Skip to main content
Casgliad

Asesiadau effaith a de minimis yr Asiantaeth Safonau Bwyd

Asesiadau effaith a de minimis gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd sydd wedi'u cyhoeddi.

Asesiad effaith yw offeryn polisi i asesu effeithiau’r opsiynau sy’n cael eu hystyried, gan gynnwys y costau a’r buddion disgwyliedig, ac mae’n crynhoi’r rhesymeg dros ymyrraeth y llywodraeth.

Asesiadau de minimis yw asesiadau neu amcangyfrifon cymesur o’r effeithiau ar gyfer mesur sydd wedi’i ardystio fel un islaw’r trothwy de minimis (wedi’i osod ar hyn o bryd ar gost uniongyrchol net blynyddol cyfwerth i fusnesau (EANDCB) o ± £10 miliwn).

Mae deall effaith newidiadau arfaethedig ar ein dull rheoleiddio yn hanfodol i lunio polisïau da.

Bydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) fel arfer yn cyhoeddi asesiadau effaith ac asesiadau de minimis ar ffurf ymgynghoriadau ar GOV.UK er mwyn casglu tystiolaeth gan randdeiliaid. Ar ôl ystyried y dystiolaeth, caiff asesiad effaith neu asesiad de minimis terfynol ei gyhoeddi ar GOV.UK.

Mae’r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg (English)

Sylwch fod asesiadau effaith ac asesiadau de minimis ar gael yn Saesneg yn unig yn unol â rhwymedigaeth Cynllun Iaith yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Asesiadau effaith yr ASB rhwng 2000 a 2016

Mae asesiadau effaith blaenorol rhwng 2000 a 2016 ar gael ar yr Archifau Cenedlaethol:

Asesiadau effaith yr ASB 2025

Asesiadau effaith yr ASB 2022

Asesiadau effaith yr ASB 2020

Asesiadau effaith yr ASB 2019

Asesiadau effaith yr ASB 2018