Cyfamod y Gymdeithas Sifil: Clymblaid Troseddau Cyllyll y Swyddfa Gartref
Dull wedi’i seilio ar bartneriaeth o leihau troseddau cyllyll.
Mae’r Glymblaid i Fynd i’r Afael â Throseddau Cyllyll, a lansiwyd gan y Prif Weinidog ym mis Medi 2024, yn bartneriaeth o unigolion sydd â phrofiad byw, y gymdeithas sifil, a grwpiau ymgyrchu. Mae wedi mabwysiadu dull partneriaeth gyda’r llywodraeth er mwyn haneru troseddau cyllyll o fewn degawd.
Mae’r cydweithrediad yn dod â dealltwriaeth ddofn o ymyriadau a all helpu i atal troseddau cyllyll, gan ddod â’r safbwyntiau hyn i mewn i’r gwaith o greu polisïau a rhaglenni i fynd i’r afael â’r mater.
Mae’r Swyddfa Gartref hefyd yn gweithio gyda phartneriaid y Glymblaid i roi llwyfan i lais ieuenctid a’u safbwyntiau ar y materion craidd ynglŷn â throseddau cyllyll, gan gynyddu diogelwch y cyhoedd a chefnogi’r rhai sydd ei angen fwyaf, gan sicrhau bod profiadau byw pobl ifanc yn cyfrannu at lunio polisi’r Llywodraeth.
Un enghraifft allweddol lle mae’r Glymblaid yn gweithio mewn partneriaeth â’r llywodraeth yw’r cyfraniad gwerthfawr a wnaeth er mwyn llywio’r broses o ddatblygu polisi a dylunio’r trefniadau ildio estynedig ar gyfer cleddyfau ninja, cleddyfau ac arfau eraill.
Gydag aelod o’r Glymblaid FazAmnesty a Word 4 Weapons, mae’r llywodraeth yn cyflwyno trefniadau estynedig ar gyfer ildio arfau drwy fis Gorffennaf 2025. Mae FazAmnesty yn gweithredu fan ildio symudol yn Llundain Fwyaf, Gorllewin Canolbarth Lloegr, a Manceinion Fwyaf, tra bydd Word 4 Weapons yn darparu biniau ildio dienw yn yr ardaloedd hynny ar gyfer cyllyll ac arfau eraill, gan gynnwys cleddyfau ninja.
Mae’r mentrau hyn yn darparu opsiynau diogel i bobl ifanc ildio arfau peryglus, gan wneud ein strydoedd yn fwy diogel a thynnu mwy o arfau o gymunedau.