Case study

Cyfamod y Gymdeithas Sifil: Cytundeb VCFSE

(Mentrau Gwirfoddol, Cymunedol, Crefyddol a Chymdeithasol) Manceinion Fwyaf (GM).

Cafodd Cytundeb VCFSE Manceinion Fwyaf (GM) ei lofnodi ym mis Tachwedd 2017 fel cytundeb cydweithredu rhwng cyrff cyhoeddus a’r gymdeithas sifil.

Sefydlwyd y Cytundeb gan Awdurdod Cyfun Manceinion Fwyaf a Phartneriaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol Manceinion Fwyaf gyda grŵp o arweinwyr y gymdeithas sifil wedi’u lleoli ym Manceinion Fwyaf er mwyn adeiladu perthynas a fyddai’n cydnabod ac yn datgloi potensial llawn y gymdeithas sifil i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau yn y ddinas-ranbarth er budd y cyhoedd.

Mae’r Cytundeb wedi helpu i godi proffil sefydliadau’r gymdeithas sifil gydag arweinwyr y sector cyhoeddus lleol gan fwrw goleuni ar y gwerth a’r arbenigedd y gallan nhw eu cynnig. Un bartneriaeth sy’n deillio o hynny yw Uned Lleihau Trais Manceinion Fwyaf (GMVRU) rhwng y llywodraeth, yr heddlu, iechyd, addysg, gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid, awdurdodau lleol, asiantaethau statudol eraill a’r gymdeithas sifil. Mae’r GMVRU wedi ymrwymo i arddel ymagwedd a arweinir gan y gymuned yn ei hymdrechion i atal trais. Mae’r dull yma yn cydnabod gwerth a chryfder sefydliadau’r gymdeithas sifil wrth weithio’n agos gyda chymunedau, i ddeall eu hanghenion, eu heriau a’u cryfderau mewn perthynas ag atal trais. Mae hefyd yn rhoi penderfyniadau yn nwylo cymunedau, gan gynnwys gosod blaenoriaethau a chytuno ar gyllid ar gyfer prosiectau ac ymyriadau sy’n anelu at ymgysylltu â phlant, pobl ifanc a theuluoedd.

Mae mentrau’r VRU wedi cynnwys rhaglen StreetDoctors dan arweiniad y gymdeithas sifil, sy’n darparu sesiynau hyfforddi i bobl ifanc weithredu mewn argyfwng meddygol. Yn sgil hyn roedd 95% o’r bobl ifanc yn gwybod beth i’w wneud os byddai rhywun yn gwaedu neu’n anymwybodol, ac roedd 85% yn barod i weithredu mewn argyfwng meddygol.

Mae Adroddiad Interim ar Gynnydd Cytundeb VCFSE Manceinion Fwyaf  yn awgrymu gwella gwelededd y Cytundeb ac ymgorffori ei egwyddorion ar draws sefydliadau’r sector cyhoeddus. Bydd hyn yn gwella cydnabyddiaeth o werth y gymdeithas sifil ar draws Manceinion Fwyaf, a thrwy hynny yn cefnogi mwy o gyfranogiad gan VCSEs a chynyddu lleisiau dinasyddion mewn gwaith ledled Manceinion Fwyaf.

Updates to this page

Published 17 July 2025