Y Cynllun Graddio Carcasau Moch: canllawiau
Os yw eich lladd-dy yn lladd mwy na 200 o foch glân yr wythnos mae'n rhaid i chi fod wedi'ch cofrestru a dilyn y rheolau ar raddio carcasau.
Er mwyn gweithredu lladd-dy, mae’n rhaid i chi gael cymeradwyaeth gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
Os yw eich lladd-dy yn lladd mwy na 200 o foch glân (anifeiliaid nad ydynt wedi’u defnyddio at ddibenion bridio) yr wythnos, mae’n rhaid i chi gofrestru â’r Cynllun Graddio Carcasau Moch.
Mae’n rhaid i ladd-dai cofrestredig gydymffurfio â rheolau’r cynllun, sy’n ymdrin â’r canlynol:
- paratoi (trin), graddio, pwyso a marcio carcasau
- cadw cofnodion
- archwiliadau
- camau gorfodi a chosbau
Rheoliadau perthnasol
Rheoliadau Dosbarthu Carcasau Cig Eidion a Moch (Lloegr) 2010 (OS 2010/1090) fel y’u diwygiwyd gan Reoliadau’r Trefniant Cyffredin Sengl ar gyfer Marchnadoedd (Diwygiadau Canlyniadol) 2013 (OS 2013/3235)
Rheoliadau Dosbarthu Carcasau Cig Eidion a Moch (Cymru) 2011 (OS 2011/1826 (Cy. 198)) fel y’u diwygiwyd gan Reoliadau Dosbarthu Cig Eidion a Moch (Cymru) (Diwygio) 2012 (OS 2012/948 (Cy. 125)) a chan Reoliadau’r Trefniant Cyffredin Sengl ar gyfer Marchnadoedd (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2013 (OS 2013/3270 (Cy. 320))
Rheoliad y Comisiwn (CE) Rhif 1249/2008 fel y’i diwygiwyd gan Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (UE) Rhif 994/2013 a Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (UE) Rhif 148/2014