Cyfamod y Gymdeithas Sifil: Cynllunio Lle Medrwn Môn
Cydweithio fel cynghrair.
Mae Cynllunio Lle Medrwn Môn yn grymuso cymunedau Ynys Môn drwy gynghreiriau cymunedol i fynd ati i lunio gwasanaethau lleol. O’r blaen, roedd darpariaeth gwasanaethau traddodiadol o’r brig i lawr yn aml yn anwybyddu anghenion unigryw cymunedau. Roedd hyn yn creu rhwystr oedd yn atal dinasyddion rhag cyfranogi, gyda dinasyddion yn aml yn teimlo eu bod nhw heb gysylltiad â’r penderfyniadau oedd yn effeithio arnyn nhw. Cafodd cynllun Cynllunio Lle Medrwn Môn ei ddatblygu gyda Chyngor Sir Ynys Môn i helpu i ddod o hyd i ateb. Gyda chymorth cyllid gan Lywodraeth Cymru a thrwy ddefnyddio egwyddorion Cynllun Trydydd Sector Cymru, sefydlodd y rhaglen Gynghreiriau Cymunedol sy’n creu map o asedau cymunedol yn eu hardal, gan gynnwys cyfleusterau corfforol a’r sgiliau a’r profiadau lleol sydd ar gael. Bydden nhw’n gweithio wedyn gyda’r gwasanaethau statudol i ddatblygu gwasanaethau sydd wedi’u seilio ar asedau ac anghenion lleol.
Mae manteision Cynllunio Lle yn cynnwys cynnydd ym mhresenoldeb grwpiau cymunedol, defnyddio adeiladau cymunedol, a mwy o gyfleoedd i wirfoddoli. Mae Linc Cymunedol Môn, sef rhaglen presgripsiynu cymdeithasol i drigolion, wedi dod yn bwynt mynediad sengl ar gyfer gwasanaethau ymyrraeth ac atal cynnar i ddarparwyr statudol gan gynnwys y tîm iechyd meddwl cymunedol, darparwyr cymorth tai, meddygon teulu, a’r heddlu lleol. Erbyn hyn mae un o’r Cynghreiriau Cymunedol, sef Cynghrair Seiriol, yn Sefydliad Elusennol Corfforedig sy’n cyflogi ei staff ei hun, yn rhedeg ei drafnidiaeth gymunedol ei hun ac yn cynhyrchu ei arian ei hun ar gyfer prosiectau ar raddfa fach dan arweiniad y gymuned. Mae hyn wedi gwella perthnasoedd rhwng y llywodraeth a’r gymdeithas sifil trwy hwyluso mwy o ymddiriedaeth a diwylliant o gyfrifoldeb cyffredin. Mae’r gwasanaethau, wedi’u datganoli ac wedi’u cadw, wedi dod yn fwy perthnasol a hygyrch, gan adeiladu gwydnwch cymunedol cryfach trwy gyfranogiad gweithredol. Mae partneriaid y sector cyhoeddus yn dal yn ymrwymo i gynllunio cymunedol ystyrlon, gyda Chynllunio Lle bellach wedi’i ysgrifennu’n uniongyrchol i mewn i ddisgrifiadau swydd a dyletswyddau swyddogion gweithredol Cyngor Ynys Môn ynghyd ag ymrwymiad i sicrhau bod holl adrannau’r cyngor yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau i gynnal y ffordd yma o weithio.