Skip to main content

Cynllun iaith Gymraeg - Asiantaeth Safonau Bwyd

Mae ein Cynllun Iaith Gymraeg yn disgrifio pa wasanaethau rydym ni’n eu darparu yn Gymraeg a sut a phryd y caiff y gwasanaethau hynny eu darparu.


Cynllun Iaith Gymraeg

Mae ein polisi iaith yn diwallu gofynion Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 a Mesur yr Iaith Gymraeg 2011. Mae gennym ni Uned Iaith Gymraeg fewnol sy’n gyfrifol am weithredu a goruchwylio’r cynllun, yn ogystal â darparu gwasanaethau dwyieithog yng Nghymru. 

Cafodd ein Cynllun ei ddiweddaru a’i gymeradwyo gan Gomisiynydd y Gymraeg ym mis Mawrth 2019.

O dan Mesur y Gymraeg 2011, bydd y Cynllun hwn yn cael ei ddisodli gan Safonau’r Gymraeg yn y pen draw sy’n gweithredu ar yr un egwyddor, i gynnig dewis iaith rhagweithiol i ddefnyddwyr yng Nghymru. Mae rhagor o wybodaeth am y Safonau hyn i’w gweld ar wefan Comisiynydd y Gymraeg yn cynnwys rhagor o wybodaeth am y Safonau. Hyd nes y daw’r Safonau hyn i rym, byddwn yn parhau i weithredu yn unol â’r Cynllun Iaith hwn.

Adroddiadau Monitro Blynyddol

Hysbysiad Preifatrwydd – Gwasanaethau Iaith Gymraeg

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) fydd ‘Rheolydd’ y data personol a ddarperir i ni.

Pwrpas prosesu a’r sail gyfreithiol dros brosesu

Mae angen i ni gasglu’r wybodaeth hon at ddibenion caffael gwasanaethau cyfieithu Saesneg i Gymraeg, gan gynnwys gwasanaethau cyfieithu ar y pryd, er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion yr ASB o ran y Gymraeg.   Rydym yn gwneud hyn i’n galluogi i ymrwymo i gontract rhyngom neu i’w gyflawni.

Gwnawn hyn wrth arfer awdurdod swyddogol a roddwyd i ni o dan y Ddeddf Safonau Bwyd ac wrth gyflawni tasg er budd y cyhoedd.

Ni fyddwn ni’n casglu unrhyw ddata personol gennych chi nad oes ei angen arnom ni. 

Sut a ble rydym ni’n storio eich data a gyda phwy y gallwn ni ei rannu 

Dim ond cyhyd ag y bo’n angenrheidiol i gyflawni’r swyddogaethau hyn y byddwn ni’n cadw gwybodaeth bersonol, a hynny’n unol â’n polisi cadw. Mae hyn yn golygu y byddwn yn cadw’r wybodaeth am 5 mlynedd wedi iddi ddod i law.

I gael rhagor o wybodaeth am sut a ble rydym yn storio eich data, a chyda phwy y gallwn ei rannu, gweler ein Siarter Gwybodaeth Bersonol.

I gael gwybodaeth am sut y gallem ddefnyddio a rhannu data fel rhan o’n swyddogaeth monitro risg, gweler yr adran Monitro a Gwerthuso Risgiau yn ein Siarter Gwybodaeth Bersonol.  

Trosglwyddiadau Rhyngwladol  

I gael mwy o wybodaeth am drosglwyddiadau rhyngwladol, gweler yr adran Trosglwyddiadau Rhyngwladol yn ein Siarter Gwybodaeth Bersonol.  

Dinasyddion yr UE

I gael mwy o wybodaeth am Hysbysiad Preifatrwydd Dinasyddion yr UE, ewch i’r adran Dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd (UE) yn ein Siarter Gwybodaeth Bersonol.  

Eich hawliau

I gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau, ewch i adran Eich hawliau ein Siarter Gwybodaeth Bersonol.  

Cysylltu â ni  

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau am yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn, eich gwybodaeth bersonol neu unrhyw gwestiynau am ein defnydd o’r wybodaeth, anfonwch e-bost at ein Swyddog Diogelu Data yn yr ASB, sef Arweinydd y Tîm Rheoli Gwybodaeth a Diogelwch gan ddefnyddio’r cyfeiriad isod.

Y Tîm Rheoli Gwybodaeth: information.governance@food.gov.uk.