Case study

Cyfamod y Gymdeithas Sifil: Grŵp Gorchwyl a Gorffen Hygyrchedd Hedfan (AATFG)

Cyd-ddylunio hedfan hygyrch trwy bartneriaeth.

Cafodd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen Hygyrchedd Hedfan ei sefydlu ym mis Tachwedd 2024 dan gadeiryddiaeth y Farwnes Tanni Grey-Thompson, ac unodd y diwydiant, y rheoleiddiwr ac eiriolwyr defnyddwyr. Nod y grŵp, a hwylusir gan yr Adran Drafnidiaeth, oedd cyd-ddylunio gwelliannau ymarferol ar gyfer teithwyr awyr anabl a llai symudol.

Mae’r fenter yn pwysleisio cydweithredu cynhwysol, gan ymgysylltu â’r gymdeithas sifil, elusennau anabledd, ac unigolion sydd â phrofiad byw trwy fyrddau crwn, adborth uniongyrchol, ac ymholiadau manwl. Mae’r dull hwn yn cyfrannu’n uniongyrchol at ymrwymiad ym maniffesto Llafur i hybu hawliau pobl anabl ac at yr egwyddor o weithio gyda nhw, gan sicrhau bod eu barn a’u lleisiau wrth wraidd pob polisi a’r holl weithredu. Roedd y pwyslais ar newidiadau ymarferol a deialog barhaus gyda theithwyr anabl er mwyn sicrhau gwelliannau ystyrlon, cynaliadwy.

Mae’r dull cynhwysol yma wedi dylanwadu’n gadarnhaol ar gysylltiadau rhwng y llywodraeth a’r gymdeithas sifil. Mae mynd ati i gynnwys grwpiau ac unigolion sy’n eiriol dros anabledd wedi caniatáu proses gydweithredol a chynhwysol. Y nod yn hyn o beth yw meithrin ymddiriedaeth a chyd-ddealltwriaeth, lle mae pryderon dinasyddion anabl yn cael eu clywed.

Roedd y campau nodedig yn cynnwys sefydlu ymgysylltiad uniongyrchol ag unigolion anabl ac elusennau, meithrin dull polisi cydweithredol, a gosod cynsail ar gyfer cynnwys grwpiau ymylol yn ystyrlon mewn polisïau sy’n effeithio’n uniongyrchol arnyn nhw.

Updates to this page

Published 17 July 2025