n cael eu hystyried dan yr Adolygiad o’r Siarter yn cynnwys:
-
Sbarduno twf ledled y DU a chefnogi’r economi greadigol: gan gynnwys drwy fuddsoddi yn y sector cynhyrchu ym Mhrydain ar draws y gwledydd a’r rhanbarthau, ei rôl yn datblygu sgiliau a’r gweithlu creadigol, a’i weithgareddau ymchwil a datblygu. Gallai hyn hefyd gynnwys annog y BBC i gyflawni mwy drwy gydweithio a phartneriaethau i gefnogi’r sector ehangach.
-
Diweddaru’r gwaith o reoleiddio’r effaith ar y farchnad: Anelu at fframwaith mwy ystwyth sy’n gwarchod cwmnïau eraill yn y farchnad ac yn cynnal lluosogrwydd.
Ffeithiau allweddol
-
Am bob £1 o effaith economaidd uniongyrchol y BBC, cynhyrchir £2.63 ar gyfer economi’r DU
-
Mae 50% o effaith econaidd uniongyrchol y BBC yn cael ei gynhyrchu y tu allan i Lundain
-
Mae 60% o wariant rhwydwaith y BBC y tu allan i Lundain
-
Mae’r BBC yn cefnogi 50,000 o swyddi ledled y DU
-
Yn 2024/2025 roedd gan y BBC gyfanswm o 370 o bartneriaethau a threfniadau cydweithio ledled y DU
Cyflwyniad
Mae’r BBC yn gonglfaen i’n heconomi greadigol sydd gyda’r gorau yn y byd oherwydd ei chyrhaeddiad a’i heffaith - gan feithrin doniau lleol, sbarduno newid technolegol, ac annog buddsoddiad yn sector creadigol y DU. Mae’n hyrwyddwr cenedlaethol ar gyfer cynnwys o Brydain ac mae’n cefnogi ecosystem hynod lwyddiannus, gan gynnwys meithrin partneriaethau â chwmnïau annibynnol llai.
Mae’r BBC yn cyfrannu bron i £5 biliwn bob blwyddyn at ein heconomi.[footnote 63] Am bob £1 o effaith economaidd uniongyrchol a gynhyrchir gan y BBC, mae £1.63 o allbwn economaidd ychwanegol yn cael ei gynhyrchu yng ngweddill economi’r DU, gan ddod â chyfanswm ei gyfraniad economaidd i £2.63 o’i gymharu â chyfartaledd y sector o £1.84.[footnote 64]
Mae unigolion sydd â chyfrifoldebau gwneud penderfyniadau mewn busnesau tramor sy’n defnyddio’r BBC 43% yn fwy tebygol o fuddsoddi yn y DU na’r rheini nad ydynt yn defnyddio’r BBC bob mis, gan helpu i sbarduno mewnfuddsoddiad i roi hwb i’r economi.[footnote 65]
Mae’r llywodraeth hon wedi ei gwneud yn flaenoriaeth i adeiladu economi sy’n gweithio i bobl ym mhob rhan o’r wlad. Bydd yr Adolygiad o’r Siarter yn cefnogi hyn ac yn atgyfnerthu’r uchelgeisiau a nodir yng Nghynllun Sector Diwydiannau Creadigol y llywodraeth i sicrhau bod y BBC yn parhau i gefnogi sector creadigol domestig bywiog ledled y DU. Gan fod y diwydiannau creadigol yn un o’r wyth sector sy’n sbarduno twf o dan y Strategaeth Ddiwydiannol, mae’r BBC mewn sefyllfa unigryw i sicrhau twf a pharhau i adeiladu diwydiant cynaliadwy er budd pawb.
Mae ein sector creadigol yn llwyddiannus iawn. Cynyddodd ei allbwn economaidd dros 1.5 gwaith cyfradd gweddill economi’r DU rhwng 2010 a 2023. Yn y diwydiant sgrin, y DU yw’r allforiwr mwyaf o raglenni teledu heb eu sgriptio yn y byd.
Fodd bynnag, mae heriau o hyd. Mae’r diwydiant sgrin yn ei chael hi’n anodd ymdopi â thangyflogaeth a chostau cynhyrchu sy’n cynyddu. Wrth i ddiwydiant cynhyrchu’r DU wneud mwy a mwy o gynnwys ar gyfer sefydliadau byd-eang, nid ydynt yn cadw perchnogaeth ar yr eiddo deallusol, gan fod yr hawliau a’r ffrydiau refeniw yn cael eu dal y tu allan i’r DU - yn wahanol i weithio gyda darlledwr gwasanaeth cyhoeddus yn y DU, lle mae cynhyrchwyr annibynnol yn cadw hawliau o dan y Telerau Masnach ffafriol.
Mae darparwyr cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus fel y BBC bob amser wedi bod yn hanfodol o ran darparu sefydlogrwydd a diogelwch i’r sector, sy’n hollbwysig yn y cyd-destun fel y mae ar hyn o bryd. Dyna pam mae’r llywodraeth wedi cydnabod gwerth unigryw ein hecosystem cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus i gynulleidfaoedd y DU. Wrth i bethau newid ledled y byd ac wrth i gystadleuaeth gynyddu, rydym yn barod i ystyried camau beiddgar i gefnogi cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus, fel rhan o’r diwydiant teledu ehangach.
Mae’r Adolygiad o’r Siarter yn ffordd hanfodol o gefnogi’r ecosystem hon a byddwn yn canolbwyntio ar sicrhau bod y BBC yn gallu parhau i chwarae rhan ganolog yn nhwf economi greadigol y DU.
Mae ein polisi yn canolbwyntio ar sbarduno twf
-
Sicrhau bod y BBC yn sbarduno twf yn y gwledydd a’r rhanbarthau ac yn cefnogi cynyrchiadau annibynnol, gan ganolbwyntio ar glystyrau a chanolfannau rhagoriaeth.
-
Sicrhau bod y BBC yn ystyried gofynion ehangach o ran sgiliau a gweithlu’r diwydiant er mwyn mynd i’r afael â bylchau mewn sgiliau a chefnogi llwybrau gyrfa ystyrlon ledled y DU.
-
Galluogi’r BBC i fuddsoddi mewn technoleg ac ymchwil a datblygu ar gyfer canlyniadau twf yn ogystal â gwerth cyhoeddus.
-
Annog y BBC i ymrwymo i bartneriaethau gwell sydd o fudd i’r ddwy ochr, ac sydd o fudd i’r diwydiannau creadigol ehangach - er mwyn sbarduno twf a chefnogi amgylchedd gwybodaeth iach fel y nodir ym Mhennod 2.
-
Diweddaru rheoliadau effaith y BBC ar y farchnad i gefnogi gallu’r BBC i addasu yn ogystal â diogelu’r sector ehangach rhag effeithiau niweidiol gweithgarwch y BBC.
Mae hyn yn cyd-fynd â Chynllun Sector y Diwydiannau Creadigol, sy’n ceisio sicrhau mai’r DU yw’r gyrchfan orau yn y byd ar gyfer buddsoddi mewn creadigrwydd ac arloesedd, a hybu twf yn ein sector ffilm a theledu sydd gyda’r gorau yn y byd.
Adran 1: Sbarduno twf ledled y DU a chefnogi’r economi greadigol
Y cyd-destun
Mae’r BBC yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o sbarduno twf. Nid yn Llundain yn unig y mae’r BBC yn cael effaith economaidd: Mae 50% o effaith uniongyrchol y BBC yn cael ei chynhyrchu y tu allan i Lundain, o’i chymharu ag 20% ar gyfer yr is-sector yn ei gyfanrwydd.[footnote 66] Yn 2012, dim ond 32% oedd y ffigur.[footnote 67] Er enghraifft, o ganlyniad i adleoli llawer o swyddogaethau’r BBC i MediaCityUK, Salford, yn 2011, mae llawer o sefydliadau mawr hefyd wedi symud gweithrediadau allweddol i’r ardal gan gynnwys SIS, ITV ac Ericsson. Mae hyn wedi arwain yn uniongyrchol at dwf sylweddol o 142% mewn swyddi yn y sector creadigol a digidol yn Salford rhwng 2010 a 2019, sy’n dangos y math o effaith ar bobl mewn rhanbarth.[footnote 68]
-
Mae 50% o effaith economaidd uniongyrchol y BBC yn cael ei chynhyrchu y tu allan i Lundain, o’i chymharu ag 20 y cant ar gyfer yr is-sector yn ei gyfanrwydd
-
Roedd y BBC yn gyfrifol am 39% o allforion teledu’r DU yn 2023
Mae’r BBC wedi bod yn allweddol o ran creu cynyrchiadau o safon o’r DU, ac mae gan bob sioe sy’n taro ein sgriniau neu ein setiau radio gynhyrchwyr, awduron, actorion, rhedwyr, adeiladwyr setiau, gweithredwyr camera, dylunwyr gwisgoedd, dylunwyr sain a llawer mwy sy’n gwneud i hyn ddigwydd, gan roi hwb i’r economi yn lleol ac yn genedlaethol. Mae ei ddull strategol o fuddsoddi wedi helpu i wneud y DU yn gyrchfan fwy deniadol a hyfyw i fuddsoddwyr rhyngwladol, sy’n sail i’r twf rydym wedi’i weld dros y blynyddoedd diwethaf. Mae’r BBC hefyd yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o sicrhau’r gwerth mwyaf i eiddo deallusol Prydain, ac roedd yn gyfrifol am 39% o allforion teledu’r DU yn 2023.[footnote 69]
Mae ymchwil KPMG wedi dangos, yn ogystal â buddsoddiad uniongyrchol mewn cynyrchiadau, y gellir olrhain effaith economaidd ychwanegol y BBC yn ôl i ychydig o weithgareddau allweddol:
-
Buddsoddiad cenedlaethol a lleol mewn cynnwys a chomisiynu ar gyfer teledu, radio a digidol. Mae rôl y BBC o ran sbarduno twf a datblygiad economaidd mewn dinasoedd fel Manceinion, Caerdydd a Birmingham wedi bod yn sylfaenol o ran adeiladu economïau creadigol iach a chynaliadwy ym mhob rhanbarth. Mae hyn wedi arwain at ddatblygu clystyrau creadigol (ardaloedd sydd â chrynodiad uchel o weithgarwch y diwydiant creadigol) ledled y DU.[footnote 70]
-
Buddsoddi mewn pobl a sgiliau. Yn 2024/25, gwariodd y BBC £11.76 miliwn ar hyfforddiant.[footnote 71] Mae hyn yn rhoi hwb i gynhyrchiant ei staff ei hun yn ogystal ag unigolion a sefydliadau sy’n elwa o gynlluniau sgiliau a hyfforddi’r BBC. Mae strategaethau’r BBC ar gyfer canfod a meithrin talent newydd o fudd i’r sector cyfan. Mae unigolion sy’n dechrau eu gyrfaoedd yn y BBC yn aml yn mynd ymlaen i greu cynnwys ar gyfer amrywiaeth eang o sefydliadau ledled y DU. Mae’r gronfa o dalent fedrus iawn sydd wedi cael ei hyfforddi gan y BBC hefyd wedi helpu’r DU i ddenu mewnfuddsoddiad gan y rheini sy’n ceisio cael gafael ar rywfaint o’r arbenigedd creadigol gorau yn y byd.
-
Buddsoddi ac arloesi ym meysydd technoleg, ymchwil a datblygu. Ers 1930, mae’r BBC wedi arwain y ffordd ar ddatblygiadau technolegol, o ddatblygu’r gwasanaeth teledu lliw cyffredin cyntaf yn Ewrop, i Ddarlledu Sain Digidol (DAB). Mae’r datblygiadau arloesol hyn yn caniatáu i’r BBC a’r sector ehangach wneud arbedion cost a chynyddu cynhyrchiant, gan wneud y DU yn lle deniadol ac arloesol i wneud busnes.
Yr achos dros newid
Er bod y BBC wedi bod yn sbardun enfawr i fuddsoddiad cyson a pharhaus yn sector creadigol y DU ers iddo gael ei sefydlu, rhaid iddo addasu i ecosystem sy’n newid.
Mae’r sector, sy’n dibynnu ar weithwyr medrus, creadigrwydd ac arloesedd i barhau i dyfu, wedi cael ei weddnewid yn ystod y blynyddoedd diwethaf.[footnote 72] Yn y DU, rydym wedi gweld mwy o gomisiynwyr rhyngwladol yn buddsoddi, sydd wedi arwain at gynnydd yn y galw am dalent ac adnoddau. Yn fyd-eang, rhagwelir y bydd gwariant ar gynnwys yn 2025 yn cyrraedd $248 biliwn, ac y bydd gwariant gan wasanaethau fideo-ar-alw yn rhagori ar ddarlledwyr masnachol am y tro cyntaf. Yn y DU, cynyddodd buddsoddiad mewn cynnwys domestig o £3.5 biliwn yn 2016 i gyfanswm o £5.3 biliwn yn 2023[footnote 73]. Daeth £1.6 biliwn o’r buddsoddiad hwn yn 2023 o wasanaethau fideo-ar-alw, o’i gymharu â £0.1 biliwn yn 2016. Daeth £1.2 biliwn yn uniongyrchol gan y BBC.[footnote 74]
- Yn y DU, cynyddodd buddsoddiad mewn cynnwys domestig o £3.5 biliwn yn 2016 i £5.3 biliwn yn 2023
Cynllun Sector y Diwydiannau Creadigol
Mae’r llywodraeth yn mynd ar drywydd mesurau i sicrhau bod y DU yn cadw ei safle fel cyrchfan o ddewis ar gyfer mewnfuddsoddi.[footnote 75] Mae Cynllun Sector y Diwydiannau Creadigol yn nodi gweledigaeth glir ar gyfer diwydiant cryf yn y DU sydd o fudd i’r DU a’i phartneriaid rhyngwladol. Mae’n cynnwys ymyriadau i ddatgloi cyllid, gyda chynnydd sylweddol yn y cymorth i fusnesau creadigol gan Fanc Busnes Prydain, a mwy o gyllid cyhoeddus, gan gynnwys £100 miliwn ar gyfer y don nesaf o glystyrau creadigol Ymchwil a Datblygu. Nod y Cynllun Sector yw cryfhau’r ffynhonnell o sgiliau creadigol drwy’r cynnig Twf a Sgiliau newydd, ac rydym yn gweithio mewn partneriaeth â’r diwydiant i ddarparu gwasanaeth gyrfaoedd creadigol gwerth £9 miliwn ledled y DU. Mae hefyd yn cynnwys mesurau i warchod ecoleg ein cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus cymysg.
Mae’r gefnogaeth hon i’n darparwyr cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus yn hanfodol wrth i’r farchnad barhau i newid. Yn dilyn y cynnydd ar ôl COVID-19, arafodd y comisiynu yn 2023, gydag effeithiau dilynol yn sgil streiciau’r awduron a’r perfformwyr yn yr Unol Daleithiau.[footnote 76] Cynyddodd cyfanswm refeniw sector teledu’r DU 1.4% yn 2024, gyda refeniw rhyngwladol wedi gostwng 4.1%.[footnote 77] Mae darparwyr cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus masnachol wedi lleihau eu gwariant ar gynnwys dros y flwyddyn ddiwethaf, gan roi rhagor o bwysau ar gynhyrchwyr annibynnol.[footnote 78] Mae llawer o blith y 200,000 o aelodau’r gweithlu bellach yn cael eu tangyflogi.[footnote 79] Mae rhanddeiliaid yn y diwydiant wedi tynnu sylw at y ffaith bod hwn yn fater penodol y tu allan i Lundain.[footnote 80] Er bod clystyrau creadigol yn tyfu ledled y DU, mae 47% o’r gwaith creadigol wedi’i ganoli yn Llundain a De-ddwyrain Lloegr.
Rydym wedi ymrwymo i gynnal safle cryf sector sgrin y DU yn rhyngwladol. Mae pwysigrwydd y BBC i’r sector, yn annog buddsoddiad sefydlog parhaus, yn dal yn hanfodol. Mae’r BBC mewn sefyllfa unigryw, o ystyried ei faint a’i raddfa, i fod yn sbardun i annog twf iach a chynaliadwy yn y sector. Mae’n eirioli dros ddiwydiannau sgrin a sain Prydain, ac yn buddsoddi mwy mewn cynnwys gwreiddiol o Brydain nag unrhyw un arall, gyda 99% o’i gynnwys gwreiddiol yn cael ei wneud yn y DU.[footnote 81] Gall presenoldeb y BBC drawsnewid rhanbarth cyfan, ac mae’n mynd i’r afael â hynny’n strategol drwy ei raglen Across the UK. Disgwylir iddo agor ei bencadlys yn Digbeth, Birmingham yn 2027, gyda’r nod o greu mwy na 900 o swyddi a 200 o fusnesau creadigol newydd yn y rhanbarth dros y degawd nesaf.
Mae model cyllido cyhoeddus y BBC yn golygu ei fod hefyd, i ryw raddau, yn cael ei warchod rhag y pwysau masnachol a wynebir gan sefydliadau eraill:
-
O dan ei Genhadaeth a’i Ddibenion Cyhoeddus, mae’n cael ei gyfarwyddo i fuddsoddi mewn gweithgareddau sy’n ychwanegu gwerth na fydd sefydliadau eraill yn gallu eu hariannu o bosibl
-
Mae’n gallu mynd ar drywydd risgiau creadigol heb bwysau enillion ariannol uniongyrchol na dibyniaeth ar niferoedd cynulleidfaoedd a refeniw hysbysebu yn unig
-
Gall fuddsoddi mewn sectorau a allai fod yn anatyniadol i ffrydwyr a buddsoddwyr rhyngwladol eraill
Er enghraifft, mae’r BBC yn gwneud dwbl nifer yr oriau comedi gwreiddiol o’r DU na’r holl ddarlledwyr a ffrydwyr eraill gyda’i gilydd. Buddsoddodd bron i £67.1 miliwn mewn comedi teledu yn 2024, mwy na dwbl y gwariant gan bob un o’r darlledwyr a’r ffrydwyr eraill, gan gynnwys Netflix, Apple TV a Disney.[footnote 82] Mae hyn yn cefnogi swyddi ac yn darparu gwerth allforio, ond mae hefyd yn creu gwerth cymdeithasol yn y DU a thramor.
Mae strwythur a chyllid y BBC yn caniatáu iddo chwarae rhan unigryw a hanfodol yn y dirwedd greadigol, gan wynebu heriau a chefnogi prosiectau na fyddent fel arall o bosibl yn dod o hyd i fuddsoddiad mewn amgylchedd sy’n cael ei sbarduno gan y farchnad yn unig. Mae’r Adolygiad o’r Siarter yn gyfle i nodi beth arall y gellir ei wneud i gefnogi’r sector cyfan.
Ein huchelgais
Mae ar y llywodraeth eisiau BBC ffyniannus sy’n cael ei annog a’i rymuso i sbarduno twf yr economi greadigol ledled y DU. Mae arnom eisiau i’r BBC fod yn fwy uchelgeisiol o ran sbarduno twf economaidd, yn enwedig yn y gwledydd a’r rhanbarthau, gydag ymrwymiadau cryfach i adeiladu clystyrau a chomisiynu cynaliadwy i hybu swyddi a buddsoddiad.
Rydym yn gwybod am y rôl bwerus y gall y BBC ei chwarae o ran datblygu’r gweithlu y mae’r sector wedi’i adeiladu arno, ond gallai fynd ymhellach o ran datblygu sgiliau a llwybrau gyrfa. Mae arnom hefyd eisiau archwilio sut gall y BBC fod yn fwy uchelgeisiol o ran ei ddull o ymchwilio, datblygu ac arloesi.
Ochr yn ochr â hyn, rydym yn cytuno â chais Ofcom am bartneriaethau mwy uchelgeisiol ymysg darparwyr cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus a chydag eraill yn y sector, i gefnogi eu cynaliadwyedd a bod o fudd i gynulleidfaoedd. Mae arnom eisiau i’r BBC fynd ymhellach o ran defnyddio ei gyllid cyhoeddus i ddatblygu partneriaethau gwell sydd o fudd i bawb, gyda darparwyr cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus a sefydliadau eraill.
Opsiynau rydym yn eu hystyried
Mae’r meysydd rydym am eu harchwilio i ysgogi twf yn cynnwys:
-
Diben Cyhoeddus newydd, unigryw i’r BBC sbarduno twf economaidd ledled y DU a chefnogi’r economi greadigol.
-
Datgloi twf yn y gwledydd a’r rhanbarthau.
-
Cefnogi cynyrchiadau annibynnol ar draws pob math o gyfryngau.
-
Datblygu’r gweithlu a sgiliau.
-
Rôl y BBC ym meysydd technoleg, ymchwil a datblygu.
-
Annog y BBC i gyflawni mwy drwy gydweithio a phartneriaethau.
1. Diben Cyhoeddus o ran sbarduno twf economaidd a chefnogi’r economi greadigol
Rydym yn ystyried creu Diben Cyhoeddus newydd i’r BBC sy’n canolbwyntio ar sbarduno twf economaidd, er mwyn pwysleisio pa mor bwysig yw hi bod y BBC yn defnyddio ei raddfa, ei gyrhaeddiad a’i ddylanwad i fynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu’r economi greadigol ledled y DU. Byddai Diben Cyhoeddus annibynnol yn adlewyrchu’r pwysigrwydd y mae’r llywodraeth a’r BBC yn ei roi ar rôl y BBC yn sbarduno twf, a’i safle unigryw sy’n sail i economi greadigol ehangach y DU. Yn y pen draw byddai o fudd i’r cyhoedd drwy roi hwb i economïau lleol a darparu swyddi.
2. Datgloi twf yn y gwledydd a’r rhanbarthau
Mae rhyddhau potensial llawn ein dinas-ranbarthau a’n clystyrau ledled y DU yn un o amcanion craidd Cynllun Sector y Diwydiannau Creadigol. Fel y cyfeirir ato yn y bennod hon, mae’r BBC wedi bod yn rhan sylfaenol o adeiladu clystyrau creadigol, yn enwedig yn yr ardaloedd sydd â’r potensial mwyaf ar gyfer twf rhanbarthol, gan gynnwys Manceinion Fwyaf, Belfast, Caerdydd, Bryste, Glasgow a Gorllewin Canolbarth Lloegr a Gogledd-ddwyrain Lloegr.[footnote 83]
Hoffem i’r BBC sbarduno twf ymhellach yn y gwledydd a’r rhanbarthau, gan ganolbwyntio ar dyfu clystyrau creadigol a chanolfannau rhagoriaeth, a chefnogi twf cynyrchiadau ym Mhrydain.
Un maes rydym yn edrych arno yw ei gwneud yn ofynnol i’r BBC symud mwy o bwerau comisiynu a gwneud penderfyniadau cyllidebol y tu allan i Lundain. Mae hyn yn rhywbeth y mae’r BBC eisoes yn ceisio ei gyflawni drwy ei strategaeth Across the UK.
Fel y soniwyd yn y bennod flaenorol, mae’r BBC yn gosod cwotâu ar gyfer gwariant ac oriau rhaglenni teledu rhwydwaith sy’n cael eu gwneud y tu allan i’r M25. Mae’r fframwaith ar gyfer system cwota darlledu gwasanaeth cyhoeddus wedi’i nodi yn Neddf Cyfathrebiadau 2003 ac yng Nghytundeb Fframwaith y BBC, sy’n grymuso Ofcom i bennu amodau sy’n mynnu bod “cyfran addas” o oriau a gwariant y tu allan i’r M25. Mae’r dull rheoleiddio hwn yn golygu bod modd addasu rhwymedigaethau’r BBC mewn ffordd fwy deinamig.
Perfformiad y BBC yn erbyn ei gwotâu ar gyfer gwneud rhaglenni teledu yn y gwledydd a’r rhanbarthau
Canran yr oriau a’r gwariant ar raglenni teledu rhwydwaith a wnaed y tu allan i Lundain yn 2024/25[footnote 84] a 2023/24[footnote 85]
| Ardal | Cwota | oriau 2024/25 | gwariant 2024/25 | oriau 2023/24 | gwariant 2023/24 |
|---|---|---|---|---|---|
| Y DU y tu allan i’r M25 | 50% | 68% | 61% | 69% | 60% |
| Lloegr (y tu allan i’r M25 | 30% | 42% | 36% | 42% | 38% |
| Yr Alban | 8% | 11% | 10% | 17% | 9% |
| Cymru | 5% | 11% | 9% | 6% | 8% |
| Gogledd Iwerddon | 3% | 3% | 4% | 3% | 4% |
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae rhai yn y sector wedi mynegi pryderon nad yw’r BBC bob amser yn bodloni ysbryd y cwotâu hyn. Er enghraifft, canfu ymchwil gan O&O Associates a gomisiynwyd gan Screen Scotland yn 2024 i gynyrchiadau ar gyfer y sgrin yn yr Alban mai dim ond pump o’r 15 cwmni cynhyrchu, a oedd yn gymwys fel rhai ‘Albanaidd’ o dan feini prawf Ofcom, a gafodd eu ffurfio yn yr Alban ac a oedd â’u pencadlys yno hefyd. Cafodd 80% o gyfanswm y penodau a wnaed gan y 15 prif gwmni ar gyfer y BBC eu comisiynu gan gynhyrchwyr a oedd â’u pencadlys yn Llundain. Ers hynny, mae’r BBC wedi cyhoeddi ym mis Mai 2025 ei fod yn cyflwyno newidiadau i’w ddull comisiynu y tu allan i Lundain i fynd ymhell y tu hwnt i feini prawf Ofcom.
Manteision mynnu bod y BBC yn symud mwy o bwerau gwneud penderfyniadau y tu allan i Lundain fyddai sicrhau bod effaith economaidd y BBC yn dal i gael ei theimlo ar draws y DU, gan fanteisio i’r eithaf ar ein clystyrau creadigol o’r radd flaenaf yn y gwledydd a’r rhanbarthau. Mae hyn yn gwella gallu’r BBC a’r sector rhanbarthol ehangach i adlewyrchu profiadau cynulleidfaoedd ledled y DU. Er mwyn sicrhau’r effaith fwyaf bosibl, byddai hyn yn canolbwyntio’n bennaf ar y clystyrau a’r coridorau creadigol a nodir yng Nghynllun Sector y Diwydiannau Creadigol.
Byddwn yn edrych ymhellach ar amrywiaeth o ymyriadau i gefnogi’r BBC a’r sector cynhyrchu yn y gwledydd a’r rhanbarthau, a allai gynnwys:
-
rhagor o gwotâu neu rwymedigaethau sy’n ymwneud â chynhyrchu yn y gwledydd a’r rhanbarthau, neu wneud addasiadau i’r cwotâu ‘y tu allan i Lundain’ fel y nodir uchod
-
targedau newydd ar gyfer lleoli uwch staff comisiynu y tu allan i Lundain
-
newidiadau llywodraethu i ddatganoli cyllidebau a gwneud penderfyniadau i gomisiynwyr rhanbarthol neu strwythurau llywodraethu rhanbarthol eraill
-
ymrwymo’r BBC i ddatblygu rhagor o strategaethau tymor hir ar gyfer datblygu’r sector creadigol rhanbarthol, gan adeiladu ar y rhaglen Across the UK bresennol; a
-
diwygio’r rheolau sy’n ymwneud â’r BBC yn rhoi comisiynau i gwmnïau cynhyrchu annibynnol, er mwyn ychwanegu elfen ranbarthol neu ddaearyddol.
3. Cefnogi cynyrchiadau annibynnol ar draws pob math o gyfryngau
Er bod y BBC eisoes yn gwneud gwaith da i gefnogi’r sector cynhyrchu annibynnol, yn enwedig ym maes teledu, rydym yn edrych ar ymyriadau i gefnogi’r sector cynhyrchu annibynnol yn ehangach.
Mae gan y BBC gwotâu ar gyfer cynyrchiadau annibynnol ar draws ei allbwn teledu a radio. Mae’r Siarter bresennol yn nodi y dylai 100% o gynnwys teledu perthnasol fod yn agored i gystadleuaeth erbyn diwedd 2027. Rhaid i o leiaf 25% o oriau teledu cymwys y BBC gael eu gwneud gan gynhyrchwyr annibynnol. Mae’r BBC yn perfformio’n dda yn erbyn y cwotâu hyn, gyda 34% o’i oriau cymwys yn cael eu gwneud gan gynhyrchwyr annibynnol yn 2024/25.
Mae’r siarter bresennol yn nodi’r canlynol:
-
Rhaid i o leiaf 25% o oriau teledu cymwys y BBC gael eu gwneud gan gynhyrchwyr annibynnol
-
Roedd 34% o oriau cymwys y BBC wedi cael eu gwneud gan gynhyrchwyr annibynnol yn 2024/25
Roedd y BBC yn gweithio gydag amrywiaeth eang o gwmnïau cynhyrchu annibynnol yn 2024/25:
-
301 o gwmnïau cynhyrchu teledu annibynnol a
-
245 o gwmnïau cynhyrchu radio annibynnol”
Mae’r BBC hefyd yn gweithio gydag amrywiaeth eang o gwmnïau cynhyrchu annibynnol. Bu’n gweithio gyda 301 o gwmnïau cynhyrchu teledu annibynnol a 245 o gwmnïau cynhyrchu radio annibynnol yn 2024/25.[footnote 86]
Ar gyfer radio, mae o leiaf 60% o raglenni heb fod yn rhaglenni newyddion yn agored i gystadleuaeth ar hyn o bryd o dan y Cytundeb Fframwaith.[footnote 87] Mae rhanddeiliaid yn y maes radio/sain wedi galw am gynyddu’r nifer hwn er mwyn cefnogi’r sector sain annibynnol yn well, yn enwedig wedi i BBC Studios Audio gael ei lansio yn 2023.
Mae arnom eisiau hybu twf ar draws ein holl sectorau creadigol pwysig. Gallai hyn gynnwys:
-
diwygio’r cwotâu cystadleuaeth comisiynu radio i gefnogi cynhyrchu radio ym Mhrydain, gan sicrhau ein bod yn cael cydbwysedd rhwng cystadleuaeth iach â darparu gwasanaethau gwerthfawr i’r rhai sy’n talu ffi’r drwydded
-
archwilio sut gall y BBC gefnogi fformatau sy’n dod i’r amlwg, gan gynnwys podlediadau a chynnwys ffurf fer
-
edrych ar sut gall y BBC gefnogi’r sector cynhyrchu ffilmiau annibynnol yn well, gan gynnwys comisiynu a hyrwyddo ffilmiau o Brydain.
Ffordd arall o roi hwb i gefnogaeth y BBC i’r sector cynhyrchu ym Mhrydain yw edrych ar sut gall fanteisio i’r eithaf ar botensial Eiddo Deallusol Prydain, gan gynnwys sut mae BBC Commercial yn gweithio gyda’r sector cynhyrchu annibynnol. Mae hyn yn golygu grymuso BBC Studios i barhau i dyfu. Mae BBC Studios yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o sicrhau’r gwerth mwyaf posibl i gynnwys o Brydain, darparu llwybrau i farchnadoedd a phartneriaethau byd-eang na fyddent yn bodoli fel arall o bosibl i lawer o gynhyrchwyr annibynnol yn y DU, a helpu i sbarduno’r galw am straeon o Brydain dramor. Mae BBC Studios yn dod ag amrywiaeth o fanteision i’r economi greadigol ledled y DU. Amcangyfrifir bod Doctor Who, sy’n cael ei gynhyrchu yng Nghymru gan Bad Wolf a BBC Studios ar ran y BBC, wedi darparu £135 miliwn mewn Gwerth Ychwanegol Gros (GVA) i economi Cymru rhwng 2004 a 2021. Mae hefyd wedi bod yn gatalydd ar gyfer y sector sgrin sy’n tyfu yng Nghymru, gan gefnogi amrywiaeth o swyddi, cyfleoedd a llwybrau gyrfa.[footnote 88] Yn y bennod ganlynol, rydym yn rhoi rhagor o fanylion am opsiynau ar gyfer hybu twf BBC Studios.
4. Datblygu’r gweithlu a sgiliau
Mae Cytundeb Fframwaith y BBC eisoes yn cynnwys gofyniad i ‘wneud cyfraniad effeithiol at baratoi a chynnal gweithlu medrus iawn ym maes y cyfryngau’ ac ar hyn o bryd mae’r BBC yn cynnig amrywiaeth eang o gynlluniau sgiliau a datblygu.[footnote 89] Mae’r rhain yn cynnwys hyfforddiant, prentisiaethau a bwrsariaethau sy’n cefnogi’r gwaith o ddatblygu talent a llafur ledled y wlad. Rydym yn edrych ar opsiynau i wella ac addasu rhwymedigaethau’r BBC, er mwyn iddo barhau i chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o ddatblygu sgiliau ar gyfer y sector.
Gallai’r opsiynau gynnwys:
-
addasu uchelgais targedau’r BBC ar gyfer hyfforddiant a phrentisiaethau, neu gynnwys mwy o fanylion mewn targedau, er enghraifft ynghylch hyfforddiant yn y gwledydd a’r rhanbarthau
-
annog y BBC i ystyried ffynonellau sgiliau ac anghenion ehangach y gweithlu ar draws y diwydiannau creadigol, a gweithio mewn partneriaeth â’i gyflenwyr trydydd parti, darparwyr addysg, cyrff yn y diwydiant a darparwyr cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus eraill i helpu i fynd i’r afael â bylchau mewn sgiliau ar draws y sector
-
sicrhau bod y BBC yn defnyddio ei lwyfan helaeth i gefnogi talent newydd a dangos bod y diwydiannau creadigol yn ddewisiadau gyrfa hyfyw, gan gynnwys ar gyfer grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli
Mae’n debyg y byddai cynllun mwy uchelgeisiol ar gyfer rôl y BBC mewn sgiliau, hyfforddiant a datblygu’r gweithlu yn arwain at oblygiadau cost y bydd yn rhaid i ni eu hystyried yn ystod yr Adolygiad o’r Siarter.
5. Rôl y BBC ym meysydd technoleg, ymchwil a datblygu
Mae Strategaeth Ddiwydiannol y llywodraeth yn nodi sut bydd y sectorau creadigol yn hyrwyddo’r don nesaf o arloesi yn y DU, gan bweru’r gwaith o ddatblygu modelau deallusrwydd artiffisial gwerth uchel a hwyluso’r gwaith o ddatblygu cymdeithas sy’n gallu defnyddio technoleg. Gallai’r Adolygiad hwn o’r Siarter roi mwy o rôl i’r BBC arloesi mewn meysydd lle gallai greu mwy o dwf ac arbedion effeithlonrwydd yn y diwydiannau creadigol, a rhannu’r datblygiadau arloesol hyn er budd y sector a’r cyhoedd yn ehangach.
Mae gan y BBC hanes hir o arloesi. Ers dros ganrif, mae wedi cydweithio ag eraill i arloesi mewn technolegau newydd ac mae wedi rhannu’r dyfeisiadau hyn â gweddill y byd, gan annog eraill i’w mabwysiadu’n ehangach ac ail-lunio ein hecosystem cyfryngau yn sylfaenol. Mae’r BBC wedi arwain y farchnad mewn technolegau dosbarthu drwy wasanaethau fel BBC iPlayer; ac mae ei bartneriaethau â’r byd academaidd ar brosiectau fel AI4ME yn sicrhau y bydd diwydiannau creadigol y DU ar flaen y gad o ran profiadau cyfryngau yn y dyfodol. Felly mae gwaith ymchwil, datblygu ac arloesi’r BBC wedi creu gwerth sylweddol nid yn unig i’r BBC, ond hefyd i’w gynulleidfaoedd, a’r diwydiant ehangach mewn ffyrdd sy’n llawer mwy na chostau’r gweithgareddau hyn. Mae amcangyfrifon ceidwadol yn awgrymu, yng nghyfnod blaenorol y Siarter (2007 i 2017), am bob punt a wariodd y BBC ar ymchwil a datblygu, cynhyrchwyd £5 i £9 yn ychwanegol mewn gwerth.[footnote 90] Mae’r effaith hon hefyd yn cael ei chydnabod yn rhyngwladol, ac eleni cafodd tîm ymchwil a datblygu’r BBC ei anrhydeddu gan yr Academi Deledu gyda gwobr Emmy ym maes Peirianneg, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, sy’n cydnabod cyfraniadau parhaus y BBC i’r diwydiant cyfryngau ers dros 90 mlynedd.
mae amcangyfrifon yn awgrymu, yng nghyfnod y Siarter blaenorol (2007 i 2017), am bob punt a wariodd y BBC ar ymchwil a datblygu, cynhyrchwyd £5 i £9 yn ychwanegol mewn gwerth
Fodd bynnag, yn y Siarter bresennol cafodd Diben Cyhoeddus y BBC ar ddarparu technolegau newydd er budd y cyhoedd ei ddileu. Mae Prif Beiriannydd Ymchwil a Datblygu’r BBC wedi dweud bod incwm cyffredinol y BBC wedi gostwng, bod gwariant ar ymchwil a datblygu wedi dod yn anoddach ei gyfiawnhau, ac wedi gostwng yn unol â meysydd gwariant eraill y BBC.[footnote 91] Yn ystod cyfnod o lawer o graffu, roedd y BBC yn wynebu pwysau cynyddol i gyfiawnhau sut roedd yn defnyddio ffi’r drwydded.
Er bod y BBC wedi parhau i arloesi dros y degawd diwethaf, efallai y bydd cyfle i fynd ymhellach wrth i dechnolegau newydd ddod i’r amlwg, gan sicrhau manteision i gynulleidfaoedd a’r sector ehangach. Rhaid i ni gydnabod bod y mathau hyn o weithgareddau yn gallu bod yn ddrud ac yn risg uchel, ac maent hefyd yn digwydd mewn cyd-destun lle mae’r BBC yn cystadlu â chwmnïau technoleg byd-eang a’u hadnoddau sylweddol.
Fodd bynnag, efallai y bydd manteision i’r BBC o ran ei effeithlonrwydd gweithredol a’i gynaliadwyedd ariannol ei hun. Er enghraifft gallai harneisio galluoedd deallusrwydd artiffisial helpu’r BBC i gyflawni ei gylch gwaith am gost is. Mae’r BBC hefyd mewn sefyllfa unigryw i rannu arferion gorau a chefnogi’r sector ehangach i elwa o unrhyw ddatblygiadau ac arbedion effeithlonrwydd. Er enghraifft, cadeiriodd y BBC y pwyllgor rhyngwladol a ddatblygodd DVB-T2, manyleb dechnegol a oedd yn galluogi darlledu manylder uwch mwy effeithlon ar deledu daearol digidol. Yn 2018, amcangyfrifir bod y budd economaidd ehangach sy’n deillio o gyfraniad y BBC rhwng £77 miliwn a £152 miliwn.[footnote 92] Roedd Cynllun Gweithredu Cyfleoedd Deallusrwydd Artiffisial y llywodraeth hefyd wedi nodi cyfle masnachol posibl i sefydliadau diwylliannol Prydain drwyddedu eu setiau data ar raddfa fawr.
Gallai’r opsiynau gynnwys:
-
rhoi ymchwil, datblygu ac arloesi’n gadarn yn ôl wrth galon gweithgareddau gwasanaeth cyhoeddus y BBC, o bosibl fel rhan o Ddiben Cyhoeddus newydd ar gyfer sbarduno twf
-
edrych ar ymyriadau mwy penodol, fel ffurfioli rôl y BBC fel canolfan ar gyfer prosiectau gwerth cyhoeddus lle mae’r cynnyrch a’r datblygiadau arloesol sy’n deillio o hynny yn cael eu rhannu â sefydliadau eraill sy’n rhannu Cenhadaeth a nodau’r BBC
6. Annog y BBC i gyflawni mwy drwy gydweithio a phartneriaethau
Un thema rydym yn edrych arni yn yr Adolygiad o’r Siarter yw annog y BBC i ymrwymo i bartneriaethau mwy ystyrlon sydd o fudd i’r holl bartïon dan sylw, er mwyn cryfhau’r diwydiannau creadigol a’r farchnad cyfryngau. Nod hyn fyddai ceisio darparu cynnwys a gwasanaethau o ansawdd uwch byth i gynulleidfaoedd, a chynyddu gwerth am arian i’r rheini sy’n talu ffi’r drwydded.
Mae’r Siarter bresennol yn nodi’n glir y dylai’r BBC ffurfio partneriaethau â sefydliadau er budd y cyhoedd. Mae’r BBC wedi dweud ei fod yn bwriadu cynyddu ei uchelgais i archwilio partneriaethau â’r diwydiant ehangach, yn enwedig ar draws y cyfryngau a thechnoleg, i’w alluogi i addasu i dechnolegau a marchnadoedd sy’n newid.[footnote 93] Gallai hyn gynnwys adeiladu ar ei bartneriaethau rhyngwladol, fel ei bartneriaeth â chwmni cyfryngau’r Unol Daleithiau NBCUniversal i gydgomisiynu The Traitors a The Traitors US, sy’n eu galluogi i rannu lleoliadau a chyflenwyr, a graddio’r fformat yn rhyngwladol.
Efallai y bydd mwy y gall y BBC ei wneud yn rhagweithiol hefyd i gefnogi rhai o’r marchnadoedd gwerth cyhoeddus y mae’n gweithredu ynddynt, fel newyddion lleol a radio/sain, lle mae digideiddio wedi tarfu’n ddigynsail yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Fel y nodir yn Adolygiad Ofcom o Gyfryngau Gwasanaeth Cyhoeddus, mae lle i’r BBC a darparwyr cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus weithio mewn partneriaeth mewn ffordd fwy cydweithredol.[footnote 94] Rydym yn cytuno ag Ofcom bod angen partneriaethau mwy uchelgeisiol ymysg darparwyr cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus, a chydag eraill yn y sector, i gefnogi eu cynaliadwyedd a bod o fudd i gynulleidfaoedd. Mae hyn yn arbennig o wir o ran technoleg newydd, lle mae angen i ddarparwyr cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus gael graddfa briodol i gystadlu.
Byddwn yn edrych ar annog y BBC i adeiladu ar bartneriaethau presennol fel Freely, gan ganiatáu mwy o gydweithio ar wasanaethau a llwyfannau, i helpu i greu sector mwy cydweithredol sy’n gallu gwasanaethu pob cynulleidfa ac ar draws dyfeisiau yn y ffordd orau. Bydd angen i ni gydbwyso hyn â’r effeithiau posibl ar gystadleuaeth y gallai galluogi partneriaethau gwell eu creu.
Mae gan y BBC rwymedigaethau eisoes yn y Siarter ynghylch gwarantu bod partneriaethau’n ‘deg ac yn fuddiol’. Mae arnom eisiau sicrhau bod y BBC a’i bartneriaid yn teimlo eu bod wedi’u grymuso i siapio prosiectau ar y cyd gyda’i gilydd.
Rydym yn ystyried opsiynau i annog y BBC i gyflawni mwy drwy gydweithio a phartneriaethau:
-
Cyflwyno mwy o fanylder penodol yn y Siarter. Yn benodol, mynnu y dylai’r BBC ymrwymo i bartneriaethau er mwyn datblygu neu gynnal sector creadigol cystadleuol a ffyniannus yn y DU, a/neu arloesi technolegol. Gallai hyn fod gyda’r bwriad o ‘gynnwys’ darparwyr eraill ac, yn y sefyllfa waethaf bosibl, defnyddio partneriaethau i liniaru unrhyw fethiannau yn y farchnad mewn achosion lle byddai’n gymesur i’r BBC wneud hynny. Enghraifft o hyn yw mynd i’r afael â bylchau mewn sgiliau drwy weithio mewn partneriaeth â sefydliadau yn y sector creadigol lleol i ddarparu interniaethau a hyfforddiant.
-
Ar hyn o bryd, mae’r rhwymedigaeth o fod yn ‘deg a buddiol’ yn rhoi sylw penodol i gydnabod partneriaid a phriodoli eu cyfraniad yn briodol, gan gynnwys o ran brandio a hyrwyddo. Byddwn yn defnyddio’r broses o Adolygu’r Siarter i drafod â’r BBC a’i bartneriaid sut beth yw partneriaeth ‘dda’ y tu hwnt i briodoli a chydnabod.
-
Newid rhwymedigaeth bresennol y Siarter (i’r BBC ffurfio partneriaethau ag amrywiaeth o sefydliadau er budd y cyhoedd), i gynnwys darparwyr cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus yn benodol ar y rhestr hon o sefydliadau.
-
Cynnwys rhwymedigaeth sy’n benodol i’r Siarter i’r BBC ystyried ffurfio partneriaethau gwell gyda darparwyr cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus eraill. Efallai y bydd hyn yn golygu gwneud newidiadau i’r fframwaith rheoleiddio cystadleuaeth a nodir yn y Siarter a’r Cytundeb Fframwaith, er mwyn creu amgylchedd lle gall darparwyr cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus ymrwymo i bartneriaethau gwell yn y dyfodol os byddant yn dewis gwneud hynny.
Astudiaeth achos: Freely
Mae’r BBC yn ymrwymo mewn partneriaethau â darparwyr cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus eraill y DU: ITV, Channel 4 a Channel 5. Arweiniodd hyn at lansio Freely yn 2024, sy’n caniatáu i wylwyr ffrydio teledu byw ac ar-alw drwy fand eang, heb erial na dysgl.
Wrth i fwy a mwy o bobl gael gafael ar gynnwys drwy ffrydio yn hytrach na theledu daearol digidol, mae’n bwysig bod darparwyr cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus yn gallu addasu gyda’i gilydd. Mae Freely yn enghraifft o’r BBC yn gweithio mewn partneriaeth ag eraill i addasu i newidiadau yn arferion cynulleidfaoedd, gan ganiatáu i gynnwys creadigol o’r DU barhau i fod ar gael i bob cynulleidfa. Dros gyfnod nesaf y Siarter, dylai’r BBC, ynghyd â darparwyr cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus eraill barhau i weithio mewn partneriaeth, addasu ac arloesi i dyfu’r sector.

Comisiynwyd Blue Lights fel rhan o bartneriaeth y BBC a Northern Ireland Screen Cydnabyddiaeth: BBC/Two Cities Television/Matthias Clamer
Adran 2: Diweddaru’r gwaith o reoleiddio’r effaith ar y farchnad
Y cyd-destun
Mae mwy o ddewis nag erioed o’r blaen ar draws gwasanaethau teledu, radio, ffrydio a newyddion. Mae hyn wedi cynyddu lefel y gystadleuaeth y mae pob cyfrwng gwasanaeth cyhoeddus yn ei hwynebu, ond yn enwedig y BBC, sydd â chyfrifoldeb i fod yn gyffredinol a chyrraedd pob cynulleidfa.
Mae rhai o’r amodau rheoleiddio y mae’r BBC yn gweithredu oddi tanynt yn gadarnhaol ar gyfer sbarduno twf yn y sector. Er enghraifft, mae’n rhwym wrth drefn Telerau Masnach, sy’n sicrhau bod cynhyrchwyr annibynnol yn cadw mwy o’u heiddo deallusol, ac yn elwa ohono. Yn yr un modd, mae’r drefn gwotâu ar gyfer cynyrchiadau ledled y DU yn cefnogi twf y diwydiannau creadigol y tu allan i Lundain a De-ddwyrain Lloegr.
Mae’r prosesau rheoleiddio hyn hefyd yn ceisio sicrhau nad yw’r BBC yn achosi niwed diangen ac andwyol i gystadleuaeth deg ac effeithiol, drwy wthio darparwyr eraill o’r neilltu neu o bosibl gyfyngu ar dwf sectorau sy’n datblygu fel y sector sain.
Sut mae’r drefn o reoleiddio’r effaith ar y farchnad yn gweithio
Ar hyn o bryd mae’r BBC yn cael ei reoleiddio i sicrhau nad yw’n achosi effeithiau niweidiol ar gystadleuaeth pan fydd yn gwneud newidiadau i’w wasanaethau. Mae Ofcom yn gorfodi’r rheoliad hwn, ac yn gyfrifol am asesu unrhyw newidiadau posibl y bydd y BBC yn eu gwneud i’w wasanaethau cyhoeddus i sicrhau na fydd yn cael effeithiau andwyol nad oes modd eu cyfiawnhau ar ddarparwyr masnachol yn y sector.
Mae proses bresennol y BBC ar gyfer newid ei wasanaethau cyhoeddus yn cynnwys fframwaith rheoleiddio sydd wedi’i ddylunio i atal ystumio’r farchnad yn ormodol. Mae unrhyw newid sylweddol arfaethedig yn golygu bod angen i’r BBC gynnal asesiad budd y cyhoedd, gan amlinellu’r rhesymeg a’r effaith bosibl ar y farchnad. Yn dibynnu ar raddfa a natur y newid, gall Ofcom gynnal asesiad cystadleuaeth ffurfiol i sicrhau bod y cynigion yn deg ac yn gymesur, gan sicrhau tegwch i ddarparwyr cyfryngau eraill ym marchnad y DU.
Yr achos dros newid
Rydym wedi clywed gan y BBC a rhanddeiliaid yn y sector ehangach nad yw’r broses reoleiddio bresennol ar gyfer yr effaith ar y farchnad yn gweithio cystal ag y gallai. Er ein bod yn llwyr gefnogi parhad Ofcom fel rheoleiddiwr y BBC, mae angen rhai newidiadau i’r broses i adlewyrchu’r marchnadoedd y mae’r BBC yn gweithredu ynddynt, sy’n newid yn gyflym.
Mae problem amlwg o ran yr amser mae’n ei gymryd i wneud penderfyniadau ynghylch yr effaith ar y farchnad. Gall gymryd dros flwyddyn o’r amser y bydd y BBC yn penderfynu newid, hyd at gasgliad penderfyniad Ofcom ar y newidiadau. Mae’r BBC wedi dweud wrthym ei fod yn credu bod y broses hon, sy’n cymryd llawer o amser, yn llesteirio ei allu i dyfu a darparu ar gyfer cynulleidfaoedd. Mae hyn hefyd yn broblem i’r sector ehangach, sy’n gorfod bodloni gofynion tystiolaethol Ofcom a’r BBC a neilltuo adnoddau dros nifer o fisoedd. Mae rhanddeiliaid yn y sector radio wedi codi pryderon gyda’r Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon ynghylch yr amser a’r costau ariannol ar gyfer bodloni’r gofynion tystiolaethol, yn enwedig ar gyfer sefydliadau llai. Felly, mae er budd pawb, gan gynnwys cynulleidfaoedd, i sicrhau bod y broses yn effeithlon o ran cost ac amser. Mae hyn yn caniatáu i bartïon ymgysylltu’n ystyrlon yn y broses o wneud penderfyniadau ag Ofcom, ac i’r BBC wneud y newidiadau y mae angen iddo eu gwneud o fewn amserlen resymol.
Mae angen newid hefyd i adlewyrchu’r ffaith bod y marchnadoedd y mae’r BBC yn gweithredu ynddynt hefyd wedi esblygu dros y degawd diwethaf. Sefydlwyd y fframwaith rheoleiddio presennol mewn cyfnod pan oedd y BBC yn dal i weithredu mewn marchnadoedd a fformatau ‘traddodiadol’ ar y cyfan. Mae’n aml yn dal i chwarae rhan allweddol mewn llawer o’r rhain - er enghraifft, er bod ei gyfran o’r gynulleidfa wedi bod yn gostwng dros amser, cadwodd y BBC 43% o gyfran draddodiadol y farchnad radio rhwng mis Rhagfyr 2024 a mis Mawrth 2025.[footnote 95] Ond mae’r defnydd o gynnwys sain a gweledol wedi newid yn sylweddol ers 2017, gyda’r BBC yn cystadlu fwyfwy â sefydliadau cyfryngau rhyngwladol sydd â phocedi dyfnach.
Mae’r rôl wahanol y mae’r BBC yn ei chwarae mewn marchnadoedd gwahanol hefyd yn berthnasol yma. Mae twf ac aeddfedrwydd radio digidol wedi galluogi radio masnachol i ddatblygu a chynyddu ei refeniw. Mae mwy o gysylltedd ar-lein a ffonau clyfar wedi helpu i ddatblygu sector sain sy’n tyfu’n gyflym, gyda phodlediadau’n dod yn fwyfwy poblogaidd ar draws pob grŵp oedran. Yn y cyd-destun hwn, mae’r BBC wedi cynyddu ei arlwy sain ehangach drwy ddatblygu BBC Sounds. Fodd bynnag, mae rhai rhanddeiliaid wedi mynegi pryderon am rôl y BBC yn y farchnad newydd hon, ac i ba raddau y mae wedi effeithio ar allu cynhyrchwyr sain i foneteiddio eu cynnwys.
Cyrhaeddiad wythnosol podlediadau dros amser ac mewn grwpiau demograffig penodol Ch1 2025)
Ffynhonnell: Ofcom, Cyfryngau’r Genedl: Y DU 2025; RAJAR. Cyrhaeddiad wythnosol cyfartalog podlediadau ymysg oedolion 15 oed a hŷn bob chwarter ar bwysoliad 3 mis. Sylwer: mae’r llinell ddotiog yn nodi bod gwaith maes wedi'i ohirio o ddiwedd Ch1 2020 tan Ch3 2021 oherwydd cyfyngiadau symud Covid-19. Arweiniodd hyn at newidiadau dilynol mewn methodoleg, felly dylid bod yn ofalus wrth gymharu â chwarteri blaenorol.
Mae Ofcom wedi gwneud dyfarniadau pwysig yn y gofod sain, sy’n egluro’r angen i’r BBC fod yn sensitif i weithredwyr masnachol wrth ddatblygu gwasanaethau newydd mewn genres sy’n cael eu gwasanaethu’n dda a lle, o ganlyniad, mae cynnig arfaethedig y BBC yn llai unigryw. Mae hyn yn cynnwys ym mis Ebrill 2025, pan rwystrodd gynigion y BBC i lansio estyniad BBC Radio 2 ac ymestyn oriau Radio 5 Sports Extra oherwydd gallai fod wedi cael effaith niweidiol sylweddol ar gystadleuaeth deg ac effeithiol.[footnote 96] Er bod llawer yn y sector yn cytuno â phenderfyniad Ofcom i rwystro’r orsaf BBC Radio 2 arfaethedig, roedd rhai wedi mynegi pryderon bod Ofcom wedi cymeradwyo lansio estyniadau BBC Radio 1 a BBC Radio 3 fel gorsafoedd cenedlaethol.
O ystyried y newidiadau i ecosystem y cyfryngau lleol dros y blynyddoedd diwethaf, mae’n rhaid i ni sicrhau bod y BBC yn gweithio ochr yn ochr â sefydliadau cyfryngau lleol o ansawdd uchel, ac nad yw’n gwthio sefydliadau o’r fath allan. Cynyddodd ei gyfran o gynulleidfaoedd newyddion lleol ar-lein ledled y DU o 26% i 37% rhwng 2022 a 2024, gan adlewyrchu pa mor gyflym mae’r farchnad hon yn esblygu o bosibl.[footnote 97]
Mae rhanddeiliaid yn y sector cyfryngau newyddion wedi dweud yn glir eu bod yn teimlo bod safbwyntiau newyddion lleol ar-lein y BBC yn disodli safbwyntiau masnachol ar-lein. Er nad yw Ofcom wedi canfod tystiolaeth sylweddol i gefnogi hyn, mae wedi nodi bod cynyddu presenoldeb newyddion lleol ar-lein y BBC dros y blynyddoedd diwethaf yn rhan o’r heriau y mae cyhoeddwyr lleol yn eu hwynebu, ac y gallai newidiadau’r BBC yn y dyfodol gael mwy o effaith ar gynulleidfaoedd masnachol.[footnote 98]
Ein huchelgais
Er mwyn parhau i fod yn berthnasol ac i bawb yn y farchnad cyfryngau heddiw, dylai gwaith rheoleiddio’r BBC ganiatáu iddo arwain y farchnad a symud yn gyflym er mwyn gwneud newidiadau i’w wasanaethau i sicrhau cyffredinolrwydd parhaus. Yn unol â’n dull ehangach o sicrhau bod rheoleiddio’n cefnogi twf, mae ar y llywodraeth eisiau sicrhau hefyd bod y gwaith o reoleiddio’r BBC yn cael ei symleiddio er mwyn hybu twf a buddsoddiad yn ogystal â lleihau costau gweinyddol i fusnesau.
Rhaid cydbwyso hyn yn erbyn yr angen i sicrhau bod rheoleiddio’n gweithio’n effeithiol er budd gorau’r farchnad cyfryngau.
Er mwyn i’r BBC addasu a newid, efallai y bydd angen rhagor o ryddid rheoleiddio er mwyn iddo allu symud yn gyflymach ac arloesi. Fodd bynnag, dylai unrhyw gynnydd mewn rhyddid hefyd fod yn gysylltiedig ag atebolrwydd cyhoeddus.
Dylai’r BBC gael cyfyngiadau rheoleiddiol digonol ar weithgarwch a allai niweidio canlyniadau cyhoeddus neu oruchafu’r farchnad. Rhaid i’r llywodraeth ddiogelu cyfryngau lleol a sicrhau bod y BBC yn ffynnu fel un elfen o ecosystem cyfryngau lleol gydlynol o ansawdd. Mae’n hanfodol bod lluosogrwydd sector cyfryngau’r DU yn cael ei ddiogelu.
Opsiynau rydym yn eu hystyried
Rydym yn edrych ar nifer o opsiynau i wella’r broses o reoleiddio effeithiau ar y farchnad, gan gynnwys:
-
Lleihau beichiau gweinyddol.
-
Cadw neu wella mesurau sy’n diogelu marchnadoedd penodol rhag effeithiau niweidiol ar gystadleuaeth.
1. Lleihau beichiau gweinyddol
Er mwyn galluogi’r BBC i addasu’n gyflymach ac yn fwy effeithiol i newidiadau mewn marchnad cyfryngau sy’n symud yn gyflym, rydym yn ystyried opsiynau i roi mwy o hyblygrwydd rheoleiddio. Byddai angen cydbwyso unrhyw newidiadau â mesurau diogelu i warchod sectorau lle mae gan y BBC gyfran sylweddol rhag effeithiau niweidiol. Ein nod yw cael fframwaith rheoleiddio sy’n gweithio i’r BBC, ac i’r marchnadoedd ehangach, gyda’r nod o alluogi penderfyniadau mwy effeithlon a lleihau beichiau gweinyddol, gan gefnogi’r BBC i fod yn ystwyth a gwneud penderfyniadau’n gyflym.
O dan y Siarter bresennol, mae gofyn i’r BBC geisio osgoi effeithiau niweidiol ar gystadleuaeth nad ydynt yn angenrheidiol er mwyn cyflawni’r Genhadaeth a hyrwyddo’r Dibenion Cyhoeddus yn effeithiol. Rhaid iddo hefyd ystyried hyrwyddo effeithiau cadarnhaol ar y farchnad ehangach. Nid ydym yn bwriadu dileu na gostwng y safon ar y rhwymedigaethau hyn. Rydym hefyd yn bwriadu cadw golwg reoleiddiol Ofcom ar effeithiau’r BBC ar y farchnad.
Fodd bynnag, byddwn yn ystyried sut mae symleiddio’r broses a lle gellid lleihau beichiau rheoleiddio. Byddwn yn defnyddio’r broses o Adolygu’r Siarter i archwilio’r broses o reoleiddio’r effaith ar y farchnad yn ei chyfanrwydd, gan gynnwys y camau sy’n ofynnol gan y BBC ac Ofcom. Mae’r opsiynau’n cynnwys:
-
Ailgydbwyso cyfrifoldebau rhwng y BBC ac Ofcom, gyda’r nod o gael gwared ar ddyblygu neu gwtogi amserlenni lle bo hynny’n bosibl.
-
Archwilio a allai asesiadau ysgafnach fod yn bosibl mewn rhai meysydd, yn enwedig lle nad yw’r BBC yn chwarae rhan sylweddol mewn marchnadoedd penodol.
-
Gosod disgwyliadau cliriach ar gyfer tryloywder a rhannu gwybodaeth rhwng partïon drwy gydol y broses asesu cystadleuaeth.
2. Cadw neu wella mesurau sy’n diogelu marchnadoedd penodol rhag effeithiau niweidiol ar gystadleuaeth
Rydym yn gwybod bod sectorau lle mae’r BBC yn chwarae rhan flaenllaw gartref a lle gallai ei weithgareddau gael effaith sylweddol ar gystadleuaeth, gan gynnwys radio/sain a chyfryngau newyddion. Mae gan y cyhoedd ddiddordeb sylweddol yma yn ogystal â’r diwydiant, gan fod ecosystem cyfryngau iach ac amrywiol yn hanfodol ar gyfer darparu cynnwys o safon i gynulleidfaoedd a mynd i’r afael â chamwybodaeth a thwyllwybodaeth. Byddwn yn ystyried a yw’r drefn reoleiddio bresennol yn ddigonol i sicrhau na all y BBC gael effaith annheg ar weithredwyr eraill yn y farchnad. Mae’r opsiynau’n cynnwys:
- Cynnal neu addasu cyfyngiadau rheoleiddio mewn meysydd lle mae gan y BBC y potensial i gael effaith sylweddol iawn. Dylai hyn fod yn hyblyg i newidiadau posibl yn y marchnadoedd a rôl y BBC ynddynt drwy gydol Cyfnod nesaf y Siarter.
Pennod 4: Cyllid cynaliadwy a theg
Crynodeb
Mae ar y llywodraeth eisiau sicrhau bod y BBC yn cael ei ariannu’n gynaliadwy am ddegawdau i ddod i gefnogi ei rôl gwasanaeth cyhoeddus hanfodol. Mae’r bennod hon yn amlinellu’r heriau sy’n wynebu model cyllido’r BBC yng nghyd-destun newidiadau o ran arferion gwylio cynulleidfaoedd. Mae’n archwilio modelau cyllido a allai ddarparu lefel gynaliadwy o gyllid i’r BBC, i’w gefnogi i wasanaethu holl gynulleidfaoedd y DU mewn amgylchedd cyfryngau sy’n fwyfwy cystadleuol.
Mae ar y llywodraeth eisiau ystyried amrywiaeth eang o opsiynau ar gyfer sut rydym yn ariannu’r BBC.
Mae’r opsiynau sy’n cael eu hystyried fel rhan o’r Adolygiad o’r Siarter yn cynnwys:
-
Cefnogi BBC mwy effeithlon a hyblyg, sy’n sicrhau gwerth am arian
-
Cefnogi’r BBC i gynhyrchu mwy o refeniw masnachol
-
Diwygio’r broses ar gyfer pennu cost ffi’r drwydded
-
Diwygio ffi’r drwydded
-
Archwilio a ddylid diweddaru consesiynau ffi’r drwydded
-
Archwilio opsiynau ar gyfer casglu a gorfodi tecach, gyda chefnogaeth technoleg
-
Archwilio opsiynau ar gyfer ariannu BBC World Service
-
Cefnogi cyllid cynaliadwy ar gyfer gwasanaethau darlledu ieithoedd lleiafrifol, gan gynnwys S4C
Bydd yr Adolygiad o’r Siarter hefyd yn canolbwyntio ar sicrhau bod y BBC yn gwario ei incwm yn effeithlon er mwyn sicrhau gwerth am arian a chadw costau i lawr i aelwydydd. Bydd yn edrych ar sut gallwn ni ddarparu cyllid cynaliadwy ar gyfer BBC World Service a gwasanaethau darlledu ieithoedd lleiafrifol, gan gynnwys ar gyfer y darlledwr Cymraeg annibynnol, S4C. Bydd hefyd yn ystyried sut rydym yn sicrhau bod unrhyw fodel cyllido yn cael ei gasglu a’i orfodi’n deg.
Ffeithiau allweddol
-
Darparodd ffi’r drwydded £3.8 biliwn o gyllid i’r BBC yn 2024/25.
-
Mae nifer yr aelwydydd sydd â thrwydded deledu wedi gostwng o 26.2 miliwn o drwyddedau yn 2017/18 i 23.8 miliwn heddiw.
-
Mae’r BBC wedi arbed £1.35 biliwn hyd yma yn ystod cyfnod y Siarter hon.
Cynyddodd incwm masnachol Grŵp y BBC o £1.4 biliwn yn 2018/19 i £2.2 biliwn yn 2024/25.
Cyflwyniad
Fel yr amlinellir yn y papur gwyrdd hwn, mae ar y llywodraeth eisiau i’r BBC barhau i fod yn ddarparwr cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus uchelgeisiol ac arloesol. Mae’n bwysig ei fod yn gallu parhau i fod yn hyrwyddwr cenedlaethol, gan ategu llwyddiant y sector drwy siapio’r farchnad, sbarduno twf economaidd, cynnig cyfleoedd ledled y wlad, a gwasanaethu cynulleidfaoedd. Mae hyn yn bwysicach nag erioed o’r blaen, o ystyried yr heriau economaidd sy’n wynebu’r sector cyfan a’r heriau ehangach sy’n wynebu ein cymdeithas. Rydym yn dibynnu fwyfwy ar sefydliadau fel y BBC i adeiladu gwlad sy’n ddigon eang a chynhwysol i barchu a chydnabod pob un ohonom, ac sy’n ddigon gwâr i groesawu gwahaniaeth, dadlau ac anghytuno, heb gael ei ddinistrio ganddo.
Er mwyn cynnal y rôl hollbwysig hon dros y tymor hir, mae angen lefel ddigonol a chynaliadwy o gyllid ar y BBC. Heddiw, mae’r BBC yn cael lefel o gyllid cyhoeddus sy’n gymesur â’i rôl, sy’n llawer mwy na dim ond ymyriad methiant y farchnad sydd ddim ond yn darparu cynnwys a gwasanaethau na fyddai’r farchnad yn eu darparu fel arall. Yn 2024/25, cafodd y BBC £3.8 biliwn o refeniw ffi’r drwydded. Mae’r BBC yn buddsoddi’r rhan fwyaf o’r cyllid hwn mewn rhaglenni a gwasanaethau, lle mae’n darparu cynnwys Prydeinig o ansawdd uchel y mae cynulleidfaoedd yn ei werthfawrogi ac yn ymddiried ynddo ar y teledu, radio ac ar-lein. Ategir y cyllid hwn gan gymorth grant sy’n cael ei roi gan y llywodraeth yn benodol i gefnogi BBC World Service, a ddaeth i gyfanswm o £137 miliwn yn 2025/26. Gall cangen fasnachol y BBC hefyd ddarparu difidend i gangen gwasanaeth cyhoeddus y BBC i ychwanegu at ei chyllid. Cynhyrchodd BBC Commercial refeniw o £2.2 biliwn yn 2024/25, gan ddarparu £161 miliwn i’r gangen gwasanaeth cyhoeddus.[footnote 99]
Mae’r BBC yn cael y rhan fwyaf o’i gyllid o’r drwydded deledu, fel y mae wedi’i wneud ers 1946. Heddiw, mae’n rhaid i aelwydydd dalu ffi’r drwydded, sydd ar hyn o bryd yn costio £174.50 y flwyddyn, i wylio unrhyw deledu byw neu gynnwys y BBC ar BBC iPlayer.
Mae llawer o fanteision i ffi’r drwydded. Mae’n darparu ffynhonnell incwm sylweddol a rhagweladwy i’r BBC ariannu gwasanaethau ac allbwn pwysig. Mae’n cael ei dalu’n uniongyrchol gan y cyhoedd, gyda’r rhan fwyaf o aelwydydd y DU yn buddsoddi yn y BBC. Mae hyn yn cefnogi contract y BBC â chynulleidfaoedd a’i atebolrwydd i’r rhai sy’n talu ffi’r drwydded. Yn gyfnewid am hynny, mae’r BBC yn darparu rhaglenni a gwasanaethau sydd ar gael i bawb yn rhad ac am ddim ar y pwynt mynediad, yn ogystal â buddsoddi yn niwydiannau creadigol y DU. Mae’r ffaith ei fod yn cael ei ariannu gan y cyhoedd, yn hytrach na’r llywodraeth, hefyd yn helpu i gynnal annibyniaeth y BBC. Mae hyn yn cael ei ddiogelu ymhellach gan y cyfnodau setliad tymor hir yn y Siarter, sy’n rhoi sicrwydd i’r BBC.
Fel model cyllido cyhoeddus, mae ffi’r drwydded hefyd yn cyd-fynd â Chenhadaeth gwasanaeth cyhoeddus y BBC, gan alluogi’r BBC i fuddsoddi mewn cynnwys nad yw efallai’n fasnachol hyfyw ac mewn ffordd sy’n ceisio sicrhau’r gwerth cyhoeddus gorau posibl i’r rhai sy’n talu ffi’r drwydded, yn hytrach na cheisio cael math mwy ‘masnachol’ o elw. Yn yr un modd, mae cyllid cyhoeddus ar gyfer y BBC yn helpu’r DU i gynnal ecosystem cyfryngau ffyniannus ehangach. Mae’n ysgogi datblygu Eiddo Deallusol domestig ac yn cefnogi cadw eiddo deallusol gwreiddiol yn y DU, gyda gwariant comisiynu cynnwys y BBC yn hanfodol i dwf cyffredinol y sector creadigol. Mae hefyd yn sicrhau nad yw gwasanaethau cyhoeddus y BBC yn cystadlu’n uniongyrchol â darparwyr masnachol am refeniw masnachol.
Er bod manteision hyn ffi’r drwydded yn bwysig, mae anfanteision iddi hefyd. Mae’r drwydded deledu yn ffi y gallai fod yn ofynnol i aelwydydd ei thalu hyd yn oed os nad ydynt yn defnyddio dim neu fawr ddim o wasanaethau’r BBC ac nad ydynt, yn bersonol, yn gwerthfawrogi manteision ac effeithiau cymdeithasol ehangach y BBC. Mae rhai felly o’r farn bod y gofyniad yn annheg ac yn cyfyngu ar ddewis y gynulleidfa. Ar ben hynny, mae gorfodi ffi’r drwydded drwy ymweld ag aelwydydd yn gofyn am lawer o adnoddau, ac mae’r llywodraeth hefyd yn dal yn bryderus ynghylch effaith camau gorfodi ar bobl agored i niwed a’r gwahaniaeth rhwng y rhywiau mewn erlyniadau am osgoi talu am drwydded deledu.[footnote 100]
O ganlyniad i’r anfanteision hyn, mae model cyllido ffi’r drwydded wedi cael ei adolygu nifer o weithiau o’r blaen. Mae’r adolygiadau hyn bob amser wedi arwain at gadw ffi’r drwydded fel prif fodel cyllido’r BBC yn absenoldeb canfod dewis arall cryfach.
Fodd bynnag, er gwaethaf manteision sylweddol ffi’r drwydded hyd yma, mae arferion gwylio cynulleidfaoedd a’r farchnad cyfryngau sy’n newid yn golygu bod angen i’r Adolygiad hwn o’r Siarter ystyried a yw’n dal yn fodel addas. Mae amgylchedd y cyfryngau wedi newid yn ddramatig a bydd yn parhau i drawsnewid mewn ffyrdd cyffrous yn y blynyddoedd i ddod. Fel y nodwyd mewn penodau blaenorol, mae gan gynulleidfaoedd lawer mwy o ddewis erbyn hyn o ran pa gyfryngau maent yn eu defnyddio, a sut a phryd maent yn gwneud hynny. Yn yr amgylchedd hwn, lle maent bellach wedi arfer cael gafael ar hysbysebion neu gynnwys sy’n cael ei ariannu gan danysgrifiad ym mhob man, mae ymdeimlad ymysg rhai cynulleidfaoedd bod ffi’r drwydded wedi dyddio.
Mae’r newidiadau hyn yn cael effaith uniongyrchol ar y nifer sy’n prynu trwyddedau teledu. Mae nifer yr aelwydydd yn y DU sydd â thrwydded deledu wedi gostwng 2.4 miliwn ers cyrraedd ei anterth yn 2017/18.[footnote 101] Mae hyn yn cael ei sbarduno’n rhannol gan nifer cynyddol o aelwydydd yn datgan nad oes angen trwydded deledu arnynt mwyach oherwydd nad ydynt yn gwylio teledu byw na BBC iPlayer. Rydym yn disgwyl i’r nifer sy’n talu ffi’r drwydded barhau i ostwng wrth i gynulleidfaoedd symud oddi wrth wylio teledu sy’n cael ei ddarlledu’n draddodiadol, gan roi mwy a mwy o bwysau ar incwm y BBC.
Mae’r pwysau hyn hefyd yn cael ei waethygu gan nifer cynyddol o aelwydydd yn osgoi talu ffi’r drwydded; tuedd sy’n lleihau incwm y BBC ac sy’n golygu bod aelwydydd sy’n osgoi talu ffi’r drwydded mewn perygl o gael eu herlyn.
Ar y cyd â’r heriau hyn sy’n gysylltiedig ag incwm, mae’r BBC yn gweld ei gostau’n cynyddu, yn bennaf o ganlyniad i chwyddiant a chostau cynhyrchu uwch.
Mewn ymateb i heriau tebyg a newidiadau yn y farchnad, mae nifer o wledydd eraill wedi diwygio eu modelau cyllido cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus dros y blynyddoedd diwethaf i symud oddi wrth ffi’r drwydded. Mae amrywiaeth o ddulliau wedi cael eu cymryd, sy’n adlewyrchu amgylchiadau ac amcanion gwahanol wledydd.
Mae ein polisi yn canolbwyntio ar ddarparu cyllid cynaliadwy a theg
Fel rhan o’r Adolygiad o’r Siarter, ac yn unol â’n hymrwymiad yng Nghynllun Sector Diwydiannau Creadigol y llywodraeth, byddwn yn edrych ar sut gallwn ni ariannu’r BBC yn gynaliadwy, er mwyn iddo allu cyflawni ar gyfer pob un ohonom, sbarduno twf y diwydiannau creadigol, meithrin talent, creu swyddi a buddsoddi ledled y DU. Mae cyflawni ar ran pob un ohonom hefyd yn golygu dod â ni ynghyd a’n helpu i ddeall ein gilydd. Rhaid i’r BBC barhau i fod yn esiampl sy’n disgleirio gartref ac ar draws y byd yn erbyn poblyddiaeth, ofn a rhaniadau. Gyda hyn mewn golwg, rydym am sicrhau bod model cyllido’r BBC yn cefnogi gweithgarwch rhyngwladol y BBC, gan gynnwys BBC World Service. Rydym hefyd yn bwriadu sicrhau bod S4C a gwasanaethau darlledu ieithoedd lleiafrifol yn parhau i gael eu hariannu’n gynaliadwy, er mwyn i dreftadaeth ieithyddol gyfoethog ein cymunedau allu parhau i ffynnu a thyfu.
O dan unrhyw fodel, disgwylir i’r BBC gymryd y buddsoddiad y mae aelwydydd yn ei wneud ynddo o ddifrif, gan wario ei incwm mewn ffordd sy’n sicrhau’r budd mwyaf posibl i’r cyhoedd. Byddwn yn ceisio sicrhau bod y gost i’r cyhoedd mor isel â phosibl drwy archwilio pa mor effeithlon mae’r BBC yn gweithredu, ac a ddylid diwygio’r gwasanaethau mae’n eu darparu a’r ffordd maent yn cael eu darparu. Mae hyn yn rhan bwysig o sicrhau gwerth da am arian a gwario arian cyhoeddus yn effeithiol, er mwyn i’r buddsoddiad cyhoeddus fod mor fforddiadwy â phosibl, gan alluogi’r BBC i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel mewn marchnad gystadleuol ar yr un pryd.
Rydym yn credu bod lle i’r BBC gynyddu ei refeniw masnachol ymhellach, gan adeiladu ar y twf sylweddol y mae wedi’i sicrhau ers 2018. Rydym yn ystyried amrywiaeth o opsiynau sy’n cynyddu o ran uchelgais. O ran yr opsiynau mwy sylfaenol ar gyfer hysbysebu a thanysgrifio, rydym yn ystyried opsiynau sy’n amrywio o hysbysebion wedi’u targedu ar bbc.co.uk neu YouTube, i hysbysebu’n llawn ar holl lwyfannau’r BBC. Rydym hefyd yn ystyried gwasanaeth tanysgrifio ychwanegol wedi’i dargedu ar gyfer cynnwys hanesyddol y BBC, gan gynyddu i wasanaeth tanysgrifio ehangach lle mae rhaglenni masnachol ar gael y tu ôl i wal dalu. Gallai’r opsiynau hyn ategu cyllid cyhoeddus y BBC ymhellach i hwyluso mwy o fuddsoddi mewn cynnwys a/neu alluogi rheoli cost ffi’r drwydded i aelwydydd.
Byddwn yn ystyried opsiynau ar gyfer diwygio ffi’r drwydded er mwyn ei gwneud yn fwy cynaliadwy, a dylai unrhyw fodel yn y dyfodol gael ei ddylunio mewn ffordd sy’n deg i gynulleidfaoedd, sy’n lleihau pwysau costau byw, ac sy’n cadw ymddiriedaeth cynulleidfaoedd yn y BBC drwy ddiogelu ei annibyniaeth oddi wrth y llywodraeth a chyflawni yn erbyn amcanion atebolrwydd cyhoeddus. Rydym yn deall bod sicrhau bod ffi’r drwydded yn fforddiadwy yn bwysig i bobl. Bydd hyn yn ystyried sut mae’r cyllid yn cael ei gasglu a’i orfodi, sy’n gorfod bod yn effeithiol ond yn gymesur. Byddwn hefyd yn ystyried a ddylid diweddaru consesiynau ffi’r drwydded ac a ellid cael ymyriadau pellach wedi’u targedu i gefnogi cyllidebau aelwydydd. Gall ein gwaith gynnwys newidiadau sylweddol neu ddiwygiadau mwy mân i gefnogi aelwydydd a sicrhau cynaliadwyedd hirdymor y BBC ar yr un pryd.
Adran 1: Cyllid cynaliadwy a theg
Y cyd-destun
Mae ffi bresennol y drwydded yn gysylltiedig â gwylio teledu byw (ar y BBC neu drwy unrhyw ddarparwr arall) a chynnwys y BBC ar BBC iPlayer. Mae’r nifer sy’n talu ffi’r drwydded yn dal yn uchel, gydag oddeutu 23.7 miliwn o aelwydydd yn y DU â thrwydded deledu yn 2024/25.
Fodd bynnag, mae nifer y trwyddedau sydd mewn grym wedi gostwng bob blwyddyn ers 2017/18. Mae hyn yn debygol o gael ei sbarduno gan newidiadau yn arferion gwylio cynulleidfaoedd. Bu gostyngiad o 21% mewn lefelau gwylio cynnwys sy’n cael ei ddarlledu ar setiau teledu ers 2019, ac erbyn hyn mae gwylio ar deledu llinol ond yn cyfrif am hanner yr holl gynnwys sy’n cael ei wylio yn y cartref.[footnote 102] Er bod BBC iPlayer wedi gweld y twf mwyaf erioed yn ystod y blynyddoedd diwethaf, dim ond 22% o lefelau gwylio’r BBC mae’n ei gynrychioli o hyd ac nid yw’n gwrthbwyso’r gostyngiad yn nifer y cynulleidfaoedd darlledu.
Mae data Trwyddedu Teledu yn dangos gostyngiad amlwg yn y nifer sy’n prynu ffi’r drwydded dros y degawd diwethaf. Mae gwerthiant ffi’r drwydded wedi gostwng oddeutu 8.3% rhwng 2014/15 a 2024/25, sy’n cyfateb i oddeutu 2.1 miliwn yn llai o drwyddedau wedi’u gwerthu.[footnote 103] Mae’r ffigurau hyn yn dangos tuedd gyson ar i lawr yn nifer yr aelwydydd sy’n prynu trwydded yn hytrach nag amrywiad untro.
Ar yr un pryd, mae incwm masnachol Grŵp y BBC wedi cynyddu’n sylweddol o £1.4 biliwn yn 2018/19 i £2.2 biliwn yn 2024/25. Mae llwyddiannau diweddar fel Britbox International yn dangos bod y duedd hon yn debygol o barhau yn y dyfodol.
Yr achos dros newid
Mae llawer o fanteision i fodel cyllido ffi’r drwydded o hyd. Fodd bynnag, mae’r nifer sy’n prynu trwydded wedi bod ar duedd amlwg ar i lawr, ac os bydd y patrwm hwnnw’n parhau ac os bydd y model presennol yn dal ar waith heb gael ei ddiwygio, bydd incwm ffi trwydded y BBC yn lleihau dros amser. Gallai hyn arwain at BBC nad yw’n cael ei ariannu cystal i gyflawn ei rôl a darparu cynnwys i gynulleidfaoedd ac effeithiau cadarnhaol ehangach ar gyfer y DU.[footnote 104] Efallai y bydd hefyd angen i’n darlledwr cenedlaethol gael cylch gwaith llai.
Gyda’r manteision eang y mae’n eu creu, nid ydym yn credu bod BBC llai o faint o fudd i’r DU. Mae’r llywodraeth yn credu bod angen cyllid digonol a chynaliadwy ar y BBC i’w alluogi i barhau i gyflawni ei rôl gwasanaeth cyhoeddus a chyflawni’r amcanion y mae’r llywodraeth wedi’u hamlinellu drwy gydol y papur hwn. Felly, rydym yn ymgynghori ar amrywiaeth eang o opsiynau ar gyfer diogelu model cyllido’r BBC at y dyfodol, gan gynnwys diwygio ffi’r drwydded, a chynyddu gallu’r BBC i gynhyrchu refeniw masnachol. O dan unrhyw fodel, byddwn yn adolygu sut gall y BBC weithredu’n fwy effeithlon a gwneud rhagor o arbedion.
Mae’r llywodraeth hefyd yn ystyried y trefniadau mwyaf priodol ar gyfer darparu cyllid cynaliadwy i BBC World Service, S4C (y darlledwr Cymraeg annibynnol), a gwasanaethau darlledu ieithoedd lleiafrifol eraill.
Ar ben hynny, byddwn yn ystyried ai’r broses bresennol y mae’r llywodraeth yn ei defnyddio i bennu lefel yr incwm cyhoeddus y mae’r BBC yn ei gael (drwy bennu cost trwydded deledu ar hyn o bryd) yw’r un iawn. Bydd angen i ni sicrhau’r cydbwysedd priodol rhwng sicrhau annibyniaeth y BBC a galluogi lefelau digonol o oruchwyliaeth ar arian cyhoeddus. Ni fyddai’n briodol nodi lefel arfaethedig o gyllid ar gyfer y BBC cyn ymgynghori ynghylch sut beth yw ei rôl dros gyfnod nesaf y Siarter. Byddwn yn nodi safbwynt ar hyn maes o law.
Ein huchelgais
Er mwyn cefnogi’r BBC i ffynnu a chyflawni yn erbyn ei amcanion gwasanaeth cyhoeddus a’i alluogi i gynnal contract teg a gwerth da gyda’r cyhoedd, mae angen model cyllido sy’n fwy cynaliadwy. Credwn y dylai unrhyw ddull gweithredu ddilyn nifer o egwyddorion:
-
Sicrhau bod costau’n cael eu cadw mor isel â phosibl er mwyn i aelwydydd allu ymdopi â chostau byw, gan sicrhau ar yr un pryd bod gan y BBC adnoddau digonol ac angenrheidiol.
-
Darparu model cyllido sy’n cefnogi cylch gwaith gwasanaeth cyhoeddus y BBC a’i amcan o ddarparu gwasanaethau cyffredinol mewn ffordd sy’n gynaliadwy ar gyfer y tymor hir.
-
Sicrhau bod unrhyw fecanwaith cyllido yn y dyfodol yn cynnal annibyniaeth y BBC er mwyn iddo allu cynnal ymddiriedaeth.
-
Sicrhau bod model cyllido’r BBC yn galluogi ei rôl hollbwysig o ran sbarduno twf y Diwydiannau Creadigol yn y DU a chefnogi darlledu mewn ieithoedd lleiafrifol, gan gynnwys darparu model cyllido cynaliadwy ar gyfer S4C.
-
Cydnabod gwerth BBC World Service sy’n cael adnoddau cynaliadwy ac sy’n darparu newyddion dibynadwy ac yn cyfleu ein gwerthoedd democrataidd ar lefel ryngwladol.
-
Sicrhau bod cyllid y BBC yn cael ei gasglu a’i orfodi mewn ffordd effeithiol ond cymesur.
Opsiynau rydym yn eu hystyried
Mae’r llywodraeth yn cadw meddwl agored am ddyfodol cyllido’r BBC ac nid ydym wedi nodi model sy’n cael ei ffafrio eto. Felly, rydym yn ymgynghori ar nifer o opsiynau i helpu i benderfynu ar y dull gorau posibl. Rhaid i’r opsiynau cyllido sy’n cael eu hystyried gyflawni’r uchelgais a’r egwyddorion a nodir uchod. Dyma’r opsiynau rydym yn eu hystyried:
-
Cefnogi BBC mwy effeithlon a hyblyg, sy’n sicrhau gwerth am arian
-
Cefnogi’r BBC i gynhyrchu mwy o refeniw masnachol
-
Diwygio’r broses ar gyfer pennu cost ffi’r drwydded
-
Diwygio ffi’r drwydded
-
Archwilio a ddylid diweddaru consesiynau ffi’r drwydded
-
Archwilio opsiynau ar gyfer casglu a gorfodi tecach, gyda chefnogaeth technoleg
-
Archwilio opsiynau ar gyfer ariannu BBC World Service
-
Cefnogi cyllid cynaliadwy ar gyfer gwasanaethau darlledu ieithoedd lleiafrifol, gan gynnwys S4C
1. Cefnogi BBC mwy effeithlon a hyblyg, sy’n sicrhau gwerth am arian
Mae ar y llywodraeth eisiau sicrhau ein bod yn cefnogi ac yn annog y BBC i weithredu mor effeithlon â phosibl, er mwyn sicrhau’r budd mwyaf posibl i’r cyhoedd o’i benderfyniadau gwario a chadw costau mor isel â phosibl i’r cyhoedd.
O dan y Siarter bresennol, mae Bwrdd y BBC yn gyfrifol am sicrhau bod y BBC yn gwario ei incwm yn effeithlon ac yn darparu gwerth da am arian. Mae’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol yn craffu ar gyllid y BBC ac yn cynnal asesiadau Gwerth am Arian fel ei archwilydd ariannol allanol. Mae’r Senedd hefyd yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o ddal y BBC i gyfrif am ei benderfyniadau gwario. Ar ben hynny, mae’n rhaid i’r BBC gyhoeddi amrywiaeth o wybodaeth sy’n helpu’r cyhoedd i ddeall i ble mae ffi’r drwydded yn mynd.
Mae’r BBC wedi gwneud cynnydd o ran sicrhau arbedion ac arbedion effeithlonrwydd dros gyfnod y Siarter hon. Yn 2022, cyhoeddodd y BBC gynllun arbedion ac ailfuddsoddi gwerth £500 miliwn, a oedd yn dadflaenoriaethu rhai meysydd gwariant er mwyn canolbwyntio ar weithgareddau sy’n sicrhau’r gwerth gorau am arian i gynulleidfaoedd. Ers hynny, mae wedi cynyddu’r targed hwn i £700 miliwn erbyn 2027/28.
Fel rhan o’r Adolygiad o’r Siarter, byddwn yn gweithio gyda’r BBC i asesu a yw’n gweithredu mor effeithlon â phosibl, a’r potensial iddo sicrhau rhagor o arbedion ac arbedion effeithlonrwydd dros y blynyddoedd nesaf. Er mwyn sicrhau ei fod mor uchelgeisiol â phosibl, rydym hefyd yn bwriadu pennu targed effeithlonrwydd ac arbedion gyda’r BBC cyn Cyfnod nesaf y Siarter. Byddwn yn sicrhau bod cynnydd y BBC yn cynnwys lefel briodol o oruchwyliaeth a thryloywder er mwyn i’r cyhoedd gael ffydd bod cyfiawnhad dros eu buddsoddiad a’i fod yn cael ei gydbwyso gan raglenni effeithlonrwydd parhaus ac uchelgeisiol.
2. Cefnogi’r BBC i gynhyrchu mwy o refeniw masnachol
Mae ar y llywodraeth eisiau archwilio amrywiaeth o opsiynau i gefnogi’r BBC i gynhyrchu mwy o refeniw masnachol. O ystyried yr heriau y mae ffi’r drwydded yn eu hwynebu o ran ei chynaliadwyedd, a’r pwysau ar gyllid aelwydydd, rydym yn cadw meddwl agored am yr opsiynau posibl ar gyfer BBC mwy masnachol, gan gynnwys dulliau mwy radical.
Gallai model cyllido mwy masnachol helpu i gefnogi cynaliadwyedd y BBC dros y tymor hir, gan leihau’r baich ar aelwydydd ar yr un pryd. Fodd bynnag, mae angen cydbwyso hyn yn erbyn pwysigrwydd sicrhau bod y BBC yn parhau i gyflawni ei rôl gwasanaeth cyhoeddus, gan gynnwys darparu cynnwys a fyddai’n annhebygol o fod yn fasnachol hyfyw fel newyddion a radio lleol, rhaglenni plant, BBC World Service, BBC Monitoring, a nifer o feysydd eraill.
Rydym yn cydnabod y gallai symud i fodel mwy masnachol gael effaith sylweddol ar y BBC, ar gynulleidfaoedd, ar gystadleuwyr ac ar y sector ehangach. Mae arnom eisiau deall safbwyntiau rhanddeiliaid yn well ar yr opsiynau fel rhan o’r ymgynghoriad hwn, ac rydym yn agored i ystyried dulliau a chyfleoedd newydd i’r BBC gynhyrchu incwm. Wrth i ni fwrw ymlaen â’n syniadau, bydd angen i ni hefyd ystyried effeithiau opsiynau gwahanol ar gystadleuaeth a’u cydymffurfiad â threfn rheoli cymorthdaliadau’r DU.
a) Ehangu BBC Studios
Ar hyn o bryd mae Grŵp y BBC yn cynhyrchu refeniw masnachol drwy ei is-gwmnïau masnachol, a BBC Studios yw’r mwyaf o’r rhain. Mae BBC Studios yn cynhyrchu cynnwys ar gyfer cangen gwasanaeth cyhoeddus y BBC yn ogystal â darlledwyr a gwasanaethau ffrydio eraill, gan sbarduno twf drwy fuddsoddi mewn cynhyrchu Eiddo Deallusol ledled y DU. Mae’n gwerthu hawliau cynnwys ar gyfer rhaglenni - dyma sut mae rhaglenni poblogaidd sy’n cael eu cynhyrchu gan y BBC fel Killing Eve a Planet Earth ar gael ar lwyfannau ffrydio - ac mae hefyd yn darparu gwasanaethau’n uniongyrchol i gynulleidfaoedd domestig, fel sianeli UKTV a llwyfan ffrydio ar-lein U.
Mae gweithgareddau masnachol y BBC yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o gefnogi rôl y BBC. Maent yn cynhyrchu refeniw masnachol, lle maent yn talu difidend ariannol blynyddol o’r gangen fasnachol i gangen gwasanaeth cyhoeddus y BBC. Mae’r difidend hwn, sydd wedi bod oddeutu £120 miliwn y flwyddyn ar gyfartaledd dros y pum mlynedd diwethaf, yn ychwanegu at gyllid ffi’r drwydded ac yn rhoi mwy o arian i’r BBC fuddsoddi yn ei wasanaethau cyhoeddus ar gyfer cynulleidfaoedd yn y DU.
Mae BBC Studios hefyd yn chwarae rhan bwysig i’r DU yn rhyngwladol a dyma’r allforiwr cynnwys teledu mwyaf yn y DU yn 2022/23, gan helpu cynnwys o Brydain i gyrraedd cynulleidfaoedd rhyngwladol.[footnote 105] Mae hefyd yn darparu amrywiaeth o gynnwys a gwasanaethau’r BBC dramor yn uniongyrchol, fel Britbox International a gwefan bbc.com. Drwy arddangos cynnwys diddorol o Brydain dramor, mae BBC Studios yn helpu i hyrwyddo gwerthoedd Prydeinig, pŵer meddal, canfyddiadau cadarnhaol o’r DU, a’r tebygrwydd y bydd pobl yn buddsoddi yn y DU. Mae’n cyfrannu at sicrhau bod y BBC yn cyrraedd 453 miliwn o bobl ledled y byd bob wythnos ac mae’n helpu i ategu gwaith hanfodol BBC World Service yn darparu newyddion dibynadwy a chywir yn rhyngwladol.
Fel rhan o’r Adolygiad o’r Siarter, bydd y llywodraeth yn edrych ar sut gallwn ni gefnogi’r BBC i barhau i sbarduno twf uchelgeisiol BBC Studios, gan gynnwys drwy ei weithgareddau presennol sydd eisoes yn cynhyrchu oddeutu £2 biliwn o incwm masnachol bob blwyddyn. Bydd cynyddu’r ffigur hwn yn helpu i gynyddu’r difidend y mae’n ei dalu i’w gangen gwasanaeth cyhoeddus, yn ogystal â galluogi BBC Studios i fuddsoddi mwy yn niwydiannau creadigol y DU a chyrraedd mwy o bobl yn fyd-eang gyda chynnwys Prydeinig. Mae arnom eisiau i’r BBC barhau i fod yn uchelgeisiol o ran sbarduno twf masnachol lle mae ganddo eisoes yr hyblygrwydd rheoleiddiol i wneud hynny. Mae arnom eisiau hefyd archwilio’r posibilrwydd o gael mwy o gysondeb strategol a chydweithio agosach rhwng gweithgareddau a changhennau masnachol a gwasanaeth cyhoeddus y BBC, i gefnogi’r BBC i weithredu’n effeithlon ac yn effeithiol ar draws Grŵp y BBC. Efallai y bydd gofyn newid y ffordd y mae Ofcom yn rheoleiddio’r BBC ar gyfer hyn, er enghraifft, diwygio’r gofynion masnachu a gwahanu a roddwyd ar waith rhwng y canghennau masnachol a gwasanaeth cyhoeddus. Byddwn hefyd yn adolygu terfyn benthyca cangen Fasnachol y BBC, a allai ei alluogi i gael mwy o gyfalaf i’w fuddsoddi i sbarduno ei dwf.
b). Cefnogi’r BBC i archwilio cyfleoedd newydd i gynhyrchu refeniw masnachol
Rydym yn awyddus i weithio gyda’r BBC i archwilio ei botensial i gynhyrchu mwy o refeniw masnachol, gan gynnwys drwy gyfleoedd newydd sy’n codi. Mae amrywiaeth o opsiynau y gallem eu hystyried, a allai gynnwys:
-
Partneriaethau mwy uchelgeisiol: Mae Pennod 3 yn nodi ein huchelgais i gael mwy o gydweithio rhwng y BBC a’i gymheiriaid, i gefnogi ecosystem cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus. Mae arnom eisiau archwilio’r posibilrwydd i’r BBC fynd ar drywydd partneriaethau cryfach â darparwyr cyfryngau eraill, a all helpu i greu sector mwy cydweithredol a all wasanaethu cynulleidfaoedd ledled y wlad yn well, yn ogystal â chyflawni arbedion effeithlonrwydd neu fwy o enillion masnachol i’r BBC o bosibl. Nododd adroddiad Ofcom ar ddyfodol cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus bwysigrwydd darparwyr cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus yn buddsoddi mewn technoleg yn ogystal â chynnwys i ddenu cynulleidfaoedd yn y DU, a’r heriau sy’n eu hwynebu o ran buddsoddi mewn technoleg oherwydd nad ydynt ar raddfa fyd-eang fel y ffrydwyr blaenllaw.
-
Partneriaethau ar Ddeallusrwydd Artiffisial: Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, cyhoeddwyd nifer o gytundebau trwyddedu rhwng cyhoeddwyr a chwmnïau deallusrwydd artiffisial. Mae gan y BBC gynnwys y gellid ei ddefnyddio i hyfforddi deallusrwydd artiffisial, gan gynnwys ei archif. Mae arnom eisiau gweithio gyda’r BBC i edrych ar gyfleoedd posibl i godi refeniw yma, ac ystyried a yw’r rhain yn cyd-fynd â chylch gwaith gwasanaeth cyhoeddus y BBC.
-
Cynhyrchu refeniw drwy lwyfannau trydydd parti: Mae llwyfannau rhannu fideos fel YouTube wedi tyfu’n sylweddol ers dechrau cyfnod y Siarter bresennol ac maent yn darparu mwy a mwy o gynnwys tebyg i deledu. Mae arnom eisiau archwilio’r posibilrwydd i’r BBC gynhyrchu mwy o refeniw drwy roi cynnwys ar lwyfannau trydydd parti. Er enghraifft, gallai’r BBC sicrhau bod mwy o’i gynnwys ar gael ar lwyfannau rhannu fideos trydydd parti fel YouTube. Byddai hyn hefyd yn galluogi’r BBC i gynyddu ei gyrhaeddiad gyda’r gynulleidfa, gan roi mwy o gynnwys lle mae cynulleidfaoedd newydd, yn enwedig cynulleidfaoedd iau, yn debygol o ddod o hyd iddo. Gallai hyn gynnwys rhoi cynnwys sy’n cael ei ariannu gan ffi’r drwydded ar YouTube neu lwyfannau trydydd parti eraill.
Fel rhan o’r Adolygiad o’r Siarter, byddwn yn ystyried a oes angen mwy o hyblygrwydd ar y BBC yn ei waith rheoleiddio er mwyn iddo allu mynd ar drywydd y mathau hyn o gyfleoedd. Byddwn yn gweithio gydag Ofcom i asesu sut gallai fod angen diwygio gwaith rheoleiddio’r BBC a lle byddai angen cymeradwyaeth reoleiddiol ar gyfer y newidiadau hyn.
c) Galluogi’r BBC i hysbysebu ar ei wasanaethau cyhoeddus
Rydym yn edrych ar opsiynau masnachol mwy uchelgeisiol ar gyfer y BBC, gan gynnwys cyflwyno hysbysebion ar ei wasanaethau cyhoeddus. Nid yw’r BBC wedi darlledu hysbysebion yn draddodiadol, gan fod ei allu i weithredu’n fasnachol yn gyfyngedig ar hyn o bryd. Mae’r Siarter, y Cytundeb Fframwaith a rheoliadau Ofcom sydd ar waith ar hyn o bryd yn gosod nifer o gyfyngiadau ar y BBC i hyrwyddo amrywiaeth o amcanion, fel sicrhau bod y BBC yn hyrwyddo cystadleuaeth deg a bod ei allbwn gwasanaeth cyhoeddus yn cael ei ddarparu er budd y cyhoedd yn hytrach nag ar gyfer amcanion masnachol. Mae hyn yn golygu, ar hyn o bryd, na chaiff darlledu gwasanaeth cyhoeddus y BBC ymgymryd yn uniongyrchol ag unrhyw weithgareddau masnachol fel hysbysebu.
Gallai’r BBC o bosibl gynhyrchu refeniw sylweddol drwy gynnal hysbysebion ar ei wasanaethau cyhoeddus, gan barhau i sicrhau eu bod ar gael i bawb. Mae’r model cyllido hwn yn cefnogi darparwyr cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus eraill fel ITV, Channel 4 a Channel 5.
Byddwn yn edrych ar amrywiaeth o ddulliau yma, gan gynnwys:
-
Caniatáu i’r BBC hysbysebu ychydig ar ei lwyfannau ar-lein lle mae refeniw hysbysebu yn cynyddu. Er enghraifft, gellid caniatáu i’r BBC hysbysebu ar rai rhannau o bbc.co.uk, fel tudalennau adloniant a chwaraeon, neu ar gynnwys hŷn BBC iPlayer a BBC Sounds (e.e. ar ôl cyfnod penodol fel blwyddyn). Byddai’r dull hwn yn ceisio lleihau’r effeithiau posibl ar gystadleuwyr yn y farchnad, heb unrhyw hysbysebion ar wasanaethau llinol ac ychydig o hysbysebion ar wasanaethau ar-lein. Gan fod y farchnad hysbysebu ar-lein yn tyfu’n gyflym a bod y marchnadoedd hyn yn fwy byd-eang eu natur, byddai angen i ni asesu effeithiau’r farchnad ar gystadleuwyr domestig yn llawn gan fod y rhain yn llai diffiniol.
-
Caniatáu i’r BBC i hysbysebu ar ei holl wasanaethau. Y dull hwn fyddai’n cynhyrchu’r mwyaf o refeniw, ond rydym yn ymwybodol ei bod yn debygol y byddai effeithiau negyddol sylweddol ar gystadleuwyr y BBC, a allai effeithio ar gryfder ecosystem cyfryngau ehangach y DU. Byddai risgiau penodol i ddarparwyr cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus masnachol, teledu a radio. Y rheswm am hyn yw’r pwysau presennol ar y marchnadoedd hysbysebion darlledu llinol a’r tebygolrwydd y bydd y BBC yn amsugno refeniw hysbysebu gan gystadleuwyr.
Gallai’r refeniw ychwanegol o hysbysebu gefnogi’r BBC i ddarparu gwell gwasanaethau, neu gellid ei ddefnyddio i leihau’r baich ar aelwydydd sy’n ariannu’r BBC. Pe bai’r llywodraeth yn mabwysiadu opsiwn a fyddai’n galluogi’r BBC i gynhyrchu refeniw sylweddol o hysbysebu, mae’n debygol y byddai hyn yn arwain at ostyngiad yng nghost ffi’r drwydded. Byddai disgwyl i’r cyllid sy’n weddill gan ffi’r drwydded gael ei wario’n bennaf ar allbwn a gweithgareddau sy’n llai masnachol hyfyw.
Fodd bynnag, rydym yn cydnabod bod y farchnad hysbysebion darlledu yn wynebu heriau ehangach. Gostyngodd cyfanswm refeniw teledu llinol a fideo ar-alw darlledwyr (BVoD) ar gyfer pob darlledwr masnachol o £5.1 biliwn yn 2018 i £4.9 biliwn yn 2023 (gostyngiad o 3.9% mewn termau nominal)[footnote 106] a gostyngodd gwariant hysbysebu llinol 20% mewn termau nominal. Ar ben hynny, mae risg sylweddol i ecosystem cyfryngau ehangach y DU o ran mynediad y BBC i’r farchnad hysbysebu teledu llinol ac aflinol. Gallai’r gostyngiad cysylltiedig ym mhris hysbysebion teledu o ganlyniad i’w mynediad arwain at ganibaleiddio ffrydiau refeniw hysbysebu teledu allweddol ar gyfer darparwyr cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus eraill, a allai beryglu eu hyfywedd ariannol.
Rydym yn cydnabod y byddai hyn yn newid sylweddol i’r sector ac i’r BBC, yn ogystal ag o ran profiadau cynulleidfaoedd. Felly, ein nod yw deall yr effeithiau posibl yn well cyn gwneud unrhyw benderfyniad terfynol.
d) Symud i fodel tanysgrifio ychwanegol lle mae rhywfaint o gynnwys teledu’r BBC yn cael ei roi y tu ôl i wal dalu ac yn cael ei ariannu’n fasnachol
Mae arnom eisiau archwilio a allai’r BBC gyflwyno gwasanaeth tanysgrifio ychwanegol ar gyfer rhywfaint o gynnwys ar BBC iPlayer, gan gynnwys a allai hyn fod yn ffordd effeithiol i’r BBC gynhyrchu mwy o refeniw masnachol a sut gallai effeithio ar rôl y BBC a sut mae’n ymgysylltu â chynulleidfaoedd.
Byddwn yn edrych ar nifer o ddulliau gweithredu yma, a allai gynnwys:
-
Y BBC yn rhoi cynnwys hŷn y tu ôl i wal dalu tanysgrifio ychwanegol ar iPlayer ar ôl iddo fod ar gael am gyfnod penodol. Byddai’r dull hwn yn golygu bod holl gynnwys y BBC ar gael i bawb am gyfnod penodol o amser. Gallai’r BBC wedyn foneteiddio cynnwys hŷn, fel ei archif neu ei gynnwys dros flwydd oed, ar ei lwyfannau gwasanaeth cyhoeddus lle mae ganddo’r hawliau angenrheidiol. Gallai’r cynnig ychwanegol hwn hefyd gynnwys hysbysebion.
-
Newid cylch gwaith y BBC er mwyn iddo gynnig amrywiaeth lai o gynnwys sy’n cael ei ariannu gan ffi’r drwydded yn gyffredinol ar deledu byw a BBC iPlayer, gyda rhywfaint o gynnwys teledu a genres yn cael eu symud i fodel tanysgrifio. Gallai cynnwys a oedd ar gael yn gyffredinol o hyd gynnwys genres fel newyddion, materion cyfoes, rhaglenni ffeithiol a rhaglenni plant. Gellid darparu cynnwys teledu sy’n fwy masnachol hyfyw ar sail gwbl fasnachol pe bai’r BBC yn dewis gwneud hynny, wedi’i ariannu gan danysgrifiadau a/neu hysbysebion. Byddai’r model hwn yn newid rôl y BBC yn sylweddol o ran gwasanaethu holl gynulleidfaoedd y DU gydag amrywiaeth eang o gynnwys sydd ar gael yn gyffredinol. Byddai heriau hefyd wrth benderfynu pa gynnwys sy’n cael ei ariannu gan ffi’r drwydded neu beidio - er enghraifft, a ddylid cynnig dramâu Prydeinig, fel Waterloo Road neu ddigwyddiadau chwaraeon mawr sy’n cynnwys gwledydd y DU, fel gwasanaeth cyhoeddus neu godi tâl amdanynt. Fodd bynnag, gallai arwain at ostyngiad yn lefel ffi’r drwydded i adlewyrchu cylch gwaith teledu culach y BBC, gan leihau’r pwysau o ran costau ar aelwydydd. Byddai angen ystyried ymhellach pa genres ddylai barhau i gael eu cynnig ar sail gyffredinol. Byddai angen i ni hefyd ystyried amseriad priodol unrhyw newid i’r model hwn, gan fod llawer o aelwydydd yn dal i ddibynnu ar deledu sy’n cael ei ddarlledu’n fyw.
3. Diwygio’r broses ar gyfer pennu cost ffi’r drwydded
Rydym yn ystyried opsiynau i ddiwygio proses setliadau ariannu ffi’r drwydded, a dyna sut mae cost ffi’r drwydded yn cael ei phennu.
O dan y Siarter bresennol, mae’r llywodraeth yn pennu cost ffi’r drwydded drwy wneud penderfyniadau ynghylch setliad sy’n para am gyfnod o bump i chwe blynedd. Rydym yn parhau i gefnogi setliadau ariannu aml-flwyddyn y mae’r llywodraeth yn eu pennu, i roi sicrwydd i’r BBC, ond rydym yn ystyried sut gellid diwygio’r broses gwneud penderfyniadau i wella tryloywder a chefnogi annibyniaeth y BBC. Gallai hyn gynnwys rhoi rhagor o fanylion yn y Cytundeb Fframwaith am y broses a’r wybodaeth y disgwylir i’r BBC ei darparu i gefnogi asesiad o’i anghenion cyllido. Gallai’r manylion y gofynnir i’r BBC eu darparu gynnwys tystiolaeth o’i effeithlonrwydd gweithredol a’r potensial ar gyfer arbedion, gan gynnwys cynnydd yn erbyn unrhyw dargedau.
4. Diwygio ffi’r drwydded
Yn ogystal â rhaglenni arbedion ac effeithlonrwydd y BBC, mae arnom hefyd eisiau edrych ar ddiwygiadau ehangach a allai helpu i fynd i’r afael â’r heriau cyllido y mae’r BBC yn eu hwynebu. Nid ydym wedi diystyru cadw ffi bresennol y drwydded fel y mae, gyda’i strwythur presennol. Fodd bynnag, o ystyried yr heriau cynaliadwyedd y mae’n eu hwynebu, rydym hefyd yn adolygu cwmpas y gwasanaethau y mae ffi’r drwydded yn ofynnol ar eu cyfer ac yn ystyried cyfraddau gwahaniaethol ar gyfer mathau penodol o ddefnyddwyr, i’w gwneud yn fwy cynaliadwy ar gyfer y tymor hir, yn ogystal â chynyddu refeniw masnachol i leddfu’r baich ar y cyhoedd. Byddai hyn yn ceisio gwrthdroi’r duedd o lai o aelwydydd yn talu bob blwyddyn a llai o incwm cyffredinol, a allai olygu bod y BBC yn dirywio os na roddir sylw i hyn. Rhaid i unrhyw newid i ffi’r drwydded fod yn gymesur ac adlewyrchu’r baich costau byw ar y cyhoedd.
Gan fod ffi’r drwydded yn fodel cyllid cyhoeddus dibynadwy, nid ydym yn ystyried ei disodli â mathau amgen o gyllid cyhoeddus, fel treth newydd ar aelwydydd, cyllid drwy drethiant cyffredinol, na chyflwyno ardoll ar refeniw gwasanaethau ffrydio i ariannu’r BBC.
Ers cyflwyno’r drwydded deledu gyntaf, mae wedi cael ei haddasu nifer o weithiau i sicrhau ei bod yn adlewyrchu newidiadau mewn technoleg ac arferion gwylio cynulleidfaoedd. Er enghraifft, cyflwyno’r atodiad teledu lliw yn 1968 a chynnwys BBC iPlayer o fewn y cwmpas yn 2016. Gellid diwygio ffi’r drwydded eto i ddiogelu’r model at y dyfodol ar gyfer amgylchedd y cyfryngau modern.
Byddwn yn ystyried y posibilrwydd o ddiwygio ffi’r drwydded ochr yn ochr ag opsiynau diwygio ehangach, fel y nodir drwy gydol y bennod hon, a allai gefnogi aelwydydd gyda chostau byw. Bydd hyn yn cynnwys ystyried opsiynau i gefnogi’r BBC i gynhyrchu mwy o refeniw masnachol a gweithredu’n fwy effeithlon er mwyn darparu model cyllido hirdymor cynaliadwy i’r BBC am y gost isaf bosibl i aelwydydd.
Ar hyn o bryd, mae’r llywodraeth yn cadw meddwl agored am weithgareddau/gwasanaethau y gallai fod yn ofynnol i aelwydydd gael trwydded deledu ar eu cyfer. Rydym yn ceisio deall safbwyntiau’r cyhoedd ar yr egwyddor o ddiwygio ffi’r drwydded, gan gynnwys sut gellid effeithio ar y safbwyntiau hynny petai cost ffi’r drwydded yn newid a/neu rôl a graddfa’r BBC yn cael ei newid.
5. Archwilio a ddylid diweddaru consesiynau ffi’r drwydded
Wrth i ni ystyried dyfodol model cyllido’r BBC, rhaid i ni ystyried sut bydd yn effeithio ar gyllidebau aelwydydd gwahanol. Gallai system gyllido sy’n rhoi gwell cyfrif am sefyllfaoedd gwahanol aelwydydd helpu i leddfu pryderon sy’n ymwneud â gorfodi drwy leihau’r risg bod aelwydydd heb drwydded oherwydd eu bod yn wynebu anawsterau o ran fforddio’r ffi.
O dan y model presennol, mae mesurau eisoes ar waith sy’n ceisio lleihau’r pwysau ar aelwydydd. Mae consesiynau Trwyddedu Teledu ar gael i bobl sydd wedi’u cofrestru’n ddall neu sydd ag amhariad difrifol ar eu golwg, pobl dros 75 oed ac sy’n cael credyd pensiwn, a phobl sy’n byw mewn gofal preswyl cymwys sy’n anabl neu dros 60 oed. Cyflwynwyd y Cynllun Talu Syml hefyd, sy’n cefnogi’r rheini sy’n wynebu caledi ariannol i ledaenu cost eu trwydded deledu. O oddeutu 287,000 o’r aelwydydd a gefnogir gan y Cynllun Talu Syml, nid yw 53% ohonynt yn gwneud eu taliadau’n rheolaidd.[footnote 107] Gallai hyn awgrymu bod rhai aelwydydd yn ei chael hi’n anodd talu’r ffi, hyd yn oed gydag opsiwn talu mwy hyblyg.
Yn rhyngwladol, mae nifer o’r modelau a ddewiswyd i ddisodli ffi’r drwydded i ariannu darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn rhoi cyfrif am incwm aelwydydd neu unigolion. Yn yr Almaen, er enghraifft, mae consesiynau ar gael i unigolion sy’n cael budd-daliadau cymdeithasol ac i rai myfyrwyr a phobl sy’n dilyn hyfforddiant galwedigaethol.
Fel rhan o’r Adolygiad o’r Siarter, byddwn yn ystyried a oes modd gwella’r consesiynau presennol, gan gynnwys y consesiwn Llety Gofal Preswyl. Byddwn hefyd yn ystyried a oes posibilrwydd cael rhagor o ymyriadau wedi’u targedu, fel consesiynau newydd neu amserlenni talu. Dylid targedu unrhyw ymyriadau newydd at yr aelwydydd hynny sydd fwyaf tebygol o wynebu pwysau ariannol, ac felly heriau o ran gallu fforddio ffi’r drwydded. Bydd angen i’r gwaith hwn hefyd ystyried sut gallai unrhyw ymyriadau newydd effeithio ar refeniw ffi trwydded y BBC, gyda’r posibilrwydd ar gyfer consesiynau newydd sylweddol yn cael ei gyfyngu gan y pwysau cyllido y mae’r BBC eisoes yn eu hwynebu. Nid ydym yn bwriadu dileu unrhyw gonsesiynau presennol nac ailedrych ar y penderfyniad ynghylch trwyddedau i bobl dros 75 oed, gan fod y BBC yn rhoi consesiwn i bobl dros 75 oed ar gredyd pensiwn, sy’n targedu’r rheini y mae angen cymorth arnynt fwyaf. Efallai y bydd angen deddfwriaeth ar gyfer unrhyw ymyriadau newydd.
6. Archwilio opsiynau ar gyfer casglu a gorfodi ffi’r drwydded yn decach, gyda chefnogaeth technoleg
Mae’r BBC yn gyfrifol yn gyfreithiol am sicrhau bod pob aelwyd yn cael ei thrwyddedu’n briodol ac mae’r llywodraeth yn disgwyl i’r BBC gasglu a gorfodi ffi’r drwydded mewn ffordd sy’n effeithlon, yn deg ac yn gymesur. Mae trwydded deledu gan y mwyafrif helaeth o aelwydydd a ddylai gael un. Fodd bynnag, mae nifer yr aelwydydd y mae angen trwydded arnynt ond nad oes ganddynt un wedi codi o oddeutu 6% yn 2015 i dros 12% heddiw.[footnote 108] Mae hyn yn lleihau lefel incwm cyhoeddus y BBC ac yn rhoi aelwydydd sy’n osgoi talu mewn perygl o wynebu camau gorfodi troseddol.
Mae gorfodi’r drwydded deledu drwy sancsiynau troseddol wedi bod yn destun llawer o drafod ac mae wedi cael ei ystyried yn fanwl gan yr Adolygiad o Orfodi Trwyddedau Teledu, a gynhaliwyd gan David Perry CF yn 2015, a’r ymgynghoriad o dan arweiniad yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn 2020 ar ddad-droseddoli achosion o osgoi talu’r drwydded deledu.
Prif argymhelliad Adolygiad Perry oedd y dylid cadw’r system gorfodaeth droseddol, o leiaf tra bo’r system bresennol ar gyfer casglu ffi’r drwydded yn ei lle.[footnote 109] Roedd ymgynghoriad yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, a gafodd 154,000 o ymatebion, yn dangos pryderon y cyhoedd ynghylch y straen a’r gorbryder y gall system o orfodaeth droseddol eu hysgogi. Fodd bynnag, canfu hefyd y gallai unrhyw systemau gorfodi eraill gael effeithiau eang ar y rhai sy’n talu ffi’r drwydded, gan gynnwys y posibilrwydd o ddirwyon sylweddol uwch i bobl sy’n osgoi talu ac i feilïaid gael eu defnyddio yn achosion pobl agored i niwed.[footnote 110]
Er y canfuwyd bod ffactorau cymdeithasol y tu hwnt i reolaeth Trwyddedu Teledu yn ffactorau allweddol sy’n sbarduno’r gwahaniaeth rhwng y rhywiau, mae’n bryder parhaus i’r llywodraeth bod oddeutu 75% o’r erlyniadau am osgoi talu am drwydded deledu yn erbyn menywod. Rydym hefyd yn dal i boeni am yr effeithiau ar bobl agored i niwed.[footnote 111]
Ar yr un pryd, mae cyfraddau osgoi talu yn codi ac mae’r llywodraeth yn credu ei bod yn bwysig bod gan y BBC yr adnoddau cywir i gyflawni ei ddyletswyddau statudol o ran casglu a gorfodi yn effeithiol.[footnote 112]
Bydd y llywodraeth yn ystyried sut gellir hyrwyddo cydymffurfiaeth a sut gellid mynd i’r afael â’r heriau gorfodi sy’n gysylltiedig â’r model presennol. Bydd hyn yn cynnwys archwilio a ellid lleihau effeithiau negyddol presennol camau gorfodi ymhellach. Byddai hyn yng nghyd-destun unrhyw ddiwygiadau cyfiawnder ehangach posibl, a allai ddilyn ymgynghoriad y Weinyddiaeth Gyfiawnder ym mis Mawrth 2025 ar oruchwylio a rheoleiddio erlynwyr preifat ar fesurau diogelu cyfiawnder yn y Weithdrefn Un Ynad (y mae Trwyddedau Teledu yn ei defnyddio ar gyfer y rhan fwyaf o erlyniadau am osgoi talu am drwydded deledu).[footnote 113]
Wrth i gynulleidfaoedd symud i ffynonellau teledu byw mwy amrywiol, bydd heriau o ran asesu a yw aelwyd benodol yn cyflawni gweithgareddau trwyddedadwy - ac efallai y bydd aelwydydd hefyd yn ei chael yn fwy cymhleth penderfynu a oes angen trwydded deledu arnynt ai peidio. Rydym am edrych ar y potensial i’r BBC ddefnyddio mwy ar dechnoleg i ddeall pa aelwydydd sydd angen trwydded arnynt. Mae hyn yn cynnwys ystyried a allai’r BBC wella cydymffurfiad drwy fynnu bod cynulleidfaoedd yn dilysu bod ganddynt drwydded deledu i gael mynediad at wasanaethau ar-lein y BBC fel BBC iPlayer. Byddai angen cydbwyso hyn yn erbyn y risg o greu rhwystrau rhag defnyddio ar gyfer pobl sydd â lefelau is o sgiliau digidol.
7. Archwilio opsiynau ar gyfer ariannu BBC World Service
Mae’r llywodraeth yn rhoi gwerth mawr ar BBC World Service, sef gwasanaeth newyddion rhyngwladol mwyaf dibynadwy’r byd o hyd. Mae’n siapio’r amgylchedd gwybodaeth yn fyd-eang drwy ei rôl fel darparwr newyddion diduedd a chywir. Drwy newyddiaduraeth ymchwiliol o ansawdd uchel, mae’n datgelu ac yn chwalu camwybodaeth, twyllwybodaeth a naratifau niweidiol y mae gweithredwyr niweidiol, gwladwriaethau gelyniaethus ac eraill yn eu cynhyrchu’n rhyngwladol. Mae’n galluogi poblogaethau i gael yr wybodaeth ddiweddaraf, yn enwedig mewn mannau lle mae diffyg rhyddid/dim rhyddid yn y cyfryngau, ac mae’n chwarae rhan hanfodol fel ased pŵer meddal yn y DU, sy’n hyrwyddo gwerthoedd Prydeinig dramor.
Cyn 2014, roedd y llywodraeth wedi ariannu BBC World Service yn uniongyrchol drwy gymorth grant. Fel rhan o Setliad Ffi’r Drwydded 2010, cytunwyd y byddai BBC World Service yn cael ei ariannu’n gyfan gwbl drwy ffi’r drwydded rhwng mis Ebrill 2014 a 2016. Ers 2016, mae wedi cael ei ariannu drwy gymysgedd o gyllid grant gan y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu (FCDO) a ffi’r drwydded. Dyfarnwyd cynnydd o 31% i BBC World Service ar gyfer blwyddyn ariannol 2025/26, gan ddod â chyfanswm grant FCDO i £137 miliwn.
Mae’r BBC ac eraill wedi galw ar BBC World Service i ddychwelyd i gael ei ariannu’n llawn gan y llywodraeth. Fodd bynnag, mae safbwyntiau gwahanol ar y mater hwn ac mae’r sefyllfa gyllidol bresennol hefyd yn heriol iawn. Mae lleihau Cymorth Datblygu Swyddogol (ODA) y DU o 0.5% o Incwm Gwladol Gros (GNI) i 0.3% yn 2027, sy’n golygu bod modd gwario mwy ar amddiffyn i gydnabod y bygythiadau cynyddol sy’n wynebu’r DU, hefyd wedi cael effaith.
Ein huchelgais yw sefydlu model cyllido cynaliadwy hirdymor sy’n darparu cyllid sefydlog y gellir ei ragweld ar gyfer BBC World Service. Byddwn yn adolygu’r modelau cyllido ar gyfer gwaith rhyngwladol y BBC ochr yn ochr â’n hystyriaeth o opsiynau cyllido ar gyfer y BBC yn ei gyfanrwydd. Byddwn yn edrych ar drefniadau cyllido pwrpasol sy’n darparu ar gyfer cyllidebau aml-flwyddyn ar gyfer BBC World Service i gydnabod ei rôl unigryw. Fel rhan o hyn, byddwn yn gweithio gyda’r BBC i ddeall effeithiau cyflwyno wal dalu tanysgrifio ar gyfer defnyddwyr rheolaidd gwefan BBC.com yn yr Unol Daleithiau a pha mor ymarferol fyddai ehangu’r model hwn i wledydd eraill. Byddwn hefyd yn gweithio gyda’r BBC i edrych ar gyfleoedd masnachol rhyngwladol ehangach.
8. Cefnogi cyllid cynaliadwy ar gyfer gwasanaethau darlledu ieithoedd lleiafrifol, gan gynnwys S4C
Mae’r BBC yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o gefnogi’r gwahanol ieithoedd brodorol ar draws Ynysoedd Prydain. Mae’r llywodraeth yn cydnabod cyfraniad gwerthfawr darparwyr darlledu ieithoedd lleiafrifol yn ein cymdeithas ac wrth warchod ein treftadaeth genedlaethol. Mae cyllid cynaliadwy yn hanfodol i sicrhau bod y BBC yn gallu parhau i gefnogi siaradwyr ieithoedd lleiafrifol.
Bydd darparu gwasanaethau darlledu mewn ieithoedd lleiafrifol yn fwy cyffredinol hefyd yn parhau i fod yn rhan bwysig o feddylfryd y llywodraeth ynghylch cyllid y BBC yn y dyfodol. Yn benodol, mae’r darlledwr Cymraeg S4C, wedi cael ei holl gyllid cyhoeddus o ffi’r drwydded ers mis Ebrill 2022. Mae’r cyllid yn cael ei ddosbarthu gan y BBC i S4C o dan Gytundeb Fframwaith y BBC. O ganlyniad, mae S4C yn cael £97.6 miliwn o incwm ffi’r drwydded yn 2025/26. Bydd incwm ffi’r drwydded S4C yn codi yn unol â chwyddiant CPI bob blwyddyn tan ddiwedd cyfnod y Siarter hon. Mae partneriaeth S4C â’r BBC yn cwmpasu meysydd sy’n cynnwys cyflenwi rhaglenni, cydgynhyrchu, cydweithio creadigol, technoleg a llwyfannau, a chyllid.
Mae cefnogaeth i ddarlledu mewn ieithoedd lleiafrifol wedi rhoi hwb i’r sector cynhyrchu annibynnol ac economïau creadigol ar draws y gwledydd. Yng Nghymru, mae cyfraniad economaidd S4C wedi arwain at 2,500 o swyddi ac wedi cynhyrchu £150 miliwn i economi Cymru. Am bob £1 o gyllid ffi’r drwydded y mae S4C yn ei chael, cynhyrchir £1.03 mewn treth i’r Trysorlys, sy’n dangos yr elw ar fuddsoddiad y mae cyllid cyhoeddus ar gyfer darlledu mewn ieithoedd lleiafrifol yn ei ddarparu.[footnote 114]
Yn erbyn y cefndir hwn, bydd y llywodraeth yn ystyried effeithiau opsiynau cyllido’r BBC yn y dyfodol ar y darlledwr yng Nghymru fel rhan o’n penderfyniadau. Mae Deddf Cyfathrebiadau 2003 eisoes yn mynnu bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn sicrhau cyllid digonol ar gyfer S4C a bydd y llywodraeth yn parhau â’i hymrwymiad i hyn fel cydnabyddiaeth glir o bwysigrwydd darlledu yng Nghymru. Fel rhan o’r Adolygiad o’r Siarter, byddwn yn ymgysylltu ag S4C i ddeall anghenion cyllido’r darlledwr dros gyfnod nesaf y Siarter.
Mae MG ALBA, sy’n cyd-ariannu cynnwys BBC ALBA ynghyd â’r BBC, hefyd yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o ddarparu gwasanaeth darlledu mewn ieithoedd lleiafrifol drwy weithio gyda’r BBC a phartneriaid eraill i sicrhau bod cynulleidfaoedd yn gallu cael gafael ar gynnwys o ansawdd uchel mewn Gaeleg. Byddwn yn ystyried opsiynau ar gyfer rhoi mwy o sicrwydd i MG ALBA ynghylch ei gyllid fel rhan o’r Adolygiad o’r Siarter.
Cwestiynau’r ymgynghoriad
Cenhadaeth a Dibenion Cyhoeddus y BBC
1. Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylai Cenhadaeth a Dibenion Cyhoeddus presennol y BBC aros yr un fath?
-
Cytuno - Dylai Cenhadaeth a Dibenion Cyhoeddus y BBC aros yr un fath
-
Anghytuno - Dylai Cenhadaeth a Dibenion Cyhoeddus y BBC newid
-
Ddim yn siŵr/dim barn
2. I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylai’r BBC gael Diben Cyhoeddus penodol i gefnogi twf economaidd?
-
Cytuno’n gryf - Dylid yn bendant ychwanegu Diben Cyhoeddus sy’n ceisio cefnogi twf yr economi greadigol.
-
Cytuno - Mae’n debyg y dylid ychwanegu Diben Cyhoeddus sy’n ceisio cefnogi twf yr economi greadigol.
-
Ddim yn cytuno nac yn anghytuno - Dim barn y naill ffordd na’r llall.
-
Anghytuno - Mae’n debyg na ddylid ychwanegu Diben Cyhoeddus sy’n ceisio cefnogi twf yr economi greadigol.
-
Anghytuno’n gryf - Yn bendant, ni ddylid ychwanegu Diben Cyhoeddus sy’n ceisio cefnogi twf yr economi greadigol.
-
Ddim yn siŵr
3. Pa opsiwn, os o gwbl, sy’n cynrychioli orau eich teimladau ynghylch a ddylai’r BBC barhau i ddarparu amrywiaeth eang o gynnwys a gwasanaethau sy’n cynrychioli pob cynulleidfa mewn ffordd sy’n dod â chymunedau at ei gilydd, yn cefnogi cydlyniant cymdeithasol, ac yn helpu i greu stori genedlaethol unedig drwy gydol cyfnod nesaf y Siarter?
-
Dylai’r BBC wneud mwy i gynrychioli pob cynulleidfa. Dylai’r BBC ddarparu mwy o gynnwys a gwasanaethau sy’n ceisio cynrychioli pob cynulleidfa.
-
Mae’r BBC yn gwneud digon i gynrychioli pob cynulleidfa. Ar hyn o bryd, mae digon yn cael ei wneud i sicrhau bod pob cynulleidfa’n cael ei chynrychioli. Dylai’r BBC barhau i ddarparu cynnwys a gwasanaethau sy’n ceisio cynrychioli pob cynulleidfa.
-
Nid yw’r BBC yn gwneud digon i gynrychioli pob cynulleidfa, ond ni ddylid cymryd unrhyw gamau pellach. Ar hyn o bryd, nid oes digon yn cael ei wneud i sicrhau bod pob cynulleidfa’n cael ei chynrychioli. Fodd bynnag, mae meysydd eraill y dylai’r BBC ganolbwyntio arnynt yn hytrach na darparu mwy o gynnwys a gwasanaethau sy’n ceisio cynrychioli pob cynulleidfa.
-
Mae’r BBC yn gwneud gormod i gynrychioli pob cynulleidfa. Dylai’r BBC ddarparu llai o gynnwys a llai o wasanaethau sy’n ceisio cynrychioli pob cynulleidfa.
-
Dim barn y naill ffordd na’r llall
-
Ddim yn siŵr
4. Os ydych chi’n cytuno y dylai’r BBC barhau neu wneud mwy i wneud hyn, pa opsiynau sy’n ceisio gwella sut mae’r BBC yn adlewyrchu ac yn cynrychioli pob cynulleidfa ydych chi’n eu cefnogi, os o gwbl? (Dewiswch bob un sy’n berthnasol)
-
Cynhyrchu mwy o gynnwys sy’n unigryw i’r DU
- Rhoi sylw i genres nad ydynt yn cael cymaint o sylw gan ddarlledwyr eraill e.e. y celfyddydau, darlledu ieithoedd lleiafrifol
- Cynhyrchu mwy o gynnwys sy’n dod â phobl at ei gilydd ar adegau cyffredin
-
Rhannu lleisiau a safbwyntiau amrywiol o bob rhan o’r DU
-
Gwella amrywiaeth ar y sgrin ac oddi ar y sgrin
-
Arall - rhowch fanylion [Blwch testun rhydd; 50 gair]
-
Dim angen newid
- Ddim yn siŵr / dim barn
Sefydliad yr ymddiriedir ynddo
5. I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylid cyflwyno gofynion newydd ar y BBC er mwyn i’r BBC wneud mwy i wella safonau yn y gweithle?
-
Cytuno’n gryf - Dylid yn bendant gyflwyno gofynion newydd ar y BBC i wella safonau yn y gweithle.
-
Cytuno - Mae’n debyg y dylid cyflwyno gofynion newydd ar y BBC i wella safonau yn y gweithle.
-
Ddim yn cytuno nac yn anghytuno - Dim barn y naill ffordd na’r llall.
-
Anghytuno - Mae’n debyg na ddylid cyflwyno gofynion newydd ar y BBC i wella safonau yn y gweithle.
-
Anghytuno’n gryf - Yn bendant, ni ddylid cyflwyno gofynion newydd ar y BBC i wella safonau yn y gweithle.
-
Ddim yn siŵr
6. Sut, os o gwbl, mae’r swm sy’n cael ei dalu i’r rheini sy’n gweithio i’r BBC yn effeithio ar eich barn chi am y BBC? Wrth ymateb, efallai y byddwch yn dymuno ystyried i ba raddau mae’n effeithio ar faint rydych chi’n ymddiried yn allbynnau’r BBC ac a yw’n effeithio ar faint rydych chi’n defnyddio gwasanaethau’r BBC. [blwch testun agored 200 gair]
7. I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno bod y BBC yn atebol i’r cyhoedd ar hyn o bryd?
-
Cytuno’n gryf - Mae’r BBC bron bob amser yn atebol i’r cyhoedd.
-
Cytuno - Mae’r BBC yn atebol i’r cyhoedd gan mwyaf.
-
Ddim yn cytuno nac yn anghytuno - Dim barn y naill ffordd na’r llall.
-
Anghytuno - Anaml y mae’r BBC yn atebol i’r cyhoedd.
-
Anghytuno’n gryf - Nid yw’r BBC bron byth yn atebol i’r cyhoedd.
-
Ddim yn siŵr
8. Pa rai o’r opsiynau canlynol sy’n ceisio gwella atebolrwydd y BBC, os unrhyw un, ydych chi’n eu cefnogi? (Dewiswch bob un sy’n berthnasol)
- Ei gwneud yn ofynnol i’r BBC ddefnyddio fforymau ymgynghori, fel cynulliadau dinasyddion, er mwyn i benderfyniadau gynrychioli barn a lleisiau’r cyhoedd
- Ei gwneud yn ofynnol i’r BBC glywed safbwyntiau rhanbarthol drwy fframweithiau ymgynghori newydd neu strwythurau eraill, gan gynrychioli pob un o wledydd a/neu ranbarthau’r DU
- Gwella sut mae’r BBC yn cynnal ymchwil cynulleidfa i helpu i lywio’r broses o wneud penderfyniadau
- Cryfhau gofynion y Bwrdd i sicrhau bod y BBC yn ymgysylltu â’r cyhoedd mewn ffordd ystyrlon
- Newid strwythur y Bwrdd i wella ei effeithiolrwydd a’i atebolrwydd
-
Newid proses benodi’r Bwrdd. Gallai hyn gynnwys lleihau rôl y llywodraeth wrth benodi i’r Bwrdd gan benodi’r Cadeirydd yn unig
-
Egluro rolau a chyfrifoldebau aelodau’r bwrdd. Gallai hyn gynnwys nodi dyletswyddau’r Cadeirydd
-
Gwella rôl aelodau annibynnol y bwrdd a’u gallu i ddal y BBC i gyfrif
-
Cryfhau’r trefniadau craffu allanol ar y BBC. Gallai hyn gynnwys, er enghraifft, mwy o oruchwyliaeth gan Ofcom neu’r Senedd
-
Arall (rhowch fanylion) [testun rhydd]
-
Dim angen newid
- Ddim yn siŵr/dim barn
9. Mae’r llywodraeth yn ystyried newidiadau wedi’u targedu i gynyddu tryloywder yn y BBC i wella atebolrwydd y BBC dros gyfnod nesaf y Siarter. Pa opsiynau, os o gwbl, ydych chi’n eu cefnogi? (Dewiswch bob un sy’n berthnasol)
-
Gwella’r ffordd y mae’r BBC yn cyfleu gwybodaeth bwysig fel ei bod yn glir, yn gryno ac yn ddealladwy i bawb
-
Ei gwneud yn ofynnol i’r BBC gyfleu gwybodaeth bwysig yn well i randdeiliaid yn y diwydiant, yn enwedig i ddarlledwyr eraill yn y DU
-
Ei gwneud yn ofynnol i’r BBC gyfleu rhagor o wybodaeth am ei broses gwyno, yn enwedig i’r rheini sy’n cyflwyno cwynion
- Ei gwneud yn ofynnol i’r BBC gyfleu mwy o wybodaeth am y broses ar gyfer dewis pa raglenni y dylid eu gwneud a’u darlledu
- Ei gwneud yn ofynnol i’r BBC gyfleu mwy o wybodaeth am ei benderfyniadau golygyddol
-
Arall - rhowch fanylion [Blwch testun rhydd; dim mwy na 200 gair]
-
Dim angen newid
- Ddim yn siŵr / dim barn
10. Pam, os o gwbl, mae annibyniaeth y BBC yn bwysig i chi? (Dewiswch bob un sy’n berthnasol)
- Mae’n caniatáu i’r BBC fod yn rhydd o ddylanwad y llywodraeth neu ddylanwad gwleidyddol yn y cynnwys mae’n ei ryddhau
- Mae’n caniatáu i’r BBC fod yn ddiduedd wrth adrodd ar etholiadau, polisïau’r llywodraeth a phleidiau gwleidyddol
- Mae’n caniatáu i’r BBC ddal y llywodraeth i gyfrif a/neu fod yn feirniadol o’r llywodraeth
- Mae’n caniatáu i’r BBC fod yn annibynnol yn olygyddol a gwneud y penderfyniad terfynol ynghylch pa straeon i roi sylw iddynt a sut i roi sylw iddynt.
- Mae’n caniatáu i’r BBC ddilyn ei agenda ei hun, heb ymyrraeth, er mwyn iddo allu darparu cynnwys sy’n gwasanaethu cynulleidfaoedd ledled y DU
- Arall (rhowch fanylion) [testun rhydd]
- Nid yw annibyniaeth y BBC yn bwysig i mi
- Ddim yn siŵr / dim barn
11. Pa fesurau i gynyddu annibyniaeth y BBC ar y llywodraeth, os o gwbl, y dylid eu blaenoriaethu i gefnogi mwy o bobl i ymddiried yn y BBC a defnyddio gwasanaethau’r BBC? Yn eich ymateb, efallai y byddwch yn dymuno egluro eich rhesymau a chynnwys tystiolaeth berthnasol.
- [blwch testun rhydd, dim mwy na 200 gair]
- Ddim yn siŵr / dim barn
###Darparu gwasanaethau er budd y cyhoedd
12. Beth ddylai’r BBC ganolbwyntio arno, os unrhyw beth, i sicrhau bod deallusrwydd artiffisial yn cael ei ddefnyddio er budd y cyhoedd, ac er budd y Diwydiannau Creadigol ehangach? Dewiswch bob un sy’n berthnasol.
- Egluro’n dryloyw sut mae’n defnyddio deallusrwydd artiffisial ei hun, er enghraifft, wrth greu cynnwys a gwasanaethau
- Cael gofynion rheoleiddio newydd (er enghraifft, rhwymedigaethau tryloywder), i osod y safonau moesegol ar gyfer defnyddio deallusrwydd artiffisial mewn sefydliadau cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus
-
Addysgu cynulleidfaoedd sut i adnabod lle mae deallusrwydd artiffisial wedi cael ei ddefnyddio, ac asesu dibynadwyedd gwybodaeth a chynnwys yn feirniadol
-
Helpu cynulleidfaoedd i ddefnyddio deallusrwydd artiffisial eu hunain, er enghraifft, dysgu sgiliau cymell sylfaenol iddynt
-
Dod o hyd i ffyrdd arloesol o ddefnyddio deallusrwydd artiffisial i sbarduno arbedion effeithlonrwydd yn y BBC ac yn y sector cyfryngau ehangach
-
Bod yn gyswllt rhwng cwmnïau deallusrwydd artiffisial a chyfryngau gwasanaeth cyhoeddus llai sydd â llai o amser ac arian i negodi, gan helpu i gefnogi cydweithio yn ehangach
-
Arall - rhowch fanylion [Blwch testun rhydd; dim mwy na 200 gair]
-
Ni ddylai’r Siarter newydd gyflwyno rhwymedigaethau sy’n ymwneud â deallusrwydd artiffisial ar gyfer y BBC
- Ddim yn siŵr / dim barn
13. Pa fath o raglenni, os o gwbl, ydych chi’n meddwl y dylai’r BBC eu gwneud yn fwy amlwg ar ei lwyfannau? (Dewiswch bob un sy’n berthnasol)
-
Rhaglenni newyddion a materion cyfoes
-
Rhaglenni celfyddydau, crefyddol a materion rhyngwladol (y cyfeirir atynt weithiau fel genres ‘nad ydynt yn cael eu gwasanaethu’n ddigonol’)
-
Rhaglenni plant ac addysg
-
Rhaglenni sy’n dangos gwahanol leisiau a safbwyntiau o bob cwr o’r DU
-
Rhaglenni sy’n berthnasol yn lleol
-
Arall - rhowch fanylion [Blwch testun rhydd; dim mwy na 200 gair]
-
Ni ddylai’r Siarter newydd fynnu bod y BBC yn gwneud mathau penodol o raglenni’n fwy gweladwy
-
Ddim yn siŵr / dim barn
14. I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylai’r BBC ddefnyddio mwy ar lwyfannau trydydd parti i rannu ei gynnwys?
-
Cytuno’n gryf - Dylai’r BBC yn bendant ddefnyddio mwy ar lwyfannau trydydd parti i rannu ei gynnwys
-
Cytuno - Mae’n debyg y dylai’r BBC ddefnyddio mwy ar lwyfannau trydydd parti i rannu ei gynnwys
-
Ddim yn cytuno nac yn anghytuno - Dim barn y naill ffordd na’r llall
-
Anghytuno - Ni ddylai’r BBC ddefnyddio mwy ar lwyfannau trydydd parti i rannu ei gynnwys
-
Anghytuno’n gryf - Yn bendant, ni ddylai’r BBC ddefnyddio mwy ar lwyfannau trydydd parti i rannu ei gynnwys
-
Ddim yn siŵr
15. Meddyliwch am eich ymateb uchod, ac egluro pam rydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylai’r BBC ddefnyddio mwy ar lwyfannau trydydd parti i rannu ei gynnwys. Nodwch dystiolaeth berthnasol lle bo hynny’n bosibl.
- [blwch testun rhydd, dim mwy na 200 gair]
16. Beth, os unrhyw beth, ydych chi’n credu fyddai’n gwella gwerth a pherthnasedd newyddion a materion cyfoes y BBC i chi? Mae hyn yn cynnwys holl gynnwys newyddion a materion cyfoes y BBC, gan gynnwys ei wasanaethau newyddion teledu, radio ac ar-lein, ac allbynnau newyddion lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.
- Canolbwyntio o’r newydd ar gywirdeb a didueddrwydd
- Nodi’n gliriach pryd mae cynnwys yn newyddion a phryd mae’n farn
- Canllawiau golygyddol cadarn a thryloyw ar waith yn gyson
- Esboniad gwell o’r penderfyniadau golygyddol a newyddiadurol a wneir wrth ohebu ar y newyddion
- Mwy o dryloywder pan fydd gwallau a chamgymeriadau’n cael eu gwneud
- Mwy o ymdrech i ystyried barn y cyhoedd yn ei ddarpariaeth newyddion
-
Adrodd mwy o straeon newyddion sy’n lleol i chi
-
Adrodd mwy o straeon newyddion rhyngwladol
-
Tynnu sylw at straeon nad ydynt yn cael eu hadrodd gan gyfryngau eraill
-
Arall - rhowch fanylion [Blwch testun rhydd; dim mwy na 200 gair]
-
Dim angen newid
- Ddim yn siŵr / dim barn
17. Gan feddwl am gyfnod nesaf y Siarter, pa rôl, os o gwbl, ydych chi’n meddwl y dylai’r BBC ei chwarae o ran sicrhau bod dinasyddion y DU yn gallu adnabod a chael gafael ar wybodaeth ddibynadwy a chywir? Cofiwch gynnwys unrhyw dystiolaeth berthnasol i gefnogi eich ateb.
- [blwch testun 200 gair]
18. Mae allbwn rhyngwladol y BBC yn dangos y DU, ei diwylliant a’i gwerthoedd i gynulleidfa fyd-eang. Mae hyn yn cynnwys BBC World Service, sy’n ceisio darparu mynediad at newyddion dibynadwy ledled y byd mewn amgylchedd rhyngwladol sy’n fwyfwy heriol. I ba raddau ydych chi’n cytuno ei bod yn bwysig bod y BBC yn parhau i gyflawni’r rolau hyn yn rhyngwladol?
-
Cytuno’n gryf - Rhaid i’r BBC barhau i ddarparu’r rôl hon yn rhyngwladol
-
Cytuno - Dylai’r BBC barhau i ddarparu’r rôl hon yn rhyngwladol
-
Ddim yn cytuno nac yn anghytuno - Dim barn y naill ffordd na’r llall
-
Anghytuno - Ni ddylai’r BBC barhau i ddarparu’r rôl hon yn rhyngwladol
-
Anghytuno’n gryf - Rhaid i’r BBC beidio â pharhau i ddarparu’r rôl hon yn rhyngwladol
-
Ddim yn siŵr
Sbarduno twf ledled y DU
19. Beth, os unrhyw beth, ydych chi’n ei werthfawrogi am y BBC yn gweithredu ledled y DU? (Dewiswch bob un sy’n berthnasol)
-
Dod â phobl o wahanol gymunedau ledled y DU at ei gilydd, gan gynnwys ei gwledydd a’i rhanbarthau
-
Cynrychioli pobl o bob cwr o’r DU
-
Adrodd straeon lleol i gynulleidfa genedlaethol
-
Darparu newyddion lleol a gwybodaeth
-
Arian yn cael ei wario mewn ardaloedd lleol
-
Ysgogi clystyrau creadigol lleol (e.e. MediaCity ym Manceinion Fwyaf, pencadlys newydd y BBC yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr), gan gynnwys drwy gefnogi’r sector cynhyrchu annibynnol.
-
Datblygu swyddi a sgiliau ar gyfer pobl leol
-
Arall - rhowch fanylion [Blwch testun rhydd; dim mwy na 200 gair]
-
Dim un o’r uchod
-
Ddim yn siŵr
20. (1) I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylai fod yn ofynnol i’r BBC ledaenu mwy o’i wariant, ei weithgareddau a’i benderfyniadau ar draws gwledydd a rhanbarthau’r DU?
-
Cytuno’n gryf - Dylai’r BBC yn bendant wneud mwy i ledaenu ei wariant, ei weithgareddau a’i benderfyniadau ar draws gwledydd a rhanbarthau’r DU.
-
Cytuno - Mae’n debyg y dylai’r BBC wneud mwy i ledaenu ei wariant, ei weithgareddau a’i benderfyniadau ar draws gwledydd a rhanbarthau’r DU.
-
Ddim yn cytuno nac yn anghytuno - Dim barn y naill ffordd na’r llall.
-
Anghytuno - Mae’n debyg na ddylai’r BBC wneud mwy i ledaenu ei wariant, ei weithgareddau a’i benderfyniadau ar draws gwledydd a rhanbarthau’r DU.
-
Anghytuno’n gryf - Yn bendant, ni ddylai’r BBC wneud mwy i ledaenu ei wariant, ei weithgareddau a’i benderfyniadau ar draws gwledydd a rhanbarthau’r DU.
-
Ddim yn siŵr
20.(2) Pa opsiwn (opsiynau), os unrhyw rai, byddech chi’n eu cefnogi er mwyn lledaenu effaith economaidd a rôl y BBC yn cefnogi’r sector cynhyrchu ar draws gwledydd a rhanbarthau’r DU? (Dewiswch bob un sy’n berthnasol).
- Ei gwneud yn ofynnol i’r BBC ddatblygu strategaethau hirdymor ar gyfer datblygu’r sector creadigol rhanbarthol
- Rhagor o gwotâu neu rwymedigaethau ar gyfer cynhyrchu cynnwys y tu allan i Lundain a’r M25
- Targedau cwota newydd ar gyfer lleoli staff sy’n ymwneud â chomisiynu cynnwys ar draws gwledydd a rhanbarthau’r DU
- Newidiadau llywodraethu i roi mwy o reolaeth i arweinwyr rhanbarthol neu leol dros gomisiynu cynnwys dros eu cyllideb a’u penderfyniadau
- Newid y rheolau fel bod lleoliad yn cael ei ystyried wrth wneud penderfyniadau ynghylch comisiynu cynnwys gan gwmnïau cynhyrchu annibynnol
- Arall: rhowch fanylion
- Dim un o’r uchod
- Ddim yn siŵr / dim barn
21. Beth, os unrhyw beth, ydych chi’n meddwl y gallai’r BBC ei wneud i lenwi bylchau mewn sgiliau yn y sector creadigol? Nodwch unrhyw dystiolaeth berthnasol lle bo hynny’n bosibl.**
- [Blwch testun rhydd; 200 gair]
- Ddim yn siŵr / dim barn
22. Os ydych chi’n cynrychioli sefydliad sydd wedi gweithio gyda’r BBC yn y gorffennol, rhannwch eich meddyliau a rhowch dystiolaeth o’ch profiad o sut mae eich partneriaeth wedi gweithio a sut gellid ei gwella. Efallai yr hoffech ystyried sut gwnaethoch chi gysoni gweledigaeth a nodau ar gyfer y bartneriaeth, ymddiriedaeth, cyfathrebu, tryloywder, gwneud penderfyniadau, neu agweddau eraill ar weithio mewn partneriaeth.**
- Beth aeth yn dda? [Blwch testun rhydd; 350 gair]
- Beth gellid ei wella? [Blwch testun rhydd; 350 gair]
23. Os ydych chi’n ymateb ar ran sefydliad sydd â diddordeb mewn Ymchwil a Datblygu (e.e. cwmni cynhyrchu, prifysgol, cwmni caledwedd technoleg), sut hoffech chi weld y BBC yn cefnogi arloesedd? Nodwch dystiolaeth berthnasol lle bo hynny’n bosibl. Yn eich ateb, efallai yr hoffech ystyried unrhyw feysydd penodol lle rydych chi’n meddwl y dylai ganolbwyntio ei arweinyddiaeth; ar ba bwynt yng nghylch bywyd ymchwil a datblygu y mae cymorth y BBC fwyaf gwerthfawr; a sut hoffech chi i’r BBC weithio mewn partneriaeth â sefydliadau fel eich un chi ym maes ymchwil a datblygu.
- [Blwch testun rhydd; 350 gair]
- Ddim yn siŵr / dim barn
24. Os ydych chi’n cynrychioli sefydliad yn y diwydiannau creadigol, rhannwch eich meddyliau ar eich profiad o’r broses bresennol o reoleiddio’r effaith ar y farchnad a sut gellid ei gwella. Nodwch dystiolaeth berthnasol lle bo hynny’n bosibl.
- Beth aeth yn dda? [Blwch testun rhydd; 350 gair]
- Beth gellid ei wella? [Blwch testun rhydd; 350 gair]
Cyllid cynaliadwy a theg
25. I ba raddau ydych chi’n cytuno y dylai ffi’r drwydded barhau i ariannu ystod eang o wasanaethau ac allbwn sy’n ceisio hysbysu, addysgu a diddanu cynulleidfaoedd?
-
Cytuno’n gryf - Dylai ffi’r drwydded yn bendant ariannu amrywiaeth eang o wasanaethau ac allbwn sy’n ceisio hysbysu, addysgu a diddanu.
-
Cytuno - Dylai ffi’r drwydded ariannu amrywiaeth eang o wasanaethau ac allbwn sy’n ceisio hysbysu, addysgu a diddanu.
-
Ddim yn cytuno nac yn anghytuno - Dim barn y naill ffordd na’r llall.
-
Anghytuno - Ni ddylai ffi’r drwydded ariannu amrywiaeth eang o wasanaethau ac allbwn sy’n ceisio hysbysu, addysgu a diddanu.
-
Anghytuno’n gryf - Yn bendant, ni ddylai ffi’r drwydded ariannu amrywiaeth eang o wasanaethau ac allbwn sy’n ceisio hysbysu, addysgu a diddanu.
-
Ddim yn siŵr
26. I ba raddau ydych chi’n cytuno y dylai’r BBC ddefnyddio’r cyllid mae’n ei gael drwy ffi’r drwydded i ddarparu amrywiaeth eang o fanteision i’r DU? Gallai hyn gynnwys amcanion fel buddsoddi yn y gwledydd a’r rhanbarthau i sbarduno twf ledled y DU, a datblygu sgiliau sy’n cefnogi’r economi greadigol.
-
Cytuno’n gryf - Dylai’r BBC yn bendant ddefnyddio ffi’r drwydded i ariannu amrywiaeth eang o fanteision i’r DU a’r economi greadigol.
-
Cytuno - Dylai’r BBC ddefnyddio ffi’r drwydded i ariannu amrywiaeth eang o fanteision i’r DU ac i’r economi greadigol.
-
Ddim yn cytuno nac yn anghytuno - Dim barn y naill ffordd na’r llall.
-
Anghytuno - Ni ddylai’r BBC ddefnyddio ffi’r drwydded i ariannu amrywiaeth eang o fanteision i’r DU a’r economi greadigol.
-
Anghytuno’n gryf - Yn bendant, ni ddylai’r BBC ddefnyddio ffi’r drwydded i ariannu amrywiaeth eang o fanteision i’r DU a’r economi greadigol.
-
Ddim yn siŵr
27. I ba raddau ydych chi’n cytuno y dylid diwygio cwmpas ffi’r drwydded i gefnogi cynaliadwyedd hirdymor y BBC, a allai olygu ei gwneud yn ofynnol i fwy o aelwydydd dalu, ond gyda phob un yn talu llai?
-
Cytuno’n gryf - Dylid yn bendant ddiwygio ffi’r drwydded i gefnogi cynaliadwyedd hirdymor y BBC.
-
Cytuno - Dylid diwygio ffi’r drwydded i gefnogi cynaliadwyedd hirdymor y BBC.
-
Ddim yn cytuno nac yn anghytuno - Dim barn y naill ffordd na’r llall.
-
Anghytuno - Ni ddylid diwygio ffi’r drwydded i gefnogi cynaliadwyedd hirdymor y BBC.
-
Anghytuno’n gryf - Yn bendant, ni ddylid diwygio ffi’r drwydded i gefnogi cynaliadwyedd hirdymor y BBC.
-
Ddim yn siŵr
28. I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylai cynnwys neu wasanaethau’r BBC gynnwys hysbysebion, gan gofio sut gallai hyn ddarparu ffrwd incwm newydd i’r BBC, sut gallai effeithio ar brofiad y gynulleidfa a’r effaith ar ddarlledwyr eraill?
-
Hysbysebu helaeth - Dylai’r BBC hysbysebu ar ei holl gynnwys a gwasanaethau, gan gynnwys ar y teledu a radio byw.
-
Rhywfaint o hysbysebu - Dylai’r BBC hysbysebu rhywfaint ar ei gynnwys a’i wasanaethau ar-lein, ond nid ar deledu na radio byw.
-
Dim hysbysebu - Ni ddylai’r BBC gynnwys unrhyw hysbysebion ar ei gynnwys na’i wasanaethau.
-
Ddim yn cytuno nac yn anghytuno - Dim barn y naill ffordd na’r llall.
-
Ddim yn siŵr
29. A fyddech chi’n fodlon talu am wasanaeth tanysgrifio ychwanegol ar gyfer y BBC, yn canolbwyntio ar gynnwys premiwm ac adloniant, yn ogystal â ffi’r drwydded, gan dybio fod y pris yn debyg i bris gwasanaethau tanysgrifio fideo ar-alw poblogaidd eraill?
-
Cytuno’n gryf - Byddwn yn bendant yn fodlon talu am wasanaeth tanysgrifio ychwanegol ar gyfer y BBC, sy’n canolbwyntio ar gynnwys premiwm ac adloniant.
-
Cytuno - Byddwn yn fodlon talu am wasanaeth tanysgrifio ychwanegol ar gyfer y BBC sy’n canolbwyntio ar gynnwys premiwm ac adloniant.
-
Ddim yn cytuno nac yn anghytuno - Dim barn y naill ffordd na’r llall.
-
Anghytuno - Ni fyddwn yn fodlon talu am wasanaeth tanysgrifio ychwanegol ar gyfer y BBC, sy’n canolbwyntio ar gynnwys premiwm ac adloniant.
-
Anghytuno’n gryf - Yn bendant, ni fyddwn yn fodlon talu am wasanaeth tanysgrifio ychwanegol ar gyfer y BBC, sy’n canolbwyntio ar gynnwys premiwm ac adloniant.
-
Ddim yn siŵr
30. I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylid cyflwyno consesiynau newydd i aelwydydd sy’n wynebu pwysau ariannol sylweddol?
-
Cytuno’n gryf - Dylai’r llywodraeth yn bendant gyflwyno consesiynau trwyddedu teledu newydd i aelwydydd sy’n wynebu pwysau ariannol sylweddol, hyd yn oed os oes yn rhaid i aelwydydd eraill dalu mwy neu os bydd ansawdd gwasanaethau’r BBC yn gostwng.
-
Cytuno - Dylai’r llywodraeth gyflwyno consesiynau trwyddedu teledu newydd i aelwydydd sy’n wynebu pwysau ariannol sylweddol, dim ond os nad oes unrhyw effeithiau negyddol ar y BBC na chostau uwch i aelwydydd eraill.
-
Ddim yn cytuno nac yn anghytuno - Dim barn y naill ffordd na’r llall.
-
Anghytuno - Ni ddylai’r llywodraeth gyflwyno consesiynau trwyddedu teledu newydd i aelwydydd sy’n wynebu pwysau ariannol sylweddol.
-
Anghytuno’n gryf - Yn bendant, ni ddylai’r llywodraeth gyflwyno consesiynau trwyddedu teledu newydd i aelwydydd sy’n wynebu pwysau ariannol sylweddol.
-
Ddim yn siŵr
31. I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylid defnyddio technoleg i gefnogi cydymffurfiad, er enghraifft drwy ei gwneud yn ofynnol i aelwydydd sy’n defnyddio BBC iPlayer roi manylion eu trwydded deledu?
-
Cytuno’n gryf - Dylid yn bendant ddefnyddio technoleg i gefnogi cydymffurfiad, er enghraifft dylai system mewngofnodi BBC iPlayer yn bendant ei gwneud yn ofynnol i aelwydydd sy’n defnyddio’r gwasanaeth roi manylion eu trwydded deledu.
-
Cytuno - Dylid defnyddio technoleg i gefnogi cydymffurfiad, er enghraifft dylai system mewngofnodi BBC iPlayer fynnu bod aelwydydd sy’n defnyddio’r gwasanaeth yn rhoi manylion eu trwydded deledu.
-
Ddim yn cytuno nac yn anghytuno - Dim barn y naill ffordd na’r llall.
-
Anghytuno - Yn bendant, ni ddylid defnyddio technoleg i gefnogi cydymffurfiad, er enghraifft ni ddylai system mewngofnodi BBC iPlayer ei gwneud yn ofynnol i aelwydydd sy’n defnyddio’r gwasanaeth roi manylion eu trwydded deledu.
-
Anghytuno’n gryf - Yn bendant, ni ddylid defnyddio technoleg i gefnogi cydymffurfiad, er enghraifft yn bendant, ni ddylai system mewngofnodi BBC iPlayer ei gwneud yn ofynnol i aelwydydd sy’n defnyddio’r gwasanaeth roi manylion eu trwydded deledu.
-
Ddim yn siŵr
32. Oes gennych chi unrhyw safbwyntiau eraill ar fodel cyllido’r BBC yr hoffech eu rhannu? Yn eich ymateb, efallai yr hoffech egluro pam eich bod yn cytuno neu’n anghytuno â’r newidiadau posibl uchod neu awgrymu model cyllido gwahanol.
- [Blwch testun rhydd]
-
BBC, Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol Grŵp y BBC 2024/25, 2025, tudalen 6 ↩
-
BBC, BBC Annual Plan 2025/26, 2025, tudalen 17 ↩
-
BBC, BBC Annual Plan 2025/26, 2025, tudalen 3 ↩
-
Amcangyfrifon Economaidd DCMS, Annual GVA 2023 (provisional), 2025 ↩
-
BBC, Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol Grŵp y BBC 2024/25, 2025, tudalen 3 ↩
-
PACT, Changing UK Content Investment: What Could This Mean for the Health of the Production Sector?, 2025, tudalen 21 ↩
-
BBC, BBC Annual Plan 2025/26, 2025, tudalen 8 ↩
-
Ofcom, Argyfwng Darlledu, Dyfodol Cyfryngau Gwasanaeth Cyhoeddus, 2025, tudalen 3 ↩
-
Ofcom, Adolygiad o Gyfryngau Gwasanaeth Cyhoeddus (2019-23), 2024, tudalen 11 ↩
-
Ofcom, Adolygiad o Gyfryngau Gwasanaeth Cyhoeddus (2019-23), 2024, tudalen 11 ↩
-
Ofcom, Media Nations: UK 2025, 2025, tudalen 19 ↩
-
Ofcom, Media Nations: UK 2025, 2025, tudalen 9 ↩
-
BBC, Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol Grŵp y BBC 2024/25, 2025, tudalen 6 ↩
-
Ofcom, Adroddiad Blynyddol ar y BBC 2024-2025, 2025, tudalen 7 ↩
-
Ofcom, Pobl yn cael gafael ar newyddion yn y DU: 2025, 2025, tudalen 5 ↩
-
Reuters, Reuters Institute Digital News Report 2022, 2022, tudalen 17 ↩
-
Reuters, Reuters Institute Digital News Report 2025, 2025, tudalen 67 ↩
-
Reuters, Reuters Institute Digital News Report 2025, 2025, tudalen 67 ↩
-
Ofcom, Review of local media in the UK, 2024, tudalen 15 ↩
-
Reuters Institute, Digital News Report, 2024, tudalen 30 ↩
-
Ofcom, Review of local media in the UK, 2024, tudalen 23 ↩
-
Yn seiliedig ar adroddiadau blynyddol ar ffi’r drwydded Trwyddedu Teledu, Datganiad Ymddiriedolaeth y BBC: Ffi’r Drwydded Deledu, Datganiad ymddiriedolaeth ar gyfer y flwyddyn yn dod i ben ar 31 Mawrth 2025, 2025 ↩
-
BBC, Our BBC, Our Future, 2025 ↩
-
BBC, Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol Grŵp y BBC 2024/25, 2025, tudalen 17 ↩
-
Reuters, Reuters Institute Digital News Report 2022, 2022, tudalen 17 ↩
-
Reuters, Reuters Institute Digital News Report 2025, 2025, tudalen 67 ↩
-
BBC, Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol y BBC 2024/25, 2025, tudalen 42 ↩
-
Ofcom, A mystery shopping exercise of the BBC first complaints process research report, 2024, tudalen 1 ↩
-
BBC, Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol Grŵp y BBC 2024/25, 2025, tudalen 54 ↩
-
Ofcom, Llythyr Ofcom ar y BBC, 2023, tudalen 1 ↩
-
Ofcom, Drivers of perceptions of due impartiality: The BBC and the wider news landscape, 2022, tudalen 35 ↩
-
CIISA, Building the foundation of reporting harm in the creative industries, 2025, tudalen 4 ↩
-
BBC, Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol Grŵp y BBC 2024/25, 2025, tudalen 66 ↩
-
Ipsos (Comisiynwyd gan DCMS), Value of BBC News, 2025 ↩
-
Ofcom, Pobl yn cael gafael ar newyddion yn y DU: 2025, 2025, tudalen 5; Reuters, Reuters Institute Digital News Report 2025, 2025, tudalen 67 ↩
-
Reuters, Reuters Institute Digital News Report 2018, 2018, tudalen 63; Reuters, Reuters Institute Digital News Report 2025, 2025, tudalen 67 ↩
-
Reuters, Reuters Institute Digital News Report 2022, 2022, tudalen 17; Reuters, Reuters Institute Digital News Report 2025, 2025, tudalen 67 ↩
-
Ofcom, Pobl yn cael gafael ar newyddion yn y DU: 2025 2025, tudalen 5 ac 8 ↩
-
Ofcom, Pobl yn cael gafael ar newyddion yn y DU: 2025, 2025, tudalen 12 ↩
-
The Alan Turing Institute, How do people protect themselves against online misinformation?, 2024, tudalen 5 ↩
-
Ofcom, Deall camwybodaeth: archwilio ymddygiad ac agweddau oedolion yn y DU, 2024, tudalen 4 ↩
-
Ofcom, Adroddiad Blynyddol ar y BBC 2023 2024, 2024, tudalen 12 ↩
-
World Economic Forum, The Global Risks Report 2025, 2025, tudalen 8 ↩
-
BBC, Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol Grŵp y BBC 2024/25, 2025, tudalen 230 ↩
-
Creative Power, Global Reach, National Impact: the soft power impact of the BBC World Service to the UK, 2025, tudalen 24 ↩
-
Ofcom, The relationship between the use of PSBs for news and societal outcomes: An empirical analysis, 2025, tudalen 4 ↩
-
Ipsos (Comisiynwyd gan DCMS), Value of BBC News, 2025 ↩
-
Ipsos (Comisiynwyd gan DCMS), Value of BBC News, 2025 ↩
-
Tŷ’r Arglwyddi, Media Literacy, 3rd Report of Session 2024-25, 2025, tudalen 44 ↩
-
BBC, BBC Global Impact and Influence Research 2025, 2025, tudalen 18 a 30 ↩
-
Reuters, Reuters Institute Digital News Report 2024; OECD, OECD Survey on Drivers of Trust in Public Institutions, 2024 ↩
-
BBC, Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol Grŵp y BBC, 2024/25, 2025, tudalen 46 ↩
-
BBC, Delivering our Mission and Public Purposes, 2024, tudalen 79 ↩
-
Ofcom, Y drwydded weithredu ar gyfer Gwasanaeth Cyhoeddus y BBC yn y DU, 2025, tudalen 23 ↩
-
Ofcom, Communications Market Report 2025, data rhyngweithiol (Sylwch: Nid yw’r ffigurau’n cynnwys S4C, BBC ALBA, BBC HD na rhaglenni’r gwledydd/rhanbarthau) ↩
-
S4C, S4C Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol S4C 2024-2025, 2025, tudalen 29 ↩
-
Ofcom, Review of local media in the UK, 2024 ↩
-
Ofcom, Argyfwng Darlledu: Dyfodol Cyfryngau Gwasanaeth Cyhoeddus, 2025, tudalen 25 ↩
-
Ofcom, Adroddiad Blynyddol ar y BBC 2024-2025, 2025, tudalennau 46-52 ↩
-
BBC, Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol Grŵp y BBC 2024/25, 2025, tudalen 229 ↩
-
Ofcom, Adroddiad Blynyddol ar y BBC 2024-2025, 2025, tudalennau 3-4 ↩
-
Enders Analysis, Signs of local life; A new phase for local media, 2023, tudalen 1 ↩
-
BBC, Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol Grŵp y BBC 2024/25, 2025, tudalen 3 ↩
-
KPMG, An Assessment of the Economic Impact of the BBC: A report for the BBC for Financial Year 2019/20, 2021, tudalen 1 ↩
-
Ymchwil BBC a Tapestry, BBC Global Impact and Influence Research, 2025, tudalen 26 ↩
-
KPMG, An Assessment of the Economic Impact of the BBC: A report for the BBC for Financial Year 2019/20, 2021, tudalen 1 ↩
-
KPMG, An Assessment of the Economic Impact of the BBC: A report for the BBC for Financial Year 2019/20, 2021, tudalen 1 ↩
-
KPMG, An Assessment of the Economic Impact of the BBC: A report for the BBC for Financial Year 2019/20, 2021, tudalen 1 ↩
-
BBC, Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol Grŵp y BBC 2022/23, 2023, tudalen 25 ↩
-
Diffiniad o glystyrau creadigol: Mae clwstwr creadigol yn derm sy’n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio ardaloedd daearyddol sydd â chrynodiad uchel o weithgarwch y diwydiant creadigol sy’n aml yn cael ei fapio ar lefel Ardal Teithio i’r Gwaith (TTWA). Mae’r rhain yn cynnwys sectorau fel cynhyrchu ffilm a theledu, gemau fideo, hysbysebu, pensaernïaeth, dylunio, cerddoriaeth, cyhoeddi a chyfryngau digidol. ↩
-
BBC, Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol Grŵp y BBC 2024/25, 2025, tudalen 67 ↩
-
Ofcom, Adolygiad o Gyfryngau Gwasanaeth Cyhoeddus (2019-23), 2024, tudalen 40 ↩
-
PACT, Changing UK content investment, 2024, tudalen 6 ↩
-
Ofcom, Adolygiad o Gyfryngau Gwasanaeth Cyhoeddus (2019-23), 2024, tudalen 40 ↩
-
Llywodraeth y DU, Creative Industries Sector Plan, 2025, tudalen 44 ↩
-
Oliver & Ohlbaum Associates, Changing UK Content Investment: What Could This Mean for the Health of the Production Sector?, A report for Pact, 2024, tudalen 6 ↩
-
Pact Census, Oliver & Ohlbaum Associates, UK Television Production Survey, Financial Census 2025, 2025, tudalen 3 ↩
-
BBC, BBC Annual Plan 2025/26, 2025, tudalen 12 ↩
-
Ampere Analysis and Screen Skills, Sizing Up: Workforce Composition and Capacity in the Screen Industries, 2025, tudalen 66 ↩
-
Creative Industries Policy and Evidence Centre, State of the Nations research series, Skills Mismatches in the UK’s Creative Industries, 2025, tudalen 17 ↩
-
BBC, Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol Grŵp y BBC 2024/25, 2025, tudalen 2 ↩
-
BBC, Socioeconomic Impact of BBC Comedy, 2025, tudalen 3 ↩
-
Llywodraeth y DU, Creative Industries Sector Plan, 2025, tudalen 45 ↩
-
Delivering our Mission and Public Purposes 2024/25 tudalen 115 ↩
-
Delivering our Mission and Public Purposes 2023/24 tudalen 119 ↩
-
BBC, BBC Commissioning Report 2024/25, 2025, tudalen 11 ↩
-
BBC Framework Agreement, 2016, tudalen 60 ↩
-
BBC, Doctor Who Economic Impact, 2023, tudalen 9 ↩
-
BBC Framework Agreement, 2016, tudalen 64 ↩
-
Adroddiad DotEcon ar gyfer Adran Ymchwil a Datblygu’r BBC, Analysis of Research and Development Investment, 2018, tudalen 93 ↩
-
Prif Beiriannydd Ymchwil a Datblygu’r BBC, BBC R&D: The Secret Laboratory, 2022 ↩
-
Adroddiad DotEcon ar gyfer Adran Ymchwil a Datblygu’r BBC, Analysis of Research and Development Investment, 2018, tudalen 20 ↩
-
BBC, Annual Plan 2025/26, 2025, tudalen 4 ↩
-
Ofcom, Argyfwng Darlledu, Dyfodol Cyfryngau Gwasanaeth Cyhoeddus, 2025, tudalen 41 ↩
-
RAJAR, Quarterly Summary of Radio Listening from 30 December 2024 - 30 March 2025, 2025, tudalen 1 ↩
-
Ofcom, Ymgynghoriad: Gorsafoedd radio DAB+ newydd arfaethedig y BBC a newidiadau arfaethedig i Radio 5 Sports Extra, 2025, tudalen 3 ↩
-
Ofcom, Review of local media in the UK, 2024, tudalen 11 ↩
-
Ofcom, Review of local media in the UK, 2024, tudalen 9 ↩
-
BBC, Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol Grŵp y BBC 2024/25, 2025, tudalen 126 ↩
-
BBC, Gender Disparity Review, 2023, tudalen 2 a 23 ↩
-
BBC, Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol Grŵp y BBC 2017/18, 2018, tudalen 191 ↩
-
Ofcom, Adolygiad o Gyfryngau Gwasanaeth Cyhoeddus (2019-2023), 2024, tudalennau 10-11 ↩
-
Trwyddedu Teledu, Datganiad Ymddiriedolaeth Trwyddedu Teledu ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben Mawrth 2015, 2015, tudalen 5; Trwyddedu Teledu, Datganiad Ymddiriedolaeth Trwyddedu Teledu ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben Mawrth 2025, 2025, tudalen 6 ↩
-
Y Swyddfa Archwilio Genedlaethol, BBC Savings and Reform, 2021 ↩
-
BBC, Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol Grŵp y BBC 2022/23, 2023, tudalen 25 ↩
-
Ofcom, The TV Advertising Sector, 2025, tudalen 10; Ofcom, Media Nations: UK 2024, 2024, tudalen 31 ↩
-
Trwyddedu Teledu, Datganiad Ymddiriedolaeth Ffi’r Drwydded Deledu ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2025, 2025, tudalen 35 ↩
-
Trwyddedu Teledu, Datganiad Ymddiriedolaeth Ffi’r Drwydded Deledu ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2025, 2025, tudalen 7 ↩
-
DCMS/David Perry CF, TV Licence Fee Enforcement Review, 2015, tudalen 79 ↩
-
DCMS, Ymateb y llywodraeth i’r ymgynghoriad ar ddad-griminaleiddio achosion o osgoi talu’r drwydded deledu, 2021, tudalen 4 ↩
-
BBC, Gender Disparity Review, 2023, tudalen 3 ↩
-
Trwyddedu Teledu, Datganiad Ymddiriedolaeth Ffi’r Drwydded Deledu ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2025, 2025, tudalen 7 ↩
-
Y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Ymgynghoriad ar oruchwylio a rheoleiddio erlynwyr preifat yn y system cyfiawnder troseddol, 2025 ↩
-
Wavehill, Asesiad o Effaith Economaidd a Chymdeithasol Gweithgareddau S4C yn 2024/25, 2025, tudalen 17 ↩