Cyfamod y Gymdeithas Sifil: Cyngor Dinas Leeds
Adeiladu partneriaethau effeithiol trwy gyfathrebu ac ymgysylltu rhagweithiol.
Mae Cyngor Dinas Leeds yn adeiladu partneriaethau cryf gyda’r gymdeithas sifil trwy gyfathrebu ac ymgysylltu cyson a rhagweithiol. Wrth wraidd hyn mae Partneriaeth y Trydydd Sector, sef fforwm strategol sy’n dod ag uwch arweinwyr o’r Cyngor, y GIG, prifysgolion, yr Awdurdod Cyfunol, Trydydd Sector Leeds, a chynrychiolwyr eraill o’r gymdeithas sifil at ei gilydd. Mae’r llwyfan yma yn caniatáu deialog gynnar, agored ar faterion allweddol ledled y ddinas, i gefnogi sector cymdeithas sifil gwydn a ffyniannus sy’n parhau i gyflawni canlyniadau cadarnhaol i drigolion Leeds.
Mae’r Bartneriaeth yn cyfarfod bob yn ail fis gydag agendâu sydd wedi’u cydgynhyrchu ac mae’n rhannu diweddariadau rheolaidd. Mae hyn yn cynnwys trosolwg blynyddol o sefyllfa ariannol y cyngor, y gyllideb arfaethedig, a’r risgiau allweddol. Mae’r mewnwelediadau hyn yn helpu i reoli disgwyliadau a llywio negeseuon y gymdeithas sifil. Hefyd, mae cyfarfodydd brecwast bob dwy flynedd yn dod ag arweinwyr y gymdeithas sifil a’r cyngor ynghyd i gysoni strategaethau lobïo a chodi’r effaith gymdeithasol i’r eithaf.
Mae’r cyfleoedd ymgysylltu cyson yma wedi helpu i adeiladu ymddiriedaeth, ymgorffori safbwyntiau’r gymdeithas sifil wrth ddatblygu strategaethau, ac ategu cyfathrebu tryloyw, dwyffordd. Mae hefyd yn cryfhau cydweithio, gan helpu i sicrhau bod penderfyniadau’n cyd-fynd ag anghenion cymunedol.
Y gwersi allweddol
Mae cyfathrebu cyson a rhagweithiol yn cael ei ategu trwy ddarparu mannau diffiniedig ar gyfer ymgysylltu rheolaidd rhwng y partneriaid, ochr yn ochr â thryloywder wrth wneud penderfyniadau. Mae hyn yn bwysig ar gyfer adeiladu partneriaethau effeithiol a dibynadwy.