Cyfamod y Gymdeithas Sifil: Rhaglen Bregusrwydd Cynllun Preswylio’n Sefydlog yr UE (EUSS)
Trosoli data a thryloywder i bontio rhaniadau digidol dinasyddion bregus.
Gan fod Cynllun Preswylio’n Sefydlog yr UE wedi’i ddylunio ar sail digidol yn gyntaf, roedd yn creu heriau i ddinasyddion o’r UE sy’n agored i niwed yn y Deyrnas Unedig, gan gynnwys y rhai sy’n wynebu rhwystrau iaith, allgáu digidol, problemau iechyd meddwl a digartrefedd. Roedd y materion hyn yn rhwystro pobl rhag gwneud cais am statws sefydlog a sicrhau statws sefydlog yn y Deyrnas Unedig. Er bod llawer o sefydliadau’r gymdeithas sifil (CSOs) mewn sefyllfa unigryw i gyrraedd a chefnogi’r unigolion hyn, doedd ganddyn nhw mo’r data cywir i weithio arno.
Mewn ymateb, lansiodd y llywodraeth raglen grant ar gyfer CSOs i wella’r broses o gasglu, a rhannu data ac i wella’i dryloywder. Roedd hyn yn caniatáu gwell dulliau rhannu data rhwng y llywodraeth a derbynwyr y grantiau ar gyfer asesiadau uniongyrchol, gan sefydlu safonau tryloywder, a chynnig cefnogaeth i sefydliadau llai ym maes cydymffurfio â rheolaeth data. Roedd y data a gasglwyd oddi wrth y gymdeithas sifil yn llywio newidiadau mewn polisi ac allgymorth, gan wella’r ddealltwriaeth o anghenion a chaniatáu atebion cydweithredol, wedi’u seilio ar dystiolaeth.
Dyrannwyd dros £32.5 miliwn yn llwyddiannus i fwy na 70 o sefydliadau’r gymdeithas sifil, gan eu galluogi i roi cymorth hanfodol i fwy na 500,000 o ddinasyddion bregus na fydden nhw wedi gwneud cais i’r cynllun fel arall. Helpodd y fenter hanfodol yma unigolion i ddeall y cynllun, llenwi ceisiadau, a chael mynediad at wasanaethau cyfreithiol neu wasanaethau cyfieithu.
Helpodd y grantiau hefyd bedwar sefydliad cenedlaethol (un yr un yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon) a nifer o sefydliadau rhanbarthol, gan sicrhau mynediad at wasanaethau ledled y Deyrnas Unedig. Un enghraifft yw Citizens Advice Scotland, gyda 1,000 o gynghorwyr mewn 200 o leoliadau allgymorth yn rhoi cyngor ar Gynllun Preswylio’n Sefydlog yr UE (EUSS), gan gynnwys budd-daliadau, tai, a chymorth ynglŷn â dyledion, gan wella lles cymunedol.
Mae’r camau nesaf yn cynnwys cymhwyso’r model yma at gynlluniau yn y dyfodol ac olrhain effeithiau hirdymor ar wydnwch cymunedol.