Cyfamod y Gymdeithas Sifil: Y Cynllun i Wneud i Waith Dalu
Cydweithredu cynnar a chynhwysol â rhanddeiliaid.
O’r diwrnod cyntaf yn y swydd, mae’r Llywodraeth wedi nodi ei hymrwymiad i greu swyddi sy’n rhoi diogelwch, yn trin gweithwyr yn deg, ac yn talu cyflog dechau. I helpu i gyflawni hyn, ymrwymodd y Llywodraeth i barhau i weithio’n agos mewn partneriaeth â busnes ac undebau llafur a hynny ar lefel y gweinidogion a’r swyddogion. Mae’r gwaith teirochrog yma wedi’i ymgorffori yn y gwaith o gyflawni’r Cynllun i Wneud i Waith Dalu ac fel rhan o ddatblygiad Bil Hawliau Cyflogaeth nodedig y Llywodraeth.
Mae’r ffordd yma o weithio wedi cynnwys nifer o sesiynau ymgysylltu i glywed barn onest ac amrywiol o amryw o safbwyntiau a chefndiroedd. Mae’r ddirnadaeth a’r adborth arbenigol a manwl a gafwyd o’r gwaith teirochrog wedi bod yn amhrisiadwy wrth bennu’r manylion cywir ar draws y Cynllun i Wneud i Waith Dalu a’r Bil Hawliau Cyflogaeth. O hawliau newydd ar oriau gwarantedig, i dâl salwch, ac i amddiffyn rhag diswyddo annheg, mae cynrychiolwyr undebau llafur a busnes wedi cymryd rhan weithredol i lywio datblygiad y polisi a byddan nhw’n parhau â’u cyfranogiad yn ystod y gweithredu.
Mae’r dull cydweithredol yma wedi sicrhau bod datblygu’r Cynllun i Wneud i Waith Dalu a’r Bil Hawliau Cyflogaeth wedi elwa o arbenigedd a safbwyntiau ymarferol cynrychiolwyr cyflogwyr a chyflogeion. Mae Gweinidogion a Chyfarwyddiaeth Hawliau Cyflogaeth y DBT wedi ymgysylltu â mwy na 190 o randdeiliaid; gan sicrhau bod y Llywodraeth yn ymgysylltu’n eang ac yn ddwfn. Bydd y polisïau sy’n deillio o hynny yn rhoi’r uwchraddiad mwyaf mewn hawliau gweithwyr mewn cenhedlaeth.
Y gwersi allweddol
Mae cydweithredu cynnar a helaeth â’r rhanddeiliaid allweddol yn hanfodol ar gyfer datblygu deddfwriaeth cyflogaeth effeithiol sy’n ennyn derbyniad da. Dylai’r dull yma gael ei barhau trwy gydol y gwaith datblygu polisi. Mae ymgorffori gwaith teirochrog yn meithrin dealltwriaeth fwy cynhwysfawr o’r materion ac yn helpu i liniaru canlyniadau anfwriadol.